Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

Y Ciol Oddicartref

News
Cite
Share

Y Ciol Oddicartref Tridlau a Darn yn Birmingham. Cymry iawn a dlledlaitb I TEE go ddieithr i ni ydoedd hon a phan fynnwyd inni fynd yno i wneud ein rhan gyda'l' Eisteddfod a gynhaliwyd lonor y lofed aehubasom y cyfle i weld rhai o'i phobl a'i phethau. Ein synnu a'n siomi o'r ochr oreu a ga-waom gan mwyaf. Synnem, yn un peth, gael fod yno ac yn y trefi cyffiniol y fath filoedd « Gymry, a'r rhai hynny,nid yn Gymry oerion, glastwraidd, ond lawer ohonynt yn .rhai trwyadl a rhywiog, llydan a dilediaith eu Cymraeg, ac yn caru a mawrhau'r Hen Wlad yn fwy angerddol o gymaint a'n bod wedi cael eu bwrw i le mor anhebyg iddi. Ydyw, y mae'r Bbtthon yn llygad ei le pan ddywed jsoai'r Gymro Goreu yw'r Cymro Oddicartref ac am yr un rheswm ag y dywed loan yn IJyfr y Datguddiad mai hen g6r enwog y Gynnau Gwynion aeth a hi yn Eisteddfod y Gogoniant ar ganu anthem ddiddarfod yr Iddc Ef, sef i'r Oen a laddwyd, gall drechu'r angylion a'r seraffiaid i gyd, a'u gyrru i heidio « gwmpas Plant y Cystudd Mawr ar ddiwedd y gystadleuaeth a gofyn yn rhyw banner eiddigus, Pwy yw y rhai hyn ? Pwy yw y rhai hyn, wir! Fe ddywedaf iti pwy ydyrit, yn bur ddibetrus, Gabriel:— Y Saint fu Oddicartref ydynt, ac wedi cael llawer iawn llai o fanteision a rehearsals na phrof"sionals fel y chwi. Canu'r un' fath a chorau Lloegr yr ydych chwi,—yn e)-thaf cywir a chysact eich gwala, ac yn cadw llythyren y gyfraith Solffa a'r Hen Nodiant, ond heb fawr o'u hysbryd, ond yn oerion ac aneirias iawn am eich bod mor ddibrofiad rhagor y rhain sydd yn eu gynau gwynion, ac sy'n lleisio gymaint mwynach a dyfnach eu diolchgarwch na chwi am eu bod wedi cael diane a chyrraedd i'w Cartref Nefol o'r Firmingham ddaearol islaw yma, lie buont am gryn drigain neu ddeg a thrigain o flynyddoedd yn rihyrsio ym mwg a thawch yr anial ar gyfer Cyman- ia Fawr y Rhai Cyntaf-Anedig. A pha ryfedd iddynt ennill ? Onid eu Brawd Hynaf oedd yn eu harwain heddyw ? v Ond y Merlyn chwidrog tyrd yn d'ol at dy bwnc, sef at yr Eisteddfod y dechreuaist son amdani, ac a gynhaliwyd yn Neuadd Y.M.C.A. Dale End, Birmingham, ar y dydd crybwyll- edig. Campus o adeilad glan ei ddodrefn a sweet ei awyr digon o ffenestri ac o le i'r awyr ddrwg fynd i fyny ac allan, canys yr anadl gwenwynig ac ail-llaw yma sy'n andwyo dyn mewn cyrddau o'r fath. Cyfarfod y plant a'r ieuenctid gan mwyaf y prynhawn, ? hwythau'n oanu ac adrodd a pharablu J Cymraeg yn odiaeth o bur a chroyw, ganeglur ddangos fod yno rieni efiro a meddylgar yn rhoddi graer, Cymru a'i chrefydd arnynt ar yr aelwyd gartref. A dyna'r coleg, o'r colegau i gyd O'r holl adroddwyr a wrandewais, dim ond un oedd a'r mymryn lleiaf o lediaith ar ei