Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
a 0 THE LIVERPOOL JEWELLERS.. For JEWELLERY, WATCHES, CLOCKS, BRONZES, etc., etc., CAMPBELL and I LUMBY. I For SOLIDJ SILVER, ELECTRO- PLATE,] CUTLERY.1 etc., etc. 1 Te l ephone Off jrz OLD POST OFFICE PLACER
[No title]
Hen G&n y Gafod. I ÅNNWYL OLYGYDD,—Dyma gan dda dros ben, debygaf fi, wedi ei hysgrifennu adeg eriedigaeth Mari Waedlyd, mae'n debyg. Copiiis hi o hen MSS. Gwelir na roes yr awdur ei enw wrthi, rhag ofn y mae'n ddiau. Y mae pob llinell bron yn ddameg, ac yn deilwng o Forgan Llwyd a'i ddoethineb. Ys gwn i pwy a'i gwnaeth ?—Yr eiddoch, G-N. NID YDYW HYN OND CAFOD. I Yr Haf A mi yn goddef tywydd blin, Yng ngwyneb drycin gormod, AC yn d'wedvd rhyngwi a'r bryn Nid ydyw hyn ond catod, Mi glown ryw beth, fel dan yr ia, Fel petae'r gaea eger Yn dweyd yn chwerw, yn arw, heb nwy, Gae,af: Hi bery'n htØy o lawer." Haf Ni wna i ronyn coel i ti, Mi ges fy nhrochi'n barod- Y mae dy linyn yn rhy dynn— Nid ydyw hyn ond cafod. Gaeaf Na chamgymer felly, lane, Ni elli ddianc rhagddi, Fe all yr ifanc farw'n hen Cyn gweled diben arni. Hal: Nid oes yn dy gwmwl tew, Ond gwynt, a rhew, a rhyndod Fe ddaw eto haul ar fryn, Nid ydyw hyn ond cafod. Gaeaf Mae'r huan wedi colli'i wres, Mi wyddost hanes hwnnw Fe wnaeth lonawr glodfawr glau, Nad gwiw coffau mo'r enw. Hal Ond er i Ionawr, megis blaidd, Wasgaru'r praidd i ddifrod, Fe ddaw mis Mai dros donnau'r Ilyn- Nid ydyw hyn ond cafod. Gaeal Ti elli rynnu wrth aros ha', Wrth ddal yr eitha ar wndwn, Dos i'r llwyn sy'n llawn o goed, Ni bu erioed mo'i ffasiwn.,3 Hal: Gwae fi gofio yn fy nydd Lygru gwinwydd hynod Ni ddof i blith mieri a chwyn- Nid ydyw hyn ond cafod, Qaeaf Mae'r winwydden yn ddi fri, Ali changau wedi gwyfo, A phwy a wyr y.daw hi byth-- Na wna dy nyth dan honno. Haf Pa le mae'r gangen irwen oedd Yn rhoi i filoedd gysgod, A blanase-i'r lesu Gwyn ? Nid ydyw hyn ond cafod. Gaeaf Honno a dorwyd yn y b6n, Ni wiw mo'r sdn am dani Ni cheir, wrth ei throi a'i thria, Ond surion rawnwin ami. Haf Fe dyf etto, oddiwrth y gwraidd, Ffrwvthlonaidd iraidd aerod A than y rhain dof finnau i'r glyntl-- Nid ydyw hyn ond cafod. Gaeaf: Mae fy mwyaH etto ar dan, I ddifa'r man gangheni: Siawns a fydd o fewn y fro Un pric a dalo i losgi. Hal: