Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
1 fO Big yI I*leifiad. I
 1 fO Big y I*leifiad. 7 PARCH. JOHN THOMAS, M.A.- Gofid i'w gydwladwyr drwy'r holl ddmas ydoedd ciywed fod y gwr uchod wedi pen- derfynu rhoi fyny Eglwys Fedyddiedig Myrtle Street, ar ol ei bugeilio un mlynedd ar hugain. Terfyna'i lafur yno fis Gorffennaf nesaf. Ei arfaeth ar hyn o bryd yw mynd i fyw i'r Brifddinas am ysbaid ac yna, wedi eftib a gorffwys, ac adnewyddu'i iechyd, ym- gymeryd a. gofal bugeiliol eilwaith, ond ymhle, nid oes ganddo amcan yn y byd yn awr. Bydd yn chwith i Lerpwl am un o'r pregethwyr cryfa'i feddwl a'r tryma'i afael ya y Ffydd Efengylaidd. GLADYS MAGW Y A ID—•— -1 1 rI, UB, o wleddoedd blynyddol .l:$lrkenhea' ers pum mlynedd bellach, ydyw'r cyfarfod a geidw Macwyaid Madame Gladys Williams yn Neuadd y Y.M.C.A., Grange Road. Caed y pumed nos Iau ddiweddaf, y lle'n llawn a'r doniau'n gelfydd a meistrolgar iawn, ac ol yr athrawes (a gyfrifir gyda'r oreu yn y cylch era talm bellach) yn drwm ar y disgyblion. Dyma'r rhaglen Deialog, The Explana- tion." ffrae aelwyd ddoniol rhwng gwr a gwraig ifanc Miss Nell Williams a Mr. Edgar Heath. "A Peter Pan Adventure," gan Miss Mabel Owen, Miss Doris Fyfe, Masters Jas. Galloway a Jack Summers. Adroddiad, The shadow of a song," Mr. T. C. Hughes. Chwarae Who's afraid," gan Miss Fruger, Miss Lesley Brook, a Master Jas. Galloway- yr eneth Lesley Booth yn chware'i rhan yn gampus, ac yn llygeidio ac ystumio i'r dim o naturiol a chywir, ond fod y Ilencyn braidd yn dai a hen i ateb iddi hi. Can, Friend," Madame Josephine Williams, Bangor, gyda'i gofal a'i glendid arferol. Adrodd Prince Arthur's Appeal to Hubert," gan Miss Ida Heath-croten fach ddawnus odiaeth, ond fod y darn braidd yn henaidd iddi, goeliaf fi. Can, Farewell in the desert," Mr. Evan Lewif, Bangor ac yn canu O na byddai'n haf o hyd," mewn atebiad i encor di -droi'.Y) ol. Adroddiad, allan o Merchant of Venice," yn alluog a meddylgar, gan Miss Gladys Ellis. Deialog, "School Pals," Misses Doris Tully a Daisy Lloyd. "My First Engagement," gan Madame Gladys Williams, gyda'r medr dramataidd hwnnw sy mor gyforiog ynddi. The Fiance's Fiasco," gan Miss F. Yates a Mr. Reg. W. Lewis—chwarae doniol ar ddeialog y nionyn a'i arogl atcas, a wyneb y ferch yn wyneb hyawdl iawn wrth ei newid i amlygu'r amryfal deimlad o siom a serch ae dros ei chalon. Adrodd "Sign of the Cross," gan Miss Sadie Chalmers—yn ber- ffaith bron, o ran naws calon a chelfyddyd pen. Can, "The Watchman," Madame Josephine Williams. The Portrait," Miss Edith Lloyd. Dwy gan eto gan Mr. Evan Lewis, ond yn gwrthod dod yn ol i'r llwyfan, oher- wydd meithter y rhaglen a'r adeg bellach mor hwyr. Adrodd Lasca gan Miss Blanche Bowen. 'Im and 'Er," gan Miss Elsie Brick a Mr. G.IMorris, yn fedrus ddigon, ond rhyw fwyd llwy y cyfrifasai'r Cymry'r ddeilaog hon, er ei bod hi at fias y Saeson i'r dim. Deuawd Life's Dream," gan Madame Williams a Mr. Evan Lewis. Prin fod yma neb ar y Glannau a chanddi gynifer o ddisgyblion a Madame Gladys Williams, na heb sy'n medru'u hyfforddi'n llwyrach a pherffeithiach ar adrodd a chwarae yr unig berygl a deimlem gyda rhai ohonynt oedd ochri at ddangos mwy o fedr chware theatraidd nag o naws ac eneiniad calon. Rhaid wrth deimladaeth foesol i gyrraedd brigyn uchaf rhagoriaeth. Yr oedd medr a meddwl yma faint fynnir dipyn mwy o themes a theimlad ein darnau mwyaf clasurol uasai'n coroni'r cyngerdd campus. -o m
DAU TU'R AfON.
