Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
Tnt: POOL OLD POST OFfiCE PLACI '( 0"" !!U"O S!) LA PRICE6 Telephone 3075 ROYAL.
Perygl Prydain.
Perygl Prydain. LLYIHYR AGORED-RHIF 3. AT MR. LLOYD GEORGE. A oes dau Lloyd George ? i IGAii MR. BERIAR GWYNFE EVANS]. FIANN-WYL George.—Gwn na ddigiweh wrth hen gydfilwr a'ch canlynodd gynt, ac a fyddai'n baiod i'ch canlyn eto, mewn brwydro poeth dros Ryddid, am ddanfon hyn o lythyr atoch yn achos y Rhyddid dros yr hwn yr ymladdasoch mor bybyr gynt. Gwyddoch chwithau nad diffyg sel dros y Rhyfel sydd i yn fy nghymell i wneud. Yr wyf yn llai 0 1 Pasiffist o'r ddau nag ydych chwi eich hun neu, o'r hyn Ileiai, nagpeddech chwi rai blyn- yddoedd yn ol. Yr wyf mor eiddgar a'r un Jingo ymhlith eich cefnogwyr dros gael gan ■feawb addas i'r Fyddin i ymrestru, os gellir eu hebgor o wasanaeth rheidiol a rail, a thros gar- io'r Rhyfel ymlaen yn benderfynol nes ennill o honom fuddugoliaeth mor llwyr ar y gelyn a'r gormeswr fel ag i sicrhau heddwch am lawer cenhodlaeth i ddyfod. Ond anghytunaf i, a llawer eraill o'ch hen gyd filwyr, a chwi pan fyddoch 1. Yn dwyn gwarth Gorfodaeth Filwrol yn I ddiraid ar wlad sydd a'i nerth a'i gogoniant yn ei gwirfoddolrwydd a I 2. Yn newynnu yn ddi-raid ddiwydiannau I a masnach rheidiol y wlad, sydd yn anhepgor I I'n llwyddiant yn y Rhyfel erchyll hwn. Am yr ail o'r uchod dywedasoch chwi eicn ) hun dro yn ol fod yn rhaid pendenynu nifer em milwyr yn ol gofynion eraill y wlad. Amheuai Mr. Runciman, dilynydd i chwi yn y I Bwrdd Masnach, a fedrai diwydiannau'r wlad fforddio gweld cymryd miliwn arall o weith- wyr y deyrnas oddiwrth y gwaith rheidiol er mwyn eu gyrru i'r Fyddin. Amheuai Mr. McKenna, eich dilynydd yn y Trysorlys, a fedr y wlad hon barhau'r cymorth ariannol a roddwn yn awr i'n Cynghreiriaid, os ewtogir rhagor ar allu'r wlad hon igyIlhytchu nwydd- au ac i gario masnach dramor ymlaen. Nid milwyr sydd i ennill I buddugoliaeth." Mewn gwirionedd, nid y milwyr y ny ffrynt Ii sydd i ennill y fuddugoliaeth i ni. Dywed- asoch chwi eich hunain, dro ar ol tro, mai y gweithwyr yng ngweithfeydd mawr Prydain sydd i ennill y fuddugoliaeth Dywedasoch yr un peth yn Glasgow y Nadolig diweddaf. A gaf fi eich atgoffa o'ch geiriau :— "Pan yrrwyd byddin Rwsia yn ol yn Galicia, pwy enillodd y fuddugoliaeth: fawr honno i fyddin Germani ? Nid oad- favvr honiio i f fridogion y Caisar, nid byddin Germani- co a'i hènillodd. Nage, ond y gweithiwr yn iC Germani yn cynorthwyo ei frodyr ar faes y gad." Nid am ragor o ddynion i'r ffrynt o Brydain 1 y galwai'ji Cynghreiriaid, ond am ragor o gyfarpar i'r rhai sydd yno, ac am ragor o arian i gyjlorthwyo Ffrainc a Rwsia i'w gael. Dy- wedodd eich cyd-weinidog, Mr. Samuel, y nos hon, fod Prydain yn gwneud mwy na'i rhan eisoes dros achos ein Cynghreiriaid. Llynges Prydain geidw'r raor yn glir i fasnach. Prydain yw nerth ariannol ein Cynghreiriaid. Prydain yw ffatri fawr arfau rhyfel ein Cyng- hreiriaid. Pa nifer o wyr a ddanfonodd Prydain ? Dywedodd eich eyd-weinidog, Mr. Balfour, ein bod eisoes wedi sicrhau chwe miliwn o filwyr