Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Y Got Oddicartref.

Buddiannau Milwyr a Morwyr…

News
Cite
Share

Buddiannau Milwyr a Morwyr Cymru. I Y Cynllun Cenedlaethol i'w diogelu. Cynhadledd Fawr yn yr Amwythig- AB ol ymgynghori a nifer o Gymry blaenllaw, mae'r Cadfridog Owen Thomas wedi pender- fynu galw Cynhadledd Fawr yn yr Amwythig, ar Chwefrol 25ain, i hyrwyddo'r Cynllun Cen- edlaethol i ddiogelu buddiannau Milwyr a Morwyr Cymru, a'r rhai sydd yn dibynnu arnynt, yn ystod ac ar ol y Rhyfel. I Amcanion y Cynllun. I Amcanion y Cynllun fydd: 1. (a) Croes- awu'r Milwyr a'r Morwyr Cymreig pan ddych- welant adref ar ddiwedd y rhyfel eu cynorth- wyo i gymryd y fantais oreu o unrhyw gymorth ariannol a gynhygir gan y Llywodr- aeth, ac o unrhyw gynllun er sicrhau gwaith iddynt a fabwysiedir gan y Llywodraeth eu cynorthwyo i sicrhau lie a'r gwaith oedd ganddynt cyn ymuno a'r fyddin, neu waith arall a fyddo'n gymwys iddynt i gynorth- wyo'r rhai a anafwyd drwy ddysgu rhyw grefft iddynt er eu galluogi i deimlo'n fwy annibynnol ac i fod o wasanaeth i'wgwlad, ac i estyn cymorth ariannol pan fyddo'n gyfyng iawn arnynt hwy neu eu teuluoedd. (b) Casglu enwau a chadw rhestr o'r rhai a ymgymer a rhoi'r flaenoriaeth i filwyr a morwyr Cymreig pan yn chwilio am waith. 2. (a) Darpar yn briodol am foesau ac anghenion ysbrydol pob milwr yn yr holl Gatrodau Cymreig, pa un ai yn y wlad hon, ai mewn gwlad dramor y byddo gofalu eu bod yn cael y gwasanaeth crefyddol cyson a ddymunont, ac yr arferent gael gartref, yn ogystal a gofal bugettiol gweinidog yn gyson a pharhaus. (b) Eu eyflenwi a llenyddiaeth briodol yn Gymraeg ac yn Saesneg. (c) Trefriu ac estya cymcrth iddynt i gynnal cyngherddau a difyrrion. 3. Annog a chvfarwyddo'r sawl fyddo wedi ymuno a'r Fyddin o dan gynllun Argl. Derby, neu a ymunont eto ar ol Ilav, i gys- ylltu eu hunain ag in o'r catrodau Cymreig. 4. I gymryd unrhyw fesurau eraill a ben- ( erfynir arnynt ar ol llaw gan y Pwyllgor Cenet laethol er diogelu budniannau Milwyr a Morwyr Cymru a'u teuluoodd. Bydd y cynllun yn cael ei gario allan drwy (a) Bwyllgor Ceiiedlaethol yn rheoli ac yn arolygu'r holl fudiad (b) Pedwar Pwyllgor Taleithiol yn gweithredu o dan y Pwyllgor Cenedlaethol; (c) Pwyllgorau Sirol a Lleol yn gweithredu o dan y Pwyllgor Taleithiol. I Y Taleithiau. I Rhennir Cymru yn bedair Talaith :— 1. Talaith Gwent a Morgannwg, yn cynnwys Siroedd Mynwy a Morgannwg a Llundain 2. Talaith y Deheubarth, yn cynnwys Cered- igion, Myrddin, Penfro, Brycheiniog, a Maes- yfed 3. Talaith Gwynedd, yn cynnwys Mon, Arfon, a Meirion. 