Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Wrth Grybinio. j

I Basgedaid o'r Wlad. I

Clep y Clawdd,

News
Cite
Share

Clep y Clawdd, sef Clawdd Offa. [GAN YR HUTYN], I EFENGYL NEWYDD (The Gospel of Health).-—Dyma destyn pregeth y Dr. Hok- kins ym mhulpud Bryn y Ffynnon, Gwrec. sam, y nos o'r blaen. Mae eglwys yr efengyl newydd hon wedi cyrraedd ei llawn oed (21), sef un mlwydd ar hugain. Bu llwyddiant nid bychan yn ei hanes yn ystod y blynyddau hyn ond fel hanes eglwysi cred yn gyffiredin, ceir hi mewn dyled ar derfyn y flwyddyn felly dywed y drysores. Trindod yr eglwys hon ydyw Tes, Awyr a Dwr. Ei phrif oreh- mynion ydyw yfwch ddwfr pur, anadlwch awyr las, cyfaneddwch yn y tes. Bugail y Gospel of Health yw Mr. Charles Dodd, Gwrec- sam. Y bywyd tymhorol, ac nid y tra. gwyddol, yw ei rhad. FFOSFR FYNWENT.—Torri ffosydd yw gorchwyl y dydd ar y Cyfandir ac yn y Rhos. Dylasai pobl y Rhos fod yn dipyn o experts ar wneud ffos. Sut i ffosi'r fynwent yw eu problem fawr y dyddiau hyn. Yn awr, y ffordd rataf a challaf i sychu'r fynwent yw sychu'r dafarn. Both wneir yn y Licensing Session cyfagos, tybed ? Y MILLIONAIRE.-Mr. Edward Huws, yr Agent, ddywed, pe buasai ganddo illiwn o bleidleisiau y taflai hwynt yn ewyllysgar yn ffafr Mesur Gorfod y Prif Weinidog oblegid, meddai, gwell garddo ychydig o Gonsgripsiwn na llaioer. Ond fe ddywed y Glep-ac y mae hi weithian yn ddoeth—taw'r ychydig yw tad y llawer, the thin end of the wedge. Trwy'r thin end y mae'r wedge yn gwneud ei gwaith, Mr. Huws. Tolciwch yr edge, ac fe dderfydd am y wedge. Y GWAS YN SAL.-A-lae gyrfa'r Parch. John Smallwood, y Cymau, wedi rhedeg ym mhell, ond llesgha ei droed. Nid yw wedi dringo'r Sanctaidd Ris ers Suliau. Teimlir chwithtod a eholled eisys. Nid oes hafal iddo yn ei hegl, ei lafar n-a'i hoen. Erys ei neges gyda ni am ddyddiau meithion, a'i lais nis anghofir. Tyred eto, was annwyl, yn dy nerth o'th gaethdy blin, er it groesi'r lease 0 Lys y Nen. GORMOÐ 0 BWDIN.—Dywed y Glep, i amryw o bregethwyr y Clawdd dorri i lawr Sul y Nadolig, gan fethu cyhoeddi'r Cymod. Bu un yn sal iawn. Gormod o bwdin, medd y Glep. Ai gwir hyp ? Pwv oedd, tybed ? "CANNON IN FRONT OfF THEM." —Dywed y Glep y gosodir i lawr ganwn arall ar y Groesffordd yn agos i'r Clawdd-real British gun-sef y Canon Roberts, o Lan- ddulas. Nid dymar Canon cyntaf iGresford, oblegid yma y bu'r diweddar Ganon Howell yn fawr ei barch ac yn deg ei fri. BIodeuog iawn oedd pethau y pryd hynny a pha ryfedd, onid oedd Llawdden yma ? Byddis yn arfer tanio gwn mawr yn Gresford bob nos Sadwrn i hysbysu trigolion y Clawdd o'r Greenwich Time. Be ddaeth o hwnnw ? A ydyw wedi ei gomandirio i amcanion y Rhyfel ? Nis clywir ef yn awr. Hwyrach y ceir charge eto wedi i'r Canon newydd gyrr- aedd. Efe'r Canon Davies yn Ngwrecsam, y mae bron mynd yn Charge of the Light Brigade yma- Canon to right of them, Canon to left of them, etc. LLITH A LL.E.-?V:Y Rhos am bopeth. medde rhywun. Cafwyd amryw ddarlith. oedd gwych yma y dyddiau diweddaf hyn. Un gan y Parch. Bailey Roberts (M.C.) ger bron y Ford Gron, ar Ceiriog un arall gan y Parch. Wyre Lewis, ar T'wm o'r Nant; un arall eto gan y Parch. Powell Griffiths, o flaen y Presbyterian Lit. ar Tennyson* a da odiaeth oeddynt i gyd, and there's more to follow." Oes dim posib, fechgyn, ffurfio math ar Gilchrist yn y Rhos yma ? Ffawd o beth fai llith a lien. "BEIBL I BA WB 0 BOBL Y BYD." —Cynhaliwyd llu o gyfarfodydd ynglyn a Chymdeithas y Beiblau yr wythnosau di- weddaf, o amgylch y Clawdd yma. Dyma Gymdeithas fwya'r byd i gyd ond rhyfedd cyn lleied o bobl ddaw i'r cyfarfodydd. Be sy ? Gynt hwn oedd cyfaifod swynola'r flwyddyn ond yn awr, pla arno Dywed y Glep hefyd fod y casgliadau yn mynd i lawr. Syrthiodd csagliadau Cymru £ 1,000 y flwydd- yn ddiweddaf, ac ofnir y bydd y goll yn fwy eto y flwyddyn hon, a hynny yng Nghymru fad. Caff a el Cymru yn flaenaf a phennaf yw hon. Ystyriwn ac ymegniwn gan hynny. COFIO'R SGWEIAR.-Sef y diweddar. Lieut. Gladstone A.S. Efe yn wr da ei dras, ond trist ei dranc. Clebrir gwneud coffa teil- wng ohono mewn llan a llannerch, oblegid pur oedd ar droed a thafod. Rhuthrodd i'r llanastr enillodd anfarwoldeb ar ffrwst. SYRTHIO AR Y SUL.-Felly John Pemberton, o Felin Pwlston, Rhostyllen. Un o'r 4th R.W.F. oedd efe, sef ywR.W.F.- Ready without fear." Gyrrodd dau ddwsin o'i ffrindiau air o gydymdeimlad gwir a'i rieni trist, yn eu trallod, gan ddatgan eu hedmygedd trylwyr ohono ef. "He died a hero," meddent. Mae'i hanes ef yn hanes llu, a chroes ei riaint yn groes aneiri'.

Advertising