Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
Eglwys y Bedyddwyr Upper Medlock St., MANCHESTER. Cynhelir CYMANFA FLYNYDDOL yr BgI wys uchod Nos Wener, 7-30; Nos Sadwrn, y a'r Sul (nesaf), 10-30, 2-30, a 6, EbriH y 17eg, y 18fed. ar 19eg, Pregethir gan y Parchedigion J. J, RICHARDS, ABRRAFON: a D tVlD PRICE, ABERTAWE. PregeU hefyd yn y Mission yn Stockport Ro,,td. Lortgsiqht-Bore Sul 10-30; a'r Pryn- hawfi am 2-30.
fin Cansdl p lanseinion.
fin Cansdl p lanseinion. nkadonf y Sul Nesat, I Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Moss SIDE—10.30 a 6 D D Williams PENDLETON—10.30. E Wyn Roberts 6, J S Roberts HBYWOOD ST—10-30, J S Roberts 6. E Wyn Roberta HIGHER AEDWICK—10.30 a 6, Isaac Davies, Sraig LEIGH—10-30, a 6, PABJTWOETH—2.30 a 6. Owen Jones. Wlgan EARLESTOWN—10.30 a 5.45, WASHINGTON—10.30 a 6, Griffith Jones, Lerpwl BLACKBURN— BGLWYS UNDBBOL ECCLES-11 a 6.30, E MerganJtees, Wolverhampton YR ANNIBYNWYR OSOULTON ROAD—10.30 a 6.15 1300TH STRBET-30.30, G James HO DUNCAN ST., SAIFOBD—10-30, a 6-16, D Jones, Or ewe QUEEN'S ROAD—10-30 a 6-15, J Morris, HOLLINWOOD—10.30 8 6.15, WEABTE—10.45 a 6, W W Jones Y WESLEAID DRWI SANT—10.30, G Tibbott IS J Roger Jones NOREB-10.30, a 6, J W Davies, Rhos SION—10.30, J RogerJones, 6, J Spencer Williams BBULAH—10.30, A Ll Hughes 6, G Tibbott OAUARIA—10.30, J Spencer Williams 6, A LI Hughes Eeci.ES—2-30, J Roger Jones, 6.30 J M Williams Y BEDYDDWYR U" MEDLOCK ST.—10.30, a 6, Gwel hysbysiad LONGSIGHT-10.30, a 6.30, ROBIN'S LANE, SUTTON-10.30 a 5.30 COLOFN Y CYFRIN. I CYMRY ROCHDALE.—Hen arfer Eglwys I M.C. Rochdale yw cynpal te a, chyfarfod ar y Groglith. Bu felly.'r tro hwn eto, a daeth cynulleidfa gref yi ghyd ddydd Gwener i'r capel yn Portland Street. Y eadeirydd oedd y Parch. E. Humphreys, gweinidog yr eglwys. Caed cyfarfod rhagorol, a'r rhaglen fel hyn Emyn agoriadol, "Rhagom, filwyr lesu." Detholiadau ar y Mandoline gan y Misses Alice Goodfellow, ac E. Kershaw a Miss M. Ackroyd yn cyfeilio. Can, O'r Niwl i'r Net, gan Miss Ellen Rowlands. Adroddiad, Write th em a letter to-night, Miss Maggie Evans. Canwyd yr emyn Marchog lesu, etc., gan Gor Merched y Capel, dan arweiniad Mr. Thos. Parry, ar y don Hyfrydol. Can, Carnival, Miss Elsa Conway. Can, Ecce Homo, Mr. R. A. Warburtop. Adroddiad, Home, sweet Home, Miss Giwen Evans. Can, Merch y Capten, Mr. Herbert Conway, Unawd ar y berdoneg, ac yna'r rhangan Spring's Delight, gan Gor y Merched. Unawd, The Broken Melody, ar y mandoline, gan Miss Kershaw. Unodd pawb drachefn i ganu emyn ar y don Aber- ystwyth. Can, Father's Wonderful Prayer, Miss Gwladys Williams. Deuawd, The Spider and the Fly, Mr. a Miss Conway, Heywood Street. Adrodd, Our First