drwy ymrestriad gwirfoddol. Gwy- ddoch fod ein Trefedigaethau erbyn hyn wedi cyfrannu yn agos i filwnarall o wirfoddolwyr. Gwyddoch gyda hynny mai gorchwyl rhwydd fuasai cael miliwn arall o wyr parod a galluog i ddwyn arfau o'r India. Ond a gadael y miliwn arall yna allan or cyfrif, mae Prydain heddyw yn dwyn baich cynnal saith miliwn o filwyr Prydeinig. Dywedai eich cyd-weini- dog Mr. Montagu, yn Nh)"r Cyffredin, dri mis yn ol, fod ein cyfraniadau ariannol er cynorth- wyo ein Cynghreiriaid yn gyfartjal i draul cynnal tri miliwn arall o filwyr. Mae Ymher- j odraeth Prydain felly yn gyfrifol am gynnal deng miliwn o filwyr. Dadleua'r Daily News, Llundain (Ion. 6,1916) fod dadl pleidwyr Gor- fodaeth Filwrol mai rheidrwydd milwrol sy'n galw am Orfodaeth yn gelwydd gwarthus yn ogystal ag yn athrod ar y genedl." Ebe'r Daily News Allan o lai nag wyth miliwn o bobl yn y (f wlad hon o fewn i'r oedran milwrol, mae yn agos i chwe miliwn naill ai eisOes wedi yrarestni neu wedi cynnyg ymrestru. Yn wyneb y ffaith fawr yna, mae dweyd fod yr egwyddor o wasanaeth gwirfoddol wed i proi fvn fethipn.t, yn ddywed iad rhy flol iw ystyried, Ac eto i gyd, mae'r gair yn hollol mai chwi, fy axiyiwyl George, sydd gryfaf o Ixtwb yn y Cabinet dros osod Gorfodaeth Filwrol arnom. I Beth amjAnghenion Diwydiannau ? Ymddibynna ein gallu i roi cymorth arian- nol i'n Cynghreiriaid ar ein masnach. Ym- ddibynna ein masiiach ar gynnyrch ein gweithfeydd a'n diwydiannau. Ymddibynna y rhai hyn drachefn ar ddigonedd o weithwyr, digonedd o nwyddau i'w gweithio,digonedd o longauWw dudo ymaac oddiyma, digonedd o wagenni rheilffordd i'w cludo o'r porthladd- oedd i'r gweithfeydd. Gwelaf yn ol y newydd- iaduron fod y cwestiynau hyn, neu rai ohop- ynt, wedi cael eu codi yn y Senedd yr wyth- nos hon. Cyfyngaf fy hun yma i ddwy neu dair ffaith hysbys bellach i bawb ym myel masnach. Mae pris cludo nwyddau rheidiol —defnydd bwyd, defnydd dillad, defnydd gwaith--dros y mor i'r wlad hon wedi codi deg a deuddeng waith cymaint ag yr arferai fod. Hynny yw, am bob punt a delid gynt am gludo, dyweder, cig, o Dde America, neu nwyddau o'r India, i'r wlad hon, gofynnir heddyw £ 7, £ 8, £ 10, a £ 12. Paharn ? Prinder llongau a phrinder dynion. Pan gyrhaedda'r nwyddau i'r wlad hon, beth wedyn ? Ewch i'r porthladdoedd heddyw lie y dadlwythir nwyddau at wneud cyfarpar rhyfel, y pethau sydd yn eich gofal arbennig chwi eich hun, a chewch y cymer heddyw dair wythnos o amser i ddadlwytho yr hyn a ddadlwythid gynt mewn wythnos yn unig. Gofynnai eto, Paham yr oediad hwn ? Atebaf eto Prinder dynion. Wedi cael y nwyddau i'r cei, sut wedyn ? Rhaid eu cludo i'r gweithty, neu'r ffatri sydd dan eich gofal chwi. Onid yw'n ffaith fod y nwyddau yn ami yn gorfod gor- wedd vn segur vn yr ystordy ar y cei arn wyth- nos neu ragor er fod angen mawr amdanynt yn y gwaith ? Paharn yr oediad hwn eto ? Prinder gwagenni rheilffordd, a phrinder dynion. Pan ddanfonir gwagenni i'r gweith- ty i'w hadgyweirio, cymer fwy na dwbl yr amser a gymerai gynt i'w cael oddiyno. Paham ? Prinder gweithwyr eto. Yn awr, mae'r holl