Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Y Got Oddicartref.
Y Got Oddicartref. Achubwr Lloyd George. YN hanes y tridiau-a-darn yn Birmingham yr wythnos ddiweddaf, soniem am y Superin- tendent Morgan (leuan ab Ieuan), sef y gwr a achubodd fywyd gwerthfawr ein eydwladwr mawr Mr. Lloyd George yng nghythrwfl diangof y dref honno panlaeth i'w Thown Hall i wrthwynebu Rhyfel De Affrica (1900) ac i gystwyo a dinoethi y diweddar Joseph Cham- berlain am ei waith yn hysio'r gweryl gostus a di-esgus honno. Haedda'r achubwr mwy na'i grybwyll ac wele'i lun a gair am ei orchest glcdfawr :— Helicdd tyrfa hanner can mil o gwmpas Neuadd y Dre'r noson dan sylw gwehilion a thom cymdeithas oedd miloedd ohonynt, wedi eu hysio a'u cynddeiriogi'n bwrpasol ers dyddiau ac wythnosau gan y papurau Jingo- aidd nes ymddiofrydu y mynnent y fo a'i fywyd. Malwyd ffenestri a lampau'r adeilad yn deilchion a cheisiwyd bob sut dyllu trwodd a chwalu'r pedwar cant a hanner heddgeidwaid a gylchent yr Hall. Toe, dyma rai o'r mileiniaf ohonynt i nol anferth o bren allan o ysgaffaldiau adeikd newrydd a gcdid gerllaw dyma'i lusgo a'i gael a'i ben blaen yn union gyferbyn a Drws B, sef y fynedfa i'r llwyfan a'r ystafell lie y disgwylid y byddai Lloyd George dyma res o ddwylo yn gafael o bobtu'r post ar ei hyd a chan weiddi Un DAU TRI yn union fel y bydd llongwyr wrth lwytho llong, dyma hergwd mor chwyrn iddo at y drwsnes oedd hwnnw'n yfflon, a'r porth a'r styffylau yn chwyrlio'n gawod o sglodion i'r entry ch. Nid oedd wiw dioddef eilif.d yn hwy; "Rhuthrwch a ffoniwch ebe'u pennaeth wrth y plismyn, a rhuthro a ffonio ddarfunt mor heger a diymatal nes fed lladd un dyn, anafu ugeiniau mor dost nes eu hysigo am eu hoes ;f ac yr oedd y fath ochen a glafoeri cynddaredd ar bob llaw na chlywyd mo'i ddieflicach. erioed yng Nghethern y Fall. Yn aberth a briwsion rhyngddynt yr -aethai corffilyn Mr. Lloyd George onibai am y <3ast a'r cynllwyn gwreiddiolddiail a filachiodd i ben ei gydwladwr, y Superintendent Morgan, canys cyn i'r drws gael ei falu, ac i'r rhuthr mawr i'r Neuadd ddigwydd, yr oedd y Super, eyflymgraff wed i gwisgo'i gydwladwr onwog yn niwyg heddgeidwad wedi ei osod i gyd-gerdded a dwain o'r cotiau gleision fiwrdda hwy drwy Paradise Street (Gehenna Street oedd hi'r noson honno); a'r plismon fel tae yn troedio'i left, right I left, right mor godog a gwastad a'r un o'r deuddeg, ond yn crynnu wrth feddwl na ellid ychwanegu un cufydd at ei faintioli," rhag i'w siwt edrych mor Uac a llaes. Gyda'u bod yn Broad Street, dyma'i snechio fel llysywen i gerbyd yr Henadur Cook, a'i yrru nerth y carnau draw i dy hwnnw, a'r dorf dwp yn gwybod dim byd, ac yn flin a rheglyd ei haraith drannoeth pan gaent'fod eu deryn wedi hedeg i Lundain heb gymaint a phluen o'i adain ar ol i'w rannu rhyngddynt. Gor- chest anfarwol oedd hon a chyhyd ag y bydd son am Lloyd George yn y byd, bydd son hefyd am y gwr a'i hachubodd mor graff a gwreiddiol o balfau dyhirod gwallcof Bir- mingham. Bedyddiwr selog ddisyfl o Felin Cryddau, ger CastelllNedd, ydyw'r Super y fosydd cystal a bod yn fugail a blaenor achos Cymraeg ei gyfundeb yn Birmingham y mae yno'n gyson croesawa bob dieithrddyn; ac y mae ei ben a'i galon at