Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
. Y Gymanfa Gyffredinoi.
Y Gymanfa Gyffredinoi. Ejsteddiadau Bootle. DAW Cvmania Gyffredinoi y Methodistiaid Calfinaidd i Lannau'r Mersey bob tair blyn- edd ac yn Eghvys Stanley Road, Bootle, y'i eroesawir y vvaith hon. NOS LUN. Dechreu gyda Dirwest.—Rhifa'i chynrychiol- wyr tua 260, a dechreuodd y cyrddau cy- hoeddus sydd ynglyn a hi gyda chyfarfod dirwest nos Lun. Y Parch. 0. Lloyd Jones, M.A.,B.D. (gweinidog yr eglwys) yn y gadair y Parch. J. D. Evans, M.A., Pont y pridd (Catharine Street gynt) yn cymeryd lle'r Proff. Levi, Aberystwyth—efe'n cael ei luddias rhag bod yn bresennol. Caed anerch iad Saesneg feistrolgar gan Mr. Evans, ac un Cymraeg ar ei ol gan y Parch. Thos. Jones, Rhostyllen, yn Ilavrn gwres a difrifoldeb. Diolchwyd i'r dclau ar gynhygiad y Parch. J. Hughes, M.A., Fitzclarence Street, a'r Parch James Jones, Croes y Waen (ysgrifennydd yr Undeb Dirwestol). NOS FAWRTH. Galw'r Enwa?t.-Dechreuwycl yr eisteddiad cyntaf am 6 ar y gloch, drwy alw enwau'r cynrychiolwyr. Cwyn Coll.—Coffhawyd am y brodyr ym- adawedig a ganlyn :-O'r Gogedd--y Parchn. Ed. Jerman, Ruthyn David Pierce, Llan-, santffraid Griffith Ellis, M.A., Bootle T. Rees Jones, Liverpool I. Jones Williams, Llandderfel R. Ceinwenydd Owen, Liver- pool Robert Griffith, Fflint; Evan R. Jones, Machynlleth Mr. Thomas Jones, Gronant, Sir FP-int. O'r De—y Parchn. Wm. Jones, Aberystwyth David Oliver, Twr gwyn Robert Salmon, Llansadwrn Thos. T. Morgan, Garn William Davies, Merthyr ichard Morgan, Tonyrefail Benjamin ewis, Tenby Benjamin Phillips, Pontfaen fohn Thomas, Llansamlet Thomas Powell, Pencae, Aberafon John Oliver, Ysbytty David Jones, Aberffrwd J. T. Davies, Caer- salem, Pant y ffynnon Mr. Edward Howells, Merthyr Mr. Albert Davies, Graig. Y r Unol Daleithiau y Parchn. R. H. Owen. Oregon City; John T. Evans, Arvonia, Kansas William R. Evans, Ohio John R. Jones, D.D., Columbus, Ohio. Galw'r Enwau.—-Deeiireuodd yr Eisteddiad cyntaf am 6 ar y gloch, drwy alw enwau'r cynrychiolwyr. ] ;;é Wrth ddewis swydd-ogion.—-Pan aed i ddewis llywydd dyfodol i'r Gymanfa, cafodd y tri hyn fwyafrif y Parchn. O. Owens, Llanelwy J. Owen, Lerpwl a Mr. Edward Jones, Maes mawr. Yn yr ail bleidlais, cafodd y Parch. O. Owen a Mr. Edward Jones fwyafrif yn y drydedd, cafodd y ddau yr un nifer, a rhoes y llywydd IW wydd (y Parch. Rees Evans) ei bleidlais-droi o du'r hynaf o'r ddau-y Parch' O. Owens. Dewiswyd y Parch. J. Owon' Caernarfon, yn ysgrifennydd,—efe'n cae mwyafrif yn yr ail bleidlais ar y Parch. R' Aethwy Jones, M.A., Newsham Park. Ail ddewiswyd Mr. J. H. Davies, M.A., yn drysorydd. Wrth GiUo o'r Oudair.