4. Talaith Powys, yn cynnwys Dinbych, Fflint a Maldwyn, gyda threfi Lloegr a fo'n cynnwys poblogaeth Gymreig gref, megis Lerpwl, Manceinion, Caer, a Birmingham. Y Pwyllgor Cenedlaethol- I Gwneir y Pwyllgor Cenedlaethol i fyny fel y canlyn (a) Llywydd, is-lywydd, cadeir- ydd, is-gadeirydd, a thrysorydd—a benodir yn y Gynhadledd Fawr yn yr Amwythig Chwefror 25ain (b) 22 o aelodau a etholir gan y Pwyllgorau Taleithiol; (c) 12 o aelodau a gyd -etholir gan y Pwyllgor ei hun, naill ai yng nghyfarfod cyntaf y Pwyllgor, neu rhyw gyfar- fod ar ol hynny. Cynrychiolir y Taleithiau ar y Pwyllgor Cenedlaethol gan 10 o aelodau a ddewisir gan Bwyllgor Taleithiol Gwent a Morgannwg, sef 3 dros Sir Forgannwg, 2 dros Sir Fynwy, 1 dros bob un o Fwrdtisdrefi Sirol Caerdydd, Abertawe, Casne-wydd, a Merthyr Tydfil, ao tm dros Lundain 5 o aelodau a ddewisir gai Rwyllgor Taleithiol y Deheubarth sef un dros bob Sir yn y Dalaith 3 o aelodau a ddewisir gan Bwyllgor Taleithiol Gwynedd, sef un dros bob Sir yn y Dalaith 4 o aelodau a ddewisir gan Bwyllgor Taleithiol Powys, sef un dros bob Sir yn y Dalaith, ac un dros y trefi Seisnig. Cynadteddau Taleithiol I Ar ddydd cyfleus, heb fod dros fis ar ol Cynhadledd yr Amwythig, cynhelir Cynadl- eddau TaleitMol yng Nghaerdydd dros Went a Morgannwg, yng Nghaerfyrddin dros y Deheubarth, yng Nghaernarfon dros Wynedd, ac yng Ngwrecsam dros Bowys. Cynhelir cyfarfodydd cyhoeddas ymhob un o'r pedair tref uchod, os modd, yr un noson ag y cynhelir y Cynadleddau, er hyrV'yddo'r'ECynllun ac egluro'i amcanion. Dev isa'r Cynadleddau Taleithiol eu swyddogion a'u pwyllgorau eu hunain. Y Pwyllgor Taleithiol. Gwneir y Pwyllgorau Taleithiol i fyny fel a ganlyn (a) Y Swyddogion a ddewisir yn y Cynadleddau Taleithiol Cyntaf; (b) Cyn. rychiolwyr ac Aelodau cyd-etholedig (co- opted) fel a ganlyn Gwent a Morgannwg 20 o gynrychiolwyr a d-ewisir gan y Gyn- hadledd Daleithiol, sef 6 dros Sir Forgannwg, 4 dros Sir Fynwy, 2 dros bob un o Fwrdeis- drefi Sirol Caerdydd, Abertawe, Casnewydd, a Merthyr Tydfil, 2dros Llundain, a 10 o aelod- au a gyd-etholir gan y Pw yllgor ei hun yn y cyfarfod cyntaf neurhywgyfarfodarolhynny. Deheubarth 15 o gynrychiolwyr a ddewisir gany Gynhadledd Daleithiol, sef 3 dros bob Sir yn y Dalaith, a 7 o aelodau a-gyd-etholir gan y Pwyllgor ei hun yn y Cyfarfod Cyntaf neu rhyw gyfarfod ar ol hynny. Gwynedd 9 o gynrychiolwyr a ddewisir gan y Gyn- hadledd Daleithiol, sef 3 dros bob Sir yn y Dalaith, a 6 o aelodau a gyd-etholir gan y Pwyllgor ei hun yn y cyfarfod cyntaf neu rhyw gyfarfod ar ol hynny. Powys 12 o gynrychiolwyr a ddewisir gan y Gynhadledd Daleithiol, sef 3 dros bob Sir yn y Dalaith, 3 dros y trefi Seisnig, a 6 o aelodau a gyd- etholir gan Pwyllgor ei hun yn y Cyfarfod Cyntaf neu rhyw gyfarfod ar ol hynny., Er mwyn cadw cysylltiad agos rlvw ig y Pwyllgor Cenedlaethol a'r Pwyllgorau Taleithiol, bydd Aelodau'r Pwyllgor Cenedlaethol yn rhinwedd ei swydd yn aelodau hefyd o Bwyllgorau eu gwahanol Daleithiau. Nodiad.—Awgrym yn unig y b wriedir i'r uchod fod mor belled ag y mae cyfansoddiad y Pwyllgorau Taleithiol yn mynd, a geill unrhyw Bwyllgor Taleithiol ychwanegu at nifer ei aelodau os barna hynny'n ddoeth. Pwyllgorau Sirol a Lleol- Gadewir penodiad y Pwyllgorau Sirol neu Leol yn nwylo y Pwyllgorau Taleithiol, a rhoddfr pob rhyddid iddynt weithredu yn y I ffordd a farnont hwy'n ddoethaf i gyfarfod I a'r amgylchiadau lleol ymhob Talaith.

-0-Ffetan y Gol.

Advertising