Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Ffetan y IGol. I

News
Cite
Share

Ffetan y I Gol. I I I C( fie d £ &v.b J.cn ot.jcn i'r Ffttati I mai dymar gair sydd ar et genati:I NITHIOR GAU A NYTHU'R GWIR. I Pwy oedd rhieni Rd. Madoc Jones ? At Olygydd Y BKYTHOK SYR,—Byddaf yn ddiolcbgar am iinrhyw wybodaeth oddiwrth eich darllejxwvr am Gymro (mae'n debyg) o'r enw Richard Madoc Jones. Mab-yng-nghyfraith ydoedd i Joseph Lancaster, sylfaenydd yr ysgolion dyddiol neu elfe.ixiol, a elwid ar y deehreu yn I^mmstrian Schools, ac wedi hynny yn ■British Schools. Yr oedd Richard Madoc Jones yng ngwaeanaeth rhyng-wladwriaethol (diplomatic service) Mexico, ac y mae disgynyddion iddo, yn dwyn y cyfenwau Lancaster Jones, yn byw yn y wlad honno heddyw. Pwy oedd rhieni Richard Madoc Jones, ac yn mha le y'u gand an y'u magwyd ?—Yr eiddoch yn gywir, L.H.G. Helen a'i Dau Arwr. At Olygydd Y BRYTHON SYR,-Diolch i Miss J. Helen Rowlands' B.A., Edinburgh, a chwithau am lith mor loew ar ei dau arwr-David Livingstone ac Ann Griffiths. Os oes lie, dyma i chwi'r saith pennill da ragorol a ymddangosodd yn Punch 1873 am gynhebrwng diangof Livingstone, wrth i'r arch a'r miloedd fynd heibio Droop half-mast colours, bow, bareheaded crowds, As this plain coffin o'er the side is slung, To pass by woods of masts and ratlined shrouds, As erst by Afric's trunks, liana-hupg. Tie the last mile of many thousands trod With failing strength but never failing will, By the worn frame, now at its rest with God, That never rested from its fight with ill. Or if the ache of travel and of toil Would sometimes wring a short, sharp cry of pain From agony of fever, Main and boil, 'Twas but to crush it down, and on agiiii He knew not that the trumpet lie had blown Out of the darkness of that dismal land, Had reached and roused an army of its own To strike the chains from the slave's fetter- ed hand. Now we believe, he knows, sees all is well; How God had stayed his will and shaped his way To bring the light to those that darkling dwell j With gains that life's devotion will repay. Open the Abbey doors and bear him in To sleep with king and statesman, chief and sage, The Missionary come of weaver-kin. But great by work that brooks no lower wage. He needs no epitaph to guard a name Which men shall prize while worthy work is known He lived and died for good-be that his fame: Let marble crumble this is LIVING STONE -Yr eiddoch, Bootle. J.D.B. U Elfyn Gystuddjol." -1 I1 AtOlygydd Y BRYTHON A?NWYL SYR,—Ar ddiwedd eich sylwada,? ty?er yn Y BRYTHON diweddaf am W&Ðledd. fy nhad, dyfynnwch englyn o'i eidd,o. Gwnaeth d- —1 y wasg, neu rhywun, gam a'r englyn. Dyma sut y dylasai fod :— Er y euro a'r cor-m,yi-it-ery nos, Er y niwlar f'emrynt, Hyderaf y caf, fel cynt, Weld yr haul wedi'r helynt. Yr eiddoeh, etc. Dinbych CHA8.ELFYN HUGHES Cwestiynau Dyn Llundain. At Olygydd Y Bbython j h" Yn eich Ffetan yni MRYTHON eynta'r ilwyddyn, fe ofyn eich gohebydd o Luasdain i mi nifer o gwestiynau. Drwg gennyf na ches cyn heddyw gyfle i geisio eu hatet). Da gweled pobl o Lundaih yn ym- in yii y m ddiddori yn yr heniaith gu. 1. Paham y geilw ei drigle y Valley, M6n ? Yr ateb yw, am mai j 1vIõny mae'r Yalley y trigaf ynddi, ac mai'r Valley y geilw pawb y lie, ac nad oes arnaf eisiau bod yn od ar bobl era ill. Yn y Valley y cyn- haliwyd y C.M. ddydd Llun diweddaf, "am y Valley y cyrchid, "i'r Valley yr oedd dylifiad y bobloedd, ac o'r Valley yr aeth pawb adre wedi eu boddio'n fawr-yr y bob gafael. 