Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

Trem l-Cenedlgarwch, .ond…

News
Cite
Share

Trem l-Cenedlgarwch, ond nid culni. Er na feddwn dd im newydd i'w yehwanegu at Gynllun y Cadfridog Owen Thomas a'r sylw- adau a ymddangosodd arno eisoes yn Y BRY- THON, ynglyn a'r Fyddin Gymreig, teimlwn fod y mater yn deilwng o'i gadw mewn cof, a'i wasgu at ystyriaeth y Cymry'n gyffredinol, yn enwedig y rhai sy'n awr ar ymrestru. Mae'r Cynllun yn hollol wladgar a rhesymol a theg, ac er yn darbod yn arbennig ar gyfer Cymru, eto'n gwbl gyson a thegwch at genhedloedd era ill sydd yn yr un rhyfel mawr a hwythau. Gorwedd yn deg ar yr egwyddor o genedlgar- weh a dosbarthiad llafur. Ac mae eisiau gofalu am yr egwyddor a'r ysbryd sy'n clymu yr holl genhedloedd yn un frawdoliaeth filwrol gyfan a grymns, ac na chaffo dim hunanol fwlch i fynd i fewn i'r cylch. Gwyddom fod hynny'n bosibl, ie, wedi digwydd. Buom yn ymweled ag ysbyty milwrol yn Iled ddiweddar. a gwelsom enghraifft o annoethineb yn y cyfeiriad hwn. Ceid boneddiges o genedl neilltuol yn ymweled a'r ysbyty hwnnw'n- gyson, yn cyfrannu rhoddion i rai o'i chenedl ei hun, ac yn eu cymryd allan mewn car mod- ur. Nid yn beio ei chymwvnas yr ydym yn gypiaint a'i dull o'i gwneuthur. Holai'n fanwl am rai o'i chenedl, a'r neb nad ydoedd o'r genedl honno dangosai ddiystyrweh ohonynt a barai iddynt ei deimlo—teimlo fel petai rhewwynt yn chwythu ar eu calon. Yr oedd y car modur, o dro i dro, i glwyfedigion o'i chenedl hi. Modd bynnag, un tro, di- gwyddodd fod lie i un yn ychwaneg nag oedd ganddi o'r cap ffafredig, ac yn ei graslonrwydd gofynnodd i un o genedl arall i gymryd y He hwnnw. Ebe yntau wrthi, Certainly not," ac aeth yn ei flaen a chamre milwr ac anni- byniaeth dyn. Wedi gweld a theimlo cuIni ysbryd yr etholedigaeth cyhyd yr oedd y dyn, a daliodd yntau fin ei urddas i wyneb ffafr anhymig. Ac, fel y crybwyllasom, gwelsom ninnau gerbyd yr etholedigion yn cychwyn o'r ysbyty, a bechgyn o genhedloedd eraill yn edrych ar ei ol yn mynd. Ebe milwr elwyf- edig wrthym, mewn iaith arall :— Nid ydym yn gwarafun dim i'n cyfeillion teilyngant yr oil a gant ond yr ydym yn teimlo oddiwrth y modd y mae'r foneddiges hon yn gwneuthur gwahaniaeth rhyngom. Yr oeddym yn y ffosydd yn un, a'r gwa- hanol gatrodau yn ymladd yn erbyn yr un gelyn. Ond wedi inni ddod yma, fe wneir gwahaniaeth pendant rhyngom. Fe wneir fiafr mor amlwg a rhai fel nas gall eraill lai na theimlo. Dynol ydym ar y goreu, ac nid I allwn beidio a theimlo'n diystyru mewn ysbyty fel hyn." Ac ychwanegodd fod y fath ymddygiad yn i anghymeradwy yng ngolwg y rhai a weinydd- ent ar glwyfedigion rhyfel yn yr ysbyty hwnnw. Ni allem lai na chydymdeimlo a chwyn y dynion ieuainc hynny, ac nid rhyfedd !:fIJ;.m (f (}f¡T\J;d 3 ds K|.f.j t m aidc-ii cwyn i'r awdurdodau yn erbyn caredigrwydd a wneid mewli dull aimoetjh, ac, yn wir, mewn ysbryd hunanol. Cajnmoleitt rai a ymwelai a'r ysbyty i weld cyfeillion, a rhai o'u cenedl eu hunam, oherwydd y modd y gwnaent hynny os na feddent ddim araU i'w roi i estron fyddai gerllaw, rhoddent eu gair caredig a'u cydymdeimlad. Ac nid gwlanenni o ddynion moethus a llwfr a welsom ni dan eu clwyfau, eithr gwroniaid, yn teimlo'u hurddas dynol. Chwarae teg iddynt t

frem If—8yddin Gympeig. I

Trem lit-Pan ddeuant yn ol.

Clep y Clawdd, .sef Clawdd…

I Basgedaid o'r Wlad.

Advertising