Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Wrth Grybinio. j
Wrth Grybinio. j Llawlyfr ar y Gwyrthiau ar werthu allan, ac nis gellir ei ail-argraffu. Mynnwch gopi. Gwel td. 8. Y Parch. H. Dennis Jones, Shotton, yw Uywydd newydd Undeb Annibymvyr Seisnig Sir Fflint. Pan chwareuid drama fach Childi-en thiough the Centuries yng Nghaernarfon ddydd Iau diweddaf, dan nawdd Cymdeithas Eglwysig y Waifs and Strays, er budd y drysorfa ryfel, hysbyswyd fod Miss Violet Hayes wedi marw. Y hi oedd wedi trefnu golygfa agoriadol y ddrama yr oedd hi yn y rihyrsal ddwy noson cynt, a bu farw'n sydyn. Gadawyd yr olygfa honno heb ei chwarae, ac aed ymlaen gyda'r Ileill. Y mae Syr Edward Evans wedi bod yn gadeirydd Cynghrair Rhyddfrydol y Deyrnas ers un mlynedd ar hiigain ac wedi cael ei anrhegu a llestri arian fel arwydd o deimladau da a diolch iddo. Y fo'a byw yn ymyl Birkenhead, Sir Gaer, ond yn deillio o deulu Cymreig ym Maelor, ar odre Gwrecsam. Yn Llundain, ddydd Ma wrth yr wythnos ddiweddaf, priodid Miss Eileen Wynne Rich- ards, merch hynaf rheithor Llangyniew, Sir Drefaldwyn, a'r Capt. A. C. Waktin, meddyg o Sir Amwythig. -0. Dedfrydodd ynadon Llangollen y Preifat Abel Rowlands. R.W.F., i bythefnos o garchar yr wythnos ddiweddaf am ymosod yn giaidd ar Robert Jones, Plas Offa Cottage, y Waen- hen wr teirgwaith ei oedran bron. Hysby.sir fod y Parch. Thos. Charles Williams, M.A., y Borth, 'yn gwella'n foddhaol a bellach yn gymharol ddi-boen ond y mae pob cyhoeddiad o hyn i ddiwedd Mawrth wedi ei alw'n ol-yn eu mysg, gyhoeddiad i bre- gethu yn y City Temple, Llundain, lie y mae ei enw ymysg y rhai i alw bugail o'u plith, fel dilyziydo y Parch. R. J. Campbell. Hefyd, ddydd Mercher yr wythnos hon, yr oedd i bregethu i raddedigion Prifysgol Birmingham, a Syr Oliver Lodge i ddechreu o'i flaen. Dau wr hysbys arall sy'n gwella o'u gwael- edd yw'r Canon Davies (Dyfrig), Gaerwen, Mon, a'r Proff. W. Lewis Jones, M.A., Prif- ysgol Bangor. Y mae'r cyntaf o fechgyn Treflawnyd (Ne-w- market), Sir I flint, wedi marw yti y rhyfel, sef Driver Edward Jones, mab Mr. a Mrs. Owen Jones, High Street, a laddwyd yn y Dar- danelles. A dyma ddau arall o fechgyn Caergybi wedi eu lladd, sef y Preifat Geo. A. Thomas, cyn- athro yn Ysgol Gyngor Cybi, Caergybi; a'r Preifat J. H. Joties, a fyddai'n athro yn Ysgol Gyngor Llangefni, ond yn frodor o Gaergybi, Lladdwyd y ddau gan yr un shell, a'r cyntaf yp cael ergyd farwol wrth redeg i gooi'r ail. Y mae Bangor yn falch o'r orchest a gyf- law icdd un o'iphlant—Corpl. T. A. Griffith yr y Cameroons, sef marchogaeth filltiroedd drwy anial difffiith a thywydd enbyd, a dal haid o'r Germaniaid a'i blaenor, a fygythiai dorri'r oymundeb rhwng y Prydeiniaid yn snechlyd o'r tu ol. + Ac y mae Cyngor Llandudno wedi pasio i :anfon