Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

o Big y Lleifiad.

DAU T U"R AfON.1

Nodion Trwyddedol.

Gyda'r Milwyr Cymreig yo ffrainc.

News
Cite
Share

Gyda'r Milwyr Cymreig yo ffrainc. [Gas Y Parch. R. PERIS WILLIAMS. G NA-li FCSAM,,] O'm pabell yn un o wersylloedd y FyddinBry' deinig rywle yn Ffrainc," ar gwr un o goed- wigoedd mwyaf y wInd hon, yr wyf yn ysgrif- en.uu ychydig ynghvlch y gwaith ynglyn a'r "deyrnas nad yw o'r byd hwn ymhlith y milwyr Cymreig sydd yn swn y rhyfel. Rhaid i mi fod yn ofalus beth a ddywedaf, oblegid cyforwyddir ni i beidio ag ysgrifennu dim all fod o fudd a mantais i'r gelyn, a gorchymynnir i ni beidio a rhoddi enw'r gwahanol gatrodau, na mynegi dim ynglyn a'r syiiiudiadau--o ba le y deuant, nac i ba ley rant. Er pan laniais yma rai wvthnosau'n oil bum mewn dinas- oedd, trefi a phentrefi, a. gwelais a chlywais bethau a lynant yn fy nghof tra byddaf byw. Darllenais lawer ynghylch rhai o'r lleoedd er dechreu y l'hyfel, ond erbyn hyn fy llygaid a ganfu y difrod a wnaed arnynt. Bum yn aros ym mhencadlys y Fyddin Brydeinig yn Ffrainc, ac yna yn symudol o fan i fan am beth amser. O'r diwedd, cyrhaeddais y lie yr wyf ynddo yn awr. Nid oes yma na thref na phentrefi, ac y mae rhai milltiroedd rhyngom a'r dref agosaf. Gofalaeth Fugeiliol.—Cynhwysa'm gofal- aeth fugeiliol "ddwsin o wahanol wersylloedd lie y daw cannoedd lawer o filwyr ar eu ffordd i'r firing line," a'r lie y dychwela rhai ohon- ynt am seibiant ar ol bod trwy'r tan. Cyn- hwysa hefyd tua deuddeg o ysbytai, lie y mae rhai cannoedd o filwyr clwyfedig neu glaf- Disgwylir imi fugeilio y milwyr Cymreig perthynol i'r gwahanol enwadau yn y gwer- sylloedd a'r ysbytai hyn. Er pan ddeuthum yma, bum yn ymddiddan ag ugeiniau o'r bechgyn. Un peth sydd wedi fy synnu yw, fod cynnifer o Gymry yn y catrodau Seisnig —llawer ohonynt wedi ymuno cyn bod son am y Fyddin Gymreig. Nid oes amheuaeth, pe gellid cael rliostr gyliawn o'r Cymry sydd mewn catrodau heblaw y catrodau Cymreig, na cheid fod cyfartaledd pur uchel o Gymry wedi ymrestru. Digon anodd vn fvnych vdvw dyfod o hyd i'r Cymry. Wedi cael gafael ar Gymro bydd hwnnw, fel rheol, yn gwybod aan bob Cymro arall yn yr un gatrawd ag ef, a thrwy ddyfod o hyd i un, rai troeon, yr ydym wedi cael agoriad i drefedigaeth o Gymry mewn pebyll yn agos i'w gilydd. Mewn pebyll y mae'r holl filwyr sydd yn y gwersyll- oedd hyn. Diddorol iawn ydyw yr, hyn a fynegir gan ami un o'r milwyr wrth oleu cannwyll ar ganhwyllbren o gaead bocs sigarets, yn y babell gyda'r nos, Odfeuon.