-Cododd y Parch. J. Williams i draddodi ei anerchiad wrth ado'r Gadair fe'i gwelir air am air ar tudal. 4 a 5. Cyn dechreu ar ei anerchiad, sylwodd Mr. Williams eu bod bellach yn dathlu Jiwbil y Gymanfa Gyfiredino], ac fod yn falch ganddo weled un brawd yn eu mysg heno oedd yn bresennoi hefyd yng nghyfarfod cynta'r Gymanfa hanner can mlynedd yn ol, sef yr Hybarch Ddaniel Rowlands, M.A., Bangor (cymeradwyaeth uchel). Wedi gorffen, ar ol awr o draddodi grymus, galwodd ar ei ddilynydd, sef y Parch. Rees Evans, Llanwrtyd, i gymeryd ei le. Diolch- wyd i'r cyn-lywydd am ei draethiad rhagorol gan y Parch. J. Morgan Jones, Caerdydd, a'r Prifathro Prys, M.A., Aberystwyth. Diolch- wyd hefyd i'r cyn-ysgrifennydd, y Parch. T. C. Williams, M.A., gan y Parch. J. Gwynoro Davies a'r Parch. J. Morgan, Garn ac i'r trysorydd, Mr. J. H. Davies, M.A., Aber- ystwyth, gan Mr. James Venmore, Y.H., a I Mr. S. N. Jones, Casnewydd-ar-Wysg. Y Croesawyr.—Y rhain groesawodd y Gy- manfa Gyffredinol fel cynrychiolwyr Eglwysi Rhyddion Bootle :-y Parch. J. W. G. Ward, Pedr Hir, Mri. W. J. Bird, C. Kerr, a R. Vaughan Jones. Dowch i Lundain.—-Yn y Brifddinas y cyn" hclir y Gymanfa'r flwvddyn nesaf, canys n1 fu hi ddim acw ers ugain mlynedd," ebe'r Parch. M. H. Edwards (Camberwell) wrth ei gwahodd..|%i Daw hanss gweithrediadau Dydd Mercher a Ddydd Iau yn ein rhifyn nesaf, ynghyda syniad hwn ac aral* am y Gymanfa drwyddi draw, --0-
Gyhoeddi Eisteddfod Mon.
Gyhoeddi Eisteddfod Mon. I ME',RIONI. I I [Y? OL DEWI MEIRION]. YN Rhosneigr—Y dreflan fechan brydferth ar lan y mor, sy'n prysur ermill sylw ymwelwyr wrth y miloedd-y cynhelir Eisteddfod Mon y flwyddyn nesaf a heddyw (dydd Mawrth, Mai'r 26ain) daeth tyrfa fawr ynghyd i'r Cyhoeddi. Yr oedd yn ddiwrnod hafaidd a braf, yr wybren yn glir a'r ehedydd wrth ei fodd yn esgyn i fyny o'r rhosydd, ac yn arllwys ei gan o'r uchelder. Ffurfiwyd gorymdaith o Draeth yr Odyn i'r Fron Dog, lle'r oedd cylch naturiol—o waifch y Tylwyth Teg, mae'n debyg-yn aros y Beirdd. Y Rhingyll Carnisog ofalai am drefn yr orymdaith. Archodd Llew Llwydiarth—Cofiadur carrdig a-ffyddlon Gorsedd Mon—ar i'r Beirdd wylio pob un ei faeu, a chanodd Owen Thoma,s y Corn Gwlad, i gael tawelwch i ddechreu. Y cyfarwydd a'r ft'raeth Lewis Hughes, Y sw. (Trygarn), Amlwch, oedd y Derwydd Gwein- yddol, a chan ei gyfarwyd'dyd ef agorwyd yr Orsedd. Offrymwyd y weddi yn weddaidd a defosiynol gan yr hybarch Ganon Tref or, a'i wallt gwyn a'i olwg ddwys yn taflu urddas dros yr oedia. Pethau'v clust a Phethau'r Llygad. Wedi caine fir y delyn gan D^lynores Gwyn gyll, ynghyda chanu penhillion gan Owain Cybi, galwyd ar yr Athro S. J. Evans, M.A., Llangefni, i annerch y dorf ar Lenyddiaeth Oyrnru Fydd. Dyma rediad ei araith pum celf gain, dwy