Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

fo Big y ILleifiad.I

News
Cite
Share

fo Big y I Lleifiad. Wedi blynyddau o ymgodymu a'i phwn,wele Eglwys Annibynnol Martin's Lane, Liscard, heb ddiraai o ddyled. A dyna beth braf, I eglwvs ac aelwyd. Beth amssr yn ol, cafodd Mr. Robert Evans, un o r diaconiaid, ar ei galon i gynnyg, OF casglai gweddill yr aelodau ganpunt eydrhyngcidyrit, y cyfrannai yntau weddill v ddyled-sef £200 0 I' £300- ei ban i gyd. Derbyniwyd yr her rasusol ar un gwynt, dechreuodd y gweinidog (y Parch. T. Price Davies) a Mr. E. Griffiths (trysorydd yr Eglwys) roi'r trefniadau easglu ar y gweill a'r Saboth di- weddaf, dyma hysbysu o'r Set Fawr fod £ 100 /15 /G bellach mewn Ilaw fod rhagor o roddion wedi eu haddo ae fod rhan fawr or canpunt wedi ei gael drwy chwechau a sylltau parod y plant, yn ogystal a thrwy goronau a banner c'ronau'r genethod gweini sy'n wastad mor ewyllysgar. Costiodd y tir a'r adeil- adau rhwng pedair a phum mil o bunnau cyfrannodd Mr. Evans symiau breision o'r blaen, ac wele fo bellach wedi coroni'r ewbl drwy ddeffro'r eglwys i daflu baich ei dyled am byth oddiar ei gwar. Ym Mhrestatyn, ddydd Merchcr diwedda-f' eleddid gweddw'r diweddar Mr. R. W' Roberts, fu'n flaenor am flynyddau yn Eglwys M.C. Rock Ferry, ac a drigai wedi hynny yn Waterloo ac ardal Laird Street, Birkenhead, ae oedd yn frawd i Mr. J. E. Roberts, Haldane Avenue. Yr oedd Mrs. Roberts yn wraig o gynheddfau cryfion, ac a'u cysegrodd yn ewyllysgar i wasanaethu ei Cbeidwad fel athrawes yn yr Ysgol Sul ac yn y blaen. Gweinyddwyd yn yr angladd gan y Parchedig- ion Dr. Jones-Parry, Ben Williams, Peter Jones, a F. Wynne a rhoed gair da i'w ffyddlondeb gwastadol a.'i cbymeriad di- lyehwin. Yr oedd Mr. H. E. Williams, Anfield Road, yn claddu ei frawd ddydd Mawrth yr wythnos hon, sef Mr. Wm. Williams, fferm y Ty Du, Beaumaris. Yr oadd yn agos i ddwy a phed- war ugain oed, ac eto mor gartrefol fel na fu erioed o'r ardal. Daw gair pellach amdano yn y rhifyn nesaf. •o- Cafodd y bardd beth rhyfedda.'i ops drwy'r post v bore o'r blaen, sef darn o bren noeth, heb vr un amlen amdano, rhyw bedairmod- fedd o hyd wrfch dair o led Hen Nodiant darn o alaw Gymreig wedi ei ysgrifennu arno, a chainc galed ynghanol y pren ac wedi sbio amo'n syn, ac yna chwerthin yn goeglyd dros y lie, Both yw'th rad rodd i Fadryn" ?—nid caine Ond cainc ar y delyn [goed HofEa ef-a thorrir ffyn Ar dy warr, y dihiryn, ebe'r bardd. + Y mae'r pwyllgor caredig a diwyd a hwyl- iodd y cyngerdd diweddar ymhlaid gweddw Mr. John Henry, R.A.M., yn foddlon iawn ar ffrwyth eu hymdrech. Cafwyd rhai ugeiniau o bunnau o elw a dymunant ddiolch yn y modd cynhesaf i bawb a'u cefnogodd i gyrr- aedd amcan clodwiw'r cyngerdd. -< z 'Does dim y dylai'nhieuenctyd fod yn fwy gofalus wrth ei drefnu nag ymfudo, canys y mae cyniter o fleiddiaid barus am bunt yn barod i'w blingo'r cyfle cyntaf. Gwyliant yr ehud a'r anglayfarwydd, a dyfeisiant bob cast a dichell i'w pluo o'u pros. I ymogel rhag- ddynt, y mae Cyngor Cenedlaethol Cym- deithas Y.M.C.A. y deyrnas wedi cychwyn Adran Ymfudo ynglyn a'u gwaith, ac o ym- gynghori a'u goruchwyliwr lleol, lie bynnag y byddoch, chwi a gewch wybod yr holl fanylion —a'r rheiny'n fanylion cywir ac nid celwydd- og—am bobman y byddoch a'ch wyneb arno. Fe'ch bwciant i bob man, a hynny heb godi ceiniog o dal am y gwaith. Cynorthwywyd a chyfarwyddwyd cynifer ag ugain mil o bobl yn y ffordd hon y llynedd yn unig ac ymhol- ed y rhieni neu'r ieuencitd eu hunain ag ysgrifennydd Y.M.C.A. y ddinas lie bydd- ont, neu os na byddo yno sefvdliad folly, ah- fonwch at Mr. Adam Scott, Sec. Emigration Dept., National Council of Y.M'.C.A.'s, 13 Russell Square, London, W.C. Anrhegwyd Dr. A. G. W. Owen a'i briod a thray arian hardd ar ddiwedd y seiat yng Nghapel Laird Street, nos lau