Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

fo Big y LLleifiad.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

fo Big y L Lleifiad. Llawlyfr ar y Gwyrthiau rhaid ei fod yn dda, gweinidogion y gwahanol enwedau a chlerigwyr yn ei ganrnol, a'i brvnu. Gwel td. 8. I COFIWR BEDDGELERT.—Y mae'n cymydog cerddgar, Mr. M. W. Humphreys, Garston, wedi ysgrifennu ei gofion bore oes am Feddgelert yn gyfres o benodau addas i'w cyhoeddi'n llyfryn darluniedig. Efe'n hysbys fel canwr poblogaidd, fel traethwr diddan ar hen ganeuon ein gwlad, a bias yr Wyddfa a Beddgelert arno fo a'i bethau bob amser. Y mae ar Lannau'r Mersey ers pum mlynedd a deugain neu fwy bellach, ond a ddeil mor llawn o Nant Gwynant ag ydoedd y dydd y daeth yma'n grwt. Y mae cryn son drwy'i benodau am Hafod y Llan—amaethdv enwog Diwygiad Mawr 1817 oes, ac o son hefyd am hen flaenoriaid gwreiddiol godre'r Wyddfa yr adeg honno, ac am ambell hen chwaer wledig oedd a digon o ffrwt ynddi i godi a rhoi gwers gartrefol i bregethwr ar ganol ei bre- geth,—megis honno a eisteddai dan y pulpud, ac a gododd i ddwrdio'r efengylydd am ffrothio am ei phen wrth lafoeri yn ei hwyl. Ie, oes braf, heb na lol na rhodres, oedd yr oes honno, na dim o'r gwastadeidd. iwch a'r mistaru coeg-fonheddig sydd ar bob genau ohonom heddyw. CROESWCH EBE'R SAINT.- Y mae'n anodd peidio a dyfynnu'r pwt a ganlyn o un o benodau Cofiwr Beddgelert, sef disgrif- iad Mr. Humphreys o'r sut cartrefol y telid arian y weinidogaeth yn y wlad yr adeg honno ac y gwneir eto o ran hynny mewn ambell gapel mynydig a diarffordd :— Dygid y llyfr mawr i'r bwrdd, a galwai'r ysgrifennydd enw a phreswylfod pob aelod yn ol eu trefn Atebai pawb i'w enw gydag un gair Croeswch Ond os na fyddent yn cofio maint eu dyled, gofynnent ar goedd Faint sydd yna ? Atebai yntau Pedwar (os pedwar "fyddai). Croeswch dri,' meddai'r aelod, gaii adael un hyd y tro wedyn. Yr oedd swyddog arall ar ei draed wrth ochr yr ysgrifennydd, a dwy bowlen wen o'i flaen.uii i ddal y pres, a'r llaIl yr arian gwynion. Cerddai pob un at y bwrdd i gyfrannu ei rodd,-rhai yn dod yn araf a defosiynol, eraill yn ffwdanllyd a thryst- iog rhai eisiau newid, eraill yn chwilio'n drafferthus am y darn priodol o hen god hir oedd wedi dal gwerth llawer gyr o ddefaid." Gwyn fyd yr hen bobl a'u ffordd gartrefol o offrymu i'r Goruchaf a'i Achos, heb feddwl am eu henwau yn yr adroddiad na dim. -4- lIELP A CROSSHALL.—Da gennvf glyw- ed am yr hwb ariannol a gafodd eglwys Crosshall Street drwy'r cyngerdd nos Nadolig —gyda'r mwya'i dyrfa a'i elw o'r un cyngerdd ers blynyddoedd lawer. Chwi synnech pe dywedwn y swm wrthrych. Dyma dri pheth a barodd hynny (1) swyn a safon y cantor- ion, y ddwy o Fanchester a Llundain yn enwedig; (2) fod y noson yn glir o groes- gyrddau mewn mannau eraill a (3) fod pawb yn credu y dylai'r hen Ball Mall gael pob cefnogaeth am gadw'r drws yn agored i ffyddloniaid godre'r ddinas. -0- PLANT Y P ENTRE.