Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
[No title]
Y eynhyrcbion gogyfer S'r golofn hon i'w oyf- Gino :-PEDROG, 217 Presoot Road, Liverpool DIM OND. I DIM ond gair ddiangodd arnaf, Ond fath ofid ilml yw k Mae 'nghydwybod effro'n tystio Ei fod ef yn llyfr Duw Er mai gair oedd ar y dechreu, Casglu wnaetli aneirif lu, Nes maent hwy fel llii y fagddu Yn dychrynnu'm lienaid i. Dim ond cam i dir y gelyD. Ddaeth a dychryn. poen a braw Dim ond cam, ond cam i ddistryw,— Ac anobaith ar bob llaw Gweld fy hunan yn golledig, Heb un gobaith o un tu Deddf doredig yn taranu, Braw yn dod o'r ewmwl du. Dim ond gwydiiad o'r peth meddwol Fu yn fagl trwy fy ocs Llechodd ynddo sarff wanwynig— Rhoddodd i mi lawer loes Do, arweiniodd hyd at angau, Ar hyd llwybrau oer y bedd Dim ond gwydriad ar y dechreu Gaeodd lwybrau gwynnaf hedd. Dim ond gair lefarwyd wrthyf Gan dirionaf Ysbryd Duw, I fy enaid daeth ymwared, Gwelais obaith im' gael byw Dim ond gair, ond gair a'm cododd, Cefais trwyddo olwg glir,- Fod trugaredd Duw'n goleuo Dunos y colledig dir. Dunvant. H.J. I John Penri, mebyn Mrs. a Mr. J. W. Jones, Tan y grisiau. WIBIONEDD hoff rieni,—er cysur Cawsoch aer yn gwmni Pa anrheg well na Penri, 0 fewn eich hoes, fynnech chwi '? I olynu ei linach,—yn deilwng Dalied rhag pob sothach Byw yn bur bo loan bach Rhag gofid drygau afiach.- lOAN BROTHER. Y GWCW. Y FWYNLAIS fer ei chan, A'r fwyaf neilltuedig O'r holl adeiniog man— Cerddorfa natur bwysig Ond os mai deunod yw Ei halaw, y mae mwynder Ei thon yn cadw'n fyw Ei henw'n ber i lawer. Byr yw ei thymor hi, Mae'n gyson iawn a'i chanig, A dichon fod ei bri Mewn byrdra'n gysegredig ? Pwy ddwed nad yw ei llais A'i deunod yn fawreddog ? Mae'r Cymro, fel y Sais, Yn hoffi'r CPwcw serchog, Ystyriwn ymdaith hon 0 Ebrill drwy Fehafin, Yn broffwydoliaeth Ion I'r mawrion ac i'r werin Pwy bynnag glywo'r Gog Dro cyntaf, heb ei geiniog, Rhaid byw yn llwm o log, Medd hen ddywediad selog. Am hynny, gwelwn fod I'r Gwcw ddeublyg foliant,— Ei chan, a'i swydd o nod A dry i lu yn fwyniant O'r newydd daw o hyd Fel lion frenhines hafaidd, A saif tra byddo'r byd, Ei swydd a'i chan yn beraidd. Ro Wen. IOAN AP IOAX. Arbirodas Dr. S. W. Griffith, Y.H., Hermitage, Pwllheli, a Miss S. E. Jones, Rhyllech Uchai, Efail Nefflydd, Ebrill 14, 1914. GWELL yw gwres mynwes menyw—i feddyg Er ei foddion amrvw Un heb serch mwyn ferch i fyw- Un clwyfedig, claf ydyw. Er meddu ar y moddion—i wella'n Hollol y rhai cleifion Ef oedd wael a'i feddylion Yn ofnus heb fynwes hon. Hynaws eneth wna'i swyno—a'r fodrwy f Hi fedrodd ei rwymo Jane Ellen o'i anwylo, Fwynha serch ei fynwes o. A medr gwr rhoi modrwy gun,—a wnaeth ef Yn ddoeth iawn ei gynllun, I'w anwylaf wen