Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

Cymry Amlwg.

News
Cite
Share

Cymry Amlwg. Syr Owen Edwards. •CYNSTYBCH diweddar yw Syriaid Cymru o fysg glewion dysg. Meddai boneddwyr tirol y oyfryw anrhydedd ers talm a dilynid hen Syr gan un newydd, yn yr un toi-iluooda cyf- yngedig, o genhedlaeth i genhedlaeth. Ond bellach wele rai o feibion y Colegau, megis John Rhys, Edward Anwyl, Henry Jones, ae Owen Edwards, wedi eu dyrchafu gan y brenin i'r pinacl hwn. A phwy a'i gwarafun saae a faidd awgrymu nad cymharus yr ieuad ? Rid oes dim mwy bonheddig na diwylliant,— ond crefydd a phan geir y ddau yn un, dyma ioneddwr yn wir, ac un teilwng i eistedd gyda phendefigion y ddaear a'r nef. Un o enwau anwylaf y genedl yw "0. M. Edwards ac un o gymwynaswyr pennaf yr oesau i'n lien a'n haddysg yw'r gwr a'i dug. Enillodd le brenin ar orsedd calon y wlad gweddus yw iddowregysu urddwisgoedd y eafle uchel. Yn gyntaf y gallu, yr awdurdod a'r dylanwad wedi hynny y sedd, y deyrn- -wialen, a'r gochlwisg. Esgynnodd O.M." i'w deyrngadair ar hyd grisiau talent, Ilafur, dyfalbarhad, a chymwynasgarwch eistedd arni o hyn allan trwy osodiad cyfreithiol a eeneddol, gyda chydgan o gymeradwyaeth ei edmygwyr dros y byd Cymreig a bydd ei orchestion digymar byth mewn coffadwriaeth diolchgar. Yfodd ei ddysg o ffynhonnau Colegau y Bala, Aberystwyth, Glasgow a Rhydyeben disycheda ac adfywia yntau ers Hawer blwyddyn blant, ieuenctid, a henoed ei wlad. Derbyniodd roddion i ddynion enill- odd wybodaeth i'w chyfrannu i eraill,—ie, cyfrannodd ei enaid ei hun i'w gyd -genedl am .eu bod yn annwyl ganddo. Cychwynnodd yn bregethwr, datblygodd yn flaenor eglwysig ac nid am iddo fethu gyda'r gwaith o gyfrannu efengyl Duw y newidiodd y pulpud am y "sedd fawr," ac yn sier nid am i gynulleidfaoedd Cymru flino arno y tayodd fel pregethwr. Bu'n darlithio i bigion y gwledydd ym Mhrifysgol uchelryw Rhydychen; ymbaratodd trwy hynny i siarad wrth blant ieuengaf gwlad fechan y bryniau ac i arolygu eu haddysg hwy. Dros ennyd fer dilynodd gamre ei gyfaill T. E. Ellis. i senedd Prydain i wneuthur cyfreithiau yr Ymerodraeth fawr symudodd oddiyno-nid a dawelwch mwll y Ty Uchaf-ond yn ol i iywyd egniol ac eiddgar y wlad a'i macodd. Eto llinell union yw ei yrfa gwasanaethu yw ei nod, ac ar i fyny y dring hardda hefyd le ei draed, a phery ol ei gerddediad trwm ar fywyd Cymru. Gan gymaint swm y gwaith a gyflawnodd eisys, a hwnnw'n waith mor amrywiol, nid hawdd yw nodi gyda sicrwydd ei gamp bennaf. Ond cydolygai llawer, yn ddiameu, i roddi'r llawryf i'w ddylanwad gyda llenydd- iaeth gylchgronol. Bu cyhoeddiad y Cymru coch yn gychwyn cyfnod newydd yn hanes y dosbarth hwn o lenyddiaeth. Rhoddodd fri ar bapur da a glan, ar lythyren glir ac asmwyth, ac ar ddarluniau hanesyddol o leoedd a phersonau, yn gystal ag ar ansawdd uchel yr ysgrifau. Yn y cylchgrawn hefyd yr ymddangosodd penodau Hanes Cymru- a osododd ynghyd wedi hynny yn gyfrolau gwerthfawr. Gwnaeth yr hanes yn ddiddorol odiaeth apeliai at ddychymyg y darllenwyr, a chynheuai dan gwladgarwch eirias yn eu bron. Dyma'r pwer mawr i godi'r hen wlad yn ei hoi, ac wrth hynny i yrru'r hen wlad yn ei blaen." Ac er fod gan y gwahanol enwadau crefyddol eu cyfnodolion arbennig a bod rhai eraill gwych ar y maes., ac nad yw darllenwyr Cymraeg yn llu mawr iawn, eto fe deimlid gwagle poenus pe heb y Cymru. Ae «r cymaint a yagrifennwyd o hanes y wlad, ei phreswylwyr a'i nodweddion, yn fisol am dros chwarter canrif o amser, nid yw wedi ei jbysbyddu. Wrth ddarpar fel hyn ar gyfer rhai mewn oed, ni anghofiodd hawl y plant arno, a chawsant hwythau bron yn gydamserol eu Cymru eu hunain—un o'r cyhoeddiadau blasusaf a olygwyd