Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
DRINK OWYftYD l TiEA. The Tea of Old Time flavour.
Advertising
USE KEENOll BN& ?P Nt JB?BBS"?% i??. SEL-F-RAISIPiG FLOUR The ideal Flour for every kind of fancy Bread and Pastry Scones, &c., &c. <'
Advertising
ty B ros U d THE CELEBRATED TAILORS I THE PREMIER LIVERPOOL FIRM FOR Good Class Tailoring.. AT REASONABLE PRICES. I ONLY ADDRESSES: I I London Rd. and Church St., Closed 00 LIVERPOOL. all day saturda.1 Closed on Saturdays. A yw'ch Llygaid yn eich blino? Yw pethau'n troi'n niwlog ac anelwig ? Dyna arwydd a rhybudd llethdod y llygad, a dylech gael eu hedrych rhag blaen eu gwaethygu wna'u hesgeuluso. Gallwn ni gyda'n hoffer gwyddonol ddweyd wrthych os pes arnoch angen gwydrau ac os felly, eich cyflenwi a'f rbai a barai fwyaf o les i 2,, Galwch heddyw: ARCHER SONS. Eyesight Specialists, 73 LORD STREET, Y. I Sefvdlwvd 1848. LIVERPOOL 'Phone-3925 Bank. w. mm & SOB, TAILORS 29 SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL AJLBO AT 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. Real Welsh Homespuns for Golfing and Fishing, 'Phone—580 Bootie Mr. H. W. HELY. I I DANNEDD GOSOD Tyxmu'oh Dant, heb yr ias Isis o boen efo ffordd Lloegr a'r Amerig. PRISIAU CYMEDROL Y oyngor a'r telerau yn rhad ac am ddim Foneddigesau i weini Telir chidiad cwsmeriaid o'r wlad 13 Norton Street, Liverpool (oongl London Road). 0rrinu,-9 i 7. 'Phone, 1436 RoyaL .?  .? b'  :A'i.?f-t'-) t i,xl?  .,? 't%' .M  ?..? .?t; <? COOK & TOWNSHEND. Special Value in ..BOYS CLOTH NG.. READY TO WEAR. Boys' Sports Suits, j f^i In Smart Tweeds Boys' Strong Rugby IO Q^ Suits in dark shades ■ For College wear. Boys' and Youths'  Waterproofs C& J j /Qzj All sixes. Byrom St. & Dale St., LIVERPOOL. KING OF THE MEADOW (Brenin y Maes). A Song for Bass Voice. Yn y ddau nodiant. Geiriau Cymraega Saesneg. GAN JOHN HENRY, R.A.M. AIL ARGRAFFIAD. Is. Swyddfa'r "Brython," Lerpwl. lisk FOR IDRIS Table Waters In Syphons and Bottles. eoo. WATER. POTASH WATER. SELTZER WATER. LEMONADS Bit Y •tNOBR ill, Ito., ato, lfN$& Co., Ud.. co.4 ^drthumbte^and St., L I P 0 0 L j- n' ? x t. M', ROBERTS 6 EDWARDS ESTATE' AGENTS, 64 KirKdale Rd., Liverpool Telephone,: 2193 Royal.
O'R DE.
