Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Ffetan y IGol. I

GWERTH El GAEL. I

News
Cite
Share

GWERTH El GAEL. I The Challenge of Christianity to a World at War. Gan y Prifathro E. GRIFSITH JONES, B.A.,D.D. Duckworth & Co., 3 Henrietta St., Covent Gardens. Llundain. 2 !6.-Enillodd y Prifathro Dr. Griffith-Jones ei safle fel awdur pan gy- hoeddodd ei lyfr rhagorol, The Ascenl through Christ, yn 1899 ac, a dweyd y Lleiaf, ni phallodd ei nerth ac ni ddirywiodd ei fedr o hynny hyd yn awr. Y mae llawer o debyg- rwydd rhwng y ddau lyfr mewn meddwl ac amean, ac yn eu cyfrodedd hapus a swynol o aithroniaeth, gwyddoniaeth a ti. iwuiyddiaeth, Medr ef, fel campwr, nyddu'n ddidaro y trindod ymddangosiadol anhyblyg hyn yn undod cymharus a phrydferth. Ae fel dewin, medr wAeuthur i gymdeitha siaeth, moeseg a chrefydd dynnu at ei gilydd i gydganu mewn cytgord peraidd a swynhudol. Y mae ei feddyliau fel y grisial, a'i arddull yn 11awn nwyf. Y mae nid yn unig yn hawdd i'w ddeall, ond yn anodd i neb ei gamdde?U. Y mae ganddo'r medr prin hwnnw i wneuthur egwyddorion dyfnion a gwirioneddau astrus mor glir a'r goleuni ac mor swynol a'r wawr. Y mae ei asbri a'i "ddyehymyg Gymreig yn treiddio i'w Saesneg." Yn hwyr nos Sadwrn, wedi pwys a phryder y dydd hwnnw, agorais y llyfr i ddarllen ychydig arno, gan ddisgwyl ewsg cyn hir dan gysgod du un o'i broblemau. Ond yn lie fy arwain at broblemau tywyll a dyrys, Yli oeddwn heb yn wybod i mi yng ngsylad hud, a chyn ganol nos, cefais fy hun, er arafed darllenwr ydwyf, wedi darllen chwe phennod o'i wyth. Yr wyf yn dywedyd hyn er mwyn denu eraill, a'n pobl ieuainc yn arbennig, i ddarllen y llyfr. Er yn ymdrin a phroblemau mawrion, meddwl a. bywyd, derllyn fel rhamant. Lleinw'r Prifathro ei broblemau a'r fath hud nes dod ohonynt fel chwedlau mewn diddordeb. Ond nid yw'n llai ei ddifrifwch oherwydd hyn. Gallasai'n briodoi osod uwchben ei lyfr, Gwresogodd fy nghalon o'm mewn 'tra'r oeddwn yn myfyrio enynnodd tan, a mi a leferais." Y mae gan- ddo genadwri proffwyd, a da faigwrando arno. Nid cetitadwri undydd mohoni yehwaith. Wedi'r el y rhyfel heibio erys hi yn ei grym a'i- gwerth. Y mae'r problemau, a ymdrinira hwynt mor feistrolgar yn y llyfr, yn aros byth ym merw'r cyfnewidiadau dibaid. Dywed yprffat-hro i bopeth newid ar daraw iald llygad pan hyrddiodd y Caisar daranfollt rhyfel ar blaned syn. A chythryblwyd byd syniadau, credoau, ae by-cl yn oed byd delfryd- au, yn gymaint a byd amgylchiadau ymar- ferol. Yn sydyn tywyllwyd ein safbwynt o edryeh ar y Bydysawd a Duw diflannodd yr hen ffiniau cynhefin o feddwl yn y curwlaw ac y mae colofnau ffydd i lawer yn gorwedd yn chwilfriw ar y 11awr. Y mae'r chwalfa wedi deffto i fywyd newydd yr hen bloblemau a suwyd i gwsg gan esmwythyd. Fe'n hwynebir gan broblem ffydd a rhagluniaeth, problem gwareiddiad a naturoliaeth, problem moesoldeb a moeseg Gristnogol, problem cartref a phoblogaeth, problem cenedlgarwch a gwladgarweh, problem milwriaeth a rhyfel, problem milwriaeth a heddwch, a phroblem crefydd ac adfiurfiad. Dyma'r problemau yr ymdrinir a hwynt yng ngwahanol benodau y llyfr, er na roddir gennyf y penawdau yn gwbl lythrennol, Deil y Prifathro mai gan Gristnogaeth y mae'r allwedd i benderfynu'r problemau hyn ac i ddwyn y byd drylliedig i