2. Ai cywirach hyn na Valley heb yr y o'i flaen ? Ie. Y mae Y Valley yn fater o gystrawen, iiid felly "Valley." Gair ar ei ben ei hun yw Valley," ac fel y eyfryw, wrth gwrs, y mae'n gywir. Gwna t Valley y tro'n burion ar gas Ilythyr, ei hr nid mewn eysylltiadau cystrawenol. Gaerwen," Garreglefn" (y peth mwyaf disynnwy r a fu erioed), ebe lly fr eyhoeddiadau Methodist jaid Mon. Wrthynt eu hunain ni eill yr enwau hyri fod yn ddim ond "Caerwell," "Co.rreglefn," Y mae dywedyd if Gaerwen inor wrthun a phe dywedid Fryndu." 3. Aicywirafyddaisonam "YCaergybi," Ily Llangefni," Y Bangor," Y Caernar- fon ? Perflaith anghywir a fyddai son am bethau anghenfilaidd 0'1' fath, ac ni chlybu- wyd son am ddim tebyg iddynt erioed o ddechreuad y creadwriaeth" hyd yr awr lion. Yr unig un o'r pedwar a eill fod yn gywir (eithr nid yn yr ystyr a dybir yn v cwestiwn) yw Y IJangefni." Enghraifft Y Llan- gefni y trigweh chwi ynddi. Ac yn yr ystyr yraa buasai Y Gaergybi," Y Gaernarfon," "y Pangoy," yn gywir, ond nid "Y Ctiei g y k) i ci t (,, Y  iawji I' cliwi ddywed3,Ct gy bi, etc. Y mae 'n fawn i chwi ddywedyd "Y Valley," canys dyna ddywed pawb; ac y mae'n àfiawndywedyd "Y Llangefni," (janys ni ddywed. neb hynny. Fe ofyn y Valley, y Bala, y Rhyl, a rhai enwau lleoedd eraill, yr y, ond ni ofyn Llangefni hi, na Llrtnmvchllyn, na Chonwy. A dyna benar y mater. Astudio phenomena'' r iaith yw gwaith y gramadegwr, a'u hesbonio os gall. Pwysig yw cofio, ys dywed Tecwyn yn ei lyfr penigamp ar Orgraff-a Chystrawen, nad mater o resymeg yw iaith, ond mater o ffaith. 4. Paham y sonia'r Cymro am yr America, yr Amwythig, y Wyddgrug ? Ni wn, i sicr- wydd, ond mi wn, fel y gwyr eich gohebydd, mai felly y gwna. Am yr America a'r Ainwyt-hig, meddwl yr wyf mai hyn 'yw'r eglurhad y iiiae,r A flaen yn ddiacen. Oherwydd paham nis Ipareblir yn glir. Dactli America ar lafar yn Ymerica, ac Ymerica yn Y Merica, Amwythig yn Ymwythig, ac Ymwythig yn Y Mwythig. Yn ddiweddar- noh, adferwyd yr A flaen, a chan dybio rnai'r def. art. occld yr Y caed Yr America, Yr Amwythig, yn ol y rheol. Am y Wyddgrug (yr Wyddgrug, yr Wyddfa, yr Wylfa sy'n gywir), yr hyn a ry gyfrif am yr y yn hytrach na'r yr yw'r gwyrdroad sydd wedi bod ar y falling diphthong -fry. Y mae'r gwreidd- iol gwydd yn troi'n wydd. ar ol yr. Y mae Y Wyddgrug mor anghywir a phe dywedid "y wydd "am yr wydd (gbose), neu y wy am "yrWy (egg). Y (or yr) with Drefnewydd, Bala, Wyddgrug, Wyddfa, is due to the fact that here we have Common names used as Proper, for y Wyddfa is the conspicuousgpot, and y Bala is the outlet." Gweler Welsh Grammar and Philology, td. 8, 9 (S.J.E.). 5. Paham y bydd ambell i Gymro yn so a am ei wraig fel y naew ? "Nacw," heb yr y, y bydd dyn o Sir Fon yn galw ei wraig, a nacw o ran hynny, y geilw ambell wraig ei gwr, y naill, mi dybygaf, yn golygu H honacw," ,a'1' Hall "hwnacw." Hwyrach inai'r'y a glybu'ch gohebydd o flaen nacw yw y'r person hwmlwa arferai ei dodi ar ol geiriau, gan ddywedyd, Gogoniant i'r Tad-y, ac i'r Mab-y, ac i'r Ysbryd Glan -y. Amen-y. Os felly, nid oes a fynno gramadeg ddim a hi— rhyw dipyn o help ydyw i ddyn gael ei feddwl ato. Adwaen olygydd cylchgrawn vng Nghymru sy'n neilltuol. hoft o'r y hon. O'r braidd