Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

o Big y Nk Lrleifiad.

DAU T U"R AFON.

News
Cite
Share

DAU T U"R AFON. Nos Fawrtb yr wythnos ddiweddaf, yng Nghymdeithas Cymru Fydd Anfield ac Everton, eafwyd darlith Gol. Y BRYTHON ar Y Gadair Wichlyd Mr. H. R. Hughes yn llywyddu a'r Mri. Hugh Lloyd a S. E. Rob- erts yn cyflwyno'r diolch ar y diwedd. MAKWOLAETH CBNHADWK CARTREFOL.— Ddydd Mercher diweddaf, lonawr 12fed, bu farw R. Jones Thomas, 7 Thackeray Street, yn 78 oed, ar ol cystudd byr. Ganwyd ef yn y Roe Wen, ger Conwy, a bu pan yn ieuanc yn ysgolfeistr yn Sir Fon ond daeth i Lerpwl 50 mlynedd yn ol, ac aeth, i swyddfa Mri. David Roberts & Sons, a chyda'r cwmni hwn y bu o hynny hyd ddiwedd ei oes. Yr oedd eu parch hwy iddo a'i fltyddlondeb yntau iddynt hwythau yn berffaith a diball, a thyst- iolaeth y meistr pan fu farw oedd ei fod, wrth golli'r gwas hwn, wedi colli ffrynd personol ar yr un pryd. Ymaelododd yn Chatham Street, a phriododd Miss Laura. Morris, chwaer y boneddwr John Morris, Y.H., Grove Park a Llanbedr, yr hoxx a, erys gyda ni. Y Mae, iddynt un ferch a dau fab. Tua 40 mlynedd yn ol ymaelododd yn Princes Road, a. bu'n athro selog yno am flyixyddoedd lawer. Tua, 20 mlynedd yn ol, ymunodd a Chenhad aeth Rigby Street (Lad Lane), a thaflodd ei hun yn hollol i'r gwaith cenhadol a chym. deithasol yn y lie hwnnw. Bu'n arolvgwr ac yn athro yn yr Ysgol Sul, yn drysorydd, ac yn weithiwr difefl dros grefydd a dirwest yn y gymdogaeth. Aeth ei ffyddlondeb yn ddi- hareb yn y fro, a ehyfrifid efyn un o golofnau'r achos. Efe hefyd gyda chyfaill a fu'h offeryn i ail-gychwyn yr achos bychan cenhadoll Portland Street tua 14 mlynedd yn 01, wedi i Gyfarfod Misol Lerpwl roddi y gwaith yiio i fyny, ac efe oedd perchen yr ystafell honno. Yr oedd yn ddyn o alluoedd cryfioxx, ac anaml ycy farfydd id^a gwr mwy^amxywiol ei ddoniau; ac er y tybiai rha i ei fod yn llym a barnol, eto o dan y cwbl disgleiriai tynerweh a hynawsedd greddfol ei galon, nes ei wneud i'r rhai a'i hadwaenent oreu yn un o'r dynion mwyaf caredig a didwyll a gyfarfuent erioed- Aed a'i weddillion i fynweixt Llangernyw ddydd Llun diweddaf, pryd y gweinyddwyd gan y periglor, a'r Parch. H. H. Hughes, B A., B.D.I. a,r Parch O. Gaianydd Williams daxxgoswyd parch cyffredinol ga.n yr ardalwyr i'w goffadwriaeth. Arferai ymweled a'r YSb)'i i ddarllexx a gweddio gyda'r Cymry, yn enwedw yn v Roval Southern; ae ni *vr neb ond Duw faint o ddaioni a ddeilliai o'i ym- dreehion. BUGAU, NEWYDD EAKLSFXELD ROAD (B.). Deallwn fod Mr. Thomas Michael, efrydydd ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi derbyn galwad i fugeilio'r eglwys uchod. Dechreua ar ei l ddyledswyddau wedi ei ordeiniad,yng nghorff y mis nesaf. Derbyniodd ei addysg ddiwin- yddol yng Ngholeg y Bedyddwyr, Caerdydd. Graddiodd yn B.A.,B.D., ym Mhrifysgol Cymru, ac y mae'n bregethwr ieuanc addawol iawn. Disgwylir prifathn) Coleg y Bedydd- wyr, Caerdydd (y Parch. Wm. Edwards. D.D.) i ordeinio'r gweinidog newydd. Hyd ynddiweddar, addolai cynn ulleid fa Earlsfield Road yn Windsor Street. CLAUGHTON ROAD (W.), BIRKENHEAD.