Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

O'r De Draw.

ILlith Glannau'r Afan. I

I Ein Cenedl ym Manceinion.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

I Ein Cenedl ym Manceinion. CHWEFIIOL. H—Barlith y .Canon W G Edwards- Etces IS — Darlithfy. Parch T Shankiand, Baugor 19-DMIith yn Chorlton Road EBRILL. i Gobeithluoedd Cenhadon y Sul Nesal. Yj METHOMSTIAID CALFINAiDD Moss SIDE—10.30 a 6.30, D Williams, Aberystwyth TO PENDX.BXOS—10.80, Ctd. Tone. 6, W R Owen, Abergele HEYWOOD STREET—10.30, W R Owen, 6. E W Roberts VICTORIA PK—10.30 E W Roberts, 6, CadwaJadrJones, Salem LEIGH—10.30 a 6, » WARKINOTOS—10.30 a 6. FARNWORTH—10.30 a 6, J 8 Itoberts EARIESTOWN—10.45 a 5^0, ASHTON-IXNDER-LYNE—10.45 a 6.30, EQLAVYS USBEBOL ECCLES—11 a 6.30, YR ANNIBYNWYH, CHORMON RD—10.30 a 6.15, BOOTH ST—10.30 a 6,15, M Llewelyn QUEKST'S ROAD—10.30 a 6.15 J.D. DUNCAN ST., SALFORD-10.30 a 6.15, j Morris Hoi.LIN WOOD —10.30 a 6.15 Y WESLEAID DEW! SANT-W.30, (} Tibbott, 6. D R. Rogers HOREB—10.30, J M Wi!!iams, 6, T Hefin Evans SEMN—10.30. D. R. Rogers, 6, Harold Roberts 10-?'- Oi3ob D R Rogers, 6, J Mostyn Williams CALF ARIA—10.30, T Hefin E?,ns, 6. J. Felix WEASTE—10.30, J. Felix, 6.30, G Tibbott Y BEDYDDWYR UP. MKDI.OCK ST.—10.30 a 6, J H Hughes LONOSIGHT—10.30 a 6.30, Pregeth m ROBIN'S LANE, SUTTON-10.30 a 5.30 BEN BO ffl'EN.Yjtg nghyfarfod y Gym deithas Genedlaethol nos Wener, caed darlith y Parch .M. Llewelyn ar Ben Bowen. Y dda r- lith yn gyfanwaith cryno o syniadau gloew a broddegau pert hawdd eu cofio. Bu'n ddoeth wrth ddyfynnu'n helaeth o forddoniaeth gaeth a. rhydd y bardd, i osod gerbron wahanol ag- weddau i neilltuolrwydd ei gymeriad a'i allu eithriadol. Sylwodd fod Ben Bowen yn un o nifer y telynnau a dorrwyd yn gynnar/canys bu farw yn 24 oed. Rhoddodd drem ar ei yrfa o galedi ei fywyd profedigaethus ar y cychwyn, gan ddilyn ei symudiadau eymysg o lawenydd a siom hyd derfyn y daith. Dang osodd y cynnydd yn ei gymeriad a'i dalent eithriadol, nes y daeth yn un o feirdd galluoc- af ein cenedl..Tyfodd, meddai, yn ddioddef- ydd buddugoliaetlius trwy ei anawsterau a'i fuddugoliaethau. Carodd ei wlad yn angerddol, a, phriodol y geiriau ar faen ei fedd, Soniai ormod am Gymru a thra- gwyddoldeb ac o'r safbwynt uchod yr edrychodd ar ei farddoxiiaeth safbwynt o wladgarwch ac ysbrydolrwydd, neu wladgar- wch ysbrydol. Cymrodd y darlithydd drem ar ei biyddeslau a'i awdlau, gan ddajigos ei serch at natur, at ddynoliaeth, ac at Dduw. Y Duw weodd flodeuyn Ydyw Duw dyhead dyn. Ieuanc oedd bywyd iddo ef, a chysegredig oedd amser fel tragwyddoldeb Amser, gwasanaeth bore Sul tragwyddoldeb yw ac aid oedd y dirgeledigaethau gan Ben Bowen ond "gweision yr lor." Iddo ef, fel Islwyn, yr oedd popeth yn gysegredig "Dewis Duw yw hanes dyn." Dylai ein cenedl ddiolch am byth i Ben Bowen am ei "Bant y Celyn." Cynhwysa'r bryddest feddyliau praffaf ein hiaith, a deongla neges yr emynydd Cymreig. Yr oedd Pant y Celyn i Ben Bowen yn fwy na bardd,—efe yw tywys- og a bugail enaid y genedl i'r oesau