Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
I TO SECURE HAPPY HOMES, USE CROSSLEY'S DRY SOAP THE GREAT LABOUR SAVER AND DIRT REMOVER.
Advertising
HAVE YOU TRIED 'KEENORA' SELF RAISING FLOUR ? Perfect Pastry can only result from the use of a perfect Flour. You can always be sure of suc", cess if you use Keenora Self-Raising Flour. Makes deliriously light Pastry, Cakes, Scones, Buns, etc. A REAL PLEASURE TO USE IT. Try a Packet to-day, you will_be delighted. SOLE AGBNTS-" MORRIS and JONKS, LIVERPOOL & MANCHESTER.1
Advertising
Beaty Bros Ltd. THE a. TT CELEBRATED TAILORS PERFECT FITTING OVERCOATS EXCELLENT VALUE ONLY ADDRESSES: London Rd. and Church St., LIVERPOOL. Closed on Wednesdays at I p.m. Open all day Saturdays. L? I- A yw'ch Llygaid yn eich blino ? Yw pethau'n troi'n niwlog ac anelwig ? Dyna arwydd a rhybudd llethdod y llygad, a dylech gael eu hedrych rhag blaen; eu'gwaethygu wna'u hesgeuluso. Gallwn ni, gyda'n hoffer gwyddon- olj ddweyd wrthych os oes arnoch angen gwydrau; ac os felly, eich cyflenwi a'r rhai a irarai fwyaf o les i chwi. Galwch heddyw- ARCHER SONS Eyesight Specialists. I 73 LORD STREET, I Seiydlwyd 1848. LIVERPOOL .Pbone-392S Bank. I. finrntas & SOD, TAILORS 29 SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL AIBO AIR 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. J/6 MILITARY OFFICER'S UNIFORMS, SERVICE -JACKETS, BREECHES, etc. 'Phone-SSG Bootle. Appreciated fol- 124 Years. Bond's Pianos. 20 Guineas Bond Piano. faskioaable Chippendale Rosewood Case, complete Irdll Frame, Metal Pressure Bar and Bridge, Check Action, beautiful tone and touch, uuequalled value 23 Guineas" Arthur Day Piano. Mtgoificent Walnut Case (Dark), Iron Frame Action, beautiful finish, tone and touch remarkably fine. 28 Guineas Bond" Piano. Latest style, artistic case, Overstrung Full Iron Frame, Underdamper Check Action, an instrument to please the most exacting. Write for Catalogue of other new Pianos, or list of Second-hand Instruments, all guaranteed. Magical Instruments, Music s ittings of all kinds Strings. Records. Records j LARGE SELECTION OF WELSH RECORDS Gramophones all prices.. BOND CO., 4 Lime Street, Liverpool. IF YOU WANT REALLY BOOTS '): ""S?,<; TRY la U NTS, 49 Paradise St; Liverpool The Largest Stock of Boots and 15h- in Llvorp-, 10 Mtact from, for Ldies 6 Gentlemen, Youths and Boys School Boots In great variety. ASK FOR IDRIS Table Waters In Syphons and Bottles, SODA WATER, POTASH WATER, SELTZER WATER, LEMONADE, DRY GINGER ALE, Etc., etc. IDRIS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL MORRIS EVAN,S9 HOUSEHOLD OIL. The never-foiling Remedy FOR Rheumatism, Sciatica, Lumhage tiJc Burns Scalds, Cuts, Bruises Oc ALWAYS HANDY IN THE BOMB ITS CURITIVE POWERS ARE WONDERFUL. Get a Bottle at once from your Grocer or CShemiis Price I/lid. 6 2/6 Or direct from- MORRIS EVANS & Co., THE2MANUFACTORY, FESTINIOG, N. WALES, ROBERTS EDWARDS, ESTATE AGENTS, 64 Kirisdale-Rd., Liverpool Telephone: 2193 Royal.