pleidlais o'u hedmygedd o orehest Lifft. Regmald Davies, un o fechgyn y dref, sydd wedi ennill y Groes Filwrol ar y maes. Nos Wener ddiweddaf, cafwyd Rd. Jones, gwbs fferm Pwll yr Ebol, rhyw dair milltir o Lan idloes, wed i ymgrogi odd iwrth gadwya yn un o feudai'r fferm. Yr oedd y meistr a'r mab wedi mynd i arwerthiant yng Nghaersws. Yr oedd ar y fferm ers pum mlynedd, yn fach- ge i sobr, ond yn isel ei ysbryd ers tri mis, ac yn gwrthod yn lan a dywedyd am ba beth. .0- Ymaeawdurdodau Coleg lesu, Rhydychen, wedi oedi penodi prifathro yn lle'r diweddar Syr John Rhys hyd amser amhenodol. Y mae y rhain wedi ennill ysgoloriaethau i fynd i'r Coleg Exhibition yn y Clasuron, F. G. Morris, ac Alwyn R. Hughes, Lerpwl; Ysgol- oriaeth Glasurol Gymreig, W. D. G.Wilkinson, Coleg Crist, Aberhonddu, a Hywel H. S. .Jones, Leatherhead Ysgoloriaeth Uchrif- yddol Gymreig, Sydney M. Williams, Coleg Uanymddyfri Ysgoloriaeth Gymreig mewn Llenyddiaeth Seisnig, David J. Williams, Prifysgol Aberystwyth. -0- Dyma fel ycân Gwilym Ardudwy ar ol yr -hen gyfaill pur ac addfwyn Mr. John Thomas, Pen Rhiw, V-anbedr, Meirion, a noswyliodd lonawr 8, 1916, yn 70ain oed :— Gweithiwr dichlyn, crefftwr cywrain, Priod siriol, tyner dad, Pert ymgomiwr, lienor mirain, Heb un gelyn trwy y wlad Dyna nodwedd loan Thomas,— Cyfaill diddan, pura'n tir, Deil ei goffa'n ber a gwyrddlas Tra murmura'r Artro glir. Curio fyn mynwes cariad—dwyn loan Diweniaith, da'i deimlad, I'w oer fedd wrth Artro fad, Ow siomedig symudiad. Y mae gan y Parch. J. E. Jones, Chicago, lith-goffa yn Y Drych am y ddiweddar Rahel o Fôh, hysbys led Cymru a'r Taleithiau fel efengylydd boblogaidd ers pan oedd yn ddwy ar bymtheg oed. Ganwyd yn Nhal y Foel, Llangenwen, Mon, yn 1846 merch Mr. a Mrs. Wm. Paynter aeth i'r America yn 1870 priododd yn 1872 a Mr. Edward Davies, yr hwn a fu farw yng Nghymru pan oedd o a hithau drosodd am dro, a chladdwyd ef ym Mrynsiencyn. Y mae ei mab-yr Anrhyd. Joseph E. Davies-yn dringo'n uehet ym myd gwleidyddol Washington. Robert ap Gwilym Ddu biau'r syniad swynol hwn :— Mewn gardd y cafodd dyn ei dwyllo Mewn gardd y rhoddwyd addewid iddo Mewn gardd bradychwyd lesu hawddgar Mewn gardd amdowyd Ef mewn daear. Ebe'r Parch. P. H. Griffiths, Llundain, mewn pregeth yn Y Gorlan am bobl y byd '» Ni waeth beth yw eu llwyddiant, ni waeth beth yw eu talent, ni waeth beth yw eu henwogrwydd, y maent yn teithio'n raddol at ganlyniadau anocheladwy eu eyflwr.