wasanaeth pawb a ddaw ar ei ofyn o'r Hen Wlad. Y mae yn, heddlu'r dref er y flwyddyn 1877 ac wedi dringo i'w swydd uchel fel Superintendent a Phrif Glerc y Pencadlys Heddgeidwadol yug ngrym ei alluoedd pybyr ac effro tuhwnt. Gwyr gymaint a'r un cyfreithiwr am y deddf- au trwyddedol; y mae holl ystadegau r llys a'r amryfal achosion ar flaenau'i fysedd. Y fo a'r staff sydd tano fydd yn darpar yr ystadeg- au'r dref gogyfer a'r Watch Committee. Sieryd y Ffrangeg, fel Ffranewr, a'r Eidaleg fel Eidalwr. Ond nid oes yr un o'r ddwy iaith honno na'r Saesneg yn cael mynd a lle'r Gymraeg, canys y mae'n llenor hyddysg yn nhrysorau iaith ei fam yn >eiddgar tuhwnt dros ryddid gwladol ac eglwysig Cymr.u ac yn achub pob cyfle i'w harddel hi a'i hiaith, yng ngwydd pwy bynnag y bo. Dysgodd Gymraeg i amryw byd o Saeson ieuainc.. a .cheir hwy'n selog ddilyn ei ddosbarth darllen yn ystafell eang y Bedyddwyr yn Station Street. Y mae'n gwmni o'r diddanaf yn draethwr stori hafal i Ddaniel Owen yti ei anterth yn ddiderfyn ei barch a'i groeso gan bob cenedl yn y ddinas y mae'n gefn ac amddiflfyn i'r gwan a 'phawb a geidw ar y Llwybr Cul; ond am droseddwyr y Ffordd Lydan a geisia -ddianc o'i balfau, cant hwy brawf digon di- ymwad ei fod yn feistr ar y Mesurau Caethion mewn mwy nag un ystyr. Y mae'n wr cryf a Uydan ei ddwyfron yn graff a sicr o'i weled- igaeth unwaith y'i caffo ac yn enghraifft o Gymro sy'n gorfodi llond dinas o estroniaid i synio'n uchel am Gymru, ac i'w barchu a'i fawrhau am ei fod yn medru cyfuno Uymder eyfraith a Ilareiddiwoh dalon. Llygad y Waver. J.H.J.
Buddiannau Milwyr a Morwyr…
Buddiannau Milwyr a Morwyr Cymru. I Y Cynllun Cenedlaethol i'w diogelu. Cynhadledd Fawr yn yr Amwythig- AB ol ymgynghori a nifer o Gymry blaenllaw, mae'r Cadfridog Owen Thomas wedi pender- fynu galw Cynhadledd Fawr yn yr Amwythig, ar Chwefrol 25ain, i hyrwyddo'r Cynllun Cen- edlaethol i ddiogelu buddiannau Milwyr a Morwyr Cymru, a'r rhai sydd yn dibynnu arnynt, yn ystod ac ar ol y Rhyfel. I Amcanion y Cynllun. I Amcanion y Cynllun fydd: 1. (a) Croes- awu'r Milwyr a'r Morwyr Cymreig pan ddych- welant adref ar ddiwedd y rhyfel eu cynorth- wyo i gymryd y fantais oreu o unrhyw gymorth ariannol a gynhygir gan y Llywodr- aeth, ac o unrhyw gynllun er sicrhau gwaith iddynt a fabwysiedir gan y Llywodraeth eu cynorthwyo i sicrhau lie a'r gwaith oedd ganddynt cyn ymuno a'r fyddin, neu waith arall a fyddo'n gymwys iddynt i gynorth- wyo'r rhai a anafwyd drwy ddysgu rhyw grefft iddynt er eu galluogi i deimlo'n fwy annibynnol ac i fod o wasanaeth i'wgwlad, ac i estyn cymorth ariannol pan fyddo'n gyfyng iawn arnynt hwy neu eu teuluoedd. (b) Casglu enwau a chadw rhestr o'r rhai a ymgymer a rhoi'r flaenoriaeth i filwyr a morwyr Cymreig pan yn chwilio am waith. 2. (a) Darpar yn briodol am foesau ac anghenion ysbrydol pob milwr yn yr holl Gatrodau Cymreig, pa un ai yn y wlad hon, ai mewn gwlad dramor y byddo gofalu eu bod yn cael y gwasanaeth crefyddol cyson a ddymunont, ac yr arferent gael gartref, yn ogystal a gofal bugettiol gweinidog yn gyson a pharhaus. (b) Eu eyflenwi a llenyddiaeth briodol yn Gymraeg ac yn Saesneg. (c) Trefriu ac estya cymcrth iddynt i gynnal cyngherddau a difyrrion. 