DAU TU'R AfON. COLOFN ARTHUR OGWEN.—Mewn cyfar- fod (j Ryddfrydwyr Cilgwri a gynhaliwyd yn ddiweddar yn West Kirby, dywedodd y llywydd (Dr. Bond) fod y Gymdeithas wedi colled fawr trwy farwolaeth y Cymro ieuanc talentog, Mr. Arthur Ogwen Jones. Cyfeiriodd yn dyner at ei gymeriad hardd a'i ddoniau dl'sglair, a gresynai nad oedd dim wedi ei wneud i gadw'i goffa'n wyrdd. Ategwyd ei sylwadau gan ereill, a'r cwbl yn tystio fel yr oedd ein diweddar gymrawd ieu- anc wedi ennill ffafr a serch y cyhoedd, ac awgrymwyd mai priodol oedd manteisio ar y cyfle hwnnw i enwi nifer o wyr blaenllaw i ystyried cael coffa teilwng iddo. Ac felly y gwnaed, a chyda'r parodrwydd sy bob amser mor nodweddiadol o'r gwir edmygwyr, daeth y cwbl a enwyd at ei gilydd i cyn- hullydd ar y noson benodedig. Yn eu plith yr oedd rhai o Geidwadwyr mwyaf adnabydd- us y cylch,—ac un ohonynt hwy ddewiswyd yn gadeirydd y pwyllgor, sef y Cyrnol Gamon, boneddwr galluog a phoblogaidd iawn, ac a'r hwn y bu Arthur Ogwen yn mynych groesi cledd mewn dadl gyhoeddus ar bynciau gwleidyddol. Gwaith cyntaf pwyllgor ar y fath oedd clirio awyrgylch yr ystafell oddi- wrth arogl plaid a sect, ac wedyn penderfynu cyhoeddi enw pawb oedd ar y pwyllgor gyda'r apêl am danysgrifiadau, a'r canlyniad fu derbyn y swm anrhydeddus o £ 26, oddiwrth agos i gant a hanner o bersonau, ac yn eu plith frithiad teilwng iawn o Gymry, ond teg addef mai hil Hengist roddodd gychwyn i'r mudiad, a hwy'n bennaf biau'r clod am yr hyn ddigwyddodd ym mynwent henafol West Kirby ddyddjlau cyn y diweddaf, sef addurn- o'i fedd a. cholofn hardd o farmor gwyn canaid, gyda hyn wedi eu ysgrifennu arni, a phin o haearn ac & phlwm. Sacred to the memory of Arthur Ogwen, son of John and Catherine Jones, of West "Kirby. Born 1888. Died 1912." Hefyd ar ochr orllewin y goloin:- This stone was erected, as a tribute of affection by many friends, sorrowing for early loss of one so greatly gifted." A thrachefn ar yr ochr ddeheuol, Yn wyneb haul, llygad goleuni,"—i ddangos i'r oescedd a ddaw mai Cymro glan ei foes ydoedd y llanc a haeddodd y fath goffadwriaeth yn ardal Seisnig ei fabwysiad,—ceir y rhydd-gyifeithiad a ganlyn o'r geiriau uchod Codwyd y golofn hon, fel teymged o barch a serch lliaws o gyfeillion, sydd yn galaru am golli mor gynnar wr o alluoedd mor ddisglair." Ac wele flodyn arall tlws a deflir ar fedd ei goffa gan foneddwr a'i hadnabu'n dda, sef y Proff. J. Glyn Davies, M.A. 'Sgolhaig heb addysg colegol,—ond un A doniau naturiol Llanc oedd ieuanc addawol Gwr Duw-a gair da o'i ol. Gwyn fyd na fai mwy o rai tebyg i Arthur Ogwen, a'u bryd ar godi ein cenedl yn uwch uwch i'r lan trwy ddarostwng y rhagfarn annheg a goleddir tuag atom gan estroniaid anwybodus ac erlidgar.