Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Trem Hi—Beth a wnawn ni P
Trem Hi—Beth a wnawn ni P Y PtAOT Oni fuoeh, yng nghanol helynt yr Armagedon aruthr, yn syllu'n wynebau diwybod a diniwed v plant by chain Ni wyr y plentyn bach ddim am yr helynt o gwbl. Chwery a'i degan ar yr aelwyd, ac yma y mae ei fyd. Mae ei dad yn y rhyfel, ond ni wyr efe. Cyfyd ei fam ef i'w breichiau, a gwasg ef i'w myn.wes ond ni wyr yr un bach ei fod yn gorff vrys ar fynwes a rwygir gan dymhestl oedd o bryder a braw. Gwyr pan weno'i fam arno, a gwyr pan gilio'r wen. Teimla bwys y deigryn a ddisgyn o'i llygaid ar ei rudd dyner, wen. Pair greddf cariad iddo deimlo gwa- haniaeth rhwng gwen a deigryn, a gwell g&nddo'r cyntaf J;r olaf. Cyn deall fawr ar vstyr geiriau, gesyd ei law fach ar rudd laith ei fam, a chais garnldi wenu arno. Cais hithau guddio'i chalon brudd o'i hwyneb—er mwyn ei phlentyn. Yn y man. syrth yr un bach i gwsg, ac ni fu ar y ddaear ddarhm tlysach na phlentyn yn nhangnef ewsg, wedi ei fframio ym inreichiau'i fam Hi a'i gesyd yn ei grud esmwyth, ac os aflonvddodd beth arno, hi a'i sigl a hwiangerdd fwyn, hyd nes suddo ohono i dangnefedd rhy ddwfn i'w chlywed. Wedyn, caiff ei chalon hithau ollyngdod id.di ei hun. Ffy ei dychymyg pryderus i rywle yn Ffrainc," i cliwilio am ei phriod. a, thad y plentyn sy'n ei grud. To-wel vw r a thawel yw hun ei phlentyn, ond nid tawel ei chalon hi. Daw yn unig a wyr y traffic o feddyliau cythrybius sv'it mynd trwy ei henaid, a chais ddod o hyd itw phriod trwy'r Nefoedd Wen. Symuda'n rldistaw i gyflawni gorchwyliou. ei thy, ond nid anfvrtych y saif yn syn, mewn myfyr dwys, gan anghofio beth yr oedd yn ei gylch, ac ehed ocheneidiau o'i mynwes, fel gwreichion o ffwrnais. Efallai mai trwy i lestr ddisgyn o'i ilaw ar y 11awr, yn ddrylliau,y cofia'r gorchwyl vr oedd Jar ei ganol. Daw ton o anesmwyth- ter dros gwsg ei hun bach, ond fe'i sigl yn ol i'w heddwch gwynfydedig. Plyg uwch ei ben, a gwel ynddo ddelw'r hwn sydd allan anewn rhyfel-drosto ef a hithau a'i wlad. Cysegra'i rudd a chusan ac a deigryn yr un pryd. Ond ni wyr efe helynt ei dad a thrallod ei fam, a bod Armagedon yn siglo'r bvd pan fo'i fam yn siglo'i grud bychan ef. Annwyl Anil Braidd nad ydym yn eiddigeddu wrtho. Cythreulig y filwriaeth a fai greuloxi at yr angel pur, neu at aelwyd fel hon. Ydyw'n wir, mae'n iechyd i galon dyn gael ambell funud o ddianc i fyd y plant bychain ar adeg fel hon. Ord fe adeuant hwythau i wybod am yr hyn a wyddom hi. Yn fuan, bydd llawer ohonom ni wedi'n clirio ymaith, a'r "meibion a ddaw yn lie y tadau." Nid o brudd-der y dywedwn, ond dyna'r ffaith-i- dyua'r ddeddf nad oes fodd i osgoi ei grym. Ond hofltem wneuthur rhywbeth i helpu'r rhai sy'n awr yn eu plentyndod, a'r bobl ieuanc sydd i weithio'r byd yn ei flaen. We], mae gennym oil ein rhwymedigaethau, a'n cyf- leusterau i'w cyflawni. Nis gwyddom am ddim gwell nag i gyngor y diweddar Gymro talentog, diwylliedig, a gwladgar, gael ei gylchrediad grymus trwy bob teulu ac eglwys, —Dysgu'r plant i garu HEDDWCH a RHYDDID! o
Gorea Gymro, yr an OddieantreI