erioed yn ein plith. Ac wedi blynyddoedd o'r profiad hwnnw, nid syn clywed mor hoffus yw o'r plant, a'r plant ohono yntau, pa le bynnag yr êl.ar ei deithiau presennol i'r ysgolion. Er yn Brif Arolygwr, ni bydd achos i'r gwannaf o'r plant ei ofni, nac i'r un athro ieuane dibrofiad arswydo wrth fynd trwy ei orchwyl yn ei bresenoldeb. Daw atynt megis mab y mynydd, heb ddim o sawr y Brifysgol na'r Llywodraeth arr).o,-yn syml, enillgar, a chariadus, gan wneud cyfeillion o bawb a'i cyferfydd. Diau y bydd dylanwad ei bersonoliaeth braf, gyda Chymreigrwydd ei deithi meddyliol, a'i asbri dros draddodiadau a hanes y genedl, yn ddwfn ac arhosol ar athrawon y genhedlaeth hon, ar ei gvd arolygwyr, a thrwyddynt hwy ar y wlad gyfan. Tudalennau neilltuol o werthfawr yn y cyhoeddiadau hyn yw y rhai lie ceir ei ymgom a'i ohebwyr. Cwestiynnir ef ar bob math o anawsterau, ynglyn a nefolion, y daearolion, a thanddaearolion bethau a bydd ganddo air i'r pwrpas iddynt oil. Etyb rai yn eglur- haol, eraill yn ogleisiol neu ynteu'n geryddol, yn ol y galw a rhydd fwynhad gwastadol i'w ddarllenwyr eraill wrth wneud hynny, yn gystal a ires i'r personau neilltuol fydd dan y driniaeth. Gwasgar oleuni, cywira farnau, cyhoeddaddirgelion cudd, ie, gostwng chwydd meddwl ambell un a bydd pob goruchwyl- iaeth o'i eiddo yn iachus a chryfhaol. Ym- ddiriedir iddo gyfrinachau, megis i dad; ymgynghorir ag ef megis ag orael; a chyf- iawnba'n Hawn bob ffydd ynddo. Tyn ysgrif- enwyr newydd i'r maes yn feunyddiol, dargen- fydd dalent yn ei hegin cyntaf, rhydd y swer angenrheidiol i'r ofnus, ac erfyr y ffrwyn neu'r enfa gyda'r rhai a ddynesa ato'n rhy hunan- hyderus a hollwybodol. Ffurfiasai gyfeillgar- weh agos a pharhaol a dynion ieuainc y Colegau, daethant hwythau allan i'w gynorth- wyo gyda gylchgronau. Ond daeth yo. gymaint cyfaill i werin ddysyml y siroedd, a brithir dalennau øi gyhoeddiadau gan gyn- yrchion y naill fel y IIaU. Dros bedair blynedd dygodd allan gyhoedd" iad chwarterol gyda'i hen enw Y Lienor Cafodd yn hwnnw gyfle i osod gerbron 61 I ddarllenwyr erthyglau meithion a llafurfawr ar ddyrysbynciau bywyd a bod, a gresyn i'r fath gylchgrawn sefyll cyn gynted. Ond par- haodd efe yr un gwaith i fesur gyda chyfreg o lyfrau bychain del a thrwsiadus dan yr enw Cyjrw y Fit. Ffurfia llawer mil," gobeithio, r fel hyn, lyfrgell werthfawr, goeth a phur, yn ddognau bychain daw detholiad o drysorau penna'r iaith i gyrraedd y werin a gellir bod yn lied sicr amdanynt-—ar gyfrif eu destlus- rwydd, eu maintioli, a'u swyn-mai llyfrau i'w darllen gan eu prynwyr ydynt, ac nid i'w gosod yn addurniadau ar yr estyll yn yr ystafell hyd nes y del amser cyfaddas i'w defayddio. Cynygiasaigyda chyfresau eraill yn Llyfrau'r Bala, a Chyfres y Werin; a cheidw eto at y maintioli gwreiddiol a'r pris uniongred, sef swllt. Ysgrifennodd ef ei hun amryw o'r rhai hyn, megis Or Bala i Geneva, Tro yn Llydario, Pro yn yr Bidal--Ilyfrau anrheg prydferth a da, cymwys iawn i'w hanfon i'n milwyr dewr ar hyn o bryd i'w sirioli yn eu horiau hamdden prin. Ysgrif- enna hefyd Ragymadrodd i wahanol lyfrau "Cyfres y Fil "-i egluro'r amgylchiadau. Cynlluniodd ar raddfa anhygoel bron o eang, yn nechreu ei oes, fel Ilenor a chyhoeddwr,; ond crbyn hyn y map Ilawer -o'i fwriadau wedi eu troi yn actau. Ac nid yw ei waith ar ben nid anrhydedd ar ei hen sodlau "yw'r teitl newydd a gafodd, yn ein paratoi at y diwedd ond, fel yr hyderwn, un y caiff ei wisgo am flynyddau lawer, yn brawf fod gwlad a chenedl y Cymry yn arbennig yn gwerthfawrogi ei aberth, yn ewyllysgar i orfoleddu yn ei oleuni, yn achlesu ei ddel- frydau, ac yn dringo i fyny dan ei arweiniad iCLWYDTBD

Perygl Prydain .

Advertising