Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

- - - .._-Igam Ogam.

News
Cite
Share

Igam Ogam. L'awlyfrar y Gwyrthiau: Mae'r Arh jliacl Sirol yn ymyl, dyma gymorth gwirioneddol. Gwel ta. a, PWY EI FL YN EI ENWAIR?— Gwelwn fod Cyngor y Drenewydd wedi ail stocio'u cronta a phum cant o frithylliaid blwydd, er irnvyn puro'r dwr, medd rhai o aelodau'r Cyngor eithr nage, ond er mwyn iddynt hwy gael rhagor o hwyl ar eu bachu ebe'r trethdalwyr. Sut bynnag am hynny, y mae'n ofid i ni nad oes neb yn llenwi Ile'r diweddar Pertheos, Dolyddelen, fel sgrifen- nydd ar Natur a'i Phlant, plant yr afon a'r llyn yn enwedig, a plilax,t yr oedd ef mor wybodus o'u harferion ac mor hoff o'u tynnu i'r lan. Soniai amdanynt a'r un afiaeth ag y son y beirdd am eu hawdl a.'u pryddest. Pwy eifl yn ei enwair ? ED WART JONES YN B If.- YDO'R BRITHY.L.L.Cof gennym dreulio egwyl gydag Edwart Jones, cipar afon Tan y Bwlch, Maentwrog, ac iddo ddangos inn i re, i ogy frinion magu pysgod. Yr oedd ganddo res o byllau bach ar ei fuarth,—chwech neu saith, v cynte'n fach, fach, o faint dysgl go gyffredin yfUeill yn cynhyddu'n fwy o faint, nes fod yr olaf yn gymaint, o chrwc go fawr. Hefyd, yr oedd ganddo felin falu cig, ac a ddeuai ohoni'n swrwd, man, man. Wedi tynnu'r grawn o'r fara-frithj lies, fe'i gwaddodai yn y pwll eyntaf ymhen hyn a hyn, a hwy'n dechreu tyfu ac ymrwyfo, fe'u codai i'r pwll-nesaf, ac felly ymlaen nes cyrraedd y pwll mwyaf o'r saith, a'r cipar yn gollwng llawiad fel ar fel t llwch cig, yn ol maint y pwll a- chylla'r pysg. Y SATAN IDDI !—Peidiwch a mynd i ffwrdd am funud, canys y mae gennyf ragor i'w ddweyd am Edwart Jones a'i bysgod. Wedi dangos y saith pwll, aeth a fi i fyny i weld llyn arall, a. mwy o lawer, oedd ganddo i fyny'r mynydd uwchben y ty ac ebe fo, pan gyraeddasom lan y llyn Yr oedd gennyf chwech ar hugaio yn hwn, wedi dod a hwy o'r pyllau bach i lawr wrth y ty ond wrth ddod i daflu bwyd iddynt, sylwais bob yn dipyn fod eu nifer yn lleihau, ac a fethwn yn lan ddyfalu beth a barai hynny. Un diwr- 11 nod, dyma fi'n snechian yma'n ddistaw bach ar fy mhalfau, a beth welwn ond llysywen yn plannu dan y garreg a roddaswn ynghanol y llyn. Y hi oedd yn eu d ifa." Ond dyma 'r dyryswch nesaf Sut yn y byd mawr yma y medrodd hi ddod i'r llyn, canys nid oedd yr un ffrwd yn rhedeg iddo a'r unig esboniad gen i ydoedd hwn Y mae yna ffrwd yn rhedeg yn uwch i fyny acw, ond heb ddod i'r "llyn yma y mae llysywen yn medru atogli brithyll o bell, weldi; rhaid ei "bod hithau wedi gwneud hynny, ac wedi ymnyddu ac ymlithro i lawr ar hyd y gwelltglas nes cyrraedd y llyn yma. Sut bynnag, fe'i lleddais, a chafodd gweddill y chwech ar hugain lonydd gan y satan iddi. A dyna hi, y mae rhyw angau ymhob crochan, a rhyw satan ym myd y brithyll megis y mae yn ein byd ninnau blant dynion. DIWEDD Y DRAFFERTH I GYD.