Gorea Gymro, yr an Oddieantre I EGLWYS GYMKAEG SUNDERLAND.- Y 15eg cyfisol, cynhaliwyd cyngerdd uchraddol yn Neuadd y Mwnwyr. Gwasanaethwyd gan barti meibion o'r cylch, yn cael eu cynorthwyo gan Miss Mills, A.L.C.M., Olorden, ger Hartle- pool, a hynny'n rhad. Cafodd y gweinidog gan y boneddigion canlynol fod yn noddwyr i'r cyngerdd, a derbyniwyd cyfraniadau syl- weddol oddiwrth y mwyafrif o'r cyfryw larll Durham Aneurin Williams, Ysw., A.S. Tom Wing, Ysw., A.S. F. W. Goldstone, Ysw. A.S. Samuel Storey, Ysw., Y.H., a J. G. Addison, Ysw., Y.H. Derbyniwyd gini hefyd oddiwrth Faer y Dref. Rhennir yr elw rhwng yr eglwys a'r milwyr clwyfedig. Trodd y cyngerdd yn llwyddiant ymhob ystyr. CYMDEITHAS LENYDDOL W ARRINGTON.- Ion. 3, cyfarfod dan lywyddiaeth Mr. J. H. Jones. Gwasanaethwyd gan ddosbarthiadau Mrs. R. Roberts a Mr. John Griffiths. Yna oafwyd anerchiad gan. y llywydd. Can, Love at home, gan Miss Blodwen G. Jones adroddiad, Somebody's Mother, Glyn Parry Jones can. Star of Bethlehem., Miss Blodwen Paris Jones adroddiad gan Mr. J. Emlyn Jones, Slave's Dream deuawd, lae'r lan gerllaw, gan Mrs. R. Roberts a Mr. John Griffiths adroddiad, Mae'n rhaid cael capel Saesneg, gan Buddug M. Griffiths. Prif atdyniad y cyfarfod oedd dadl gan y ddau ddosbarth. That boy Tommy. Can, illwy i ganlyn, gan Blodwen G. Jones.; darlleniad gan Mr. W. R. Williams. G- a-naeth pawb eu rliii.n y:;i ganmoladwy. lonawr 10' darlith ar Evolution of Bridges, gan Mr. Williams, Crewe. Dangoswyd dar- luniau o'r gwahajiol boiitydd gan ei fab. Hawdd deall fod y darlithydd yn gytarwydd iawn a'i brae. Eglurodd wneuthuriad a defnyddiau pontydd pob gwlad. Dyina un o gyfarfodydd goreu'r tymor. Llywydd. Mr. J. H. Jones. Diolchwyd yn wresog Mr. Williams a'r am eu caredigrwvdd yn eitt gwasanaethu'ii rhad.—R.R. SOUPHPORT.—Cynhaliwyd Te n C'hyng- erdd blynyddol eglwys Gymraeg Portland Street Ddydd Calan, yn ysgoldy y New Jeru- salem Church. Eistefldodd nifer dda wrth y byrddau. oedd wedi eu paratoi dan arolyg- iaeth Mrs. Da vies a Mrs. Williams, a chwior- ydd ieuainc yr eglwys yn ett helpa yr ystafell wedi ei haddurno'.H biydferth a baneri. Ar ol te, cafwyd cyngerdd hwyliog. dan lywyddiaeth y gweinidog (y Parch. R. Da vies), yn absenoldeb Mr. G. Ciira-dog Rees, A.S., yr hwn a ddisgwylid i gymryd y gadair. Gwasanaethwyd gan barti o Lerpwl, dan arweiniad Mr. Arvon Hope (J. W. Roberts),— sef v Misses Gwen Taylor, B.A., ac Ethel Taylor (Waterloo), Gwladys a Mabel Roberts. Mri. John James (Fitzclarence Street) a Ted Hughes. Mwynhawyd eu canii*it fawr. a phob un yn cael encor. Yr oedd canu pen- hillion. gan Miss Gwen Taylor yn amheuthun nac ainrn,iv o'T bobl-ietiaiiie erioed wedi cly wed dim yn debyg o'r blaen. Rhoddodd Mr. Jol-iii James ysbrydiaeth yn yr "hen alawon a dyjmodd y ty i Saesoji yn curo dwylo mor eiddgar a'r Cymry, a disgrifiadau doniol Arvon Hope wedi eu gorchfygu'n lan anedd meddwl am ddim a gynyrchai hwyl purach ac iachach. Cafwyd adroddiad. da hefyd o Araith Buddug gan Miss M. E. Roberts. Diolchwyd gan Mri. W. D. Owen a W. Elwy Jones, a therfynwyd cyfarfod y cofir amda-no gan bawb oedd yno trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau a Dun: gatwo'r Brenin, Mr. John. James yn arwain.