-Clywais Gov Merched hysbys Plant y Pentre yn y Picton nos Fercher ddiweddaf, yn cadw cyngerdd o dan arweiniad Mr. T. J.IO. Jones, F.R.C.O., L.R.A.M., a; Miss Nellie Edwards yn cyfeilio. Cynulleidfa dda, a brithiad o Gymry yn gym. ysg a channoedd o Saeson, neu beth bynnag oeddynt. Dyma'r darnau a ganodd y c6r The Tree (Silver); Sunshine and Butterflies (Bunning), encor; Sunbeams (Lindon Ronald); a'r Scotch Rhapsody (Vincent), Canu coeth, disgybledig; ac yn dilyn awgrym Haw a llygad yr arweinydd yn hyt- rach nag ymollwng ar ol eu teimladau a'u hangerdd enaid hwy eu hunain. Cyd-godent, cyd-ganent, ac ymddygent fel rhai dan hud a chyfaredd gwr y batwn bob darn. Y mae yna lawer wyneb newydd yn eu mysg bellach, a llawer wyneb cynhefin wedi diflannu. Un o'r pethau a fwynhawyd fwyaf oedd yr ar- weinydd wrth y piano, ac a'i mynnwyd yn ol i'w ganu eilwaith. Dyna encor cryf a di. gamsyniol hefyd a gafodd Mr. Arthur Llewel- yn, efe a'i grwth brawd y fo, onite ? i Mr. R. T. Edwards, codwr a chyn-arweinydd C6r Plant hyglod y Pentre. Fel tipyn o amryw- iaeth, cafwyd Mr. J. Foster Kershaw yno, yn y rhan gyntaf a'r ail, i ddynwared ca,ntorion po blogaidd a llyfn y Music Hall ac yn y blaen ac ni chlywsom ddim medrusach na mwy eyf. oriog o ddeunydd chwerthin iach a llednais ers blynyddoedd ao am ei bortreiad o'r hen filwr pedwar ugain oed, wrth anghofio'i stori, a throi ei wyneb yn lle'i gefn at yr Angau pan ddaeth yno i'w nol, fel gwas y "Greatest Commander of all," chwedl yntau am ei Dduw,—oedd, yr oedd yn em o ber- fformiad, ac yn mynd at galon y caletaf yn y He, pwy bynnag oedd hwnnw. Canodd Master Glover hefyd, sef y bachgen-soprano Misses Lilian Riley, Gertrude Swinburne, Amy F. Smith, Alice Wilkins, Ireiie Wilson, ar rhain ar y piano Misses May ac Evelyn Cooke, a'r Misses L. a C. Robertson. Ein llongyfarchiadau diragrith i'r arweinydd ar safon y canu; ac ar ei ffordd ddifalch ddirodres o fynd ynghylch ei bethau. Y fo, fel y gwyddis, yn un o blant yr ail genhedlaeth yn Lerpwl; yn organydd eglwys blwyf Bir kenhead ac yn bianydd a cherddor talentog anghyffredin. •&- YR HEN WLAD MOR GU 0 BELL.