Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

LONDON CITY AND i MIDLAND…

. EISTEDDFOD Y PLANT,

News
Cite
Share

EISTEDDFOD Y PLANT, I sef Plant Bootle I Ac yn fwy o Iwyddiani nag erioed- CYNHALIWYD chweched Eisteddfod flynyddol Plant Bootle yn Neuadd y Dref, nos Sadwrn ddiweddaf,—y cyfarfod yn dal o hanner awr wedi pump hyd hanner awr wedi deg y rhaglen yn un faith ac amrywiol, ond yr arweinydd (y Parch. R. W. Roberts, B.A., B.D.) i'w genihol am fynd drwyddi mor effro a diymdroi, heb wastraffu amser ei hua, na gado i neb arall wneud ehw-iith. Yr oedd nifer y cystadleuwyr yn lluosog iawn bias y canu a'r adrodd yn Gymreig a dilediaith ar ei hyd a digon o brawfion fod yr wyl yn fendith wirioneddol, ac yn foddion i sbardynu y rhieni i wneud yr hyn na all neb arall ei wneud cadw'r iaith ar wefus eu hiliogaeth, a chadw tan Cymru rhag diffodd yn eu calonnau. Yr oedd y cynhulliad yn un campus—yn llawnach ac nid yn llai na'r llynedd a'r pwyllgor. yn ddoeth iawn, wedi gosod stiwardiaid talgryf a dinacad i gadw trefn a distawrwydd tua'r drysau a'r pellafoedd, nes fod yn hyfrytach gwrando yn y llawr a'r llofft, ac yn haws i'r cystadleuwyr gystadlu, heb gael eu taflu oddiar eu hechel gan dwrw a throi a throsi afraid ac annymunol. Campus o gystadleu- aeth oedd y gan ystum, a'r parti buddugol- Y Milwyr Bychain (gwaith Pedr Alaw)--yn cyflawni gorchest ddwbl—ennill ar yr actio a chanu ar un llaw, ac am gyflwyno'r gan- ystum Gymraeg oreu yn y gystadleuaeth. Haedda Miss Evelyn Da vies bluen yn ei bonet am eu dysgu mor fedrus, a haedda'r eneth fach y datododd ei becwn khaki amdani y clod uchel a gafodd gan y beirniad am lynu wrth ei pbost er gwaethaf y gwenu oedd ami o bob congl i'r neuadd. Rhagorol hefyd oedd y cystadlu ar yr adrodd, y canu penhillion, a'r ewbl o ran hynny. Haedda,"r pwyllgor dyfal a'r ysgrifenyddion diball y ganmoliaeth uchaf am eu llafur a'u chwaeth, a'u tal goreu yw gweld eu gwyl yn llwyddo mor dda ac yn gosod ei hoi mor ddwfn ar y plant a'n hael- wydydd a'n heglwysi. Bu raid i'r Maer fynd i Lundain ar fusnes y Fyddin ond daeth y cyn -faer-y Cynghor- ydd Cassady-yno yn ei le diolchodd Pedr Hir a'r Parch. O. Lloyd Jones, M.A. ,B.D, iiddo am ei araith a'i gefnogaeth addawodd yntau os cai fyw, y dysgai ddigon i'w hannerch yn Gymraeg y tro nesaf; a chyn i Bedr Hir adael y llwyfan, datganodd yr arweinydd, ar ran y pwyllgor, eu diolchgarwch dyfnaf iddo am eiymroddiad mawrymhlaid yr Eisteddfod o'r cychwyn cyntaf efe oedd eiphrif sylfaen- ydd a bydd ei ymadawiad yn gynnar yn yr haf yma i fyw i Gaerdydd yn golled drom i'r wyl ac i'r holl gylch. Daeth Ap Lleyn i'r llwyfan ac a adroddodd yr englyn a ganlyn :— Ai gwir yma awgrymir—fod y bardd Am fad bell Ddeheudir ? Cam arall—cyn cymerir- 0 paid a'i roi, Pedr Hir Cydnabu Pedr Hir y teimladau da a amlyg- wyd tuag ato ac a add awodd y treiai ei law ar gyfansoddi Can Ystum (Action Song) neu ddwy, pan gaffai hamdden yn y De, er mwyn llenwi tipyn ar y bwlch a'r prinder oedd o'r pethau da a diddan hynny yn yr iaith Gymraeg. Dyma swyddogion yr Eisteddfod :—Llyw- ydd, yr Hen. Dr. R. E. Roberts, Y.H. is. lywyddion, J. W.Davies, Cyng. Eachus,y Parch. E. J. Evans, Robert Griffiths, y Parch. Wm. Henry, T. Evan Hughes, y Parch. Albert Jones, B.A.,B.D., David Jones (Waterloo), y Parch. O. Lloyd Jones, M.A.,B.D., y Parch. R. W. Jones, y Parch. W. O. Jones, B.A., Dr. Roland Owen, W. D. Owen, Hugh Parry, y Parch. R. W. Roberts, B.A.,B.D., y Parch. Wm. Roberts, R. Llewelyn Roberts, J. C. Roberts, y Parch. Evan Williams, Owen Williams