-Y. WESLEAID SEACOMBK.—Daeth yr hanes hwn yma'n rhy hwyr i'r rhifyn diweddaf ac nid ar y Y BRYTHON y mae'r bai na fyddai ynddo fwy am Gymry Seacombe a Wallasey, ond ar y Cymry hynny'n peidio ag anfon Cynhaliwyd cyngerdd rhagorol yma Chwefrol y 24, tan lywyddiaeth Mr. 0. Tudor Jones, Birkenhead. Y mae yma Gor o Gymry (o wahanol enwadau) wedi ei godi gan Mr. Henry Roberts,—gwr ymroddedig iawn i gerddor- iaeth, ac fe ganasant Dream of Paradise," Y Ffrwd," Abide with me," a'r Haf a ch6r meibion o'u mysg, canasant hwythau "Milwyr Rhufeinig," Ar lan Iorddonen ddofn," a'r Delyn Aur." Caed caneuon hefyd gan Mri. O. Newton Edwards, Mr. Tom Roberts, Miss Jennie Maldwyn Jones, yn ol eu melyster arferol, ynghyda detholiad ar y crwth gan Miss Gwladys Lloyd, R.A.M., yn fedrus iawn. Cafodd y cantorion ami i enc6r a chan y bu'r pwyllgor yn ddigon doeth i beidio llunio rhaglen rhy hir, dibennwyd mewn bias a than arddeliad. CYNGERDD Y CELTIC.—Daw hanes hwn, a gynhaliwyd yn y Stanley Hall nos Lun ddi- weddaf, yn y rhifyn nesaf. P3H35 SUL CKKHADOL.—Dyna gafwyd yng nghapel M.C. Anfield Road y Sul diweddaf. Y bore, cafwyd pregeth genhadol rymus gan, y gweinidog, y Parch. John Owen disgrifiai y wawr yn torri ar dywyllwch ofergoeledd yng ngwledydd y Dwyrain a chyfrifoldeb eglwys y Gorllewin yn wyneb hynny. Y prynhawn, cafwyd cyfarfod cenhadol dan lywyddiaeth Wm. Venmore, Ysw., cadeirydd Pwyllgor y Genhadaeth Dramor. Galwodd ar Miss Annie Thomas, genedigol o Lerpwl, ac yn awr yn genhades yn Shillong. Rhoddodd hithau hanes y gwaith yn Shillong, y llwyddiant sydd wedi bod arno, a'r angen mawr sydd eto am weddiau ar ei ran, gweithwyr i'w gario ymlaen ac arian i'w cynnal. Yna rhoddodd Miss Williams, Sylhet, hanes y gwaith yn y rhan honno. Siaradodd y Parch. T. W. Reese, Silchar, ar Paham yr ydym yn myned a'r EfengyFi wledvdd ereill." Diweddwyd y eyfarfod gydag anerchiad cynhwysfawr gan y Parch. R. J. Williams, ysgrifennydd y Gen- hadaeth. Yn yr hwyr, rhoddodd y Parch. T. W. Reese anerchiad gwir alluog ar angen India heddyw, a phregethwyd yn felys ac effeithiol ar ei ol gan y Parch. R. J. Williams. Casglwyd ymhob oedfa at y Genhadaeth. CYMRU FYDD ANFiELD.