Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
Tnt LIVERPOOL J9 mallllW OLD POST OFFICE PLAaE (orr cmurom street) LARGEST S-EL.ECTICN -UWEST PRICES Telephone 307S Royal. ( jf Over 20,000 Persons' jam; (Twenty Thousand) l\ If ARt WEARtftG AND REGOmMENDMG |I1] If FRANCIS & HOLLAND'S ) II SPECTACLES. I In fitting them successfully we hava proved that mj "WE CAN FIT YOU. Jy FRANCIS a HOLLAND, Jw SIGHT TESTING.OPTICIANS AFRICAN HOUSE, 6 WATER STREET, LIVERPOOL (clo,ie to the Town Hall)
Trem l-Cenedlgarwch, .ond…
Trem l-Cenedlgarwch, ond nid culni. Er na feddwn dd im newydd i'w yehwanegu at Gynllun y Cadfridog Owen Thomas a'r sylw- adau a ymddangosodd arno eisoes yn Y BRY- THON, ynglyn a'r Fyddin Gymreig, teimlwn fod y mater yn deilwng o'i gadw mewn cof, a'i wasgu at ystyriaeth y Cymry'n gyffredinol, yn enwedig y rhai sy'n awr ar ymrestru. Mae'r Cynllun yn hollol wladgar a rhesymol a theg, ac er yn darbod yn arbennig ar gyfer Cymru, eto'n gwbl gyson a thegwch at genhedloedd era ill sydd yn yr un rhyfel mawr a hwythau. Gorwedd yn deg ar yr egwyddor o genedlgar- weh a dosbarthiad llafur. Ac mae eisiau gofalu am yr egwyddor a'r ysbryd sy'n clymu yr holl genhedloedd yn un frawdoliaeth filwrol gyfan a grymns, ac na chaffo dim hunanol fwlch i fynd i fewn i'r cylch. Gwyddom fod hynny'n bosibl, ie, wedi digwydd. Buom yn ymweled ag ysbyty milwrol yn Iled ddiweddar. a gwelsom enghraifft o annoethineb yn y cyfeiriad hwn. Ceid boneddiges o genedl neilltuol yn ymweled a'r ysbyty hwnnw'n- gyson, yn cyfrannu rhoddion i rai o'i chenedl ei hun, ac yn eu cymryd allan mewn car mod- ur. Nid yn beio ei chymwvnas yr ydym yn gypiaint a'i dull o'i gwneuthur. Holai'n fanwl am rai o'i chenedl, a'r neb nad ydoedd o'r genedl honno dangosai ddiystyrweh ohonynt a barai iddynt ei deimlo—teimlo fel petai rhewwynt yn chwythu ar eu calon. Yr oedd y car modur, o dro i dro, i glwyfedigion o'i chenedl hi. Modd bynnag, un tro, di- gwyddodd fod lie i un yn ychwaneg nag oedd ganddi o'r cap ffafredig, ac yn ei graslonrwydd gofynnodd i un o genedl arall i gymryd y He hwnnw. Ebe yntau wrthi, Certainly not," ac aeth yn ei flaen a chamre milwr ac anni- byniaeth dyn. Wedi gweld a theimlo cuIni ysbryd yr etholedigaeth cyhyd yr oedd y dyn, a daliodd yntau fin ei urddas i wyneb ffafr anhymig. Ac, fel y crybwyllasom, gwelsom ninnau gerbyd yr etholedigion yn cychwyn o'r ysbyty, a bechgyn o genhedloedd eraill yn edrych ar ei ol yn mynd. Ebe milwr elwyf- edig wrthym, mewn iaith arall :— Nid ydym yn gwarafun