Fe ddaw etto ar ol y rhain, Rai i chwnnu'r drain a'r sorod, Ac i gadw'r derw a'r ynn- N'd ydyw hyn ond cafod. Gacalt Er dy ynfydrwydd di a'th fryd4, Fe fynn y byd ei ragor Meddwl, cyn dy fTaelio'n gwitt, Pa beth sydd flit i'r tymor. Haf Ffarwel, aeaf mawr ei dan, Mi gadwaf lan gydwybod Dan obeithio'n lesu gwyn Nad ydyw hyn ond cafod. Os daw gofyn pwy a'i gwnaeth, (Paham y gwaeth pwy i gwnelo) Rhyw ddyn yn gwrando ar yr ha' A'r gaea, yn ymgomio. Pwy a'u piau ? I At Olygydd Y BRYTHON ( ANNWYL SYR,—Digwvddais daro ar y cwpledi isod i Eifionydd mewn hen amlen oedd wedi llechu mewn corigl ets degau o flynyddoedd. Ceisis,is eu codi cystal ag y gallwr, a, charwn wybod gan eich darllenwyr pwy yw eu hawdur. Dichon mai at Owen Gniffydd, Ll^nystumdwy, y cyfeirir yn y seithfed englyn.—Yr eiddoeh yn bur, 8 Lewis Street, OWEN JONES. Tre hafod, Pont y pridd. Mae'r adar cynnar yn canu,-felus wiw foliant i'r Iesu Galwant,—adeiniog wiw lu, foreuddydd, ar Ddafydd Ddu,— Dyma'r gan, hoywlan yw hi—gu lawen, a glywaf o'r llwyni; Clyw ein llais, a'n adlais ni, y, ,eysgodur,cais godi. Clyw ddadgan un rhan yn rhwydd—iaith gofus, o'th gyfiawn ddyledswydd Dyro fawl rasusawl swydd diweir-glod i dy Arglwydd. Ym man-goed, gla,s-goed y glyn-pregethwr pur goeth yw'r aderyn E gan glod, hynod yw hyn, boreu-gerdd, ar y brigyn. Minnau a'm trom awenydd,ffaeledig, ffol ydwyf o brydydd Rhy fach yn fynych a fydd fy enaid, yn Eif- ionydd. Erfyniaf ar Naf, yn fy nydd,—gu nerth, ei gynnorthwy beunydd I dreulic/r; iawn, radlawn rydd, fy einioes yn Eifionydd. Pan ddel oes, byr-oes i ben—e dynir dannedd y genfigen Caf orwedd, dan lygredd len, mor dawel a 'mrawd Owen. Af i orwedd at feirwon,i gaerau, o gArrraedd gelyriion Tyf uwch priddlyd, fraenllyd fron, flodau, gwiw lysiau gleision. Ar ben yr ywen irwerdd,—o gariad, agorir hiraeth-gerdd I Yr Adar, ar gynnar gerdd, dysgant fy mliriodas-gerdd. Hen gynfam, ddinam i ddynion,—a chwaer, o I cherir hi'n ffyddlon Fy nghwely-fy ngliplon, fy-mhriod hynod yw hon. Duw'n rhwydd ddistawrwydd ystyriawl,—i'r bod neu'r abwydyn marwawl Pa ddaear fud—pwy ddyry fawl yn eigion bedd unigawl ? Fy enaid, pan derfyna—fy einioes, ar funud cyfyngaf, Cymmer, 0 anwyl-ber Naf, i dy ddwylaw'r dydd olaf. ■ o■——
Darllsnwch os Mynnwch.