deufin. Bendith arnynt hwy a 'u rhieni! ac os bo rhai o'ch hiliogaeth yn gorfod troi i hel eu bara bennyddiol i'r Rhyl neu Landudno neu Fangor neu Ruthin a threfi tebyg yng Nghymru, gofaled y blaenor, wrth roi tocyn trosglwyddiad iddynt, eu rhybuddio yn y aeiat ffarwel am iddynt ymorol peidio & cholli eu Cymraeg wrth symud o Birmingham i leoedd minfain a dicshondafyddol felly. Gyda Mr. a Mrs. John Da vies, Llys Gwalia, Murdock Road, y tariwn a diolch am luest mor garedig a dirodree, ac am gwmniaeth mor lan a diddan. Y mae'r hen air yn ddigon gwir Goreu gwledd, ei chroeso. Cyfarfod y nos yn dal ani bedair awr gron, ac ynddo dalentau adrodd da, a rhai o'r doniau canu'n deilwng o'r Wyl Genedlaethol j dydd fynno. Y rhain oedd swyddogion a gwyr amlwg yr Eisteddfod Mri. R. J. Will- iams, B.Sc., Edward Lloyd, J. Jenkyn Rich- ards, R. Glyn Jones, Samuel Jones, Miss Gwladys Lloyd, A.N.C.M., Mri. Edward Jones, T. Llew Hughes, Edward Jenkins, D. Evans, G. R. Thomas, H. 0. Thomas, J. Edwards, R. Jervis (Gteynomvy, ac Arch- dderwydd Birmingham). Popeth yr wyl yn gweithio'n llyfn dim ffwdan na chosi pen ac arogl grug yr Hen Wlad ar bawb oedd a wnelont 4 hi. Dynion o Faldwyn a Cheredig- ion yw Cymry Birmingham gan mwyaf, gyda brithiad o Feirionwyr Ffestiniog a Dinbych- iaid Henllan i wastatu tipyn ar y fantol. Dydd SuI. YnyModdion. I Gapel yr Armibynwyr Cymraeg yn Wheel- er Street yr aed y bore, lie y clywd pregeth ragorol ei hysbryd a'i thraddodiad a'i chenad wri gan y gweinidog, y Parch. T. J. Williams, brodor o Fethesda, Arfon un o efrydwyr y diweddar Watcyn Wyn, a chanddo barch diderfyn i'w hen athro, a sachaid o straeon diddan i'w dywedyd amdano fo a phroffwydi bach a mawr Ysgol y Gwynfryn ac yn medru llygeidio a dynwared pob goslef ac ystum i'r dim. I Ysgol Sul M.C. Hockley Hill y prydnawrl'j He y treuliwyd awr a hanuer ddiddorol iawn yn nosbarth Mr. R. C. Jones ac yr aeth yn frwydr bybyr ond brawdol ei hysbryd rhwng pleidwyryr Hen a'r Newydd mewn diwinydd- 1 iaeth parth y "daearol dvj a/r Hall nid o waith Haw, tragwyddol yn y nefoedd." Dyna frwydr go debyg iddi yn neidio i'm cof, a ymladdwyd rhyw brynhawn Sul bedair neu bum mlynedd yn ol yn Ysgol Sul jPeniel, Llan Ffestiniog. Daliai r dosbarth i gyd ond un dros atgyfodiad llythrennol v corff y Dydd Diweddaf ond ebe'rllall, wrth gloi'rddadi "Digon hawdd i chwi, ddynion iach a chryfion, yn anterth eich hoen 3.'Oh hafiaeth, nac yn gwybod dim am gystlidd 51 hir a phrudd -del' ca.Ion,-ie, digon. ha,wd "ichwi gredu yn atgyfodiad eich cyrff ond pe cawsech chwi anhwyldeb fel f'un i. a gorfod cludo hwnnw gyda chwi nos a dydd, fe fyddai'n dda gti-ii eicli calonnau gael gwared o'ch corffilyn, dyna ichwi Arhoswch chwi i'r hen babell ddechreu cracio a mynd yn faith arnoch, fe fydd yrt dda iawn gennych gael rhoddi eich baich i lawr heb awydd ail dabernaclu byth mwv "yn yr hen babell. 