3. Annog a chvfarwyddo'r sawl fyddo wedi ymuno a'r Fyddin o dan gynllun Argl. Derby, neu a ymunont eto ar ol Ilav, i gys- ylltu eu hunain ag in o'r catrodau Cymreig. 4. I gymryd unrhyw fesurau eraill a ben- ( erfynir arnynt ar ol llaw gan y Pwyllgor Cenet laethol er diogelu budniannau Milwyr a Morwyr Cymru a'u teuluoodd. Bydd y cynllun yn cael ei gario allan drwy (a) Bwyllgor Ceiiedlaethol yn rheoli ac yn arolygu'r holl fudiad (b) Pedwar Pwyllgor Taleithiol yn gweithredu o dan y Pwyllgor Cenedlaethol; (c) Pwyllgorau Sirol a Lleol yn gweithredu o dan y Pwyllgor Taleithiol. I Y Taleithiau. I Rhennir Cymru yn bedair Talaith :— 1. Talaith Gwent a Morgannwg, yn cynnwys Siroedd Mynwy a Morgannwg a Llundain 2. Talaith y Deheubarth, yn cynnwys Cered- igion, Myrddin, Penfro, Brycheiniog, a Maes- yfed 3. Talaith Gwynedd, yn cynnwys Mon, Arfon, a Meirion. 4. Talaith Powys, yn cynnwys Dinbych, Fflint a Maldwyn, gyda threfi Lloegr a fo'n cynnwys poblogaeth Gymreig gref, megis Lerpwl, Manceinion, Caer, a Birmingham. Y Pwyllgor Cenedlaethol- I Gwneir y Pwyllgor Cenedlaethol i fyny fel y canlyn (a) Llywydd, is-lywydd, cadeir- ydd, is-gadeirydd, a thrysorydd—a benodir yn y Gynhadledd Fawr yn yr Amwythig Chwefror 25ain (b) 22 o aelodau a etholir gan y Pwyllgorau Taleithiol; (c) 12 o aelodau a gyd -etholir gan y Pwyllgor ei hun, naill ai yng nghyfarfod cyntaf y Pwyllgor, neu rhyw gyfar- fod ar ol hynny. Cynrychiolir y Taleithiau ar y Pwyllgor Cenedlaethol gan 10 o aelodau a ddewisir gan Bwyllgor Taleithiol Gwent a Morgannwg, sef 3 dros Sir Forgannwg, 2 dros Sir Fynwy, 1 dros bob un o Fwrdtisdrefi Sirol Caerdydd, Abertawe, Casne-wydd, a Merthyr Tydfil, ao tm dros Lundain 5 o aelodau a ddewisir gai Rwyllgor Taleithiol y Deheubarth sef un dros bob Sir yn y Dalaith 3 o aelodau a ddewisir gan Bwyllgor Taleithiol Gwynedd, sef un dros bob Sir yn y Dalaith 4 o aelodau a ddewisir gan Bwyllgor Taleithiol Powys, sef un dros bob Sir yn y Dalaith, ac un dros y trefi Seisnig. Cynadteddau Taleithiol I Ar ddydd cyfleus, heb fod dros fis ar ol Cynhadledd yr Amwythig, cynhelir Cynadl- eddau TaleitMol yng Nghaerdydd dros Went a Morgannwg, yng Nghaerfyrddin dros y Deheubarth, yng Nghaernarfon dros Wynedd, ac yng Ngwrecsam dros Bowys. Cynhelir cyfarfodydd cyhoeddas ymhob un o'r pedair tref uchod, os modd, yr un noson ag y cynhelir y Cynadleddau, er hyrV'yddo'r'ECynllun ac egluro'i amcanion. Dev isa'r Cynadleddau Taleithiol eu swyddogion a'u pwyllgorau eu hunain. Y Pwyllgor Taleithiol. Gwneir y Pwyllgorau Taleithiol i fyny fel a ganlyn (a) Y Swyddogion a ddewisir yn y Cynadleddau Taleithiol Cyntaf; (b) Cyn. rychiolwyr ac Aelodau cyd-etholedig (co- opted) fel a ganlyn Gwent a Morgannwg 20 o gynrychiolwyr a d-ewisir gan y Gyn- hadledd Daleithiol, sef 6 dros Sir Forgannwg, 4 dros Sir Fynwy, 2 dros bob un o Fwrdeis- drefi Sirol Caerdydd, Abertawe, Casnewydd, a Merthyr Tydfil, 2dros Llundain, a 10 o aelod- au a gyd-etholir gan y Pw yllgor ei hun yn y cyfarfod cyntaf neurhywgyfarfodarolhynny. Deheubarth 15 o gynrychiolwyr a ddewisir gany Gynhadledd Daleithiol, sef 3 dros bob Sir yn y Dalaith, a 7 o aelodau a-gyd-etholir gan y Pwyllgor ei hun yn y Cyfarfod Cyntaf neu rhyw gyfarfod ar ol