- Dyma damaid o ganol llythyr Mr. John Huw Williams, mab i Bedr Hir sydd yn un o uch- swyddogion, peiriannol Ffordd Haearn Han- kow, China, ac a ddengys mor gu yw Cymru a'i hiaith i'r plant a fagwyd yn serchog ati ar yr aelwyd gartref Diolch i chwi am Y BRYTHON. Y mae dar. lien barddoniaeth Pedrog wedi taflu rhyw hiraeth a thristwch rhyfedd drosof heddyw. Y mae rhyw ysbryd o deimlad yn yr iaith Gymraeg sydd yn cymryd gafael yn y galon mewn dull nad all unrhyw iaith arall. Y mae cysur er fod cwyn. Oni chlywsoch o'i loe.sion. Emynnau hedd mwyna' hon Emynnau lion min y lli' Oedd adenydd o dani. Dyna gysur yn wir, ond cysur sydd yn peri rhyw hiraet,h annisgrif arnaf heno oherwydd ei hiaith-iaith crefvdd ac iaith teimladau dwys, nid iaith byd a masnach. Y mae ei wlad, i Gymro, yn fwy o gartref nag yw ei wlad i ui rhyw un o genedl arall." Gwir a ddwedwch, John Huw bell, LLI WR GENEDL AR EI CHREFYDD. —Yn o'r anerchiadau goreu a glywyd ar y Glannau ers talm ydoedd Crefydd a Gwareidd- iad, sef gan y Parch. J. Roger Jones, B.A., gerbron Cymdeithas Lenyddol Wesleaid Ser- pentine Road nos Wener ddiweddaf y Parch R. W. Davies yn y gadair a'r Mri. J. H. Jones, Aneurin Rees a Mrs. (Dr.) Williams yn datgan eu boddhad mawr, a'u diolchgarwch cynnes amdani ar y diwedd. Siaradodd am awr heb fripsyn o bapur na phall am air na chymhariaeth a'r meddyliau trymion yn cael eu hysgafnu a'u goleuo draw ac yma ag I ambell fflach o hiwmor a chrafiad direidus. Dangosodd mai cyinhathu (assimilate) ac pid dileu (exterminate) teithi meddwl a chymeriad y cenhedloedd a'i mabwysiadai yr oedd Crist- nogaeth ac fod lliw defosiwn yr Iddew, lliw treiddgarwch athronyddol y Groegwr, a lliw cyfraith a deddf Rhufain ar y Testament Newydd ac ar ddiwinyddiaeth a ffurflywodr- aeth yr eglwys. Gan ddod i lawr drwy'r can- rifoedd, a'r prif wledydd yn eu perthynas a'r pwnc dan sylw, daeth at Brydain a Chymru. Y mae delw'r Sais ar ei eglwys; ac yn Lloegr- ie, yn Lloegr, cofiwch !-y mai hi yn Eglwys Genedlaethol, gydnaws ag anian y genedl; ond Estrones yw hi yng Nghymru, am ei bod hi'n oeraidd a dirmygus o bethau annwyl y genedl, ac yn ceisio'n gorfodi drwy rym cyf- raith i ddygymod a ffurf wrthnaws ac anghen- edlaethol ar grefydd. Dyna wir wreiddyn y waedd am Ddadgysylltiad. 0 r pedwar enwad Ymneilltuol Cymreig, y Methodistiaid Calfinaidd ddaw nesaf i fod yn deilwng eu galw'n Grefydd Genedlaethol, er nad yw yntau'n gwbl felly. Yr ydys eisoes yn pre. gethu'r un peth yn union, pam nad allwn ganu'r un peth hefyd, sef drwy gytuno ar un llyfr emynau, wedi ei nithio o'r emynau hynny sy'n costrelu'r idiosyncracies enwadcl acathrawiaethol? Dylem wahodd pregethwr teilwng pob enwad i gyd-bregethu ymmhrif- wyliau'r Cyfundebau a chyfathrachu ac ymgydnabyddu a chydgrynhoi nerthoedd yr Eglwys ar iachawdwriaeth y genedl nes bod mewn gwirionedd yn Eglwys Genedlaethol, o ran grym a llydanrwydd ei chenadwri. 0- CYFRANNWCH, RHAG ICHWI FYND YN DLA TVD.