Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Mvnd dros Resymau Miss Royden.

I Lincyn Loncyn

News
Cite
Share

I Lincyn Loncyn TYNNU AR OL Y TAD.—Y mae Mr- John Phillips-y)rifatlivo Ysgol Rama d eg Castell Newydd Emlyn, a mab y diweddar Barch. Evan Phillips-wedi dechreu pre- gethu. Da iawn. Caffed ei ran o ddawn ei dad, ac fe gaiff glust a chalon ei wlad. Yr oedd David Charles, Caarfyrddin, yn ddeugain oed pan ddechreuodd bregethu; ac yn ol Dr. Lewis Edwards, ni chododd trymach diwinydd na hwnnw o ddyddiau loan hyd heddyw. Dweyd go fawr ond Dr. Edwards sy'n dweyd "a dyna ben ar bobl dadl," chwedl yr hen Domos Roberts ers talwm. RHOFR GOBE1 THIOL DAN Y OWYS. —Daeth gair i Bwllheli fod y Copl. Lewis J. Williams, Penrhos, 10th R.W.F., wedi ei ladd yn Ffrainc. Yr oedd yn athro ysgol yn Nhre- garth ar fin graddio pan ymunodd ac wedi cipio ami i wobr yn yr Eisteddfod Grenedl- aethol am farddoni ac arlunio. Cynhygiwyd comisiwn iddo droeon, ond gwrthodai bob tro nes y byddai wedi cael mwy o brofiad. Ac y mae bra,wd iddo—y Preifat L. Williams, athro ysgol yn Crewe cyn mynd i'r Fyddin— wael dan y dysentry. BAR TV-V LLANTVERN.Barwii Rhondda o Lanwern yw teitl dewisedig Mr. D. A. Thomas sydd newydd gael ei godi gan y Brenin. DIAL EU LLID AR Y LLAETHWYR. —Cododd llaethwyr Penmaenmawr geiniog ar bris y llefrith, sef i bum ceiniog y chwart ond y mae chwarelwsa- yr ardal yn dial eu Hid arnynt am eu crocbris drwy wrthod prynnu'r un dafn a throi at y condensed Tnilk yn ei Ie. "OWEN DEG A GWENWYN DANL" —Yn Llys Chwarter Sir Drefaldwyn, ddydd lau diweddaf, anfonwyd Herbert Thomas- dyn SSain oed o Gynwyd, golygus a bonheddig iawn ei ddillad-i naw mis o garchar am gael arian drwy dwyll oddiar bobl yn y Drooewydd Medi'r 6ed diweddaf. Cafodd lun {photos) cynifer ag wyth ar hugain o filwyr gan eu perthynasau, ac arian i wneud enlargements. Yn lie hynny, malodd y lluniau, a diflannodd a'r arian gydag o. Dywedir fod gwarant wedi ei chodi am gast eyffelyb yn St. Helens, Farnborough, Knutsford, Llanidloes, Porth- madog, a Phwllheli. Da chwi, ferched, peid- iwch a bod mor ehud-cofiwch mai "gwen dega gwenwyndani "ydyw dyn y dafad lefo a'r dillad smws. CYMRODORJON GERM AN 1.—Y mae'r Cymry sy'n garchax-orion rhyfel yn Ruhleben, Germani, wedi ffurfio Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac yn apelio am lyfrau gan garedig- ion o Gymru. Mr. Tom Williams yw'r ysgrif- ennydd, a dyma 'r llythyra gafodd y Prifathro T. F. Roberts, Prifysgol Aberystwyth, oddi- wrtho :— Englandlager, Ruhleben, Germany. Dear Sir-,—Very many thanks for the large number of Welsh books you so "kindly collected for us. We now run "classes in Welsh language, literature, and history, Irish literature, and also in popular science. We have a number of Englishmen, too, learning our language. A few of our number left for home last week. We gave them an absolutely Cymric concert as a send-off. With best wishes and the heartiest "thanks of the Gymdeithas Gymraeg,— I beg to remain, Sir, yours sinceerly, Towy.N WILLIAMS. December 12, 1915." + PREGETHWYR A PHAWB.Uewn anerchiad yn Horeb, Llannvst, dywedodd y Parch. Owen Evans, llywydd Cymanfa'r Wesleaid, ei fod yn methu'n lan a deall paham y dylai gweinidogion crefydd gael eu hesgus- odi na bod ar dir gwahanol i wyr lleyg ar bwnc y byddino. Os oedd yn iawn i Gristion vm- arfogi yn y rhyfel hwn, nid oedd dim gronyn o reswm dros i'r un gweinidog