hynny. Gwynedd 9 o gynrychiolwyr a ddewisir gan y Gyn- hadledd Daleithiol, sef 3 dros bob Sir yn y Dalaith, a 6 o aelodau a gyd-etholir gan y Pwyllgor ei hun yn y cyfarfod cyntaf neu rhyw gyfarfod ar ol hynny. Powys 12 o gynrychiolwyr a ddewisir gan y Gynhadledd Daleithiol, sef 3 dros bob Sir yn y Dalaith, 3 dros y trefi Seisnig, a 6 o aelodau a gyd- etholir gan Pwyllgor ei hun yn y Cyfarfod Cyntaf neu rhyw gyfarfod ar ol hynny., Er mwyn cadw cysylltiad agos rlvw ig y Pwyllgor Cenedlaethol a'r Pwyllgorau Taleithiol, bydd Aelodau'r Pwyllgor Cenedlaethol yn rhinwedd ei swydd yn aelodau hefyd o Bwyllgorau eu gwahanol Daleithiau. Nodiad.—Awgrym yn unig y b wriedir i'r uchod fod mor belled ag y mae cyfansoddiad y Pwyllgorau Taleithiol yn mynd, a geill unrhyw Bwyllgor Taleithiol ychwanegu at nifer ei aelodau os barna hynny'n ddoeth. Pwyllgorau Sirol a Lleol- Gadewir penodiad y Pwyllgorau Sirol neu Leol yn nwylo y Pwyllgorau Taleithiol, a rhoddfr pob rhyddid iddynt weithredu yn y I ffordd a farnont hwy'n ddoethaf i gyfarfod I a'r amgylchiadau lleol ymhob Talaith.
-0-Ffetan y Gol.
-0- Ffetan y Gol. Cofied paxvb fo'n an/on i'r Ffetan mai dyma'r gair sydd ar ei getiau.- NITHIO'R GAU A NYTHU'R GWIR. Beriah and His Open Letter to Mr. Lloyd George, To the Editor of Y BRYTHON SIR,-The Government has passed the Compulsion Bill, and the best thing Mr. Beriah Gwynfe Evans can do is to put a sprag in the wheel. The Government can go on without worrying in the least about what Mr. Beriah Evans and others say in the matter. He refers in his Open Letter to Mr. Lloyd George to the voice of the Labour Party in the matter but in this instance their decisions do not mirror faithfully the mind of the members. Of course, I admit, on pure questions of trade and industrial quest- ions, they may and do represent the workers in combination, and I have done my utmost to maintain it. But a Compulsory Service is not an industrial or a trade question, and the men who attend these branch meetings can in no way represent the true voices of the mass of working men. If hedoubts my statement, then I ask why so many Labour Leaders in all their meetings disliked so much the idea of doing anything which might endanger their seats in Parliament, so as to force a General Election therefore, I predict here, if they do that, then every so-called Labour Member will never see himself sitting in Westminster any more. They shall be whipped away, bag and baggage, and shall never represent Labour in Parliament. I want to call attention to another phase of the question From what Mr. J. H. Thomas, M.P., and others say, we are asked to believe that this Bill is nothing but part of a design to shift the burden of capital on to the shoulders *of Labour. Rubbish Why, the fmanciers, or a great number of them, have been fighting against it all the way through. And how, in this case, can you say it is the design of capital to pass it ? Nothing of the kind. The majority which carried the first reading of the Bill shows that the country has definitely made up its mind to win the war, and win it soon. Every stroke you put in the wheel you are prolonging it, and that is what some false prophets like Mr. Beriah Evans