Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

o Big y Nk Lrleifiad.

DAU T U"R AFON.

-Basgedaid o'r Wlad.

News
Cite
Share

Basgedaid o'r Wlad. LLANELIDAN.—Yn yr ardal hon, fe ? ymhob ardal am!l, y rhyfel ac ymrestru yw siarad piiwb. DisJTlir Mr. Edward Rob erts, Hendre Bach, adre o'r ysbyty. Clwyf wyd ef ar ol brwydrau ofnadwy i/oos. Yr oedd gyda'r Welsh Guards. Y mae'n gwella'n dda oddiwrth archollion a dderbyniodd yn ei goes a'i ochr. A'i gatrawd yn ymdaith i linell y tan, clwyfwyd ef gan ffrwydbelen, Ymhen dwyawr daeth modur heibio a chlud. wyd ef ynddi i ryw adeilad lie yr oedd medd yg yn rhoi'r driniaeth pnt-af. Yr oedd deg o filwyr eraill yno, wedi eu harcholli'n fwy difrif. ol nag ef, a rhoddwyd y deg gyda'i gilydd i gael y sylw cyntaf, ac Edward Roberts mewn cwr arall i gael triniaeth yn olaf ond yn syd « yn, disgynnodd fifrwydbelen ar yr adeilad, gan ladd y meddyg ac wyth o'r deng milwr. Bu'Q. ffodus ryfeddol. Ni chyffvrd dwjd ef, ond yr oedd yn llwch a chalch drosto. Deellaf ei fod yn llawen ac yn falch ei fod wedi gallu gwneud ei ran yn y frwydr fawr dros ryddid, Hefyd mae Mr. Edward Hughes, Ty newydd, yn Ffrainc ers dros bedwar mis gyda'r R.A.M.G. Mr. R. Watsam, Llety, gyda'r Royal Garrison Artillery ers tro Mr. R. J. Edwards, Hendre Bach Mr. Clement Jones, Bryngoleu, a Mr. J. P. Evans, Ty'n y pant, gyda'r A.S.Corps Mr. R. E. Roberts, Brra tirion, gyda'r R. W. F.- Un o'r fro, O'r Hen Sir. sef Sir Fon. Dyrchafwyd tri o wyr amlwg M6n i'r Faina Ynadol, sef Mri. Rice Rowlands, Machraeth View, Llanfachraeth efell, Fedyddiwr gar, a diacon Oi-yf a chynadleddwr oadarn; wedi bod yn amlwg iawn ym tnywyd cy- hoeddus y wlad ers llawer blwyddyn, ac nid oes wr arafach ei gam, cywirach ei farn, a thecach ei ysbryd yn unlle. Mr. E. R. Hughes Bryngoleu, Llanadetisant, gwr a brofodd ei hun yn gyniwys i lanw llawer swydd o'r blaen. Boed iddo oes hir. A'r llall yw Mr. Josiah T. Griffith o Gaergybi, a fu'n gadeirydd y Cyngor Dinesig am flwyTddyn, ac am dros ddeugain mlynedd yn ddiacon byw yn yr Hen Dabernad (A.). Dyna farw'n ddisyfyd a gafodd Mr. Owen Roberts, a wasanaethai yn Lligwy, Bro Goronwy. Cododd o'i wely cyn iached a llonned ag arfer, gan fynd i drin y ceffylau. Yna aeth am ei foreubryd a thra wrth y bwrdd, disgynnodd yn farw Dyna fynd heb eiliad o rybudd, yn ddyn ieuanc pedair ar ddeg ar hugain oed, gan adael gweddw a thri o blant. Dydd diddorol ac anghyffredin oedd dwthwn dathlu priodas aur deuddeng mlwydd a deugain Mr. a Mrs. John Jones, Rhosgofer, Cerrig Ceinwen, Llangefni. Gwelsant ddwy- flwydd heibio i dir pell jiwbil eu priodas. Dyna gwlwm da a dedwydd. Deg o blant ganddynt, dau ar hugain o wyrion, ac un gal" wyr. Ym Moria, Llangefni, bu'r Parch. John Thomas, Caerdydd, yn traethu ar Fudiad Ymosodol y M.C. Yn addoldy Brynhyfryd, Caergybi, bu ewrdd unedig o'r gwahanol enwadau i goffhau am yr arwyr a roes eu bywydau yn aberth dros eu gwlad, ac a foddwyd ar y Tarra a 'r Anglia-y cwbl o'r dref, a Uu ohonynt ym mlodeu eu dyddiau. Llywyddwyd gan y Parch. John Williams, Hyfrydle, a'r Dead March yn cael ei chwarae gan Mrs. R. R. Hughes, The Gables. Y gwasanaeth yn cael ei agor gan y Parch. E. Bowen (W.), a gweini- dog llathraidd yr Hen Dabernacl yn pregethu a phwy gyfaddasach ar yr achlysur dwys, yn enwedig pan feddylid fod ei fab hynaf wedi cyrraedd adref, a'i gorff druan wedi'i ddryllio mor enbyd ? -Llygad Agored.

Advertising