sydd wedi eu datblygu yn arbennig yng Nghymru. Rhennir y celfau cain yn dair i'r llygad—Arluniaeth, Cerflun- iaeth a Phensaemiaeth, a dwy i'r glust- Cerddoriaeth a Barddoniaeth. Y ddwy i'r glust sydd wedi eu datblygu gennyrn ni'r Cymry. Pam ? Gellid nodi llawer pam. Rhesymau mewnol ac allanol. Dyma resymau allanol Celfau drad iawn i'w datblygu yw'r rhai a alwyd yn Ddosbarth y Llygad; gofynn- ant am lawer o aur ac amser, ac ni fu gan y Cymry gynt lawer o'r naill na'r Hall. Yng Nghymru dlos, ni theimlid angen am y twr tal, ar deml hardd, i roddi amrywiaeth i'r olygwedd, ac i gadw'r llygad rhag blino ar syllu ar y gorwel. Y mae Naturwedidarparu yn helaeth mewn amrywiaeth golygfeydd ar- ddunol i ni yng Nghymru, a'r ddarpariaeth wedi digoni dyhead y Cymro yn y cyfeiriad yna. Wedi'r cyfan, mae'n debyg mai yn natur y Cymro (oddifcwn ac nid oddiallan) y mae'r rheswm pennaf am ei hoffter o gelfau cain y Glust yn anad rhai y Llygad ac oher- wydd hyn, y mae'n weddol ddiogel casglu mai'r cldwy yma—Cerddoriaeth a Barddon- iaeth-ddatblygid fwyaf eto yn y dyfodol, fel yn y gorfiennol, yng Nghymru. Cyfeiriodd Mr. Evans at y deffroad ynglyn i'r Ddrama yng Nghymru, a cbymeradwyai ei chefnogi ond gwylio yn fanwl am i'w datblygiad fod ar linellau chwaethus a theilwng o urddas a mawredd ein breintiau a'n cyfleusterau. Rhoddodd air o gyngor i'r rhai sydd yn ysgrif- ennu dramodau yng Nghymru a chyda llaw, datganodd ei syniad fod y ddawn a, ddanghosir i chwarae drama yn tra rhagori hyd yma ar y ddanvn, iysgrifennu drama. A'i gyngor i'r ys- grifenwyr oedd hyn- cofloriad cyfres o firaeth- ebion wna ddrama, ond astudiaeth o elfennau datblygiad cymeriad. Astudio cymeriadau gwerth eu hastudio, dyna esgor ar Ddrama deilwng. Gyda golwg ar ddyfodol barddon- iaeth Gymreig, credai fod dydd y Mesurau Caethion (ac eithrio yr englyn) ar ben. Cymeradwyai i'r Beirdd ganu yn y mesurau rhyddion, ac efelychu Ceiriog ac Ann Griffiths a Phantycelyn yn eu dewisiad o fesurau. Dyma fath ar ganu sydd yn cario dylanwad dwfn ar fywyd cenedl. Wedi'r araith alluog hon, caed cyhoeddiad gwych o ffurf swyddogol y rhybudd o Eis- teddfod Rhosneigr y flwyddyn nesaf, gan y Cofiadur Llew Llwydiarth, a clarllenodd Mr. R. H. Jones nifer o brif destynau'r Eisteddfod honno. Yn nesaf, galwyd ar Caerwyn ymlaen i goffa Berwron, yr hyn a wnaeth yn hynod o effeithiol. Caed penhillion tlws o goffa gan Owain Cybi (gyda'r delyn), ac adsain o sylw^Caerwyn am gymeriad y gwr ynddynt Gwell na marmor ar ei fedd Yw rhinwedd ei gymeriad. a -'?. „ Chofio ffrwd ei eiriau ffraeth, -t Bar hiraeth am Berwyron. Mr. W. S. Owen (Gwilym Oybi) alwyd i fyny i ben y Maen i draddodi annerch ar Gardd- oriaeth Cymru Fydd." Traddododd anerch- iad