Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

Cymry Amlwg.

Perygl Prydain .

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Perygl Prydain IllYJHYR AGORED-RHlf 5. Cymru a'r Fyddin, a'r Arglwydd Kitchener o Khartoum. [GAN MR. BERIAH GWYNFE EVANS1. FY ANNWYL K. o K.,—Gwn ylmaddexi- wch i mi, fel un a alwodd eich sylw eisoes yn gyfrinachol at rai o'r materion y soniaf am- danynt heddyw, am eich annerch yn y dull cyfeillgar hwn, ac am wneud hwn yn llythyr agored, modd y manteisio eraill arno. Mae gennym ni, yng Nghymru, hen air ar lafar gwlad Dweyd wrth y post fel y gallo'r llidiard glywed." Llefaru'r ydwyf wrthych chwi, felly, fy annwyl K. o K., yn bennaf fel y gallo Shon Gymro glywed, a chnoi cil ar yr hyn a gaffo yma. Teyrngarwch y Cymry. I Gwyddech ymhell cyn dechreu'r Rhyfel presennol mai dewryn yw'r Cymro. Jvid yw mor ymladdgar a'r Gwyddel, nac mor hoff o dywallt gwaed a'r Sais. Dyn sy'n caru liedd- wch wrth reddf yw Shon Gymro. Eithr pan ddaw'r alwad, a honno'n alwad gwlad adylet- swydd, mae ei glust mor deneu ag eiddo neb i glywed Corn y Gad. Deffry seiniau hwnnw atgofion etifeddegyn'ei waed, na wybu efe cyn hynny eu bod yno. "Ac ynddo ef, yn ei galon ddewr a'i fraich gref, gwelir ysbryd Glyn Dwr, a Llewelyn, ac Arthur, a Charadog, a Chas- wallon, yn deffro ar ol hir gwsg y canrifoedd. Gwelsoch hynny eich hun yn Rhyfel De Affrica, yn yr hyn a wnaeth y Prince of TV ales Light Horse, a godwyd ac a arweiniwyd i'r gad gan y Cymro, y Maeslywydd Owen Thomas. Gwyddoch am a wnaeth y Gatrawd Gymreig a'r Welsh Fusiliers yn Ffrainc, yn y Dardanels, ac yng Ngardd Ederf yn y Rhyfel presennol. Gwyddoch nad oes yn holl Fydd in Prydain heddyw gatrodau a wnaeth ddewrach gwaith na mwy gorchestol na chatrodau Cymru. Nid wyf mor sicr fod adroddiadau swyddogol y Swyddfa Ryfel bob amser wedi gwneuthur chwarae teg a'r dewrion hyn, nac wedi cofnodi, fel y dylid gwneud, y gweithredoedd nerthol a gyflawn- wyd ganddynt. Ond gwyddoch chwi, a gwn innau, nad oes un ran o Ymerodraeth eang Prydain wedi gwneud mwy i barhau clod milwrol Prydain nag a wnaeth bechgyn Cymru yn y Rhyfel hwn. Ni raid Gorfodi Cymro. Gan nad pa angen bynnag oedd am Fesur Gorfod i rannau eraill o'r deyrnas, gwyddoch chwi, fel y gwn innau, nad oedd raid gorfodi Cymro. Mae'r tir-berchennog Cymreig cyf- oethog, Arglwydd Wimborne, arglwydd raglaw'r Werddon, newydd eich hysbysu o'r hyn a wnaeth y Werddon i chwyddo Byddin Prydain. Mae'r Cymro gwladgar, y Maes- lywydd Owen Thomas, yr wythnos hon wedi cyhoeddi yr hyn a wnaeth Cymru yn yr un cy feiriad. Mae poblogaeth y Werddon yn fwy na dwywaith poblogaeth Cymru. Dylasai cynifer ddwywaith o drigolion y Werddon felly fod wedi ymrestru ag