Quarrel, Miss Ela Jones. Can, Adlais y Dyddiau Gynt, Miss Sallie Hughes. Rhangan, The Deep Blue Sea, gan y Cor. CAn, Nirvana, Mr. R. A. War- burton. Adroddiad, The Dandy Fifth, Miss Giwen Evans. Can, My Dear Soul, Miss Conway. Deuawd, Lili Dlos, Misses Gwladys Williams ae Ellen Rowlands. Detholiad ar y mandoline gan Misses Kershaw a Goodfellow. Can, The Windmill, Mr. Conway. Canig, Mountain Melodies, gan y Cor, a therfynwyd wrth i'r Cor ganu Hen Wlad hI Nhadau. Diolchwyd gan Mr. E. Rogers, Bury, a Mr. Rd. Thomas, Oldham. QWLEDD Y CHWIORYDD IEUAINC. -Bu gan ferched ieuainc yr eglwys sydd yn Grey Street, Longsight, gyfarfod llawn o amrywiaeth i gorff a meddwl. Yr oedd bias da ar y lluniaeth, y canu a'r dadlu, etc. Y gwragedd priod a'r Ilanciau yn eu tro wedi wedi rhoddi esiampl dda yn hyn o'r blaen. Gwnaed elw rhagorol, a hwnnw'n cael ei roddi at gapel newydd Victoria Park, a agorir Mai'r 9fed a'r lOfed. ■<>- DRINGO BRYNIAU'R HEN WLAD— Trefnodd yr Ancoats Brotherhood i'w hael- odau hoff o deithio wneud hynny yn amgylch- oedd Conwy ddydd Gwener y Groglith hyd ddydd Llun y Pasc. Nid Saeson yw'r cwbl ohonynt, ond mae'r Saeson yn dotio ar olyg- feydd Cymru yn ogystal a phlant yr Hen WIad sydd yn bell oddiwrthi, ac yn cael egwyl yn awr ac yn y man i dorri'r hiraeth. T GAIR GWADAL ETO.-Er pan yr awgrymodd Mr. Wm. Parry, Bolton, fod i'r gair manwaaal gaei ei esgymuno or laith, mae cryn siarad a chwilio wedi bod yn ei gylch, a cheir mai Heb. vi. yw'r unig fan y oeir efyn y Beibl. Ymhola un cyfaill ymha le y mae'r gadair gwadall w gael yn ein hen lenyddiaeth, os mai hen air Cymraeg yvr. Chwiliodd, meddai, amdano yn ofer yn y Mabinogion, Gwelediaeuthau y Bardd Cwsc, a barddoniaeth Dafydd ap Gwilym a Goronwy Owen. Oep rhywun Wyr ymha le y cafodd y Geiriadurwyr ef ? A fyddai ein hiaith yn dlotach o air pe dywedem wadal yn lie dianvoadal bob tro, oblegid mae'r ddau air i'w ca¿-l yn y Geiriaduron, ae ystyr ychydig yn wahanol i'w gilydd yn cael ei roddi ? Fodd bynnag, gadewch i ni geisio cadw bywyd yn y gair gwadal, ac ol iddo gael ei aileni, a rhoddwn iantell y gynghanedd amdano fel hyn :— Nid iawn ydyw dianwadol,er hyn Myn yr iaith anwadal Eitha doeth helaethu dal A da wedyn ddweyd wadal." 009- 009- 009- BALM AR Y BRIW.—Dvmuna Mr. Ilbenez,r Williams, Upper Brook Street, a'i ddau fab, Mri. James ac E. R. Williams, ddatgan eu diolchgarwch yn Y BBYTHON i bawb am eu cydymdeimlad trwy lythyrau, etc., yn eu galar a'u profedigaeth lem. Rhy liosog yw'r llythvrau i'w hateb bob yr un, a gwyr pawb fu yn y storom mor anodd yw'r | gorchwyl. Bu'r cydymdeimlad yn yr am- -ion i leddfu peth ar iiig gylchia.d hwn yn foddjon i leddfu peth ar ing y gweddw a'r amddifaid.