ffeithiau a nodais uchod yn rhai sydd a wnelont,'nid a- masnach yn gyffredinol, nid a nwyddau y gallaf fi ac arall wneud heb- ddynt, ond yn uniongyrchol a'ch ad,ran chwi eich hun. Mewn geiriau eraill, fy annwyl George, mae eich egnion chwi eich hun yn cael eu llesteirio, a'ch gallu chwi fel Munition Minister i droi allan yr hyn sydd raid i',A milwyr yn yffrynt ei gael, yn cael ei gyfyngu eisoes drwy fod diwydiannau a masnach y wlad wedi cael eu hamddifadu i raddau gor- modol o'r hyn sydd hanfodol i'w bywyd. Gwyddoch chwi yr holl bethau hyn yn wel nag y gwn i hwynt. Ond nir y wlad yn gyffredinol nemor ddim o'r hanes sy'n hollol hysbys i fyd masnach. Y Dwymyn Boeth a'i chanlyniada u I Gwn mai gwaith amhoblogaidd ar y^goreu yw, tra pery y Rhyfel, cod i llais yn erbyn y Weinyddiaeth gymysgryw o'r hon yr ydych chwi yn un o 'r prif golofnau. Nid yw'rw lad, a siarad yn gyffredinol, mewn cyflwr i ym- resymu a hi ar ad eg Rhyfel. Nwyd, ac nid Rheswm, sy'n Hywodraethu llawer y pryd hwnnw. Cawsoch chwi eich hun brofiad chwerw iawn o hynny pan feiddiasoch godi Uais yn erbyn y WeinyddiaethDoriaidd adeg Rhyfel De Affrica. Mae gan adran ben- chwiban o'r byd, ar adeg Rhyfel, fwy o ffydd yny Wei)iyddi.aeth-boed houne y peMiy bo- nag sydd ganddynt mewn iawnder nac yni Nuw. Gwn mai dyna fu eicb. profiad chwu eich hun o werin y wlad pan honno yn ffitiaxi delirium twymyn rhyfel. Gwyddoch mai un o wendidau y claf mewn delirium, pa u byímag ai person ai gwlad a fo, yw credu ma gelyn iddo yw ei gyfaill goreu, hyd yn oed pan fo hwnnw'n ceisio gweini amo er ei les; a gellirl inesur penysgafnder y, delirium wrth erwindeb ymosodiad y claf ar ei gymwynaswr. Mae'n ffaith hysbys i €eddygon fod twymyn boeth, nid yn unig ynamharuy synhwyrau ar y pryd, ond yn gadael gwendid mawT ar ol, a pho boethaf y dwyn-iyn mwyaf y gwendid. Fel meddyg gwleidyddol doeth, darfu i chwi eich hun, adeg Etholiad Khaki bythgofiadwy 1902, rybuddio Anghydffurf- wyr Lloegr a Chymru y caent ddioddef hir. wendid ar ol twymyn y Rhyfel hwnnw on1 chaniataent i reswm lywodraethu ar n-wydau dall y dyddiau hynny. Gwrthodasant gym- ryd eich prescription, a'r canlyniad fu Mesur Addysg gorthrymus 1902, Deddf Gormes Cymru, 1904, Passive Resistance Lloegr, a Revolt Cymru, ac hyd yn oed Deddf Dadgys- ylltiad nad yw prin gwerth ei chael. Mae gwendid twymyn Rhyfel 1914-1916 eisoes yn dechreu cael ei deimlo gennym. Cyfyngu Rhyddid Gwlad. I A ydych yn cofio byrdwn y Gan Etholiad boblogaidd honno ar donnau yr hon yr ethol wyd chwi mor fuddugoliaethus yn 1892 ?•— Fight for the Freedom of Cambria Arwr Rhyddid eich gwlad oeddech y pryd hwnnw, a brwdfrydedd eich cefnogwyr yn ysgubo pob gwrthwynebiad ymaith. Erys eich enw byth mewn bri am a wnaethoch y pryd hwnnw i ddryllio rhwymau caethiwed eich pobl. Sut mae pethau heddyw ? Rhyddid llafar, Rhyddid y Wasg, Rhyddid y Gweithiwr, Rhyddid y Senedd, Masnach Rydd—oil mewn perygl, rhai ohonynt eisoes wedi cael eu colli, o leiaf dros amser. Un o 'ch ewynion cyfreithlawn chwi yn erbyn Gwein- yddiaeth Rhyfel De Affrica oedd na ddarfu i un o Weinidogion y Goron y