alddaw Yn llinellu allan, i'r oesau'n dilyn lwybrau'r Dwyfol Pmean." Enaid mawr yn gobeithio y goreu oedd eiddo Ben Bowen ni allasai ond enaid mawr buddugoliaethus gajai profiad fel hyn K Os yw cur yn fy llesghflu,—os yw'r nos Oer yn hir, mae'r golau Yn ymyl Ior yn amlhau, Iesu wyr be sy orau. A thymor plethu emyn-yw awr ing I Lluniaf o'i groes delyn Lloniant sy ar bob llinyn Awr Duw yw cyfyngder dyn. Ymdawelaf, mae dwylo—Duw ei Hun Danaf ymhob cyffro Yn nwfn swyn ei fynwes 0, Caf lonydd-caf le i huno. Y cadeirydd oedd y Parch. E. Wyn Roberts, yntau'n llawn cydymdeimlad a'r testyn. Cyfeiriodd at t Ben Bowen fel un oedd vn cymryd iddo ei hun ddau,ddeffroad, y cenedl- aothol a' r crefyddol. Perygl Unwer o 'n beirdd I ieuainc heddyw yw rhoddi eu holl sylw i'r cenedlaethol ac esgeuluso'r llall. Caed ych- ydig sylwadau pellach gyda'r diolch arferol gan y Parch. J. Felix a'r Mri. Rd. Williams (trysorydd), Thomas Davies, W. J. Jones a Rd. Williams, Pendleton. COFIO ABERTH EIN GW RON I AID. —Yn ysgoldy y M.C. Moss Side, cynhaliwyd brynhawn a hwyr wledd ragorol ynglyn a'r milwyr Cymreig clwyfedig a chlaf sydd yn ysbytai a chlafdai rhanbarth ddeheuol y dref. Dro'n ol, ffurfiwyd pwyllgor gan yramrvwiol eglwysi Cymreig i ymweled a gofalu am y milwyr sydd yn yr ysbytai. Rhannwyd y pwyllgor cyffredinol yn dri,—un i ofalu am y rhan ddeheuol, arall y rhan ogleddol, ac arall ranbarth Salford. Mr. D. Lloyd Roberts yw'r ysgrifennydd cyffredinol i'r cwbl. Gwaith y Pwyllgor deheuol oedd gweithrediadau v Sadwrn diweddaf. Yn y prynhawll, darpar- wyd te a danteithfwyd blasus i'r milwyr, cludwyd hwy yno mewn modur, a chawsant dderbyniad croesawgar. Yr oedd rhyw deim- ladau cynnes wedi meddiannu pawb. Y mil. wyr ieuainc wrth eu bodd yn ymddiddan. ao adrodd hanes eu hegnion, rhai yn Ffrainc, eraill yn y Dardanels a diddorol iawn oedd eu mynegiadau am eu hynt lawn o beryglon a g war ed igaethau. Pennod ofnadwy yn y rhyfel yw ymgyrch y Dardanelles,—meddylier am rai yn ceisio dringo ei-eigiait bron yn union- Syth at y gelynion uwchben, neu geisio gor- ffwys. heb son amymladd. a'rjffrwydrbelennau yn crynnu'r ddaear wrt.h ei dryllio o'u ham- gylch bod am ddeuddydd o dan lygad haul nlamboeth heb ddim ond un llond eu potel o ddwr i yfed, bwyta. ta.maid o fwyd a channoedd o wybed yn ymladd am ei ddileu cyn iddo gyrraedd y genau, ie, yn disgyn yn drwch ar y gwefusau wrth agor y safn. Mae ein dynion ieuaincJyn aberthu llawer heblaw hwy eu hunain v ond fe'm hysbyswyd fod y milwyr yn y ffosydd yn hapus a 11awen yn wyneb y cyfari, ac yn cael llawer o hwyl a difyrrweh. Yr oedd oddeutu 50 yn y wledd nawn Sadwrn, ac yn esiamplau ardderchog o benderfyniad a gwroldeb ein byddinoedd ac yn medru edrych ar ochr oleu popeth. Mae rhai o'r milwyr hyn wedi gwella.'n dda, a dychwelant, yn fuan at, eu catrodau. Mawr.eu clod a'u hanrhydedd hwy a mawr ein dyled ninnau. Yj,, ychwanegol at y bwyd, cawsant eu gwala o sigarennau a sigarets a chynhaliwyd byr- gyngerdd oherwydd fod yn rhaid iddynt ddychwelyd cyn cyfarfod yr