dim i'n cyfeillion teilyngant yr oil a gant ond yr ydym yn teimlo oddiwrth y modd y mae'r foneddiges hon yn gwneuthur gwahaniaeth rhyngom. Yr oeddym yn y ffosydd yn un, a'r gwa- hanol gatrodau yn ymladd yn erbyn yr un gelyn. Ond wedi inni ddod yma, fe wneir gwahaniaeth pendant rhyngom. Fe wneir fiafr mor amlwg a rhai fel nas gall eraill lai na theimlo. Dynol ydym ar y goreu, ac nid I allwn beidio a theimlo'n diystyru mewn ysbyty fel hyn." Ac ychwanegodd fod y fath ymddygiad yn i anghymeradwy yng ngolwg y rhai a weinydd- ent ar glwyfedigion rhyfel yn yr ysbyty hwnnw. Ni allem lai na chydymdeimlo a chwyn y dynion ieuainc hynny, ac nid rhyfedd !:fIJ;.m (f (}f¡T\J;d 3 ds K|.f.j t m aidc-ii cwyn i'r awdurdodau yn erbyn caredigrwydd a wneid mewli dull aimoetjh, ac, yn wir, mewn ysbryd hunanol. Cajnmoleitt rai a ymwelai a'r ysbyty i weld cyfeillion, a rhai o'u cenedl eu hunam, oherwydd y modd y gwnaent hynny os na feddent ddim araU i'w roi i estron fyddai gerllaw, rhoddent eu gair caredig a'u cydymdeimlad. Ac nid gwlanenni o ddynion moethus a llwfr a welsom ni dan eu clwyfau, eithr gwroniaid, yn teimlo'u hurddas dynol. Chwarae teg iddynt t
frem If—8yddin Gympeig. I
frem If—8yddin Gympeig. I Ond nid oes dim culiii, liuiiaiiel., dim yn tueddu i ysgaru cydymdeimlad eyffrediinol gwa-hanol gpnhedloedd a'i gilydd, na dim i awgrymu sarhad ar eraiil wrth ddarpar ar. gyfer y Cymry, yng Nghynllun y Cadfridog Thomas. Credwn y cyditebydd pawb fod yr amcan sydd i'r Cynllun yn haeddu cvmerad- wyaeth, canys golyga grynhoi ynghyd ddi- ddordeb, egnion, a buddiannau'r milwyr Cymreig yn y rhyfel, a darpar ar eu cyfer wedi'r elo'r rhyfel heibio. Y gresyn yw na osodesid Cynllun o'r fath mewn grym o'r dechreu. Ond prin y gellid disgwyl. hynny, canys daeth y rhyfel arnom yn rhy sydyn, a rhaid oedd bwrw'r milwyrat ei gilydd goyeu y gellid, ac yn y ffordd hwylusaf. Ac nid y Cymry'rt unig in tati anfantais tnwv hynny, eithr mae'r hon genhedloedd, i fesur, wedii ymgymysgu, yma a thraw, a'i gilydd ae mae yn y catrodau Cymreig gytortaledd Ued helaeth o genhedloedd eraill. Ond rhaid cofio fod Cynllun y Cadfridog Thomas,, fel y deellwi) ni ef, yn eyiniwys Cymru, ac nid yn unig y Cymry, gan nad o ba genedl y bo'r railwyF- Cyd-deithiem y dydd 0'11 blaen a Scotyn liathr- aidd ei wedd,. yr hwn a ddywedai ei fod yn aelod o'r London Welsh." Eto, mae corff mawr y catrodau Cymreig yn Gymryr o waed ac aniaii. Fel y sylwasom yr wythnos ddi- weddaf, mantais fawr i genedl fel y ni fyddai awyrgylch