are doing by the rift they create at present, viz., prolonging the war instead of attempting to bring it to an end. What I hope is that the common sense of the British people will see us through, and that the voice of the country will prevail. Before I conclude, I should like to say this one thing Labour has done. It has cleared the air, and I am glad that Mr. Asquith, with all the heavy burdens of State laying on his shoulders, will have one great chance, which seldom comes to man, to prove that he is our great hero at this hour, to win the war, and I thoroughly believe that the country will support him through thick and thin. Long live Asquith and Lloyd George, for they shall prevail in the end, and not bwganod gwrachiaidd like Mr. Beriah Evans and his sort.—Fyth yn gywir, J. MEIRION ROBERTS 45 Park Street, Teeforest. Chwip a Ch'lymau Beriah Evans. At Olygydd Y BBYTHON SYB,—Caniatewch i mi ychydig ofod 1 draethu fy mam a'm teimlad parthed llythyr" au agored Mr. Evans. I ddechreu, dymunaf ddatgan fy mod yn unfarn a Mr. Jones yn ei lythyr yr wythnos ddiweddaf. Cwestiwn a ddaw i fy meddwl bob tro y darllenaf lythyrau Mr. Evans ydyw, Beth, tybed, y mae yn ei wneud er hyrwyddo pethau, ac hefyd pa fodd y gwna ? A barnu oddiwrth ei ddull, gallem dybio mai priodol fyddai i'r Llywodraeth apelio ato am ei gyngor, fel y g allont fod ar dir diogel yn eu gweithrediadau. Mae'r amgylchiadau presennol yn eyflawnhau llawer o bethau a fuasai'n anghymeradwy ddwy flyn- edd yn ol. Pe buaswn yn Will Owen neu Bernard Partridge, buaswn yn gwneud cartwn tebyg i hyn Nifer o ddynion enwog gwlad yn gweithio'n ddiwyd i yrrli pethau ymlaen mewn trefn, ac yn sefyll uwch eu pennau y mae Mr. Evans, gyda chwip hir, fain, ac amryw gylymau ami, yn eu euro yn ddi- drugaredd. A chaniatau nad yw pethau'n mynd yn hollol fel y dylent, nac fel y dewisai Mr. Evans, ai priodol ydyw dull, y llythyrau agored i drin y mater ? Rhaid cofio eu bod yn cael eu darllen gan lawer nad ydynt mor abl i ddeall gweithrediadau o r tath ag ydyw Mr. E., ac oherwydd hynny y maent yn syrth- io yn ol ar erthyglau ein newyddiaduron, ac yn ffurfio. eu syniadau oddiwrthynt. 0 ganlyn- iad, dylem fod yn ofalus ar adeg fel y pres- ennol pa beth a pha fodd y llefarom. Cyn terfynu, dymunaf ddweyd gair bach personol wrthych chwi, Mr. GoL, sef fy mod, fel amryw eraill o'ch darllenwyr, yn teimlo'n dra dig fod colofnau'r BRYTHON annwyl yn cael eu taflu'n agored i'r math yma ar lythyr- au. Mae yn sawru gormod o John Bull a thine Bottomley, a'r cyfryw. Fel rheol," y mae ysgrifenwyr yn cymryd mantais ar "lythyr agored i gicio a baeddu eu gwell, tra ar yr un pryd nis gallant wella ar yr hyy a wneir ganddynt. Credaf fod safle ac amcan Y BRYTHON ym myd lien yn rhy uchel i'r fath ddull iselwael gael lie ynddo. R. E. EDWARDS Mt. Pleasant Road, I/iscanl. I.. Tras Richard Madbc Jones. At Olygydd Y BRYTHON SYB,—Mewn a.tebiad i ym6fyniad L.H.G I yn Y BRYTHON yr wythnos ddiweddaf, hwyr- ] ach y teifl yr hyn a ganlyn ryw gymaint o oleuni ar yr achos :— (1) Mewn llythyr a ysgrifennwyd gan Joseph Lancaster yn 1833, dywed ddarfod i'w unig feroh briodi ag un o'i "early pupils." (2) Yn rhestr y "teulu," h.y., ysgol Lan- caster yn