Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
[No title]
-11 \ Y (jol Oddicartref.
-1 Y (jol Oddicartref. Gwib i'r Bala—Jerusalem Cymru. DICHON y deil yr Hwntw mai yn y Deheubarth y mae'r dref deilyngaf ei galw'n Ddinas Sant- aidd yr Hen Wlad, eithr nid awn i ffraeo ag o ar hyn o bryd, rhag i'r Shoni eirias godi ei gaib a sgryffinio crimog y Merlyn nes na char- lamo byth mwy. Sut bynnag, yn y Bala y buwyd dros Wyl y Nadolig, yn tafoli'r haid o adrodd wyr a gystadlai yng ngwyl Undeb Ysgolion M.C. Dosbarth Penllyn, a gynhelid brynhawn a nos Sadwrn yng NghapelTegid- addoldy a ddeil rywle o'r pymtheg i'r deunaw cant pan fo dan ei sang megis yr oedd i raddau inawr yng nghyfarfod yr hwyr. Ac y mae Gwy 1 j G y s tad 1 eno] Penllyn mor hen a hybarch nes haeddu gair bach manylach amdani cyn symud at bethau eraill y Bala. Y mae trigain mlynedd er pan gychwynn- wyd yr wyl, a'r Cyfarfod Ysgolion yn casglu'r pryd hwnnw at dalu'r draul. Cymrid rhan ynddi gan Dr. Lewis Edwards, Dr. Parry ac Evan Peters yn ei blynyddoedd cyntaf a. ehan Dr. Hugh Williams a Dr. Ellis Edwards wedyn. At lenyddiaeth Ysgrythyrol yr anelid yn bennaf, a dyna'i nod hyd heddyw. Yr oedd bri eithriadol ar yr wyl yn yr 80's, pan gorddid y llyn bob blwyddyn gan y gystadleua-eth chwilboeth rhwng corau Llanfor a'r Bala a Llandderfel. Dichon y daw'r hen ias yn ol-oto pan ddi);>enno'r,I'hyfel. Hai lwc Yn yr 80's hefyd y daeth Dr. Thomas Chas. Edwards ac O. M. Edwards a Tom Ellis yn llywyddion iddi, ac y traddodai'r triareith- iau Ilawer llawnach o dlysni a meddwl na'r rhith-folawdau gwagsaw ebyohion codi- chip a glywir mor fynych o gadeiriau'r Wyl Geriedlaethol. Bu'r patriarch David Jones, Birmingham House (tad yr ysgrifennydd pres- ennol) yn ysgrifennydd yr wyl a'r Cyfarfod Ysgol am ddeunaw mlynedd ar hugain a phan ymddiswyddodd bedair blynedd yn ol, cyfiwynwyd pyrsaid o aur ac anerchiad hardd iddo am ei ffyddlondeb difwlch. Diolch i'r arweinydd-—y Parch. R. R. Williams—am arwaln mor fywiog a byr ei air, a mynd drwy Taglen mor drom ei llwyth heb i'r olwyn fynd i rych. Yng Ngwyl Penllyn yr enillodd Islwyn ar farwnad i Dr. Parry, oedd yn frith o feddyliau urddasol fel hwn Gallasai weithio allan feddwl mawr, A'i ddangos gefn a gwyneb, nen a, llawr, » Nes aem o'i ogylch-safai erbyn hyn Fel palas o oleuni ar ryw fryn -Na fu yn gorJEfwys arno niwl erioed, Na neb yn meiddio ameu wrth ei droed. Yr oedd Huw Myfyr a'r Parch. Evan Da vies (Trefriw bellach) yn dynn ar sodlau Islwyn a dyma bennill o'u heiddynt hwythau :— Nid rhyw enfys liwiog, danbaid, Synnai fyd a thegwch brau, Oedd efe, gan lwyr. ddiflannu Wrth, in' ati agoshau. Seren ydoedd, loew, dawel, Daflai lewych clir ymhell Ond wrth' esgyn i'w chymdogaeth, Chwyddai'ii fwy,go]euai'n well. -Huw Myfyr. Rhoddai orchudd gostyngeiddrwydd Ar orchestion mawr ei pes Ac i dderbyn clod ei lafur, Hanner cam o'i lwybr ni throes Ceir brenhinoedd yn ymguddio 'Mysg y dodrefn lawer pryd,'— j Nid yw mawredd byth yn arfer Gwtliio'i buii i sylw'r byd.