y geill sgrifennu erthygl na thraddodi pregeth hebddi. Yn Ile"' gwelsant fod," "gwelsant y fod a ddywed bron yn ddi- eithriad. Y mae pob ymdriniaeth-a welais i ar y def. art. o flaen onwap. lleoedd, etc., dipyn yn anfoddhaol. Yn yr ail gyfrol o Welsh Gram- mar yr Athro J. Morris Jones—cyfrol ar Syntax yr iaith fydd honno—diau y ceir goleuni cliriach ar y mater. Pa bryd y daw ? —Yr .eiddoeh, Valley, Mon. R. HUGHES Etholedigion Sgotaidd y Bais Gwta. At Olygydd Y BRYTHON ANNWYL SYR,—Gresyn fod Mr. Beriah Evans ar fin gwast.raffuei amser i geisio gwyngftlchu rhai o fechgyn Cymru svdd heb ymrestru. Methiant hollol fydd ei ymgnis, gan fod gormod o lawer o ddarllenwvr Y BRY- THON ar hyd a lied Cymru yn gwybod am deuluoedd a'u bechgyn i gyd gartref, a theulu- oedd eraill yn eu hymyl a-dau neu dri o blant yn y gad. Ai nid mwy buddiol iddo astudio banes yr hen Twenty-Third a chatrodau eraill Cymru ? Deuai i wybod wedyu mai i'r Welsh Regiment y. perthyn 6 well angau na chywUydd," ac mar" Nec Aspera torrent," yr hyn o'i gyfieithu yw Ni ddychryn anaws- terau mo honom yw arwyddair y Twenty Third Royal Welch Fusiliers, y gatrawd enwoeaf ym n-iyddin Prydain Fawr. Nid oedd angen i Mr. B. Evans ateb yn ddifloesgni inai nid llyfriaid yw bechgyn Cymru. Y mae'r Royal Welch Fusiliers, y South Wales Bor- deiers a'r Welsh Regiment wedi profi hynny er ou d echreuad, a gwna; ein catrawd newydd, y Welsh Guards/a'n Tiriogaethwyr yr un modds ond y mae angen am gynhorthwy Mr. Evans a'i ysgrifbin medrus a phob Cymro arall, i edrych na wneir cam & beehgyn Cymru trwy eu hanfon i gatrodau Seisnig neu Albanaidd, dinod mewn cymhariaeth, ac hefyd i weld fodeincatrodauCymretgyncaelyrunchwar- ae teg a'r rhai Albanaidd yn y Despatches. tDyna wnaeth yr aelodau Gwyddelig yn ddi- weddar a'u rhai hwy", ac y mae cymaint cam, beth bynnag, wedi ei wneud a'r rhai Cymreig yn y rhyfel hwn. Pe gwnelai Mr. Jphn ryw- beth i'r perwyl yma yn y Senedd, buasai'n llawer mwy tebyg o gadw ei sedd yn yr ethol iad nesaf nag ydyw ar hyn o bryd. A fydd rhyw ddarUenwr mor garedig a dywedyd wrthyf beth ydyw arwyddair y South Wales Borderers f Credaf v bvrlclaj'J) cael rhestr o arwyddeiriau ac alaw- on pob oatrawd Gymreig, ynghyda rhestr o'r Hyfrau sydd wedi eu cyhoeddi ar eu hanes. Pe mai i'r Alban y perthynent, a phe bai gan- ddynt beisiau cwta, mi fyddai argi-affiadau rhad ou:banes ar bob hoohstafl, a phob plent- yn ysgol yn gwybod am eu gwrhydrL-Yr eiddoch, ■' MAELOR I Y Brython yn y Trenches. ASTNWYTJ SYR,—Byddaf yn cael llawer o bleser wrthddarllen eich papur. Drwg gennyf nad wyf mewn Bataliwn Gynweig, eto yr wyf yn Gymro i'r earn. Yr oedd ein batJtliwn ni yn dod allan, o'r trenches, a bataliwn arall yn eyinryd ein He, ac ar y ffordd gwelais un o'm cyfeillion, a. rhoddodd gopi i mi i'w ddarllen. Yr oedd yn dda iawn gennyf weled llythyr Lieut. Glyn Lloyd o Serbia ynddo. Yr oeddwn yn gyfarwydd iawn ag ef pan oedd y teulu'n byw ym Manceinion, ac ein dau yn yr un dosbarth yn Ysgol Sul Moss Side. Cefais lawer o hwyl heddyw'r bore wrth geisio cael gan fechgyn yr iaith fain ddarllen ychydig or BRYTHON. Chwi wyddoch un mor sal yw'r Sais am ddysgu Cymraeg. Yr ydym ar hyn o bryd tua 4 milltir tu ol i'r firing line, am bedwar diwrnod o orffwys. Er ein bod yn gorffwys yma, eto nid yw Fritz yn gadael llonydd i ni. Mae wedi bod yn anfon llawer o shells yma ddoe a heddyw, a llawer o helcyd sydd yma pan yn ou elywed hwy yn chwibanu trwy 'r awyr. Mewn hen gut lloiatf yr wyf fi yn biletio, ond gyda Haw nid oes yma ond un o u loiau LleYll," a fi yw hwnnw. Lloiau Manceinion ydy.w y lleill i gyd. Yrydym wedi teithio llawer yn y wlad yma er pan ddeuthum drosodd—tua chan milltir i gyd. Terfynaf gan ddymuno i chwi a'ch papur Flwyddyn Newydd Dda. Yr eiddoch yn ddiffuantr, UN 0 LOIAU LLEYN I Cysgodi Llyfrgwn a Segurwyr. i I At Olyqydd Y Brython. ANNVVYL SYR.