hawlio bod yn rhydd ar sail crefydd. Ni ddylai eu swydd fod yn rhithyn o sail i neb ohonynt hawlio triniaeth wahanol i weddill ei gyd-ddynion. GWYL FABSANT FANGOR. Cydsyniodd Cyngor Bangor a, chais y V.T.C. i osod y Penrhyn Hall yn rhatach na'r telerau arferol at gynnal dawns er budd y Training Corps. Aeth dirprwyaeth dros Cyngor yr Eglwysi Rhyddion at y Maer, I 'resynu fod cadw'r fath beth ar adeg mor ddifrif a hon, ac ar noson pan oedd cyfarfodydd gweddio ac ymostwng gerbron Duw yn holl gapeli ac eglwysi'r ddinas. Dyma aiteb Mr. Ii. C. Vincent :— Chwi addefwch nad oes gan neb fwy o achos na mi i fod yn drist yr adeg hgii (wedi colli mab yn y rhyfel) ond 'does dim dichon i chwi wadu'r un pryd fod y bechgyn oedd yn barod i ddawnsio un funud yr un mor barod i wynebu angau cyn sirioled a Sioncyn y Gwair drannoeth. Ac felly, Gwylfabsant Fangor a iu. ■MOR, MOR I Ml.—Ym Miwmaris. ddydd Gwener diweddaf, cleddid Edward Thomas, hen longwr deg a phedwar ugain oed, rhadlon iawn ei natur a diddorol ei yrfa f u | hwnt. V fo, yn ol pob tebyg, oedd yr olaf o aelodau ymgyrch ddiangof 1852 i gael o hyd i Benjamin Franklin yn ia'r Pegwn pell. Yr oedd Thomas yn un o ddwylo'r Pioneer ac mewn llythyr ato yn 1874, dywedai'r Rear- Admiral Sherrard iddynt ddewis y Cymro'n un o r sledge-party am ei fod yn ddioddefwr caledi mor eithriadol, ac mai'r "Little Taffy" oedd bywyd a, chalon y parti i gyd. Cyn hynny, buasai ar y Resolution, ac a gafodd fathodyn i.m. ddarganfyddiada,u yn eigion vr Arctic oer, o 1818-1865. Bu ar fywydfad PellnlOn am lawer blwyddyn, nac arno fwy o ofn y mor nag ofn ei wely. Ei North: Star ef oedd y cwch ysmartiaf o'i maint o'r un ar y Menai, ac gymeriad mor ddeallus a rhadlon nes fod dieithriaid yr haf aphlanta phawb yn tynnu'n reddfol ato. Daeth gwyr amlycar ardal oedd i'w hebrwng dros yr lor- ddonen ac wrth gael hwylio i fôr lleydd- Mor yr Iachawdwriaeth-teimlai Edward Thomas fel yr afon yn narn-adrodd. campus Roger Edwazds yr Wvddgrug—"Mor, mor. i mi Adyna for nad vw'n boddidim ond drwg. MERTII2 R rR YSTORM.-Adeg gwynt cnbyd nos Sadwrn ddiweddaf, lladdwyd Edward Jones, un o weithwyr Uinell y Cambrian, wrth glirio'r tywod oddiar y ffordd haearn gerllaw'r Abermaw. Gedy weddw a thri o blant. SIR FON sr AR I FrNr.Dim ond un carcharor oedd gerbron Llys Chwarter Mon a gynhelid yn Llangefni ddydd Mawrth yr wyth- nos ddiweddaf. MORI A'N DDRTCH O'R NEFOEDD.- Ymunodd Eglwyswyr ac YmnejJltuwyr Caernarfon i gadw cyfarfod ymostwng a gweddi yng nghapel M.C. Moria brynhawn dydd Llun cyn y diweddaf. Yr oedd y ficer y wael, a chymrwyd rhan yn ei le gan y curad-y Parch.A. Morgan Jones; a gweinyddodd y Parchn. Ishmael Evans (W.), D. Stanley Jones (A.), D. Hughes, M.A. (M.C.), a Dr. Owen Davies (B.). Mr. Orwig Williams wrth yr organ, a'r offrwm at Gymdeithas y Groes Goch. Ni fu Moria erioed yn edrych yn dlysach. Byddai un o gyn-ficeriaid Cacrnarfon-y Parch. Vincent-yn arfer a mynd i Moria i'r odfeuon mawr un brawdol a Uydan ei galon oedd ef. C TFTNGDER rw SAIL UNDEB. Yr oedd dolydd Dyffryn Conwy dan ddwr am bymtheng milltir o ffordd adeg y gwynt a'r Uifogydd; a dyna beth rhyfedd a chwithig a welid ar ambell domen a phone oedd a'i ckrib allan o'r dwr draw ac yma hyd y meys- ydd, sef twrr o wningod a llygod ffreinig a thyrchod daear a phathewod wedi hel at ei gilydd yn haid gymysgryw rhag mynd gyda'r Uifeiriant y sbient mor syn ar ei ryferthwy chwvrn.

Advertising