- Evan Dairies. Ie, ac yng Ngwyl Pqullyn yr eniUodd y Parch. Hugh Jones (Huw Myfyr) ar ei farwnad i Dr. Lewis Edwards-tiii o farwnadau goreu'r iaith, a'r bensil yma'n ysu a gofidio na fai lie i ddyfynmi mwy na hyn ohoni :— Ni hu ef erioed yn gweithio Ysgeifn lech-feddyliau man Dim ond mynor gwyn a chaled,- Meddwl drud o doriad glan Pob tudalen ysgrifennai A gynhwysai gyfrol gref,— Dafn. o inc yn for o feddwl Ddeuai dan. ei fysedd ef. Cyhoeddid r]-iai o dr,tethodau'r Wyl yn y cylchgronau, yn eu mysg un o rai buddugol y diweddar Wrtheyrii,-Ilenor a ddylasai fod yn Ilawer mwy hysbys nag ydyw i weddill y wlad, a'i le'n wag eleni am y tro cyntaf. Rhoddir C, eiriadur Charles i'r sawl a adroddo'r Hyfforddwr, a rhywun caredig yn rhoddi'r wobr hon bob blwyddyn ersdeugain mlynedd. Ac ni chcdodd neb i fri a defnyddioldeb am- Iwg yn yr ardal hon na fi-i'l-i -gystadlwr a. budd- ugwr ar rywbeth neu gilydd yng nghylchwy Drigain Oed y Penllyn. Dalier i'w chynnal hi a'i thebyg drwy'n gwlad, canys dyma'r grawn a roes fer a rhuddin yn ieuenctyd Cymru, ac y mae'n anhraethol well Jluniaeth na'r sucan merfedd yr heidien i'w nol i'r Lluniau Byw. Bum yn y Bala a Thai y Bont a Llanuwch- llyn droeon bellach gyda'r adrodd, ac a welais fod yno ddigonedd o ddeunydd rhagorol— ambell gystadlydd eithriadol o dda a'r unig ofid ydyw, na fuasai mewn ardal fel hor, megis y mae yn nhrefi Lloegr, athro proffesedig i'w [ cyfarwyddo yng nghyfrinion ueha'r gelfyddyd gain. Tan nenbren Cuneglas. Cawsom y fraint a'r fendith o dreulio'n hegwyl yng Nghuneglas, cartref mam a chwaer y diweddar Mr.1 Tom Ellis, yr anwylaf a'r dyfnaf yn serch y genedl o holl wleidyddion Cymru, a hynny am fod ei alluoedd a'i ddysg we,di eu cylchu a'n diogelu a chymeriad mor ddilychwin, nac uchter llwch y byd yn Llun- dain nac unman arall wedi medru vstaenio dim ar ei hanes. Ymddengys mai Cuneglas ydyw'r hen ffurf gywir ar Cynlas, a Cuneglas oedd yr enw a ddodai Tom wrth gwt y gyfres llithoedd a ysgrifennodd i'r South Wales Daily News wrth ddechreu deffro ac agor llygaia ei wlad. A phan welsom wyneb ei fam, gwelsom yn bur fuan ymhle y cafodd vntau'i anwyldeb; ac er fod wyth a phedwar ugain o flynyddoedd ynjpwyso ar ei hysgwydd- au, y mae yna ysbryd siriol a chynheddfau crvfion o dan y baich. Y mae hi'n bur fyw i helynt a symudiadau'r byd hwn, ond yn fwy fyth i symudiadau'r Nosaf. Pan drodd yr ymgom at hen emynau oedd ar wefus y wlad ym more'i hoes hir, adroddodd y rhain :— Mab unigaiiedig, un odiaeth, 'Run faint o naturiaeth a'r Tad 'Run oedran, 'run anian, 'run enw, Yr un ddelw harddloew, 'run wlad Yr un gwaith, 'run iaith, 'run ethol, 'Run ewyllys i'w bobl gael byw 'Run gwerth, 'run nerth, 'run gwvrthiau, 'Run geiriau, 'run deddfau, 'run Duw. Yn y cawell brwyn rhoed Moses, Yn yr ynys wrth y dwr, Yn y ffwrn rhowd llanciau'r gaethglud— Cawd yno waredigaeth siwr Caeai'r angel safnau'r llewod, Cyn i Ddaniel fynd i lawr A chyn bwrw Jona i'r dyfnder Darparwyd y pysgodyn mawr. Haf a chynhaeaf eto Sy'n para gyda ni, Awn gyda Ruth i loffa I fevsydd Boaz fry Cawn yno dywys breision 0 addewidion llawn, A chroeso i'r gwanna aros 0 fore hyd brynhawn. Diolch i Mr. Robert Evans, swyddfa'r Seren, am fenthyg y bloc uchod o gofgolofn Tom Ellis, a mil o deimladau yn neidio o'r galon i wlitho'r llygad wrth i ddyn sbio arni Anfarwol hiraeth cenedl gref Am dant flodeuog, lawn