Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Mr GOSTEG. ]

DYDDIADUIl. I

Gyhoeddwyr y Cymod !

Advertising

Heddywr Bore I

Advertising

fo Big y LLleifiad.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

I ParJiad o tudal 7 CYNGERDD DONALDSON STREET—Llwydd- iant digymysg fu gwyl de a chyngerdd blyn- yddol eglwys Donaldson Street, prynhawn a nos Sadwrn ddiweddaf, a'r hin o'n tu i gael cynhulliad Iluosog. Wedi gwneud y goreu \1' danteithion a huliai'r byrddau, yr oedd pawb mewn hwyl i fwynhau'r canu. A chanu tan gamp a gafwyd hefyd, gan Miss Maude Jones, soprano Miss Annie Hughes, con- tralto Mr. Griff Owen, tenor; a Mr. E. Walter Williams, baritone. Rhwng rhagorol- deb y canu, a gwerthfawrogiad y gynulleidfa ohono, bu raid cael dwy gan am bob item oedd ar y rhaglen. Dal i ddringo a gloewi y mae Miss Annie Hughes, nes bod beHach yn un o oreuon y d.dinas a'r cwmpasoedd. Ynganed hi ei geiriau bob amser fel y gwna yn awr, ac fe bentyrrir clodydd ar ei phen. Ni chlywsom Griff erioed yn canu'n well, yn enwedig ei ddatganiad ilawn ysbrydiaeth o The Veteran's Song. Newydd i ni ydoedd y ddau arall,ond da fydd gennym eu clywed eto, —rhagddynt yr elont. Miss Jennie Jones, Donaldson Street, gyfeiliai, ac a roes unawd ar yr offeryn yn swynol odiaeth. Mr. Rees Jones, Birkenhead, oedd yn y gadair, a'r Parch. D. Davies a Mr. Humphrey Jones yn diolch. HIRAETHTJ AM RHYS ROBERTS.—Loes drom i hawb a'i liadwaenai oedd clywed i'r cyfaill hawddgar a siriol Rhys Roberts (un o filwyr y Liverpool Pals ") golli ei fywyd ar feysydd Ffrainc damwain fu, sef ffrwydriad bomb, ac a'i lladdodd ef a dau arall ar amrant- iad. Chwith yw'r atgof amdano efe'xi Ilano gyda'r harddaf a mwyaf golygus a welwyd un amser yn rhadlon a serchog ei natur canu lond ei galon a'i rodiad a'i fuchedd yn batrwm. Daeth i Bootle oddeutu pum mlyn- edd yn ol, o Nant Gwyiiant, Arfon mab ydoedd i Mr. a Mrs. Wm. Roberts, fferm y Bwlch. Yr haf diweddaf, priododd a Miss Edith M. Griffiths, ail ferch Mr. a Mrs. William Griffiths, Derby Road gynt, Benllech yn awr. Ymunodd a'r Fyddin ar ddechreu'r rhyfel aeth gyda'i gatrawd i Ffrainc rai misoedd yn ol, gan gychwyn yn siriol a diseremoni a thrist i'w gyfeillion lu feddwl rhoi'r wyneb hoffus o dan y gro mor gynnar, mewn gwlad estronol, a gysegrir y dyddiau arswydus hyn a gwaed cynifer o'n dewrion. Cydymdeimlir yn ddwys a'i weddw yn yr alaeth du hwn sydd wedi dyrysu bywyd ac a'i rieni hoff; dyma y trydydd mab a gollasant yn lied ddiweddar. Aelod yn eglwys M.C. Stanley Road oedd ein cyfaill, ac yn fawr ei barch yno. Mae pedwar ugain o'r eglwys wedi ateb galwad eu gwlad efe yw'r cyntaf i gwympo ar faes y frwydr, er y y bu eraill trwy gryn enbydrwydd. Boed yr Aden Fawr drostynt; cu iawn ydynt gennym. Cafodd ei briod lythyr tirion a dwys iawn ei gydymdeimlad oddiwrth y Parch. Linton Smith, caplan yr, 89th Brigade wele ddarn o hono That afternoon I laid him and his friends to rest in the beautiful little military cemetery which has been formed near by, and which after the war will become British property, so that the graves will H always be cared for. A carefully made cross with full inscription