Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

[No title]

Clep y Clawdd, aef Clawdd…

News
Cite
Share

Clep y Clawdd, aef Clawdd Offal I. [OAN YR HUTYN.] FVESU'R FKSAWL FASNACH.—Mae'r Sentral Con- troi Bord yn rhoi'r offer yn dynnach dynnach am draed y Trade. Hyd yma, y mae'r Hoerig ddiafl hwn yn damio y llyffethair a dryllio'r cadwyni; d mae'r nerth o'r hirbell yn agoshau ato yn ara deg. Disgwylir y dydd pryd y clywir y gorchymyn Ysbryd aflan, dos allan Mae swyddi Lancaster, Caer a Fflint, yn dod o dan y rheolau newyddion y Llun nesaf, pan omeddir i'r geifl agor eu safnau ond am tua phum awr y dydd. Ond, ysywaeth, pam yr halogir sanctaidd Ddydd yr Arglwydd ? 0, gen- hedlaeth hwyrfrydig 1 RHEDEGFEYDD CAv-it.-Mae llawenydd cyffredinol yn yr ardaloedd hyn yn y rhagolwg ar atal rhedeg- feydd Caer am y flwyddyn hon ac os y flwyddyn hon, pam nad am byth ? Pa les wna rhyw garsiwn fel hyn unrhyw amser, llawer llai ar hyn o bryder byd ? Bydd llwyr atal y pethau hyn yn lies moesol i'r wlad, ac yn arbed loes i lawer gyrrwr a gyrfarch. Ni wyr neb fel y trigolion cyfagos y gyfeddach a'r meddwi sydd yn cydfyned a'r ymgyrch iselwael hon ar ffin y Clawdd. TRENG Y CWAC, SEF SEQUAH.—Dywedir fod yr hen Sequah wedi myned i dragwyddoldeb y dydd o'r blaen o Sowth Affrica, heb gymaint a cheiniog goch ar ei helw. We! fe aeth a llawer o ddannedd trigolion y Clawdd yma efo fo, heblaw eu pres. Beth wnaeth ohonynt, nis gwn. Nid oes dim rhyfedd iddo ddioddef cnofeydd lawer tua'r diwedd. SuB ROSA,"—Mae'r Glep yn ymorol am yr HEN SVB. Be ddaeth ohono ? Nid yw yn ei gornel ers tro. Mae'n chwith ar ei ol ar y Clawdd. 'Dydi Daily News ond Dully News hebddo fo nag yw, wir. Nid yw y Sub Clock yma'n medru taro'r awr o gwbl. CLAIS Y MEISTAR.—Newydd drwg anaele oedd clywed fod Dyfed, eilfab Mistar Parri, ysgolfeistr Acrfair, wedi ei glwyfo yn siriws yn Ffrainc, ac efe'n Lifftenant yn y 13th R.W.F. Cydymdeimlir yn ddwys efo'r rhiaint caredig. Hefyd y mae iddynt ddau eraill o feibion glew dan y Human yn Ffrainc. Nid oes disgleiriach hogiau yn y wlad na hogiau y Scwl Hows. Rhad arnynt! Y GOEL, Y RHODD, A'R PwL.-(Tbe Credit. the Treat and Long litli).-Dyma drindod o swynion y Sen ddrwg sy'n hudo eneidiau i ddistryw; ond llawen'ta'r Clawdd mai gwaharddedig gan gyfraith ydynt o hyn allan yn Sir Fflint. Ond beth am Ddinbych ? Sut mae hon still ar ol ? Pa gancr sydd wrth ei chalon hi ? Rhaid cael investigation, medd y Glep. Dyma'r Sir sodna a'r feddwa'n y Gogledd. LLAI o GOSB, OND Mwy 0 YFED.—Dywedir 1 mewn llys na chosbwyd cyn lleied yn swydd Dinbych erioed na'r flwyddyn ddiweddaf am yfed. Hwyrach. Hawdd yw stopio cosbi, ond nid yw stopio cosbi yn stopio yfed. Mae mwy o yfed yn awr nag erioed, er gwaetha'r atal a'r bygwth. Ni wna dim les ond cau llwyr. Dywedwyd yn yr Wyddgrug fod dynion yn yfed llai: y gwyr, amryw oddicartref; ond y gwragedd yn yfed mwy, Cywilydd PAFFIWRS.—Nid gwiw i neb soldiwr, medd y Glep, os na fydd baffiwr, ddisgwyl cael aros ym maracs' tref Gwrecsam. li None but fisters need apply." Garw o beth os gwir. PLISMON LLANRWST.—Clywir mai nychu y mae'r Parch. Richmond Leigh Roose, yr Holt. Nid yw wedi traddodi'r Gair ers misoedd bellach. Nid oedd gwt mwy golygus yn ei hefin nag ef, ond daeth hyd ref heibio, ac y mae yntau wedi neilltuo ac ymddiswyddo. Bugeiliodd ei braidd am ddeugain mlynedd namyn un. Er fod ei enw yn estronol ei dyst a'i dine, eto brodor yw, o galon ac iaith. Dywedir iddo gael ci gyhoeddi ar dro, mewn lie, fel Plismon. Llanrwst, yn He Rich- mond Leigh Roose. In any case, gwas Tangnefedd a' gafwyd. Caffed hwyrddydd braf. Er colli ei nerth ni chyll ei wobr. YR HEN IAITH.