Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

LONDON CITY AND i MIDLAND…

News
Cite
Share

LONDON CITY AND MIDLAND BANK, LTD. CYNHALUVYD cyfarfod blynyddol cyfran ddalwyr yr Ariaridy uchod yn Llimdain ar yr 28ain o lonawr. i dderbyn yr Adroddiad a'r Fantolen, i gyhoeddi y Cyfran-dal, i ethol Cyfarwyddwyr ac Archwilwyr, ac i drafod materion arferol. Llywyddwyd gan Gadeirydd yr Ariandy, Syr Edward H. Holden, Barwnig, yr hwn a ddvwedodd :— Hyfrydwch mawr i ni yw oael eich croesawu i'r cyfarfod hwn, a. chael cyfle ] daflu trem dros amgylchiadau arianol a masnachol y gwledydd fel y maent ar hyn o bryd. Pan gwrddasom yn ein cyfarfod blynyddol y liynedfl, chwe mis o ryfela oedd wedi mvned heibio, ond erbyn hyn y mae blwyddyn arall wedi ei hychwanegu at hynny, a diau gennyf y bydd adolygiad newydd ar sefyllfa pethau yn bur dderbyniol gennych. Chwi gofiwch i mi y llynedd egluro'r cynllun iau a ddefnyddir gan Germani i gyfarfod a chos tau'r rhyfel, ac i mi ddangos rhagoriaeth y trefniadau a wneir gennym ni, gan alw sylw at yr anaws- terau dirfawr oedd o flaen German i yn y dyfodol i gyfarfod a'i gofynion. Ond U ar y Haw arall, proffwydais yr adeg honno y cymerai flwyddyn a rhagor i orchfvgu Ger- man i drwy wasgiad arianol. Fel y gwyr pawb sydd yn bresenniil, Llundain sydd wedi eael ei chydnabod hyd yma fel canolbwynt arianol yr holl fyd, ond ofnir gan rai yn awr y cyll ei safle o hyn ymlaen. rr gwrthwyneb, credaf mai nid colli ond ennill tir yn fawr a wna, ac y bydd ein Hariandai yn sefyll yn uwch yng ngolwg y byd wed i'r elo'r rhyfel heibio nag y buont erioed o'r blaen. Yna aeth y Cadeirydd ymlaen i ddweyd fod arwyddion amlwg i'w canfod ar bob llaw fod German i yn colli tir yn gyflym yn y frwydr arianol fod gwerth arian Germanaidd yn myned yn is, is, ym marehnadoedd y byd, a bod hynny yn profi ei hanallu i dalu am bethau wrth fyned ymlaen, a diffyg ymddir- iedaeth y gwledydd yn ei gallu i dalu yn y dyfodol. Wrth gyfeirio at Brydain a'i hanawsterau, sylwodd fod y nwyddau, y bwydydd, a'r moethau, a ddygir i'r wlad hon o wiedydd tramor, wedi cynhyddu yn aruthrol yn ystod y rhyfel, tra y mae yr hyn a anfonir allan o'r wlad wedi lleihau. Geilw hyn ar ein holl breswylwyr i ymarfer y cynhildeb mwyaf, yn arbennig gyda phethau a ddygir yma o wledydrl eraill ag y bydd rhaid i ni dalu amdanynt drwy aur neu nwyddau o'n cynnyrch ein hunain. Sylwodd befyd mai dyledswydd pob Prydeiniwr gwladgarol sydd ag arian mewn buddiannau Amerlcanaidd yw cynnyg gwerthu y cyfryw i'r Llywodraeth Brydeinig yn ddioed, a thrwy hynny gyflawni gwasanaeth gwerthfawr i'w wlad. I ddyfod yn nes adref—ebeV Cadeirydd— chwi welwch fod yr arian a ymddiried ir inn i ar log gan y cyhoedd wedi cynhyddu'n fawr yn ystod y rhyfel. Ym Mehefin 