cydnaws- a'n iCenedlaetholtleh. Prin y geliir disgwyl hynny'n agos i gyflawn i filwyr Cymreig heddyw. Ni feddem, ac ni feddwn eto, ddigon o swyddogion o'n. eenedl ein hunain i beri hynny, er fod peth&u'n gwella wrfh fynd ymlaen. Mae swyddogion. milwrol Cymreig yn tyfu, a goreu po gyntaf y ceir ychwaneg ohonynt. Credwn focl, y Cadfridog Thomas a'i lygad ar hyn. ac na îydd efe, beth bynnag, yn fyr o wneuthur ei oreu i gryfhau'r elfen Gymreig ymysg y swyddogion. I'n bryd ni, nid dibwys yw cael dyn ion mewn awdur- dod filwrol fo mewn cydymdeimlad. a dyhead- au ac arferion crefyddol y milwyr. Da fuasai cael mwy o hyn mewn rhai swyddogion, a mwy o gydnabod nad Egfwys Loegr yw'r unig sect grefyddol yng Nghymru. Cas gennym son am sectyddiaeth tan yr amgvleh- iadau, ond rhaid inni wneuthur hynny, canys y mae o bwys i'r pwnc. Dangoswyd yn bur gynnar a phendant ymgais i Eglwyseiddio'r j milwyr Ymneilltuol Cymreig. Gwelsom Gymro ieuanc mewn ysbyty, yrhwnafua'sai mewn gwersyll yng Ngogledd Cymru am fisoedd, ond na chlywsai bregeth Gymraeg o gwbl, er fod capel Ymneilltuol Cymreig yn agos iawn ato. Ni fynnem sgrifennu'n gryf- ach na'r ffeithiau, ond argyhoeddwyd ri fod y I dylanwad swyddogol yn rhy bendant yn erbyn y capel Ymneilltuol a Chymreig yn y fan honno. A He bo person gorthrymus, gall fod yn waeth hyd yn oed na deddf gaeth gyda dyn mawrfrydig i'w gweinyddu. Beth byn- nag, pwysig yw gofalu am grefydd y Cymro, ac am ei ryddid i addoli yn eiffordd arferol. Y ffordd debycaf i sicrhau hyn oll yw trwy Gvmreigeiddio cymaint ellir ar y Fyddin, a'r ffordd i sicrhau hynny yw trwy i'r Cymry ymuuo a'i gilydd hyd y geliir, a chael cynifer ag sydd bosibl o'r swyddogaeth allan o blith eu rhengau hwy. Mae'r lie a roddir yng Nghynllun y Cadfridog i'r pwysigrwydd o ofalu am foes a chrefydd y milwyr yn rhwym o ennill pen a chalon pob Cymro ystyriol ar unwaith. Gwneir llawer eisoes, mae'n wir, ond ni ellir gwneuthur gormod yn ffafr yr arncan hwn. Wedi'r cwbl, y peth pwysicaf oil i'n dynion ieuainc, fel i bawb, yw eu cymeriad a'u hysbryd. I sicrhau i Gymru y priod glod a berthyn i'w meibion dewr, yr effeithiolrwvdd mwyaf i'w hegnjon, a'r amddiffyn a'r meithriniad goreu i'w moes a'u crefydd, credwn mai doeth fyddai iddynt ymrestru Iwyred ag y gellir i'r Fyddin Gym- reig-Catrodau fel y Welsh Guards, Welsh Regiment, Royal Welsh Fusiliers, South Wales Borderers, Royal Engineers Mon, Royal Garrison Artillery Arfon, Welsh Horse, a Yeomanry y gwahanol Siroedd.
Trem lit-Pan ddeuant yn ol.