gwresog a nerthol, yn cymell mwy o ymdrech yng Nghymru i ddatblygu mwy a mwy ar y ddawn gerddorol oedd mor amlwg yn y Cymro. Gofidiai y rhaid cydnabod nad oedd y cynnydd yn gyfatebol i'r manteision yn ein hanes, ac fod Canu Cynulleidfaol, er eng- hraifft, ymhell o fod yr hyn a ddylasai fod, gyda'r organau heirdd a drudfawr sy' mown llawer 110. I Ynghanol y beirdd—dyna lejbraf! I Bellach, dyma gyfle'r beirdd i annerchVedi dod, a gwelwn yn y cylch lu o'r Beirdd :— Trygarn, R. Mon Williams, Alaw Fardd, Odwyn, Cybi Felyn a Seiriol Wyn-(a'r ddau, fel eu hynafiaid gynt, yn hen ffryndiau, ond fod y ddau erbyn hyn ynfelyn,wedi mynd i fyw i'r un dref, ac yn wyneb haul "). Derlwyn, Gwilym Einion, Dd. Owen, Awen Mona, -peiiiiol Fychan, Rhuddlad, Telynor Trevor, J. W. Huws, Ap Ncigr, y Parchn. J.R.Owen, G. R. Hughes, D. J. Howel, ac R. E. Davies. Hefyd Ap Huwco, Gwilym Owen, etc., etc. Caed niter mawr o anerchiadau barddonol, a'r cwbl yn dda, end ambell un ffraeth ac yn cyrracdd ymliellach na'r glust. Gellir meddwl fod cyngor yr Athro S. J. Evans i'r beirdd ganu yn y Mesurau Rhyddion eisoes wedi dechreu dwyn ffrwyth. Yn y mesurau hynny yr oedd y rhan fwyaf o'r anerchiadau, ond ai WEDI anerchiad yr Athro y cyfansodd- wyd hwy sydd amheus. Dyma i cliwi eng- raifft :—• Icuainc, iraidd yw'r Eisteddfod, Fel y gwanwyn yn y coed, A'n Heisteddfod yn Rhosneigr Fydd y fwya'n Mon erioed A oes rhywun heddyw'n ameu ? Wei, doed iddi bawb drwy'r Sir, A cheir gweld fy mod yn broffwyd Sydd yn medru dweyd y gwir. Dydd cyhoeddiad yr Eisteddfod i Hapus ddydd a'i fri ar daen Cymru'n gyfan ddylai wybod Yma bydd y mor o'i blaen 0 dan drem y Llew mae'r meini, Ni bu Llew mwy fteind erioed A'r Archdderwydd doniol Trygarn Sydd fel llencyn deunaw oed. Mynydd Twr—o'r ochr yma, Fydd yn gwylio'n 'Steddfod ni O'r tu arall-bydd yr Wyddfa Yn llygadu ami hi Synnwn ddim na ddaw yr lanci Yma i weled ar ei hynt 'Steddfod Mon yn cael fath groeso, Fel yng nghartre'r mor a'r gwynt. Deg frenhines hoff y delyn Ddaeth o Lanfair—yr enw mawr Hwy na'r enw yw ei chlodydd,- Clywch ei pheraidd dant yn awr Wrth ei Haw mae Owain Cybi, Ac mae'i lais mor g]ir a'r gloch, Yng nghyhoeddiad ein Heisteddfod Ar y lawnt gerllaw'r Fron Goch. Ap Huwco. Orsedd hygar sy ddlogel,-i-iodded oruchel Ei hanes hoff dania sel Ei beirddion i'w byw arddel.