a gafwyd o'r Dywysogaeth. Onid ydych felly yn synnu, fy annwyl K. o K., fod cynifer ddwywaith o Cymru wedi ymuno ag sydd o'r Werddon ? Mae'r ffaith mor bwysig fel y maddeuwch i mi am ei gwneud yn hollol glir. Gwyddoeh chwi, fy Arglwydd Kitchener Fod dau Gymro ym Myddin Prydain heddyw am bob un Gwyddel a geir yno Ac eto, mynnodd y Llywodraeth, a chwithau yn aelod o'r Cabinet, osod Cymru o dan Ddeddf Gorfodaeth Filwrol, tra'n cau'r Werddon allan o weithrediad y Ddeddf bonno. Paham hynny, tybed ? Dywedodd John Redmond, cadeirydd y Blaid Wyddelig, na chaech gymhwyso Deddf Gorfod at y Werdd- on, doed addel. Eryngroesoranegwyddor i Orfodaeth Filwrol, cymeradwyodd Syr Her- bert Roberts* cadeirydd y-Blaid Gymreig, eich gwaith yn gwthio Gorfodaeth ar Gymru A hynny, «r y gwyddai efe, fel chwithau, Fod un Sir yng Nghymru (Morgannwg) wedi rhoi mwy o Filwyr4 chwi nag a roddwyd gan y Werddon i gyd! Er clod i Gymru, er cywilydd i'r Aelodau Cymreig. er sen i'r Llywodraeth, y cofnodaf yma y ffeithiau hyn. A phan hawliodd Ysgotyn yn Nhy'r Cyffredin fod Ysgotland yn rhagori ar bob rhan o'r deyrnas (er mai Cymru sydd ar y blaen yn ol rhif ei phoblogaeth) cymaint oedd awydd y Gorfod- wyr ymhlith yr Aelod au Cymreig i wthio'r Mesur Gorfod drwy'r Senedd, fel na chymrodd yr un ohonynt na phum munud o amser, na gronyn o drafferth, i amddiffyn cam ei wlad, nac i gywiro'r anwiredd. Wele'r ffigyrau, yn dangos y nifer a ymrestrodd o'r Werddon ac o Gymru, rhwng Awst 1914 a diwedd Rhagfvr -1915: C'r Werddon (yn ol Argl. Wimborne) 86,277 0 Gymru (yn ol y Maeslywydd Owen Thomas) 200,000 Yr oedd 51,000 o Wyddelod yn y Fyddin pan dorrodd y Rbyfel allan. Os ychwanegir y rhai hyn at y rhai newydd. ni fydd cyfanrif y Werddon ond 137,000. Nid oes gennyf wy- bodaeth pa nifer o Gymru oedd yn y Fyddin ar ddechreu'r Rhyfel. Ond rhaid cofio o hyd fod poblogaeth Cymru yn llai na hanner poblogaeth y Werddon, ac eto fod dros 200,000 wedi ymrestru o Gymru er pan ddechreuodd y Rhyfel. Gan gofio'r ffeithiau hyn, a chan gofio nad oes heddyw orfodaeth ar neb o fechgyn ieuainc y Werddon i ymuno a'r Fyddin, yr wyf yn sicr y cydnabyddwch chwi, fy annwyl K. o K., mai sarhad di-alw-amdano ar deyrn- garwch Cymru oedd ei gosod hi o dan Orfod- aeth Filwrol, ac mai dyletswydd amlwg a phendant yr Aelodau Cymreig oedd gwasgu hynny ar sylw Ty'r Cyffred in. Byddin Cymru. I Cof gennych, fy annwyl, K. o K., i Lloyd George ac Owen Thomas alw arnoch yn fuan wedi dechreu y Rhyfel i'ch cymell i ffurfio Byddin Cymru fel adran ar wahan ym Myddin Prydain. Dywedasant wrthych y buasai hyn.ny'n help mawr i gael y Cymry i ym- restru, a gwir a ddywedent. Chwarae teg i chwi, fy annwyl K. o K., nid oedd llawer b waith eich