Trem lit-Pan ddeuant yn ol. Gadawsom un pwynt arbennig heb ymhel- aethu ariio,-vr amcaii. sydd yng Nghynllun y Cadfridog Thomas i ddarpar ar gyfer y mihvvr a arbedir i ddychwelyd adref o'r rhyfel. Yn sicr, ni allasai ond calon ddyngar esgor ar y syniad hwn. Edrychir ymlaen at yr adeg pan fydd y rhyfel drosodd, a'r milwyr dych- weledig yn ceisio'u lleoedd eilwaith i ymiadd brwydr bywyd. Bydd llawer wedi eu han- allnogi am eu hoes i unrhyw lafur cyffredin- Geliir disgwyl y darbodir iddynt gyfran o bejisiwn gan y Llywodraeth, ac na adewir hwynt megis ar ol y rhyfeloedd gynt, ar dru- garedd y cyhoedd, ac yn gardotwyr. Credwn y eyfrifir wedi'r rhyfel hwn mai nid anffod, ond arwriaeth, fydd milwr clwyfedig. Ond ni fydd y ddarpariaeth gan y Llywodraeth, ar y goreu, ond prin. Ceir ymysg ein milwyr heddyw ddynion ieuainc o bob safle gym- deithasol. Nage, yn sicr, nid rhyfel dosbarth yw hwn. o ran y milwyr yn ei ffosydd. Llousog y dynion a aberthodd safleoedd a swyddi a chrefftau enillfawr ar allor gwlad- garwch a dynoliaeth. Bydd llawer ohonynt, wedi y dychwelont i'w cartrefi a'u brovdd, yn parhau yn It," ebyrth byw am weddill eu hoes. Nid dymunol meddwl am y golyg- feydd a raid ddigwydd-eisoes wedi dechreu, o ran hynny. Yn awr, mynnai'r Cadfridog Thomas i Gymru feddwl yn ddifrifol am y mater hwn, a ffurfio trysorfa genedlaethol. Nid yw awr yn rhy gynnar i gychwyn ar y i xnuaiaa renwug ac angenrneidiol. tiwir fod J ar hyn o bryd alwadau lluosog a pharhaus am gymorth ariannot o bob math yngljrn a'r rhyfel, ac mai anniehon i lawer gwrdd a phob galw. Gorfodir yr haelaf ei galon i dde-thol ei iiyrdd o haelioni. Ond yng nghanol pob gaJwadau, nid yw'r Cynllun tan sylw yn ail i'r un o ran pwysigrwydd. Geliir bod yn bur sicr y bydd y ddarpariaeth ar gyfer lluaws mawr o'r milwyr, wedi y delont yn o2, yn llawer prinnach oddiwrth y Wladwriaeth nag ydyw yn awr. Ni ellir disgwyl cymaiht pensiwn mewn heddwch ag o dal mewn rhyfel. Ond hydd raid i'r milwr elwyfedig a'i deuib I fyw wedi hynny. Ar bob cyfrif, dylid cofio\ apel hwn yn awr. A phwysig ynglyn a'r fath fudiad yw sicrhau trefn. Nid oes dim sicrach na darfod i lawer o haelioni ynglyn a'r milwyr I golli ei werth posibl oherwydd diffyg cyfun- drefn a ebyd-ddeall cyffredinol. Disgynnai'r- rhoddion yn dew mewn rhai mannau, yn deneu mewn mannau eraill. Ond mae'r Cadfridog wedi meddwl ei: Gynllun yn drwv- adl, a'i gyfundrefnu'n ddeheig. Da y gwnaed ifw wahodd gan rai Cynghorau Sir i, egluro'i Gynllun, a gobeithib y caitT weinidog- aeth gylchdeithiol i'r un penvyl trwy Gymru I i gyd. YnwÍr,gwelwnfodG'Went a Morgan- nwg eisoes wedi clywed clyeh y SirOBdd, ac am gyrchu i gynhadledd fawr ynglyn a'r mudiad, vng Nghaardydd, cyn diwedd y mis hwn. Diau gennym na fydd Gogledd Cymru'n ol i'r- i Deheubarth yn hyn o beth- Credwn yr enfyn | seinfwrdd" yr Armagedon fawr apel y Cad- | fridog Thomas yn ddwfn i galon cenedl y I fydd inni leddwl eroesawu'n I dynion dswr yn ol trwy ysgafn ganu fVhen Jbhnny comes mamhing home again, Hwrah hurrah I al)erth,i erom yr aethant hwy allan, ac ag ebyrth erddynt y dylentt gael cro«so adref. -0