marks each grave and I shall be personally res- ponsible, as long as I am here, for seeing that the cemetery is kept in proper order." Hefyd oddiwrth E. W. Willmera'r 2nd Lieut. A. J. Draper a dyma lythyr y Capt. Priest- ley 17th January, 1916. DEAR MRS, ROBERTS, I feel that I must send you a few lines to say how much we all feel the loss « of your husband, and to assure you that we all sympathise with you in your great bereavement. He was one of the best men in my company. Always cheerful and ready to do anything to help others and I fear it is only too true that it is the best that are taken first. I often stay in "Anglesey, at Rhosgolyn, near Valley and if I have the good fortune to return safely, I hope to call and see you per- sonally. With kindest regards and sin- cere sympathy from every officer and man in my Company.—Believe me, dear Mrs. Roberts, very sincerely yours, T. PRIESTLEY, Captain, King's Liverpool Regt." SERPENTINE ROAD, EGREMONT.—lonawr 14, caed dadl frwd ar A yw y Gwareiddiadpres- ennol yn Iwrop yn fethiant ? Cadarnhaol, Mr. Edward Thomas nacaol, Mri. Iorwerth Williams ac Alun Macdonald. Cymrwyd rhan bellach gan Mri. W. Madoc Jones, John Edwards, a J. A. Rosser. Llywydd, y Parch. R. W. Davies. Ddydd Mawrth diweddaf, rhoddwyd gweddillion Mrs. Elin Williams, gweddw Mr. Owen William, pier master Sandon Dock, i orwedd yng nghladdfa y Rhyl. Bu Mrs. Williams yn aelod hardd yn Cranmer Street ae Anfield Road ond yn y blynyddoedd diweddaf, trigai gyda'i mab Mr. Thomas Williams, Elm Grove, Birkenhead, a mynych- ai eglwys Willmer Road. Yr oedd yn wraig ddiddan a thyner dros ben er fod pwysau 84 mlynedd ar ei hysgwyddau, deuai, hyd o fewn ychydig wythnosau, i'n plith yn gyson gyda'i sirioldeb arferoL Yr oedd rhodiad ei f bywyd yn bur. a gwir grefydd oedd prif wrthrych ei hymroad, a'i hyrnddiddanion bob amser oedd am y Gwaredwr. Cyfiawnder a ffyddlondeb oedd y rheolau aur y cysegrodd ei hoes faith i'w dilyn, fel yr oedd yn hollol aeddfed i fynd adref yn wir, ei dymuniad oedd am fod gyda Christ, canys llawer iawn gwell ydyw." Mae cydymdeimlad yr eglwys a'r teulu trallodus yn ddwfn a chywir.—T.D, GREAT MERSEY STREET.—Bu Dr. Peter Price, M.A., y Rhos, yn ymweled a Great Mersey Street nos Sadwrn ddiweddaf, yn tra- ddodi darlith ar Deyrnas Nefoedd yr elw i gynorthwyo hen aelod ffyddlon o'r eglwys sydd dan afiechyd blin ers tua dwy flynedd a'r Dr. yn rhoddi'r ddarlith yn rhad ac am ddim, Cynhulliad da, a llu o weinidogion y gwahanol enwadau yn y ddinas yno, ac wele mor dda oedd trigo o frodyr ynghyd. Sylwyd yn ystod y cyfarfod gan y Parch. J. Owen fod poblogrwydd a brwdfrydedd y cyfarfod yn awgrymu adgyfodiad y ddarlith i gael ei lie eto ym mywyd y genedl. Robt. Roberts, Y.H., Judges Drive, a lywyddai; a sylwodd fod ganddo deimladau cynnes at eglwys Great Mersey Street—llawer o atgofion byw ganddo am y gorffennol, ac yn neilltuol am yr hen weinidog ffraeth, y Parch. Wm. Roberts. Sylwodd y darlithydd fod Teyrnas Nefoedd yii cl estyia a gafodd yn destyn a gafodd sylw mawr y prif ddysg- awdron ar hyd y cenedlaethau, a choleddir gwahanol syniadau am ei hystyr. Llawer ymgais fu i ddeall Teyrnas