o swyn, Gydblethir i Tom Ellis fwyn A thant anfarwol fri y Nef, ebe'r Pareh. D. Adams yn ei Gan Hiraeth iddo Yr oedd y llwybr o ffermdy gwladaidd yng Nghymru i sefyll ochr yn ochr a Phrif Weini- dog Prydain yn. agored cynt, ond Tom Ellis oedd y cyntaf i'w dramwy bydd 61 ei droed arno am oesau, fcl y gallo Cymry'r dyfodol wybod sut i'w gerdded heb lithro na cholli'u coron. A dyfalu y mae dychymyg dyn beth, tybed, fuaeai ei ran a'i swydd yp- y Cabinet cymysgryw sy'n cracio dan faich yr Armagetl- on heddyw. Gem o Gymro oedd Tom Ellis a phan glywais rhyw bapurydd Seisnig yn gweiddi The Parnell of Wales arno wrth ei weld yn ymroi mor ddifrif i ddatod hu.alau'r gorthrwm oddiar' wddf Cymru, gwaeddais innau yn Gymraeg ar ei ol Pornell, wir Marw mewn gwarth a than fynd i Lawr ddarfu'r Gwyddel hwnnw ond marw mewn pogoniant a than fynd i Fyny ddarfu'n Tom ni." Bendith ar ei fam oedrannus pe cawsem ragor o'i thebyg hi, cawsem ragor o'i debyg yntau ac wrth droi adref oddiar riniog Cuneglas, geiriau Gabriel wrth fam arall a neidiai i'm cof :— I HenfEych well, yr hon a gefaist ras yr Arglwydd sydd gyda thi bendigaid wyt ymhlith gwragedd." Ie, y Bala, ar lawer cyfrif, yw Parlwr Cymru ac wrth gerdded ol a blaen o gyfar- fodydd Capel Tegid, hanner credwn fy mod yn clywed swn Ebenezer Morris neu John Elias yn pregethu ar y Green swn y dyrfa ugain mil yn gweiddi Diolch Iddo a SWll yr Angylion yn canu yn yr awyr wrth ddod i nol un o'r saint oedrannus adref. Erbyn mynd i'r oedfa bore Sul, pwy a bre- gethai vno end Rd. Williams, M.A., prifathro Ysgol Sir y Bala, mab yr Hybarch Griffith Williams, Talsarnau, a minnau heb gael eyfle i siarad gair ag o ers deugain mlynedd a mwy. A dyma fil atgofion am ei dad gwreiddiol yn dod i fyny o seler ddofn y sub-consciousness yma. Yn yr Ysgol y prynhawn, gwelwn ddosbarth o wyr barflaes a phatriarchaidd iawn yr olwg, ac meddwn wrthyf fy hun Dyma fi ar gael awr o'r diwedd a divines y Bala, y chwenychais ei chael ers cyd" i ond a'm helpo yr oedd rhyw athro'n absen- nol o'i ddosbarth, a dyma'r arolygwr i'm nol, ac a euthum—do, ond gerfydd y glust a dweyd y gwir canys yn y gongl gyda'r divines barfog a'r Ail Corinthiaid y car- I aswn fod. Wrth basio'r Green. Bum yn sbio ar hen dy" Thos. Charles caraswn gael picio i weld beddau'r enwogion yn Llanycil; caraswn gael son hefyd am Michael Jones a Lewis Edwards ac eraill o fawrion y fro, ond nid oes mo'r lie na'r amser. Ar y ffordd i'r orsaf gwelwn dafarn yma a thafarn acw, ac a deimlwn rywfodd fod pethau felly'n hyllach ar heolydd Jerusalem Cymru nag yn unman arall, ac mor atcas a gweld dolur crawnllyd ar ruddiau^geneth landeg. Ac wrth i'r tren chwyrnellu heibio lie y byddai Green y Bala, fe gofiwn ddychym- yg tlws Richard Owen y Diwygiwr Duw'n mynd ati i wneud Plan y Cread yn llamu hyd y Gwawl Glas i osod yr haul a'r planedau yn eu lie yna'n troi at yr engyl ac yn dywedyd Fan yma y mae'r Ddaear i fod fan yma (gan ddodi Ei fys Dwyfol ar y spot) y mae Calfaria i fod a'r fan yma (gan symud dipyn bach ar ei fys), y mae Green y Bala i fod." Y mae'r Green o'r golwg brcn ond y Gwr a bregethwyd mor ddiail oddiarni yn y gplwg o hyd, na digon o fwg yn holl cannons y Cyfandir i'w guddio Fo. [Yr oedd Mrs. Ceiriog Hughes, gweddw'n Prifardd Telyn, gyda'i phriod yn nefod ddwys cadeirio ysbryd Taliesin o Eifion yn Eisteddfod Gwrecsam 1876, ysoniemam dani'r wythnos ddiweddaf; ac yn y llythyr a gawsom oddi- wrthi heddyw. y mae swn och a hiraeth am yr holl gyfoedion cofadwy sy bellach dan y dywarchen. ] Llygad y Wawr. --0- J.H.J. I