—Bydd gennym ar y Saboth ddwy oedfa Saesneg a dwy oedfa Gymraeg, ac Ysgol Sul yn y prynhawn, a chynhelir cyfar- fodydd amrywiaethol a chyngherddau llwydd. iannus bob nos trwy'r wythnos. Cawsom rai odfeuon a'r eneriiad yn amlwg iawn arnynt mewn ambell oedfa profasom yr un peth ag a deimlasom yng Nghymru yn ystod y Diwyg- iad, a'r bechgjm a'u gruddiau'n wlybion gan ddagrau wrth ganu rhai o hen emynau annwyl Cymru. Bore dydd Nadolig cawsom Gymun. deb ac yn sicr, yr oedd yr eneiniad yn amlwg ar y gwasanaeth. Dywedai rhai o'r bechgvn ar y diwedd y cofient byth am y Cymundeb hwn. Ymhen ychydig ddyddiau yr oedd amryw ohonynt yn y firing line. Cawsom Gymundeb arall y nos Saboth cyntaf o'r flwyddyn newydd, gan fod nifer o'r milwyr wedi methu dyfod fore Nadolig, a defnynnodd arnom y nefol wlith yn y Cymundeb hwn hefyd. Ar ddiwedd un o'r odfeuon daeth bacligeii o un o ardaloedd gwledig Sir Ddin- bych atom, a dywedodd ei fod wedi disgwyl llawer am gaplan yn medrii Cymraeg, oher- wydd nas gallai ddweyd ei feddwl wrth gaplan Seisnig. Bu'r bachgen hwn trwy'r tan. Daethai allan ym mis Tachwedd, 1914. Yr haf diweddaf bu farw ei fain a chafodd fvnd adref i'w chladdu, ond cyrhaeddodd yn rhy hwyr i fod yn bresennol yn y cynhebtwng. Dywedodd fod yr adnodau a'r emynau a ddysgodd ei fam a'i nain iddo yn gysur mawr i'w feddwl pan yn y ffosydd, ac fod y cyng- horion a gafodd gartref gan ei. ieni a'i athraw- on yn dod yn fyw iawn i'w gof pan yn swn y frwydr. Magwyd ef yn yr eglwys, ond pan aeth oddicartref crwydrodd o'r gorlan mynegodd ei awydd i ddod yn ol, a gofynnodd a oedd yn bosibl iddo gael ei dderbyn yn aelod y noswaith honno, gan ei fod yn debyg o fynd i'r firing line un o'r dyddiau nesaf. Wylai'n hidl wrth adrodd ei deimlad. Gwahoddais ef gyda mi i'm pabell, ac yno rhoddais iddo ddeheulaw cymdeithas a derbyniwyd ef yn aelod o eglwys lesu Grist. Penliniodd yn fy ymyl; penlitiiais innau, a gofynnais am fen- dith Pen yr Eglwys ar waith v bachgen hwn yn rhoi ei hun yn gwbl Iddo. Amlygodd awydd am gael Testament Cymraeg (yr oedd ganddo Destament Saesneg), a da oedd gennyf gael rhoddi copi iddo. Ysgrifennais at weinidog yr eglwys lie y magwyd ef i ofyn i'r frawdoliaeth yn ei hen ardal roddi ei enw ar lyfr yr eglwys. Yr Y sbytai.- Yn yr ysbytai yr ydym yn ceisio cysuro'r cleifion a'r clwyfedigion. Llonna'r Cymry pan gyferchir hwy yn iaith "hen wlad ein tadau." Ambell brynhawn, pan af i ysbyty, bydd yno rai o'r clwyfedigion yn paratoi, ac yn cael eu paratoi, i fynd tros- odd i Loegr ceir amryw yn eistedd wedi ym- wisgo a label wedi ei rwymo wrth fotwm eu siaced, yn edrych yn llon; a chyn gofyn ohonom iddynt, dywedant eu bod yn disgwyl y motor tambula,)tcci'w cli-ido i'r orsaf agosaf i gyfarfod cerbydres y Groes Goch, neu i'r Hospital Boat i groesi i Brydain. 