Trem I-Perygl I
Trem I-Perygl I ANODD, yn wir, dan yr amgylehiadau, yw gennym ysgrifennu gair o rwgnach yn erbyn y Llywodraeth bresennol. Daeth arni gyfrifol- fl' b disymwth, a barodd i bp"wb deimlo y dylesid, hyd yr oedd modd, droi o'r neilltu am ysbaid bob gwahaniaethLu plaid a sect, a chwestiynau dadleuol, modd y gellid crynhoi holl nerth y Senedd a'r wlrd i un gwar llydan a grymuo, i ddwyn baich na fu ei drymed ar ysgwyddau nemor i Lyvodracth erioed. Ac, yn ddiameu, mae'r rhvfel yn parhau i ofyn hyd heddyw yr holl nerth corff a meddwl, doethincb a medr, all fod yn nau DS'r Senedd, heb yr un aelod neilltuedig yn eu plith. Pan gofir pwys'grwydd yr argyfwng, y llafur diball y mae'r Llywodraeth vnddo, mor ffyddlon a llwyddiannus y cyflawnasant eu gwaith anodd hyd yn hyn, ac nad yw'n debyg yr ysgafnheir dim ar eu baich llethol am lawer o amser i ddod,—mae'n ddiflastod i feddwl am eu blino a dim arall ar hyn o bryd. Yn wir, pe trafferthid hwynt a chwesthvn dibwys, yn ddiangen, ymddengys i ni mor afresymol a pbe gwthid carreg drom i ganol baich fai eisoes yn peri i'r gwar sy dano wegian. Yr ydym hefyd wedi arfer ymddiried, yn fwy na llawer, yn ffyddlondeb y Weinyddiaeth hon i'w haddewidion i Gymru Ymncilltuol. A hyd yn oed yn y mater sydd gennym mewn golwg y tro hwn, ni fynnem ffurfio barn derfynol hyd nes y caffom eglurhad llawnach gan y Prif Weinidog ac eraill sydd yn fwyaf cyfrifol yn y sefvllfa yr ydym ynddi. Wrth gwrs, cwestiwn arbennig a llosg Cymru, ers llawer o amser, a fu Dadgysylltiad a Dad- waddoliad Eglwys Loegr. Tybiem, modd bynnag, fod y cwestiwn o'r diwedd wedi ei setlo, a'i sicrhau mewn Deddf Wladwriaethol. Er nad oedd y Ddeddf yn agos i foddhaol i fwyafrif mawr yr Ymneilltuwyr Cymreig, purion ganddynt oedd i'r mater diflas gael ei benderfynu. Credwn fod y Weithred Seri- eddol a orchfygodd Dy'r Arglwyddi ar fater- ion eraill, mwy anodd, wedi cynyrchu'r un effaith ynglyn a Dadgysylltiad a Dadwaddol- iad Cymreig. Ond mae'n eglur, bellach, mai nid felly y bu. Llawer gwawdlun a welwyd o fesurau a anfonesid o Dy'r Cyffredin yn cael eu difetha'n Nhy'r Arglwyddi ond gellid meddwl yn awr fod y Weinyddiaeth yn Nhy'r Cyffredin yn cyflawni'r gwrthuni o osod y Ddeddf a basiodd yn agored i'w difetha, wedi'r cwbl, gan y blaid a fethodd atal ei gyrfa. reolaidd trwy'r Ddeddfwrfa. Er y cred yr Ymneilltuwyr yn gyffredinol ddarfod i'r Eglwys yngNghymru gael llawer mwy nag yr oedd hi'n ei deilyngu mewn arian, gallasent ddygymod hyd yn oed a'r ychwanegiad mawr iddi yn y Mesur cynygiedig ond mae'r syn- iad o beryglu'r Ddeddf i gyd yn annioddefol. Da gennym oedd gweled y Daily News mor ddifloesgni ar y mater difrifol hwn. Wedi i Ddeddf Dadgysylltiad a Dadwaddoliad redeg ei chwrs trwy y Senedd, gresyn fyddai cysylltu Mesur newydd a hi i'w handwyo. Ac yn y fan yma y trallodir fwyaf ar y rhai a ym- ddiriedodd yn bur dawel yn ffyddlondeb y Llywodraeth i'w hymrwymiadau ar y mater. Mae syniadau'r arweinwyr Toriaidd ac Eglwysig, yn gystal a'u diehellion a'u traha, yn ddigon i beri i unrhyw un gredu nad ellir ymddiried dim ynddynt hwy ynglyn a'r cwestiwn hwn. Os daw i'w meddiant unrhyw gyfle a gallu i ddinistrio'r Ddeddf,—yn enw- edig ei Dadwaddoliad,—hwy a wnant hynny'n ddiamheuol. Cwyn yr Ymneilltuwyr yw fod estyni ad pellach ar amser dyfodiad y Ddeddf i rym yn golygu'r posibilrwydd o roi c-yfle o'r fath iddynt. Ped elai'r Toriaid i awdurdod, ychydig amser. yn ol awdurdodau eyfarwydd a'r cyfryw faterion, a, barai gyfle iddynt droi'r Mesur Eglwysig presennol yn gyfle i yrru torpedo ohono i suddo'r Ddeddf nad yw, ar y goreu, ond cyfiawnder cynnil i Gymrn Ymneilltuol.