-teitliio trwy welyau o rosynau i gyfandir o ludw." Nes atgoffa dyn o'r adnod fiaiog honno o Alarnad Jeremiah, am rai tebyg :— Y rhai a feithriniwyd mewn ysgarlad a gofleidiant y tomennydd." »• Yr oedd Caernarfon ar ben drws i. gyd aios Iau ddiweddaf i weld y Pageant a gynhelid i ddathlu gorchest ddewr un o hogiau'r dre' sef J. Evans Jones, a enillodd fathodyn y D.C.O. Rhag. 16, yn Ffrainc, ac a gafodd bythefnos o egwyl gartref yn ei sgil. Cyflwyn- wyd oriawr iddo ar ran y tanysgrifwyr gan y Maer (Mr. Chas. A. Jones) ac anrheg arall gan aelodan.'r Y.M.C.A. Y diwrnod crybwylledig disgynnodd shel gan ladd pedwar o'i gyfoed- ion yn y fan yr oedd Jones gryn bellter ar y pryd ond yn clywed gruddfan, rhedodd yno, ac a lusgodd y pumed o'i waed ac a ymgeledd- odd ei glwvfau. Y mae'r Canon Roberts, Llanddulas, wedi gwrthod ficeriaeth Gresffordd, Gwrecsam, a. gynhygiwyd iddo gan Esgob Llanelwy. Mr. Arthur Rhys Jones (Beaumaris) a Mrs. Eva Lloyd Edwards (Bangor) sydd wedi eu dewis yn Warcheidwaid Tlodion yr Undeb yn lle'r Mri. Hugh Thomas a Mrs. Huw Row- land, oedd wedi ymddiswyddo. Ebe'r Parch. R. Jones, Berwydd, wrth siarad m--wii cyfarfod o Armibynwyr Seisnig Sir Drefaldwyn a gynhelid yn y Drenewydd ddydd Iau diweddaf y— Y mae'r rhyfel yn esgus da dros roddi llawer o bethau heibio—hyd yn oed y deg Gorchymyn. Pan gynhaliodd Keir Hard die gyfarfod ar y Sul, gwgid arno ond heddyw, pan sieryd un o aelodau'r I Llywodraeth ar y Sul, dyma ni'n cau'n I capeli i fynd i'w wrando." -0-
I Basgedaid o'r Wlad. I
I Basgedaid o'r Wlad. I I O'r Hen Sir,fsef Sir Fon. I Bu eglwys M.C. Disgwylfa, Caergybi, yn gwledda ar bregethau'r Prifathro Prys, Aber- ystwyth, a'r Parch. H. H. Hughes, Lerpwl. Y ddau ar eu huchelfannau. Wedi bod ohono gartref gyda'i deulu dros y Gwyliau, aethai Mr. T. Ll. Williams, mab hynaf y Parch. R. P. Williams, Hen Daber- nacl, Caergybi, i ffwrdd i'r ysbyty i Lundain i orffen gwella. A'i frawd, Mr. Walter Will- Iiams, y deintydd poblogaidd, yn gwmni a chymorth iddo. Drylliwyd ei gorff yn arw yn y brwydro yn Ffrainc, ac ni chaed yr un swyddog ieuanc yn y fyddin yn ddewrach, na'r un feddai ar gorff mwy golygus a thalsyth. Bu'r Parch. Idwal Jones, y Rhos, brodor o Fon, ac ynddi fynyched a neb, yn Rhos y bol nos Fercher ae yn Llannerch y medd nos Iau, yn darlithio ar y Ddau Ffawd, sef Waldo a James Nefyn adynaddarlithddoniol-gamp. Mawr y canmol sydd ami. Hefyd, pregethai yng nghyfarfod hanner-blynyddol Fforddlas, hen faes ei frawd y Parch. G. R. Jones. Cefn mawr, un o wyr cryfaf ei enwad, a'i enw'n beraroglus o hyd. Newydd swyddogol yn cyrraedd Llannerch y medd, sef i Mr. Thos. Jones, British Terrace, am gwymp marwol ei fab ugain oed yn Galli- poli. Mab caredig, lluniaidd o gorff, a lled- nais ei ysbryd, ac yn gannwyll llygad mam. Mam arall dan ei briw o'r enw Mrs. Wood, yn colli ei mab yn yr un ysgarmes. Efe'n grythor ieuanc, a'i wyneb a'i grwth yn gynefin led Cymru. Gwaith piau hi, nid proffes dyna wnaed gan garedigion Llannerch y medd,—casglu'n ddidwrw dros wyth bunt i fam y llanc John Davies, a laddwyd yng ngorsaf y lie byth- efnos cyht, a beth yn siriolach i