perswadio. Bodlonasocli fturflo Byddin Cymru." Hysbysodd Lloyd George hynny i'w gydgenedl, i sain y cornet, y ehwibanogl, y dulsimer, y delyn, a phob rhyw gerdd. A mawr oedd y llawenydd drwy Gymru benbaladr, a dylifiad bechgyn Cymr i ymuno a Byddin Cymru. Atolwg, fy Arglwydd Kitchener, pa Ie y mae Byddin Cymru heddy w ? Pa faint o gannoedd, neu o filoedd, o fechgyn Cymru a ymrestrodd ers dros fiwyddyn yn 01, gyda'r bwriad o fod ym Myddin Cymru, a yrrwyd gan y Recruting Officers Seisnig yng Nghymru i gatrodau Seisnig ac Ysgotaidd, ac i lenwi bylchau Gatrodau Gwyddelig ? Paham yr amddifad- wyd Byddin Cymru o'u gwasanaeth, tra hwynt-hwy wedi ymuno or mwyn cael eu cyfrif ym Myddin Cymru ? Pa sawl un o'r Gorfodwyr ymhlith yr Aelod auCymreig a fag- odd galon i wrthdystio yn erbyn y cam hwn ? Pa faint o gwrnnfoedd o filwyr o blith y cat. rodau Cymreig a gymrwyd wedi hynny o'r catrodau Cymreig i'w gyrru i lenwi bylchau mown catrodau na pherthynent i Gymru o'r gwbl ? Ai felly y megir ac y meithrinir meibion i Fyddin Cymru ? Maddouwch i mi am ddweyd nad wyf fi, ac nad yw Cymru, ac na ddylai Cymry Llundain, ddiolch i chwi am ysgubo ynghyd gynifer o wehilion slums Llundain, a'u gyrru i bardduo enw da Byddin Cymru drwy eu galw yn Londort, Welsh London Welsh yn wir Mae digon o London," ond dim" Welsh" yn perthyn i gannoedd ohonynt Syn gennyf na buasai Cymry Llundain, er mwyn eu henw da eu hunain, yn codi cri yn erbyn yr athrod o alw'r dynionach hyn o bob cenedl, a llwyth, ac iaith, ond cenedl a llwyth ac iaith y Cymry, wrth yr enw a fu gyhyd mor agos gysylltiedig ag ymdrechion gwladgar i godi'r Hen Wlad yn ei hoi." Gwir fod, ie, ymhlith y "London Welsh "yiiyFyddin,raiteilwngo'rejiw, bod ymhlith y swyddogion rai o fechgyn goreu a mwyaf gwladgar Cymru. Eitlir gresyn meddwl fod cymaint o us mor wael wedi cael ei gymysgu a grawn mor dda. Iaith a Chrefydd Byddin I Cymru Ymhlith y cymhellion a roddwyd i Feibion Gwalia ymuno a Byddin Cymru oedd yr addewid y caent swyddogion yn Gymry coch cyfan o waed, a chalon, a thafod y caent ofal bugeiliol gweinidogion o'u henwadau eu hun- ain, ac y caent bob rhwyddineb i addoli Duw yn iaith ac yn ol defod eu tadau a'u cartref. A gyflawtiwyd yr addowidioti-hyii ? Gwn y cyflawnwyd hwynt i raddau pell yn yr adran So Fyddin Cymru sydd, neu a fu, o dan lywydd- iaeth y Maeslywydd Owen Thomas. Mae mwyafrif y swyddogion yn ei Fyddin yn Gymry twymgalon, sy'n parchu crefydd y Cymry, ac yn medru ac yn anwylo iaith y Cymry, ac yn ystyried y Cymro yn gystal gwr a'r dyn nesaf ato, boed hwnnw pwy bynnag a fynno. Cadwodd Owen Thomas ei addewid, cyn belled ag ydoedd yn ei allu ef i wneud. Ond, ag eithrio y catrodau o dan awdurdod uniongyrchol