Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

Advertising

Advertising

Trent I—Gweinidog a'r Khaki,

News
Cite
Share

Trent I—Gweinidog a'r Khaki, "GWEINIDOG YR EFENGYL Yn ol ein barn ni, nid posibl fod swydd uwch a mwy breintiedig tan yr haul, nac uwchlaw iddo. Ni all undyn fod yn fwy na'r swydd hon, ac ni welwyd ond Un yn ei llenwi. Pwy yw'r ath- rylithgar ? pwy yw'r dysgedig ? pwy yw'r hyawdl ? pwy yw'r doeth ? pwy yw'r sanct- Aidd a'r dHwiclfryd ? Pwy by&nag s'ydd- ganddo'r pethau hyn i gyd, ac i'r graddau helaethaf, gosoder ef yn weinidog yr Efengyl, a dyna'r dyn, o bawb, a ddylai ymwisgo mewn gostyngeiddrwydd pur,' gan wybod nad all efe fod 51a ddim oherwydd fod ei swydd gymaint yn fwy nag ef. Mae unrhyw ddyn, pwy bynnag fo, a ddyrcheif dalcen balchter yn wyneb Dirgelwch Duw, ac a gan gloch hunan yn ymyl y Groes, yn hurtyn rhyfygus. Oni- bai ei fod mor erchyll o bechadurus, byddai'n chwerthinllyd. Ond nid yw pawb yn cytuno ar yr hyn a dybir yn briodol i weinidog yr Efengyl ei wneuthur. Ac mae ei fater ef-fel pob mater arall—tan ymchwil a phrawf yn yr Armagedonfawr. Nid dymyndeall syniad au rhai yn ei gylch. jw'n briodol i weinidog ymarfogi i ryfel ? Gallwn ddeall amryw bethau gallwn ddeall safle'r dyn a fo'n erbyn i Gristion, fel y cyfryw, godi arf i ryfela. gallwn ddeall safle'r' neb a ddywed yn erbyn gorfodaeth filwrol allan ac allan gallwn ddeall y rhai a ddadleua fod Gweini- dog yr Efengyl yn anghenraid cartrefol, ar gyfrif ei gyfaddaster i arwain a diddanu pobl ei ofal, ac i gadw cartref crefyddol mewn trefn ar gyfer dychweliady rhai a arbedir yn ol o'r rhyfel,ac o blaid y syniad olaf hwn, mae llawer iawn i'w ddywedyd ac yr ydym mewn cydymdeimlad mawr a myfyvwyr ein colegau diwinyddol, sydd ar ganol ymbaratoi at waith y bydd ei fawr angen yn y dyfodol, gan nad pa ffordd y terfyna'r rhyfel. Ond pan geisir gennym gredu fod swydd Gweinidog yr Efengyl yn perthyn i fath ar lirdd sydd, o ran ei natur, yn hanfodol wahanol i eiddo Cristnogion ryn gyffredinol, a bod mynd o'r I pulpud i ryfel, ac o ryfel i'r pulpud, yn wrth- uni moesol ac ysbrydol,—pan gynhygir y syniad hwn inni, nis gallwn ei dderbyn, o leiaf fel Ymneilltuwr. Mae'r safle a gymer Pry- dain yn y rhyfel hwn yn foesol union neu gam, yn dda neu ddrwg. Gellid disgwyl mai gan Gristionogion goleuedig ac ysbrydol eu bryd y canfyddir ac y teimlir hynny gliriaf a dyfnaf. Os y credant hwy mai o'r drwg y mae ein hachos, niddylent wneuthur dim drosto ond os credant mai o'r iawn y mae, a bod rhwym- edigaeth foesol ar y neb a fedro gymryd rhan yn erbyn y gelyn, yna fe ddylent wneuthur cymaint a allont. Pan dd euir at ddyletswydd foesol, yr ydym ar lefel nad all gwahaniaethau damweiniol a ffurfiol ddringo iddi, ac nis cofrestrir hwynt yn ei chronicl. Ar yr un gwastad y mae pulpud a ffos i rinVvedd moesol. Os dilyn dyn ddyletswydd, nid yn esgyn y mae wrth fynd i'r pulpud, nc yn disgyn wrth fynd i ffos rhyfel, eithr yn cerdded yn ei flaen, o nerth i nerth, o ogoniant i ogoniant, ar lwybr y cynnydd uchaf. Pwy a wad nad oes miloedd o saint goreu'r tir wedi mynd allan i'r rhyfol, gan gredu eu bod yn genhadon rhyddid eyfiawn, a dynoliaeth, a Duw ? A phwy a faidd gyhoeddi barn condemniad ar y Gweinidog Efengyl a ddilynodd ei argy- hoeddiad cydwybodol, a'i ffydd yn Nuw, o'r pulpud i'r rhyfel ? Ac os arbedir ef i ddych- welyd, pwy a'i cyhuddai o lychwino urddas y Weinidogaeth, ac a wrthodai iddo bulpud heb ei ail-ordeinio ? Yn wir, gall mai ennill north i'w genadwri, a chyfaddaster mwy i'w waith, a wnai. Byddai'n ddyn a brofodd fod ynddo gydwybod i ddyletswydd a chalon i aberth. Profai ei hun yn wir ddilyn- ydd i'r Tadau Ymneilltuol a Phrotestanaidd, parod i gyfranogi o'u beiddgarwch a'u hebyrth ac nid bodloni'n unig ar blethu eu henwau a'u hanes yn addurn areithyddol a peroration* pregethau. Canys oni fu llawer o'r Cromwel- iaid a folwyd yn ddiweddar ar lwyfannau Ymneilltuol, y taenwyd eu hânes trwy'r wlad mewn pamffledi, ac y bu doethion gwerinol ac Ymneilltuol Cymru'n ymweled a'u broydd, gan ddiosg eu pennau'n ddefosiynol ym mhres- enoldeb "ysbrydoedd y rhai eyfiawn" y galwent arnynt o'r dyfnder,—oni fu llawer ohonynt hwy'n pregethu o bulpudau mewn gwisg filwrol, a gwn, parod ei ergyd, wrth eu hochr ? A feiddiodd neb o'r ymwelwyr a'r ysbrydion dewrion hynny edliw iddynt y gwna fu a'i ffroen allan o'u pregethau ? Nat 1 buasai arnynt ormod o'u hofn i hynny. 1

Trem II-" Syched am Waed."

Advertising