0 Ciiwarel a Chlogwyn.
0 Ciiwarel a Chlogwyn. I Sef o Ddyffryn Nantile. ,i I CAN YSBRYD GLASYNYS. HYBU'R CIIAF.—Dyma'r rhaglen hysbydd- wyd yn Neuadd Gynnull Talysarn nos lau, mewn cyngerdd i gynorthwyo Wm. H. Ro- berts, Pen hafod las, Yn absenoldeb Mr. Stonor, Plas Baladeulyn, cymerwyd y gadair gan Mr. 0. Samuel Jones, Nantllo, ac arweiniwyd gan Llew Deulyn. Detholiad gan Gyrn Arian, Nantlle, dan fatwn B. H. Jones. Yr Hen Gerddor, Miss Gwladys Roberts Thora, Miss Hannah E. Morton; Hen Walia Fendigaid, Mr. G. J. Roberts. Adroddiad, Uno'r En.tLad(tit, Mr. W. Rowlands (Pen y groes), ac mewn encor yn rhoi Troed gore'mlaen Yr Omest, Mr. E. Walter Will- iams. Canu penhillion gan y Brodyr Francis, a rhaid fu arnynt ail-ymddangos. Can, The City of Rest, Miss M. Hughes-Jones, Pen y groes Monologue, The Mad Garew, Llew Deulyn. Can-ystum gan barti W. J. Hughes, yn dda odiaeth A Welwch chwi V, gan G. J. Roberts adroddiad, Melltith y Wynwyn, gan W. Rowlands, ac mewn ail-alwad yn rhoi Ystalwm. Hen Wraig Acw, gan O. W. Fran- cis. Diolchwyd gan Mr. O. S. Jones a J. Prit- chard. Terfynwyd gyda Hen Wlad fy Nhadau, dan arwekiiad E. Walter Williams. Cyfeiliwyd gan Mr. Gwilym Evans, Pen y groes, ac hefyd gan Mr. Owen Hughes, Nantlle. GLOES DRom.Le, drom drom fu claddu Richie J. Owen, Clynnog Road, Pen y groes, cyn cyrraedd ohono ei ddeunaw oed. Taflodd ei farw cynnar donn o alaeth dros ein Dyffryn, a rhedai llif ein cydymdeimlad at ei riaint galarus ym Mhen y groes. 'Doedd ond chwe mis wedi mynd er pan ddechreuodd hyff orddi plant yr ysgol, Llanllyfni, lie yr aeth am brofiad o athro cyn mynd ohono i'r Coleg ym Mangor. Bu ei yrfa yn un lwyddiannus ymhob modd, a llygaid car a chyfoed yn ei wylio gyda diddordeb yn dringo grisiau dysg. A pha ryfedd fod y cannoedd gruddiau yn lleithio wrth ei briddo nawn dydd Sadwrn, ac yn sbio ar Richie druan yn mynd trwy'r drws hwnnw nad agorir mohouo hyd y bore mawr pan fo'r angel sydd ag allweddau'r bedd yn hongian wrth ei wregys yn ei ddatgloi ac yn gollwng Richie a'r gweddill ohonom yn rhydd i dragwyddoldeb. Bu deunaw o wanwynau Duw Yn tramwy'n ieuanc dros ei wedd Ond Richie hawddgar, mwy nid yw, Medd calon ardal, medd y bedd. Ei delyn fach sydd heddyw'n fud, A'r tannau yn doredig sydd Ond yn ein calon ni o hyd Bydd eco'i gan yn felys-brudd. Mae heddyw yn y Wynfa draw, f Fel cerub gwyn yn eilio can fv A'i delyn aur o dan ei law, f Yn chwyddo mawl Caersalem lan. LLEN A CHAN YN SALEM.Sef Gwyl flyn- yddol Salem, Llanllyfni, a gynlielid nos Wener