Ffetan y Gol.
Ffetan y Gol. Cofied pawb fo'n anfon i'r Ffetan mai dyma'r gair sydd ar ei genau:— Nithio'b GAU A Nythu'f OWIR. I Mr. Beriah Evans a'r Prif Weinidog. I A.t Olygydd Y BRYTHON ANNWYL Syn.Liitli armheg iawn ar ei hyd ydoedd llythyr penagored Mr. Evans at Mr. Asquith yn eich rhifyn diweddaf. Yn ei ail baragraS' cawn ef yn chwarae a, theimladau eich darllenwyr trwy geisio dangos mor dda y mae Cjmru wedi gwneud eisoes ynglyn ag ymrestru, ond lol wrth gwrs yw peth fel hyn pan y mae haid o ganibaliaid fel y Germans yn curo wrth ein drws. Y cwestiwn i'w benderfvnu yw, nid a yw Cymru a'r wlad i gyd wedi gwneud yn dda, ond a ydynt wedi gwn- euthuryn ddigol) da i drechu'r gelyn. Dywed yr awdurdodau rnilwrol--a hwy wyr oreu— nad yw'r wlad wedi gwneud cystal ag y dy- lasai ac oherwydd hyn y cyflwynwyd i'r Senedd fesur o orfodaeth. Addawsom estyn pob cynhorthwy i Ffrainc a Belgium, a'n dyletswydd yw cyflawni'r addewid. Cymer Mr. Evans yn ganiataol nad oes ronyn o wahaniaeth rhwng militariaeth Ger- mani a'r Mesur Gorfod egwan a diniwed a gyflwynwyd i'r Senedd bythefnos yn ol, a gwaith hawdd wedyn yw codi bwganod. Yna coi-idemnia Beelzebub militariaeth (beth bynnag yw hyn) ym Mhrydain, ond nid oes gair o son am y fath anghenfil a fodola yn Ffrainc, Belgium, Rwsia, Japan, Serbia, Itali a Montenegro ac os yw Mr. Evans yn erbyn gwthio Gorfodaeth ar Brydain, ai nid teg casglu ei fod yn cashau'r undeb sydd rhwng y wlad yma a'r cenhedloedd eraill sydd wedi mabwysiadu y cynllun ffiaidd hwn ers blyn- yddoedd ? Pe buasai Mr. Evans yn Brif Weinidog, dywedasai rywbeth fel hyn wrth Ffrainc a Belgium ddeunaw mis yn ol, pan yr erfvnient am ein help Wnawn ni ddim byd a chwi nes y gwnewch i ffwrdd a'ch bydd in orfodol a hynny ar unwaith." Beth fedd- yliai'r byd o'n gwlad wedyn ? Ceisia brofi fel y mae'r Mesur Gorfod yn helpu Germani, ac yna cawn rhyw ffiloreg fel hyn:Pe y ceisiaswn i roi* hajmer cymaint o help llaw i Germani ag a rydd eich Mesur Gorfod chwi iddi, buan iawn y'm teflid yng ngharchar; a haeddaswn hynny wrth wneud. Pell iawn wyf o ddweyd mai amcan neb o bleidwyr y Mesur Gorfod yw helpu Germani." Dyna ddweyd go of nadwy, oni te 1 Cofied Mr. Evans fod dedfryd mewn llys gwladol yn dibynnu lawn cymaint, os nad mwy, ar ganlyniadau gweithred ag ar ei hamcan, a chan ei tod wedi pron w joaanaa ei hun fod canlyniadau'r weithred hon yn ddrwg iawn am ei bod yn helpu Germani, yna, a dilyn ei resymeg ef, y mae pleidwyr y Mesur hwn yn haeddu carchar bob un. Hold on, Mr. Evans, rhag ofn i un o wyr y ddeddf afael yn eich sgrepan cyn hir. Ceir un gwirionedd yn rhywle tua chanol ei lythyr Yr hyn a ofna'r Caisar fwyaf o bopeth yw unoliaeth ei wrthwynebwyr." Gwir bob gair; ond prin y medraf gredu mai'r un un a ysgrifennodd weddill y llythyr. Yrwan, os mai "yn undeb preswylwyr Prydain y gorwedd eu nerth," ai nid gwell i Mr. Evans fuasai syrthio i mewn a barn y Llywodraeth—conscientious objection neu beid io-yn hytrach na rhedeg i'r wasg i bardduo dyn can mil cymhwysach a mwy gwladgar nag ef ei