eilun, A thoddi wnaeth y ddau'n un. Gwedi bod yn bod a byw—ei hunan, Mewn hoenedd digyfryw, Mynnodd gael cwmni meiayw,- Gweddus iawn ac addas yw. Diamheuol daw mwyach-fyd ieuanc Di-feudwyol bellach Eraill Ilon ddaw i'r llinach, O'r newydd i'r annedd iach. Hir hoedl iach i'r dilychwin—gu feddyg A'i foddion yn ddibrin Boed ei oes yn oes iesin, Boed i'w rawd y byd a'i rirs. I'w ran oreu yn eirian-i serchus Warchod arno'n fwynlan, Boed heddwch a byd diddan Yn lion i gyd-llawn o gin.-CENIN. I FADRYN, AR BEN El FLWYDD. I DOF i lawr at ben d, flwydd-i edrych Madryn, wyt ti'n ganmlwydd Wyl Dewi gu mae'n digwydd,- Ddiwrnod iawii-Ilawn bo'r llwydd. CYFARCHIAD I FADRYN, AR El DDERBYNIAD 0 FAB. ARWEINIR yn wirionach- "in Madryn, I Moedra gan serch bellach Asur aclwvd siriolach Bair gweiiai-i byw'r hogyn bach. I -0- GWNTJS. I
BEAUMARIS. I
BEAUMARIS. Mai 22ain, yn ei gartref, Fferm Tydu, bu farw'r cymydog didwyll a chymwynasgar, Mr. Wm. Williams, yp 83 mlwydd oed. Yr ydoedd yn ddibriod, ac yn henaf o un ar ddeg o blant, o'r rhai yr erys pump, a chwech wedi marw. Pan yn ieuane iawn, cyfarfu a dam- wain a'i hamddifadodd o'i glyw i fesur helaeth, ac fe ddichon i'r ddamwain hon effeithio i raddau mawr ar yrfa ei fywyd, ac i roddi cy rif am ei fywyd tawel a chartrefol. Er iddo gyrraedd y fath oedran teg, gwarchod gartref oedd ei bleser ef ni orffwysodd ei ben ar obenydd neb am dros bedwar ugain mlynedd ond ar ei obenydd ei hunan, a than ei grong- lwyd ei hunan. Wrth ddilyn ei orchwylion, gwelai yn ddyddiol (ac fe allai weled,os collodd ei glyw) agerbeiriannau ac agerlongau wrth yr I' ugeiniau yn myned heibio ond hyn sydd yn rhyfedd, ni bu ei draed erioed yn sangu o'u mewn ac er fod y byd mawr, llydan, o'i flaen i fyned iddo, ei fyd a'i fod ef oedd Ynys Mon, I all daith gyntaf ohoni a'r olaf oedd i Fryniau Caersalem ar alwad ei Waredwr a garai mor fawr. Gellir dweyd yn ddibetrus amdano nad ydoedd yn ail i neb yn yr amgylchoedd fel ffermwr. Darllennai lawer ar ei Feibl dilynai gapel Llanddona yn gyson bron hyd y diwedd, er na chlywai braidd ddim o'r gwas- anaeth. Ei dri hoffbeth oedd ei Feibl, ei gapel, a'i gartref. Hebryngwyd ei weddillion gan dyrfa liosog i hen fynwent Llanflhangel T. S., a chladdwyd ef ym meddrod y teulu. Y prif alarwyr oedd Mri. O. Williams, Bryn salem, Llanfair P.G. Rd. Williams, Ty-du H. E. Williams, Anfield Road, Lerpwl (brodyr) a'r Parch. E. H. Williams, Bryniau Casia (nai) Mrs. Roberts, a Mrs. Hughes, Lerpwl (chwiorydd). Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parchn. H. Davies, Llanddona, a W. H. Lewis, Beaumaris. Yr ydoedd y Parch J. Lewis, Dublin John Evans, Caergybi ac E. W. Williams, Casia hefyd yn bresennol.- Un o'i gymdogion.
