Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

§mr GOSTEG.

DYDDIADUR. . I

Gyboeddwyr y Cymod I

Advertising

I Heddyw'r Bore

News
Cite
Share

Heddyw'r Bore sef bore dydd MercJier. PWY (lAPODD Y GADAIR ? — Y Parch. R. H. Richards, M.A., a benodwyd ddydd lau diweddaf yp- a thror Gymraeg yug Ngholeg Eglwysig Llanbedr. Magwyd ef yn eglwys y diweddar Barcb. Evan Jones, Caer- narfon, a bu'n athro yng Ngholeg M.C. y Bala cyn troi i fynwes y Fam. eyD. troi i fy-nves y YSMOTYN DU AR SIR WEN.—Dim ond un cyhuddedig oedd i'w brofi gan Frawd- lys Meirion yn Dolgellau ddydd Sadwrn di- weddaf, He yr anfonwyd Hugh Jones, gwas ffarm o J^inuwchllyn, i chwe mis o garchar am ymosod ar eneth dair ar ddeg oed. HEN FYWOLIAETH LLA lVDDEN.- Canon Roberts, freer Llanddulas, sydd wedi cael eynnyg ar fywoliaeth Gresffordd, gerllaw Gwrecsam, lie y ficeriodd yr Archddiacon Howell (Llawdden) ar un ad eg, a'r cof amdano fel perarogl Crist gan bftwb drwy'r ardal, o Lan a Chapel fel ei gilydd. Ac y mae pinsiad o hwnnw'n werth llwyth llong o'ch perarogl benthyg o gvffur-dyfais yr apoth- ecari, BRA W ABER YSIIW YTH.-Caed eorff Mr. Kitto, goruchwyliwr Ariandy'r London and Provincial, ar y ffordd haearn gerllaw croesfiordd Plas Crug nos Sul ddiweddaf, a'r fcren, i bob golwg, wedi mynd drosto. Gedy weddw a phedwar o blant. DRUAN O'R PW YLI AID.—Darlithiai Miss Marguerite B. Price, Llandudno, yn Hydro'r dref honno nos Sul ddiweddaf, sef ar Poland a llenyddiaeth ac athrylith y genedl brofedigaethus honno. Soniodd yn hir am ei cherddoriaeth chwaraeodd gryn bedwar ar ddeg o'u darnau ar y piayi.o,-rhai ohonynt yn waith y pianydd enwog led y byd-lader. ewski. Yr elw at drysorfa gynorthwyol y Pwyliaid, a'r ddarlith yn un flasus iawn. TRISTWOIJ LL.4NREDR. — Ym Mrawd- lys Ceredigion, ddydd Sadwrn diweddaf, gwelwyd peth trist iawn, sef gweld y cyfreith- iwr talentog Daniel Watkins, Llanbedr, yn cael ei ddedfrydu i bedair blyuedd o benyd- wasanacth am gam-ddefnyddio tair mil a hanner o bunnau—arian ei gwsmeriaid—i'w ddibenion ei hun. PENBLETH ABERYSTWYTH'Ym Mhwyllgor Gweithiol Eisteddfod Aberystwyth ddydd lau diweddaf, cynhygiai un o'r aelodau eu bod yn bodloni ar gael Eisteddfod un- diwrnod ord "naw wfft i lwfrdra mor ddi- gynnyg ebe aelod arall. Diwedd y trafcd fLi. ptisio j benodi pwyllgor i ganfasio y dre o dST i d y, er mwyn cael meichiafon (guarant- ors) hyd bumcant a liaiiiier. BACHGEN SY'N FALCHTER EI DA.D.- Ymysg y swyddogion a grybwyllwyd am eu gwrhydri ar faes y rhyfel, ceir enw'r Lifftenant Morgan P. Evans, mab ficer Llan- drillo-yn-Rhos. Ac nid rhyfedd, cauys y mae'n frigyn o fonyn ymladdgar a glew. Yr oedd ei daid du ei fam yn un o'r noble Six Hundred a anfarwolwyd gan Tennyson am eu gorehest yn y Crimea. r LOES DDEUBLYG.—Dyna gafodd Mr. Robert Morris, un o Gynghorwyr Tre'r Wydd grug, sef fod Llewelyn ei fab, Corporal gyda'r Royal Engineers, wedi cael ei ladd yn Ffrainc. Dyna'r ail fachgen iddo'i golli mewn blwydd yn o amser. -o- ESGUSGWAN DROSSYCHEDCRYF.