Nefoedd, ond y mae'r byd ymhell o feddu adnabyddiaeth gywir o'i wir ystyr. Yng ngrym a gwres y profiad dynol y mae yn cael ei adeiladu. Termau yn rhoddi allan y tueddiad hwn yw hapusrwydd, dedwyddwch, gwynfydedig- rwydd neu fyd gwyn dyma'r nod y mae dynoliaeth yn dyheu am ei gyrraedd, y reality mawr y mae yn sychedu amdano. Y mae Sosialaeth Gyfundrefnol yn amcanu lliniaru anghenion cymdeithas, drwy ddiwygio ei hamgylchoedd, ond ni chyrhaeddir y Gwyn Fyd ond drwy egwyddorion mewnol, moesol, a thragwyddol. Yr unig Sosialaeth y mae'r Doctor yn credu sydd gywir yw yr hon sydd yn rhoddi Tadolaeth Duw yn ganolbwynt iddi; wedi hynny, medd ef, daw brawdol- iaeth ddynol, cydraddoldeb a gwasanaeth, yn eithiau byw yn y bywyd cymdeithasol. Y Parch. J. Owen yn cynnyg diolchgarwch i'r areithydd, gan sylwi ein bod wedi cael gwledd doreithiog a'r Parch. D. Adams yn dweyd fod yn amlwg fod y Doctor wedi bod o dan ddylanwad dysgeidiaetli y Proff. Henry Sidgwick a'r meddylegwyr diweddar.—Bore Saboth, pregethodd Dr. Price bregeth ar yr Ysgol Sabothol, ar y geiriau Pwy bynnag a dderbynio y bachgennyn hwn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i." Sylwodd fod y plentyn wedi cael ei esgeuluso hyd yn ddiweddar gan yr Eglwys Gristnogol. Ni roddodd y Piwrit- aniaid ei le priodol i'r plentyn yn yr Eglwys. Credent fod y plentyn, oherwydd pechod ein rhieni cyntaf, o dan farn condemniad, a gad awodd athrawiaeth "Llygaid llwyr yr hil ddynol ddylanwad andwyol ar fywyd y plentyn am genedlaethau. Ni fu erioed fwy o gamsyniad rhoddodd Crist y plentyn yn ei le. Fe gymerth fachgennyn a gosododd yn ei ymyl." Ac nid oedd gan neb hawl i gym- ryd y lie hwn oddiarno Crist a'i rhoddodd yno, ac ni fu neb mor gyfaddas a'r plentyn i ddangos Crist i'r byd. Yr oedd diniweid- rwydd a hunananghofrwydd y plentyn yn ddarlun mwy byw na dim arall i fod yn ddrych o ddysgu Crist i'r byd.—Yn yr hwyr, pregeth- odd ar Ti a gedwi mewn tangnefedd hedd. ychol yr hwn sydd a'i feddylfrvd arnat ti." Dyma r hyn y mae'r byd yn llefain amdano heddyw, ynghanol ei ofid a'i wae, yn anes- mwyther y cyfnod hwn, sef Tangnefedd. Y mae y proffwyd yn son yma am dangnefedd heddychol, neu Dangnefedd Tangnefedd, yn nwydd gwirioneddol. Y mae'r Tangnefedd hwn i'w gael heddyw i'r hwn sydd a'i feddyl- fryd ar yr Arglwydd y mae'r awyddfryd yma'n golygu diogelwch yr hunan. Y mae'n rhaid i ddyn ddiogelu ei hunan ei mwyn dio gelu arall y mae tuedd yn y cyfnod presennol i ddiddymu yr hunan (the annihilation of self) y mae'n cael ei bwysleisio mewn llenyddiaeth ddiweddar. Credai y Doctor na fu erioed fwy o amryfusedd, oherwydd y mae pob dyn yn ei bwyll yn credu ac yn caru llawer arno'i hun oddiyma y mae posibilrwydd iachawdwriaeth bersonol, ac o ddyfnder gwres y cariad sydd yn yr hunan y mae'n bosibl iddo estyn y cariad allan ohono ei hun, the extended self: y mae meddyleg ddiweddar yn pwysleisio'r nodwedd hon, er i'r Dr. gyd- nabod yn ddistaw mai philosoffi newydd sbon o'i eiddo ef ei hun oedd y resymeg gref hon yr oedd yn ei dadrys mor fedrus.