O'R DE. lOAN ALBAN). I DYMA alw arnom i longyfarch y wasg o Gaer- fyrddin am etholiad John Jenkins, M.A. (Gwili) yn olygydd Seren Cymru, i lenwi cadair a gafodd sylw Russell Lowell yn ei ddydd am fedrusrwydd ei llith ac addfedrwydd ei barn ar gwestiynau pwysig ei hoes a'i thymor. Nid ein lie ni yw helaethu ar briodolrwydd y dewisiad hwn fsl yn argoeli dyfodol diogel, nid yn unig i'r Seren, ond i'r Wasg Gymreig drwyddi draw herwydd os gloywi a wna un papur newydd, fe fydd y cyfryw ddiwygiad i'w ganfod ar ei gyfoed yn brint a 116n. Pender- fynwyd ffawd a chymwysterau Gwili yn yr Eisteddfod Genedlaothol ym Merthyr Tydfil yn 1901, pan dderbyniodd ei goron am y bryddest oreu allan o chwech ymgeisiodd ar Tywysog Tangnefedd. Yn yr un flwyddyn, aeth ei awen ag ef i fro annedwydd o boeth, ac fe ddaeth oddiyno yn ddiasgen a chadair Eisteddfod Meirion yn ei feddiant. Yn ddi- ddadl, gemwaith ei awen firain ydyw ei bryddest, Mair Ei Fam Ef,- E fu dydd ar Walia pan oedd moliant Ifam fy Arglwydd ar bob tafod pur o bob glyn dyrchafai thus addoliant, Ar bob mynydd cofid bryn dy gur. Clywaist fil o erddyganau'r awen Ganfuasai'th dirion fin a'th wedd Pa sawl telyn ganai'th fawl yn llawen Gynt, o lannau Clwyd hyd DdyffrYl1 Nedd ? Hir y deno'th fwynder serch rhianedd, Hir yr wylp'r byd wrth gofio'th glwy' Hir y codo'th fawl fel per gynghanedd,— Ond i fawl fy Arglwydd fod yn fwy. Maddeu i ninnau 'Nghymru, os dypgasom Roi it' leiparch nag a hoffai'r nef Cans ar Fab dy draserch y serchasom, Rhag dy barchu di yn fwy nag Ef. Gad in,' wedi mudan oes, ddynesu I dy wydd a'n hwyrol fawl i'th fri Henffych well, Fendigaid Fair, mam Iesu— -Ave nef a daear fo i ti Tystebwyd ysgolfeistr Treharris, Mr. B. P. Evans, ar ben yr 21 mlynedd o wasanaeth yn y lie. Yr Eisteddfod Bedlinog, Dewi Carno oedd yn tafoli'r cerddorion, a Chrwys a'i linyn mesur ar lenorion ac awenyddion. Cynhaliwyd Uchelwyl yr Annibynwyr ym Margoed, a gweinyddwyd ei phulpud gan Bevan Jones, B.A., Ystrad, ac E. Wern Williams, Hirwaen. Cyfrannwyd papurau gan John Thomas, Pen y wern, Dowla is, ar Ddylan- wad y Cartref yn llwyddiant yr Eglwys, a T. Sirciair Da vies, Merthyr, ar Ddirwest. Trefrwyd y cwrdd nesaf i fod- yn. Aberaman, a nodwyd D. Leyshon Evans, Bargoed, i gymer- yd yr awenau. Ymdriniwyd ar Ddadgysyllt- iad gan D. Wynn Evans, Hammersmith, Llundain James Evans, Caerdydd a Mr. Silas Williams, Casnewydd. Dyry'r Welsh Gazette hanes ystiwdents Coleg Aberystwyth a'u dramodau a chwaraeid ganddynt yn ddiweddar. Ni roddid eu teitlau yn Gymraeg a chan nad oedd un o'r Hwntws yn teimlo ar ei galon roddi adroddiad first-hand i'r BRYTHON, rhaid i ni eich hysbysu taw The Stranger gan D. T. Davies, The Poacher gan J. 0. Francis, The Call of the Sea gan Jack Edwards, ac un a theitl Cymraeg iddi, Y Pwyllgor, oedd y gweithiau a berfform- iwyd. Vs:•. "}i4"1: -i.