— Llogodd gwesteion y Drenewydd gyfreithiwr i ddadlu gerbron yr ynadon y dylent gael gwerthu diod i drafaelwyr a arhosent yn eu tai, set fel hyn :—* ( Dan y drefn bresennol o gau, gallwn serfio'r cyfryw cyn deg neu wedi un ar ddeg ar gloch y nos, ond nid rhwng yr oriau hynny. Yr oedd yn rhaid i'r trafaelwyr aros, felly, tan wedi un ar ddeg cyn cael eu diferyn cap nos -nightcap, chwedl hwythau, a hynny'n peri eadw'r teulu a'r gwasanaethyddion ar eu r traed. Na chewch ebe'r Fainc, gan weld dim ond esgus swan a syched cryf tu ol i'r ymbil goeg. + PRIF BETH A VR C YMRODORION.— Cyfarfu'r Cymrodorion yn Llundain nos lau ddiweddaf, dan lywyddiaeth Syr D. Brynmor Jones. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a theulu'r diweddar Syr John Rhys disgrif- iwyd ei yrfa fel un ddihafal yn hanes Cymru ar rai ystyron a soniwvd am gychwyn rhyw fudiad i'w goiffiau. Ei goffa goreu fyddai cvhoeddi fixwyth ei feddwl mawr a'i wybod- aeth ddihysbydd, ebe Syr E. Vincent Evans, ysgrifennydd y Cymrodorion, yr hwn hefyd a gyflwynodd ei adroddiad am y fiwyddyn, lie y gofidid am farwolaeth eraill o aelodau'r Gymdeithas, sef Syr O. Roberts, Arglwydd Glantawe, Lady St. David's, Mr. W. Jones, A.S., Dr. Edward Owen, ac yn y blaen. JIon- gyfarchwyd yr aelodau dyrchafedig gan y Breriin O. M. Edwards, D. A. Thomas, a Henry Webb. Hysbysid fod cyfansoddiad hir-ddisgwyliedig Mr. laew. Williams, A.S., ar The History of the Kings' Court of Great Session in Wales bellach wedi cael ei gwblhau ae fod Hanes Catrawd hyglod y Royal Welsh Fusil- iers ar fin cael ei gyhoeddi a llongyferchid Mr. Howell Thomas, ei awdur, ar ei orchest. 'Ail ddewiswyd Arglwydd Mostyn yn llywydd, ac Arglwydd Rhondda (D. A. Thomas) yn is- lywydd. SAESNEG Y BORE. CYMRAEG Y ]S[OS.Ddydd Sul diweddaf, ymwelodd Esgob Llanelwy a'r catrodau Cymreig sydd vug nghylfiniau TILinditin, gan bregethu yn Saesneg y bore ac yn Gymraeg yr hwyr a'r Cadfridog Sandbachyu darllen y llithoedd yn yr hen iaith. Yr oedd y canu'n eithriadol o gynnes a byw, canys yr oedd yno gor meibion tan gamp dan arweiniad Mr. Llewelyn Jones, brawd gorsaf-feistr Euston. MON DDI-SMGTYN— Am y waith gyntaf yn hanes y sir, nid oedd yr un ear. charor i'w brofi ym Mxawdlys Mon, a gynhelid yr wythnos ddiweddai, DAT) OL. Y DYSOEDYDD.Y Parch. W. Pari Huws, B.D., Dolgellau, a'r I Profi". D. Miall Edwards, M.A., Coleg Aber- honddu, yw dau olygydd newydd Y Dysged- ydd, misolyn yr Annibynwyr Cymreig. Y Iriae rliifyii lonawr-y cyntaf o'ullaw—yn un cyfoethog ei ysgrifau bias tir newydd ar amryw betliau yr orgraff newydd wedi cael buddugoliaeih ynddo, a'r hen un wedi mynd byth i ddychwelyd mwy. Dyma gych- wyn da y gwaith ne^af, a, chaletach, fydd da] yn dda ar hyd y blynyddoerld a. ddaw. riWY A'(J HOL WYN !~—Joy Wheel ebe'r bobl aiff arni am rhyw olwyn y bendro a dry fel chwrligwgan yn ffair wagedd y trefi yma. Nid rhyw lawer o joy a gafodd y llencyn hwnnw a laddwyd yn gelain wrth gwympo oddiami y dydd o'r blaen. Clindarddach drain dan groeha,n yw'r fath bleser. Rhod Fawr Rhagluniaetb yw'r joy wheel iawn.

Clep y Clawdd,I

Advertising