— Yn Y BRYTHON am Rhagfyr 23ain, eafwyd adroddiac a.m y Sale of lvork, a gynhaliwyd er build yr eglwys hon cyfeiriwyd hefyd at lwyddiant y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., yn sicrhau nifer o addewidion sylweddol at y casgliad ixeilltuol a gychwynnwyd ym mis Hydref diweddaf. Da gennym ddywedyd fod y eyfeill-ioii Nvedi bod yn ffyddlon i gyf- lawni, ac fod cyfanswm y derbyniadau oddi- wrth yr holl ymdrech wedi cyrraedd y swm Dxnvg ydyw geniiyf gofnotli xxxarwolaeth fy nghyfaill annwyl, Mr. Wm. G. Williams, 27 Alfonso Road, Kirkdale. Brodor o Ryd-ddu Arfan, a. ddaeth yma tua chwe blynedd yn ol, wedi bod yn yr America, am gyfnod. Cyfarfu a clamwain gyda'i orchwyl yn un o ddoeiau'r ddinas yma gorweddodd bedair wythnos yn yr ysbyty. Daeth y diwedd ddydd Sadwrn, lonawr 8, a chlud- wyd ei weddillion i Gymru i'w rhoddi yn ei hir gartref ym mynwent Beddgelert. 32 oedd ei oed dyn llednais ei ysbryd, ac yn bur adnabyddus i lawer yn y ddinas am ei ffraeth ineb a helaethrwydd ei wybodaeth. Heddwch i'w lwch hyd y dydd y bydd Dorau beddau'r byd Ar un gair yn agoiyd. —J.J.R. PRINCES ROAD.—Nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf, ail agorwyd hanner tymor olaf y Gymdeithas Lenyddol ag ymgomwest. Caed arlwy i gorff a meddwl, y fath a gar pobl chwannog i lenydda y darpariaetlxau wedi eu hulio a'u paratoi gan yr ysgrifenyddion, Miss Sydney Evans a Mr. J. Freeman Will- iams Mr. R. Lloyd Phillips, y llywydd, yn arwain y rhagleh, oedd yn cynnwys cystadleu- aethau i enwi trefi, ateb cwestiynau, a darllen englyn. Enillwyd y gwobrau gan Miss Mary Rogers, a Mri. J. E. Jones a Charles Lewis. Canwyd alawon gwerin gan Mr. J. R. Morris. Diolchwyd gan Mr. Freeman Williams, a chanwyd y berdoneg gan Miss Cissie Evans. I Beaconsfield Street, ORRELL.—Yr wythnos ddiweddaf, bu farw Benjamin, mab un mlwydd ar bymtheg Mr. a Mrs. Edwin Hughes, 48 Marion Road, wedi ymosodiad sydyn o'r pneumonia. Yr oedd yn yr Ysgol Sul v Saboth, ae yn cael ei gladdu y Sadwrn dilynol. Yr oedd Ben yn un o ilyddloixiaid Ysgol Orrell, ac yn annwyl a hoffus gan bawb bydd colled amdano yn y cyfarfodydd. Claddwyd ym mynwent new- ydd Bootle, y Parch. R. W: Roberts, B.A., B.D., yn gweinyddu. Amlygwyd cyd- ymdeimlad cyffredinol a'i rieni yn eu profed- igaeth sydyn a chwerw.-ioan., LLYTHYR CAPT, OLIVER.Dyma lythyr a gafodd Mr. Edwin Roberts, ysgrifennydd Cyfrinfa Texnlwyr Da Gwynedd (Laird Street, Birkenhead) oddiwrth Capt. D. P. Oliver, Temlwr Da sydd yn y rhyfel, ond heb dorri ei ardystiad er pob temtasiwn :— ANNWYL FRAWD,-Diolchaf ichwi yn garedig, ac i'r DemI, am eich cofion caredig. Yr ydym allan ers deufis. Dymunaf arnoch gyflwyno'm cofion cynhesaf i'r Demi a phawb. Yr wyf yn edrych ymlaen at yr amser y caf ddod yn ol i weithio gyda'r Deml; a phan ddaw, bydd gennyf lawer i'w ddweyd am y ddiod feddwol yn y Fyddin, a'r gwaith mawr fydd gan y Demi i'w wneud pan ddaw hedd- wch. Bydd gennyf dipyn i'w ddweyd hefyd am y ddiod feddwol ymhlith y Ffrancod Mae'n dda o galon gennyf gael dweyd heddyw, a thrwy demtasiynau mawr y Fyddin, fod fy addewid i'r Demi pan yn cael fy ngwneud yn aelod yn dal byth. Yr wyf wedi bod 15 mis yn y Fyddin, ac heb ddafn o'r ddiod feddwol. Blwyddyn Newydd Dda." IDWAL A VERNON YN CANNING STREET.