'Y Ty nid' o waith Llaw i mi, os gwelwch yn dda ac aed v pridd i'r pridd, ac arhoscd yno." Ac fe ganodd cloch yr Ysgol cyn i'r lleill gael eu gwynt atynt. Nid mewn gwamalrwydd y ciybwyllir y digwyddiad bach uchod, ond er mwyn rhybuddio rhai pobl iach a dibigyn mai dim ond shin-deep ydyw eu credo ar ambell bwne. Nos Sul, cafwyd oedfa canu mawl yn Hock- ley Hill, dan arweiniad Mr. Tudor Owen, Blaenau Ffestiniog, sef beirniad canu'r Eis- teddfod y diwrnod cynt. A'r ddau wr diarth oedd yn y Set Fawr yn dweyd gair wrth y dyrfa er mwyn i'r arweiryfld gael saib a gorffwys. Oedfa felys, ac emj n&u a thonau'r Hen Wlad fel dracht o win y Nef ynghanol crindir craB yr estron. Saboth byfrvd ar ei hyd. Dydd Lbln. Swilio yng ngwydd Shake- I speare. Bu'r Parch. T. J. Williams mor fwyn ag aberthu heddyw ar ei hyd i wybeta o gwmpas a dangos y dref a'i gogoniant inni. Yn gyntaf i gyd, cawsom gip ar y Llyfrgell—un ardderchog ei hestyll a'i hadeiladwaith, na chennym ni yn Lerpwl yr un hafal iddi. A Chymro o Gaergybi—Mr. Lloyd Williams— yn un o'r penaethiaid ac wedi ymgom fer yng Nghymraeg llydan Mon a Meirion dros y lie, dyma encilio i weld Adran Shakespeare,— sef ystafell wrthi ei hun naill du i'r un fawr a chyffredinol, ac ynddi filoedd ar filoedd o lyfrau ymhob iaith war drwy 'r Pum Cyfandir a phob un o'r miloedd hynny wedi eu liysgrif- ennu am Brifardd Mawr y Byd, na fu erioed mewn coleg, na chanddo ddim ond ei little Latin and less Greek" o ddvsgeiciaeth. Hawyr bach feswiliaishyd y gwadnau, ac a rythais yn hurt ar y fath deyrnged digyffelyh i ymennydd un dyn Dyma'r fwyaf a'r odidocaf o'i bath yn y byd ac er fy mod yn Gymro i'r craidd, ac am ddal dros fy henwlad gu, s,wiliais drwof-do, wir !—wrth feddwl heddyw'r bore mor fabiaidd o hael y buom ni yng Nghymru hefo'r gair bardd, ac mor barod i'w arfer am bob rhigymwr bol clawdd a nyddo englyn anfarwol i sbonc chwannen. Dylasem fod yn llawer cynhilach o air mor urddasol, a pheidio a sarhau geiriau mor uchel- dras drwy waeddi Athrylith ar bob pitw o frygawthwr ffregod sy'n chwythu swigod sebon drwy getyn ei gynghanedd. Bitrdd, wir Dyma ichwi fardd Gwir fod uchfeimiadaeth wedi dechreu gorddiwes Shakespeare, yr un fath ag y goddi- weddodd y Ddau Destament, ac yn profi'n bur ddiymwad fel y benthyciodd ac y defn- yddiodd drysorau lien gwledydd eraill, ac yn eu mysg, fe fenthyciodd fwy nag a wyddai ef ei hun o drysorau'r Hen Gymry hefyd, Puck a phethau eraill yn enghraifft. Ac os oedd yn werth gan brif ddramodydd y byd fenthyca rhywbeth, rhaid fod gwerth a deu- nydd go dda yn y rhywbeth hwnnw. Ni ddygai ef ddim byd sal byth. Fe ddywedaist bethau go dda, onid do, Shakespeare ?