—Prynhawn Saboth, cafwyd Cyfarfod Ysgol llwyddiannus Dr. Price yn holi'r plant yn Hanes Iesu Grist yn porthi'r Pum Mil. Yr oedd yn ei elfen gyda'r plant, a'r plant yn eu hafiaith yn ateb. Adroddwyd pennod gan Miss Elsie Foulkes a Miss Hughes (Anfield Road), yn rhagorol, a holwyd y rhai mewn oed ar Gyffesiad Petr gan Mr. Price. Yn ystod y cyfarfodydd, canwyd unawdau gan Mr. Jere Jones, Miss Maggie E. Roberts, a Florie Williams, o Talsarn, Arfon a'r organydd, Ed. H. Edwards, yn cyfeilio. WEBSTER ROAD.-Nos Iau ddiweddaf, cafwyd darlith ar John Jones Pregethwr, gan y Parch. O. L. Roberts, y Tabernael. a'r elw i Gangen Chwiorydd y Genhadaeth Dramor. Er nad oedd y cynhulliad yn lluosog iawn, hyderwn y cafwyd ychwanegiad sylweddol at y cyllid. Cadeirvdd, Mr. John Fdwards, Anfield Road, a gwnaeth ei waith yn rhagorol, drwy fod yn fyr a haelionus a diolchwyd iddo ef a'r darlithydd gan y Parch. W. Owen a Mr. J. Jones, Mayfield. Sylwodd Mr. Roberts mai ar y Cymro fel pregethwr a'i wasanaeth i'w wlad yr oedd am gyfeirio ei sylwadau a buan yr aeth yr awr a hanner heibio. Yn ystod y dau gan mlynedd diweddaf, y pregeth- wr yw'r ffigiwr amlycaf yn holl gylchoedd Cymru i'r pregethwr yr ydym yn ddyledus am y papur newj dd a'r cylchgrawn ac yn yr amser a fu, y pulpud oedd y lie rhwyddaf i dalent Gymreig fynd iddo, ac fe gafodd hufeft y y genedl am amser maith. Un o'n diffygion yw'n hanwybodaeth o'n dynion mawr, a dynion felly oedd yr hen bregethwyr os yn- uniaith yn ami, yr oeddynt yn llawn athry- lith er hynny, ac yn meddu amryfal ddoniau y weinidogaeth, megis y dawn disgrifiadol gan Hiraethog, Edward Matthews a Penry Evans y dull areithyddol gan John Elias a John Jones Talsarn a'r wedd ymddiddanol gan Joseph Thomas a J.B. A chawsom ni heno, y rhai na chafodd y fraint o glywed y cewri hyn, ryw syniad drwy ddynwarediad Mr. Roberts o'r dull effeithiol y evfiwynent yr Efengyl.T.J.CT. Bu priod Mr. John Williams, 33 Skerries Road, Anfield, farw lonawr 16, ac a gleddid ddydd Iau diweddaf ym mynwent Anfield. Yr oedd hi yn ei 64ain flwydd, ac yn aelod dichlyn a duwiolfrydig o eglwys^M.C. Anfleld. Cydymdeimlir yn ddwys a'i phriod yn ei drist- wch. Gweinyddwyd yn y ty cyn cychwyn gan y Parch. J. Owen, a daeth tyrfa fawr o gyfeill- ion a chydnabod i'r angladd. Gorchuddid yr arch a wreaths, ac wele'r prif alarwyr :—Mr. J. Williams (gweddw), Mr. H. Williams (brawd, yng-nghyfraith), Mrs. Hughes, Miss Jones, Miss M. E. Williams, Mr. a Mrs. Williams, Mrs. Jones (chwaer), Mr. Wm. Roberts, Mr. a Mrs. Tenwold, Mri. R. R. Jones (Birken- head), J. H. Jones, W. Venmore, Rd. Will- iams, J. Edwards, R. Roberts, Inspector Jones, Cernyw Jones a Mrs. Cernyw Jones, Mri. Roberts, R. T. Williams, Dr. G. Morris, Miss Annie Roberts, Miss M. Jones, Mr. a Mrs. H. Thomas, Mr. R. Jones, Mr. Thomas, Miss Peters, Mri. J. Vaughan Hughes, Stephen Williams, J. C. Williams, Mrs. R. Williams, Mr. a Mrs. Lamb, Miss Appleyard, Miss Alice Williams, Mrs. S. Evans, Mrs. J. Thomas, Mr. R. H. Williams, Mrs. Wilfrid Jones, Mr. W. Edwards, Mr. Evan Williams, Mrs. Jones, R. H. Williams (Walton), Mr. 0. MorrIs, Mr. a Mrs. 0. Roberts, Mr. J. Davies, Sirs. Hulton, Mrs. Hughes, Mrs. J. Hughes. Mr. J. Owen. Trefniadau'r claddu yng ngofal II Mr. P. Lloyd Jones, Stanley Road. -0-