a, nos Sadwrn. Llywyddion: Nos Wener, Mr. H. H. Williams Nos Sadwrn, Mr. J. T. Jones, Pen y groes. Arweinyddion Mr. W. Rd. Williams a Mr. J. M. Roberts. Beirniaid, Cerdd, Abram Jones, Ysw., St. Helens lien ac araith, y Parch. Alun T. Jones, Chwilog. Dyma rai o'r prif bethau nos Sadwrn :— Traethawd, dan 21: 1, R. G. Roberts; 2, Miss L. E. Williams. Deuawd i rai dan 18 1, Hannah E. Owen ac Annie Thomas. Adrodd, John a'i Fam (dan 18): 1, Annie Wood Griffiths, Pen y groes. Her-unawd i rai dan 18, Yr Eos Florrie M. Williams, Tan- rallt. Traethawd dan 21: 1, Gwladys Will- iams 2, G. J. Jones 3, R. Dd. Thomas. Eto: 1, Kate Roberts 2, Liz. E. Williams Corau Plant, Cwsg fy Noli 1, Llanllyfni, dan fatwn W. D. Roberts; 2, Cilgwyn ,dan fatwn- James Bullock. Arholia4 dan 18: Gwladys Williams. Dan 21: R. G. Roberts. Canu penhillion (un o bethau goreu'r iioson),-cyd- fuddugol Annie Humphreys, Llanllyfni, a Jenny Parry, Tal y sarin Hosanau rhesog 1, Mrs. Jeffrey Jones, Llanllyfni. TfOyleys 1, Mrs. M. E. Jones. Partion cymysg, Pan lesmeirio fy nghalon (tri pharti) 1, Parti Ellis Griffith, Llanllyfni. Arholiad, Hebreaid 1, Mag. Thomas. Cyfieithu (a) R. G. Roberts (b) R. D. Thomas. Prif adroddiad, Llawhaearn Bendefig D. 0. Jones (Eillion), Talysarn. Prif unawd, pedwar a y llwyfan: 1, E. Walter Williams, Tal y sam. Cafwyd sylwadau gwerth eu cofio gan y Parch. Alun T. Jones, ond pam yr eisteddai tu ol i'r adrodd- wyr ai y llwyfan ? Onid yw pob adroddwr a siaradwr yn apelio at glust a llygaid ei wran- dawy-r ? Y mae safle f 1 hyn i wrando yr un mor wrthun a pha troi y pregethwr ei gefn at ei wrandawyr. Erys sylw'r hen Fari J6s yn eithaf gwir o hyd, sef yw hwnnw, Waeth gen i heb a chlywed pregethwr os na cha i weld i geg o." Cyfeiliwyd gan Miss Myfanwy B. Pritchard ac Amwel Wyn Owen. Ni chawsom dvnged v parti meibion vmeeisiai tri ar O! mor ber." Cafwyd hwyl a graen ar lu o bethau yma hero, a chynhulliad gweddol dda. AGOR DATJ FEDD.—Dau fwlch yn Eglwys Seion fu ym m-rwolaeth y ddwy chwaer o Dalysarr, sef Mrs. Williams, priod Mr. Wm. Williams, gyriedydd yn Dorothea, a Mrs. Jones, priod Mr. J. Charles Jones (Glan Dulyn), Talysarn. Claddwyd hwy ddydd Sadwrn, a chydymdeimlir i'r byw a'u teulu- oedd. EiN TALENTATT.—Bu'n brysur ar rai ohon- ynt dros y Gwyliau T. T. Powell ym Meirion- ydd a M6n, y Brodyr Francis ym Methel a Llanrwst, ac E. Walter Williams yn Nhrefor. Cafodd ein hadroddwyr hwyl arni hefyd trechodd Lisi Jones, Nantlle, yr adroddwyr yn Montnewydd, ac Eillion yn Llanllyfni.