Igam Ogam.II
Igam Ogam. I Y Beirniad a'r Bodleian. CAFODD Mri. Hugh Evans a'i Feibion air ddydd lau diweddaf oddiwrth Lyfrgellydd y Bodleian, Rhydychen, yn dweyd iddo dder- byn llythyr oddiwrth Syr John Rhys, y diwrnod cyn ei farw, yn dymuno arno drefnu cael Y Beirniad i'r llyfgrell a'i gadw'n ofalus. Cynhwysai llythyr y llyfrgellydd (Mr. H. H. E. Craster) !archeb amdano o hyn ymlaen cystal ag am yr holl ol-rifynnau o'r dechreu. Da gweled cylchgrawn Cvmraeg yn cael ei wahodd i fewn i lyfrgell mor ucheldras a hawdd y gall anturio mynd, canys ni raid iddo wrido na gwladeiddio yng ngwydd y goreu o gylch- gronau Prydain na'r Cyfandir. Chwydd llwyddiant- Pair son am Syr John Rhys ini gofio'r sylw a ganlyn sydd yn ei Celtic Britain, ac a ddaw i'n cof bob tro y clywom broffwydo mai^Saes- neg fydd iaith y byd i gyd toe Skulls are harder than consonants, and races lurk when languages slink away. The lineal descendants of the neolithic "aborigines are ever among us, possibly even those of a still earlier race. On the other hand, we can imagine the Kynesian impatiently hearing out the last echoes of palaeolithic speech we can guess dimly how the Goidel gradually silenced the Kynesian we can detect the former coming slowly round to the key-note of the Brython and, lastly, we know how the Englishman is engaged, linguistically speaking, in drowning the voice of both of them in our own day. Such, to take another metaphor, are some of the lines one would have to draw in the somewhat confused picture we have suggested of one wave of speech chasing another and forcing it to dash itself into oblivion on the western confines of the Aryan world and that we should fondly dream English likely to be the last, comes only from our being unable to see into a distant futusS pregnant with untold changes of no le grave a nature than have taken place in the dreary wastes of the past." Cael y byd dan ei bawd. I Yn debyg i ddiwedd y dyfyniad uchod y teimla ac y cred pob cenedl pan fo hi ar ei huchelfannau dyna hanes Groeg a Rhufain a Sbaen a phob teyrnas a feddvliodd ei bod hi wedi ei harfaethu i drechu pawb a chadw'r byd dan ei bawd. Ond y mae gan yr Arglwydd ei farn ei Hun ar y pwnc hwnnw, megis ar bob pwnc arall ac nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ebe Fo wrth Brwsiaid y byd. Ei drefn 0 ydyw rhoddi rhyw athrylith i bob cenedl, a rhoddi cyfle iddi hefyd, yn ei thro, i'w ddangos i'r gweddill ac wedi iddi hi wneud hynny, yna'i symud o'r neilltu a'i chlosio i'w chongl er mwyu i'r Hall gael cyfle i godi ar ei thraed a dweyd ei neges. Ac wedi i honno wneud hynny, a bwrw'i hatling i drysorfa Hanes hir yr Oesoedd, yna fe eistedd hithau i lawr yn ei set. Ond am y genedl a dybio'i bod hi a'i hiaith wedi dod yma i aros a bod yn ben byth,a'i helpo chwydd brasder ei