Darllsnwch os Mynnwch. HEN FEISTS MR. LLOYD GEORGE. -Y mae Mr. Randal Casson, Bron y Garth, Porthmadog, wedi marw o lid yr ysgyfaint yn Sicily, Mor y Canoldir. Gyda fo, tua'r fl. 1879, y bu Mr. Lloyd George yn dysgu cyf- reitha ond dyma'r clercyn bach aflonydd a llygadlon hwnnw wrthi erbyn heddyw'n gwneud cyfreithiau newydd sbon, yn lle'r hen rai hysbion a gorthrymus oedd wedi cadw'r werin wirion yn ei chwman ers cyd o ganrif- oodd. DAMEG Y BRIGYN CRIN.-Y mae Mr. J. R. Davies, Ceris, wedi rhoi fvny fod yn drysorydd Cymdeithas Ryddfrydol M6n. Y fo, fel y gwyddis, yn un o'r CapelwyT hyrwyddodd y dysteb Yrnneilltucil-Ymneill- tuol, wir !—yn erbyn Dadwaddoliad. Y mae'n fab y diweddar Mr. Rd. Davies, yr aelod Soneddol dros y Sir, a'i fam ynrfercli yr Hybarch Henry Rees. Gresyn gweld brigyn mor braff oddiar fonyn mor hyglod yn crino a cholli'i afael oddiar y Goeden Ymneilltuol a Chenedlaethol, canys disgyn i fynwes y Fam y byddant hwy'n gyffredin wrth ollvvag honno. Hen dderwen odidog oedd derwen Llansannanac a dyfai'n braft odidog cyn ei chodi o ffridd y werin i ardd y Plas. DEISEB DWYLL.—Wrth basio pender- fyniadau ymhlaid Dadgysylltiad, Ymreol- aeth, a bil y Plural Voting, pwysodd Bedydd- wyr Sir Gaernarfon am i'r Llywodraeth beidio a chymryd sylw o'r deisebau yn erbyn Dad- gysylltiad, wrth feddwl sut y ceid yr enwau. Y DDAU DDEWISOL.-O'r pedwar I cwmni ar bymtheg y bu Mr. T. J. Williams a Dr. J. Lloyd Williams yn eu gweld a'u gwran- do'n perfformio gogyfer a'r gystadleus.eth ddrama yn Eisteddfod Bangor fispiedi nesaf, y ddau ddewiswyd i gystadlu ar goedd un o nos- weithiau'r wyl yw Cwmni Caernarfon yn cliwarae Beddan'r Proffwydi, a Phentyrch (ger Caerdydd), Asgre Lan y Parch. R. G. Berry. NA THAFARN NA THLOTY.-Wrtli agor ysbyty newydd, gwerth yn agosiddeng mil o bunnau, at wasanaeth tlodion Undeb Caernarfon, yr wythnos ddiweddaf, sylwodd Mr. H. R. Williams, yr arolygydd tan Fwrdd y Llywodraeth Lie oi, y byddai'r ddau air ateas—workhouse a pauper--yn diflannu o'r Ddeddf y mis hwn, ac y ceid cryn ugain o r ysbytai hyn drwy Gymru, maes o law, lie y caffai r cleifion tlawd lawer amgenach trin- iaeth a chwarae teg nag a gaent yn yr hen sefydliadau. Gresyn na ddijSannaFr gair tafarn ar unwaith a'r gair tloty, canys y maent yn berthynasau pur agos ac mor lan a gwerth ei gweld y buasai Cymru heb na thafarn na thloty i'w baeddu. GYDRADD MAB A MERCH. Yng Nghynhadledd Annibynwyr Seisnig Gogledd Cymru, a gynhaliwyd ym Rlhenmaenmawr yr wythnos ddiweddaf, yr oedd y penderfyniad hwn i'w drafod, ond fe'i hoedwyd hyd y Gyn- hadledd nesaf oherwydd pwysau'r pethau ereill oedd gerbron :— Fod y Gynhadledd hon, tan gydnabod fod merched a meibion yn gydradd eu cyd- raddoldeb yng ngwasanaeth y Meistr, yn cymell ar yr Eglwysi y dymunoldeb o estyn yr un hawliau a breintiau i bob gwrywa benyw o'u haelodau, heb gyfyng- iad yn y byd." Pwy na chofia wrychyn y tadau pan ddech- reuodd rhai o'n chwiorydd ddringo i'r reithfa a phregethu, ac fel y gwaeddai rhai ohonynt, Pais mewn pulpud mor goeglyd. Fe geir chwaer yng Nghadair y Gymanfa toe. AMRWD AC AFIEDNAIS.