—am ein Howain Glyn Dwr ni, ac a 'i portreadaist fel dvn hael-generou& as mines of India; ac mor ddewr nes oedd y wild Glendower yn arswyd i Loegr drwyddi draw ac yn bin draen yn ystlys ei byddin lie bynnag y rhuthrai mor sydyn. Ond fe roddaist ambell frawddeg fostfawr yn ei enau, ac a'i triniaist yn rhy goeglyd, er mwyn i dy genedl gael deunydd gwen wawdus wrth wrando brol y Cymro. Pe'n gwybod mwy amdano, ac am y wlad y gwaedodd hyd farw drosti, buasai llai o swn hollalluowgrwydd Sais yn dy eiriau. Beth pe cawset fyw heddyw, a gweld yr Armagedon sy'n gwneud Iwrop a'i theyrnasoedd yn domenludw Fe gawset Iago newydd a mwy dieflig filwaith yn y Kaiser, ac a roiset wisg anfarwoldeb dy ddrama am Nyrs Cavell a gwisg o warth a dirmyg tragywydd am y Prwsiaid a'i llofruddiodd mor yscymun. Nid oes dim ond deuddeng milltir oddiyma i Stratford-on-Avon ac os ceir tridiau-a-darn arall yn Birmingham rhyw dro, af yno i weld bro a bedd y mwyaf myrdd-eneidiog o holl ddynol ryw :— Each change of many-coloured life hedrew Exhausted worlds, and then imagined new ac eb'e Milton, wrth ddangos mor fawr ac anfarwol yw athrylith rhagor urddas a rhwysg brenhinol :— Thou, in our wonder and astonishment, Hast built thyself a lasting monument. And so sepulchred in such pomp dost lie, That kings, for such a tomb, would wish to die O'r Llyfrgell, aed i fwynhau croeso a chwm ni Mr. Glyn Jones, trysorydd yr Eisteddfod un o fawrion masnach y dref; un o golofnau'r Annibynwyr Cymraeg, a Saesneg Carr's Lane hefyd; a Chymro sy'n gysgod a noddfa i bawb a phob achos da, ac heb eisiau i'r un newyddiadur brepian gair byth am hynny. Gwn y caf ddrwg am brepian cymaint a hyn ond nid yn fy myw y medrwn beidio, ar ol profi tirionwch y seiat a gafwyd yn y cysegr clyd a chuddiedig sydd yn uchelderau'r siop, a darn mawr o ran brysuraf Birmingham i'w weld odditanoch drwy'r ffenestr. Dur a Deddf. I ble feddyliech yr aeth Williams a ii wedyn" I garchar y dref, gan holi am Superintendent Morgan, sef y Cymro o Gaetellnedd ac achub- wr Lloyd George o grafangau'r dorf fu bron mynd a'i fywyd yn Neuadd Dref Birmingham adeg Rhyfel De Affrkja. Ond er cryn siom, yr oedd y Super, i ffwrdd o'r ddinas ar neges bwysig. Ond yr oedd yno Gymro arall ar y rhiniog. sef y Ownstabl Wm.Williams, llanc 0 DaJsarnan yr adwaenwn ei dad a'i daid ai, nain, ond a ddaeth i'r byd ymhell ar ol i mi adael yr hen ardal annwyl honno. Fe'm had- waenodd o fi oddiwrth lygad a gwep Morgan fv mrawd, ac fe'i hadwaenais innau yntau oddi wrth lygad a gwep ei dad. Ac wedi tipyn rhagor o Sir Feirionna a'n gilydd, aeth un o'r swyddogion a ni drwy 'r Law Courts,—i fyny i lys yr vnado)i .i lys y Barnwr a'r Frawdlys; dyma sefyll lie y saif dyn pan y'i dedfrydir