pryd hwnnw godi llais yn erbyn gwarth ymosodiad bleiddiaid Birmingham arnoeh chwi, pan ddiangasoch megys a chroen (?ich dannedd ac mewn diHad beddgeidwqd rhag Hid torf a fvnnent eich i merthyru am feiddio ohonoch feirniadu Chamberlain a'i fesurau Rhyfel. Er clod iddo, ac er eich bod chwi y pryd hwrmw yn ei wrthwynebu a'i gondemnio, llefarodd Mr. Asquith yn gryf ac yn groew i hawlio chwarae teg a gwrandawiad i chwi, er ei fod yn anghyt- uno a'ch syniadau. Eb efe :— Gwnaed cam gwarthus a hawliau elfennol dinasyddia-eth. Gvvae y dydd pan. na oddefir yn y wlad hon i ddyn ddweyd ei farn, pan geisir ei rwystro drwy orfodaeth, drwy ddychryn. Nid oes dim a brisir yn uwch yn y wlad hon na hawl amhrisiadwy < £ ac anhrosglwyddadwy Rhyddid Llafar Cynhosodd calon Cymru yn fwy at Mr. Asquith am y geiriau cryf yna o'ch plaid nag am ddim ar a wnaeth erioed. Ond atolwg, beth a wnaeth ef, neu chwi eich hun, neu unrhyw weinidog arall i'r Goron, i hawlio Rhyddid Ymadrodd i'r sawl a fyn feirniadu eich Gweinyddiaeth chwi ? Onid yw Mr. Samuel, eich cyd-weinidog, a dilynydd Syr John Simon fel Ysgrifennydd Cartrefol, eiscres yn bygwth cospi'r neb a gyfyd lai yn erbyn darpariadau Mesur Gorfod unwaith y daw'r Mesur hwnnw yn ddeddf ? A beth am Ryddid y Wasg ? Nid oes neb a wyr yn well na chwi faint dyled Cymru i Wasg Rydd. Gymaint wnaeth y Wasg Genedlaethol-y Faner, a'r Herald, a'r Genedl (rhoddaf hwynt yn ol(trefn euhoed)— dros Ryddid Gwladol ? Gymaint wnaeth y Wasg Enwadol dros Ryddid Crefydd Gy- maint wnaeth Gwasg Llafur, megis y Darian, dros Rvddid y Gweithiwr, a'r Wasg Lenyddol, megis Y Brython, dros Ryddid Barn Rhydd i bob meddwl ei farn, ac i bob barn ei llafar," medd yr hen ddihareb. Eithr nid gwir hynny mwyach. Nid oes yr un papur ym Mhrydain oddigerth y Times a'r Daily Mail, all ddweyd, heddyw'r peth a fynnont, bryd y mynnont, a'r modd y mynnont. A ydych yn cofio'r adeg pan na chyhoeddai'r papurau Seisnig ond yr hyn a welent yn dda o'ch areithiau chwi ? Heddyw, pan lefaroch, ni cha'r papurau gyhoeddi ond yr hyn a weloch chwi'n dda or hyn a ddywedwch Dywedwyd hyn- ny mewn cynifer o eiriau yn ddiweddar yn y Senedd gan un o'ch cyd -weinidogion. A ydych yn cofio eich araith fawr ddiweddaf yn y Pafiliwn yng Nghaernarfon ? A ydych yn cofio'r hwyl a gafwyd pan ddarluniasoch "Y Times, druan, yn myned yn fwy Daily Maily bob dydd Os caf fi sibrwd gair yn eich dust, mae y Weinyddiaeth Gymysgryw bresennol, er eich bod chwi yn aelod blaen-Ilaw ohoni, hefyd yn myned yn fwy Daily Maily bob dydd Rhyddid y gweithiwr. r Beth am y gweithiwr ? Mae'r gweithiw r yng Nghymru o dan rwymau i chwi; buoch yn gyfaill da iddo gynt. Yr ydych chwithau o dan rwymau i'r gweithiwr yng Nghymru, bu yntau yn gyfaill da i chwi. Ni buasech yn y Cabinet heddyw onibai amdano ef, a'i ffydd- londeb, a'i sel, a'i ddewrder, yn ymladd, ie, ac yn aberthu drosoch chwi. Canrif o ym- drech i ddryllio rhwymau caethiwed y gweith- iwr a fu'r ganrif ddiweddaf. Yn honno yr enillwyd Rhyddid i'r gweithiwr. Gofynner i Tmrhyw Undebwra wyr hanef: Undehau Llafur heddyw, ae os etyb yn onest dywed fod