Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Wrth Grybinio. j

News
Cite
Share

Wrth Grybinio. j Llawlyfr ar y Gwyrthiau ar werthu allan, ac nis gellir ei ail-argraffu. Mynnwch gopi. Gwel td. 8. Y Parch. H. Dennis Jones, Shotton, yw Uywydd newydd Undeb Annibymvyr Seisnig Sir Fflint. Pan chwareuid drama fach Childi-en thiough the Centuries yng Nghaernarfon ddydd Iau diweddaf, dan nawdd Cymdeithas Eglwysig y Waifs and Strays, er budd y drysorfa ryfel, hysbyswyd fod Miss Violet Hayes wedi marw. Y hi oedd wedi trefnu golygfa agoriadol y ddrama yr oedd hi yn y rihyrsal ddwy noson cynt, a bu farw'n sydyn. Gadawyd yr olygfa honno heb ei chwarae, ac aed ymlaen gyda'r Ileill. Y mae Syr Edward Evans wedi bod yn gadeirydd Cynghrair Rhyddfrydol y Deyrnas ers un mlynedd ar hiigain ac wedi cael ei anrhegu a llestri arian fel arwydd o deimladau da a diolch iddo. Y fo'a byw yn ymyl Birkenhead, Sir Gaer, ond yn deillio o deulu Cymreig ym Maelor, ar odre Gwrecsam. Yn Llundain, ddydd Ma wrth yr wythnos ddiweddaf, priodid Miss Eileen Wynne Rich- ards, merch hynaf rheithor Llangyniew, Sir Drefaldwyn, a'r Capt. A. C. Waktin, meddyg o Sir Amwythig. -0. Dedfrydodd ynadon Llangollen y Preifat Abel Rowlands. R.W.F., i bythefnos o garchar yr wythnos ddiweddaf am ymosod yn giaidd ar Robert Jones, Plas Offa Cottage, y Waen- hen wr teirgwaith ei oedran bron. Hysby.sir fod y Parch. Thos. Charles Williams, M.A., y Borth, 'yn gwella'n foddhaol a bellach yn gymharol ddi-boen ond y mae pob cyhoeddiad o hyn i ddiwedd Mawrth wedi ei alw'n ol-yn eu mysg, gyhoeddiad i bre- gethu yn y City Temple, Llundain, lie y mae ei enw ymysg y rhai i alw bugail o'u plith, fel dilyziydo y Parch. R. J. Campbell. Hefyd, ddydd Mercher yr wythnos hon, yr oedd i bregethu i raddedigion Prifysgol Birmingham, a Syr Oliver Lodge i ddechreu o'i flaen. Dau wr hysbys arall sy'n gwella o'u gwael- edd yw'r Canon Davies (Dyfrig), Gaerwen, Mon, a'r Proff. W. Lewis Jones, M.A., Prif- ysgol Bangor. Y mae'r cyntaf o fechgyn Treflawnyd (Ne-w- market), Sir I flint, wedi marw yti y rhyfel, sef Driver Edward Jones, mab Mr. a Mrs. Owen Jones, High Street, a laddwyd yn y Dar- danelles. A dyma ddau arall o fechgyn Caergybi wedi eu lladd, sef y Preifat Geo. A. Thomas, cyn- athro yn Ysgol Gyngor Cybi, Caergybi; a'r Preifat J. H. Joties, a fyddai'n athro yn Ysgol Gyngor Llangefni, ond yn frodor o Gaergybi, Lladdwyd y ddau gan yr un shell, a'r cyntaf yp cael ergyd farwol wrth redeg i gooi'r ail. Y mae Bangor yn falch o'r orchest a gyf- law icdd un o'iphlant—Corpl. T. A. Griffith yr y Cameroons, sef marchogaeth filltiroedd drwy anial difffiith a thywydd enbyd, a dal haid o'r Germaniaid a'i blaenor, a fygythiai dorri'r oymundeb rhwng y Prydeiniaid yn snechlyd o'r tu ol. + Ac y mae Cyngor Llandudno wedi pasio i :anfon pleidlais o'u hedmygedd o orehest Lifft. Regmald Davies, un o fechgyn y dref, sydd wedi ennill y Groes Filwrol ar y maes. Nos Wener ddiweddaf, cafwyd Rd. Jones, gwbs fferm Pwll yr Ebol, rhyw dair milltir o Lan idloes, wed i ymgrogi odd iwrth gadwya yn un o feudai'r fferm. Yr oedd y meistr a'r mab wedi mynd i arwerthiant yng Nghaersws. Yr oedd ar y fferm ers pum mlynedd, yn fach- ge i sobr, ond yn isel ei ysbryd ers tri mis, ac yn gwrthod yn lan a dywedyd am ba beth. .0- Ymaeawdurdodau Coleg lesu, Rhydychen, wedi oedi penodi prifathro yn lle'r diweddar Syr John Rhys hyd amser amhenodol. Y