— Caed tra- fodaeth yn yr un gynhadledd ar Y Cinema, a'r Eglwysi, Be y dywedwyd amryw byd o bethau o blaid ac yn erbyn, y lluniau byw. Yn erbyn.-Fod awch am arian yn pylu syniad perchenogion. y cinema am yr hyn oedd weddus a d-yreliafol.-Fod Uffern Dante, a Satan a'r holl gethem gythreulig, yn cael ei dangos yn holl erchylldra'r ddiwinyddieeth faterol honno.-Fcd enaid dyn yn cael ei aredig wrth weld ein Gwaredwr yn cael ei ddwyn gerbron i wneud arian ohono, a chael ei ruthro fewn ac aUan ar frys rhwng lluniau bras a digrif. 0 blaid.Pe cyfyngid y cinema i ddangos yr hyn oedd ddyrchafol ac addysgol, yna byddai'r Eglwysi o'u plaid, canys rhwydd- hynt i bob perffeithrwydd mewn celfyddyd. Y mae'r cinema wedi gwagu cryn lawer ar y music-halls iselaf a'r tafarii--u.-Sylwodd un o gynrychiolwyr y Gynhadk dd fod y cinema wedi gwella cryn lawer ar dymer ei wraig a dywedai y Parch. W. T. Tutton, Rhos-on- Sea, fod cinema'n cael ei chodi gyferbyn a'i gapel ef, ac fod y dyn oedd yn ben arni wedi ymuno a'i gynulleidfa ef, y fo a'i briod. MOR DDA AR Y PLANT RHAGOR AR EU TADA U.-Nir. L. J. Roberts, M.A., Arolygydd Ysgolion ei Fawrhydi, a rannai'r gwobrwyon i blant Ysgol Sir Llanberis nos Wener ddiweddaf ac a ddywedodd wrthynt mor dda oedd hi arnynt, mewn braint a chyfle, rhagor oedd hi ar eu tadau di-ysgol a di-bopeth ond ceibio'r tir a chrafu'r ddaear. Yn 1847, yr adeg y daeth y Ddirprwyaeth Addysg gonadwy i (? mru, nid oedd yr un ysgol ddyddiol ym mhlwyf Llanberis, na dim ond un ysgol rhwng deublwyf Llanberis a Llanddeiniolen, gyda phoblogaefch o bum mil, ac yn honno 84 o ysgolorion ac un athro. Sylwodd hefyd mewn gwlad mor cdidog ei mynyddau yr oeddynt yn cael eu magu, ac fel y byddai'r hen Wyddfa yn mynd gyda hwy, yn eu calonnau a'u hiraeth, i bed war ban byd maes o law. Cyfeiriodd at gysytltiadau llen- yddol Llanberis, ac a ddyfynnodd o wcithiaix Islwyn am y lie, ac o Lasynys a Cheiriog ac yn y blaen. A dyma rai o'r llenorion Seisnig oedd wedi bod ar y Wyddfa ac wedi ysgrifennu amdani :—Watts-Dunton yn ei Aylwin; I R. L. Peacock yn ei Headlong Hall Charles Kingjsley yn ei Two Years Ago Wordsworth yn ei Prelude Tennyson yn ei Edwin Morris ac fe fu Ruskin, De Quincey, Carlyle, Froude, a llu ereill yno.—Byddai yn y Visitors' Booh ar goryn y Wyddfa bytiau o waith rhai o'r anfarwolion uchod v a phe buasent o fewn cyrraedd, fe'u codaswn yma.