—Methaf yn lan a deall Mr. Beriah Evans. Cawn ef yn ei ddau lythyr, y cyntaf at Mr. Asquith a'r ail at Fechgyn Cymru, yn coudemnio 'r Mesur Gorfod. Yn ei lythyr cyntaf, cenmyl Fechgyn Cymru am wneud mor ardderchog yn ei ail, anoga hwynt i ymuno wrth y miloedd or mwyn lladd y Mesur Gorfod. Yrwan, os gwnaeth y bech- gyn hyn cystal, nid oes llawer ar ol, a fawr o les poeni yn eu cylch, gan i M, r. Evans yn eu lythyr at Mr. Asquith ddywedyd nad yw ffigyrau Arglwydd Derby yn profi dim ac os nad ydynt wedi gwneud gwerth eu halen, a miloedd lawer ohonynt heb ymuno, a'r rhyfel yn bod ers deunaw mis, pa reswm oedd dros eu canmol yr wythnos gynt ? Y gwir amdani yw hyn gwnaeth ardaloedd amaethydd01 Cymru yn sal iawn. ac y mae yno filoedd lawer ohonynt yn segura, a gwyr Mr. Evans hyn cystal a neb ohonom. Ond eto, dyma fo yn dechreu pregethu iddynt ddeunaw mis ar ol dechreu'r rhyfel, a hwythau wedi tro. clust fyddar i bob apel deg drwy'r holl amserr Gwastraifwyd digon o amser eisoes gyda'i dynionach hyn, a wiw gwastraffu rhagor nid oes dim i'w wneud mwyach ond eu gor- fodi. Hwy eu hunain, ne nid neb arall, sy'n gyfrifol am y Mesur Gorfod. Cawsant ddeu- naw mis i wneud eu meddwl i fyny, ac nid ydynt eto wedi sylweddoli'r perygl. Dywed Mr. Evans mai dyletswydd pob dyn yw amcklifiyn ei gartref. Gwir bob gair, ond gresyn garw na chreda pawb o fechgyn Cymru hynny. Mae lie i ofni fod miloedd lawer ohonynt wedi esgeuluso'r' ddyletswydd hon, ac mae Mr. Evans ar ei waethaf yn gorfod cydnaboo hynny, onite paham yr ysgrifen- nodd y fath apel ? A phaham hefyd y cyfeir- ia ei sylwadau at fechgyn Cymru y i ddi- wahari ? Mae miloedd lawer o fechgyn Cymru ar faes y gad ers misoedd yn eyflawni eu dyletswydd fel dynion, a buasai rhyw svno nwyr iddo ysgrifennu gair at segurwyr Cymru. Gwyr yn dda mai segurwyr a llyfriaid ydynt; ond mae arno ofn dweyd y gwir yn eu hwyneb 5 oil. Yn lle'r gwir, dyma be gawn ganddo Gwn eich bod chwi (fechgyn Cymru) yn fwy teyrngar na'r sawl a gynlluniodd Orfod- aeth Filwrol i'n gwlad. Pe y meddyliech chwi can lleied am fuddiannau Prydain ag a feddyliasant hwy—y Gorfodwyr—am gadw undeb y genedl yn gyfan, buan yr enillasai'r Germaniaid y fuddugoliaeth. Felly, fechgyn annwyl, peidiwch a chynorthwyo'r gelyn ufuddhewch i'r awdurdodau ar hyn o bryd." Cofiwch mai at segurwyr Cymru y cyfeirir y geiriau uchod, y rhai sydd heb ymuno a'r Fyddin. Beth am eu teyrngarwch yrwan, ar ol blwyddyn a hanner o ryfela ? Ai nid yn y Fyddin y dylasent fod ? Eto, wele Mr. Evans yn cynffona i'r segurwyr hyn, ac yn eu gosod ar binacl fel esiamplau o deyrngarwch, ac fel rhai a feddyliant fwy nag aelodau'r Weinydd- iaeth am fuddiannau'r genedl. Creaduriaid hunanol, segur a llwfr yw'r bechgyn hyn, yn malio'r un blewyn am ddim ond eu buddian- nau booh bydol hwy eu hunain.—Yn wir iawn, New Forest. -o- A.E.R. I

GWERTH El GAEL. I

Advertising