Owen Thomas, pa heth a ddy. wedwch chwi, fy Arglwydd Kitchener ? A oes gymaint ag un gwir Gymro, cymaint ag un yn medru Cymraeg, neu yn meddu cyd- ymdeimlad a'r Cymry ac a'u defion, heblaw'r Maeslywydd Owen Thomas, yn llywyddu unrhyw adran gyffelyb o Fyddin Cymru ? Pa gynifer o Saeson, neu Ysgotiaid, neu Wyddelod uniaith, heb wybod din-i am Gymru, heb feddu unrhyw gymhwyster arbennig i lywodraethu Cymry, a benodwyd i swyddi uchel ym Myddin Gymru ? Onid yw'n ffaith fod, yn y Catrodau Cymreig, o'r tu allan i Frigad Gogledd Cymru sydd o dan lywydd- iaeth Owen Thomas, y swyddogion hyn o estro,iiaid yn gyhoeddus yn dirmygu iaith, a chrefydd a chenedl y Cymry, er eu bod hwy yn swyddogion yn ei Byddin ? Gwn y dywed- weh wrthyf na alwodd cadeirydd y Blaid Gymreig, na neb o'i gyd-Orfodwyr o Gymru, erioed mo'ch sylw chwi at hyn. Anodd credu na wyddai neb ohonynt am hyn. Canys onid oedd y penodiadau i bob swydd ym Myddin Cymru yn cael eu hysbysu yn gyson yn v Gazette ? Ie, ac oni chafwyd cwynion yng Nghynadleddau yr Enwadau yng Nghymru fod y swyddogion estronol hyn ym Myddin Cymru yn llygru, drwy eu hesiampl, foesau y milwyr Cymreig a fagwyct ar iron yr Ysgol Sul ? Ac oni chawsoch chwi eich hun gwyn ion uniongyrchol fod y swyddogion estronol hyn yn gwahardd i'r Cymry uniaith ym Myddin Cymru siarad iaith eu mam tra yn gwisgo'r wisg filwrol ? A phwy o'r aelodau Cymreig a dalodd sylw i un o'r cwynion hyn, od.digerth y tri yr ymesyd Jingos Cymru arnynt am beidio la. phleidio'r Mesur Gorfod, sef Llywelyn Williams, Ellis Davies, ac E. T. John ? A oedd zel y Grorfodwyr ymhlith yr Aelodau Cymreig dros y Mesur Gorfod mor fawr fel ag i'w dallu i'r ffaith fod yr awdur- dodau yn torri eu haddewidion i Gymru, a bod bechgyn Cymru yn y Fyddin yn cael cam ? A phwy o'r Gorfodwyr Cymreig hyn, ysy- waeth, a gymhellodd ddanfon y llythyr yr wythnos ddiweddaf gan Mr. Long, yn ail- hysbysu fod hawl gan Fechgyn Cymru i ddewis cael eu nodi i unrhyw gatrawd Gymreig ? A wnaeth cymaint ag un o'r Gorfodwyr Cym- reig eich cymell i adnewyddu'r addewid ? Os da, cyfrifir ef iddo yn gyfiawnder. Ac am danoch chwi, fy annwyl K. o K., ar ol aü- newyddu ohonoch, trwy Mr. Ellis Davies, yr addewid fel cymhelliad i weddill bechgyn Cymrvi i ymuno, mawr hyderaf y bydd i chwi fynnu gweled fod yr addewid hon yn cael ei chadw. Caplaniaeth Byddin Cymru I A beth eto am v Gaplaniaeth ym Myddin Cymru ? Pa esgus-canys tybiaf nad oes reswm-sydd dros beidio a phenodi Caplan- iaid Cymreig Ymneilltuol i Fyddin Cymru gyda'r un rhwyddineb ag y penodir curadiaid Egwys Loegr yn gaplaniaid ? Mae gan y Methodistiaid Calfinaidd a'r Wegleaid hawl gyfyngedig i benodi eu caplaniaid oubunain. Am y ddau enwad arall