Advertising
WILLIE REES, Tenor Vocalist & Choirmaster. Winner of Tenor Solo at New Brighton Tower Eisteddfod, 1913; also winner of 38 champion solos, and oyer 100 other prizes. Terms for Festivals, Concerts and Eisteddfodau. Apply at 44 ASH GROVE, SHOTTON, CHESTER Rbifyn y Gwanwyn. Y BEIRNIAD CYTOHQRAWN CHWABTEROL dan nawdd Cymdeithasau Cymreig y Colega a Cenedlaethol It than olygiaeth J. MORRIS JONES. GORONWY OWEN Y Parch. T. Shankland BETO SIAN Y Parch. John T. Job BERG SON—CYWIRO CAMSYNIADAU O. W. Griffith Y GYMRAEG A C HENEDLA ETHOLDEB H. Parry Jones ENWADAETH Yr Athro Joseph Jones CYFOETH A CHENEDLAETHOLDEB P Y Parch. Rhys J. Huws j RHOBAT LLWYD R. Williams Parry GOHEBIAETH David Saimie HAWL AC ATEB HEN LYTHYR ADOLYGIADAU gan W.' J. Gruffydd, If or Williams, y Parch. D. Adams, a'r Golygydd Lerpw; Hugh Evans a'i Feibion, Argraffwyr, 856, 358 StaWey Road. ANWYD, PESWCH, INFLUENZA.-Mae rbai'n gyda ni bob amser. Pair binsavrdd gyfrew- idiol fod llawer o ddioddef oddi with Beewch, Birnobitis, Pas, Dolur Gwddf, Crygni, Caethdra, Diflyg Anadl, Y mae yr hen feddygjoiaeth "DAVIES'S COUGH MIXTURE" eto ar y blaen, ac yn cael ei gwetthfawrogi yn fwy nag erioed, bob amser wrth law, yn felys, yn cynhesu y frest, ac yn rhyddhau y phlegm. Bydd doso mewn pryd yn ddigon. Is. Ho, a 2s. 9c. (postage, 3c.).-HUGH DAVIES, Chemist. MACHYN- LLETH GWYNEB PRYDFERTH. Saizine Blood Mixture at glirio y croen, a phrcro y gwaed. Y mae yn myned at wraidd y diwgs ymlid ymaith bob math o pimples, coohni, ysfa, sccrvy, pen- ddynod. GweHa hen ddolnriau. coesau drwg, crydgymalau, gan adfer y croen i'w hatddw natnriol. 2s 60. y botel gan bob Druggist; I wn ychwanegol gyda'r post.—HUGH DAVIES hemist. MACHYNLLETH, • W. & J. VENMORE, Estate Agents & Valuers 200 SCOTLAND RD. tiverpool TURPHO" No 5163 Rofal J. Lloyd Jones, & Co., ESTATE AGENTS* kc. 6 Lord Street, Liverpool fit-LAPHOSS 4212 BAMB. ik j Royal L I IN t It ALLAN 1l1 To CANADA. ALSATIAN and CALGARIAN 18,500 ton Quadruple-Screw Turbine Steamers ExpressSWeeltiy, Service from Liverpool. The POPULAR PIONEER LINE. LARGEST and FASTEST to CANADA. CHEAPEST way to Canada; shortest to W America Regular Sailings from Glasgow, Londonderry, London, Plymouth and Harve. ALLAN LINE, 19 James St., Liverpool; 14 Cockspa St., S.W., and 103 Leadenhall S t., Loudon, E.CL  ..Lost Property- '???,  UMBRELLAS. ?{,¡\íjf Railway, Tramway, Police JM Beautiul UmbreHas & Sunshades, 1 ?"S i?? ?' ??' ??' ?P??s. Walking '?i?J? Sticks 2d upwards. These are good knock-about umbrellas. ? ? Northern ?Umbrella Depot 28a Bold St. (upstairs), few doors from Church St Halford Cvcle Co., Ltd., FOR CYCLE ACCESSORIES AT WHOLESALE PRICES. Plated Wheels, 3/- Mudguards, 4id. a pr. Inner Tubes, from 1/81 Covers from 2/11 Back Brakes, IJ7 Pedals, lOJd. a pair. Carriers, 3d. Handlebars, 1/6 Handlebars fitted with 2 Roller brakes 4/3 complete. CYCLES fully &anteed 22/15/- including lamp, bell, bag, pump, &c. 49 & 61 Renshaw Street, Liverpoo Thousands of Bargains. Coupon Rhad»Yswiriaeth (Peidier