Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Mvnd dros Resymau Miss Royden.

News
Cite
Share

Mvnd dros Resymau Miss Royden. [GAN Y PARCH. D. POWELL). lll-A all Satan fwrw allan Satan ? OWRTHYB Miss Royden y gred a goleddir gan lawer heddyw y bydd i'r rhyfel hwn fod yn derfyn ar ryfel. Er y cydnebydd hithau y dichon hynny, dywed ei fod yn amliosibl. Ax y naill law, y mae'n bwnc dadl; ar y Haw arall, nid oes un ddadl amdano. Rhoddaf dri dyfyniad iddangos dull Miss Rodyen o edrych ar y cwestiwn. Ebe hi :— Nid oes ond un ffordd i ladd syniad gau; rhoi syniad gwir yn ei le. Ni ellwch chwi ddim lladd 0&8 a thrais gyda thrais a chas ni ellweh chwi ddim lladd serch dynion at ryfel drvvy wneuthur rhyfel yn fwy effeith- iol. Ni all Satan fwrw allan Satan, er y cais ei oreu i'n pers-wadio v gall, oherwydd mai hwn sydd wedi bod yn fwyaf llwydd- iannus o'i holl ddyfeisiau ar hyd yr oesoedd. Gwneuthur rhyfel er mwyn gwneuthur beddwch '-mol' hudolus yw'r syniad ? Gwneuthur yr Ellmyn yn heddychol drwy eu lladd a thorpedo a gwn peiriant '—nid yw hynyna'n swnio liawn cystal. Eto, dyma a geisiwn ei wneuthur pan fyddwn yn ymladd yn erbyn milwriaeth yr Alrnaen ag arfau milwriaeth." Y mae pob brawddeg o'r dyfyniad naill ai'n awgrymu, neu'n mynegi'n glir, syniad gau. Gwyddom nad oes. ffordd i ladd syniad gau ond trwy roi syniad gwir yn ei le. Ond beth os myn y sawl a ddeil y syniad gau wthio ei syniad a'r cleddyf ar yr hwn a ddeil y syniad gwir ? Pa fodd y gellir, ar y naill alw, ei rwystro yn ei anfadwaith, ac, ar y Haw arall, "ei argyhoeddi'n effeithiol o'i gyfeiliornad erchyll ? Nid trwy freuddwyd Pasiffistiaeth yn sicr. Nid eas a thrais a wnaeth i'r wlad bon, er enghraifft, fynd i ryfel a'r Almaen, eithr penderfyniad i amddiffyn y gwt.,i rhag y gelyn bradwrus, cryf a chreulon. Ac o roddi i'r gair trais ei ystyr waethaf, nid trwy gas a thrais y dwg ein gwlad y rhyfel ymlaeo. Nid Satan yw ein gwlad, ac ni ysbrydolir mohoni yn yr ymdrech gan Satan. Ymladda oin gwlad dros gyfiawnder a rhyddid y byd a beth sydd a fynno Satan a hyn ? Gellid ymresyruu, os Satan yw arglwyda yddwyblaid mewn rhyfel, syrth ei deyrnas, a bydd ar ben ar ryfel. Dyna'n wir yw egwyddor homeopathy. Ni hudwyd ein gwlad yehwaith i "wneuthur rhyfel er mwyn gwneuthur foeddwch." Gall hyn fod yn ganlyniad y rhyfel ond nid hyn a barodd i'n gwlad fynd i ryfel. Aeth ein gwlad i ryfel dan gymhelliad yr egwyddorion iiioesol uebaf, ac y mae ffydd londeb iddynt hwy yn anhraethol bwysicach na ehyflwr o heddwch. Ac y mae cymaint o synnwyr ag sydd o swyn-mewn dywedyd ein bod yn ceisio "gwneuthur yr Ellmyn yn heddychol drwy eu lladd a thorpedo a gwn peiriant." A |!eddir yr heresi trwy ladd yr heretic ? Y mae'r ail ddvfyniad o'r un nodwedd a'r cyntaf, ac yn dangos nad yw Miss Royden yn orofalus o'i chymariaethan na'i thermau. Ebe hi :— Osiid ydyw, or hynny. yn hen bryd inni ollwhg-ein gafael ar y gobaith y gellir difodi heresiau drwy ladd yr hereticiaid ? Y mae hanes yr Eglwys Gristnogol yn goch gan y gwaed a dywalltwyd gan y gred hon. Y mae'n wir hefyd fod heresiau weithiau, er yn anaml, wedi eu difodi am amser mewn gwaed. Ond y mae gwneuthur hyn yn golygu heresi waeth—credu fod creulohdeb yn beth i'w gyfiawnhau. Ni byddwn heddyw yn arteitbio'r rhai a fo'n anghyd- weled a'n diwinyddiaeth ni ond yr ydym o hyd yn ceisio arteithio cenedl, oherwydd dyma beth yw rhyfel, a dim llai." Bwriedir i Brydain Fawr gyfateb i'r Eglwys erlidgar, a'r Almaen i'r hereticiaid erlidiedig. Ni