galon mam yn gwaedu na rhodd felly ? yn lIe geiriau chwydd edig a gweigion sydd mor ddifias a lie tân heb dan. Tyner odiaeth oedd canig y cadeirfardd per, Rhydfab, Cemaes, pan ganodd o gylch y Gwyliau, ar yr helyg mae'n nhelyn i." Ei briod hoff ers wythnosau yn ymoedi'n y glyn, mewn dygn boenau, a chystudd trwm. Ym mhlygain bore dydd Iau, ehedodd ei hys- bryd i'r Wlad Wen. Gwraig dda, fonheddig ei hysbryd a'i hymadrodd, a dichlyn ei moes. Cadwodd aelwyd lan a chysurus, a bu'r byw- yd priodasol yn gynghanedd ddi-dor. Cladd- wyd ym Methesda (M.C.), pan weinyddodd y Parch. O. Parry, a'r Parch. J. Williams, y Bryn. Mae cydymdeimlad ardal a gwlad a'i phried galarus, Alawfardd lengar o Lanfach- raeth yn un o'i frodyr. Dy delyn ar yr helyg A fu am lawer mis, A'th dirion wraig o ddydd i ddydd I'r glyn yn suddo'n is; Ond tyn i lawr dy delyn,— Mae'th briod uwch pob braw Bydd hawddach iti ddiodde'r storm A'r delyn dan dy law. -Llygad Agored. CAER.-Dair wythnos yn ol, daeth gair o Ffraine fod See-Lieut. J. E. J. Whitaker, 9th Batt. King's Shropshire Light Infantry, ond yn awr gyda'r 18th Batt. Middlesex Regiment (1st Public Works Pioneers) wedi ei glwyfo. Efe'n unig fab Mrs. W. Sylvanus Jones, Caer, ac yn wyr felly i'r Parch. Edward Griffiths, Meifod. Yn ffortunus iawn, nid oedd ei glwyfau agos mor ddifrifol ag y tybid yn y dechreu, a dychwelodd i'r trenches wedi wyth niwrncd o orffwys. Ymhen diwrnod neu ddau, clwyfwyd ef drachefn, a'i glwyfau y tro hwn yn ffyrnicach nag o'r blaen, ond eto heb fod yn beryglus. Mewn ysbyty ar lan y mor yng ngogledd Ffarinc y mae, a sicr y bydd yn dda gan lu cyfeillion ei deulu ddeall ei fod yn hynod gysurus a chalonnog, ac yn edrych ymlaen yn selog at gael dychwelyd i'r wlad hon cyn hir iawn i orffen gwella. Yn fuan wedi ei anaf cyntaf, dywedodd ei Gyrnol wrtho fod yn ei fryd i annog yr awdurdodau i roddi codiad iddo yn ei fataliwn, ac nid oes dim tebyg i newydd da at godi calon claf. Dim rhyfedd felly i'n cyfaill ieuanc wella mor gyflym. Nid yn unig y mae gan ei gyd. swyddogion feddwl y byd ohono, ond mae iddo le cynnes hefyd yng nghalonnau y dyn- ion dewr sydd o tano. Derbyniodd Lieut. Whitaker ei addysg yn Ysgol Sir Bewmaris, ac wedi hynny ym Mhrifysgol Birmingham ond pan chwythwyd corn y gad ddeunaw mis yn ol, ymaith ag ef ar unwaith, gan adael ei lyfrau, i wneud ei ran dros ei deyrn a'i wlad. Dymunwn o galon iddo adferiad llwyr a buan, a nerth a llwyddiant eto yn yr alwedigaeth ardderchog yr ymaflodd ynddi. COEDLLAI.