-DERLWYN. Doniol anghyffredm oedd penhillion Gwilym Einion gwelai Natur o'n dertln haul gwanwyn yn gwenu, Yr oil yn awgrymu llawenydd a llwydd Diangodd pob ellyll dros greigiau y Grigyll, I'r eigioi), ni feiddiant ymgynnull i'n gwydd; Y gwichiaid estynant eu pennau o'r cregin, Ehedeg gan drydar wna'r adar o'r coed A neidia'r cwnhingod o'u teiau'n y tywod, Er mwyn gweld Eisteddfod tro cyntaf erioed. Ac meddai Meirionfab :— Aelwyd y gordd, gwlad y gog," Yw ynys Gronwy enwog. Lluniaeth a Hwyl* I Trwy garedigrwydd y Pwyllgor Lleol, dar- parwyd lluniaeth i'r beirdd mewn ystafell gyfleus, ac ni raid dweyd fod y te yn felys a'r cwmni'n ddiddan. Rhyfedd y swyn sydd i'r beirdd yng nghwmni ei gilydd-po rhyfedd hefyd. Erbyn cofio, ceir llawer dihareb yn arwyddo fod sylwadaeth y gorffennol wedi canfod fod yn naturiol i rai o gyffelyb duedd- iadau hoffi cwmni ei gilydd, megis Adar o'r unlliw ehedant i'r unlle." Clywsom ddy wedyd y byddai Islwyn fawr, pan ai i Gyfarfod Misol neu Sasiwn, yn debyg o gael o hyd i rai a'r ias farddoni ynddynt (er ymhell islaw iddo ef), ac y byddai y duedd.honno oedd yn gyffredin iddynt yn pontio'r pellter rhwng eu cyffredinedd hwy a'i athrylith ef, ac y byddont yn ben ffrindiau. Oes, mae rhyw swyn yng nghwmni pobl yr awen, dywedwch chwi a fynnoch, ac waeth faint o droion trwstan sydd yn eu hanes, ac y mae llawer,chwedl Ceiriog, Un trwstan o'i febyd i'w fedd, A siwr o wneud popeth yn grcies.- waeth i chi prun, mae rhyw allu ganddynt i weled ymhellach i'r anweledig na neb arall, a hwy sydd yn cludo i ni'r cyffredin weledig- aethau'r delfrydau nefol, ac yn codi awydd ynnom i ddringo atynt. Dawn bennaf Duw i'n byd," meddai y diweddar Brifathro Thomas Charles Edwards, yw dychymyg y bardd. M-wn wedi ei goethi a'i buro, a'i feddiannu gan Ysbryd Duw, fu'r cyfrwng goreu i Dduw ddatguddio Ei Hun i'n byd, cyn ymgnawdoliad ei Fab." Pe/iderfynwyd ffurfio Cymdeithas o Feirdd Mon," a'u bod i gyfarfod i drefnu'r peth yn fanylach ddydd Mawrth nesaf yn Llangefni. Rhowch sylw'r Prifathro o'r Bala yn arwyddair i'ch Cym- deithas, Feirdd Mon, i sicrhau nod teilwng i'ch ymdrech ion. Diolchodd Trygarn ar ran y beirdd i'r pwyllgor Ileol am eu darpariaeth, ac atebwyd gan Mr. Jones, llywydd y pwyllgor lleol. Amlygwyd peth anfoddlonrwydd ynghylch y trefniant gogyfer a'r Beirdd yn Eisteddfo d Llangefni, ond wedi apel garedig a doeth gan Trygarn, Gwilym Einion, a W. S. Owen, cytunwyd i adael o'r neilltu ar hyn o bryd bob trafodaeth allai beri oerfelgarwch cydrhwng Pwyllgor Llangefni a'r Beirdd—gan ymddir- ied y bydd Pwyllgor Llangefni yn gweld yn ddoeth ohirio cario i weithrediad unrhyw gyfyngiad bwriadedig ar hawliau'r Beirdd nes y ceir cyfie i wrando yn fanylach o'r ddeutu, Ymadawyd mewn Heddwch," a phawb yn cyduno i ewyllysio llwyddiant i Eisteddfod Llangefni y Llungwyn yma, ac i Eisteddfod Rhosneigr y Llungwyn nesaf. -0
Family Notices
MARW. WILLIAMs-Yn ei gartref genedigol, Ty du ffarm, Beaumaris, yn 82 mlwydd oed, William Williams, brawd hynaf Mr. H. E. Williams, 94 Anfield Road, Lerpwl, ac Olinda," Beaumaris.
Undeb y Cymdeithasau Cymreig.