- Ac ebe Edwart Jones, gan ddal ymlaen i siarad ar fin y llyn I Pan fo pysgod llyn y mynydd yma wedi tyfu'n llafnau hanner pwys, byddaf yn mynd a hwy i'r Afon Fawr (yr enw Ileol ar Afon y Ddwyryd), i dyfu'n ddigon mawr 4* i bobl y Plas eu rhwydo a'u bwyta." Ond druan o bpbl y Plas canys wedi eu holl draul hwy a holl drafferth Edwart Jones, byddai'r chwarelwyr yn gwybod i'r dim pa bryd y gollyngid y pysg newydd i'r afon ac wedi i'r rheini dyfu'n glampiau o leisiaid brafiaf a Jwelsoch erioed, sleifient i lawr gefn fcrymder y nos rhyw noson ac a'u dalient bob un. Rhai iawn am chwilenlla a herwa pob pry a physgyn yw chwarelwy r«Ffestiniog, ac yn satan i bob samon- YN EU ORYNSWTH.-Arferiad eglwys Bethesda, yr Wyddgrug (ebe'r Cymro) yw cael un bregeth goffa i'r holl rai ymadawedig gyda'i gilydd Saboth olaf y flwyddyn. Dar- llenir yr enwau, a choffheir yn fyr am bob un. Dyna a wnaeth y Parch. G. Parry Williams, M.A., eleni, a mantais mewn llawer lie fyddai dilyn y cynllun. Anodd cael oedfû, gli\ld u i bob aelod, ac y mae pob un yn amiwvl i l?vwuii  GOREU LLAIS LLAIS ODDI C(JHOD —Clywais Henry Ward Beecher un tro, sef yn darlithio ar Deymasiad y Werin (The Reign of the Common People) ym Mhafiliwn Caernarfon; ac nid oes dim brawddeg a'i darluniarn iawn a theilwng ond brawddeg Maeterlinck pan glybu yntau ei gyffelyb yn yr Eidal :— It was a magnificent spectacle, which I shall never forget. I then perceived, for the first time, the mysterious, incanta- tory, superit alvr powers of great eloquence." Dyna i chwi fif-wddeg Ond arferai'r diweddar Lyfrbryf—gwr a glywodd y ddau— ddweyd fod John Jones, Talsarn, yn drech 11.80 Beecher mewn rhyferthwy areithyddol, ond fod Seraff Dolyddelen yn llefaru yn Gymraeg. a'r byd mawr tuallan felly ddim yn ei gly wed, TRI ANHEPCOR BLAENOR.-Yn llvfr coffa Tawelfryn am y Parch. J. D. Williams, Penybont ar Ogwr, dywedir i rywun ofyn iddo beth oedd tri chymliwyster mawr diacon, a dyma'i ateb :— Dawn i dynnu arian oddiwrth yr eglwys "dawn i iawn-gymhwyso'r arian a dyn- nwyd a digoii o ddoethineb i roddi cyfrif boddhaol am yr arian a gasglwyd." Ac yn yr un gyirol, dywedir am rhyw Gymro clapiog ei Saesneg ei fod yn llefaru fel gwdihw mewn iorwg," sef yw hynny yng NghymraegGwynedd,feI dy 1llman mewn coed en eiddew. Wrth gofio, dyna bwyth i flaenor trahaus a thra-arglwyddiaethus—ac y mae ambell un felly-ydyw honno yn un o lyfrau'r diweddar Ddr. John Thomas, Lerpwl, lie dywed fod Hwn-a-hwn yn cynnal yr Achos a'i arian ac ynei la'dd a'i ysbryd. -4- AIEIBION ELI. -I'r Beibl yr el Cymro am enw a chymhariaeth bob amser, prun ai enw ar ddyn da neu ynteu ddyn drwg fo arno eisiau ac ebe Mr. J. H. Ellis am Bwyllgor Iechyd y Rhyl, wrth siarad yir y Cyngor yr wrythnos ddiweddaf Ar ol ceisio ymyreth a Phwyllgor y Ffyrdd, dyma hwy'n awr yn dechreu busnesa a rhoi ett bysedd ym mrywes Pwyllgor y Dwr. Y maent yn debyg iawn i feibion Eli. Cymhariaeth feiddgar, canys pechod go frwnt oedd pechod meibion Eli. -0- NA WNA WN, BYTH !-Pasiodd aelod.. au eglwys Annibynriol Llandrillo, Sir Feirion- ydd, benderfyniad tebyg i hyn y Sul cyn y diweddaf :— Wele ni'n datgan ein diofryd disyfl i wrth. wynebu gwasanaeth milwrol o raid a gorfod; ac ymhellach hefyd, yn datgan ein bwriad, boed y canlyniadau y peth y bont, i wrthod yn bendant a hollol gwneud dim gwasanaeth milwrol gorfodol ar fath yn y byd a fo'n foddion i barhad y rhyfel. Y mae bias amheuthun iawn ar rywbeth croyw, yn lle'r mwmian amwys a deubig sydd mor hwylus a ffasiynnol gan y gwan, o bob ochr i'r gwrych. O'R GOREU, GWNEWGH.