Advertising
Esboniad Cyflawn AR YR HOLL FEIBL. am bris Esboniad ar y Test. Newydd yn unig. Y Dehonglydd Beirniadol ar yr Hen Destament a'r Newydd, gan y Parch. John Jones (Idrisyn) mewn pedair cyfrol, fel newydd, wedi ei rwymo mewn Ilian cryf 18s. Eto (hanner rhwym) 25s. Hugh Evans a'i Feib., Swrddfa'r Bmhon Telephone Royal 1157 Established 18G4. ROBERT ROBERTS ESTATE AGENT, 33 Netherfield Road South, Has Property to Let In various parts of the own. Mortgages arranged. Valuations made Established 1884 'Phones 205 Sootle —— 547 T. WOOSNAM ROBERTS, F.A.I., Estate Agent and Valuer, Bootle Estate Office, Practical, Prompt and Reliable Management of all Classes of Real Estate. 52 STANLBY ROAD, BOOTLB, (2 doors from Bedford Road). Telegrams: WOOSKAM,, BOOTLB Telephone No. 7909. J. LEWIS JONES. ESTATl GENr A VALUER. 60 Victoria St., Liverpool. Properties carefully managed. Rents per- sonally collected. Purchases and Sales ne- gotiated. Mortgages arranged and Insurance, effected. THOMAS JONES, ESTATE AGENTS VALUERS. IGSVB9TMSHT SWILDINGS. 67 Lord Street, Liverpool. Telephone No. —3868ABank. Properties Bought and Sold. Mortgages arranged. Valuations made. Rents collected, TEL. 117 ANTIBLD. ESTABLISHED 1872. Stephen Roberts & Son, BSTATB AGIINS ct VALUERS. 137 Everton Road, Liverpool. Properties carefully managed. Rents per- sonally Collected. Purchases and Sales negotiated. Mortgages arranged and In- surances affected. Henry Jones, ESTATE AGENT, VALUER &JPROPERTY AUCTIONEER, 3 Lord Street, Liverpool Tm BAJTK 4084. Excellent Building Land for Sale in the Vale of Clwyd. Lewis & Bromley Edwards, ESTATE AGENTSJ 102 Kirfcdale Rd. Liverpool Tel. 1840 Royal. 0. JONES WILLIAMS, F.A.I., ESTATE AGENT & VALUER, 17 Boundary Place, Moss St. Liverpool. Est. 1885. Telephone: 567 Royal. Telephone 8586 Ba nk JONES S HUGHES, ESTATE AGENTS, 13 Whitechapel, Liverpool PROPERTIES CAREFULLY MANAGED Rents Collected. R. E. HUGHE, Estate Agent,MSurveyor 6 Valuer, Charing Cross, Birkenhead. Telephone No.—56 Behead. Has Houses to Let and for Sale in various parts of the Town and out districts Also Land to be Sold for Building purposes. Advances made to Builders. Estates ai ig out. Rents Collected, and Property carefully managed. D. GRIFFITHS & SON, 221 Breck Road and 9 Moss St.. Liverpool dab" PIANOS AND ORGANS from By/iallthe 8 PER leading — MONTH makers. TELEPBONE-456 Anfta Id LADIES BLAMCH4RD PILLS Are unrivalled for an lmgularitiog, &04 they speed, IF afford l'8Uef and nenr 1aU to alleYlate aU sugeriop  Pennyroyal HI Oochla, Bit "r ipply A, BLANCHARD'S "ir/uthe best of all Pill for Women.