bochau sydd wedi cau ei llygaid a dyna sydyn fydd ei siom pan eifl yr Arglwydd yn ei gwegil ac a'i gesyd mor hawdd a di-dwrw yn ei set byth i godi mwy. Peidied neb o'r Cenhedloedd-Plydaín mwy na Phrwsia- chlegar yn rhy fuün fod yn rhaid i'r byd na'i Wneuthurwr wrthynt hwy na neb arall. Y chwi a'cb mwynhau f Gan fod gair fel hwn yn disgyn ar glybod dyn beunydd a byth wrth ddychwelyd adref o'r cyfarfdoydd pregethu, Wyddoch chi be, mi 'roedd o'n dda, ac mi ddaru mi'i fwynhau o byddai'n eithaf peth codi'r pwt a ganlya o Ddraig Goch ynte'r Faner Goch W. F. Phillips Ceir digon o ddynion i wrando ar bra- gethu, ac i gyfrannu at yr achos ond anamlach o lawer ydyw y gweithwyr. Byddaf yn darllen ein wythnosolyn enwadol, a weithiau deuaf ar draws adroddiad o gwrdd pregethu a'r frawddeg hon yn dilyn Yr oedd y saint yn teimlo eu bod yn cael arlwy wrth eu bodd,' fel pe bai y sant wedi bod yn eistedd wrth ford yn llwythog o ddanteithion, ac ar ol cael ei wala a'i weddill, yn gorwedd yn ol yn eigadair freichiauacyn jcroesi ei ddwylo "ac yn mynd i gysgu gan ddywedyd Myfi a gefais ddigon.' Gwell o lawer fyddai elywed fod y saint yn teimlo wrth eu bodd am fod eraill yn mwynhau yr un arlwy." Yr haul mor braf ond y trydan mor beryglus. Myn rhai fod "mwynhau pregeth yn air gwrthun ac anghydnaws, yn sarhad ar Gen- adwri'r Cymod a'r Glanhau, ac yn arwydd o ddiffyg dyfnder a difrifwch yn y gwrandawr. Ni choelia i fawr Canys y mae'r Genadwri a ninnau'n gweddu'n gilydd mor berffaith nes fod pob teimlad da yn cael ei ddeffro ynom, boed drist boed lawen. Rliagrith noeth fydd- ai i neb ohoaom gymryd arno na fwynhaodd un o Hoelion Wyth y Goruchaf pan fo'r Ys- bryd wedi ei tharo y drwg sy, fod pawb ohonom mor chwannog i fwynhau heb ufuddhau. Y mae un mor hawdd a 'r llall mor anodd. Ond rhaid gwneud, onite bydd y gwres a. fwynhasom dan belydrau mwynion Haul y Cyfiawnder yn troi'n drydan ac yn dod atom maes o law ar hyd live wire y Farn A phwy a ddichon ddal ? Gwyliwch chwi wres pan dry'n drydan. -9- Gogtais algwanu. Ü) Gan fy mod wedi gafael yn y bellen bregethu yma, 'does dim i'w wneud bellach ond ei dirwyn i'r pen gydag adrodd un o sylwadau'r diweddar Tomos Jones, "Ffilosoffar Melin y Wig." chwedl ninnau amdano yn Lerpwl yma ers talm. Yn debyg mai rhywun ohonom oedd wedi gofyn ei farn am gyrddau pregethu ac odfeuon dwbl. Nid wyf yn coflo dim ond darn o'i atebiad, a rhaid imi ychwanegu pwt. ato er mwyn llenwi tyllau'r co' candryll yma Hoff gan fochyn gael coai'i glust; ac a ddeil faint fynnoch o'r oruchwyliaeth hyfryd honno, os bydd o'n goswr go addfwyn ac ysgafn ond dechreued o wthio'i sgrafell i'w groen a dechreu cribo a gwanu hyd at waed, ac ni welsoch chwi erioed mor fuan y rhoch a ddyry Brenin y Baw wrth red eg i'w gut o olwg a gafael y Gwir." Dywedodd un o frenhinoedd Ffrainc wrth un o gryfion pulpud y wlad honno—Bossuet neu Fenelon ynteu pwy ?-mai "Goglais fy nheimlad allwfr-grwcydui'm .C hurddas a wna'r lleill a ddaw i bregethu i "Gapel y Brenin, ond cribo'n cydwybod fel "pechaduriaid a wnewch chwi," gan sbio i fyw llygad yr efengylydd, a dangos fel yr oedd yn mawrhau ei onestrwydd wrth beidio a gwenieithio na phlygu i ddim ond y Gwir.