hun ? Ond yn wir i chwi, erbyn chwilio, dyma wirionedd arall yn ei lythyr "Rhoddasai'r Caisar yn rhwydd hyd yn banner ei deyrnas pe medrai greu rhwyg ymhlith Prydain a'i Chynghreiriaid, neu pe gallai rannu Prydain yn ddwy." Gallaf finnau ddweyd, fel y dywedodd Mr. Evans am bleidwyr y Mesur Gorfod, mai "pell wyf o ddweyd mai ei amcan" yw rhwygo'r wlad, onite buaswn yn dweyd fod Mr. Evans a'i lygad ar yhvw sgrag o Germani; ond amcan neu beidio, un o ganlyniadau llythyr tebyg i'w lythyr ef yw rhwygo gwlad. Tua, diwedd ei lythyr, cyfeiria Mr. Evans at rai o'r addewidion pendant a dorrwyd gan Mr. Asquith. Dyma uii Na ddefn- yddid mo'r Cofrestriad Cenedlaethol a wnaed ym mis Awst diweddaf at amcanion gorfodol. Torrir yr addewid hon gan y Mesur Gorfod." Ni ddywedodd Mr. Asquith ddim mor bendant. a rhaid fod Mr. Evans « i yn dyi'ysu'n fawr. Ar y 5ed o Orfiennaf, ar ail ddarlleniad y Mesur Cofrestru, gofynnodd Mr. Percy Alden i'r Prif Weinidog "If he could assure the House, with respect to the National Registration Bill. that no such action as the introduction of forced labour or conscription was in contemplation by the Government"; ac afcebodd Mr. Asquith No such action as is referred o in th" question is contemplated." Nid oedd ym mwriad Mr. Asquith, felly, ddechreu Gor- ffennaf, i ddefnyddio'r Cofrestriad at. amcan- ion gorfodol a rheswm da paham, nid oedd pwnc Gorfodaeth wedi cael sylw y Cabinet y pryd hynny. Mae hyn. foily, yn holloy wahanol i addo'n bendant na ddefnyddid e Cofrestriad at ameanion gorfodol. B wr tro ar fyd er hynny, newidiodd yr am iadau ac un tro pwysig ydoedd i Mr. Asquit newid ei farn ar bwnc Gorfodaeth, ond ni thorrodd y Prif Weinidog ei addewid. Wrth drin yr ail addewid, sef na cheisia'r Prif Weinidog osod gorfodaeth filwrol ar y deyrnas heb gydsyniad cyffredinoi, dywed Mr. Evans fod pedwar aelod o'r Weinydd- iaeth wedi ymddiswyddo ohemydd dwyn ohonynt y Mesur i mewn." Ond un yn unig, Syr John Simon, a wrthwynebai'r Mesur, ac ymddiswyddodd y tri arall—Mri. Henderson, Roberts a Brace—nid a.m eu bod yn groes i'r Mesur (yn wir, mae'r tri yn gefriogwyr selog o hono) ond yn hytrach am fod yr Undebau Llafur wedi pleidleisio yM erbyn y Mesur pari oedd yn agos i hanner eu haelodaxi yn y fyddin eisoes. Gwelir felly mai un yn unig a rwystrodd unfrydedd hollol yn y Weinydd- iaeth, a deellir ar unwaith pa mor annheg yw'r haeriad hwn eto o eiddo Mr. Evans. Dyma r addewid arall y sonnir amdani gan Mr. Evans Ar y goreu, nen' gwaeth- af, nid oedd eich addewid i'r gwyr priod yn dod i rym nes y profid nad oedd mwyafrif mawr bechgyn. ieuainc y deyrnas cyrnwys i'r Fyddin wedi cyrmyg eu gwasanaeth. Ni phrofwyd hynny eto. Nid yw ffigyrau. Arglwydd Derby yn pl'ofi dim o'r fath beth." Nid son am fwyafrif mawr bechgyn ieu. ainc wnaeth y Prif Weinidog, ond am y nifer mawr oedd heb gynnyg eu gwasanaethl gan v gwyddai Mr. Asquith y:n dda fod ri-iwvafrif y bechgyn wedi ymrestru. Os nad yw ffigyrau Arglwydd Derby yn profi fod llawer iawn o fechgyn heb ymuno, beth sydd yn cyfrif am