—Ofnir mai colli ei He y mae'r Hen Iaith ymhlith Bedyddwyr Maelor. Felly, ond nid ynddi hi y mae'r rheswm am hynny. Geill hon gadw ei lie ac enill mwy, os mynnir, ar for a thir. Peth chwithig yw clywed Uediaith ar Gymro. Bu trafodaeth ar gwestiwn Addysg yr lenctyd ymhlith y brodyr, a chafwyd areithiau pybyr iawn gan'y gwr brwd o Ben y Cae a'r athro o'r Fron. EFAtL GWRAIG SAM.—Cyfarfu yr Efail pwy nos, sef y Welsb Lit., dan lywyddiaeth y pen gof, T. Rob- erts, M.A. Huw Elis Huws, yr ysgwlyn pybyr o erts,, Cellij oedd y prif chwythwr. T Telynegion Cymreig oedd y testyn. Nid oes angen dweyd ibawb gael gwledd a gwerth eiarian. "Something attempted, something done." Dylesid cael helaethach traeth yn Y BRVTHON o hanes y cyfarfod hwn, er lies y rhai tu allan i'r Efail, fel y gallont gatshio rhai o'r sparks that fly." Y WELSH LYONS.—Perthynas y rhyfel hwn a Wesleaeth oedd 5, mater yr ymdrinid ag ef. Bu cryn lawer o siarad ar y mater ac ar y papur. Mae'r brodyr Wesleaidd bob amser yn very up-to-date, Onid ydyw'n amser bellach i'r enwadau eraill ystyr- ied eu safbwynt hwy mewn perthynas i'r ymgyrch fawr hon, sydd yn gwneud cymaint o gyfnewidiadau ymhob cylch ? CNEIFIO TATWS.—Cwyna Uawer o joys y Clawdd nad ydynt eto wedi gwneud dim o dan y faner ond cneifio pytatws. Sut hyn, Brydain Fawr ? Nid a ffedog a fforch y mae gorchfygu'r Ellmyn, yn siwr i chwi. Peth digrif fai gweld y P.P. Brigade yn troi allan a ffedog a fforch, sef y Potatoe Peelers. Y CANWN YN RHYDU. Oes gennych chwi ganwn tua'r ardal acw ? gofynnais y dydd o'r blaen i frawd o'r Maelor. Oes," Mr. Clep, meddai yntau, ond fedran nhw saethu at ddim ond at y Dad- gysylltiad." Deellais yn syth fod canwns a chanwns i'w cael. Nid wyf yn clywed llawer o'r Canwn cartrefol yma yn tanio yn y rhyfel hwn. Beth sydd ? A ydynt wedi rhydu ? Y ZEPPs.-Dychrynnir rhag adar nos yr EUmyn yng nghymdogaeth y Clawdd y dyddiau hyn. Chwilio y maent, medd y Glep, am waith a darpar y Sandi Crofft a'r Cwins Fferi. Nid anodd, mi goeliaf, fydd i'r gelyn ddyfod o hyd iddynt, oblegid nid oes ball ar y trydan yno. Ffwl o beth yw tywyllu y tren a'r modur a'r goleuni yn ei rym yn y Munition Works. Beth am y Munition Act ? Dywed y Glep hefyd y gellir gweld goleuni steel works o Calais. Hwyrach nad gwir pob Clep. Y DEYRNGED OTAF.—Ar ol blynyddau teg a gyrfa wych, hunodd yr hen wr Samwel Griffiths, Pentre, Broughton. Er ei fod yn hen o ddyddiau, eto y sionca'i droed o bawb. Cafddd naw deg o flynyddau namyn dwy. Ni chlafychodd ac ni ddi- hoenodd. Aeth i dragwyddoldeb yn ddiboen a di- betrus. Bydd colled cymdogaethol ar ei 01, oblegid Uenwai le pwysig yn yr amrywiol gylchoedd. Gwas- anaethodd ei Dduw, ei enwad, ei festriaid, ei gym- dogaeth, a'r bobl, yn ffyddlon. Bu'n swcwr i Achos y Gwaredwr cododd deml. Bu'n flaenor am flynyddau. Bu yng Ngwlad Canaan. Yr oedd yn fardd ffraethbert ac yn siaradwr gwych. Bu mewn cysylltiad a'r Westminster College am 60 mlynedd. Cafodd angladd tywysogaidd ac y mae galar pur ar ei ol. (Da chwi, yr Hutyn byw a chyrhaeddgar, amlygwch Y gyfranach, modd Y,, postiom gopi—Y Got,.]

fO Big y I ?? Lleifiad.

Heddyw r Bore sef bore dydd…

ISALED HEFYD.

Advertising