-Ebe'r Parch. R. J. Williams -sof ysgrifennydd Cenhadaeth Dramor y Methodistiaid-yrt un o seiadau'r cylch Gobeithio nad ewch chwi ddim yn rhy frysiog drwy'r Maes Llafur pan ddeloch i'r wythfed bennod o'r Ail Lythyr at y Corinthiaid, canys nid yw tlodi ynddo'i hun yn un rhwystr i gyfrannu,—mae modd bod yn rhy gyfoethog i feddiamau ysbryd rhoddi. Ebe rhywun wrth Gang- hellor y Trysorlys Mae arnaf ofn y bydd pobl Prydain yn dlawd iawn wedi'r rhyfel.' Byddant,' ebe'r Canghellor cyn dloted ag oeddynt yn y 40's.' Ond "cofiwch chwi yn y seiat yma mai yn y 40's y sefydlwyd y Genhadaeth Dramor. Ac fe wyddai Paul am beth tebyg, canys, meddai Yr ydym ni yn hysbysu i chwi frodyr, y gras Duw a roddwyd yn eglwysi Macedonia, ddarfod, mewn amryw brofiad eystudd, i helaethrwydd eu llawenydd '4 hwy, a'u d wfn dlodi, ymhelaethu i gyfoeth I eu haelionj hwy." AT BUMGANT Y MOTOR AJBU.I LANCE ETO.— Mri. W. a J. Venmore 10 10 0 X.Y.Z 5 0 0 Mr. E. Jones, Penrhos, Llanfechell 3 3 0 Mr. A. R. Price. 2 2 0 Mr. J. T. Jones, Cheltenham Av. 110 Mr. J. J. Williams, Argyle Road 110 Mr. R. R. Douglas j 0 0 Mr. G. H. Edwards 1 1 o Mr. Evan Evans 110 Mr. Samuel Evans, Anfield Road 0 10 6 Mr. H. Parry Jones 0 10 0 Mrs. Drinkwater 0 2 6 Plant Ysgol Sul Stanley Rd.M.C. 2 10 3 Newsham Park eto 2 1 6 Great Mersey St. (A.) eto 0 7 2 MYND I LYGAD Y FFYNNON.— Ffrwyth y cyfarfod o Gymry'r cylch a gynhal- iwyd yn swyddfa Mr. David Jones, Elder, Dempster & Co., ddydd Mercher diweddaf, fu gosod ar Mr. W. O. Thomns, Anfield-(sef y gwr a fu'n gyfarwyddwr a chyfryngwr rhwng ymrestrwyr Cymreig Lerpwl a'r awdur- dodau milwrol)-i fynd i Lundain i weld yr Aelodau Cymreig ac eraill, a chael gwybod gan y Llywodraeth pam y torrodd ei gair, sef y caffai'r Cymry a ymrestrent yn Lerpwl ymuno a'r catrodau Cymreig, yn lie gorfod ymuno a'r catrodau lleol SeisDig, y King's, Pals, ac yn y blaen. Aeth Mr. Thomas yn syth o'r cyfarfod bu yn y Ty ac a welodd Mri. D. Davies, Ellis W. Da vies, a G. C. Rees. Cafodd groeso cynnes eithriadol gan y ddau olaf, a phob rhwyddineb i gael cyfle i osod ei achos gerbron yr awdurdodau goruchel. Cyflwyn- wyd ef i Mr. Tennant, is-ysgrifennydd Swydd. fa Rhyfel; ac wedi holi ac ttteb o'r ddeutu, llwyddodd mewn byr amser i gael newid y gorehymyn a gawsid ydiwrnod cynt yn Lerpwl, ac i adnewyddu a chadarnhau'r gor- chymyn cyntaf, sef fod caniatau i bob Cymro a ddymnnai hynny gael ymuno a'r catrodau Cymreig. Dyna' r goreti o fynd i lygad y ffynnon, mynd heb golli amser, a rhoi'r neges yng ngofal dyn na fyn ei droi draw gan sych. wep neb pwy bynnag, os bo ar yr iawn. Dymunir arnom hysbysu y byddai'n ddai iawn gan y Royal Anglesey Engineers gaei bechgyn y crefftau adeiladu ac yn y blaen ymuno a'r gatrawd honno. HYN AG ARALL- Y mae Mr. J. H. Lewis-y shipping agent hysbys, a chyn-ysgrifennydd Undeb Ysgolion M.C. Lerpwl a'r cylch—wedi ymadael i'r Brifddinas, gan ymadaelodi, efe a'i