i farw dyma fynd i lawr y grisiau ac i golly condemniedig ac ebe'r iviungyll. a'r agor- iade.u'n tincian mor atgas yn ei ddwylotvrth iddo'n gojlwng i fewn i'r ystafelf fti-eli a Gehennaidd ei theimlad Wedi ei ddedfrydu, dgw'I' condemniedig i lawr ar hyd yr un grisiau ag y daethoch "chwithau i'r gel1 hon, yng iigofal dau warchodydd—warder hwy ill ditu fydd yn gyfiifol am ei ddiogelwch o hynny ymlaen a rhaid i'r naill neu'r llaH fod gydag o bob oiliad bellach hyd funud fawr y dienyddio," nes oe<ld ias oer a pharlysol yn cripio dros fy meingefn. I fewn wedyn i gellocdd y car- charorion cyffredin yna gweld eu bwyd, cypyrddaid o dorthau hirion a chiystiog, a dau gosyn o gaws a phe bae popeth cystal a'u bwyd, ni fuasai mor ofidns arnynt. Cerddem lieibio rhai o'r carclittroiion. deserters yn eu khaki oedd wyth neu naw ohonynt a hwy a'r merched yn rhytlxu dan eu cuwch amom wrth inni eu pasio, ac yn gresynu'n ddiau na fuasent hwy thau yno am yr un rheswm ac am yr un amser byra ninnau. Wedyn, dyma esgyn rhagor o risiau haearn nes eyrraedd y swyddfa a'r clercod, a chael gweld y llyfrau lie y cedwir ol bodiau'r cam- droseddwyr—y criminate'' finger-prints, sef y ffordd fwyaf an:fJ:a.eledjg o'r nn i brofi identity'r cyhuddedig a'i gydio wrth y gwaed diniwed a oUyngodd o rhywun. arall. Nid oes dun ond un ffordd iddo ddileu hwn cyn cael ei ddal, sef drwy losgi ei fysedd. A pha faint feddyliech sydd o'r finger-prints yma yn llyfrau'r swyddfa hon ? Dim llai na deugain mil na dim un o'r deugain mil. o ddau Q'r bysedd, wedi eu cymryd oddiar yr un unllaw! A mi'n sbio ar brint y bodian drwy chwydd I wydr, dyma glywed swn wylo hidl ae erbyn troi dyna lle'r oedd gwraig o garchares, --(dynes dlodaidd braidd ei golwg, tua'r lianner cai-it oed)--yii cael hyn a hyn o siarad a Hencyn deunaw neu vigain oed,—(ei mab, mi goeliaf),dnvy dwll faint ei hwyneb yn y pal-ed warder (dynes) yn sefyll wrth ei phenelin a phan oedd yr amser gosodedig ar ben, dyna'i.throi a'i cherdded yn ol i'w chell a'i phenyd, a. hithau'n beichio allaxi i lefain mor dorcalonus nes oedd fy nghalon feddal yn toddi fel cftyr o'm mewn. Brysiais ddiolch i'r swyddog am ei gymwynas, a neid- iais i'r heol gan ddiolch yn Gymraeg i Dduw am goes rydd Be am wynt fy rhyddid ben- digedig, oedd mor flasns ar o] bod mewn sefydbad lie nad oerld dim ond dur a deddf yn gadwyn am remorse enaid. Chwarae Teg i Chamberlain Nid rhyw lawer a gerais i ar Chamberlain erioed. Unwaith y'i clywais yn siarad, a hynny yn Hengler's Circus, Lerpwl yma, pan oedd o yn eilun penna'r werin, cyn iddo gael cwymp oddiwrth ras Gladstonaidd a disgyn i ddyfnderoedd mor gyferbyniol nes bod yn eilun y bendefigaeth. Yr oedd rhywbeth balch a sych.ddirmygus i rni yn ei drem a'i sbectol un