Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

o Big y ..Lleifiad.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

o Big y Lleifiad. 0 YST UDD A LAFON.—Gwelsom Alafon I yn un o ysbytai Lerpwi ddydd lau diweddaf, a'i frawd Llifon a'i gyfaill cu, Mr. Wm. Ven- more, yno'n gweini arno a'i gysuro. Pwy o'n beirdd sydd goethach a phwy drwy Gymru i gyd sydd a naturiaeth fwy hawddgar a thryloew o bob addfwynder diddichell ? Caffed y eyfcill adferiad llawn a buan y mae llond gwlad o gydnabod ac edinygwyr yn gweddio am hynny. DYNA GWYMP I (,APEL !Wrtli fynd oddiyno, dyna Mr. Venmore yn dangos hen gapel Bedford imi,Ile a gysegrewyd a phregethau cewri mwyaf y Methodistiaid sydd eto'n dal yn adeilad mawr ac urddasol ei olwg; ond sydd yll foodiant--i bwy, feddyl- iech ? I ffirm o fragwyr y ddiod felltigaid. Dyna gwymp o fod yn phiol i ddal Gwin Gras Ai gwir hefyd mai yn nwylo gwyr y Brag a'r Ddiod y mae hen addoldy hybarch Rose Place ? Druan o'r hen barwydydd, yn clywed iaith ac arogl mor wahanol! -<>- A B WAIN YN El WAED.—Mr. W. D. Roberts, arweinydd Cor Plant Bankhall yng nghystadleuaefch Eisteddfod Bootle nos Sad- wrn ddiweddaf oedd arweinydd Cor Plant Llanllyfni, buddugol yn Eisteddfod Genedl- aethol. Bangor y llynedd, ac a enillodd mewn Uu o gystadleuaethau draw ac yma. -.0- LLWYAID 0 FL,"L.-Diolch i'r cyfaill Mr. R. W. Roberts (Arfonog) am fenthyg copi o J.11el Awen Pedr Fardd. Fe ysgrifennodd o gyfrol Saesneg o Hanes Mothodistiaeth Cal- finaidd Lerpwl a'r cylch,—llyfryn a gafodd ganmoliaeth y diweddar Ddr. Raffles, Gt. George Street ac os gwyr rhywun am gopi. dyrwch wjrbod drwy geidyn i Glwyd y Lleifiad. GYSURYDD Y CLAF.—Y mae rhif ymweliadau y Parch. John Evans, Beacons- field Street, a chleifion Cymreig ysbytai Lerpwl yn cyrraedd wyth mil onddau.-7.998; a'i weddi ydyw, cael byw^i'w gwneud yn ddeng mil, ac yaa-noswylio. Dechreuodd 301' y gwaith hwn ohono'i hun, sef al' gymhell- iad yr Ysbryd fe'i cyflawnodd ar hyd yr ugain mlynedd diweddaf heb geiniog o dal ond diolchagrwch dyfnaf yr eneidiau a gysur. odd, a diolchgarwch a ddatgo?ir mewn can- noedd o lythyrau sy'n wledd eu darllen. CARI AD YN LLADD CULNI.—A. dyna sy'n dlws, mai llythyrau oddiwrth glerigion ac aelodau eraill o'r Eglwys Sefydl- edig ydyw y rhai dyfnaf eu diolch a'r mwyaf graslon eu geiriau o'r llythyrau i gyd braidd. Mor agos y mae enaid pobl dda at ei gilydd, pa gorlan bynnag y bont yn perthyn iddi. Asphyxiating gas y diafol yw culni a chas- ineb enwadol i'n dallu a'n cadw rhag adnabod ein gilydd, "—rhywbeth yn debyg i hynvna oedd brawddeg yn llythyr un clerigwr wrth ddanfon ato i ddweyd mor ddiolchgar oedd i Mr. Evans am ddod at erchwyn ei wely pan oedd yma'n glaf y llynedd, a bod ei naws a'i garedigrwydd wedi mynd at ei galon. PWYSLAlS PROFIAD.