—Rhaid parchu argy hoeddiad ,*pa ochrbynnag y bo, os bo difrifwch a pharodrwydd i ddioddef hyd farw er ei fwyn a chlywsom Basiffist yn dywedyd yn ddifloesgnir dydd o'r blaen, wedi i ymladdwr ddweyd wrtho yr eid ag o a'i gwmni o wrthodwyr tebyg iddo, i'w gwneud yn gatrawd, ac y'u gyrrid i'r ffrynt a'u gosod yii, rhan gynta'r rhenc lie y byddent yn rhwym o gael eu saethu o flaen neb arall. O'r goreu, gwnewch hynny; nid y fii fydd yn gyfrifol am hynny. Ac fe ddaliaf hynny cyn y daliaf fy ngorfodi na chydio yn y cledd yn erbyn f'ewyllys." Ac yr oedd yr un a'i dywedodd yn aberthu eisoes mwen ffordd arall, gostus i'w iechyd a'i Iwyddiant bydol.  DWYFOL DAN.-Aeth clobyn o. dy tafarn ar dan yng Nghaerdydd yr wythnos ddiweddaf, gan ddinistrio gwerth deng mil o bunnau. Dwyfol dan yw 'nyna, ebe'r dir- westwyr wrth sbio ar y ffagl; a gresyn na chawsid filam argy hoeddiad y wlad a'r Senedd i wneud ei gwaith cyn llwyred a chyflymed. Chwi glywsoch yr hen stori honno am ddir- westwyr Caernarfon yn heidio'n goro flaen y Inn, pan ffaglai honno, ac yn beichio allan i orfoleddu wrth gjrdganu Cerdd ymlaen. nefol dan, Cymcr yma feddiant glån. -»■ Y MADYN GHWIM AM AETH.—Y mae'r llwynogod yn Hadd ae ysglyfio cynifer o WJ-H ac ieir a phob perchen aden yn Eryri a'r cyffiniau nes y cynhaliwyd cyferfod cyhoeddus yn Llanrwst, ddydd Mercher diweddaf, i ystyriod sut oreu i ddi- ddytnu'r cadno cyfrwys, a rhoddi pen a.r ei stglyfio c-ostus. T. Griffith, Y.H., stiwnrt Ystad y Gwydr, oedd yn y gadair a gosod- wyd ar Mr. Llew Evans, Bet-ws y Coed (ysgrif- ennydd y miidiad) ki-o eraill i hel ariandrwy bob phvy at ddwyn traul y difa. Dyma deimiad Clwydfardd at y llwynog :— Detvis y noson dywyll—■wna'r Uwynog. Er llenwi'i fol erchyll Drwy ei oes, gochl-leidr hyll, A'i ffau yw creigiau crigyll. ^Ysbeiliodd y gwas.bawlyd— -fy mvy wydd, A fy nau oon hefyd I wneuthur Hawn bl'ydnnwn b.nl. Euog oef.d o hyn i gyd. v Ac am it wnaeth o gam a mi—heblaw dwyn Oen blwydd a thwrci Mileiniaid tost yw inhlant i. A'm gwraig sydd am ei grogs. Poen deilwng pan et gaift Yn gosp o'r fath chwerwaf Dwyn ei oes drwy'i rostio svna-f Ar eithin ir a than araf. j Bloddest fydd wedyn a bloeddio-a degan O'm cymdogion yno I wir lawen arlwyo Ei gelain i frain y fro. Llenwi pawb a llawenydd,—v lwrdd A gaiff bwnc o'r newydd Pob amaethon drwy Fon fydd Yn neidio'n far%vnadydd. A pharodd y creadur castiog hwn i'r Meistr Mawr hyd yn oed droi'n sarcastic un tro, canys Dywedwch wrth y cadno hwnmv ebe Fb am yr Herod ffals. -«>- "DRAIN AC Y SO ALL MALL A'] MEDD—Bu Syr J. Herbert Roberts, A.S., Mr. E. T. John, A.S., a'r Cyrnol Wynne Ed- wards, yn annerch cyfarfod yn Ninbych yr wythnos ddiweddaf, a'i ddibon i ddeffro a sbardynnu'r bobl i drin pob tywarchen o dir, a dyblu a threblu cynnyrch y ddaear. Sylwai'r Cyrnol fod ami i glwt, a dyfai yd a llysiau ei-, talm, bellach wedi ei adael i