1914, yn union cyn i'r rhyfel dorri allan, yr oedd y cyfanswm yn £ 95,027,000, ac yn Rhagfyr 1914 (gan gvnnwys ill,000,000, ffigyrau'r Metropolitan Bank) yn £ 125,732,000 ym Mehefin 1915 yr oedd yn £ 142,388,000. ac yn Rhagfyr 1915 yn £ 147,750,000. Yr Arian ar Law yn Rhagfyr 1915 oedd X30,881,000, ac allan o'r swm yna yr oedd S7,000,000 mewn aur. Ar yr un adeg y llynedd y swm mewn aur oedd 18,000,000. Yn ystod y flwyddyn sydd newydd derfynu, bu i ni drosglwyddo i'r Bank of England 43,000,000 iiiewn aur, ac i'r Llywodraeth £ 4,000,000, ar yr adeg y credem fod eu cael yn hwylustod iddynt. Cyfanswm yr arian sydd gennym at ein Galwad neu ar Fyr Rybudd yw 48,651,000. Dau swm ag sydd o'r pwys mwyaf yr ochr yma i'r Fantolen yw ein Buddsoddion, a'r arian a roddir allan gennym i'n cwsmeriaid yn Fenthyg. Y mae cyfanswm ein Budd- soddion yn awr yn £ 39,000,000. Fel y mae yn hysbys i chwi, tuedd yn yr amseroedd anbyd hyn yw i werth marchnadol budd- iannau o'r fath ostwng ae i gyfarfod hyn fe gymcrasom allan o'n henillion y swm o 1640,000 i wneud y lleihad i fyny. Yn y cyfrif, dangosir y War Loan a brynnwyd gennym, yn ol yr hyn v# dalwyd am danynt. Os na chyfyd i'r pris hwnnw yn ystod y flwyddyn bresennol, fe ddarparwn ar gyfer y lleihad yn y cyfrif nesaf. O'r War Loan diweddaf fe gymerwyd i fyny L2 1,000,000 gan yr Ariandy hwn. 0 dan amgylchiadau cyffredin ni buasem yn cymeryd swm mor fawr, ond ystyriem mai ein dyledswydd oedd < gwneud yr hyn oil oedd yn ein gallu igynorth- wyo ein Gwlad, a gwn y bydd i chwi gymer- adwyo yr hyn a wnaed gennym. Chwi welwch yn y Fantolen y swm o il,490,000 War Loan ynglyn ag amcanion Cyhoeddus. Gan fod y farchnad arianol rhwng y wlad hon a'r America ar brydiau yn ansefydlog fe unodd wyth o brif Ariandai'r deyrnas i sicr- hau fod £10,000,000 o arian parod yn New York at eu gwasanaeth i sefydlogi'r farchnad pan fyddai angen. Allan o'r swm uchod at ddibenion Cyhoeddus y mae £ 1,100,000 yn y drysorfa a grybwyllwyd yn New York, ac y mae y Llywodraeth Brydeinig wedi ym- rwymo na bydd i'r Ariandy fod ar ei golled mewn un modd- Swm yr arian a roddasom yn fonthyg i gwsmeriaid ar ddiogelion yw 166,000,000. Cyfanswm ein biliau masnachol yw £ 10,000,000. Trown yn awr at gyfrif yr enillion. Y mae yr elw am y flwyddyn yn CI,130,976, o'i gymharu a il,106,808 y flwyddyn flaenorol. Fel, arfer, defnyddiwyd swm sylweddol gennym i chwyddo adnoddau mewnol yr Ariandy. Gan i ni gario £ 421,285 o enillion o'r cyfrif blaenorol y mae'r cyfanswm yn £1,552,261. Allan o hwn y mae'r cyfran-dal o 18 yn y cant am y flwyddyn yn cymeryd £ 745,803 defnyddir L642,860 i gyfarfod a'r gostyngiad ym mhris y. Buddsoddion cymerwyd £ 30,000 i adgyweirio a diddyledu'r Adeiladau ac ychwanegwyd y swm o -120,000 at