Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

-YS1AFELL Y BEIRDD-I

PERYGL PRYDAIN.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

PERYGL PRYDAIN. Llythyr Agored, Rhif 2 (SyI'W.—Bwriadwn i'r ail lythyr hwn gael ei gyfeirio at Mr. Lloyd George. Ond ceis- iwyd gennyf ohirio hwnnw am wythnos, er rnwyn gyrru Gair yn ei bryd at Fechgyn Cymru. Fe geidw r llythyr at Lloyd George am wythnos heb fod ddim gwaeth, tra y teimlid y byddai oedi'r llythyr presennol am wyth- nos arall yn ei wneud o bosibl yn ddifudd at yr amcan oedd mewn golwg wrth ei ysgrifennu. ANNWYL FECHGYN CYMRU.—Chwi wydd ooh eiriau Hen "lad fy Nhadau Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mad, Tro3 RYDDID gollasant eu gwaed. Nid oes neb ar wyneb daear yn caru RHYDDID yn well nag a wna'r Cymro. Dangosodd hynny ymhob oes. Dioddefodd lawer er mwyn ennill Rhyddid iddo ei hun, a'i blant ar ei ol. Dros Ryddid yr aeth eich hynafiaid i'r gad ar alwad Glyn Dwr. Dros Ryddid y dioddefodd eich tadau gael eu troi o'u fierm. ydd yn 1868. Droa Ryddid y pleidiasoch chwi pan yn ethol aelodau Cymru i'r Senedd. I ymladd dros Ryddid y danfonasoch chwi Lloyd George i'r Senedd. Erys y cariad at Ryddid mor fyw ac mor gryf yn eich calonnau chwi heddyw ag a fu erioed yng nghalonnau'r tadau a aeth o'ch blaen chwi. Gresyn medd- wl fod y rhai a ddanfonwyd gennych i'r Senedd i ymladd dros Ryddid, yn y dyddiau diweddaf hyn wedi anghofio yr hyn a ddysgid ganddynt gynt oddiar bob llwyfan yng Nghymru i chwi, a gwneuthur ohonynt gyd- frad a gelynion Rhyddid drwy wthio Mesur Gorfodaeth Filwrol ar y deymas. j Gelynion gwerin gwlad a gynlluniodd y Mesur fisoedd lawer yn ol. Pa fodd y llwydd asant i ddenu cyfeillion y werin i'w rhwyd, ac i'w defnyddio fel offerynnau i osod iau Gorfod aeth ar war gwerin rydd, sydd ystori addysg. iadol a adroddir ryw ddydd a ddaw. Dichon y gwelir, )"J1 yr etholiad nesaf, roi or aelodau Cymreig a ddenwyd i gyfeiliomi eu ffordd, yn eistedd ar stol yr edifeiriol, ac yn cydnabod eu bai am anghofio ohonynt egwyddorion eu gwlad a'u haddewidion hwythau. Nid yw gweithwyr y deymas yn cydsynio a'r Mesur Gorfod. Dangosais yr wythnos ddiweddaf fod tri, os nad pedwar, o weithwyr Lloegr yn condemnio'r Mesur am bob un a'i cefnogai. Yr wythnos hon, rhoddodd glowyr Prydain Fawr eu llais ar y mater. A dyma ddywedodd y glowyr:- Dros y Mesur Gorfod 38,100 Yn erbyn y Mesur Gorfod 653,100 Neu i roi ffigyrau mwy syml Cafwyd fod dau ar bymtheg o lowyr Prydain yn gwrth' wynebu'r Mesur am bob un oedd yn ei gefnogi. Yn y 653,100 yn erbyn y Mesur yr oedd saith ugain mil (160,000) o lowyr Deheudir Cymru. Dyna lais y wlad. Beth am ei chynrychiol- wyr ? Cymerodd ail ddarlleniad y Mesur le nos Fereher, a chafwyd yn Nhy'r Cyffredin Dros y Mesur Gorfod 431 Yn erbyn y Mesur Gorfod 39 1 Mewn geiriau eraill, cafwyd un ar ddeg or aelodau Seneddol dros y Mesur Gorfod, am bob un a geid i'w erbyn. Cymharer y ffigyrau hyn a'r ffigyrau a roddwyd am bleidlais y glowyr, a gwelir fod yr hen ddihareb wedi cael ei thrawsffurfio ac y rhaid heddyw ei darllen "Trech Arglwydd na Gwlad Mae