Advertising
Esboniad Cyflawn. AR YR HOLL FEIBL. am bris Esboniad ar y Test. Newydd yn unig. Y Dehonglydd Beirniadol ar yr Hen Destameot a'r Newydd, gan y Parch. John Jones (Idrisyn) mewn pedair cyfrol, fe] newydd, wedi ei rwymo mewn llian cryf 18s. Eto (hanner rhwym) 25s. Hugh Evns a'i Feib., Swvddfa'r Brython
I MINION MENAI,
I MINION MENAI, I YN OL MEUDWY'R MOR CYNGERDD BEREA.—Nos Wener y Grog- lith, bu cyngerdd yng nghapel Berea (M.C.), Bangor, a'r rhai hyn yn gwasanaethu :— Llywydd, Mr. W. J. Owen arweinydd, Mr. Davies (guard wedi troi yn driver am dro) cantorion, Miss Lily Simons, Miss Davies (Llandudno Junction), Mr. John James Jones a Mr. Cefni Jones. Cyfeilydd, Miss Gwladys Williams. Hefyd canwyd yn swynol gan G6r Plant Berea, tan arweiniad Mr. Owen Hughes. Adroddwyd amryw weithiau yn effeithiol gan Mr. Joe Davies, Bangor. Ail- alwyd amryw weithiau, a mawr fwynhawyd, Pa le mae'r Amen a Gwraig y Morwr gan Mr. Cefni Jones, a chredai Hawer mai gwell- well yw ei gan wrth heneiddio. EISTEDDFOD GwywLrDD.-Cynhaliwyd lion am y deuddegfed tro, ddydd Llun y Pasc. Beirniaid Mr. Osborne Roberts, Llandudno J. E. Williams, Ysw. (Derlwyn). Swyddog- i on :-cad irydd y Pwyllgor, Mr. Ellis H. Parry arweinydd a rheolwr y Ilwyfan, Mr. Wm. Jones, Crugan arolygwr y stiwardiaid, Mr. R. Williams, Bryn tawel trysorydd, Mr. J. T. Roberts; ysgrifenyddion, Mr. John Owen a Mr. T. Jones-Owen cyfeilydd, Mr. Orwig Williams. Cyfarfod y prynhawn Unawd i rai heb ennill 10 o'r blaen Miss Ltzzie tLewis, Eben 'zer. Corau plant: Cor Carmel. Adrodd, Molawd Cymru 1, Master Richie Artnur Hughes, Caernarfon 2, Mianie Gould, Caernarfon unawd baritone Radford Jones, Caernarfon. Unawd ar y berdoneg 1, David Buckley Jones, Clwt y bont 2, Leslie Paul, Bangor. Unawd, Dim ond deilen Lizzie Lewis, Ebenezer. Y Brif Gystadleuaeth Gorawl, Put off, 0 Jerusalem (Hubert Parry), £ 10 a Chwpan Arian i'r arweinydd. Dau gor yn cystadlu, Lerpwl a Charmel,—goreu, Carmel. Cyfarfod yr hwyr: Llywydd, Mr. Edwards, Maer y dref arwein- ydd y ddau gyfarfod, Mr. Wm. Jones, Crugan. Prif adroddiad, Annerch Llywelyn (Llew Llwyfo) R. F. Price, Carmel. Unawd con- tralto Blodwen Williams, Caernarfon. Unawd soprano Llinos Lleyn. Pedwarawd, Parti Caernarfon anerchiad gan y llywydd cyfansoddi t6n Celticus." Prif atyniad y cyfarfod oedd cystadleuaeth Corau Meibion, The Assyrians came down (Cyril Jenkins), E20, ac Ystol Gerdd i'r arweinydd hwn yn un o'r darnau sydd