>, "\i";T, í .i. 0, Aeth Cemlyn i Gymanfa Ganu'r Methodist- iaid yng Nghaerdydd i wrando anthem Meddyliasom, 0 Dduw, am Dy drugaredd a dywedodd Mr. J. T. Rees, yr arweinydd, rywbeth fu'n foddion i gynhyrfu ysgrifell lienor y Weekly Mail: Ers blynyddau lawer, ni chlywais neb yn ceisio esbonio cyf- rinach emyn, a dyna yw'r gwyn yn gyffredinol ar hyd a lied y wlad ymysg pobl feddylgar. Ymddygwn at yr emyn yn union fel petai yn iswasanaethgar i ofynion celf y cerddor tra y gofelir fod y seiniau yn gywir, gofelir hefyd fod swn traed carlam y don yn boddi cyfrinach ac enaid yr emyn. Dylasai'r Gymanfa Ganu fod yn help i glirio gwelediad ysbrydol eglwysi Cymru yn anad un wlad, oblegid Cymru'n unig fedd Bantycelyn ac Ann Griffiths ond rhyfedd mor anfynych y caiff y naill na'r llall gyfle i apelio at galon ac enaid y Cymro heddyw. Tybed fod toreth ein can- torion, yn adnabod eu llais ? Gobeitliio'r goreu, onit^ ? ond nis gall y gwr effro lai na phryderu." Hen ddewrwas Abertawj ydyw Syr J. T. D. Llewelyn, a wnaed yn rhyddfreiniwr o'r fwrdeisdref boblog yr wythnos aeth heibio. Maentumiai Cynddelw ei fod yn disgyn o dad i dad o Jinach yr hen brifardd coeth ei awen, leuan Deulwyn. Beth bynnag am hynny, un cymwynasgar i lenyddiaeth G,ymraeg ydyw'r hen scweier o Benllergaer, ac y mae Llyfrgell Gymraeg Abertawe yn ddigon cyfarwydd a.'i bwrs hael a'i berson. Estynwyd yr unfraint i'r Scwier o Lan- dinam, a Roger Beck, sy newydd addo swm anrhydeddus iawn at y Llyfrgell Genedl- aethol. Er mwyn gwastatau'r peth arfy ddysgl, fe ychwanegwyd enw Mr. John Dyer, Y.H., gwr na wyr rhyw ormod am Gymru a Chymraeg ac yn sicr, nid yw o lawer o bwys y tuallan i swn shiyntio sydd oddeutu dociau Abertawe. Rhestrir y pedwar gwr uchod gyda'r enwogion canlynol a dderbyn- iodd yr un anrhydedd gan fwrdeisiaid Aber- tawe, sef Gladstone, Stanley, Arglwydd' Glantawe, Syr Samuel Evans, Rosebery, a Madame Patti, neu'n gywirach, y Farwnwraig Cederstrom. Prif swyddog diwrnod yr estyn oedd Llewelyn Williams o Fainc y Brenin, Seneddwr, a Chofrestrydd Abertawe. Cyn- orthwyid ef gan. Mr. David Davies, golygydd y Daily Post, Dirprwy-Faer y dref. O'r diwedd, y mae y lienor Cvmreig yn dechreu gweled gwerth mewn cydwaith, neu collaboration, ys dywed y Sais. Dyma'r Parch. Bodfan Anwyl, Pont y pridd, a'i ym- roddiad o wasanaeth i'w genedl yn gyfrifol am waith golygydd ar ddicsionari Cymraeg- Saesneg o wasg W. Spurrell a'i Fab, Caer- fyrddin. Enwir y canlynol fel gwyr a'u dwylo yn rhannol yn y gwaith Syr E. Anwyl, yr Athrawon D. Powel, J. Morris Jones, W. J. Gruffvdd, Ifor Williams, Timothy Lewis ac E. Lorimer Thomas. Amser eto a bair i ni ddatwallgofi peth ar ein dull o ddwyn trefn ar gyfryngau addysg a lien ein cenedl. Hyd yn hyn y mae llawer iawn o ymbalfalu yn y tyvvyllweh. Gosod un gwr ar waith oedd oes Silvan Evans, eithr rhy fawr yw'r dasg, rhy fyrr yw'r dydd i un gwr ei gyflawni yn crchestol. Brodor o Drefin, swydd Benfro, ydyw John Thomas, Ysgol y Sir, Tredegar, a bwyntiwyd gan awdurdodau Addysg o Lundain i fod yn un o ieuaf arolygwyr Ysgolion Cymru. Dyma benodiad wrth fy modd. Efe oedd sefydlydd Cymdeithas o Gymrodorion yn y rhan yma o Went, a daliaf i ddulio yr awdurdodau hynny a esgeulusant lenorion a'r gwyr eiddgaraf dros Gymraeg a chynnydd diwylliant