hwvr. Llyw. yddwyd gan Mr. R. G. Edwards, Fallowfield, a rhoddodd anerchiad llawn croeso a chyd ymdeimlad. Canwyd yn eithriadol o dda, gan y Misses Sephorah Hughes ac Annie Davies caed can hefyd gan Mr. Owen Rob- erts a bu hwyl ryfeddol o ddifyrrwch gyda champau cyfriniol Mr. Walter Roberts. Yn yr hwyr, cynhaliwyd cyngerdd uchraddol iawn, a Mr. D. Lloyd Roberts yn gadeirydd. Sylwodd ar waith y Pwyllgorau, a bod gan- ddynt drefniant yn awr. i gael gwybodaeth ddiatreg o ddyfodiad Cymry i'n hysbytai. Daeth 300 yma mewn wyth wythnos, mae 150 yn awr mewn gwahanol leoedd. Daeth again yma bob wythnos er Gorffennaf di- weddaf ar gyfartaledd, ac ymwelir a. phob un yn gyson. Ni ellir ymweled yn waglaw, ac felly trefnwyd y cyngerdd i gael cronfa fechan 1 yrru r gwaith ymlaen. Diau y gwna.'r rlia,i a. ofala am gylch Salford a Crumpsall rywbeth tebyg a disgwylir y gellir gwneud un wledd fawr ganolog i'r holl filwyr Cymreig gyda'i gilydd cyn hir. Yr oedd y gynulleidfa yn y cyngerdd bron yn ormod i'r ystafell eang, a'r olygfa yn odidog. Nid oedd dim gwael yng ngweithrediadau y rhaglen, a gwasanaethodd pawb o'u gwirfodd, yn llawn eymu-ylttisgar- weh di-dal. Fel hyn yr oedd y rhaglen, ond ychwf%egwyd llawer oherwydd taerni yr encor cryf. Dechreu gyda God save the King. Canodd Cor Meibion y Cambria da.n anveiniad Mr. Llew Hughes, Coiitrades' Song of Hope Y Banerior gan J. A. Roberts Gwlad y Delyn gan Owen Roberts Gwlad fy Ngenedigaeth, gan Sephorah Hughes adroddiad gan Arthur Meyer A Summer's Night, gan Annie Davies; Mountain Lovers, gan E. Musgrove On the Ramparts, gan y Cor adroddiadau gan Arthur Meyer Baner ein Gwlad, gan Owen Roberts A Uttle damsel, gan S. Hughes Gwlad, yr Eisteddfodan, J. A. Roberts The greatest wish- in the world, gan A. Davies Plant y Cedyrn, gan y ddau Roberts All through the night a Border Ballad gan y Cor a'r anthemau cenedlaethol gan bawb. Aderyn am gyfnod yw Miss Annie Davies gyda ni, ac y mae ei pharudrwydd i wasanaethu gymaint ag yw ein hedmygedd ohOni hi a'i chanu di- gyffelyb. Nid oes ball ar y clod i Miss Seph- orah Hughes gj'da'i 11a is dengar, llawn o swyn. Mae'r Cor, yn cynnwys y cantorionferaill, yn anrhydedd mawr i ni. Dyn a dawn arbennig yw'r adroddwr hefyd. Un o bethau goreu'r cyngefdd oedd y difyrrweh a gaed trwy waith Mr. Walter Roberts ya argyhoeddi'r gynull- eidfa o'i allu i wneud y Haw yn gyflymach 11a'1' llygad. Mae'r triciau bychain a wna yn dyrysu damcaniaeth, a gogleisia ei ffraeth- ebion y mwyaf lleddf i chwerthin yn iachus. Gall ambell un feddwl mai swyngyfaredd yw hyn, ond y mae'r cyfan yn ddireidi hollol ddi- niwed, ac ni all y Piwritan mwyaf santeidd- wep weld lie i fai. Diolch i Mr. Roberts am fod yn esiampl o allu Cymiy i ddringo llethra u clod gwahanol i rai lien a chan tuag at sirioli bywyd. Cyfeiliwyd gan Miss Morfydd Will- iamsa Mr. Alf. J. Roberts. Trefnwyd y cyng. erdd, etc., gan Mr. J. G. Jones, Moss Side. Ysgrifennydd y cyfan a'r pwyllgor, yw Mr. J. W. Meredith, 12 Brasenose Street, o eglwyg Booth Street.

IAm Lyfr.

Advertising