-Yn bendifaddeu, cafwyd dathliad Dewi Sant nos Wener ddi- weddaf oedd yn glod i'r achlysur a'r Gym- deithas. Anfonwyd ymddiheurad am eu habsenoldeb gan y Mri. Wm. Jones, A.S., T. H. Parry, A.S., Haydn Jones, A.S., Garmon Jones, Wm. Evans, C.D., a'r Parch. H. Harris Hughes. Buwyd yn ffodus, fodd bynnag, i gael gwasanaeth" Pedr Hir, y Parchn. D. W. Morgan, B.A., a G. Wynne Griffith, B.A. ,B.D., a chafwyd gwledd uchelryw. Y cadeirydd ydoedd Mr. Henry Jones,"C.D. Rhoddodd gyweirnod Cymr^ig i'r cyfarfod, ac o hynny hyd y terfyn seiniwyd y nodyn gwladgar, heb neb yn tynnu'n groes." Traethodd Pedr Hir yn Gymraeg ar rinweddau Dewi, a mawr fwynhawyd ei sylwadau ffraeth a buddiol. Dilynwyd gan y Parch. D. W. Morgan mewn araith ddyrchafol, yn anadlu ysbryd gwladgar uchel. Cymhellodd y Parch Wynne Griffith y ddyledswydd o ffyddlondeb i'n mamwlad fel i'n mam naturiol. I Mr. W. Cernyw Jones yr oeddym yn ddyledus am raglen benigamp a thrvjyadl Qymreig gan y rhai a ganlyn Misses Nellie Lewis a Lily Edwards, a'r Mri. Tom Roberts ac O. R. Hughes, a Master Glyn Richards fel cantorion, a Miss Nellie Roberts fel adroddydd ddifyr a bywiog. Digon crybwyll mai Miss Nellie Lewis hefyd weithredodd fel cyfeilydd. Dylesid dweyd fod ein llywyddion flyddlawn, Mr. John Herbert a Mrs. T. J. Thomas, yno. Y mae Mr. Russell Edwards i'w longyfarch ar Iwydd perffaith y trefniadau. Diolchwyd i bawb gan Mri. Evan Williams a G. H. Ed- wards. Diweddwyd yn yr oruwchystafell gyda chwpanaid o de ac ymgomwest, a phawb yn uchel eu teyrnged i'r cyfarfod. Dalier y safon hwn o flaen llygaid y Gymdeithas, ac ni bydd unrhyw betruster am ei dyfodol. Cynkaliwyd cyfarfod blynyddol y Gen- hadaeth Gymreig "yn Portland Street nos Fercher ddiweddaf; pryd y cafodd tua thrigain d6 da trwy garedigrwydd Mr. William Thomas i (swyddog yn Eglwys Laird Street, Birken- head), yr hwn hefyd oedd llywydd y cyfarfod. Canwyd yn Gymraeg gan Miss Jones, o Edge Lane, a'r Misses Williams o Douglas Road, a Mr. Alyn Thomas, nai y cadeirydd. Adrodd- wyd. yn Saesneg gan Miss Jones, merch y Parch. David Jones, Edge Lane. Yr oedd yn bresennol ddeg o hen bobl o Walton Work- house, 8 o frodyr a 2 chwaer, brodorion o Lanrwst, Maesglas, Bethesda, Caernarfon, Llangefni, Amlwch, a Chaergybi, etc., ac yr oedd yr olwg ar y mwyniant a gafcdd y rhai hyn yn wledd i'r gweithwyr i gyd. Dywedai un o'r ddwy hen chwaer ei bod yn 68 oed, yn ferch i hen flaenor yng nghapel Herber Evans yng Nghaernarfon, a chanodd i'r gynulleidfa disgwylid can o nodwedd ysgafn, ond Ar lan Iorddonen ddofn" a gafwyd gan yr hen wraig. Canwyd emynau priodol hefyd gan Miss Williams, y ddiacones Syddlon, ac yr oedd yn anodd dweyd pa un ai'r cyngerdd ai cyfarfod diwygiadol oedd yno. CENHADAETH KENT STREET.