cadeirydd y Pwyllgor, y Parch. Pedr Hir; is-gadeirwyr, y Parch. Evan Williams, Mr. Edward A. Griffiths; trysor- ydd, Abel G. Harris ysgrifenyddion, Dan Davies a Daniel Williams. Beiriiiaid Lien, y Parch. Evan Williams a Mr. Hum- phrey Roberts, B.A. Cerdd, Mr. W. M. Roberts, Gwrecsam adrodd, y Parch. Simon G. Evans, B.A.; amryw, Mr. H. E. Bulmer, A.R.C.A., a Mrs. Edward Owen, Bootle; cyfeilydd, Miss Gwladys Pritchard. A dyniqr b'uddugwyr Ysgrif, Crynhodeb o hanes Samuel 1, Cassie Roberts, Orrell 2, Olwen Williams, Marsh Lane 3, Hywel Williams, Marsh Lane. Ysgrifennu Stori yn Gymraeg 1, Hywel Williams, Marsh Lane 2, Alwen Williams, Marsh Lane 3. Maggie Williams, Marsh Lane. Cyfieithu 1, Hywel Williams, Marsh Lane 2, Alwen Williams, Miarsh Lane ,• 3, Cassie Roberts, Orrell. Adrodd ac Egluro geiriau yn Gymraeg oddiar h Salm xv 1, Wm. J. Rowlands, Trinity Road 2, Enid Humphreys, Marsh Lane 3. Blodwen Williams, Balliol Road. Eto, oddiar yr adroddiad Y Plentyn a'r Rhosyn 1, Maggie Davies, Stanley Road 2, Hannah Roberts, Bankhall; 3, Emlyn Jones, Marsh Lane. Etc, ar Genesis i.: 1, Ceridwen Row- land, 'Trinity Road (A.); 2, Maggie Edwards, Peel Road 3, Enid Roberts, Waterloo. C'erddoriaeth—Prif Gystadleuaeth Gorawl, Awn i chwarae yn yr eira (Pedr Alaw) 1, Plant Peel Road (W. Roberts); 2, Ysgol Salisbury Road (Mr. T. G. Williams). Ail Gystadleuaeth Gorawl, Mae'r Iesn'n galw (Eos Alaw) 1, a Her-Darian, Peel Road (W. Roberts), 2, Stanley Road (J. Hughes). Cerdd Ystum (Action Song), 1, Bankhall (Miss Evelyn Davies), a'r wobr ychwanegol o 6 Canu Penhillion, Cader Idris 1, Maggie Parry, Peel Road .2, Enid Parry, Stanley Road 3, Dorothy Jones, Stanley Road. Unawd, Plygiad y Bedol Ifach: 1, Hannah Roberts, Bankhall; 2, Gwyneth Roberts, Waterloo 3, Edward Edwards, Peel Road. Unawd, I wisgo aur goron 1, Gwennie Monis, Balliol Road 2, Dorothy Jones, Stanley Road 3, Dorothy Griffiths, Walton Park. Unawd (agored i'r byd), Ymadawiad y Brenin: 1, Elsie Davies, Stanley Road 2, Ernest Roberts, Bankhall. Ar y berdoneg, Mountaineer's Song: 1, Tudor Davies, Stanley Road 2, Gwladys Jones, Peel Rd. gwobr yohwanegol i Gwendolen Evans, Trin- ity Road (W.). Eto, Fantasia in D Minor 1, Edith Lloyd, Stanley Road 2, Alice M. Richards, Stanley Road. Arnrywiaeth.-A Child's Sewing Aproii, tair yn gydradd, Gwynifer Jones, Trinity' Road (W.), Blodwen Williams, Balliol Road Doris Williams, Balliol Road. Camisole Top Maggie Edwards, Peel Road. Cartoon 1, Oswald Jones, Marsh Lane; 2, Evelyn Williams, Marsh Lane 3, Penry Williams, Marsh Lane. Gents' Socks: 1, Gwladys Salisbury, Orrell; cydradd ail, Alwen Williams a Menna Williams, Marsh Lane. Drawing in pen and ink 1, Gwilym Jones, Orrell; 2, Freddie Williams, Marsh Lane; 3, Hywel Williams, Marsh Lane. Water or Oil Colour or Pastel Study: 1, Howell Davies, Bankhall 2, R. H. Jones, Stanley Road. Adroddiadau.—Rhoi help fy llaw i mam 1, Myfanwy Roberts, Orrell 2, Dilys Davies, Walton Park 3, Mary Myfanwy Davies, Walton Park. Y Plentyn a'r Rhosyn 1, Maggie Davies, Stanley Road 2, Myfanwy Pugh, Trinity Road (W.) 3, Gwyneth Will- iams, Marsh Lane. Os wyt Oymro 1, Alwert Williams. Marsh Lane 2, Annie Hughes, Balliol Road; 3, Ella Williams, Orrell. Geiriau Llama 1, Dilys Jones, Marsh Lane 2, John R. Roberts, Bankhall, ac Evelyn Thomas. Marsh Lane, yn gydradd. Cyd- adrodd I Chronicl xvi, 23-36 (agored i'r byd) 1, a meclal, Plant y Pentref (Mr. Robert Roberts); 2, Plant y Gogledd (Mr. Wm. Pierce). -0-

Gorea Cymro, yp an Oddieartee…

Advertising

Heddyw r Bore

Advertising