Clep y Clawdd, .sef Clawdd…
Clep y Clawdd, sef Clawdd Offa. [GAN YR HUTYN. J Claim- Fb Glusi.—Dywed y glep i; A.S. Ehvy reinbarth Dinhych ffi?>i o'r Brifddinas y dydd o'r blaen i ddweyd helynt blin y Senedd yng nghlust y Cyfrin yn nhref Gwrecsam. Trist i'r glust oedd ei draeth, ond da hy bu'r gwir. Ehedad eto a thipyn o'r tufewn yn ei big. Canu nid Ceidwad.Sisir i Seion (M.C..); Gwreesai.-xi, dorri tir newydd Sul y Nadelig t.rwy ro:"1' Gan yn lle'r Gair; eto pawb oedd viio yn mwynhau. Ond, nac anghofter yr Hanes, sef er i'r engyl ganu, pre. gethu wnaetb yr angel. Rhaid cael pregeth a tthân. "Steddfod y Plant.- -M oedd hon hefyd, ond d igon o le i newydd-deb yma. Y Gader-wr oedd y Double double U, double L (W.W.LI.), a. chloriann wyd gan wyr da eu medr. Ow Otv !-Gwrthyd y Parch. Venmore Williams alwact daer y Ponciau (M.C.). Hen dro Daeth gyda'i wraig i ddweyd mai N-o-rrioro Williams fyddai ei enw wedi hyn. Treiwch once-more eto, chwi Bonciaid glew.- Pla y Llwnc.—Mae llawer o ymyfed ar y goror Loes yw dweyd y gwelir ami i filwr ym mol y clawdd." Gwir fod llai o yfed nag a fu, ond mae llawer yn yfed mwy nag a fuont. Twyll yw maneg wen ar law goch. Cadw mi gei.-Bechgyn free yw hogia'r Rhos. Deall eglwys Mynydd Seion hyuny. Cychwynasant Gymdeithas Cadw mi gei." Mawr fu'r Ilwydd hanner mil o bunnau mewn blwvddyn fer. Cred y Rhos nid mewn Silver Bullets ond mewn Golden Bullets. Well done, y Rbosiaid i Lloyd George a nhw i dclarpirghellg i'w rhoi yng ngwddf v Kaiser. Wilhelm. Owyn Coll.-—■" Y Tri Wyr Hyn" oedd testyn pregeth-goffa y Parch. Ward Williams i William Jones, A.S., Evan Jones, a Syr John Rhys. Pam na fuasai'r gwr da yn darlithio ar y testyn, ac yntau yn gampwr yn y grefft ? Pe gwnai, cai alwadau lu. Y Garol.—Mawr y caroli sydd wedi bod o amgylch y Clawdd eleni, er gwaethaf y rhyfel. Swynodd parti o'r Rhos £ 8 o'r logell lom, a pharti o Broughton £ 20. Mae digon o arian yn y wlad, ond rhaid canu cyn eu cael. Y Ddrama.— Bu Coedpoeth a'r Rhos yn dramodi yn ystod y Gwyliau, gyda llwyddiant mawr. Pobl Llandderwydd gal) y blaenai, a'r Sylvan Queen gan yr olaf. [Daliwch ati'r IJutyn pert.Y GoL- L --0-
I Basgedaid o'r Wlad.