—Un o'r petkau melysaf ei wrando a glywsom y Sul diweddaf oedd clywed hynafgwr—yn agos i oedran yr addewid-yn darllen Salm wrth ddechreu'r Ysgol Sul yn Laird Street. Salm lawn o gysur ac yn cael ei darllen gyda'r arafwch a'r urddas syml hwnnw na fedr dysg na chelf- yddyd byth mo'i roddi—dim ond lledneis- rwydd natur ac aeddfedrwydd profiad. Ymhell y bo'ch elocution wedi gwrando patriarch duwiol yn darllen y Gair a'i bwys- leisio mor dlws a'i brofiad. Y PARCH. W. LLEWELYN LLOYD. —Daeth gair i un o deuluoedd Cymreig y Glannau fod y Parch. W. Llewelyn Lloyd, Yl. efengylydd poblogaidd sy'n gaplan mor dder- byniol gyda'n milwyr yn Ffrainc, wedi cael ei glwyfo'n dost y dydd o'r blaen, drwy i shell ddisgyn i lyn gerllaw iddo, gan ei ysgwyd a'i daflu oddiar ei bicycle. Bu'n ddiymwybod am beth amser; cludwyd ef i le o'r neilltu a'r gair diweddaf oedd ei fod yn gwelia'n foddhaol. RHOI BEN BOWEN GERBRON.- Caed darlith ragorol ar Ben Bowen y Bardd yng nghapel Laird Street, Birkelhead, nos Lun ddiweddaf, gan y Parch. R. BeYflon, B.A., Abercrave Mr. J. R. Jones, Gol. Y BRYTHON yn y gadair; a'r Parch. T. J. Rowlands, M.A.,B.D., a Mr. W. Garmon Jones, M.A., Prifysgol Lerpwl, yn cyflwyno'r diolchiadau ar y diwedd. C led trem dros ei oes fer o bedaii blynedd ar hugain portreiad o'r lie anfarddonol i olwg y cyffredin o ddynion lie y'i ganwyd ac y'i magwyd—Treorci, Cwm Rhon- dda; dywedwyd gair am ei helbulon cys- tadleuol; am ei daith i Affrica i chwilio am iechyd ac yna am ei wroldeb yn goddef cystudd ac yn plygu i ewyllys Duw wrth farw, ond gan resynu cael ei hun yn marw a'i blaniau ar eu hanner "0, na chawswn fyw hyd yn ddeg ar hugain oed BARDD ENAID AC NID BARDD ADDYSG.Aed drwy ei farddoniaeth, gan ddyfynnu cwpledi teleidiaf ei bryddest i Bantycelyn, er mwyn dangos, er pob gwall iaith ac arddull oedd yn ei linellau, y byddai ei feddyliau'n drysor dros byth i genedl y Cymry, am ei fod mor ysbrydol ei naws, ac yn gosod cymaint pwys ar Dduw a thragwyddol- deb. Ofaai'r darlithydd y gall fod Beirdd Heddyw yn gogwyddo gormod at v bydol-y secular yn gofalu am berffeithrwydd ffurf ac ieithwedd glasurol, ond yn colli gwres gwir awen fod perygl i Dduw a dyfnder difrifwch gael ei alltudio o'n llenyddiaeth, ac fod perygl i'r Coleg fynd a lle'r Capel. Dyma gwestiwn pwysig Ben Bowen :— Faint yn y Brifysgol gaiff o'r Capel fyw ? Amser ai'r Tragwyddol rydd i ti dy Dduw ? SGLEIN A THR YLITH.—Gobeithio mai ffrwyth y ddarlith feddylgar a swynol fydd codi syched am ragor o ddarllen ar weithiau addewid farddonol fwyaf y genedl a fu farw oblegid cael pabell rhy wan i ddal enaid mor eirias ac aflonydd. Dangoswyd ei lun yn y cyfarfod, er mwyn J 'rdyrfa gael gweld aglein yr athrylith a belydrai o'i ddau lygad. DEIiYN CORFF.Diokh an: sfcori'r ice cream hefyd, Mr. Beynon. ac am y fonclust angenrheidiol i'r Bardd Marwnadol. "Deryn Corff" y galwem ni ef yn Sir Feirionydd a hynny a.m ei fod o a'r aderyn atcas hwnnw yn mynd at ffenestri pob eystuddiol i weld pa faint. fo rhwng y claf ag angau a rhyngddo yntau a chael ei chweuga-in am farwnad iddo, N OS, L AWEN Y MILWYR.