ddrain a phob rhyw goediach acamliaceryn W-i-zdwvs 8-n?,Pes ers blynyddoedd. Ac nid bytheiriwr safnrwth yn Hadd ar beth nad oedd ganddo mo'r Cyrnol, ond gwr a. ehanddo lawer iawn o dir ei hun. Y FFRANCOD PJAU flf.Dywed(-)dd y Cyrnol ymhellach iddo fod yn Ffrainc yn ddiweddar, a chael ei synnu at ddiwydrwydd eithriadol y brodorion. Dyna lie y gwelai'r bobl yn trin eu tir yn ddiwyd a diofn yn ymyl ffosydd yr ymladd, ac yn swn a ohyrraedd y tan. A'r Ffrancod vw'r genedl gyflymaf yn Twrop i ymunio n i ar ol cael ei hysigo gan ry fel a chaledi. Y maent yn medru bod yn ddar- bodua heb fod yn gybyddlyd a hir eu hewin. OYMRU LONYDD, CYNIRU LAN. Nid oedd yr un carcharor i'w brofi ym rnKSwd lys Maldwyn, a gynhelid yn y Trallwng (Welshpool, os rhaid ei gyfieithu) ddydd lau diweddaf. Ac ebe'r Barnwr Lush, wrth roi'r menyg gwynion gan yr 1eliel Siryf ar ei ddwylo Y mae'n eli i galon dyn gael eieh llongyfarc-h wrth weld chwe Sir Gogledd Cymru bron yn hollol lan.rhag trosetldaii. Gwell atgoffa'r to sy'n codi mai Caletlfryn biau'r gwpled a, waeddwyd filwaith wrth foUTr Hen NViaci am ei glendid Pa wlad, wedi'r siarad, syctl Mor Igi-t a Chymru lonvdd ? PROa MOR.~—Dlrwywjd tri lanciailt Aberdaron i bunt yr un ym Mhwllheli ddydd lau diweddaf am ddangos goleu wrth chwilio am brog mor ar ol y gwynt a'r ystorm ddi- weddar. Y Parch. T. E. Owen, rheithor y plwyf, a erlynai, yn ei swydd fel arolygydd di-dal y glannau. Dwrdiai Mr. Hughes- Roberts, un o'r ynadon, yr awdurdodau am gyhoedd i eu rhybuddion yn Saesneg lle'r oedd cannoedd o bobl na ddeellent mo'r iaith fain. —Ffordd ein teidiau, yng Nghymru a gwled- ydd eraill, o hudo llong irw hangau a, fyddai rhwymo llusern ar gefn mul cloff ae yna'j gerdded ar hyd y traeth ar noson fawr, gan beri i'r dwylo druan gamgymeryd wrth weld y goleu'n dowcio i fyny ac i lawr gyda'r tonnau, ac wrth anelu am hafe-n 3, noddfa fel y tybient hwy, dyma gael eu hunain ar ddannedd y creigiau ac at druga,redd cenawon dieflig y mul cloff, ELFYN GYSTUDDIOL.-Di-w,, genriym glywed am lesgedd Elfyn, ac fod ei gam wedi arafu rhagor byddai, er fod yr Awen mor ddisgloff ag erioed. Nid rhyw lawer a fu o yng ngolwg ei wlad y blynyddoedd diweddaf ond yn eu hystod, y mae wedi canu darnau ddaw ag o i'w golwg yn y dyfodol, ac a geidw'i enw am genedlaethou. Enillodd gadeiriau ddigon, ond ni roes y byd fawr o glustog esmwyth iddo eistedd arnynt eithr syl- weddoli'r hyder hwn a gaffo :— Er y swn a'r corwynt,—er y nos, Er y niwl ar f'emrynt, Hyd era f y caf, fel cyrit. Weld yr haul wedi'r hely'rit. Ein cofion eu, ac a alwn heibio gynted y bom yn y Llan. GWILYM MEIRION.— Hftnai o lin awengar. Yr oedd yn nai fab brawd i loan Madog. Bu'n organydd yn Eglwys y Drin- dod, Penrhyndeudraeth, am tua deugain mlynedd. Gerllaw'r eglwys honno y mae ei fedd, a dyma'r coffa sydd arno :— 0 drwst y dydd a'i dristyd-ehedodd, Heb oedi yn nychiyd," I Gylch Beirdd goleuach byd, A'i Feirion gofia'i weryd. Ni cheir sill na chwareus wen—i'n llonni, Na llinell o'i awen Ond o gariad llygad Lien A werchyd ei dywarchen.—Eifion Wyn. (

Fy Nau Arwr. |

Advertising