ymron bob rhyddid a enillwyd, ymron bob rhagfur a god wyd i ddiogelu'r gweithiwr a'i undeb, rhag gormes cyfalaf yn y gamp o'r blaen, wedi cael ei ddilou yn awr gan y Weinyddiaeth Gymysg- ryw bresennol. Gwn y dywedir mai dros yr amser presennol yn unig y bwriedir i hyn fod. Eithr pwy a faidd ddweyd, gan nad pa mor onest yw eich bwriad chwi heddyw, yr ad- sefydlir yr hen ryddid a'r hen amddiffyniad i'r gweithiwr heb ymdrech a brwydro wedi'r elo'r Rhyfel heibio ? A dyma Ryddid y Senedd wedi mynd. Er holl ffaeleddau llyw- odraeth drwy Blaid (Party Government), yr oedd y gyfundrefn honno'n anhraethol ddiog- elach i Ryddid y Senedd nag yw Llywodraeth Gymysgryw fel hon. Yr oedd gan y neb a gynlluniodd y Llywodraeth Gymysgryw bres- ennol gyfrwystra fwy nag eiddo'r sarff. Ar un ergyd, lladdodd nid yn unig yr Wrthblaid swyddogol yn y Senedd, ond pob annibyn- iaeth barn yno hefyd. Nid oes i'r Senedd heddyw ond cysgod o'r Rhyddid yr ymffrost- iai ynddo gynt! Adyma Fasnach Rydd yn mynd i ffordd pob rhyddid arall a gymrwyd oddiar y wlad Gwyddoch fod adroddiad y pwyllgor sydd yn awr yn nwylo'r Cabinet yn annog cyfundrefn o Ddiffyndolliaeth yn erbyn yr hwn yr ymladdasoch chwi a holl ddewrion Masnach Rydd ar hyd eich oes. Dywedasoch chwi fod y Weinyddiaeth wedi bod yn "rhy ddiweddar ymhob dim a wnaeth yn y Rhyfel. Deffry Prydain ac Arwyr Rhyddid, fol y gwnaeth Ymneilltuwyr 1902, yn rhy ddiweddar i'w perygl hwythau. A oes raid. I. I II A oedd raid i hyn oil gael ei wneud ? Gwn y dywed rhai, fel y dywedodd Mr. Stanton yn y Senedd, Gwell bod yn rhwym o dan reolau caeth ein Llywodraeth, na mynd yn gaethion byth i Germani." Nid oes neb yn ameu hynny. Ond nid hynny yw'r cwestiwn. Y cwestiwn yw, A oedd yn rhaid, er mwyn ennill buddugoliaeth ar y gelyn, ein hamddifadu o bob rhyddid a gymrwyd oddiarnom gan y Weinyddiaeth Gymysgryw ? Beiddiaf ameu a fuasech chwieich hun, fy annwyl George, wedi dioddef yn ddistaw gweled gosod y cyffion hyn ar y wlad pe baech chwi heddyw yr hyn oeddech yn 1902, yn aelod preifat o Dy'r Cyffredin, ac nid yn aelod blaenllaw o'r Cabinet. Gwn na phwysai fy marn bersonol i ond niegis man lwch y cloriannau yn y cwest. iwn mawr o Ryddid yn erbyn Gorfodaeth. Ond nid myfi yn unig sydd yn barnu yr hyn a ddywedaf, eithr cyfeillion a chefnogwyr i chwi yr arferech roi pwys ar eu barn. Dywed Dr. Clifford Agorwch y drwa i Orfodaeth, ac yn fuan daw Kaiserism i mewn Dywed y Manchester Guardian pe'r ymddýgai Mr. Lloyd George mor blaen a'r cyflogwyr ag a wna efe a'r gweithwy'r, y byddai ei lwybr yn esmwythach, a'i daith yn gyflvmach. Dywed fod y Mesur Gorfod wedi dryllio'r undeb yn y genedl oedd yn hanfodol er ennill buddugoL iaeth fuan a llwyr ar y gelyn. Dywed y Daily News mai trwy gelwydd gwarthus y gwthiwyd Mesur 'Gorfod arnom, ac yr erys y Mesur "yn fygythiad parhaol i'n rhyddid." Dywed y Daily Chronicle fod y Llywodraeth wedi torri pob addewid ddifrifol a wnaeth wrth ddod a'r Mesur Gorfod i mewn, ac na wiw i ni osod pwyB ar yr addewidion rhwydd a wneir yn awr ganddi na cherir Gorfodaeth dim pellach. Felly, o pheehais, George