i fod yn gystadleuaeth i gorau meibion yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor. Siom i'r Cyfarfod oedd deall rad oedd Cor Runcorn wedi cyrraedd, ac mai yr unig g6r meibion yn bresemibl oedd un Llanrwst. Daeth y c6r hwn ymlaen a rhoddasant ddat- ganiad coeth a gorffenn,ol o'r gwaith. Tystiai y beirniad eu bod yn haeddu mawr ganmol- iaeth am y datganiad roddasant, a'u bod yn llwyr deilyngu'r wobr. Par alwyd ar arwein- ydd y C6r (Mr. Thos. R. Williams), rhoed derbyniad croesawgar iddo gan y dyrfa, a'r glap cynnes yn rhyw arwydd ei bod yn dy- muno yn dda iddo ef a'i g6r yn yr Wyl fawr ym Mangor. Nid llawer o gorau meibion o'r Gogledd sydd yn debyg o fen tro i'r gystadleu- aeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a balch fydd y Gogledd o gael ei chynrychioli gan Lanrwst. Y mae Mr. Williams yn adna- byddus i gylch eang fel arweinydd cymanfa- oedd canu a beirniad profiadol, ac wedi arwain y c6r sydd ganddo yn awr i ami fuddugoliaeth cyn heddyw. Bu raid ymado am y tr6n cyn clywed gweddill y cyfarfod. CYKCHTX'R DONIAU.—Yn Nhal y bont, ger y Bala, y bu Llew Tegid yn arwain a beirniadu y Groglith, a Deiniol Fychan yijtau yn gwneud yr un gwaith yn Eisteddfod Cricieth ddydd Llun y Pasc, ac yng Ngwalchmai y Groglith. GWALCHMAI, MON.—Cyfarfod cystadleuo1 oedd yma prynhawn y Groglith, yn addoldy'r M.C. Beirniadwyd gan y Parchn. D. Cwyfan Hughes, B.A.,B.D., T. Jones, B.A. Mr. Evan Lewis yn pwyso'r cantorion Deiniol Fychan yr adrodd, ac yn arwain. Llywydd, Mr. J. P. Williams, Ty Newydd,—ffrynd ffyddlawn i'r plant ydyw ef cafwyd anerchiad buddiol ganddo, a rhodd hael, yn ol ei arfer. Yn yr hwyr, caed cyngerdd uchraddol. Gwas- anaethwyd gan Mrs. Josephine Lewis, Bangor Llinos Menai, Porthdinorwig Mr. Evan Lewis, Bangor Mr. David Chubb, Pont y pridd. Canwyd penhilliontel yn gan Ap Ehedydd, Llannerch y medd, a'r Telynor Cymreig yn canu'r delyn. Yr oedd yr holl gantorion yn dda, a'r ailalw yn ami. Cyfeil- iwyd gan Miss Gwladys M. Jones, Llangefni. Oherwydd afieohyd. ni ddaeth y llywydd, Thomas Owen, Y.H., Rhuddgaer, ond anfon- odd rodd deilwng. Arweiniwyd ac adrodd- wyd gan Deiniol Fychan. Dywedir fod y cyngerdd yn tin o'r rhai goreu gaed yn y lie ers blynyddau. Cynhulliad lliosog. CYFARFOD PREGETHU.—Yng nghapel Horeb (W.), Bangor, Ddydd Gwener y Grog- lith, bu y cyfarfod pregethu blynyddol y Parch. Roger Jones, M.A., Manceinion, a'r Parch. Charles Jones (gweinidog) yn gwas- anaethu.