drefn. Ni* Oristnogaeth sydd heddyw ar ei phrawf, ond gwareiddiad bydol, anghristnogol a di-Dduw Nid y byd sy'n herio Cristnogaeth, ond Grist- nogaeth sy'n herio'r byd. Arfer ddrwg a uiweidiol o eildo hyd yn oed rhai meddylwyr Cristnogol yw edrych ar Gristnogaeth fel pe ar ei phrawf o flaen brawdle'r byd. Y byd sydd o flaen brawdle Gristnogaeth. Yr uwch sydd i farnu'r is, nid yr is yr uwch. Yr y.sbrydol sydd i farnu'r anianol, nid yranianol yr ysbrydol. Gristnogaeth sydd yn barnu gwareiddiad, nid gwareiddiad Gristnogaeth. "Hwyrach y dysgwn yr hen wers oesol un- waith eto, er mai Crist sydd -,vrtli v,bar a Philat yn y frawdlc, mai Pilat, nid Iesu, a brofir ac a geir yn brin." Dylai'r brotest syll hwyrol hon roi taw ar ffregod y fath ensyniad ag a geir yny gofyniad, hurt, A ydyw Crist- nogaeth yn fethiant ? Gan na chaniata gofod iini wneuthur dim tebyg i adolygiad manwl o'r llyfr cyfoethog, cyfyngaf fy hun i bwynt neu ddau. A barnu oddiwrth brofiad personol, apelia'r bennod ar Broblem Rhagluniaeth yn gymaint ag un at gredinwyr. Diau y gwyr pob gweinidog Efengyl y teflir ami i gredadun xneddylgar a duwiolfrydig i benbleth beiyglus y dyddiau hyn gan y broblem hon. Paham y caniata- odd Duw i'r fath ddrwg a'r rhyfef presennol dorri allan mewn byd a lywodraethir ganddo Ef ? Dyma'r broblem y rhoddir mynegiadau amrywiol iddi. Beth yw'r ateb i hon ? Yn un peth, yr hen broblem o ddrwg moesol yw, a'n hwyneba yn barhaus, ac nid yw maint y drwg yn ychwanegu dim at ei hanhawster. Yr un yn ei han-fod, cyn belled ag y mae a fynno Rhagluniaeth a hi, yw problem brwydrau'r gwledydd, a phroblem brwydrau cymdogion Y Clawdd Terfyn." Peth arall, gorwedd y dirgelwch yn y ffaith o ryddid yr unigolyn a'r hil. Ni allasai Duw atal y rhyfel oddigerth drwy gymryd yn ol oddiwrth ddynion rodd rhjddid moesol, ac felly eu hamddifadu o'u natur foesol, gan wneuthur daioni a sancteidd rwydd mor amhosibl a drwg a phechod. Ni allem feddwl amdano'n gwneuthur hyn heb ddiorseddu Ei Hun fel Llywodraethwr moesol y byd, yr hyn o safle Cristnogaeth sydd an- amgyffredadwy. Y gwir gwestiwn ydyw, er naddywed yPrifathro mo hyn mewn cynifer o eiriau, paham y creodd Duw fodau moesol,nid paham y caniatodd i'r rhyfel dorri allan, neu y caniata i ddynion ddrygu ei gilydd. Os teflir y pwys ar y dioddefaint a'r drygau anian- yddol, fel y gwneir yn ami, y cwestiwn ydyw. Paham y creodd Duw fywyd organaidd a theimladwy ? Ymhellach, er nad yw Duw yn amddifadu dynion o'u rhyddid moesol, pair i'w camsyniadau, eu pechod a'u drygioni weithio allan fwriadau doeth Ei ragluniaeth ddaionus, fel y gwelir yn hanes Joseph, er enghraifft, ac uwchlaw popeth yn ffaith fawr y Groes. Er na ddifreinia Duw mo ddynion o'u rhyddid moesol, ni ehaniata iddynt hwythau ychwaith ddinistrio Ei fwriadau Ef. Er gwaethaf dirgelwch rhyddid moesol dyn a gweithrediad effeithiol ac anorchfygol Duw yn Ei ragluniaeth, y mae'r ddau'n ffaith sicr. Yng ngoleu ii rhagluniaeth Duw cred y Prif- athro y gedy y rhyfel hwn y byd yn well. Deuthum i derfynau'm gofod, os nad euth- um drostynt, ac felly ni allaf sylwi ar ymdrin- iaeth yPrifathro a phasiffistiaeth, heb son am bethau eraill. Ond os llwyddaf i beri i ddar- llenwyr Y BRYTHON ddarllen ei lyfr, llwyddaf ym mlixif amcaa hyn o adolygiad rhannol ac amherffaith. I D.P.

Advertising