mae y rhain wedi ennill ysgoloriaethau i fynd i'r Coleg Exhibition yn y Clasuron, F. G. Morris, ac Alwyn R. Hughes, Lerpwl; Ysgol- oriaeth Glasurol Gymreig, W. D. G.Wilkinson, Coleg Crist, Aberhonddu, a Hywel H. S. .Jones, Leatherhead Ysgoloriaeth Uchrif- yddol Gymreig, Sydney M. Williams, Coleg Uanymddyfri Ysgoloriaeth Gymreig mewn Llenyddiaeth Seisnig, David J. Williams, Prifysgol Aberystwyth. -0- Dyma fel ycân Gwilym Ardudwy ar ol yr -hen gyfaill pur ac addfwyn Mr. John Thomas, Pen Rhiw, V-anbedr, Meirion, a noswyliodd lonawr 8, 1916, yn 70ain oed :— Gweithiwr dichlyn, crefftwr cywrain, Priod siriol, tyner dad, Pert ymgomiwr, lienor mirain, Heb un gelyn trwy y wlad Dyna nodwedd loan Thomas,— Cyfaill diddan, pura'n tir, Deil ei goffa'n ber a gwyrddlas Tra murmura'r Artro glir. Curio fyn mynwes cariad—dwyn loan Diweniaith, da'i deimlad, I'w oer fedd wrth Artro fad, Ow siomedig symudiad. Y mae gan y Parch. J. E. Jones, Chicago, lith-goffa yn Y Drych am y ddiweddar Rahel o Fôh, hysbys led Cymru a'r Taleithiau fel efengylydd boblogaidd ers pan oedd yn ddwy ar bymtheg oed. Ganwyd yn Nhal y Foel, Llangenwen, Mon, yn 1846 merch Mr. a Mrs. Wm. Paynter aeth i'r America yn 1870 priododd yn 1872 a Mr. Edward Davies, yr hwn a fu farw yng Nghymru pan oedd o a hithau drosodd am dro, a chladdwyd ef ym Mrynsiencyn. Y mae ei mab-yr Anrhyd. Joseph E. Davies-yn dringo'n uehet ym myd gwleidyddol Washington. Robert ap Gwilym Ddu biau'r syniad swynol hwn :— Mewn gardd y cafodd dyn ei dwyllo Mewn gardd y rhoddwyd addewid iddo Mewn gardd bradychwyd lesu hawddgar Mewn gardd amdowyd Ef mewn daear. Ebe'r Parch. P. H. Griffiths, Llundain, mewn pregeth yn Y Gorlan am bobl y byd '» Ni waeth beth yw eu llwyddiant, ni waeth beth yw eu talent, ni waeth beth yw eu henwogrwydd, y maent yn teithio'n raddol at ganlyniadau anocheladwy eu eyflwr.-teitliio trwy welyau o rosynau i gyfandir o ludw." Nes atgoffa dyn o'r adnod fiaiog honno o Alarnad Jeremiah, am rai tebyg :— Y rhai a feithriniwyd mewn ysgarlad a gofleidiant y tomennydd." »• Yr oedd Caernarfon ar ben drws i. gyd aios Iau ddiweddaf i weld y Pageant a gynhelid i ddathlu gorchest ddewr un o hogiau'r dre' sef J. Evans Jones, a enillodd fathodyn y D.C.O. Rhag. 16, yn Ffrainc, ac a gafodd bythefnos o egwyl gartref yn ei sgil. Cyflwyn- wyd oriawr iddo ar ran y tanysgrifwyr gan y Maer (Mr. Chas. A. Jones) ac anrheg arall gan aelodan.'r Y.M.C.A. Y diwrnod crybwylledig disgynnodd shel gan ladd pedwar o'i gyfoed- ion yn y fan yr oedd Jones gryn bellter ar y pryd ond yn clywed gruddfan, rhedodd yno, ac a lusgodd y pumed o'i waed ac a ymgeledd- odd ei glwvfau. Y mae'r Canon Roberts, Llanddulas, wedi gwrthod ficeriaeth Gresffordd, Gwrecsam, a. gynhygiwyd iddo gan Esgob Llanelwy. Mr. Arthur Rhys Jones (Beaumaris) a Mrs. Eva Lloyd Edwards (Bangor) sydd wedi eu dewis yn Warcheidwaid Tlodion yr Undeb yn lle'r Mri. Hugh Thomas a Mrs. Huw Row- land, oedd wedi ymddiswyddo. Ebe'r Parch. R. Jones, Berwydd, wrth siarad m--wii cyfarfod o Armibynwyr Seisnig Sir Drefaldwyn a gynhelid yn y Drenewydd ddydd Iau diweddaf y— Y mae'r rhyfel yn esgus da dros roddi llawer o bethau heibio—hyd yn oed y deg Gorchymyn. Pan gynhaliodd Keir Hard die gyfarfod ar y Sul, gwgid arno ond heddyw, pan sieryd un o aelodau'r I Llywodraeth ar y Sul, dyma ni'n cau'n I capeli i fynd i'w wrando." -0-

I Basgedaid o'r Wlad. I

Clep y Clawdd,

Advertising