Trem II-AnwybydduI Cymru.
Trem II-Anwybyddu I Cymru. Ond heblaw yr hyn a gyfrifir gan yr Ym- neilltuwyr yn ddrwg yn y fargen a wnaed a'r blaid Eglwysig ynddi ei hun, cynddrwg a hynny fu'r modd y gwnaed hi. Ac ni raid wrth dystiolaeth bellach o hynny nag addef- iadau'r Prif Weinidog a'r Canghellor eu hun- ain. Y ffaith addefedig yw, ddarfod i'r fargen gael ei thrafod a'i tharo yng nghefn y Blaid Gymreig yn y Senedd neu, os dywedir nad oes y fath blaid mewn bod, heb ymofyn a. chynrychiolwyr Rhyddfrydol Cym- ru. Dyma un o'r pethau olaf y disgwyliasem amdano. Wedi darllen pob eglurhad a gynhygiwyd ar y digwydd, nid yw oin syndod ato nemor lai. Dywedid ddarfod i ddiffyg dealltwriaeth ei achosi. Ni cheisiwyd ei gyf- iawnhau, eithr, yn hytrach, ymddiheurid o'i herwydd. Atgofir ni o gan Tennyson ar y Charge of the Light Brigacle-" someone had blundered Ni feddwn unrhyw duedd i chwilio am y pwy a fethodd, ond ni allwn ymatal heb ofyn paham y bu'r blunder ? Yr ydym eisoes wedi datgan ein syniad am fawr- edd llethol y gwaith sydd ar ddwylo'r Llyw- odraeth ar hyn o bryd ynglyn a'r rhyfel di- gyffelyb. Ond nid yw hyd yn oed hynny yn ein helpu allan o'r dyryswch. Canys os oedd y Llywodraeth yn rhy brysur i drafod y Mesur Eglwysig a'r Ymneilltuwyr, paham na fuasai felly hefyd gyda golwg ar yr Eglwys- wyr ? Amlwg yw ddarfod i rywrai, a hynny ar ran y Weinyddiaeth, gael hamdden i drafod y Mesur a chynrychiolwyr Eglwysig a Thoriaidd. Yn wyneb hyn, naturiol yw i'r Ymneilltuwyr Cymreig deimlo'n ddolurus am na alwyd hwythau hefyd i fewn i'r gyfrinach fargeiniol. Gallasem ddeall yr hyn a ddy- wedid gan y Weinyddiaeth gyda golwg ar y penderfyniad i gau materion dadleuol o'r Senedd ar hyn o bryd. Ond y mae'r Mesur Eglwysig yn un dadleuol, tuhwnt i bob amheuaeth. A'r hyn y gofidiwn o'i blegid yw, ddarfod i'r ddadl gaal ei phenderfynu ag un blaid yng nghefn y blaid arall. Os gellsid fforddio amser i ymgynghori ag Archtsgob Caergaint, Mr. Bonar Law, ac eraill o'r un blaid, paham y rhoes y Prif Weinidog snub i Mr. Llewelyn Williams, pan ofynnodd efe a fuasai i'r Weinyddiaeth ymgynghori a'r Blaid Gymreig, drwy ateb yr ymgynghorid a phawb? Chwarddodd y Ty ar y pryd, ond ymddengys y chwerthin erbyn heddyw, i Ymneilltuwyr a Rhyddfrydwyr egwyddorol, yn debyg i flodau ar arch eu hachos cyfiawn. Mae'n rhywbeth dieithr ynglyn a. phwnc Dad- gysylltiad a Dadwaddoliad fod yr Wrthblaid yn bodloni'n groesawus ar gynhygion y Wein- yddiaeth. Dadleuasant ar hyd y ffordd yn erbyn y Ddeddf, wreiddyn a changen, ac ni fynnent son