-Coronwyd ymdrech y Wes- leaid Seisnig â llwyddiant mawr gyda'u Heis- teddfod .gyntaf, nos Fercher, lonawr 19eg. Llannwyd ysgoldy eang y Wesleaid bob sedd, a chafwyd cyfarfod hwyIiog a brwd. Yr oedd nifer y cystadleuwyr a safon y cystadleuaeth- au j'n: rhagorol. Arweiniwyd y cyfarfod gan y Parch. G. 0. Roberts (J?o?), gyda medr arbennig, a'r cyfaill mwyn a phoblogaidd, Mr. E. A. Prydderch, yn llywyddu. Tra- ddododd anerchiad gwerth ei gwrando. Y beirniad cerddorol oedd Mr. Tom Carring- ton (Pencerdd Gwynfryn), Coed poeth. Mr. Jones, yr ysgolfeistr, feii'niadai'n adroddwyr. Cyfeiliai Miss Celia Jones (ei ferch), a swydd- ogion y pwyllgor oedd Mr. Edwin Jones ac Arthur Prydderch. Wele'r buddugwjj Adrodd 1, Percy Parry 2, Dilys May Cunnah. Ui-iiwd genetliod 1, Laura Foulkes, Coedllai 2, Alice Gordon, Treuddyn. Unawd bechgyn 1, Edwin Trevor 2, Wil- frid Rogers (y ddau o Goedllai). Unawd tenor Mr. Ted Hughes, yr Wyddgrug. Unawd soprano Miss Gwladys Rogers, Coedllai. Deuawd (T. a B.) Enoc Roberts, Coedllai, ac E. J. Williams. Unawd baritone: Mr. E. J. Williams, Coedllai (gwr ieuanc addawol iawn, meddai'r beirniad). Unawd ar y berdoneg Miss Alice Gordon, Treuddyn. Parti o wyth, goreu o ddau Parti Mr. Enoc Roberts. Cor cymysg—dau gor yn canu Y Blodeuyn Olaf (J. Ambrose Lloyd) ac wedi cystadleuaeth odidog, Cor Orpheus, Treuddyn (dan arweiniad Mr. Williams) yn cael y wobr, gyda chanmoliaeth uchel.-Goh.. o
Clep y Clawdd,
Clep y Clawdd, sef Clawdd Offa. [GAN YR HUTYN], I EFENGYL NEWYDD (The Gospel of Health).-—Dyma destyn pregeth y Dr. Hok- kins ym mhulpud Bryn y Ffynnon, Gwrec. sam, y nos o'r blaen. Mae eglwys yr efengyl newydd hon wedi cyrraedd ei llawn oed (21), sef un mlwydd ar hugain. Bu llwyddiant nid bychan yn ei hanes yn ystod y blynyddau hyn ond fel hanes eglwysi cred yn gyffiredin, ceir hi mewn dyled ar derfyn y flwyddyn felly dywed y drysores. Trindod yr eglwys hon ydyw Tes, Awyr a Dwr. Ei phrif oreh- mynion ydyw yfwch ddwfr pur, anadlwch awyr las, cyfaneddwch yn y tes. Bugail y Gospel of Health yw Mr. Charles Dodd, Gwrec- sam. Y bywyd tymhorol, ac nid y tra. gwyddol, yw ei rhad. FFOSFR FYNWENT.—Torri ffosydd yw gorchwyl y dydd ar y Cyfandir ac yn y Rhos. Dylasai pobl y Rhos fod yn dipyn o experts ar wneud ffos. Sut i ffosi'r fynwent yw eu problem fawr y dyddiau hyn. Yn awr, y ffordd rataf a challaf i sychu'r fynwent yw sychu'r dafarn. Both wneir yn y Licensing Session cyfagos, tybed ? Y MILLIONAIRE.-Mr. Edward Huws, yr Agent, ddywed, pe buasai ganddo illiwn o bleidleisiau y taflai hwynt yn ewyllysgar yn ffafr Mesur Gorfod y Prif Weinidog oblegid, meddai, gwell garddo ychydig o Gonsgripsiwn na llaioer. Ond fe ddywed y Glep-ac y mae hi weithian yn ddoeth—taw'r ychydig yw tad y llawer, the thin end of the wedge. Trwy'r thin end y mae'r wedge yn gwneud ei gwaith, Mr. Huws. Tolciwch yr edge, ac fe dderfydd am y wedge. Y GWAS YN SAL.