gan Gymru 34 o gynrychiolwyr yn y Senedd. O'r 34 hyn ni chafwyd ond tri yn unig i bleidleisio yn erbyn y Mesur Gorfod ar yr ail ddarlleniad. Cofied gweithwyr Cyrnru enwau'r tri. Wele hwynt MAEON, dros y Rhondda. TOM RICHARDS dros Orllewin Mynwy. E. T. JOHN dros Ddwyrain Dinbych. Bydd gennyf air i'w ddweyd ar ran bechgyn Cymru wrth yr aelodau Cymreig eraill mewn llythyr arall yn fuan. I Nid Uyfriaid yw Beehgyn Cymru. I Mewn effaith dywedai y 431 aelod Seneddol a bleidleisiodd dros y Mesur Gorfod nos Fer- cher mai llyfriaid yw bechgyn ein gwlad. Atehed eraill dros fechgyn Lloegr a'r Alban. Atebaf finnau heddyw dros fechgyn Cymru, a dywedaf yn ddifloesgni mai wid llyfriaid ydych chwi, Fechgyn Cymru Athrod yw eich galw yn hynny. Bydd gennyf, mewn llythyr arall, air o eglurhad paham yr erys cynifer ohonoch adref heb ymuno hyd yma a'r Fyddin. Ond gwyddoch chwi, a gwn hmau, a dylai ein Haelodau Seneddol wybod, mai nid llwfrdra a'ch cadwodd gartref. Dywedaf fwy na hyn. Nid arnoch chwi, lawer ohonoch, y mae'r bai nad ydych wedi ymuno a'r Fyddin. Dangosaf mewn llytbyr dyfodol ymha le yr oedd y bai. Oud y cwestiwn yn awr yw Pa beth a wnewch chwi, Fechgyn Cymru ? Mae'r Mesur Gorfod, i bob golwg dyn, yn sicr o gael ei basio. Gyda 431 o aelodau T'r Cyffredin, a holl aelodau Ty'r Arglwyddi drosto, a dim ond 39 yn Nh £ 'r Cyffredin yn ei erbyn, mae yn rhwym o basio. Pan ddaw yn Ddeddf, a'r Ddeddf honno i weithrediad, fe'ch gorfodir i ymuno a'r Fyddin. Os oes gennych frawd, neu gyfaill raynwesol, eisoes yn y Fyddin, dichon mai hwnnw a ddaw a'i rychddryll, a'i fidog, a'i gledd, yn un o'r cwmni o'r Fyddin, i'ch cyrchu, ac i'ch gorfodi i fod yn filwr. Ond ai efe ai arall a ddaw, daw rhywun, a gorfodir chwi i ymuno a'r Fyddin. Yn awr, fechgyn, nid oes neb ond chwi eich hunan a eill Achub Cymru rhag y gwarth, J Gwarth oesol a fyddai i'n gwlad ac i'n cenedl fod rhaid cyrchu neb o'n beehgyn drwy orfod i ddod allan i amddiffyn eu cartrefi hwy eu hunain rhag y gelyn. Ond gellwch chwi eich hunain gadw Cymru yn rhydd rhag y gwarth hwn. Cofiwch arwyddair balch yr hen Twenty-Third Gwell Angau na Chywilydd." 1 Ac nid oes yr un Cymro teilwng o'r enw na ddewisai angau yn hyti-ach na'1' cywilydd. Yr unig beth sydd yn ei gwneud yn anodd i chwi yrnuno yn awr yw fod y Mesur Gorfod wed i cael ei ddwyn i'r Senedd, ac y dywed eich athrodwvr mai rhag ofn cael eich gorfodi y r egtre. so ell. Gellwch ladd y celwydd ey y daw allan o'u geneuau, drwy ymrestru yn awr, cyn y delo'r Ddeddf i fod, chweitha.ch j weithrediad. Pe gwnaech hynny, ni iyddai gan neb le tiac esgus dros eich cyhuddo. Ond gosodaf y peth ar dir uwch na hyn. Dvwedaf mai Dyletswydd pob dyn yw amddiffyn ei gartref. Clywsoch am yr hyn a wnaeth y gelyn yn Belgium ac yn Serbia. Cofiwch y buasai wedi gwneud yr mi peth yng Nghymru pe bai wedi gallu cyrraedd hyd ylna. Cofiwch mai'r bechgyn sydd wedi ymuno, ac wedi brwydro, a eholli eu gwaed, yn Ffrainc, a'r Daitiftnelf, —ie, mai Y dewrion hyn a gadwodd Gymru rhag cael ei hanrheithio megia ag yr anrheith- iwyd Belgium. Bu'r bechgyn a laddwyd yn Ffrainc