yng Nghymru-y Bedyddwyr a'r Annibynwyr-rhaid iddynt weithredu drwy'r United Navy and Army Board yn Llundain. Ac nid oes ond dau Gymro, un yn Fedyddiwr (y Parch. E. Ed. munds, Abertawe) ac un yn Annibynwr (y Parch. H. M. Hughes, B.A., Caerdydd) yn meddu llais ar y Bwrdd hwnnw. A chwi gof- iwch, fy annwyl K. o K., inai ar ol gohebiaeth bersonol rhyngof fi a chwi ar y naill law, ac a'r Navy and Army Board ar y llall, y llynedd, y penodwyd y ddau frawd hyn. Ond hyd yn oed felly erys sail i'n cwynion. Er enghraifft, er fod miloedd o Annibynwyr a Bedyddwyr Cymreig o'r De yn y gwersylloedd ar hyd glannau Gogledd Cymru nid oedd cymaint ag un gweinidog i'r Bedyddwyr Cymreig, nac i'r Annibynwyr Cymreig, yn gaplan yn un o'r gwersylloedd hyn ddechreu'r flwyddyn. Pan olwais sylw'r Navy and Army Board yn Llun- dain at hyn, gosodasant y bai i gyd ar wrth- wynebiad y Swyddfa Rhyfel. Awgrymodd y Board y dylai Aelodau Cymru symud yn y I mater. Yr nnig ddau y gwn i a wnaeth hynny yw dau Fetbodist, Mr. E. T. John a Mr. Ellis Dav-;es,dau y myn eu cyd-aelodau eu coll- farnu am eu hwyrfrydigrwydd i gefnogi Gor- fodaeth Filwrol Bechgyn Clwyfedig Cymru- Gwaeth na hyn. Beth am fechgyn ciwyf- edig Cymru yn ysbytai milwrol Lloegr ? Oni chlywsoch, oni fynegwyd i chwi, fod bechgyn o Gymry uniaith yn gorwedd yn glwyfedi0 yn ysbytai trefi Lloegr, acyidanfon cenadwri at weinidogion. Ymneilltuol o Gymry yn dotsyf cael eu gweled g bod y gweinidogion hyem- yn cael gwrthod agoriad porth iddynt pAn aent i'r ysbytai, tra gweinidogion o Saeson a chiwradiaid difarf Eglwys Loegr yn cael y fraint o fynediad helaeth i mewn ? Dywed y Navy and A rmy Board wrthyf eto mai chwi, fy v, Arglwydd Kitchener, neu'r Swyddfa Rhyfel" dan eich gofal chwi, sydd yn gyfrifol am hyn. Cyfyngir hawl y Bwrdd i nodi un gweinidog yn unig it yynrychioU pedwar enwad mewn rhanbarth neilltuol. Yn naturiol ddigon. penodir gweinidog ar eglwys Saesneg o flaen gweinidog ar eglwys Gymraeg mewn tref yn Lloegr. Ond, fy Arglwydd Kitchener, dylasai fod drws agored rhwng y Cymro clwyfedig a < gweinidog Cymreig fol ag y sydd rhwng y Sais clwyfedig a gwoinidog Seisnig. Gofynnaf eto," A oes un o'r Gorfodwyr ymhlith yr Aelodait Cymreig wedi symud yn y mater hwn ? Cy- hoeddwyd y ffeithiau yn y papur newydd. Mae Mr. E. T. John a Mr. Ellis Davies wedi talu sylw i'r cwynion, or nad vdynt yn Orfoii wyr selog fel eu brodyr. Yr wyf yn ofni, fy annwyl Kitchener, y rhaid i mi ddweyd, er nad oes gan Lywodraeth Prydain un Mo i gwyno ar deyrngarwch bechgyn Cymru, fod gormod o achos gan Gymru i gyd (gan nad beth a all fod ein golygiadau ar Orfodaeth Filwrol) i gwyno fod zel cynifer o aelodau Cymru wedi cael ei wastraffu i gymell Gorfod- aeth