-A-lae gyrfa'r Parch. John Smallwood, y Cymau, wedi rhedeg ym mhell, ond llesgha ei droed. Nid yw wedi dringo'r Sanctaidd Ris ers Suliau. Teimlir chwithtod a eholled eisys. Nid oes hafal iddo yn ei hegl, ei lafar n-a'i hoen. Erys ei neges gyda ni am ddyddiau meithion, a'i lais nis anghofir. Tyred eto, was annwyl, yn dy nerth o'th gaethdy blin, er it groesi'r lease 0 Lys y Nen. GORMOÐ 0 BWDIN.—Dywed y Glep, i amryw o bregethwyr y Clawdd dorri i lawr Sul y Nadolig, gan fethu cyhoeddi'r Cymod. Bu un yn sal iawn. Gormod o bwdin, medd y Glep. Ai gwir hyp ? Pwv oedd, tybed ? "CANNON IN FRONT OfF THEM." —Dywed y Glep y gosodir i lawr ganwn arall ar y Groesffordd yn agos i'r Clawdd-real British gun-sef y Canon Roberts, o Lan- ddulas. Nid dymar Canon cyntaf iGresford, oblegid yma y bu'r diweddar Ganon Howell yn fawr ei barch ac yn deg ei fri. BIodeuog iawn oedd pethau y pryd hynny a pha ryfedd, onid oedd Llawdden yma ? Byddis yn arfer tanio gwn mawr yn Gresford bob nos Sadwrn i hysbysu trigolion y Clawdd o'r Greenwich Time. Be ddaeth o hwnnw ? A ydyw wedi ei gomandirio i amcanion y Rhyfel ? Nis clywir ef yn awr. Hwyrach y ceir charge eto wedi i'r Canon newydd gyrr- aedd. Efe'r Canon Davies yn Ngwrecsam, y mae bron mynd yn Charge of the Light Brigade yma- Canon to right of them, Canon to left of them, etc. LLITH A LL.E.-?V:Y Rhos am bopeth. medde rhywun. Cafwyd amryw ddarlith. oedd gwych yma y dyddiau diweddaf hyn. Un gan y Parch. Bailey Roberts (M.C.) ger bron y Ford Gron, ar Ceiriog un arall gan y Parch. Wyre Lewis, ar T'wm o'r Nant; un arall eto gan y Parch. Powell Griffiths, o flaen y Presbyterian Lit. ar Tennyson* a da odiaeth oeddynt i gyd, and there's more to follow." Oes dim posib, fechgyn, ffurfio math ar Gilchrist yn y Rhos yma ? Ffawd o beth fai llith a lien. "BEIBL I BA WB 0 BOBL Y BYD." —Cynhaliwyd llu o gyfarfodydd ynglyn a Chymdeithas y Beiblau yr wythnosau di- weddaf, o amgylch y Clawdd yma. Dyma Gymdeithas fwya'r byd i gyd ond rhyfedd cyn lleied o bobl ddaw i'r cyfarfodydd. Be sy ? Gynt hwn oedd cyfaifod swynola'r flwyddyn ond yn awr, pla arno Dywed y Glep hefyd fod y casgliadau yn mynd i lawr. Syrthiodd csagliadau Cymru £ 1,000 y flwydd- yn ddiweddaf, ac ofnir y bydd y goll yn fwy eto y flwyddyn hon, a hynny yng Nghymru fad. Caff a el Cymru yn flaenaf a phennaf yw hon. Ystyriwn ac ymegniwn gan hynny. COFIO'R SGWEIAR.-Sef y diweddar. Lieut. Gladstone A.S. Efe yn wr da ei dras, ond trist ei dranc. Clebrir gwneud coffa teil- wng ohono mewn llan a llannerch, oblegid pur oedd ar droed a thafod. Rhuthrodd i'r llanastr enillodd anfarwoldeb ar ffrwst. SYRTHIO AR Y SUL.-Felly John Pemberton, o Felin Pwlston, Rhostyllen. Un o'r 4th R.W.F. oedd efe, sef ywR.W.F.- Ready without fear." Gyrrodd dau ddwsin o'i ffrindiau air o gydymdeimlad gwir a'i rieni trist, yn eu trallod, gan ddatgan eu hedmygedd trylwyr ohono ef. "He died a hero," meddent. Mae'i hanes ef yn hanes llu, a chroes ei riaint yn groes aneiri'.