- sold In boxel, 1/1;, by BOOTS' Branches, ?Aywj&,g Branehel. and all Chemists or part free, same prIce, from L SESHE?jMARTYN.???t?e?Chemists,?Dt' aton?ne/?Bdo Mr. HARRY EVANS, Conductor, Adjudicator, Organist Teacher of Singing, 26 Princes Avenue. Liverpool 0. W. HUGHES,Q. & L.T.S.C (Arminyid y Cam yng Ntrhapd M.C. Prinee* Road)- Arweinydd Cymanfaoedd Canu, Beirniad, .ac Arholwr. Parotoir Ymgeiswyr at Dystysgrifau uwehal Coleg y Solffa, Hen Nodiant a Solffa, 70 KINGSLEY ROAD LERP" WILLIE REES. Tenor Vocalist Choirmaster. Winner of Tenor Solo at New Brighton Tower Eisteddfod, 1913; also winner of 38 champion solos, and over 100 other prizes. Terms for Festivals, Concerts and Eisteddfodau. Apply at 44 ASH GROVE, SHOTTON, CHESTER Madame Gladys Williams, PROFESSOR of ELOCUTION, Deportment, Gesture, Voice Culture, Defects of Speech, &c. ADJUDIOATOR leading Eisteddfodau, including Royal National, Bangor, 1914. ENTERTAINER principal Welsh & English Concerts. 35 Hamilton Square, Birkenhead _0_- Madame Humphreys Lees (Soprano), Frank Nicholson (Baritone), Prize Duefctists at Corwen, Colwyn Bay, Liver- pool, Rhyl, Rhos, and other Eisteddfodau, are open for engagements. Terms, apply, Madam LEES, 6 Mayfeld Terrace, Mountfields, Shrewsbury. FRANK NICHOLSON, Gwespyr, Mostyn, N. Wales P. Lloyd Jones FUNERAL DIRECTOR, 364 Stanley Road, L'pool. TELEPHONE-261 BOOTLE. TELEPHONE-575 Anfield. J. T. JONES, Funeral Undertaker. EVERTON, LIVERPOOL. Funerals personally arranged to all parts. Telephone-215 fr Old Swan." 16 Whitland Rd., near Shell Rd.. Fairfield. R. W. EVANS Funeral and Wedding Director, (Agent for Thomas Porter & Sons, Ltd.). All orders personally attended to throaghoat at moderate charges. Highest testimonitR can be seen. NO PBELIMINARTOFEES MONEY LENT PRIVATELY In large or small sums (not less than £ 10, ON BORR SWER'S OWN PROMISSORY NOTB ESTABLISHED FORTY-THREE YEARS and now lending UPWARDB OF 980.000 ANNUALLY, For Prospectus and Terms apply to GEORGE PAYNE & SONS 3 CRESCENT ROAD, RHYL. AND! 16 SCHOOL LANE, LIVERPOOL. Attendance every Thursday afternoon at 15 KING STREET, CHESTER. PALAIS DE LUXE, LIME ST. LIVERPOOL. — LLUNIAU BYW SYMUDOL Chwaethus, dyddorol, ac adeiladol ac YN BARHAOL. 0 2-0 hyd 10-30 bob diwrnod o'r wythnos. Denwch pan y mynnooh, ao arhoswdi cyhyd ag y dymunoch, T. yn rhad heb dal rhwng 4 a 6 pn yr Orchettr skats, Pit StalU, Wr Drais Girelt, Mynediad, I#- a 6oh i
Ein Genedl ym Manceinion.