farto drosoch chwi mewn ystyr mor lythrennol wir a phe baent wedi colli eu bywyd mewn rescue party wrth geisio eich achub o'r pwll glo ar ol tanchwa, neu fel criw y bywydfad a. geisiai eich cael yn ddiogel i'r lan oddiar long wedi mynd ar y creigiau yn y storm. Ie, fechgyn, drosoch chwi a minnau a phawb ar y sydd ar ol yng Nghymru hedd. yw, y bu'r bechgyn dewr hyn farw. Ie, hechgyn oe<ld llawer ohonynt y gellir dweyd amdanynt yng ngeiriau'r Apostol, Nid oedd y byd yn deilwng ohonynt." Dros Ryddid collasap.t eu Gwaed Fel dewrion Cymru gynt, dros Ryddid collasant eu gwaed Dyweda.is eisoes fod y sawl a fynnodd wthio'r Mesur Gorfod ar Werin Rydd Prydain yn elynion i Ryddid. Ond nid yw eu trosedd hwy yn eich rhyddhau chwi o'ch rhwymedigaeth i'ch gwlad ac i'ch cartref, ac i'r rhai sydd annwyl gennych. Yr ydych wedi gweld digon o hanesion am greti londerau'r gelyn. Bodlonaf yma ar un yn unig, am yr hyn a wnant heddyw yn Serbia, gwlad fechan fynyddig fel Cymru :— Difethir a difodir popeth gan y German- iaid y ffordd yr elont. Cynlluniant 44 helfeydd—fel hela cadno yug Nghymru— ond mai gwyr a gwragedd a phlant yw'r helwrie-eth. Lladdant y gwr lie gwelo'r wraig, a'r mab o dan lygaid ei fam. Pan ddaliont deulu yn ceisio ffoi, ni ddangosir "unrhyw drugaredd iddynt. Daliwyd gwraig yn ffoi a. dau fa ban yn ei chol. Cyn-irwyd y babanod oddiarni try- "wanwyd cyrff y rhai bach a bidogau y milwyr. Pan geisiodd hi eu hachub, curwyd ei hymennydd allan a bon y rhychddryll." Gweinidog yr Efengyl sydd yn ysgrifennu hyn am a welodd yn Serbia y dyddiau di- weddaf. Mae'r hyn a wneir i ferched a gwragedd yn annisgrifiadwy. Felly y buaeai yng Nghymrui Ymhob tref a phentref a. chwmwd heddyw, onibai am y beehgyn dewr yn y ffosydd yn Ffrainc. Felly y bydd yng Nghymru yfory os medr y Germaniaid ddwyn byddin i lanionr draethau ein gwlad. Chwi fechgyn Cymru all gadw Cymru. a'i chartrefi, a'i merehed a'i gwragedd, a'i phlant, yn ddiogel rhag y perygl ofnadwy hwn. Unwaith y sylweddolwch hyn, gwn nad yn ofer y geilw dyletswydd arnoch. Gwn eich bod ehwi'n fwy teyrngar na'r sawl a gynlluniodd Orfodaeth Filwrol i'n gwlad. Pe y meddyliech chwi can lleied am fuddiannau Prydain ag a feddyliasant hwy -y Gerfodwyr-ain gadw undeb y genedl yn gyfan, buan yr enillasai'r Germaniaid y fudd- ugoliaeth. Methodd Deddf Cyfarpar orfodi 200,000 o lowyr Deheudir Cymru i weithio datl delerau a fernid ganddynt yn afresymol. Methu a w)iai Deddf Gorfod pe y cymhwysid hi yn erbyn Cymru pe y dymunai glowyr Cymru ei rhwystro. Ond golygai hynny osod y Fyddin a'r Llynges o dan anfantais, a rhoi'r gallu i'r Germaniaid i'w trechu, ac i'r gormeswr lanio yn ein gwlad. Felly, fechgyn annwyl,peidiweh a chynorthwyo'rgelyn. Ufudd hewch i'r awdurdodau ar hyn o bryd ym- restrweh ymhob man yn ddioed. Ac wedi'r elo'r Rhyfel heibio, ac yr enillom fuddugol- iaeth ar y gelyn, daw dydd barn ar y gormeswyr gartref, ac ar y rhai a fu'n anffyddlon i'r ymddiriedaeth fawr a roddwyd yn eu gofal. Yn y gobaith hwn, wyf, yr eiddoch, BERIAH GWYNFE EVANS (Mythyr at Lloyd George yr wythnos nesaf.)

Advertising