annwyl, pechais mewn cwmni urddasol, a'r cwmni hwnnw eich cyfeillion goreu chwi, a chyfeillion goreu Rhyddid gwlad. I Cwmni Drwg. i • i Ofna eich cyfeillion eich bod yn cadw cwmni drwg. Os felly, na. thwyller chwi, y mae ymddiddaniol1 drwg yn llygru moesau da. Clywais un brawd o bregethwr yn son yr hoffai. bregethu wrthych oddiar y testyn, Ephraim a ymgysylltodd ag eilunod. Gad iddo." Nid cwmni teilwng i Arwr Rhyddid yw Arglwydd Northcliffe a Mr. Garvin. Myn y ddau eich gwneud yn Brif Weinidog. Bostia yr olaf" Lloyd George will clear out y rhai yn y Weinyddiaeth a fynnant gadw rhith cysgod olr 1-ieii Ryddfrydi^eth yr arferech chwi bregethu. Nid syn gennych, yn sicr, fod eich hen gydfilwyr ym mrwydrau Rhyddid yn anesmwytho wrth glywed eich bod yn myn. ychu cwmni mor wael. Dywedir fod i chwi dri gwas liach yn Nhy'r Cyffredin, nid amgen Booth, a Dalziel, a Markham. Ni wyr Cymru lawer amdanynt. Ond gwyddoch chwi, fel y gwn innau, nad oes yr un ohonynt yn ddyn i chwi ymffrostio yn ei wasanaeth i chwi Synna'r wlad i ddoallmai trwy fyg- ythiad Tý'r Arerlwvddi v darbwvllwvd rhan o'r Cabinet i fabwysiadu'r Mesur Gorfod. Gallai'r Arglwyddi wrthod pasio'r Mesur er estyn oes y Senedd. Bygythient wneud os na phesid y Mesur Gorfod. Pe nad estynnid oes y Senedd, ceid Etholiad Cyffredinol. Tra'r wlad yn dioddef o dan dwymyn y Rhyfel gwyddoch chwi gystal ag y gwn innau mai Llywodraeth Doriaidd a gaffem. Felly peryglid Mesur Dadgysylltiad ae Ymreolaeth. A ddichon fod neb a eilw ei hun yn Rhydd frydwr yn y Cabinet, wedi apelio am gymorth Ty'r Arglwyddi, er mwyn gorfodi'r Cabinet i dderbyn y Mesur Gorfod ? Hoffasem ddy- wedyd 11awer rhagor, ond aeth fy llythyr eis- oes yn rhy faith. Hyderaf nad ar dir gwrthgiliad y'ch gwelir, ond y ceir chwi yn fuan yn gwisgo holl arfogaeth Arwr Rhyddid Gwerin fel cynt.-Yr eiddoch yn bur, BERIAH GWYNFE EVANS (Llythyr Agored at yr Aelodau Gymreig yn ein nesaf).
o-Fel Fynnoch. I
o- Fel Fynnoch. I Llawlyfr ar y Gwyrthiau ychydig sydd a law anfonwch ar fyrder. Gwel td. 8. MAJOR IA WN YW MAJOR RIGG. Mewn cyfarfod yn y Rhyl yr wythnos ddi- weddaf, dan nawdd Cymdeithas Ddirwestol Esgobaeth Llajielwy, a'r Deon yn y gadair, cafwyd gair croyw ddiamwys o blaid llwyr- ymwrthod, a hynny gan swyddog go uchel yn y Fyddin-peth amheuthun ac anghyffredin iawn. Major Rigg a'i dywedodd, ac iechyd i'w galon am wneud. Ebe fo Y mae'n Brenin a'n Cynghreiriaid yn y rhyfel wedi rhoi esianipl tan gamp i bawb ohonom, ac ui enilla'n gwlad byth ein hunan-barch yn ol nes y dilyno esiainpl Sior y Pumed. Son am ysbeilio'r gweith- iwr o'i lasiad,twt y mae'r fath beth a mawrion llafur cystal a mawrion gollid, a 'by dda i'n well gen i wrando llais arweinwyr '1 y dosbarth gweithiol—-y mwyafrif ohoji- "ynt yn llwyrymwrthodwyr—nag y gwrandawn eu llais (fel tae) drwy enau cyfranddal-wyr y bragdai a'r distylldai." GONSGRIPSIWN AR BONIFFAS -Ac wrth siarad ar ol y Major yn y cyfarfod uchod, sylwodd y Parch. G. H. Havard, B.A.,B,D. (M.C.) Os oedd Consgripsiwn a Gorfod yn beth iawn gyda golwg ar y Fyddin (a ohredai ef ei fod yn beth iawn), wel, yr oedd yr un mor iawn ac angenrheidiol cael consgrip- siwn i amddiffyn y gwan rhag trais y ddiod. A da chwi, bobl y Rhyl, ewch a neges y cyfarfod hwn i'r Llysoedd T'rwyddedu'r mis nesaf yma." Tybed a welodd Mr. Havard sylw'r Hutyn byw sy'n sgrifennu 'OÙ3p y Clawdd yn Y Brython ? Dyma fel y brochai'r wythnos ddiweddaf wrth feddwl am roddi iawn i dafarnwyr "lAWN Y GLrTHEItN.