'Rwy'n mynd adre heddyw Gwnaed popeth ellid yn yr ysbytai, ac hefyd yn y gwersylloedd, i beri fod y 25ain o Ragfyr mor debyg ag y gellid i Nadolig yr hen wlad. Y dyddiau 1 cyn yr wvl, pan ymweem a'r ysbytai, yr oed</ y nurses a bechgyn y R.A.M.C. a phob un o'r clwyfedigion a'r cleifion oedd yn abl, wrthi'a. I addurno'r parwydydd, ac ochrau'r pebyll, a. dail bvtholwyrdd a phapurau lliw. ond nid anodd oedd canfod fod ar ami i fachgen hit, aeth am gartref. Ceir cyngherddau yn aclilysurol yn yr ysbytai a'r gwersvlloedd, Daw rhai o gantorion goreu Llundain drosodd j. ganu. Gyda chwmni fu vma'r wvthnos ddiweddaf, yr oedd Mr. Madoc Davies, a bu raid iddo ail ganu, a chanu wedi hynnv, ar 01 canu Cymru annwyl, gwlad y delyn." Canodd yn gampus, nes codi hiraeth arnom am Gymru annwyl. Bedd y Milwr.-—Bore dydd Calan, yr oedd- wn yn inynd heibio i fynwent lie y claddwyd cryn nifer o filwyr a syrthiodd yn y brwydrau. Daeth ton o brudd-der fdrosof wrtli fynd i mewn trwy'r fynedfa. Ceirbeddauyiiiilwyr Prydeinig ar y 11aw dde wedi mynd trw?r porth ac ar y Haw chwith. ceir beddau milwyr Ffrainc. Ar fan fechan bedd pob un ohonynt y mae croes o bren, ac ar y pren croes y mae enw'r ymadawedig, a'r gatrawd v per- thynai Jiddi, ynghyda dydd ei farwolaeth. wedi ei baentio. Ar ychydig o'r beddau, ceir beddfaen. Y bore hwnnw, yr oedd dau fach- gen yn gwneud trefn ar feddau rhai o'u cyfeills ion. Ceir llwch anirvw Gvmrj- yn y fynwent hon. Ar dwmpath o gerrig ynghanol y fynr went, ceir baner ein gwlad, ynghyda baneri'r gwledydd sydd yn ymladd gyda ni, vn cvhwf- an yn yr awel. Pr FJosydd.—Prynhawn ddoe, bum yn hebrwng, am tua phum milltir o ffordd, nifer o'r milwyr Cymreig ar eu ffordd i'r ffosydd. Yr oeddynt yn mynd yn galonnog iawn, ac yn canu yn y glaw wrth orymdeithio tan eu batch* Yr hyji a'm gofidiai oedd fod amryw ohonynt heb Destament Cymraeg, ac y mae'r stoc oedd gennyf o Destamentau Cymraeg wedi gorffen, Onid oes ymhlith fy narllenwyr gvfeillion. parod i ddanfon rhai Pan yn Northamptoa y llynedd, ac wedihynny vng Ngholwvn Bay a Chaer Wynt, derbyniais rai cannoedd 0 Destamentau Cymraeg a Saesneg a chysuron i r milwyr. Mae'r Lly wodraeth yn gofalu am yr hyn sydd "anhehgorol angenrheidiol. 1 ond dylid cael rhai pethau dros ben hvnnv. Mawr werthfawrogid yr hyn a ddanfonwyd o'r blaen. Derbyniol iawn, yn wir mwy der- byniol, gan fod pethau o'r fath yn brinnach yma, fvddai rhoddion o lyfrau "diddorol i'r bechgvn yn yr ysbytai, a chvsuron o bob math i'r milwyr yn y gwersylloedd. Gellir danfoa. parseli heb fod yn drwm trwy'r llythyrdy ond os yn rhy drwm i ddod gvda'r post, gellir eu eyfeirio i mi,Core of the Military For- warding Ofifcer, Southampton. Gofaler am bacio mewn bocs, a thalu'r cludiad gyda'r t-ren i Southampton. Rhodder gyda'r cyfeiriadj For the Troops,' a danfonex llvthyr i'm hysbysu fod parsel ar y ffordd. Cellir eyfeirio llythyrau i mi i No 2 Territorial Base Camp, British Expeditionary Force, France. Parhewch i weddio drosom. Ol-Nodiad.—Bydd yn bleser gennyf ym, holi ynghylch beehgyn yn v gwahanol vsbvtai, ar dderbyniad llvthvr. Os na fvdd v sawl yr ymholir yn ei gylch yn y rhan o'r wlad lie yr wyf, danfonaf at un o'r caplaniaid yn y man. lie bo'r clwyfedig neu'r claf.

Advertising