am unrhyw gyfaddawd. Eu proffes ydoedd-o leiaf yr esgobion a'r offeir- iaid—eu bod, o angenrhaid cydwybod, yn benderfynol o sefyll hyd yr eithaf yn erbyn yr hyn a gyfrifent yn gysegr-ysbeiliad, ac yn codi llif-ddorau i anffyddiaeth orlifo Cymru. Mor angerddol y teimlent ar y mater fel y trefnodd un esgob i'w epistol arno, ar adeg etholiad Seneddol dros Fwrdeisdrefi Callestr, gyrraedd pulpudau'r eglwysi erbyn bore Saboth, modd y gellsid dadlu'n erbyn yr hyn a gyfrifid yn lladrad oddiar Dduw yn Nhy Dduw, ar Ddydd Duw, a chan Weision Duw a bu esgob arall yn ddigon rhywbeth i fygwth y Farn Fawr ar yr etholwyr oni phleidleisient yn ol ei farn ef—yn erbyn y Dadgysylltiad, a'r Ymneilltuwyr, wrth gwrs, yn eu herbyn eu hunain Ac fe safodd yr Eglwyswyr yn ddiysgog, hyd yr eithaf, heb gynnyg rhoi ffordd ar ddim a olygai ildio ar eu tu hwy yn y mater. Ond yn awr, pan wnaeth y Llywodr- aeth y fargen, gynwysedig yn y Mesur Eglwys- ig, a hwynt, ymddengys eu bod yn ei derbyn a breichiau agored. A phaham ? Ai am fod eu teimlad gwladgar wedi trechu eu teimlad seetol ? Nid ydym yn credu hynny. Nid anghlod iddynt fyddai darostwng gwladgar- weh i grefydd ond yr ydym yn bur sicr y darostyngant bob peth i sect. Ysgydwed Armagedon y byd, nid ysgydwir esgobion Cymru, a'r mwyafrif mawr o'r arweinwyr Eglwysig, allan o'u hawydd a'u .hymdrech, hyd yr eithaf, i ddinistrio Deddf jDad- gysylltiad a Dadwaddoliad Cymreig. iNi all mwg y rhyfel guddio y nod hwn oddiwrth eu llygaid. Ac, i ni, mae'r ffaith syml fod yr Wrthblaid yn crechwen boddhad, a'r Rhydd- frydwyr yn fud a syn, pan ddygwyd y Mesur Eglwysig o flaen T.y'I' Cyffredin, yn peri inni ofni fod angau yn y crochan." Yn wyneb yr hyn a ddigwyddodd, ni fydd grym mewn apel at y Rhyddfrydwyr Cymreig yn y Senedd ar iddynt fod yn dawel, gan ddarfod i'r Wrthblaid gael eu ffafrio yn eu cefn. Heblaw hynny, cymer yr Eglwyswyr achlysur ar y Mesur Eglwysig i gyffroi'r wla.d, hyd yn oed yn ystod y rhyfel, a'r un hen gwestiwn cwerylgar. Cafwyd eisoes ddigon o brofion o'r ymdrech cyfrwys a wneir, hyd yn oed ynglyn a'r ymrestrwyr Cymreig, i gamarwain y wlad am nifer cymharol Eglwyswyr ac Ymneilltuwyr yn yr ymrestriad. Y peth cyntaf a wnaeth Esgob Llanelwy ynglyn a'r rhyfel oedd ei fwrw i'w beiriant vstadegol. A pheiriant rhyfedd yw hwnnw beth bynnag fo dyn wrth fynd i fewn iddo, daw allan yn Eglwys- wr Beth bynnag, mae'r cytundeb a wnaeth y Weinyddiaeth a'r Eglwyswyr y tro hwn yn debyg i betai un o'r Cynghreiriaid yn y rhyfel hwn yn bargeinio a'r Germaniaid yng nghefn y lleill.