Ein Genedl ym Manceinion. Cenhadon y Sui Nesat. I Y METHODISTIAID OALFINAIDD. I Moss SIDE—10.30 a 6, D D Williams PENDLETON-10.30, E W Roberts, 6-30. R Williams HBYWOOD ST—10-30 E Griffith, Lerpwl 6. E W Roberts VICTORIA PARK—10.30, R Williams. 6, Edmund Griffith FAKNWORTH—10.30 a 6. T G Ellis, Didsbury EARLESTOWN-IO.30 a 5.45, LEIGH-10-30, a 6, WAR NGTON-10.30 a 6, Griffith Tibbott, Maaceinloa BLACKBURN- ASHTON-UNDER LTNB—2.30 a 6, J T Jones EOLWYS UNDEBOL ECOLES-ll a 6.30, YR ANNIBYNWYR I OHORLTON BD—10.30, M Llewelyn 6.15 Dr. Owen Evans Lerpwl BOOTH 8T-10.30, Dr Owen Evans 6-15, M Llewelyn LD DUNCAN ST., SALFORD—10-30 a 6-15, J Morris QUEEN'S ROAD—10-30 a 6-15, Cylarfod Gweddio H0LMNW00D—10.30 8 6.15. WKASTE—10.45 A Ll. Hughes Manceinion fl.W W Jones Y WESLEAID I DEWI SANT—10.30, A LI Hughes < W G Jones HOKEB—10.30, J M Williams 6, A Lloyd Hughes SLON—10.30, W G Jones, 6, J M Williams BJIIULAH-IO.30, J T Ellis 6, W Rowlands OALF ARIA—10.30, J Roger Jones 6, BCCLES-Z-SO a 6.30 J Roger Jones I Y BEDYDDWYR I 0F. MEDLOOK ST.—10.30 a 6, J H Hughes LONGSIGHT-IO.30 6.30, R Roberts ROBIN'S LANE, SUTTON—10.30 a 6.30 COLOFN Y CYFRIN. TRYBINI TOM.—Llawer math ar fwyn- had a phleser geisir ei gael o ddyddiau yr wythnos hon. Rhoddir y lie blaenaf i'r plant, yn enwedig ar wibiau'r Ysgolion Sul ac nid bychan yw'r aberth a ddanghosir gan y rhai of ala amdanynt. Pan aiff plant y dref allan i'r wlad yng nghwmni ei gilydd,magant rhyw feiddgarwch dibris sydd yn ami yn dod ag elfen o berygl i'w cyfarfod ond nid oes ar gof neb yr un ddamwain o bwys wedi digwydd ynglyn a thripiau Sulgwyn Ysgolion y Cymry. Dyma stori fach i ddangos yr helynt pryderus achosodd direidi plentynaidd ar un o'r pleser- deithiau hyn rai blynyddoedd yn ol. Yr oedd aelodau'r Ysgol yn chwarae ar gae y tuallan i dref fechan, a'r Sordd oddiwrth y cae i lawr yn allt led serth nes dod at y bont groesai'r afon. Tra'r oedd llawenydd y chwarae yn uchel a deniadol, daeth hogyn heibio gyda llawgert pobydd ac wrth weled y gorohian, gad- awodd y gert wrth lidiart y cae ac aeth i mewn i syllu ar yr olygfa, gan eistedd ar y glaswellt o'r neilltu. Yr oedd dau fachgen yn aelodau o'r Ysgol wedi gadael y gweddill ers awr neu ddwy i fyned am dro hyd y ffordd i chwilio am nythod adar, a'r pryd hwn dychwelent yn ol. Wrth weled y llawgert, enynnwyd eu direidi ymchwiliadol, ac aethant i ysbio beth a gynhwysai. Cert gaeedig oedd, gyda drws bychan y tu ol. Ni chynhwysai ddim ond basged fechan wag, ac i weled honno yn y pen draw, rhaid oedd i un o'r bechgyn ymestyn 'tat ei hanner i mewn i'r gert. Cydiodd y bachgen arall yn ei draed yn sydyn, a gwth- iodd y cwbl ohono i'r gert, a chaeodd y drws. Nid oedd dichon agor y Nid oedd dichon agor y.drws oddimewn, felly gwnaed Tom