y ffaith fod miloedd lawer wedi ymrestru er pan ail-agorwyd v group system bythefnos yn ol ? A chymryd hyn i ystyr- iaeth, l'haid fod ffigyrau Arglwydd Derby vit rhywbeth mwy na damcaniaeth. Dyma ddyfyniad arall o lith Mr. Evans "Dywed eich cefnogwyr ina-i rhaid a osodwyd arnoch am addo ohonoch yn eich byrbwylldra y gorfodid mwyafrif mawr (dyna hi eto !) bechgyn ieuainc y deyrnas i ymuno a'r Fyddin cyn galw ohonoch ar v gwyr priod. Yn awr, Mr. Asquith. gwyddoch mai ar eich cyfrifoldeb eich hun, ae heb ymgynghori a'r Cabinet, y gwuaethoch yr ymrwymiad hwn." Ni waeth gen' i beth a ddywed rhai o gefnog- wyr y Prif Weinidog it-in y rhaid a osodwyd arno, ond dyma'r hyn a ddywedodd Mr. Asquith ei hun yn Nhy'r Cyffredin nos Fercher, y 5ed o'r mis hwn "It is no exaggeration to say—it is a fact. and I am not speaking lightly or inadvisedly, it the literal and simple truth to say that if an assurance of that kind had not been given there was a serious danger of the whole- campaign breaking down. Where should we have been then ? I never thought—perhaps I was too sanguine—I never thought, as I told the House at the time, that the contingency would ever be realised. I hoped and believed that it would not, but I had to face the fact, and, anxious as I was—and as everyone of us was—those who were in favour of compulsion as much as those who were against it—that Lord Derby's campaign should be a success, I thought—and if I had to confront the same situation again I should take precisely the same course—I thought it my bounden duty to give that assurance. May I add that I certainly conceived myself to he speaking ivhen I used that language within the limits and upon the liites of the general policy which had been agreed upon by the Cabinet. and after I had spoken-I am bound to add this-I received neither then nor subsequently any sign of protest or remonstrance." Dyna i chwi ddyn gonest yn siarad o eigion ei galon, ac etc. wele Beriali Gwynfe Evans cystal a'i alw'n Judas. Gwell gennyf fi o lawer yr hyn a ddywedodd Syr John Simon amdano y noson or blaen— I do not need any lecture as to the honour of the Prime Minister of England What- ever be the reason for my attitude, it does not proceed because I have any doubt as to the honour and good faith of my right hon. friend. Beth, tybed, a fydd gan Beriah Gwynfe Evans i'w ddweyd wrth Arglwydd Kitchener a Mr. Lloyd George ? Carwn ei atgoffa fod y ddau yn ddynion fEyrnig iawn !—Yn wir iawn,. New Forest, A.E.R. 15fed lonawr, 1916. Hafesp a'r Green. I; At Olygydd Y BRYTHON I ANNWYL Syu,-Byddaf yn cael llawer o bleser wrth ddarllen hanes eich gwib-deithiau trwy Gymru annwyl. Teimlaf fod darllen eich profiadau a'ch myfyrdodau yn fendithiol ac yn ddiddan ryfeddol. Yr oedd eich llith yr wythnos ddiweddaf yn neilltuol felly, lle'r oeddych yn son am Green y Bala. Wrth ei ddarllen, methwn beidio I meddwl am englyn Dewi Hafesp i'r tren at y Green. Yd- ych chwi'n gwybod amdano, tybed ? Byddaf bron meddwl weithiau eich bod yn gwybod popeth am Gymru a