briod, yn eglwys Willesden Green. + Da gennym ddweyd fod Mr. David Hughes, Duke Street, Birkenhead, yn graddol wella o'r ddamwain ofidus y cyfarfu a hi dair wythnos yn ol drwy gwympo ar drothwy grisiau ty cyfeillion iddo yn Claughton Road. Y fo'n naw mlwydd a phedwar ugain oed y mi a nesaf; yn aelod yn eglwys M.C. Parkfiela < ac yn un o'r Cymry puraf a xnwynaf ar Lannau'r Mersey. Drwg gennym glywed am gystudd Mr. Edward Parry, trysorydd eglwys Great Mersey Street. Efe'n gorwedd ers deufis, ac yn ei chweched flwydd a phedwar ugain. Caffed yr hen gyfaill ffyddlon adferiad eto i'w hen rodfeydd gyda'r Achos Goreu. -s<- DAU TU'R AFON. KNOWSLEY ROAD.-Nos Fercher, y 19eg, cynhaliodd Wesleaid Knowsley Road gyng- erdd mawreddog; cadeirydd, Mr. T. H- Ntffcherton, yr hwn a wnaeth ei waith yn rhagorol. Dyma'r rhai a wasanaethodd sopranos, Misses Lena Weale a Katie Jones contralto, Miss Annie Hughes, Lerpwl, tenor, Mr. Griff Owen, Lerpwl, a ø. Joner-i Pen y groes baritone, Mr. Griff J. Roberts, Bootle (Talysarn gynt). Gwnaeth y cwbl eu gwaith i fodlonrwydd cvfEredinol,dau"n neilltuol, datganiad Griff Owen o There's a land, a datganiad Griff J. Roberts o Gwraig y Morwr hefyd yr oedd datganiad o'r ddeuawd Plant y Cedyrn gan y ddau Griff, y peth goreu a glywais ers llawer dydd. Adroddwyd hef- yd yn rhagorol gan Mr. G. Stone, Bootle. Diolchwyd yn gynnes i bawb fu a rhan i wneud y cyngerdd yn llwyddiannus gan y Parch. R. W. Jones, y gweinidog.-Un oedd yno, ORRELL.—Cynhaliwyd cyngerdd nos Fawrth yn yr ystafell genhadol yr ystafell dan ei sang, a mynd rhyfeddol ar bopeth Daeth llu yno i gynorthwyo'r plant, ac yr oedd eu gwasanaeth yn gymeradwy iawn. Llywyddwyd yn ddeheig a haelionus gan Mr. J. C. Roberts, Walton Park Miss Maggie Edwards yn cyfeilio a Mr. David Ellis a'r Parch. R. W. Roberts, B.A., B.D., yn diolch i bawb.-Y Saboth, cawsom gyfarfod ysgol Ileol, yr undeb Ysgolion wedi anfon Mr. D. C, Roberts, Douglas Road, a Mr, Cledwyn H Hughes, Princes Road, i ymweld a'r Ysgol. Dechreuwyd gan Mr. Hughes; holwyd y plant o'r Rhodd Mam gan Mr. D. C. Roberts a'r bobl mewn oed gan Mr. Hughes. Cafwyd anerchiadau gan amryw gyfeillion o'r lie, a chan y ddau frawd dieithr. Mr. D. C. Roberts wedi bod yn un o blant ffyddlon yr Ysgol yma am flynyddoedd. Canwyd hefyd amryw donau gan y plant, o dan arweiniad Mr. R. Roberts, ac adroddwyd fy Salm sydd yn destyn cystadleuaeth y cyd-adrodd yn Eis- teddfod Plant Bootle y Sadwrn nesaf, ac anodd fydd trechu plant Orrell y tro hwn eto. Ceir gweld.-loait,. EGLWYS CHATHAM STREEt.