Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

Advertising

Advertising

Trent I—Gweinidog a'r Khaki,

Trem II-" Syched am Waed."

News
Cite
Share

Trem II-" Syched am Waed." Hoff eiriau sen ar y Gweinidog Efengyl a faidd s6n am fynd i ryfel yw'r ymadrodd am Ddafydd Frenin gynt,—" Dy ddwylaw sydd lawn o waed ac os cefnoga Brydain yn y rhyfel hwn, dy wedir mai sychedig am waed ydyw. Nid eir i'r drafferth o esbonio'r ymadroddion, ond mae'r d6n a anedlir iddynt gan y rhai a'u defnyddiant yn egluro'u meddwl hwy ynddynt. Cyfeiriasom at y mater hwn o'r blaen, ond parheir i geisio gwarthnodi dynion yn yr un ffordd, a theg yw i rai a farnant yn wahanol barhau i brotestio, Sychedig am waed Geltsid  nad yw'r dosbarth ohonom a gefnoga Brydain yn y rhyfel ond math ar gwn, ein tafod yn grasgoch o syched, ac nad ellir ei oeri onis dodir ef mewn gwaed dynol-modd y tery gof ddarn o haearn poeth mewn dwr Rhaid fod ein cyflwr yn ddiobaith, pan nad all brawdgarwch pasiffistaidd briodoli inni well cymhelliad am gefnogi'n gwlad yn y rhyfel na'n bod yn sychedig am waed Gwneir inni feddwl am Lady Macbeth, rudd ei 11aw, ac annileadwy ei hystaen gan gyd- wybod euog. Mynnir inni gredu'n bod yn rhyfela'n unig er mwyn lladd y Germaniaid. Ond y ffaith ddiamheuol am- ein milwyr yn gyffredinol yw eu bod yn ffosydd y rhyfel, nid yn unig am fod y Germaniaid o'u blaen, eithr yn bennaf dim am fod eu cartrefi a'u gwlad a hawliau dynoliaeth tu ol iddynt, ac yn dibynnu arnynt. Ymarfogodd Cristnogion goleu- edig a chydwybodol—yn eu mysg weinidogion yr Efengyl-o dan gymhellion moesol ac a delfryd ysbrydol, ac nid o gariad at gigyddio. Ond fe ddywedir eu bod yn oyfeiliorni mewn barn, ac addefwn nad yw uniondeb oydwybod mewn egwyddor yn golygu anffaeledigrwydd barn ar yr hyn sydd bob amser yn gywir mewn gweithred, neu y cymhwysiad o egwy- ddor. Ond nid anffaeledig undyn mewn barn, a rhaid i'r naill ochr yn gystal a'r llall addef hynny. Yr ydym, beth bynnag, wedi hen ddiflasu -ar Ymneilltuwyr a dynnant gylch cyfrin urdd, foethus a ffansiol, am Weinidog yr Efengyl, fel petai unrhyw ddyletawydd foesol islaw ei urddas af, mwy na rhyw Gristion arall, i'w chyflawni. Effaith union" gyrchol y fath athrawiaeth yw torri ar unol" iaeth bywyd dynol,a'i wneuthur yn adrannau' Dywed y Koran ddarfod i Gabriel gael ei anfon i'r ddaear i wneuthur dau beth un peth ydoedd i gadw'r Brenin Solomon rhag anghofio'i awr weddi yn ei edmygedd o'i feirch a'r peth arall oedd helpu morgrugyn bychan ar lethr yr Ararat i gyrraedd adref a'i faich o fwyd. Aethai Gabriel allan i'w gen. hadaeth, gan deimlo fod yr un awdurdod yn ei anfon at frenin a morgrugyn, a'r un gogon- iant yn gwisgo'r naill weithred a'r llall Silently he left The Presence and prevented the king's sin And helped the little ant at entering in. Ac mae'r bywyd dynol a lywodraethir gam gydwybod foesol yn un ymhob man, ymhob peth, bob amser. Ysgrifennwn hyn gyda golwg arbennig ar y gweinidogion a gredodd eu galw gan Dduw i ryfel. Pa safle roir iddynt ar derfyn y rhyfel ? A ofynnir eu hail-ordeiniad ? Prin y gallwn feddwl am getdwaid y Lie Sanctaidd yn sylwi ar un dyn yn tvnnu ei ddwylo gwynion, teneu, allan o'i fenyg ac yna ddywedyd wrtho, Dring dt i'r pulpud, a'th ddwylo glan ac yn edrych ar y dyn arall, yn dwyn cyrn a chreithiau gwron ar ei ddwylo ef, a dywedyd ohonynt wrtho, H Eistedd di yna, yn sedd y gwran- dawr, canys dy ddwylo sydd lawn o waed Nid felly y dysgasom ni gysegredigrwydd Gweinidog yr Efengyl, ac nid ydym yn credit mai felly yr edrych Ymneilltuwyr Cymreig /urno, vn y Be.ist ar ol ar ol oed fa f Armagedon Fawr

Advertising