I Basgedaid o'r Wlad. LLANGYBI.—Mr. Golygydd, Gyda'ch caniatad, manteisiaf ar Y Brython i fynegi ffalltli ddiddorol ynglyn a Chapel Helyg. Gwyr Ilu o'r darllenwyr mai y Parch. Thomas Williams sy'n gweinidogaethn yno'n bres- ennol. Ganed a maged ef yn Llanelli ac wedi dilyn y cwrs arferol mewn diwinyddiaeth yng Ngholeg y Bala, cafodd alwad i'r lie uchod yn 1880, fel dilynydd i'r diweddar Hybarch D. Jones, Brynllefrith. Felly mae ein cyfaill yn wynebu ei 36 mlynedd yn y lie, ac yn sicr hawlia'r ffaith ynddi ei hun sylw a chydnabyddiaeth o barch. Heblaw bod yn y cylch am gymaint o amser, :ni fu yn segur na diffnvyth. Gwasanaethodd ei braidd, eiardal ei en wad a'i Dduw gyda phob cydwybod dda. Enillodd safle fel dyn a Jdinesydd a meithriniodd ddylanwad iach. Bydd Anni- byniaeth, Ymneilltuaeth a Chrefydd Eifion- ydd yn gyfoethocach byth o'i blegid. Bu iddo ef a'i briod annwyl dri mab ac un ferch, yr hon, er mawr ofid iddynt, a roed mewn bedd cynnar. Mae un o 'u ineibion yn Canada a 'r ddau arall yn Lloegr felly cant hwy gyfie ar adegau i ymweled a'u hen gartref. Llawen gennym ddeall am eu llwyddiant, ond balch- ach ydym o'u bywyd naturiol a da, a ddwg anrhydedd i'w rhieni. Efallai mai ychydig. os neb, o gydfyfyrwyr Mr. Williams sy'n aros, ond mae iddo lu o geraint a chydnabod, ac unant i'w longyfarch ar ben cyfnod mor fawr o wasanaeth, a gweddiant am i'r Arglwydd ei gadw eto am lawer iawn o flyiiyddoedd. Morgan Price. O'r Hen Sir. sef Sir Fon. I YN Ysgol Sul capel Bethesda (M.C.), Amlwch, gwelwvd Mr. Robert Williams, Brynteg, sy'n athro deallus, ac un ar hugain o fechgyn yn ei ddosbaith, erbyn hyn yn barod i alwad corn y gad. Ymwelodd Dyfrydog a bro'i faboed yn ardal Pensarn, am saib, a thangnef y Gwyliau. ar ol bod am lawer mis yn rhyfel Ffrainc. Efe'n exvert vm mvd v neiriamiau a.wxrr a./» .I. 1,/ J .I: -}. wedi bod ar ami i wibdaith uwchben lleng- oedd yr Ellmyn, ac yn gallu esgyn yn uwch iia r bei.rdd i gyd, A'r flwyddyn yn nesu at awr ei thranc, gwelwyd yr hynafgwr parchus, Mr. Owen Jones, Shop Ucba, Bodffordd, yn tynnu'i draed i'w wely i farw, ar ol teithio ohono i gyffindir pell y pedwar ugain oed. Ni oheid hyiiafgwr parchusach na rhadlonach yn y wlad pilercadarn yn eglwys yr Annibynwyr am gyfnod maith, a thyna fwlch a gwagle sydd yno o'i golli. Nid rhyfedd i'w weinidog da, y Parch. Smyrna Jones, bwysleisio yn ei, arwyl fod colofn wedicwympo." Bu bedair mlwydd a thrigain yn aelod eglwysig yn Sardis, am saith mlwydd a deugain yn ddiac- on, am bymtMeng mlynedd yn ysgnfennydd, ao am ddeuddeng mlynedd ar hugain yn drysor- ydd iddi. Bu'Ú gadeirydd cwrdd chwarter yr Anrvibynwyr- Talwyd teyrnged haeddol i'w goffa gan amryw weinidogion, a hawdd gweld | fod gwr yn ofni Duw yn cael ei hebrwng i'w £ argel. Gedy weddw oedi-aniiiis a phlant. Cof | gennym arrv ei wynen yn y capel, a'i groeso i yn ei dy. Ar wyl y Nadolig, gwibiodd heibio i ni | fendith awssn Treflyn, Caergybi, ar gerdyn glan. Weite un o'r englynion :—■ Nadolig, er pob dialedd—a phoen, Ni fly ei orfoledd Elenii dengys lanwedd lesu mm—Tywysog Hedd. Pan oecld bedd yr hen flwyddyn ar gael ei agor, gwelwyd bedd arall yn cael ei agor ym mynwent Ceidio, Llannereh y Medd, i dderbyn gweddillion priod y Cynghorwr Robert Ellis Evans, Frondlrion, Caernarfon, a thryd- edd ferah Dr. John Hughes, Caernarfon. Rhoed hi i orffwys; yn ymyl ei thad, a hi yn chwech, a deugain oed. Yn Llanfachraeth, cadwodd. yr Arglwyddes. Reader Garreg Lwyd, ei henw da, oblegid yn ol ei bar fer y Gwyliau bu iddi gyfrarmu rhai, punnoedd i'w rhannu cydrhwng rheidusion y fro. Y hi'n foneddiges ddirwestgar, na fyn oddef yr un daSarn hyll ar ei I-tvstad.