a'i hollti'n rhydd), BYDD I'S k 'g GRESHAM Fire and Accident Insurance Society Lta StSMndreds House, Poultry. LONDON. E.C. dala 21M (can punt) i gynrychiotydd eyfreithio a phersonol y sawl a fo'n ddiles-ddaliwr y coupon hwn, os y bo iddo fo zieu hi gael eu ladd yn hollo ao yn uaiongyrchol drwy ddamwain o fewn y Deyrnaa Gyfunol i dren unxyw Gwc ni Reilffordo, Tramcar, Omnibus, Cab, neu Gerbyd Trwyddecftp a Ll' yn yr hwn y bo'r daliwr yn cael ei gia? fel teltMwr tooyn a owud, yn ddarostyngedig bm amser i'r amodau arbennig a ganlyn sydd ystyried fel rhan a chyfran o'r cytundeb— (a) Fod y marw'n digwydd o fewn dene niwrnod ar hugain wedi'r ddamwain (b) foe rhybudd ohonf n cael ei roi i'r Gymdeithas « fewn saith niwmod yn eu Prif Swyddfa ya Llundain (c) fod y cyfryw dystiolaeth res- ymol parth achos y farwolaeth yn cadi ei gyflwyno ag a fo'r Gymdeithas yn ei ofyn (d) fod y daliwr wedi 'sgrifennu ei arwydd- enw arferol, cyn i'r ddamwain ddigwydd, Sg ine yn y lie darpuedig gogyfer a hynny (? na bo'r Gymdeithas yn gyfrifol i fwy nag on person parth mwy nag un coupon yn y papor hwn na r un cyhoeddiad araH (/) na bo r y?. wiriaetb hwn ddim yn gaffaeladwy i bersonaa tan ddeuddeg na thros ddeg a thrigain mlwydd oed, ac a ddeil yn ddilys am saith niwrnod o 12 o'r gloch y dydd y'i codir. Arwyddnod y Da!itU1" Trigfodi I Danysgrifwyr, Raid I dderbynwyr cyson y papur hwa ddim arwyddo r Coupf n os ca'r Gymdeithas gwbl sicrwydd a phrawf ei fod yn cael m anfon iddynt yn ddlfwlch. — — ■- ..Cynhygiad Neilltuol.. i Pdarllenwyr ,4 Y BRYTHON." NIJD oes dim mwy hwylus a gwertbfawr na Fountain Pen da o gwneuthuriad y geUir dibynnu arno, a hynny am bris isel y gall pawb ei gyrraedd. Mae perchenogion Y BRYTHON-er mwyn:eangn cylchrediad en newyddiadur-yn cynny FOUNTAIN PEN o'r gwneuthuriad goreu guaranteed fitted with 14 carat Gold Nib, fine, medium or broad), ac yn gyfartal o ran ei werth i raia gynhygir am brisiau llawer uwch. Dyma'r telerau:- Am 3/6 (Postal Order). Neu am 3/- a phum Coupon. tf „ 2/6 a deg Coupon. Y Coupons i gael eu tori allan o'r BRYTHON. Gwna unrhyw ddyddiad y tro, ond a chymerir mwy na thri o'r un dyddiad. Anfoner y Coupons a'r Postal Order. ynghyda emv a chyfeiriad yr anfonydd wedi ei ysgrifennu yn eglur. Cyfeirier yr archebion :—- 356-358 STANLEY ROAD, LIVERPOOL. Fountain Pen Coupon Y BRYTHON." Ebrill 9fed, 1914
I Ffetan y Gol.
o'i Eglwys." Ymddengys mai'r gair hyrddio sydd wedi'i gythruddo. Ond eredaf fi fod y gair hwnnw yn gosod allan i'r dim ysbryd erlidgar yr awdurdodau eglwysig yn yr adeg hoiix-to-gellid llenwi rhifyn cyfan o'r BRYTHON yn rhwydd ddigon i ddangos hyn. Ond os yw'r gair hyrddio yn rhy gryf i archwaeth eich gohebydd H.D., ni charwn mo'i dramgwyddo—defnyddiais y gair eywiraf y medrwn gael gafael ynddo ar y pryd, "heb lid na brad." Canu hemes yn syml oedd fy amcan-a hynny fel y'i deallwn. Ni fyddai o bwys i amoan y Ilitb hwn pe irethwn eich gofod a dyfynion helaeth o lyfrau parthad y pa bryd ac ymha le y ejrmerth y Diarddeliad Ie-gall. nad yw eich gohebydd yn