Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Wrth Grybinio. j

I Basgedaid o'r Wlad. I

News
Cite
Share

I Basgedaid o'r Wlad. I I O'r Hen Sir,fsef Sir Fon. I Bu eglwys M.C. Disgwylfa, Caergybi, yn gwledda ar bregethau'r Prifathro Prys, Aber- ystwyth, a'r Parch. H. H. Hughes, Lerpwl. Y ddau ar eu huchelfannau. Wedi bod ohono gartref gyda'i deulu dros y Gwyliau, aethai Mr. T. Ll. Williams, mab hynaf y Parch. R. P. Williams, Hen Daber- nacl, Caergybi, i ffwrdd i'r ysbyty i Lundain i orffen gwella. A'i frawd, Mr. Walter Will- Iiams, y deintydd poblogaidd, yn gwmni a chymorth iddo. Drylliwyd ei gorff yn arw yn y brwydro yn Ffrainc, ac ni chaed yr un swyddog ieuanc yn y fyddin yn ddewrach, na'r un feddai ar gorff mwy golygus a thalsyth. Bu'r Parch. Idwal Jones, y Rhos, brodor o Fon, ac ynddi fynyched a neb, yn Rhos y bol nos Fercher ae yn Llannerch y medd nos Iau, yn darlithio ar y Ddau Ffawd, sef Waldo a James Nefyn adynaddarlithddoniol-gamp. Mawr y canmol sydd ami. Hefyd, pregethai yng nghyfarfod hanner-blynyddol Fforddlas, hen faes ei frawd y Parch. G. R. Jones. Cefn mawr, un o wyr cryfaf ei enwad, a'i enw'n beraroglus o hyd. Newydd swyddogol yn cyrraedd Llannerch y medd, sef i Mr. Thos. Jones, British Terrace, am gwymp marwol ei fab ugain oed yn Galli- poli. Mab caredig, lluniaidd o gorff, a lled- nais ei ysbryd, ac yn gannwyll llygad mam. Mam arall dan ei briw o'r enw Mrs. Wood, yn colli ei mab yn yr un ysgarmes. Efe'n grythor ieuanc, a'i wyneb a'i grwth yn gynefin led Cymru. Gwaith piau hi, nid proffes dyna wnaed gan garedigion Llannerch y medd,—casglu'n ddidwrw dros wyth bunt i fam y llanc John Davies, a laddwyd yng ngorsaf y lie byth- efnos cyht, a beth yn siriolach i galon mam yn gwaedu na rhodd felly ? yn lIe geiriau chwydd edig a gweigion sydd mor ddifias a lie tân heb dan. Tyner odiaeth oedd canig y cadeirfardd per, Rhydfab, Cemaes, pan ganodd o gylch y Gwyliau, ar yr helyg mae'n nhelyn i." Ei briod hoff ers wythnosau yn ymoedi'n y glyn, mewn dygn boenau, a chystudd trwm. Ym mhlygain bore dydd Iau, ehedodd ei hys- bryd i'r Wlad Wen. Gwraig dda, fonheddig ei hysbryd a'i hymadrodd, a dichlyn ei moes. Cadwodd aelwyd lan a chysurus, a bu'r byw- yd priodasol yn gynghanedd ddi-dor. Cladd- wyd ym Methesda (M.C.), pan weinyddodd y Parch. O. Parry, a'r Parch. J. Williams, y Bryn. Mae cydymdeimlad ardal a gwlad a'i phried galarus, Alawfardd lengar o Lanfach- raeth yn un o'i frodyr. Dy delyn ar yr helyg A fu am lawer mis, A'th dirion wraig o ddydd i ddydd I'r glyn yn suddo'n is; Ond tyn i lawr dy delyn,— Mae'th briod uwch pob braw Bydd hawddach iti ddiodde'r storm A'r delyn dan dy law. -Llygad Agored. CAER.