-Cetbrawl o both yw iawn i dafarn. Mae'n bryd eael rhyfel ar hyn. Beth am iawn i weddw am golli o'i phriod glew yn y frwydr ? Beth am ia'wn :i riaint y dewrblant ? "fclawn i dafarn, wir, ar adeg rhyfel fel hwn Allan a nhw dros y Clawdd medd y glep. "Amen!" medd pob mynwes ddifrad a barn ddifrwysg." RHODRI'N GODI H W YL.-Enw tlws ar fab yw Rhodri, a dyna enw Mr. Rhodri Hughes, sef y gwr a gynrychiolai'r cyfreithiwr mewn comedi a chwareuai yn y Llandudno Amateur Dramatic Society nos Fercher yr wythnos ddiweddaf, er budd yr ysbyty a'r drvsorfa ryfel. Er cystal y lleill, Rhodri oedd enaid y cwmni, a phawb yn gwryddu a chwysu wrth chwerthih ar ei bortreiad o'r twrne twylledig." HWDIWGH FI A F'OED.-Y mae'r Parch. E. Sayer Ellis (W.), Colwyn Bay, wedi ymuno ir Fydditl, sef tL Sportsmen Battalion y Royal Fusiliers, Ceisiodd ymuno ag un o'r catrodau Cymreig ond gan ei fod yn bedair a deugain oed, ei wrthod gaffai bob tro. Ffwrdd a fo i Lundain yr wythnos ddiweddaf ac yno llwyddodd i gael ei dderbyn, oed neu beidio. Y mae'r eglwys wedi pasio i dalu ei gyflog i'w briod cyhyd ag y byddo i ffwrdd, a gweinidogion yr ardal wedi addo cyflawni ei waith yn siriol a di-dal.  LLOSG EIRA OAPT. TOM PARRY.— Y mae'r Capt. T. H. Parry, A.S., 5th R.W.F., wedi cyrraedd o'r Dvyyrain i Ysbyty Lady Evelyn yn Llundain, ac yn dioddef gan losg eiraar ei ddwylo a'i draed oblegid gorfod ymladd ac aros yn ffosydd Gallipoli ar dywydd cethin Tachwedd diweddaf. Y mae'n gwella yn raddol. YN FALGHTER El FAM.-Y mae gan Lady Bates, Castell Gym, Llanasa, sir Fflint, gynifer a phump o feibion yn y Fyddin a dyma un o'r pump-Capt. Cecil Robert Bates, R.F.A.-wedi ennill y Groes Filwrol-y Military Gross, a gyrru ias o falchter drwy galon ei fam. Y mae yn yr ymladd yn Ffrainc o'r cychwyn cyntaf. ALLAN A PO !-Ym Mwldcl Gwarcheid waid Forden,Sir Drefaldwyn, ddydd Mercher diweddai, hysbyswyd fod bachgen bach a roddesid allan o'r tloty i'w fagu, wedi cael ei symud ar rybudd byr a swta, am fod gwreigan 'j plas oedd piau'r bwthyn wedi clywed, ac wedi anfon i ddweyd nad oedd hjum gwalwch chwi n dda, ddim am i r un o'r cyftyw gael ei fyrddio na 'i fagu yn yr un o 'i thai hi. Alan a fo ebe hi, dan ffroenochi a thorsythu, fel y gwelwch chwi lestryn china r parlwr yn tusrsto a ffroenochi pan ddodir potyn pridd o'r gogiri yn ei ochr. Yr oedd y teulu a'i cymerasai yn flin iawn o'r herwydd, gan fod y ddau wedi glan-wirioni ar y paral)lWr hach pert. Y III A'I GWAED GLAS, FFOIt- Y HI ?'7 ({W AED .SLJ& ?F?.R-  8YTH I-Pan glybu'r newydd, cododd 'Mj Morgan Jones (Trallwng), ac a ofynnodd yn ysgornllyd i'r Gwarcheidwaid :— Y, 1-ii mha wlad yr ydym yn I)y w, dywf,,(,i well-—ym Mhrydain ynteu yn G-ermani ? Ni chlywais erioed am beth