tra yn anwybyddu gwir ajighenion, a buddiannau Byddin Cymru. < Un gair yn unig cyn cau y llythyr hwn;-a. therfynu y gyfros hon o Lytliyrau Agored. NID RHEIJDBW YDD :MILWROL OEDD VK GALW AM Y MESUR GORFOD. Gwyddoch chwi, cystal ag y gwn innau, ac yn sicr yn well nag y gwn i, mai Ystyriaethau Politicaidd, ac nid rhai Milwrol, oedd wrth wraidd yr holl fudiad am Orfodaeth o'r dech- reu. Er hyn oil, gan fod y Mesur bellach yn Ddeddf, yr wyf wedi, ac yn, annog pob Cymro ofewn yr oed milwrol (18 i 41) sydd heb atestio, i wneuthur hynny'nddioed. Drwy wneuthur felly enilla'r hawl i apelio am ryddhad os bydd ei achos yn hawlio hynny. Os na atestia o i'ewn y cyfnod a benodir gan y gyi- rai h, gorfodir ef i fod yn filter ar ei waethaf. Nid yw'n ennill dim, ond y mae'n colli llawer, wrth beidio ag atestio yn awr. Yr wy f yn dweyd hyn er mai cas gan fy enaid y syniad o wefetl Gorfodaeth Filwrol yn Ddeddf yng Nghymru Rydd. Clod i gaion y Maeslywydd Owen Thomas am wnoud. ei creii i wncud y Ddeddf yn llythyren farw a chadw Cymru'n rhydd rhag y pla, Gorfod. Fel y dywedais, ystyr- iaethau politicaidd ac nid milwrol oedd wrth wraidd y mudiad o'r cychwyn. HysbyS i chwi, fy Arglwydd, fod mwy o angen gweithwyr ychwanegol ym Mhrydain nag yvydd, am filwyr ychwanegolo Brydain heddyw. Mewn llythyr agored at fy nghyfaill i, a'ch cydgystadleaydd chwi, Mr. Lloyd George, bythefnos yn o], atgoffais ftf o'r modd yr oedd gweithfeydd cyfarpar rhyfel ym Mhrydain yn dioddef o brinder dwylo ar y cei, yn y porthladdoedd, ac ar y rheilffyrdd. Wedi hynny, yr ydych chwi, fy Arglwydd Kitchener, wedi gorchymyn galw labrwyr yn ol o'rffrynt yn Ffrainc i'r wlad hon i weithio yn y porthladdoedd i ddadlwytho llongau Nid wyf am foment yn honni mai ffrwyth fy llythyr i at Lloyd George yw hyn. Ond yr wyf yn honni ei fod yn profi fod yr hyYi a ddywedais yn hollol gywir, ac mai gwetl ar hyn o bryd fuasai cael mwy o weithwyrria chael mwy o filwyr. Chwi gofiweh ddario(I i chwi alw crefftwyr yn ol o'r ffrynt o'r Maen. Ond labrwyr cyjfredin i ddadlwytho llongau a alwyd yn ol gennych yn awr. Yn sicr nid oes eisiau dweyd mwy. Mae Arglwydd North- cliffe wedi ennill buddugoliaeth drwy orfodi'r Senedd i basio Deddf Gorfod. Mae ei bapur- au-y Titnes a'r Daily Mail—eisoes yn galw am estyn Deddf Gorfodaeth i' gynnwys gwyr priod A yw'n bosibl yr enilla efe fuddugol- iaeth arall ? Gwn eich bod chwi yn bersonol yn malio cyn lleied am yxnosodiadau y Times a'r Daily Mail arnoch chwi ag yr wyf finnau am ymosodiadau eu cynffonwyr, y gohebwyr dienw, arnaf finnau am ysgrifennu ohonof y Llythyrau Agored hyn. Ymgysuraf yn yr hen air Y gwir a saif. "—Yr eiddoch ar air a chydwybod, BERIAH GWYNFE EVANS

Advertising