-Dair wythnos yn ol, daeth gair o Ffraine fod See-Lieut. J. E. J. Whitaker, 9th Batt. King's Shropshire Light Infantry, ond yn awr gyda'r 18th Batt. Middlesex Regiment (1st Public Works Pioneers) wedi ei glwyfo. Efe'n unig fab Mrs. W. Sylvanus Jones, Caer, ac yn wyr felly i'r Parch. Edward Griffiths, Meifod. Yn ffortunus iawn, nid oedd ei glwyfau agos mor ddifrifol ag y tybid yn y dechreu, a dychwelodd i'r trenches wedi wyth niwrncd o orffwys. Ymhen diwrnod neu ddau, clwyfwyd ef drachefn, a'i glwyfau y tro hwn yn ffyrnicach nag o'r blaen, ond eto heb fod yn beryglus. Mewn ysbyty ar lan y mor yng ngogledd Ffarinc y mae, a sicr y bydd yn dda gan lu cyfeillion ei deulu ddeall ei fod yn hynod gysurus a chalonnog, ac yn edrych ymlaen yn selog at gael dychwelyd i'r wlad hon cyn hir iawn i orffen gwella. Yn fuan wedi ei anaf cyntaf, dywedodd ei Gyrnol wrtho fod yn ei fryd i annog yr awdurdodau i roddi codiad iddo yn ei fataliwn, ac nid oes dim tebyg i newydd da at godi calon claf. Dim rhyfedd felly i'n cyfaill ieuanc wella mor gyflym. Nid yn unig y mae gan ei gyd. swyddogion feddwl y byd ohono, ond mae iddo le cynnes hefyd yng nghalonnau y dyn- ion dewr sydd o tano. Derbyniodd Lieut. Whitaker ei addysg yn Ysgol Sir Bewmaris, ac wedi hynny ym Mhrifysgol Birmingham ond pan chwythwyd corn y gad ddeunaw mis yn ol, ymaith ag ef ar unwaith, gan adael ei lyfrau, i wneud ei ran dros ei deyrn a'i wlad. Dymunwn o galon iddo adferiad llwyr a buan, a nerth a llwyddiant eto yn yr alwedigaeth ardderchog yr ymaflodd ynddi. COEDLLAI.-Coronwyd ymdrech y Wes- leaid Seisnig â llwyddiant mawr gyda'u Heis- teddfod .gyntaf, nos Fercher, lonawr 19eg. Llannwyd ysgoldy eang y Wesleaid bob sedd, a chafwyd cyfarfod hwyIiog a brwd. Yr oedd nifer y cystadleuwyr a safon y cystadleuaeth- au j'n: rhagorol. Arweiniwyd y cyfarfod gan y Parch. G. 0. Roberts (J?o?), gyda medr arbennig, a'r cyfaill mwyn a phoblogaidd, Mr. E. A. Prydderch, yn llywyddu. Tra- ddododd anerchiad gwerth ei gwrando. Y beirniad cerddorol oedd Mr. Tom Carring- ton (Pencerdd Gwynfryn), Coed poeth. Mr. Jones, yr ysgolfeistr, feii'niadai'n adroddwyr. Cyfeiliai Miss Celia Jones (ei ferch), a swydd- ogion y pwyllgor oedd Mr. Edwin Jones ac Arthur Prydderch. Wele'r buddugwjj Adrodd 1, Percy Parry 2, Dilys May Cunnah. Ui-iiwd genetliod 1, Laura Foulkes, Coedllai 2, Alice Gordon, Treuddyn. Unawd bechgyn 1, Edwin Trevor 2, Wil- frid Rogers (y ddau o Goedllai). Unawd tenor Mr. Ted Hughes, yr Wyddgrug. Unawd soprano Miss Gwladys Rogers, Coedllai. Deuawd (T. a B.) Enoc Roberts, Coedllai, ac E. J. Williams. Unawd baritone: Mr. E. J. Williams, Coedllai (gwr ieuanc addawol iawn, meddai'r beirniad). Unawd ar y berdoneg Miss Alice Gordon, Treuddyn. Parti o wyth, goreu o ddau Parti Mr. Enoc Roberts. Cor cymysg—dau gor yn canu Y Blodeuyn Olaf (J. Ambrose Lloyd) ac wedi cystadleuaeth odidog, Cor Orpheus, Treuddyn (dan arweiniad Mr. Williams) yn cael y wobr, gyda chanmoliaeth uchel.-Goh.. o

Clep y Clawdd,

Advertising