Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

o Big y Lleifiad.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

o Big y Lleifiad. Llawlyfr ar y Gwyrthiau ychydig sydd a law anfonweh ar fyrdcr. Gwel td. 8. Dyma'r pill oedd ar gerdyn gwadd y milwyr i Gyngerdd Croeso diwcddaf Bankhall :— Y dyn pwysicaf fedd ein gwlad Yw'r milwr dewr ar faes y gad, Rhown iddo barch a bri; Nid dysgu ieithoedd yw ei rym, Ond handlo cledd a'r bidog llym, I gadw'n bywyd ni. MWY. 0 GOD-POWER A LLAl 0 HORSE PO WER.—Mewn pregetli ragorol ar un o adnodau Habacuc, ym mhulpud Laird Street, Birkenhead, bore Sul diweddaf, sylwai y Parch. O. Lloyd Jones, M.A.,B.D., fod inawr son y dyddiau hyn am Dreadnoughts a super-Dreadnoughts ac fod hon yn 18.000 ho-rse-power a'r llallyh 20,000 hor'-e-power ac yn y blaen load mai eisiau mwy o God-power sydd ar y byd a'r eglwys mwy o hynny yn ein gweddiau a'n holl fywyd hwnmv'n unig ddawa, heddweh iawn ac a ddeil. Y DRY OH A'J WE LED YDD. —Dy ma fel yr ysgrifenna Huwco Penmaen ng nghol- ofn Gymraeg N Rhyl Record and AdtWTÛseryr wythnos ddiweddaf Os nad yw'n darllenwyr wedi gweled y "BRYTHON am yr wythnos ddiweddaf. mynnweh ei gael a darllenweh Trwy'r "Dryeh,' lie y ceir trem Pedrog ar yr "hen flwyddyn, ac yn bennaf rhawd v Rhyfel. Y mae wedi dilyn symudiadau vr Armagedon o wythnos i wythnos er pan dorrodd allan, ac nid oeddym yn gweled dim gwell ar y mater yn ein hiaith. Mae'r bardd yn sylwedydd craff, yn meddu barn aeddfed, a thraetha ei farn yn bwyllog mewn Cymraeg firain." CYFRINIWR MAWR Y CYMRY.— Testyn darlith y Parch. D. Tecwyji Evans, B.A., gerbron y Gymdeithas Genedlaethol nos yfory, sef nos Wener, fydd Morgan Llwyd o Wynedd. Y mae gwahoddiad taer a chynnes i bawb ddod yno, aelodau o'r Gymdeithas neu beidio ond vmoroled pawb, hyd y gallo, ddod mewn pryd erbyn chwarter i wyth, yn lie llusgo yno fesur un ac un, a chadw'r drws i wichian ar ei echel pan fo'r pethau goreu yn cael eu dweyd. Y mae cyfoeth y testyn a safon y darlithydd yn warant am. wledd; ac ni ddywedwyd mo'r cwbt o lawer eto am Gvfriniwr mawr v Cymry. UN 0 BLANT YR UWD RFlYNION. —Cwrddais fy hen gyfaill Henry Jones, Beech Road, Birkenhead, heddyw'r bore, ary ffordd i'r Clwyd yma un o Fedyddwvr yr Wood- lands ac un o blant Sir Fon sydd -tr Ittiiiit,,u'r Mersey ere ugeiniau o flynyddoedd, ac sy'n tynma at oedran yr addewid Ysgrythyrol. ond mor hoyw'i gorff a'i galon a.g ami i bendrist hannercant. India Rubber "di'chdeurrlldd chi, deydwch ? "ebwn i. Taw a'th goegni, 'r gwaleh," ebr yntau. Rhaid ei fod wedi disgyn o dylwyth yr uwd rliyiiioii-N- peth goreu'n y byd am osod mer a rhuddin ym mhawb. A chofier hynny gan silod y te a'r deisen. Aeth yn son am yr oed a'r flwyddyn newydd; ac ebr yntau :— ''Fel hyn y byddent yn son am oed yn y wlad pan oeddwn i yn hogyn Faint ydi'cli oed chi ? Wei, mi fvddaf yn hyn a, hyn y cyneua. gwair nosa, neu'r Wylfabsant nesa, neu'r Wyl Fihajigel nesa' Ac yn y blaen. Y mae wedi digio'n bwt wrth Mr. Lloyd George am droi o du'r Coitsgrip- siwn atgas, ac yn darogan mai Chamberlain yr ail fydd ei ddiwedd o," sef deckreu'n eilun y bobl a dibennu'n eilun y bendefigaeth. Yr oedd ei sylw yn f'atgoffa o'r hyn a ddywedodd patriarch arall yng Ngwrecsam y mis o'r blaen un sydd wedi hanner addoli'r gwr o Griccieth ar hyd ei oes :— Gwybod y mae o fod Evan Jones, Caer- narfon, wedi marw ne fasa to byth yn meiddio closio at liaid Arglwydd North clifte yna, na rhedeg ar ol eu Jac lantarn dwyllodrus i Gars Gorfodaeth." Sut bynnag am hynny, hir oes i Henry Jones a gresyn na fuasai pawb o blant Mon wedi byw'r un fa,th nes medru camu mor gyflym a'r bachgen pedwar ugain o Beach Road. Dyma fel y can Creigfab (y Parch. T. J. Williams, Rock Ferry) y dyddiau liyll. SWJl y rhyfel fawr yn Iwrop Glywir heddyw dan y nen, Ni ddaw heddwch i deymasu Heb gydnabod Duw yn ben Ymostyngwch, Dyma la is y rhyfel hon. TUAG A T Y PUMCANT. Dyimi ragor o danysgrifiadau a dderbyniwyd at y pum cant o bunnau a gesglir at y motor ambidance y bwriedir ei chyflwyno dros Gymry'r cyloh i'r Fyddin •— Mr. W. O. Roberts. 10 0 0 Mr. John Frimston 3 3 0 Mr. T. Humphreys-Jones 2 2 0 Mr. R. Williams-Jones 2 2 0 Mr. W. D, Hughes 2 2 0 Mr. C. O. Hughes g 2 0 Mr. Evan Moirg an 2 2 0 Aid. O. K. Jones 1 ) 0 Mr. Hugh Lloyd 1 ] 0 Mrs. Edward Roberts.1 1 Q Mr. G. H. Edwards. i i o Mr. R. E. Hughes l ] 0 Mr. David Jones, Cremlyn 1 0 0 Y Parch. John Owen 0 10 6 Mrs. Lydia Jones 0 2 6 0 2 6 Hefyd. heliodd plant eglwys Wesleaidd Trihity Road, Bootle, £ 1-5-6—casgliad campus o'i maint; a phe gwnelai plant yr holl eglwysi'n gyfatebol, buan y cesglid eu cant hwy o'r pumcant. Y mae cryn bellter eto rhyngom a chyrraedd y swin gofynnol; ac a gawn ni ymroi o ddifrif, pawb yn ol ei allu, i fynnu cadw enw da'n cydgenedl yn y ddinas drwy estyn bendith mor angenrheidiol i'r clwyfedigion ar v maes ?.

DAU T U"R AfON.1

Nodion Trwyddedol.

Gyda'r Milwyr Cymreig yo ffrainc.

Advertising