Advertising
DONEGAL TWEED CO. LIVERPOOL'S TAILORS FOREMOST TAILORS% EXTENSION of PREMISES —SALE— OUR ENTIRE STOCK TO BE CLEARED. Suits to Order From 27/6 TO* WI&AP. Overcoats NOTEADDRESS, 8 LONDON RD., LIVERPOOL MOfHIger t JOHN JONES. Also 95, 105, l&SGrange Rd., Bhead Cymro am byth." at 226 fllgh Street, Bngor, 23 Hope Street, Wrexham, andithroughout the Kingdom. _+- ARGRAFFU 0 bob math ar gyfer Masnach, Eglwysi, Cyfarfodydd, Cyngherddaii, Eisteddfodau, ac yn y blaen, am brisiau rhesymol, Mae Perchenogion y H. Brython n wedi ennill enw da iddynt eu hunain fel Argraffwyr a Llyfr- rwymwyr, a byddai'n dda ganddynt gael cyfle i brofi hyn ymheilach gydag unrhyw waith, argraffu y bo arnoch ei eisiau, 'Does dim gwaith yn rhy fach na dim yn rhy fawr gennym i ymgymeryd ag ef, Rhowch gyfie ieni. "UGH EVANS & SONS, Swyddfa'r Brython, 356-8 Stanley Road, Liverpool. telephone sh bootle ûFPIoæ TRAINING CLASSES. SPECIAL Rapid! Course for those who desire to. become Shorthand Typists in one session. NO TIME WASTED BY OUR METHODS. SPECIAL DAY & EVENING CLASSES. Send for prospectus before arranging winter study. GREGQ SCHOOL, 21 HarriragM^St. (off Castle-St). t Phone 3666 Bank. Balls' Wedding Ringrs. Guinea Gold Wedding Rings from 7/6 to 60/ Half. doies, Best Electro-plated Spoons girsm to each purchaser of a Ring. BALL'S LUCKY WEDDING RING DEPOT, 33 LONDON ROAD, LIVERPOOL Finger Size Card post free. Close on Wednesdays at 1 o'clock. The Celtic Mss: Literary and Library Activities, BY RHYS PHILLIPS, FILlA. Pris Is. By Post 1., 2d. HUGH EVANS & SONS. Brython" idffice GEIRIADUR CVMRAEO A SAESNEG. Argrctffiad newydd o Eiriadur Spurred. Wedi ei olygu gan J. BODVAN ANWYL Pris 316, nett, trwy y post 3 HO* i' Ar wsrth gan a HUGH EVANS A'I FEIBION, -f-t-ARGAINP.-Underwoods, Remingtons, .J:i.)t¡ Yosts, Smith, Premier, Barlocks,. Bm. pires, Oliver, 3iieks, Royal Standard, from AS new condition,—Longmoorb, 41b North, John Street, Solo, Agency Carona Portable Typewriters. ——— ———— ————— L  "ER FUn RHYFEL." Nid oes raid talu prisiau, uchel am Ymeny I FTesl, Wyau, a Fowls. 011 byddwch yn talui ymweliad a St. John's Market, bydd yno Ymenyn Fres, Wyau, a Fowls o Sir ac Arfon, am brisiau tra rhesymol gan H. R. Wisuliams & Co., 415 St. John, s Market' Liverpool. ..on. "0'" .u :< Furniture Bought outnght for Cash, distance no object. Sales, by auction on owners' premises. GREETHAM & SON (Est. 1848). Auctioneers, Valuers, 27 Newington, Liverpool also 18 Rydal Bank and 106 Liscard Roadj Liscard. TeL 646 RoyaL ADVICE FREE.:—Mrs. Stewart, Herbal Specialist, 9 Guinea, Street, Bristol. FRANCIS & HOLLAND, Sight Testing Opticians, AFRICAN HOUSE, < WATER STREET LIVERPOOL. (Close to the Town Hall). Dwy Action Song Cymreig Da. Y MILWYR. BYCHAIN (The Little Soldiers). Y MAMAU BYCHAIN (The Little Nurses). Gan Pedr Alaw. TONIC SOLFFA, 2g. yr un. Drwy'r post, 21o. HEN NODIANT, 6ch. yr un. Drwy'r post, 6 c. .Cystal a'r goreu a gwell na Uawer a gyheeddir yn Saesneg. Cyhoeddedig yn Swyddfa'r "Bry-thon," 356,358 Stanley Rd., Liverpool.