Advertising
Rhifyn y Gwanwyn. Y BEIRNIAD CYLOHGBAWN CHWAKTEROL dan nawdd Cymdeithasau Cymreig ypolegae Cenedlaethol a than olygiaeth J. MORRIS JONES. GORONWY OWEN Y Parch. T. Shankland BETO SIAN Y Parch. John T. Job BERGSON—CYWIRO CAMSYNIADAU O. W. Griffith Y GYMRAEG A CHENEDLAETHOLDEB H. Parry J one. ENWADAETH Yr Athro Joseph Jones CYFOETH A CHENEDLAETHOLDEB Y Parch. Rhys J. Huws RHOBAT LLWYD R. Williams Parry GOHEBIAETH David Samue HAWL AC ATEB HEN LYTHYR ADOLYGIADAU gan W. J. Gruffydd, Ifor Williams, y Parch. D. Adams, a'r Golygydd LerpwP .Hugh Evans a'i Feibion, Argraffwyr, 856, 358 Stanley Road. » f(, LIVERPOOL '.>" THE Shaftesbury," ,1; i( tl,' Mount Pleasant .ij'Y '1; About 4 saina walk froID IR'Iill?!r;. Lime st & Central Stations .J A First-class ■- Hotel, moderate charge Tele. Shaftesbury Hotel, MORRIS EVA.ViS' HOUSEHOLD OIL. The never-failing Remedy FOR Rheumatism, Sciatica, Lumbago ç Burns Scalds. Cuts, Bruises ALWAYS HANDY IN THE HOME ITS CURITIVE POWERS ARE WOkDERFUL. Get a Bottle at once from your Grocer or Chemii Price l/Ild. ê 2/6 Or direct from- MORRIS EVANS & Co., THE MANUFACTORY, FESTINIOG, N. WALES. Balls' Wedding Rings. Guinea Gold Wedding Rings from 7/6 to 60/ Half dozen Best Electro-plated Spoons given to each purchaser of a ring. BALL'S LUCKY WEDDING RING DEPOT, 33 LONDON ROAD, LIVERPOOL Finger Size Card post free. If you want The most Comprehensive POLICIES AND THE BEST TERMS, write for particulars to The Gresham LIFE, FIRE, AND ACCIDENT Insurance Offices. Head Office i Branch Office St. Mildreds House G142Exchange S'tda Poultry, LIVERPOOL LONDON. E.C. JAMES, HTSCOTT, General Manager. Furniture. Furniture. Furniture. DO YOU WI?H TO BUY SS^ttATB«LtB MADE GOODS AND o? AT LEAST 7/6 IN THE £ ? CfiH dir*ct to Charles Bros. Wholesale Cabinet- makers and Upholsterers where joa will get all goods at FIRST COST, and you will save the middleman's profit. A call to our Showrooms and Works will convince you. Hours: 9 to 8. Saturdays 9 till 1 GOODS MAI', B TO TOflR OWN DESIGN. SATISFACTION GUARANTEED Charles Bros., 22 School-Lane (BACK OF CHURCH STREET), LIVERPOOL N.B.-We Itave a larse Stock of BEDROOM SUITES and SIDEBOARDS, and will sell some much below the usual prices. Goods stored free- CHARLESBROB. Y LLADMERYDD am 191 Cyldhcrawn Misol yr Yigol Sabbothol. Daa-olygiaeth y Parchn. Evan Davles.Trefriw i T. E. Davies. Abertawe; Proff-ssor D. Jenkins, Mus. Sac., Aberystwyth. Pris Dwy Geiniog y Mis, Cyahwysa y Rhifynau o'r Lladmerydd" am y Flwyddyn 1914- Erthyglau ar btihau Beiblaidd Gea y personau canlynol Parchn. J. Morgan Jones, Oaerdydd; John Owen Anfield, Liverpool; J. E. Davies M.A., Llanelli; D. Hoskins, M.A., Caernarfon; W. Bvans..M.A., Pembroke Dock; J Puleston Jones. M.A.. Pwllhel1- W. B. Prytherch, Abertawe; J Pritchard, M.A.. B.D., Llanberis; R. J. Rees, M.A.. Aberystwyth; Profi. R. Mo iris, M A., B.D.; Griffith Hughes, B. A.. Bethesda, J* Talog Davies, Liverpool; Dr