Cymreig yn ein gwlad. Dynion o ysbryd boneddigaidd ac nid taeogiaid talentog a difoes. Gwerth penodiad Matthew Arnold i fod yn Inspector Ysgolion Lloegr ydoedd ei draethodau gwen- ithaidd, megis The French Eton, a'r cyfryw a fu'n foddion i gyfoethogi llenyddiaeth Prydain Fawr. Eithr yng Nghymru ffolog a diamcan, ystyrrir llenor neu fardd yn lyman- gi rhy ddyrys a diriad i swydd o ymddiried. Y mae 'Eisteddfod Genedlaethol Aber- ystwyth yn argoeli Old lamps for new. Breindlysau arian a fydd amlycaf gyda'r awenyddion buddugol. Yn lie coron, ca'r buddugwr am ei arleisiau gylch o ddail arianbleth, ac i wron y gynghanedd gadair arian iddo'n ysgwydd-dlysog ar hyd wythnos yr wyl, megis bardd cadeiriog Eisteddfod Caerwys. E fvnnai T. S. Samuel a William Thomas weld yr hen dderwen braff yno i gadeirio'r bardd, felly fe benderfynwyd, os byddai ihaelioni ddod ag un yn rhydd, y cai'r bardd ei gadeirio JTI ol braint a defod Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Newydd calonnog ydoedd gwaith Jenkin Jones, yr ysgrifennydd llenyddol, yn crybwyll fod 9220 vii rhodd eisoes at wobrau lien. Rhagorol, Aber- ystwyth. Y mae ynnoch lywbeth wedi'r cwbl. E fydd jma saith o wobrau degpunt am draethodau ac yn y blaen. Cato pawb mor wahanol ydyehi i 'yr Pembre a'u Heis-
Gwib arall i Fethesda.
Gwib arall i Fethesda. I Weld Beddau'r Proffwydi." NEWYDD fod yno yr oeddwn o'r blaen rhyw dair wythnos cynt, ond dymunwyd arnaf fynd i Fethesda nos Sadwrn cyn y diweddaf, i weld Cwmni Padarnsef meibion a merched Bryn 'refail draw drosy mynydd, yn chware drama hysbys Mr. W. J. Gruffydd, M.A., Caerdydd, yn y Neuadd Gyhoeddus. Fe euthum, ac a gefais yr ardal yn drist, nac yn awyddus i weld drama na dim y diwrnod hwnnw oherwydd fod un o weithwyr parchus y lie wedi suddo tan bwysau'i feddwl a'i gael yn farw, gan ado gwraig a thyaid o blant i alaru am dad a phriod annwyl iawn ganddynt. Dy-na un rlieswm na fuasai'r Ile'n Ilawnach a dyma'r Ilall fod y Cwmni mwyn wedi eadw'n rhy ddistaw heb hysbysu eu dyfodiad ni thai hi ddim bod yn swil y dyddiau stwrllyd hyn rhaid clwcian clod pob peth, onite waeth ichwi heb. Y rhain oedd yn actio Robert Wellictms (gwr y Sgellog Fawr), O. J. Williams Emrys (ei fab), J. T. Roberts Y Pcerrhedig Azariah Evans (gweinidog Siloh), D. W. Owen. Blaenoriaid Siloh—Euw Benet, y Gelli, W. F. Williams Dafydd Dafis, y Shop Owen Owen Mr. Humphreys, yr Ysgol, Ed. Thomas William Pritchard, London House, H. O. Ellis. John Vaughan (gw" yr Hafod), W. M. Hughes Roberts (Plisman), E. T. Jones Alexander Maclagan (cipar); Thos. Foulkes Elis Parry (Meistr y Tloty), W. Foulkes James Wynne (Ystiward y Sir), J. J. Roberts Twm Huws (un o'r tlodion), Owen Jones Un arall o'r tlodion, D. Owen Porthor y Tloty, O. O. Hughes Mali Owen (mam Robert William), Eliza Jones Elin William, Judith E. Thomas Agnes Vaughan (merch yr Hafod), Annie Roberts; Anne (mortoyn y Sgellog), Lizzie Foulkes Mari (mortvyn y Tloty), A. J. Owen. Neuadd dda yw Neuadd Bethesda, ac iddi lwyfan ddifai i chwarae ami, gallwn feddwl. Yr oedd gan y cwmni len flaen (front curtain) ddymunol yr olwg, ac arni lun Castell Padarn wedi ei baeutio gan un o arlunwyr ieuainc a chelfydd eu hardal. Ond rhy brin a moel oedd dodrefn a chelfi eu golygfau mewnol yng nghegin Sgellog Fawr ac yn y blaen. Wrth gwrs, y mae eisieu arian i'w cael, da gwn, a hawdd i'r anghyfarwydd weiddi am yr am- hosibl. Ond y mae ei iawn-lwyfannu yn chwanegu'n ddirfawr at Iwydd ac effeithiol- rwydd pob chwarae, a He y bo popeth yn edrych yn glyd a chynhesol, a'r dillad yn hudol ac amryliw, a phob rhyw hyn ac arall o gelficyn yn taro'r llygad, ni welsoch chwi erioed fel yr aiff peth felly a bryd a llygad y dyrfa nes iddi beidio a sylwi ar bob rhyw nam a diffyg bach a ddigwyddo fod yn JoT actio'i hun. Nid wv'n honni bod yn uchfeirniad ar y ddrama mwy na dim arall a chymerer yn cwbl o'm pitw barn am ei gwerth. Fe'i dy- dywedir yn onest, yn gwbl ddifalais, a chan obeithio na bydd ynddi'r tramgwydd na'r gofid lleiaf i neb. Eisieu perffeithio'n gilydd sydd arnom, a chael pethau amrwd yn bethau addfed os gallwn. Ac i gael hynny, rhaid i ba,wb ohonom ymostwng i gymeryd ein dvsgu, a dangos pob goddefgarwch y naill o'r llaIl. Y mae i ddrama Beddau'r Proffwydi ei champ—oes, a'i rhemp hefyd. Y mae'n well gen i y rhan gyntaf a'r act agoriadol na'r gweddill ac fe welwn pam wrth fynd ymlaen. Y mae'r hen eiriau gwlad sydd ynddi wrth fy modd ac yn gweddu'r cymeriadau i'r dim. Fe godaf ambell un ohonynt, gael i chwi weld mor lawn o liw a sug a naturioldeb yw Cym- raeg y ffarm a'r buarth rhagor y Gymraeg sych a'r Cymraeg gwneud yma sydd ar wefus pobl y trefi a'r parlyrau. Nid oes yma ffwdan o gwbl, heblaw'r hen Bero, y ci, sy'n gorwedd ar ei hyd ar yr aelwyd," ebe'r rhagymadrodd i Act gynta'r ddrama, wrth ddisgrifio cegin y Sgellog Fawr --disgriflad campus. A chwarae teg i Gwmni Padarn, hwy ddaethant a phalli o gi defaid gyda, hwy, ac a actiodd ei ran braidd yt) well na neb ocdd ar v Ilwyfan ac a barodd i'r dyrfa, siglo gan chwerthin wrth ei weld yn dal i gyfarth ar odre'r Ilwyfan pan glepid yr actio. Yr oedd megis yn dealt y cwbl o'r gyfrinach, ac <J. resynem heno na fedrem ddy- wedyd wrtho mor dda y gorweddodd ac y w?? ?'  ? ?.   -?. 'tr;??f? 4.. f ?.? M' r '?   A cerddor-ld o gwmpas yn glust i gyd i'r hyn elai ymlaen. Yr oedd rhywbeth yn bur effeithiol yng ngwedd wyneb oedrannus Mali Owen, wrth iddi daflu ambell olwg ar y tan, rhoi ei gwau i lawr ar ei harffed yn awr ac eilwaith, a syllu'o bendrist i'r fflamau, fel pe bai'n gweled'rhywbeth y tu draw iddyr t," chwedl un o frawddegau'r ddrama. Chwareuodd Elin William ei rhan yn bur dda, chwarae teg iddi, ac a hobiai o gwmpas, yn ffys ac yn ffwdan i gyd, ac yn batrwm o wraig ffarm o ran maint a ffurf a diwyg a phopeth, a swn dwrdio iawn yn ei llais wrth guchio a gweiddi brawddeg fel hon ac ereill Chwarae teg i'r hogyn ceisio meddwl y mae o'n rhywle fedar neb feddwl dim yn y ty yma,—Robat yn clebran o hyd fel prep melin, ac Ann a finna'n clocsio o» gwmpas hefo'r llaeth a'r lloiau." Bu raid imi dorri'n Hith fan hyn, a gcda'i gweddill hyd y rhifyn nesaf. J.H.J. I