bach (caoys dyna oedd ei enw) yn garch-aror. Wrth fod cymaint o swn yn y cae, a'r gert mor gaeadig, ofer oedd i Tom waeddi, canys annichon oedd clywed ei lais. Ymfalchiai'r bachgen arall yn ei weithred orchestol, heb feddwl dim am gyfyngder a chaethiwed yr un oedd i mewn; ac er mwyn cael mwy o hwyl, penderfynodd dynnu'r gert yn ei blaeD. Gafaelodd yn ei breichiau, ond yn lie ei fod ef yn ei thynnu hi, dechreuodd hi ei dynnu ef i lawr yr allt gwanychai ei nerth ef, ond ychwanegai grym y gert, a ffwrdd a hi yn strim stram strellach i lawr. Syrthiodd y bachgen, ac yn ei lwch, ei waed, a'i ofn, rhed- odd ymaith i gyfeiriad hollol wahanol i'w gyfoedion, a'r cae, Llusgai'r gert ei hun yn gyflym a diseremoni at y bont a'r dibyn brawychus oedd dan ei dwy ganllaw. Petase y rhai oedd yn chwarae yn y cae yn gweld y gert ac yn gwybod ei chynnwys, buasent yn dal eu hanadl a chau eu llygaid mewn dychryn —fel y nesai i ochr y ffordd, heb ddim ond gwrych eiddil a theneu rhyngddi a'r afon ddofn islaw. Ond yn lie hyrddio trosodd aeth yr olwyn i ffos y clawdd, a throes yn groes i'r Sordd heb ddymchwel i'r gagendor hagr. ir oeaa Tom druan-o i mewn wedi cael cy- maint o fraw nes methu gwaeddi petase hynny yn rhyw gymorth iddo. Erbyn hyn yr oedd yr hogyn wedi dod o'r cae, ac wrth fethu gweld ei gert, dechreuodd lefain yn uchel oherwydd ei golled. Ataliwyd y chwarae, a hawdd oedd cael digon o wirfoddolwyr i geisio ei ddwyn o'i drybini, a buan y gwnaed hynny pan gafwyd y gert. Ond ni feddyliodd neb am agor y drws i weled beth oedd ynddi. Yn dra flodus i'r bachgen arall, yr oedd rhai o lanciau ieuainc yr ysgol, yn He mynd i'r cae i chwarae, wedi myned gyda'u cariadau am sgwrs gerdded hyd y ffordd, ac wrth ddod yn ol cawsant gyfaill Tom yn hanner orwedd ar ochr y clawdd yn wylo. Ni wyddent pam,ond canfyddent olion brwydr dost o ryw fath ar ei ddillad a'i ddwylo drylliog. Rhwystrai cnofeydd ei gydwybod i'w dafod lefaru, oblegid credai yn ddiamheuol fod y gert a'i llwvth wedi myned yn bendramwnwgl i'r aton clywai geryddon ei fam, a gwelai wg ei dad, a theimlai losgfeydd gwrymiog y wialen ar ei gnawd trwy ei ddychymyg brawychus. Byr iawn y parhaodd ei daw- edogrwydd, yr oedd Tom yn rhy agos at ei galon i fedru colu'r gwirionedd yn hir, a chyf- addefodd y cwbl. Rhedodd yr ieuenctid i gyfeiriad y bont, i chwilio am y gert a'i llwyth; ond erbyn cyrraedd, gwelent holl aelodau r Ysgol yno o'u blaen, a Thorn bach ynghanol y dyrfa, wedi ei ryddhau o'i garchar yngan thywyll, heb fod rhyw lawer gwaeth ar ol l w ofnau gilio. Ni dderbyniodd yr un o'r ddau fachgen gosb, oblegid yr oedd y ddiangfa gyfyng rhag perygl mor fawr ac agos wedi ysbeilio cariad o'i gerydd. Nid oedd y cyfan ond cynnyrch direidi plentynaidd ar drip Sulgwyn yr Ysgol Sul.