Chymraeg gwerth ei wybod. Yr oedd yn un o'r englynion di- weddaf a gyfansoddodd Dewi druan, pan oedd yn ei gystudd olaf yn Nhloty'r Bala yntau ar y pryd yn edrych drwy ffenestr y glaf-ystafell ac yn eu gweld yn prysur gario daear o'r cutting gerllaw i ffurfio'r ffordd haearn ar hyd y Green. Pan aeth ceidwad y tloty (yntau hefyd yn fardd gwych, y diwedd ar Wtheyrn)—i fyny i edrych am Dewi prynhawn y dydd y cyfansoddodd yr englyn, Gwrando," meddai Dewi, o ganol ei nychtod a'i wendid— Y march tan, er mor wych y tynna,—nid Yw'n ol o ladrata— Lluniodd hwn i ddwyn llain dda 0 groen bol Green y Bala. 37 Fell St., Liverpool J. JONES I Mon, Mon i mi, I At Olygydd Y BRYTHON ANNWYL SYR,—Byddaf yn cael hwyl iawn I wrth ddarllen Y BRYTHON bob dyd d Tau < Ili tlioc,,dd o Diolch yn fawr i chwi am. y lhthoedd o Lygad y Wawr." Pam nad alfi merlyn Y BRYTHON i Sir Fon ambell dro i adrodd dipyn am ei thirionweh wrth ei meibion sy'n alltud yma ers misoedd Mae yma gannoedd lawer o ferlod yn wyllt fel defaid y Berwyn, a phan fvdd angen un arnoch, anfonwch air, a chewch un efo'r post cyntaf ? Diolch yn fawr am Y BRYTHON a'i Gymraeg pur, am Lygad y Wawt," a hanes castiau ,r morl-AN,ir iawn, AM/TUD L.LUNDAi?. f i
Advertising
DONEGAL TWEED CO. LIVERPOOL'S T A Tt C FOREMOST TAILORS, EXTENSION of PREMISES ——- S LE- OUR ENTIRE STOCK TO BE CLEARED. Suits to Order From 27/6 Overcoats from 2 1 Overcoats From 21 = R8LONDONR0., LIVERPOOL I Manager: JOHN JONES. Also 95, 10 5, 165 Grange Ad., B'head Cvmro am byth." at 226 High Street, Bangor, I 23 Hope Street, Wrexham, I and throughout ihe Kingdom '='=-=:=:=- -='=:=-=::=='='=:=-"='=-==.=> ARGRAFFU 0 bob math ar gyfer Masnach, Eglwysi, CyfarfodyddJ Cyngherddau, Eisteddfodau, ac yn y blaen, am hrisiau rhesymol. Mae Perchenogion y "Brython" wedi ennilI enw da iddynt eu hu-nain fel Argraffwyr a Llyfr- rwymwyr, a byddai'n dda ganddynt gael cyfle i brofi hynymhellach gydag unrhyw waith argraffu y bo arnoch ei eistau, 'Does dim gwaith yn rhy fach na dim yn rhy fawr gennym i ymgymeryd ag ef. Rhowcb gyfle inni. HIGH EVANS & SONS, Swyddfa'r *Brython/ | 356-8 Stanley Road, |! Liverpool, TELEPHONE 591 BOOTLE _n u ""p -Un" i QFFICR TRAINING CLASSES. SPECIAL Rapid Course for those who desire to become Shorthand Typists in æ I NO TIME WASTED BY OUR METHODS. SPECIAL DAY & EVENING CLASSES. Send for prospectus before arranging winter study. j GREGO SCHOOL, 21 Harringtogi-St, (off Castle-St). Phone 3666 Ban I Palatine Trade Protection Office (L'pool). 3S Exchange Chambers. 2 BixtethSireet, LIVERPOOL, and at LONDON. Subscription £ i is, per annum. Includes an UNLIMITED number of collections of accounts. Tel. 8365 Central (3 lines). 'Telegrams,' Quorum. Apply for further particulars- PARKIN S. BOOTH, General Manager. I jgB^^agBsssmamsteaBSBasasBsssaas^ saxs^axssassBOm Balls' Wedding Rings. i Guinea Gold Wedding Rings from 7/6 to 601.. Half dozen Best Electro-plated Spoons given to each purchaser of a Ring. BALL'S LUCKY WEDDING RING DEPOT, 33 LONDON ROAD, LIVERPOOL Finger Size Card post free. Close on Wednesdays at 1 o'clock. j TCie Csllic Miles THEIR Literary and Library Activities, BY RHYS PHILLIPS, F.L.A. Pris Is. By Post ii, 2d. HUGH EVANS 6 SONS, Bry then "Off ice BARGAINS.