Undeb y Cymdeithasau Cymreig. Y modd i ddeffro'r Gogledd o biaid yr Undeb, Adroddiad yr Ysgrifennydd Cyff- redinol yng Nghynhadledd Pont y Pridd Mai 16, 1914. YMDRECHWYD ymhob modd i sicrhau cyn- horthwy oddiwrth rai o Gymry mwyaf blaen- llaw y Gogledd, ond nid oes hamdden gan rai ohonynt, ac nid oes Ilef na neb yn ateb o fannau ereill. Gwireddwyd yn fy hanes yr hen ddywediad, Os am wneud y peth a'r peth, gwnewch ef eich hun." Nid oes dim amdani ond ymafiyd yn y gwaith a'i ddwyn i ben drwy gyfrwng cyfarfcd ynglyn ag Eisteddfod Bangor. Awgrymwn felly mai'r cynilun goreu yw a ganJyn 1. Hysbysebu'r cyfarfod ynglyn a'r Eis- teddfod yn Rhaglen Swyddogol yr Eisteddfod, ar furlenni'r Eisteddfod, gyda chaniatad v Pwyllgor, ym mhapurau newyddion y Gog- ledd ac yn rhai o brif gyfarfodydd ac eglwysi'r Gogledd o hynny hyd adeg yr Wyl. 2. Anfon cylchlythyr yn enw'r Undeb i bapurau Cymraeg a Saesneg Gwynedd, gan alw sylw'r werin at y mudiad ac annog y bobl i ddod i'r cy-iarfod arbennig adeg yr Eisteddfod. 3. Anerchir y cyfarfod, fe ddichon, gaii Syr Edward Anwyl—ein llywydd, Lleufer, Gwynfe, Llew Tegid, J. H. Jones (GoL Y BRVTHON), Dewi Fychan, a'n trysorydd. Baich eu cenhadaeth a fydd amcanion yr Undeb a'n llwyddiant ni yn y De; annoo- gwyr y Gogledd i sefydiu Cymdeithasau ac i godi fel un gwr cyn y goddiweddir hwynt gan lifeiriant Seisnig cyffeJyb i'r un a ddyliia dros Went a Morgannwg. Y mae perygl y Gog- ledd yn cynhyddu, canys y mae Colwyn Bay, y Rhyl, Ijlandudno, a lleoedd ereill, yn gyrch- fannau poblogaidd bron bob cenedl dan y nef. 4. Trefnir llywydd, trysorydd, ac ysgTif- ennydd i Adran y Gogledd, ac anogir hwynt i drefnu pethau yn eu hadran fel y trefnir pethau gennyrn ni yn y De. Penderfyrwnt hwy berthynas Undebau neu Adrannau De a Gogledd. Hawdd fydd i bani t) uno mewn cyfarfod mawr yng]yn a'i Eisteddfod Genedl- aethol os nad e 11 ir ymuno mown mannau canolog ereill yn ystod adegau ereill o r flwyddyn. 5. Taer gymliellir y Gogleddwyr hyiiny--ac y maent yn Ilu mawr erbyn livi-i-sydd ar wasgar yn y De i roddi pob symbyliad i'w hen gartrefi i gefnogi mudiad y Cymdeithasau Cymraeg. Gallant wneud hyn drwy air a gweithred pan, ar ymweliad a'u henfro. Dyna rai cynUuniau i alw'r Gogledd i'r gad. Pwy a etyb yr alwad, neu pwy a n. trosom ? Rhodded pob un help llaw, ac fe unir Cymru dan faner Undeb y Cymdeithasau Cymraeg. Taer gymhellaf holl ddarllenwsnr yr Adroddiad hwn i gefnogi'r Undeb yn ei ymdrech fawr i danio Gwynedd. Pa le mae gwyr mawr y Gogledd ? Pa Ie mae'r beirdd, y llonorion, yr athrawon, y pregeth- wyr a'r cannoc dd cenedlgarwyr a breswylia Wynedd ? Yn sicr nid oes raid iddynt wrth wyr y De i'w d'ffro. Hyderir y sicrheir cwrdd mawr bi wdfrydig ym Mai-igor. Gwnol- ed pob un yr hyn a alio yn ei gylch arbennig ei him, D. ARTHEN EVANS, Ysg. Gyffrfdinol yr Undeb. 15 Somerset Road, Barry.