bu cyfatebiaeth erioedar ei hwyneb yn fwy anflodus ac a iff yn waeth o'i chwilio. Yn y He cyntaf, ni ch-eisia, Prydain Fawr "ddifodi heresiau drwy ladd yr hereticiaid," ac nid aeth i ryfel a'r Almaen oherwydd heresiau dam- aaniaethot y wlad honno. Cawsai'r Almaen nyddu ei heresiaudamcan iaethol yn ddiderfyn gan Brydain Fawr, ped ymfodlonasai ar hynny- Pa gyfatebiaeth sydd rhwng yr Eglwys yn lladd hereticiaid a PhrydainFawr yn gadael Uonydd i'r Alm-seii nyddu ei heresiau ? Yn ail, nid heretic damcaniaethol yn syml yw'r Almaen. Try hi ei heresi I ddamcaniaethol ynweithredoedd gormesol a. chreulon. Myn fathru'r gwledydd a sarnu rliyddid a gwareiddiad y byd. Gwyddom na ddylai'r Eglwys ladd yr hereticiaid ond a yw'n canlyn y dylid goddef i'r hereticiaid ei Iladd hi ? A siarad yn gywirach, ni ddylai'r wladwriaeth na Hadd na chosbi hereticiaid am eu heresiau damcaniaethol, na goddef i neb arall wneuthur hynny. Ni ddylai ychwaith oddef i'r hereticiaid ei lladd hi na neb aralL Os myn yr hereticiaid drawsfeddiannu awdur- dod a lladd a difrodi wrth eu hewyllys, y mae'n ddyletswydd ar y wladwriaeth ddefnyddio pob gallu angenrheidiol i'w darostwng yn llwyr a'u cosbi yn ol ou haeddiant. Yn ol yr un egwyddor a chyfatebiaeth, yr oedd yn ddylet- tewydd ar Brydain Fawr ddefnyddio pob gallu angenrheidiol a ehyfreithlon i wrthwynebu a darostwng yr hereticiaid Ellmynaidd yn eu balchter, eu trachwant a'u rhaib creulon ac annioddefol. Yn drydydd, ni chred Prydain Fawr fod creulondeb yn beth i'w gyfiawn- hau. Enllib arni yw awgrymu hyn. Y mae'n rhaid llwyr anwybyddu egwyddorion llywodraethol ein gwlad yn y rhyfel hwn, a'i henllibio'n warthus, i'w chondemnio o greu- londeb. Y dyn sy'n euog o greulondeb yw'r calon-galed, anrhugarog, brwnt, sy'n achosi poen afreidiol i eraill, neu sy'n esgeuluso'r sawl a ddylai ei ymgeleddu. Y mae cymeriad ein gwlad yn ei pherthynas a Belgium, er enghraifft, yn wrthgyferbyniol i hyn. Buasai hi'n euog o'r creulondeb gwaethaf pe nad elai allan i amddiffyn Belgium yn ol ei chyfamod. Nid creulondeb mewn gwlad yw gweinyddu ei deddfau penydiol i amddiffyn ei hun a'i deil- iaid a chosbi'r d rwgweithredwyr. Ac nid creulondeb ynddi ychwaith ydyw amddiffyn- ei hun a gwledydd eraiil rha.g trais y gelyn creulon. Gellid, ar dir y Pasiffistiaid, gon- demnio'r goruchwyliaethau disgyblaethol a llawfeddygol mwyat" hanfodol o greulondeb.. Er fod dioddef, archolli a lladd, yn anochelad- wy mewn rhyfel, nid amcan Prydain Fawr wrth fynd i rj-fel oedd achosi hynny. Pe gellid eu gochel hi a'u gochelai. Ei hymdrech barhaus ydyw arbed dioddef, bywyd ac eiddo hyd y gall. Nid yw rhyfel yn gyfystyr ii, lladd, llawer llai a lladd anesgusodol. A ffol- ineb noeth yw condemnio ein gwlad am fynd i lyfel ar sail y dioddefiadau anocheladwy sydd ynglyn ag ef. Y cwestiwn ydyw, pa fodd i ochel rhyfel heb ddwyn íHllOlll ein hunain ac eraill rywbeth gwaeth, sydd yn ei dro yn arwain i ryfeloedd diddiwedd bi-on ?^f()ni byddai goddef i Prwsia sathru Piydain Fawr a gwledydd y byd dan ei thraed yn achosi trueni anhraethol fwy na rnynd i ryfel yn ei herbyn ? Os ydys i anwybyddu egwyddorioji moesol, a hreintiau ysbjydol rhyddid a gwar- eiddiad, ac os mai dioddefiadau anianyddol sydd i benderfynu'r cwestiwn, dylid ymholi ai mwy'r dioddefiadau sy ynglyn a rhyfel na'r (I ioddefia-dausy'ii cydfynd a thrawsarglwydd- iaeth gormeswyr balch v hreiiloii. arwyddair llywodraethol y rhai ydyw, Trecha treisied, gwanna gwaedded ?

I Lincyn Loncyn

Advertising