UNWOGION Y NEUADD LWYD. I
UNWOGION Y NEUADD LWYD. I DADORCHUDDIO COFGOLOFN. Daeth y Neuadd Lwjd i sylw yn gyntaf fel canolfan addysg, ac y mae i hen ysgol Neuadd Lwyd le amlwg yn hanes addysg Cymru. Yn ol y traddodiad Ileol, codwyd yr Ysgol tua'r flwyddyn 1746,ac yn ol yr arfer y pryd hwnnw, defnyddiwyd yr ysgol hefyd i gynnal cyrddau crefyddol. Gerllaw, ym mhlwyf Ciliau Acron, yr oedd Eglwys Ymneilltuol gref tan ofal y Parch. Philip Puw, a thua'r fl. 1760 penderfynodd cynulleidfa Neuadd Lwyd ymuno ag Eglwys Ciliau Aeron er mwyn man- teisio ar fugeiliaeth Philip Puw. Eithr cyn marw PhilipPuw, aeth rhan helaeth o'r eglwys i gredu yn nysgeidiaeth Armin, a'r diwedd a fu i'r gynulleidfa ymrannu, yr Arminiaid yn aros yng Nghiliau Aeron, a phobl yr hen gredo yn ymuno'n eglwys gryfach yn Neuadd Lwyd. Yn 1795 daeth Thomas Phillips o Bencader, efe ar y pryd yng ngholeg Homerton, yn weinidog ar yr eglwys, a chyda'i ddyfodiad ef yno y cododd Neuadd Lwyd i sylw Cymru. Yr oedd yn bregethwr hyawdl ac yn ysgolhaig gwych, a chyrchai pobl o bob ewr i'w wrando bob Saboth. Ac o Neuadd Lwyd y cychwyn- nodd y ddau genhadwr cyntaf i Fadagascar, sef oedd y rheiny David Jones a Thomas Bevan. F„'u hord, iniwyd gyda brwdfrydedd anghyffredin, a chyraeddasant faes eu cen- hadaeth yn nechreu'r flwyddyn ganlynol. Bu gwraig David Jones a'i phlentyn by chan farw cyn cyrraedd Madagascar, ac yn lonor 1819 aeth angau a Thomas Bevan a'i briod ifane. Ymegniodd Dafydd Jones tan ei faieh trwm hyd y bu raid iddo yntau, ymhen ychydig flynyddoedd, adael yr ynys oherwydd rhwystrau swyddogol, a cheisio Uoches ym Mauritius tan ei farw ym Mai, 1841. Y flwydd- yn ddilynol, yn Rhagfyr 1842, bu farw Dr. Phillips, yn Neuadd Lwyd, ac a'i dilynwyd gan William Evans, un o fyfyrwyr yr Athrofa. Yr wythnos ddiweddaf, buwyd yn dad- orchuddio cofgolofn iddynt, a chofgolofn hardd yw hi, yn bymtheg troedfedd o uchter, a llun angel wedi ei gerfio'n gain arni. Ceir y manylion canlynol yn ysgrifenedig ar y golofn: Colgolofn i Enwogion Neuaddlwyd Parch. Thomas Phillips, D.D., 1746-1842. Enwog fel pregethwr, sylfaenydd eglwysi, athraw coleg, esboniwr, ac emynydd. Hunodd Rhag. 22, 1842, yn 70 oed. Parch. William Evans, 1835-1896. Cadarn yn yr Ysgryth- yrau a gwr sanctaidd Duw. Hunodd Rhag. 22, 1896, yn 87 oed. Ar yr ochr chwith i'r golofn, coffheir y cen- hadon Cenadon cyntaf Madasagcar, aelodau o'r Eglwys hon, Parchn. David Jones a Thomas Bevan a'i briod, Mary Bevan. Glaniasant yn yr ynys Awst 18, 1818. Hunodd Thomas Bevan, Ion. 31, a Mary Bevan Chwef. 3, 1819, ill dau yn 23 oed. Hunodd David Jones ar ol llafurio am 23 mlynedd, Mai 1, 1841, yn 45 oed. A defaid eraill sydd gennyf, y rhai hynny sydd raidti mi eu cyrchu." Ac ar yr ochr dde i'r garreg, ceir rhestr y gweinidogion a godwyd yn yr eglwys:- Michael Jones, Bala David Davies, Pant-teg, Caerfyrddin John Rowlands, Cwmllynfell Thomas Lewis, Pwllheli John Davies, Glandwr, Penfro Evan Will- iams, Penycae John Phillips, Trewen James Davies, Bwlchyffridd, Maldwyn John Davies, eto David Evans, Meifod David Phillips, Cana, Caerfyrddin Griffith Thomas Evans, Penygraig, eto Benjamin Phillips, Tynygwndwn: Francis Evans, Alverstone David Evans, Pantycrugiau. Daeth llawer iawn o bobl ynghyd i weld y dadorchuddio gan Syr Edward Anwyl, a chafwyd anerchiadau diddorol ganddo ef a nifer o weinidogion y cylch. Codwyd y gof- golofn ar draul o ddeucant a hanner o bunnau, wedi eu cyfrannu ganYmneilltuwyr yn bennaf