— —Llwyddiant anarferol fu Cyfarfod Pregethu blynyddol Eglwys Rydd y Cvmry yn Canning Street nos Sadwrn a'r Sul diweddaf,—cynull- iadau lluosog anarferol yn yr holl odfeuon, ac erbyn nos Sul yr oedd y capel dan ei sang. Y Parch. T. Idwal Jones, (A.) Rhos llannerch rugog, bregethai nos Sadwrn a bore a hwyr y Sul, a mawr fwynhawyd ei weinidogaeth. Un hyawdl ydyw'r Idwal, ac yn byrlymu drosodd o arabedd, a'i sylwadau bachog yn gafael bob cynnyg. Prynhawn Sul, traddododd y Parch. l J, Vernon Lewis, B.A.,B.D., Park Road, un o rpregethau coeth a goleu hynny sydd mer- nodweddiadol ohono. Yr oedd ganddo esbon iad newydd spon ar Ddameg yr Had Mws tard,"—mor newydd, mor naturiol ac mor Nres, fel yr hogom yn a.wr pe'r ymg' ymerai efe ag esbonio'r holi ddaxnhegion, Y mae'n amlwg fod mawr angen arn hyn. Nos LW:1, traddododd v Parch. Idwal Jones ei ddarlith boblogaidd ar Y Pregethier a'r Gwrandawr i gynhulliad rhagorol eto yn llawn doniolwch a direidi, ae ar yr un pryd yn dra addysgiadoL Y cadeirydd ydoedd Mr. Humphrey Jones, Stoneycroft, a'r Parch. W O. Jones, B.A,, a Mr. J. H. Williams yn cyflwyno'r diolch. Gwyl gampus ar ei hyd ydoedd. Y mae r, addoldy newydd ei lanhau a'i baentio'n hardd gan Mr. Edward Jones, Bedford Street, LAIRD STREET.—Nos Fawrth yr wythnos hon, caed y ddarlith hysbys ar Islwyn gan y Parch. D. D. Williams, David Street. Mwyn. hawyd y traethiad yn fawr, a hyderir v oa ei farddoniaeth fwy o sylw. Llvwvddwyd gan y Parch. T. J, Rowlands, M.A.,B.D., a diolchwyd gan Mri. Evan Evans, Rd. Hughes, W. Edwards ac R. J. Griffiths. Cydymdeimlir yn fawr a Mr. a Mrs. Henry Roberts, 12 Asquith Avenue, Birkenhead, ym marwolaeth eu rnab ietieiigaf-Henry Thomas Roberts, yn 27 oed, yn Newcastle, ddydd Sadwrn, ar ol tridiau o waeledd. Yr oedd yn ddyn ieuanc hoffus, a gair da iddo gan ei holl gydnabod. Rhoddwyd ei weddillion yn Flay brick Hill nawn dydd Mercher; y Parch, T. J. Rowlands, M.A.,B.D., yn gwasanaethu, a swyddogion y Seiri Rhyddiion.-—B.J.G. Fe ddywedodd y Proffeswr Levi beth amser yn ol, wrth son am ragoriaethau'r Cymro, nad oedd neb tebyg iddo am gasgliad end beth am y Gymraes ? Credaf fod hon yn meddu swynion all doddi calon y cybydd caletaf. Ar y ddau ddydd-baner (flag-day) diweddaf agawsom yn y dref yma, sef atyGroesGoch a charcharorion rhyfel o Lerpwl sydd yn Germani, fe gasglodd un Gymraes £ 7 3s. She, at y naill a £8 98. 4d. at y llall, mewn arian man hyd strydoedd y dref yma. Beth fyddai i'r awdurdodau symud er cael y merched i fynd a'r ladal o gwmpas y seti, deydwch ? Y ma.e Miss Gladys Stringer, Anfield- disgybl Miss Gwen Pritchard, L.S.I.M., L.R.A.M.—wedi ennill diploma Associate of Trinity College, Llundain—A.T.C.L., sef ar ganu'r piano a'r gelf o gyfrannu addysg gerddorol. Yr arholiad ym Manceinion,

-Basgedaid o'r Wlad.

Advertising