rhyw awyddus iawn i wadu'r ffaith syml honno. On,d dymunwn innau yn garedig roi cyngor bach iddo yntau-a bydded hynawscd a'i dderbyn yn yr ysbryd y'i rhoddir, a dyma fe peidied a bychanu formod, ie, hyd yn oed, dystiolaeth Tra- d&diad-rhag y gallai honno fod yn asset bur werthfawr i rywrai heblaw Ymneilltuwyr ym mherthynas a'u hanes Ao na fpddylied H.D. fy mod innau, druan gwr, yn llawn mor &nwybodus ag y breuddwydia efe. Chwardd- ed, os myn, am ben fy awdurdodau geill Ojrmru fforddio chwerthin am ben awdur- dodau (?) o ddosbarth Esgob Llanelwy! Swni y cwbl a ddywedwyd yw hyn (!) Diarddelwyd Daniel Rowlands o'i Eg- lwys ac fe'i claddwyd o'r tuallan i furiau Bglwys Llangeitho. (8) Ymhen uwchlaw can' mlynedd wedi hynny, cymerwyd ei ledd i mewn," ac adeil- adwyd Cangell gain" uwchben ei weddillion. (3) Peth peryglus yw erlid PROFFWYD Duw ya ei ddydd Y mae gennyf gyfsillion calon ymhob aorlan o Eglwys Crist yng Nghymru ac Ni fyddwn ronyn yn llai cyfeillgar wedi'r elo Brwydr y Dadgysylltiad drosodd. Ond, deued a ddelo, pleidiaf Grefydd Rydd—rhydd oddiwrth hualau'r Wladwriaeth-hyd fy aaodd. Derbynied Humphrey Da vies (Barrow-in- Furness)—gan nad pwy ydyw-fy nghofion earedig; caffed werth ei arian ymhob marchnad," a deued pob bendith ar ei ben ef a'i hiliogaeth, o flaen ei dan clir a goleu ac os yw'r ciwrad neu'r fiicer yn byw yn agos iddo--deued bendith gyfoethog ar eu pennau tarytliau hefyd. Annwyl gariaduR frodyr, os byth y dowch i ochrau'r Carneddi, cofiwch slw-chwi. gewch bob croeso y dichon Pregethwr Ymneilltuol ei roddi, er nad oes yn perthyn i'r Eglwys hon ddim cymaint a dimai goch o Waddol. Da y boch, frodyr aawyn,—a chofiwcb fi at Humphrey Da vies. Terfynaf finnau, heb lid na brad," Mbrill 3, 1914. JOHN T. JOB. O.N.-Un gair pellach, Mr. Gol. Efallai y eaniatil H. D. i mi ei longyfarch ar un arfer dda--o leiaf—o'r siddo. Dywed mai'r BKYTHON yw'r unig bapur Cymraeg (belled ag y gwyr ef) sy'n dod i'r dref (Barrow-in- Furness)," ac ymddengys fod H.D. a'i deulu kyehavi yn ddarllenwyr cyson ac eiddgar ohono. Da iawn, H.D. Ni allech byth wneuthur gwell dewis,—canys y mae'r BRYTHON yn un 6'n hwythnosolion gwrolaf a mwyaf diwenwyn, yn iach ei wleidyddiaeth-—- keb amcanu ohono at gario cynffon undyn byw, yn amrywiog a difyr ei gynnwys, as o duedd lenyddol uchel. Gobeithiaf, H.D., fod eich dewis o blith yr afrifed newydd- iaduron Saesneg yn gyffelyb. Ymswyrwn, da rinniwt Gymry, rhag gwenwyn Y Wasg Felen "-Spesneg a Chymraeg cenhadnn eibddall y Ddelw Aur, a'r Military Scare beunydd a byth yn goch ar eu hyinanyddiau A chyda Haw, Mr. Gol., onid y gang ynfyd hon a fu yn ceisio gwenwyno a llithio Byddin y Brenin (fel y dywed eich gohebydd Teyrn- gartor yr wythnos hon) yn ystod y ddwy flyn- odd ddiwdedaf, a hynny "or mwyn horio Deddfwriaeth Prydain Ond, Mr. Gol., eredwch fi nid oes berigl am eich gohebydd rhadlon H.D.—canys y mae'n darllen Y BRY- SHOTsr yri gyson-ei unig wythnosolyn Cymrciq, ebr ef. Maddeuwch y crwydro maith hwn o'r eiddof—y mae cymaint o dry dan yn yr awyr !-T.T.J.