ddiweddaf, ar eu dychwcliad o'u mis mel ar y Cyfandir. Cyflwynwyd hi ar ran aelodau'r eglwys gan Mr. Owen Jones caed gair hefyd gan Mri. Wm. Thomas, J. Morgan, Wm. Jones, n. J. Griffiths cydnabuwyd eu caredigrwydd gan Dr. Owen, a chaed gair byr, tan deimlad dwys, gan Mr. David Evans, Cynlais, tad Mrs. Owen. Chwith clywed am farwolaeth Mr. Richard E. Williams, Mai'r lOfed, yn Nwyrain Affrica, o glefyd marwol y malaria. Yr oedd yn bedair a deugain oed yn cartrefu yng Nghefn Maesoglan, Gaerwen, Mon, cyn ymfudo i'r wlad bell ddechreu'r flwyddyn hon yn ail fab y diweddar Mr. Rd. Williams, Elm Bank ac yn frawd y Parch. T, J. Williams (Oreigfab); Rock Ferry. + Enillodd Mr. Rd. Hughes, Churchill Avenue, Birkenhead, gadair arall yr wythnos ddiweddaf, sef yn Eisteddfod Pontrobert, Sir Drefaldwyn, ameigyfansoddiad ar "Y Gwlad-" garwr." Llew Tegid oedd y beirniad rhoes air da i ramant y gan a dyma'i bedwaredd .cadair bellach. Dyma raglen testyna.u Eisteddfod y Twr, New Brighton, ar y bwrdd, ac ynddi gyfle da i'r corau cymysg, a'r corau maibioa o'r corau plant, a phartion y garl- ystum a phobl yr unawd a'r adrodd i ddangos eu camp a .ChlPlO I' gwobrwyon da a gynhygir. Medi'r 14eg nesaf y'i cynhelir hon fydd y bedwar- edd Eisteddfod ar ddeg pan ddelo a Mr. Llew Wynne a'i hwyliodd i hafan llwyddiant bob blwyddyn o'r cychwyn hyd yri. awr. -90 Son am gar., ystum (action song), clywais fod gwraig un o feirdd Bootle yma wrthi'n gwneud un Gymraeg. Ac y mae eu heisieu, canys 'does nemor ddim a graen wrnynt i'w cael yn yr hen iaith. I'r Mabinogion yr aeth hi am ei thestyn. Eithaf cloddfa a phe cai hi 'r plant a'i Thylwyth Teg wedi eu gwisgo banner cyn hardded a Rhiannon neu Olwen, fe dynnai eu dillad Jond y neuadd, heb son am eu canu. Y mae Mr. Ernest Hywel Jones, mab y Cynghoiydd Henry Jones, Y.H., wedi mynd drwy arholia-d terfynol y Surveyors' Institution yn llwyddiannus, a gynhaliwyd y dydd. o'r blaen yn y Brifddinas. Lleinw swydd ar hyn o bryd ynglyn fig Adran y Prisio Tir. I fyny a fo.  o f y nii(?,c'-i, Pini-  go d( l ,,7t v-?i eich ofynnoch am sylw pregeth go dda yn eich rhifyn diweddaf. Dyma un, o bregeth y I arch. Iobert Roberts, Colwyn Bay, ym mhwlpud Laird Street y Sul diweddaf :— Yr ydym yn byw yn rhy gyflym. Cenedl ar fynd ydym. Nid oes digon o aros ar yr c-.(-Iwydyd- Y mae'r tad mewn pwyll- gor, a'r plant yn sbio ar y lluniau byw. A ydym yn peidio a dweyd gormod wrth "Dduw, yn lie gwrando mwy beth a ddywed Duw wrthym iii. Yr eiddoch yn gywir, R.J.G. Clywais i Bwyllgor Birkenhead gael deg punt ar hugain o elw o'u Heisteddfod Dywllun y Pasc diweddaf. Gorchest go dda. Clywais hefyd fod cyfarfod o Gymry Lerpwl i gael ei alw ynghyd ddechreu r mis neasf, i roi cyfle iddvnt ddangos eu cefnogaeth i apel eu brodyr yn Birkenlwad am, Eisteddfod Genodl- aethol 1916. -> Bu Miss Nellie Lewis, A.R.C.M., a'i macwy- aid yn cadw cyngerdd yn Crane's Assembly Rooms, Scotland Road, nos Fercher ddi- weddaf, a danghosai lluosowgrwydd a brwd- frydedd y dyrfa mor fiasus oedd yr arlwy gan, a chymaint o 61 medr yr athrawes fwyn-fedrus oedd ar y disgyblion. Cafodd y rhain arddel- iad arbennig ar y piano Miss Nellie Collier, Maud Gittins, Alwena Roberts, May Laxnble, Marjorie Cowley; a'r rhain ar ganu :—Misses Rita Jordan, Alice Harry, a Mabel Roberts. Campus oedd y rhan ganau hefyd at ei gilydd; a'r cwbl yn bur dda, ac ystyried mai dyma u cyngerdd cyntaf i gyd gyda'i gilvdd. Dang- hosodd y macwyaid eu serch a'u syniad uchel am eu hathrawes drwy gyflwyno cadwen (clwin and pendant) hardd iddi. (Jynorthwy- wyd gyda'r cyfeilio heno gan Miss E. Ellis, A.L.C.M., Gwvr Lerpwl a Gogledd Cymru yn dda am allu Miss Lewis fel cyfeilydd a dat- ganydd, ac mor ddirodres a thrwyadl y hi gyda 910peth a wna.

Advertising

I DAU HJ R AFON. I

Pwt o Lundain.I

I Basgedaid o'r Wlad.

ODDICARTREF.