gwydr; ond nid teg barnu neb o bell a da oedd gennyf glywed hanes rhai o'i weithredoedd yn nes i'w gartref ac o enau ei bobl. Yr oedd ei holl fryd ar ddiwygio'r ddinas ae ebeun o'm cyfeillion heddyw, wrth inni sefyll ar un o brif heolydd Birmingham "Dyma ichwi hon tafarnau a nythle puteiiiiaid a phob trythyllwch oedd hon ar un adeg eithr mynnodd Chamberlain ei chwalu,a dyma'rlle heddyw'nadeiladau a siojjau heirdd sydd a'u rhent yn rhywle o'r mil i'r dwy fil o bunnau y n y flwyddyn, bob un ohonynt." Da iawn fe gynhesais ato, er gwaethaf ei sbectol a'i cynicism, pan glywais iddo chwalu'r tafarnau a'r ffauau ffiaidd sy bob amser yn ymhel o gwmpas Synagog Satan. Nid oedd yma ddim cymaint o wychter gwisg ag sydd yn Lerpwl, nac arwyddion cymaint o falchter a chwibandod ag sydd ar bennau a sodau'n benywod ni ar Lannau'r Mersey. Y mae'r dref yn lanach hefyd ddim yn agos mor fyglyd ei simnau,; ac yn uwch a llawer iachach nag y tybiaswn ei bod cyn ei gweled. Llenorion HocKley Hill. Dywedai T.J.W. yr arferai merch i Daliesin o Eifion fyw yn y fan a'r fan, ac iddo fod yn ei thy y gweld peithynen ei thad ganddi ond erbyn anelu yno heddyw, ty gwag oodd y ty, onite buasai'n ddiddorol. iawn cael hyd i Beithynen y Bardd mor fuan ar ol cael hyd i'w Gadair Ddu yng Nghaerffili. Adref i Lys Gwalia oddiyno, i leibio danteithion Mrs. Da vies, a gwrando a dywedyd ambell newydd a stori, a'r amser yn mynd mor chwap nes erbyn edrych ar y cloc, dyma weld ei bod hi'n saith ar gloch y nos ac yn bryd cychwyn am Gymdeithas Lenyddol M.C. Hockley Hill, i ddangos Y Gadair Wichlyd iddynt, a chodi tipyn o'j,, Ileri ar ein profecligaethau a'n blin- derau ni drueiniaid y Wasg Gymreig. Llyw- ydd, Dr. Rowlands, un o blant Llanrhaeadr- ym-Mochnant, sydd yn un o brif feddygon y dref, ac sydd a digon o haul hawddgarwch yn tywynnu 0'1 lygad i wella pob claf el ato. Ac yn y cyfarfod wele un o'm hen gyf- oedion a fyddai'n flaenor yn Eglwys Webster Road, Lerpwl, ugain mlynedd yn ol—Mr. Hugh Griffiths, ac ill dau, wrth siglo llaw a braich, yn sbio mewn munud i edryeh gwallt pwy oedd wedi britho fwyaf. Gwel- som Mrs. Thomas hefyd, sef merch Mr. Beriah Gwynfe Evans, Caernarfon a Miss Pritchard, merch y Parch. J. Pritchard, Croesoswallt. cyn-fugail eglwys Hockley Hill am gyhyd o flynyddoedd ac eglwys sy'n gofidio colli ei ddilynydd addawol a dysgedig, y Parch. Trevor Jones, B.A.,B.D., sydd wedi symud i Stockport. Dydcl Mawrth. Dychwelyd drwy Northampton a Welling- ton a'r Mwythig, a, meddwl am lawer iawn o bethau; y mae amaf flys eu hysgrifennu ond y mae'n bryd era meityn hel y merlyn i'w stabl, a'i. gadw yno nes bod yn barod i ddweyd hanes y branc arall i un o gorneJi harddaf Cymm. ) Llygad, y Wawr J.H.J.

I,Apel Olaf y Cadfridog at…

Advertising