Advertising
YN Y WASG. CRISTIONOGAETH A CHYMDEITHAS, gau y Parch. J. H. HOWARD gyda Rhagair gan y Gwir Anrhyd. D. Lloyd George. Pris 2 /6 net. Cyhoeddedig gan HUGH EYANS & C ONS. Swyddfa'r 'Brython,' 358 Stanley Road, Liverpool H ARTLEY & Go-, LIVERPOOL, ."1 -Ll J-J 202 I-i ONDON I OAD. SALES BY AUCTION EVERY TUESDAY AND FRIDAY AT ONE, SATURDAY NIGHTS AT SEVEN. VALUABLE HOUSEHOLD FURNITURE OF ALL DESCRIPTIONS. MAGNIFICENT NEW AND SECOND-HAND PIANONORTES, LARGE VARIETY OF BED8TEADS BEDDING, &c, EVBRY NECESSITY FOR HOUSEKEEPING. ATTEND THESE SALES AND SAVE AT LEAST 30 PER CENT. A MAGNIFICENT SELECTION OF SUPERIOR FURNITURE IS ALWAYS KEPT IN STOCK AND ANYTHING MAY BE PURCHASED BY PRIVATE TREATY. GOODS STORED. On view 8.30 a.m. to 9.30 p.m.: Saturday 1 p.m., Telephone 1793 Royal. CONSIGNMENTS (EITHER LARGE OR SMALL OF ANY DESCRIPTION INVITED FOR THESB SALES. BEST RESULT GUARANTEED. W. DAVIES, Conductor, Adludicator, Accompanist. Teacher of Singing* Violin, a Piaajfjrte Terms for Festivals, Concerts, Eisteddfodan. At HAFOD, DEGANWY, N. Wales mm y M. GWERSLYFR I DDOSBARTHIADAU CYMRAEG Wedi eifysgrifennu a'i drefnu dan nawdrt Undeb Ysgolion M.C, Lerpwl, gan OWEN EILIAN OWEN. Pris 4c.drwy Ir posli 5c. I ri Cyhoeddedig yn Swyddfa'r Brython.
MINION MEMAI. ^ .
MINION MEMAI. YN OL MEUDWY'R MOR I SUI. Y SWN.—Pwy mewn tref na hir- aethai am Saboth tawel y wlad. Ffwdanllyd a therfysglyd yw Saboth y trefi ar y goreu, a gwaeth fyth pan ddethlir yr Empire Sunday gan y sawl a gred mewn miri ar y fath. Fore Sul diweddaf, ym Mangor, clywid seindyrf yn gorymdeithio o wahanol gyfeiriadau yn uchel eu sain, a thyrfa fawr o blant yn ou dilyn. Ffurfiwyd yn un orymdaith fawr ar yr heol ger Neuadd y Dref, i orymdeithio i'r Eglwys Gadeiriol, i ddathlu Empire, Sunday, beth bynnag a olyga hynny. EGLWYSWR FEDR BREGETHu.Brynhawn ddydd Iau diweddaf, daeth Esgob Bangor a GWfR Y GADAIR. Y Parch. JOHN WILLIAMS (cyn-Lywydd y Gymanfa). Y Parch. REES EVANS (y Llywydd presennol). Y Parch. O. OWENS (y Llywydd at V flwyddyn nesaf). llu o wyr eglwysig y eylch gydag o i Hirael 1 agor ystafell genhadol berthynol i Eglwys Loegr. Yn yr hwyr, pregethodd Canon Davies (Dyfrig) yn fywiog a nerthol, FEL Y MEDR O—" o'r frest." GAEL EI PRIG I FEWN.—Hysbysir fod Mr. Beriah Gwynfe Evans, Caernarfon, awdur Drama Ysgrythyrol .Esther-wedi cytuno a pherchennog Chwaraedy Bangor i'r cwmni o Gaernarfon ddod i Chwaraedy Bangor i'w pherfformio bob nos am wythnos. Dyma'r tro cyntaf, mae'n debyg, i gwmni Cymreig gael ei logi gan theatrydd proffesedig, i roddi cyfres o berfformiadau, a chlod i Gwmni Caer- narfon fydd cael dweyd mai hwy ddechreuodd, wedi y dejo hyn yn beth cyffredin, fel y daw yn ol pob arwydd a welir heddyw. GWELL GLAJSTFA.—Oeisia CorSoraeth Ban- gor ganiatad Bwrdd Llywodraeth Leol i fentliyea EI,250 er gwnoud glania o goed yn ochr Mon, gyferbyn a Phiar Bangor. Cwynir ers talm oherwydd ystad anfoddhaol y lanfa bresenuol, a bu rhai damweiniau o'r herwydd. --0-
Advertising
A KEY AD GUIDE TO THE WELSH LANGUAGE, or a Welsh-English Dictionary and Gram- mar combined. Text-Book-The Welsh Bible. By Pedr Hir. Cloth, 4s. net. SWYDDFA'R BRYTHON