—Sef yn Ysgoldy Bankhall nos Sadwm ddiweddaf Mi's. Robert Roberts, York Villas, Walton Breck Road, yn rhoddi'r te a'r lluniaeth y Parch. D. Adams, B.A., a Mr. James Ven- more, Y.H., yn dywedyd gair o groeso a'r rhaglen wedi ei threfnu gan Mrs. Roberts. Can odd Mrs. Howard Stephens, Miss Cissie Jones, Miss Bertha Charlton, y Chwaer Watkins, Mr. Geo. Thomas, a Mr. Itebert Roberts Mr. T. C. Williams ar y crwth, a Mr. Sykes wrth y piano Mr. R. Vaughan Jones yn arwain, ac hefyd yn canu can ryfelgar ar don. Plas Qogerddan, ar eiriau o waith y Parch. D. Adams. Yr oedd Mrs. McLennan hefyd yn bresennol, ac a adroddodd ddarn gyda medr a ddangosai mor agos y mae'n perthyn i'r diweddarLlew Llwyfo. Yr oedd tua 80 o filwyr yno, a thri ohonynt, y Privates David I Jones, Cu-rtis ac Atwj3ll, yn cymryd rhan. AT Y MOTOR A1/lB U LANO g.DVIJWI ragor ddaeth i law < Y Proff. J'. Hill Abram. 3 3 0 Mri. John a James Jenkins Bowen o Nebraska. a 0 0 Mr. J. W. Rowlands 2 2 0 Mr. J. Evan Morris. 1 1 0 Mrs. (Capt.) Jenkins 110 Miss Jeukins 0 10 6 Y Parch. O. Eilian Owen 0 10 6 Ysgol Sul M.C. Princes Road- (y cyfraniad cyntaf) 3 0 0 David Street (y eyfraniad cyntaf) 3 10 0 Park neld. I 2 6 Anfield Road 12 5 Newsham Park (ychwanegol). 0 10 0 Mr. Walter .E Lloyd 3 0 0 Mr.Bel!, Garston. 1 0 0 Y Parch. J. D. Evans, Garston. 0 10 0 Mr. Morgan Jones, et.o 0. 10 0 P.A. G. 0 10 0 Y eyfanswm a gafwyd, £ 220; y eyfanswm sy'n eisiau, £500. PROF EDI GAETH DR. 0 WEN.—Ddydd Gwener diweddaf, bu farw Mr. Job Owen, Llanberis, sef tad Dr. A. G. W. Owen, Gorwyl, Birkenhead. Cawsai darawiad ysgafn o'r parlys o'r blaen ond daeth yr ail yn sydyn ac yn farwol. Yr oedd yn dair a thrigain oed yn flaenor ers blynyddau gyda'r M.C. yn Gynghonvr Dosbarth yn wr meddylgar ac effro i bethau goreu'r ddau fyd a'i gyfres ysgrifau ym mhapvirau Caernarfon flynydd- oedd yn olyn bortreiadau darllenadwy iawn o brif ddynion y sir a'r cyffiniau. Cleddir heddyw (ddydd Mercher). • C EN NAD CILGERRAN.—Fe\ y dywed- asom o'r blaen, y mae'r Parch. Thomas Michael, B.A., B.D., Cilgerran, wedi cydsynio Michael i fugeilio eglwys y Bedyddwyr yn Earlesfield Road, sef cyn-eglwys Windsor Street. Pregethai yn ei bulpud newydd fore a hwyr y Sul diweddaf, a daw Iled fuan bellach i ddechreu ar ei waith. Y mae'n wr ieuanc dysged ig;Fa mawr y!'dis:gwyl sydd wrtho. gan fod y llehwnllwwedi ei anfarwoliynghof Cymru gan ddawn a dychymyg byw Thos. John, Cilgerran, pregethwr y bregeth fawr a sobr honno ar Uffern a'i chloc wedi sefyll ar un. Ein llongyfarchiadau mwyaf calonnog i Mr. Edward Jones, mab Mr. John Jones, Hampstead Road, Seacombe, ac aelod o eglwys M.C. Liscard Road, ar ei waith j yn ennill bathodyn gwerthfawr y D.C.M. am ei orehest ddewr wrth yscubo'r mines enbyd ar y m6r. ♦ Y mae Mr. Alun Thomas, y canwr penhill. ion hysbys o Birkenhead (ac un o blant cerdd. gar y Groealon) wedi symud i Ariandy Aber- honddu. Bydd colled i Ysgol Sul Laird Street am ysgrifennydd dyfal, ac i'r cyfarfod- ydd am ganwr diddan a pharod ei gynxorth.

DAU TU'R AfON.

[No title]