-Llygad Agomd. MABW GWILYM MEIPION.-Brodor o Borthmadog oedd y bardd-gerdclor Gwilym Marion, er yn enedigol o Feirion, yn ol ei enw barddol. Cafodd oes faith, a bydd eiddylan- i wad am oh el yn hir, am; iddo fyw yn yr ystyr j oreu. Yr oedd o'r un cyff a Bewno a loan Madog. v Fy hen gar, hyd dalar deg Ei wyn oed, ddaeth yn hyd eg Esgud yw,—o gysgod liaul,- Gwilym Meirion, glwm araul. A! ddedwydded yw heddyw, 0 wae'r byd, fardd-gerddor byw, Gyda Beuno ac loan, Hwnt, o'u gloes, ei geraint glan A chyda'r Brawd," uwch dur Bryn, Er y dylaith,—a'r delyn.—Cybi. Godre Ceredigion. Anrhydeddu Cynghorwr Sir. Hwdiwch hon," ebai torf gynnes ei chalou wrth y Cyng- horwr Jenkin Davies, Tirgwyn, Ceinewydd, gan estyn iddo anerchiad oreuredig hardd bwy nos yng nghapel Nanternis. Ymadael o'r gymdogaeth i fyw yr oedd y Cynghorwr, ae am ei wasanaeth trylen rhoed iddo anrheg cyn ei ollwng. Egnïol a phleidgar i bob achos dyngar a fuasai efe cyd y bu yma. Rhoddasai o'i nerth a'i ynni yn ddiball a difesur yng ngwasanaeth cyhoeddus yr ardal. Caed ef yn barod i bob galwad arno, ac yn gydwybodol vi). ei waith. Daeth i'w ran, oherwydd ei graffter a'i gymhwyster, In o swyddau a llawer o gyfrifoldeb ynglyn a hwynt. Defn yddid y cyfleusterau a roed iddo i'ramca ion uchaf—gweini a dyrchafu. Ni fradych- odd ac ni wanychodd hawliau y bobl, ond bu "1 onest i'w lief ac yn bur i'w dyhead. E fe oe dd eynrychiolydd plwyf Llandysilio-gogo ar y Cyngor Sir, a chaed' ef bob amser yr ff yddlon, yn ddiogel o farn a chyfoethog o .twl,ryrn. Bu'n enau diflbesg j'r rhannau ama.ethyddol. Am ddeuddeng mlynedd bu'n aelod gwerth- fawr o Fwrdd y Gwarcheidwaid, He y dyrchaf- wyd ef yn gadeirydd. Ni ataliodd ei' swydd gri'r tlawd rhag dyfod ato, ac ni throes y faine of yn fud i ingoedd yr anghenus. Bu'n dwr ac yn darian iddynt, yn llais ac yn llawenydd. Gwasanaethodd hefyd ar Bwyilgor Blwydd dal yr Hen gyda dawn a doethineb nodwedd iadol. Fel Ymneilltuwr a Rhyddfrydwr, o dras ac o anian, brwd oedd ei gefnogaeth i bob mudiad i ddyrchafu ac i oleuo gwerin gwlad. Dathlygodd oÍ: reddfau gwerinol yn eang ac yn llawn. Pleidiodd yn eiddgar bob ymdrech i sicrhau manteiskm addysg i'r genedh Bu'n ddiffynnydd ac yn ddadleuwr dros ddiwyll- iant. Iiii mown cylchoedd crefyddol hefyd YD wr o ddylanwad. ac o ddifrifwch. Bu'n ddiacon yng nghapel Nanternis am bedair blynedd ar bymtheg, a gwasanaethodd ei enwad mewn amryw gyfeiriadau. Cadwodd bob ymddiriedaeth yn lan ac yn