gronfa Blwydd-dal y Swyddogion. Cariwyd y gweddill o ill3,597 i'r cyfrif newydd. Nis gallaf ddwyn fy sylwadau i derfyn heb gyfeirio at ein Swyddogion, gan gynnwys y rhai sy'n cario'r gwaith ymlaen gartref, a'r rhai sy'n gwasanaethu yn y Fyddin a'r Llynges. Y mae'r rhai sydd wedi aros gartref wedi gwneud eu gwaith o dan anfant- eision mawr yn ystod y flwyddyn, ac y mae eu sirioldeb a'u hunanaberth yng nghyflawn- iad eu dyledswyddau ychwanegol oherwydd absenoldeb eu cydswyddogion yn haeddu r ganmoliaeth uchaf. Y mae tua 1,850 o'n Swyddogion eisoes yn y Fyddin a'r Llynges, ac yn ol pob tebyg fe fydd Uawer yn eu dilyn cyn hir. Gofidus iawn yw gennyf orfod dweyd fod 46 o'n dewrion wedi colli eu bywydau wrth ymladd dros eu Gwlad ac yr wyf yn gwbl sicr eich bod yn cydymdeimlo yn ddwys gyda'u perthynasau yn eu prof- edigaeth. Er mwyn gallu cai-iolr gwaith ymlaen yn absenoldeb cyaifer o'r dynion. yr ydym wedi sicrhau gwasanaeth tua 1,300 o ferched, ac y mae'n hyfrydwch gennyf allu tystio fod y boneddigesau ieuainc hyn yn gwneud eu gwaith yn wirioneddol dda, ac yn rhoddi i ni bob boddlonrwydd. Yn ychwanegol at hyn, yr ydym wedi cyflogi llawer o ddynion o dan a thros yr oed milwrol. Y mae'r gost ychwanegol o dalu i Swyddog- ion riewyddion i lenwi lie y rhai sydd yn y rhyfel yn golygu i'r Ariandy y swm o £ 130,000 yn y flwyddyn, ac yn ol pob argoel fe a y swm hwn ar gynnydd. Ar yr un pryd yr ydym yn talu cyflogau y rhai sydd gyda'r Fyddin a'r Llynges, ac yr ydym yn teimlo'n sicr fod hyn yn unol a dymtmiad cyffredinol y Cyfranddalwyr. Carwn hefyd egluro fod yr Ariandy bob amser yn talu Treth yr Incwm dros y Swyddogion ar eu cyflogau, a phan ,?,floga,u, a p l i;-Art gofu' am y codiad mawr sydd wedi cymeryd lie yn y Dreth hon yn ddiweddar fe welir fod hyn yn fater o gryn bwvs. Grobcithiaf yn fawr y cynhelir ein cyfarfod blynyddol nesaf o dan amgylchiadau llawer mwy dymunol, y bydd ein Gwlad wedi dod allan yn fuddugoliaethus o'r rhyfel arswydus a chreulon preaennol ac y bydd yr Ariandy hwn, gyda chydweithrediad Ariandai eraill, wedi llwyddo i gadw "Llimdain yn ganolbwynt ariannol yr holl fyd, Felly yr ydwyf yn cynnyg fod Adroddiad y Cyfarwyddwyr a Mantolen y Cyfrifon am y flwyddyn yn eael eu mabwysiadu. JEiliwyd hyn gan Mr. W. G. Bradshaw, is- gadeirydd yr Ariandy, a char iwvd yn un- frydol. Ail etholwyd fel Cyfarwyddwyr, Mr. Thomas Royden t Syr Percy Elly Bates, Barwnig hefyd yr Archwilwyr, Mri Whinney, Smith & Whinnev. Ar ol i'r dxolohiadau arferol gael eu cyf- hvyno i Gadeirydd yr Ariandy, Bwrdd y Cyfarwyddwyr, y Rheolwyr, a'r Swyddogion eraiU, terfynodd y cyfarfod drwy gydnabydd iad brwd i'r Cadeirydd am lywyddu.

. EISTEDDFOD Y PLANT,

Gorea Cymro, yp an Oddieartee…

Advertising

Heddyw r Bore

Advertising