Advertising
LLYFRAl CYMRAEG. BBIBLAU. TESTAMENTAU LLYPRAU HYMNAU A THONAU. OANEUON. Telir sylw prydlon i areliebion gyda'r post Hugh Evans a'i Feibion, SWYDDFA'R "BRYTHON," 358 STANLEY ROAD LIVERPOOL O'R MWG I'R MYNYDD Llithoedd Gol-y Brython Oddicartref M 0 LUNIAU ENWOGION CYMRU t \o(Í, :¿s, o. o'r Swyddfa hon a ohaa bob Liyfrqrerthwyr I W. & J. VENMORE, Estate Agents & Valuers 200 SCOTLAND RO., Liverpool ffmuricoro )10. 4216 Royml (S lines). ALLAN Royal LINE To CANADA. LIVERPOOL, GLASGOW, LONDON &HAVN TO CANADA, NEWFOUNDLAND & UJSA. AIILAN'S, 19 James St., Liverpool; 14Cookspor St., S.W., and 103 Leadenhall St.. London,B.b. 0. W. OUGHES,0- & L.T.S.C (AruMnpdi y Guam PI Mghap$i M.C. PrkmB"dP Arweinydd Cymanfaoedd Canu, Beirniad, ac Arholwr. Parotoir Ymgeixwyr at Dystysgrifau utmho Celeg y Solla, Hen Nodiant a soltim. 70 KINGSLET ROAD LERP^ 1. Lloyd Jones, & Co., ESTATE AGENTS, &e. Ó Lord Street, Liverpool rMJuarmowM On BANK, Moses: Or Cawell 1r Mor Coch. Drama at wasanaeth Qobeithluoedd Chylarfodydd y Bobl leualnc Gan PEDR HIR. PRIS: GROT. MAB y ddrama uchod wedi ei pher. fformio dro ar ol tro yn ysgoldai Capeli Cymraeg Lerpwl, ac mewn llawer man yng Nghymru, ac yn para i ennill ffafr. MOSES BACH: Drama at wasanaeth GobeithluoedaL Maefhon ya gymwys i blant uuengaehH na'r ddrama uchod. Pria I Dwy; Geiniog* Cyhoeddedig gan HUGH EVANSIA'I" FEIBION$ PWI BIHB GIBRID ? DRAMA DDIGBIF OAN DDEWI MAI 0 fEIRION, Blaenau Ffeatiniog. Pris Naw Ceiniog. HUGH BV ANS & SONS, Stanley Road Liverpool YN AWR YN BAROD. Ulain OlundlI DRAMA GA-N PEDR HIR. cPRIS Is. DRWY'R POST la. Ig.1 I'w gael oddiwrth yr Awdur, 21 Wadham Rd., Bootlo Yn awr yn barod. ARGRAFFIAD NEWYDD A HELAETH EDIG. It lallD Gymraeg: El IiORORAFF All CHYSTRAWEN. Gan y Parch. D. Tecwyn Evans, B.4 Ar werth gan yr holl LyfrwerthW)7 PRIS 1/6. Nis gellir ei gael oddiwrth yr Awdvr& Lie nad 088 Llyfrwerthwyr anfoner at y Cyhoeddwyr- HUGH EVANS & SONS, [ Swyddfa'r "Brython," Lerpwl,