-Yiig* hanol y rhyfel ofnadwy sydd yn achosi y fath bryder meddwl, a phoenau corff i filoedd o'n cydwladwyr, y mae rhinweddau Cristnogol godidog wedi dyfod i'r golwg trwy hynny, yn em heglwysi, na fuasent byth wedi eu ham- lygu onibai am y trychineb echryslawn sydd wedi ein goddiweddyd. Y mae cwmwl du yr a flwydd hwn megis o'r tu cefn i'r darlun yn dangos allan yn fwy eglur brydferthwch a thynerwch cydymdeimlad a'r dioddefwyr, mewn llawer dull a modd, sydd yn dra chan- molad wy, ac y mae yn rhyw efelychiad bychan o'r esiampl berffaith a roddwyd i ni gan yr Hwn a aeth oddiamgylch gan wneuthur daioni tra yn byw ar ein daear ni yn nyddiau ei gnawd. Da gennym feddwl hefyd fod y rhin- weddau hyn yn cymryd ffurf hollol ymarferol, trwy haelioni a gweithgarwch diflino llawer o'n haelodau, ac y mae'r chwiorydd yn arben nig yn rhoddi llawer o'u hamser a'u llafur i wasanaethu yn galonnog ar y milwyr a'r morwyr sydd yn sefyll mor dde-wr rhyngom a'r gelyn. Y mae'r eglwys hon wedi bod yn casglu bron o ddechreu y rhyfel hyd yn awr, oddiwrth bawb a ewyllysiii roddi rhywbeth mewn arian neu nwyddau at gysuron y mil- wyr ar faes y frwydr, ac er lleddfu dioddefiacaia y clwyfedigion yn gyffredinol a diwahaniaetb, ac yn enwedig er gofalu yn neilltuol am ein bechgyn ni ein hunain, ac anfonwyd sypynnau sylweddol i bob un ohonynt erbyn y ddau Nadolig diweddaf, y rhai a werthfawrogid yn fawr, ac a gydnabuwyd yn ddiolchgar gan y derbynwyr—yn filwyr a morwyr. Y mae yma bwyllgor rhagorol o'r chwiorydd yn gofalu am hyn, sef Mrs. T. J. Thomas, 13 Welbeck Avenue, ll-wydd; Mrs. R. R. Hughes, 14A Belvidere Road, is-lywydd Mrs. H. Buckley Roberts, 9 Jubilea Drive, ysgrifennydd a Miss Jones, 153 Canning Street, trysorydd ac y mae'r pwyllgor hwa yn awr wedi penderfynu rhoddi o'r gweddill sydd ganddynt mewn llaw, ar ddiwedd y flwyddyn, tuag at yr amcanion teilwng a ganlyn lOs. tuag at y Welsh Motor Ambul- ance a £ 2 tuag at y Netley Hospital. Y m&e y llafurus gariad hwn i fynd ymlaen yn y dy fodol gydag ynni a brwdfryd edd, nes y byddo ein milwyr a'n morwyr wedi ennill goruchaf. iaeth lwyr ar y gelyn, a Heddwch fel yr afbn yn teyrnasu o for i for, ac o'rafon hyd derfynau y ddaear. Dymunwn bob llwyddiant i'r chwiorydd hyn a'u cyffelyb, yn eu hy.mdrech- ion Cristnogol a dyngar droa Dduw, dros eu brenin, a thros eu gwlad.-J.J.B. DIFYRRWCH YR HEN GyDtpy.-Nos Wen. er, gwrandawodd Cymdeithas Lenyddol M.C. Stanley Road gyda bias ar y Parch. D. D. Williams, yn dweyd am Gymru yng ngoleuni'r Penhillion Telyn; y Parch. 0. Lloyd Jones, M.A.,B.D., yn y gadair. Disgrifiwyd nod- weddion ein tadau gynt, a dull eu bywyd, yn bert a diddan ryfeddol dangosid cyfarwydd- ineb anghyffredin a hanes a llenyddiaeth a thraddodiau Cymru; a chloid pob adran a phennill telyn, gan ddwyn argyhoeddiad newydd gymaint trysor sydd ynddynt. Diolchwyd yn wresog gan Mr. W. Philip Jones a Mr. H. Evans. Parhad ar tudal. 8.

Advertising