Trem III—Pwy a'n Gwerth. odd…
Trem III—Pwy a'n Gwerth. odd ? Wrth feddwl ar y mater, braidd net thuedd- wn i fynd ymhellacli na'n Invrie.d ar y cyntaf --n;d yn unig i ofyn paham y bu'r anffod, eithr hefyd, pwy a'i hachosodd. Dywedwn ar unwaith ein bod yn derbyn eglurhad y Prif Weinidog a'r Canghellor, o ran eu safle hwy yn y mater. Teimlwn fod rhai yn rhy barod i fwrw bai ar Mr. Lloyd George. Y mae wedi gwneuthur cymaint fel y disgwylia rhai iddo wneuthur y cwbl. Gan ei fod mor alluog a dylanwadol, gellid meddwl fod rhai o'r farn mai hawdd iddo fyddai a dyrnod ar fwrdd selio tynged unrhyw fesur. Y mae Mr. Lloyd George, o angenrheidrwydd ei swydd a'i satie- yn y Weinyddiaeth, dan fesur o gyfyngiad. Ac y mae ei bwysigrwydd yn y rhyfcl pres- ennol i'r Ymherodraeth y fath fel na ddis- gwyliai neb rhesymol iddo ymddiswvddo ar un cyfrif—yn enwedig yn awr. Ac fe fu Mr. McKenna'n ffyddlon i'r Ymneilltuwyr bob amser. Ond wrth droi oddiwrth y dynion da hyn, yr ydym yn naturiol yn gofyn-i hwy yr ymddiriedwyd y drafodaeth rhwng y Wein- yddiaeth a'r eynrychiolwyr Eglwysig ? a phwy sy'n gyfrifol am anwybyddu'r Blaid Gymreig ? Efallai, wedi'r cyfan, mai ofer son am y fath beth a Phlaid Gymreig yn Nhy'r Cyffredin ar hyn o bryd. Yn wir, clywsom droion na fll'r aelodau Cymreig yn agos mor unedig a phleidiau eraill yn y Ty. Dywedwyd hynny'n ddiweddar, a chan rai mewn cyfle da i ddeall y sefyllfa. Pe buasai'r aelodau Cymreig yn unedig a gwyliadwrus ar y mater hwn, mae'n syn na chawsant ryw achlust ar yr hyn elai ymlaen a'run mor syn na fuasai'r Weinyddiaeth wedi clywed swn protestio cryfach a mwy cyffredinol oddi- wrthynt. Bu ryfedd i'r bargeinwyr symud o gwmpas ar y fath draed o wlan lIadradaidd neu, ynteu, rhaid fod y Blaid Gymreig yn bur fyddar Gwyddom fod nifer o'r cyn- rychiolwyr Cymreig wedi bod yn effro a pharod a dewr i gyflawni eu dyledswyddau. Ond, ar y cyfan, nid ymddengys i ni eu bod mor unol a phybyr fel plaid ag yw eraill-y Gwyddelod a'r Llafurwyr, er enghraifft. Gwyddom mai nid mewn llefaru yn y Ty y mae unig waith yr aelodau, na'r gwaith pennaf ond dvna'r safle a gymerir yn y Ty i arddangos yn ddiamwvs undeb a grym y cyn- rychiolwyr Cymreig, a'u bod yn barod i osod argraff ddiamwys ar y Llywodraeth o'u safle ynglyn a materion pwysig,—y Dadgysylltiad yn anad dim. Ni honnwn ni ddigon o wybodaeth i'w barnu yn hyn o beth, ond carem weled rhai ohonynt hwy eu hunain yn ateb yr awgrymiadau mynych a wneir gyda golwg ar ddifrawder a diffyg undeb rhai ohon- ynt ynglyn a chwestiwn Dadgysylltiad a Dadwaddoliad. Os oes neb ohonynt yn euog o fusgrellni ar y mater hwn, dylid ei drin â chwip amgen na'r un sydd yn Nhy'r Cyffredin ac mae chwip effeithiol ym medd- iant yr etholwyr yn y wlad.
Trem IV-Dallineb Saeson.
Trem IV-Dallineb Saeson. Y ffaith sydd o dan yr holl rwystr i Gymru gael cyfiawnder ynglyn a Dadgysylltiad a Dadwaddoliad yw diffyg y Saeson i sylweddoli y meddwl a'r dyhead Cymreig, a hanes gwir- ioneddol Eglwys ac Ymneilltuaeth yn ein gwlad. Dioddefasom ormod oddiwrth ymyr- wyr estronol a hunanetholedig, a honnent wybodaeth well o grefydd Cymru na'i phol)l hi ei hun. Y mwyaf haerllug ac ymyrgar o bawb a fu Syr Henry Lunn, ac mae'n syn y dull dibris a chamarweiniol a ddefnyddiodd yr