-Underwoods, Remington. Yosts, Smith, Premier, Barlooks, Em- pires, Oliver, Blicks, Royal Standard, from J £ 2 new condition,—LONGMOOP.SE, 41b North John Street, Solo Agency Carona Portable Typewriters. ItR FOD RHYFEL.M| Nid oes raid talu prisiau uchel am Ymenyn FTesh, Wyau, a Fowls. Os byddwch yn talu ymweliad & St. John's Market, bydd yno | Ymenyn Fres, Wyau, a Fowls o Sir F6a ac Arfon, am brisiau tra rhesymot gan 8. R. WiixiAMs & Co., 415 St. John s Market. Liverpool. Furniture Bought '¡. -outright for Cash, distance no object. Sales by auction on owners' premises. j GREETHAM & SON (Est. 1848). Auctioneers, Valuers, 27 Newington, Liverpool; also 18 Rydal Bank and 106 Liscard Road, j Liscard. Tel. 646 Royal. ADVICE FREE.—Mrs. Stewart, Herbal Specialist, 9 Guinea Street, Bristol. FRANCIS & HOLLAND, j Sight Testing Opticians, AFRICAN HOUSE, 6 WATER STREET LIVERPOOL. (Close to the Town Hail). Dwy Action Song Cymreig Da. Y MILWYR BYCHAIN (The Little Soldiers). Y MAMAU BYCHAIN (The Little Nurses). Gan Pedr Alaw. TONIC SOLFFA, 2g. yr un. Drwy'r post, c. HEN NODIANT, 6ch. yr un. C. Drwy'r post, 6c. Cystal a'r goreu a gwell na llawer a gyhveddir yn Saesneg. Cyhoeddedig yn Swyddfalr ss Brython," 356, 358 Stanley Rd., Lherpool.
ITrem ll-Heddwch a Rhyddid.'
Hen fynydd glwyfai'i hunan—a phoenau Ffynnon a daeth alian O'i lym gUvyf. yn fwrlwm g!an, Berorol ebyr Hriaii. Ac o fynvdd ei Hymneillluaeth gadani y ffrydiodd ailan fy wyd goreu'r genedl Gym- reig. Gwir nad yw'r emvau sydd amom yn hanfoiiol na digyfnewid. Mae dehv'u tad Amser, a'u in. • in Damwa in, arnynt Iwy. Nid yw Protestaniaetli yn dragwyddol euw. Nid yw Anghydffuz'fiaetl^ yn dragwyddol. Nid yw Methodistiaeth yn dragwyddol. Kid yw hyd yn oed Amiihyniaeth yn dragwvddol Eto, jii gredwn fed o leia.f rhyw egwyddor dragwyddol a hanfodol yn gonvedd o tan yr enwau hyn.—RHYDDID rn tyb M. nid gw&sanaeth pennaf Martin Luther i grefydd fu darganfcd athrawiaeth Cyfiawnhad trwy Ffydd, eithr sefyll dros yr egwyddor a rodditi i bob dyn hawl ft rhyddid i chwilio'r Ysgryth- yrau trosto'i hun. modd y gallai yfed "dwfr y bywyd o'i ffynhonnau gloewlan, ac nid o gistiau rhagfarn. rhydlyd a sefydlog. y cred <»u dynol. Cyn yr arvveinier ieuenctid ein gwlad ymlaen i unrhyw Surf newydd ar eglwysyddiaeth. gofaler eu dysgxi yn hanes gwroniaeth ac ebyrth y tadau gynt, a gwerth yr etifeddiaeth a adawyd iddynt oddiwrth- ynt hwy. Ac os oes rhywbeth yn werth mynd i ryfel erddo o gwbl-fel y credwn yn ddiamhenol fod-rhyddid crefyddol a gwladol yw hynny. Mae rhyddid crefydd yn golygu rhyddid cyffredinoi dyn y.nabob ag- wedcl a pherthynas. Heb ryddid ni cheir heddwch gwirioneddol, teilwng o ddynol- iaeth. Ac os ydym i ddysgu'n plant. i garu heddwch a rhyddid." rhaid inni eu dysgu fod rhyddid yn nmod hedd, ae yn werth pob aberth y gellir ei wneuthur erddo.