Borough Road, sydd yng nghadw yng nghofnodion Cymdeithas yr Ysgolion Brytanaidd a Thramor (cymdeithas y dygai Lancaster beth cysylltiad a hi hyd ei ymfud- iad i'r America yn 1818, a'r hon a ffurfiwyd i ddatblygu y gwaith a gychwynnwyd ganddo yn 1798) deuir ar draws tri yn dwyn yr enw Jones. (3) Enw bedydd un o'r Jonesiaid hyn ydoedd Richard.. Ei oed yn 1812 oedd 15. Ymddengys ei enw yn rhestr y teulu am 1812 ac 1813. Ni chroniclir yn y cofnodion o ba le y daeth, na'i genedl, na'i ffawd ar ol gadaelyrysgol. J{¡'i (4) Gwneir cyfeiriadau" yn amryw o lythyrau Lancaster at ei ferch a'i fab-yng- I nghyfraith, i'r rhai y ganwyd pedwar o feib- on, fel ymsefydlwyr yn Guadalajara, Mexico, ac fel yn dal perthynas ag addysg yn y lie hwnnw. t (5) Ymddengys mai un o wyrion Lancaster Mr. Lancaster Jones—oedd cynrychiolydd Mexico ar achlysur coroni'r diweddar frenin Edward VII yn Llundain yn 1902.-Yr eiddoch, etc. W.P.W. 1 15 W. P W I Cydweddiwn. I At Olygydd Y BRYTHON ANNWYL SYR,-Ar ol gwrando fy nghyfaill. y Parch. J. Roger Jones, B.A., yn darlithio ar Grefydd Cymru Fydd, bum yn meddwl a ydym ni y dyddiau hyn yn gwerthfawrogi neu'n sylweddoli pa mor fawr yw ein dyled i'n tadau am Grefydd Cymru Fu. Clywsom ein rhieni yn son am Y Pethau Mawr a ddig- wyddodd yn eu hanes hwy ac os credwn ninnau mai'r un Duw sydd yn teyrnasu heddyw, paham yr holl ddistawrwydd ? Paham y mae'r cyfarfodydd gweddiau wedi mynd yn amhoblogaidd ? Sicr gennyf, os erfyniwn am drugaredd mewn ysbryd a gwirionedd," nad methiant fydd ein gwedd- iau. Golygfa hardd-onite ?—fuasai gweld Cymru yn uno unwaith eto, dywedwch Wyl y Bane, Awst nesaf, i gydnabod Duw trwy ymostwng a phlygu ger Ei fron Ef ? Beth a ddywed Undeb Eglwysi Efengylaidd Cymru, a Chyngor yr Eglwysi Rhyddion, am hyn ? Os yw'r crybwylliad yn werth sylw, gofynnwn iddynt drefnu trwy apelio at holl eglwysi'r De a'r Gogledd i uao ar y diwrnod hwnnw mewn gweddi ao i ymostwng fel cenedl o flaen y Brenin Mawr. Credaf pe cynhelid y fath gyfarfodydd y buasai yn lies mawr i ni fel cenedl ac yn help i ddangos i ni ein lie priodoL yn yr argyfwng presennol.— t Wallasey ANEURIN REES |
Advertising
D. GRIFFITHS 42 SON it 221 BrecK Rdi, and 9 Moss St.. L^pol.i Pianos &;Opgana by all the leading; makers. From 8l- per month. j m TMIJTPHONIS—466K Anfield cI: 3771 ROYAL. -is FOD RHYFEL." Nid oes raid talu prisiau. uchel am Ymeny Fresh, Wyau, a Fowls. Os byddweh yn talu ymweliad a St. John's Market, bydd yno Ymenyn Fres, Wyau, a Fowls o Sir Fail ac Arfon, am brisiau tra rhesymol gan H. R. WILLIAMS & Co., 415. St. joha s Market. Liverpool. ADVLCE. FREE.-Mrs. Stewart). Herbal Specialist,_9 Guinea Street, BristoL If you want The most Comprehensive POLICIES An THE BEST TERMS write for parttanlais to The Gresham LIFE, FIRE, AND ACCIDENT Insurance Offices. Head Officii I St. Mildreds II. Poultry. I LONDON. E.S. Branch Office < I 014 Zxchange B'ld a 11 LIVERPOOL. I JAMES H. SCOTT. General Manaser I XSTOP ONE MOMENT V F? Oh, Dear Doctor ? Must My Darling Die There is very little hope, but try Tudor Williams' PATENT BflLSflJII OF BOlEY. WHAT IT IS I Tudor Williams' Patent Balsam of Honey. Is an essence of. the purest and most effica- cious herbs, gathered on the Welsh Hills and Valleys in the proper season, when their vi, tues are in full perfection, and combined with Pure Welsh Honey. All the ingredients are perfectly pure. WHAT IT DOES J Tudor Williams' Patent Balsam of Honey. Cume CouPs, Colds, Bronohitis, Asthma, Whooping Cough, Croup, and all disorders 0 f MOOG Chest, and Lungs. Wonderfu Cure of Children's Coughs after moules. 