R. Roberts, Rhuallt; b. L. Rees, B.A., B. D., Aberaeron; M. H. Jones, B.A.. Ton; Peter H.,ughes Griffiths, jjuadain; Mr. John Rowlands, M.V.O Caerdydd. ac eraill. Pregethau Esboniadol ar yr Epistol at yr Hebreaid- Gan y Parch. D. Charles Davies. M.A. Ymson ac YmgoM: Gan y Parch. Peter Hughes Griffiths Llundain. Bin Pobl Ieuainc: Gan y Parch. W. B Prytherch, Aber: tawe, Nodiadau Ararywial: Gan y Parch. Evaa Davies. Tref- riw Hefyd, rhoddir He arbenig i'r Nodiadau ap Faes R 7Undeb Ysgolion abbothor y MetktodkdaW Cai- inaidd. sef y rhan otaf o Esboniad ar Yr eplstol at yr Hebreaid. Gan y Parch. T. B. Davies. Daraau Barddonol, &■c. Toaau Newyddion, Ac imofvntr a r Owhooddwr-B. W. BNIU Mtdtan NOW READY.-479 pages, Cr. 8YO. Sold by all Booksellers and the Railway Bookstalls. THE North Wales AND CHESTER OFFICIAL Year Book for 1914. Paper cover 2s. net. Cloth Covers 3s. net. A handy reference book for North Wales includ- ing full information relating to County. Municipal, Urban Districts, etc., Churches & Chapels, Schools, Associations, etc., also "WHOS WHO" In North Wales. LITTLBBURY BROS., Publishers, 3 Crossball at, J Telephone 8785 Central. Liverpool. fiomeryiH g Plant. GWERSLfFR I DOOSBARTHIADAU CYMRAEG Wedi ei ysgrifennu a'i drefnu dan nawdd UndetJ Ysgoiiou M.C, Lerpwi, gan OWEN Eli-IAN OWEN. Pris 4c., drwy'r post Se. Cyhoeddedig yn Swyddfa'r Brython, YN AWR YN BAROD. CWRRyLLEN Ysgrifau syml ar a Faterion Gwyddonol GAN GWILYM OWEN, M.A. D SC Athraw mewn Athroniaeth yn Ngholeg y Brifysgol Auckland N.Y. (gynt o Goleg y Brifysgol Lerpwl). Llian 2/6. HUGH EVANS & SONS, Swyddfa'r Brython. DWY fHWARtlGAN [(Action Songs). 49Y Milyr Bychain." (LITTLE SOLDIERS). "Y Mampu Bychain. (LITTLE NURSES) Gan PEDR ALAW Tonic SoUIt. 2d, yr un. Hen N diant. 6d. yr un. Cyhoeddedig gan: HUGH EVANS hi FEIBION, SWYDDFA'R BRYTHON. Moses: fVr Cawell i'r Mor Coch. Drama at wasanaeth Gobeithtuoedd a Chyfarfodydd y Bobt Ieuainc. MAE y ddrama uchod wedi ei pher- fformio dro ar ol tro yn ysgoldai Capeli Cymraeg Lerpwl, ac mewn llawer man yng Nghymru, ac yn para i ennill ffafr. Mae y medr gyda pha un y gweithiodd yr awdur rai o'r hen alawon Cymreig iddi wedi ei gwneud yn hynod boblogaidd. Ail Argraffiad, Pris 4c. Hugh Evans Sons 358 Stanley Road, Liverpool. Pence Envelopes FOR. CHUKCH COl-LECTIONS Good Quality. Correctly Numbered b, Special Machine. Hugh Evans & Sons, S"ytbon 356.8 Stanley Road L'pool it.1 ■* i.i i 11in.• \in11■ ■' vim—eaffiawar Ceinion Rhuddfryn Yn oynnwys pigion o'i englynion a'i gywyddan wedi ea dethol gan ANTHROPOS, a than olyg- iaeth ei fab, y Parch, LEWIS MORRIS Wrexham Ynghyda darlun o'r awdur, a nodiadau bywgraffyddol gan Dr. Cernyw Williams. Argraffiad Rhad (mewn amlen), 6cb Trwy'r post, 7o. HUGH EVANS A'I FEIS. SWYDDFA'R "BRYTrlON" Yn awr yn Barod. COflANT THOMAS GEE, — GAN THOMAS GWYNN JONES. Cynnwysa y cyfrol 650 o dudalenau ynghyd ag amryw ddarluuiau. Pris wedi ei rwymo mewn llian hardd, 6/- Cyhoeddedig gan GEE a'i FAB. Cvf., Dinbych