mor anghrist- iiogol, Gwir mai plentyn o'r tloty oedd y bychan, ond y mae o'r un pridd yn' union a gwraig y plus. Clywais L'\wer rheswm dros ddiddvmu landlordiaeth, and dyma'r eryfaf ohonynt i g -yd-Eod 1 rhyw bitw fel hon yn erbyn i'r un plentyn tloty gael cysgod o dan do vr u» o'i thylciau hi." Na hidiwch mohoni, Mr. Morgan Jones baefa canys os oes rhywfaint gwell bias ar ei chnawd a'i gwaed glas hi rhagor sydd ar eich onawd chwi a finnau, cynta'n y byd a mwy a'n y byd ddaw o bryfed y bedd i bicnica ami pan ddoder hi yn y ddaear. Ac wedi i'r rheini gael eu digoni, ni fydd ganddi fawr o drwyn i'w droi .ar y parablwr bach pert o'r tloty wedyn. d yna. iddi hi PALF OER Y Uan- gollen, ddydd Iau diweddaf, dirwywyd J'ohn Higgins--pobydd, ebe fo, 0 rywli bunt a'r costau am ddwyn tybaco o'r Central Stores, Heol y Castell. Y diwrnod cynt, am chweeh ar gloch y bore, ymguddiodd y Sorgt- Jones mewn cilfaeh snec yn v Stores fcua saith ar gloch dyra swn yr allwedd yn agar y drws, a dacw Higgins yn dod. i fewn yn Had- radaidd ei osgo a'i wep. Wedi iddo gyflawni ei fwriad, dyma'r Sergeant yn plapnu ei balfau oerion yn ei wegil, ac yn mynd ag o a'i dybaco i boeni n ddistaw yn y gell cy;o, dod drannoeth o flaen ei well. o BWYS I GYMRY SY'N YMUNO Y mae llawer o Gymry a alwyd i fyny dan gyfundrefn |y Groups wedi caej anhawpter i fedru ymuno & chatrodau Cymreig; ond. caf- wyd digon o brawf nad yw'r anliawste: yn un ansymudadwy gan y ffaith i ddirprwyaeth o Gymry Lerpwl ymweld ag awdurdodau míJwr, ol Llundain ddydd Gwener diweddaf a llwyddo i gael caniatad i holl ymrestrwyr Cyrnreig Lerpwl gael ymuno a bataliynau Cymreig. Y mae sel a phybyrweh Cymxy Lerpwl gyda hyii iw ediiiygu'ii fawr., Dy- muna'r Cadfridog Owen Thpmas unwaitti øto bwyso ar Gymry, sy'n dymuno cael bod gyda'r Fyddin Gymreig, y rhaid ymuno felly ar un- waith cyn i'w Groups gael eu galw i fyny. Dyha'r unig sicrwydd y cant ymuno a'r cat- rodau mwyaf dewisol ganddynt. Os arhosant. nes cael eu galw i fyny, y tebyg ydyw y' gorfodir i ymuno a'r catrodau a ddewiso'r awdurdodau, ac nid a fyddai oreu ganddynt. hwy'u hunain. Y mae eyfle campus i'r cyfryw daro ar gymdeithion oydnaws drwv ymuno a Bataliwn Gwynedd (22nd R.W.F.). o dan y Cyrnol Lloyd Evans,—■Cymro sy'n siarad Cymraeg, ac sydd a'r swyddogion a'r' dynion bron i gyd yn Gymry o dafod a chaion.
Advertising
Ceinion Rhuddfryn Yn cynawys pigion o'i englynion 8-¡ gywr&dm wedi en dethol gan ANTHROPOS, a t&m <?Mp. fab, y Parch, LEWIS MORBIS, WrMl?m h da darlua or awdur. alnodladau by ?.,gL f7dd,.l Mn Dr. CerD7W,wnUama. Argraffiad Rhad (mewn a mien), 6cb TrwTr post, "10, HUGH EVANS A'l FEIE YN AWR YN BAROD. LLYFR Y TRI ADERYN GAN FORGAN LLWYD 0 WYNEDO. Argraphiad Newydd yn cynnwys yagrif ar dras a gwaith Llenyddol Morgan Llwyd. gan Mr. J, B. JONES, Golygydd y "Brython. iilian hardd, Pris Is Cyhoeddedig gaD- HUGH EVANS A'I FEIBION, 356.8 Stanley Road L'pool. LLYFRAU CYMRAEG. BBIBLAU. TESTAMENTAU. LLYFBAU HYMNAU A THONATi, OANEUON. Telir sylw prydton i archebion Hugh Evans a'i Feibion, I SwYDDF A'R "BRYTHON," 1358 STANLEY ROAD i LIVERPOOLI