1. is invaluable to weak-cheated men, delies" V women and children. It auoeoeds where all other remedies fail. Sold by all Chemists and Stores in I 2/6, and 4/6 bottles; os direct from Proprietor for 1/3, 2/9, < Great saving in purchasing the large 81. bottles. WHAT IT HAS DONE FOR OTHERS- I A Stipendiary and Magistrate in the Coanty of Gla :( morgan remarks: "I feel it my duty to inform you that I have been using your Tudor wiiuams, Balsam of Honey in my family, which is a large one, for many years, and have proved its great value, having used nothing else for Cough during Measles, Whooping Cough and Bronchitis, and can highly recommend it to aU parents for such complain to. jj YOU NEED NOT SUFFER I Disease is a sin, inasmuch that, ü you act righuy, at the right time, it can, to a great extent, be avoided.  Here is the preventative. The first moment yousurt. A'H with Sore Throat, take a dose of v Tudor Williams Patent Balsam of Honey. It has saved thousands it will save you. It is pre- v pared by a fuHy qualified chemist, and is, by virtue 01 .its composition, eminently adapted for all eases of Coughs, Colds, Bronchitis, Asthma, etc.,it exereisea a distinct influence upon the mucous lining of the throat, windpipe, and small air vessels, so that nothing but warmed pure air passes into the lungs. THE CHILDREN LIKE IT It is the produet of the Honeycomb, ehsnil # V eally treated to get the best results. c THEY ASK FOR IT. So different from most Medicines. Nice to take Cures Quickly For vocalists and publie speakers it has nc equal, it makes the voice as clear as a bell. 1 Inventor: D. TUDOR WILLIAMS, R.S.D.L. Manufacturer < TUDOR WILLIAMS, Medical Hall, Aberdare, Wales WHOLESALE AGENTS 1 Messrs. Robert Da vies A Co., Groce. Grayson Street, Llverpoo Messrs: Evans, Sons, Lescher & Webb ,> Wholesale Druggists, Hanover Sit —. Livorpoot Messrs John Thompson & Co., Wholesale Druggists, 58 Hanover St:. L t Telephone 11 Ad.ld. P. Lloyd Jones FUNERAL DIRECTOR, 1364 Stanley Road, L'pool. t TELEPHONE—841 BOOTLIi. I I i IT ELE PHONE—575 AMFfStrit J. T. JONES, i Funeral Undertaker. EVERTON, I and 55 areclS LIVERPOOL. I Funerals personally arranged j to all parts. j ????? ——.  lTelepboneø-ÃDtleld. 309 and 290. 155 KENSINGTON. LIVERPOOL. R. W. EVANS, [Funeral and Wedding Director. All orders personally attended to through. out at moderate charges. ^lighest testimonials can be seen. i Removals to and from Wales. T ———. BARGAINS.-Underwoods, Remingtons, JD Yosts, Smith, Premier, Barlocks, Bm. pires, Oliver, 31ieks, Royal Standard, from e2 new condition, See the REX Y,23 wortk for 12 guineas.—LONGMORE, 41b North John Street, Liverpool, Sole Agency Caroma Portable Typewriters. For Bedsteads and Bedding. W. WHITTLE SON & STOTT, LTD. 116, 118 & 120 VHITECHAPEL, LIVERPOOL. 0 0 0 « Telephone 2137 Royal.