ddilwgr, a llanwodd bob swydd gyda brwdaniaeth a phrydferthweh. Dywedwyd yn ei gyfarfod ymadawol mai nid bendith diwedd oes oedd y geirda a'r anerchiad, eithr cronicl anorffen gwr yng nghanolddydd ei nerth. Felly disgwylid iddo gyfnod arall o weithgarwch ac o lwydd a chynnydd. A chyn terfynu cyfarfod hyfryd dyrna alw ar Mrs. Da vies i dderbyi-i. rhodd dlos o Silver Flower Vase. Hyhi yn un o'r gwrag- edd hynny sydd yn goron i'r gwyr, ac yn hannyw- o un o deuluoedd parchusaf Cwm Rhondda. Felly nyni a clorasom flweh enaint ein parch a'n serch ar y ddeuddyn annwyl, a dywedasant hwythau Hwdiwch ein diolch," am eich gweithred. r DREN EWr DD.-Mewn Eisteddfod ym. nos Calan, arweinid gan Mr. P. Wilson Jones, llywyddid gan Mr. Edward Jones, Maes mawa Griffith Pugh, Trefeglwys, enillodd ar yr unawd tenor f ac wele'r buddugwyr eraill adroddiad r plant: I, Maud Williams, Caersws 2, M. Gur- land, Drenewydd'. Deuawd i, Misses Hamer, Drenewydd; 2, Mri. J. Owen a Howells, Ceri. Unawd y plant: i, Bronwen Jones 2, C. Will- iams, Wern ddrn Araith ddifyfyr: r, M. J Owen a C.. Williams 2, Misses Hamer a Pryce. Ar y berdoneg i, Myra Kitchen, Drenewydd 2, Ida Jones, Llanwnog. Unawd soprano' Gwladys Hamer Drenewydd. Adrodd i, J; Owen, Ceri; 2,. Chas. Williams. Unawd bass: i, T. W. Jones, Felindre 2, J. Owen, Ceri. Araith ar destyn gosodedig i, Mrs. Williams, Wern ddu;. 2, Miss Hamer, Pen y green. LLANARMON rN IAL.—Bu Mr. John Lewis, fferm Gelligynau gynt, farw fore dydd i Saboth, Rhagfyr 26ain, yn 81 mlwydd oed. j. Bu'n un o brif amaethwyr y cylch yn ei amser, hyd nes collodd ei briod hawddgar. Gyda X. hynny rhoddodd y fferm i fyny, a symudodd at ei ferch a'i fab-yng-nghyfraith yn Backford, Sir Gaer, He y daeth y terfyn. Cafodd gartref cysurus a phob gofaL Dygwyd y gweddillion mewn modur i fynwent capel y M.C., Rhiw lal Rhagfyr 30, a.rhffiddwyd iorffwys yn yr un beddy, a'i bnod. Gwasanaethwyd yn y capel ac wrth y bedd gan Mr. D. Jones, Hartsheath (is- oruchwyliwr etifeddiaeth Gelligynau), yn unol a dymuniad. yr. ymadawedig.-Gobeb.
Advertising
B,alls' Wedding Rings. Guinea Gold Wedding Rings from 7/6 to 60/ Half dozen Best Electro-plated Speons. gives to each purchaser of a Ring. BALL'S LUCKY WEDDING RING DEPOT, 33 LONDON ROAD, LIVERPOOL Fiiager Size Card post free. Close on Wednesdays at 1 o'clock. ,1\1 YN AWR YN BAROD. Argrapkjad Newydd o FARDDONI AETH GORON WY OWEN, gyda Bywgraphiad byr gan 5PEDROG a LLYFRBRYF. PRIS SWLLT. LLYT HYRAU GORONWY OWEN, dan Olygiaeth yr Athro J. MORRIS JONES. GPRIS SWLLT.3 Y Farddoniaeth a'r Llythyrau wedi eu cydrwymo mewn Lliaia 2/6. HUGH EVANS AND SONS, — SwyddfaY; BrJthoa. RHYFERTHWY s IWROP Pedair Pregeth ar y Rhyfel. gan ROBERT ROBERTS, B.A., Ph.D. Caerwys. PRIS 6ch. DRWY'R POST, 7g. I'w gael gan yr Awdur, neu'r Argraffwyr- HUGH EVANS A'I FEIBION. 356»8 Stanley Road^ Liverpool.