—Daeth cyn- hulliad da i'r David Lewis Theatre, nos Iau ddiweddaf, sef i'r cyngerdd campus a gaed yno er budd Cenhadaeth yr ystafell uchod, lie y gweithir mor ddyfal ac ymroddedig gan Mr. W. O. Roberts, y Chwaer Watkins, a'u cyn- orthwywyr, i godi'r syrthiedig ac i borthi a chlydu anghenusion yr ardal. Sicrhacdd y pwyllgor ddoniau eithriadol, sef Miss Annie Rees, soprano glir, feddylgar a deniadol ei ffordd. Mr. John Watcyn, tenor o lais tlws a diwylliedig, ond nid mor frwd a gwefreiddiol ag y carasem iddo fod. Miss Annie Davies, contralto gampus, naturiol a diorchest ei gosodiad, a'i hwyneb yn canu cystal a'i llais, nes ennill cymeradwyaeth unfryd y dorf. Mr. Tudor Owen, A.R.C.M., bariton meddyl- gar a llafurus, ac yn geirio'n groew ac yn ymddangos megis y bae'n teimlo grym y geiriau yn ei galon ei hun. Cafodd y can- torion encor mynych, yn enwedig yn yr ail ran. Mrs. Owen Jones gyfeiliai, a hynny'n fedrus iawn. Gobeithiwn y caed elw at waith Cenhadaeth sy'n gwneud gwaith mor fawr ac mor deilwng yn rhan yma'r ddinas. CYMDEITHAS CYMRTT FYDD UPPER PAR- LIAMENT STREET.—Dathlwyd Dygwyl Ddewi gyda hwyl a brwdfrydedd gwladgar nos Sad- wrn ddiweddaf. Daeth cynhulliad lliosog o aelodau a charedigion ynghyd i adeilad cyfleus y Gymdeithas, yr hwn a edrychai yn hardd a siriol wedi ei addurno a baneri, etc. Cymerodd y dathliad ffurf cyngerdd Cymraeg trwyadl, ac ymgomwest ddifyr yn y canol. Cafwyd gwasanaeth y cantorion adnabyddus a ganlyn Miss Jenny Maldwyn Jones, soprano Miss Annie Hughes, con- tralto Mr. Griff Owen, tenor Mr. O. R. Hughes, baritone—a lanwodd le M. Frederic j George, a analluogwyd i fod yno gan afiechyd a Mr. J. O. Williams (Wyr yr Eos), canwr pen- hillior. Cyfeiliwyd yn fedrus gan Miss Edith Jones, L.R.A.M. Taniwyd gwladgarwch y cynhulliad gan y caneuon a'r penhillion a ganwyd mor efiaithiol—yn gymaint felly fel yr encoriwyd pob un ohonynt gyda brwd- frydedd. Parhaodd y gweithrediadau tan un ar ddeg ar gloch, acni ymddanghosai neb yn aflonyddu. Cadeirydd y cyngerdd oedd Mr. J. J. Williams, llywydd y Gymdeithas. Cafwyd anerchiad hyawdl a phraff ganddo ef, Dy- wedai fod gaû fudiad Cymru Fydd le pwysig yn hanes ein cenedl yn yr argyfwng pres- ennol. Mae'n cenedl wedi cyrraedd croes- ffordd, a cheir beirniaid a chynghorwyr tufewn a thuallan i'w therfynau. Cyngor un dosbarth o'r rhai hyn ydyw, y dylem ganol- bwyntio ein sylw ar draddodiadau'r gorffen- nol, tra myn y dosbarth arall nad oes gen- nym neftior ddim i ymfTrostio ynddo, yn enwedig yn ein barddoniaeth, ein llenydd- iaeth, na'n celf. Tra yn cydnabod fod rhwymedigaeth ar Gymru Fydd i barchu tra- ddodiadau dilys y gorffennol, hawliai fod gan y mudiad ddyledswydd i ofalu am y pres- ennol a darpar ar gyfer y dyfodol, gan feithrin a chalonogi teilyngdod lie bynnag yr amlyga ei hun. Cenedl ddemocrataidd ydyw cenedl y Cymry yn ei hanfod, a mudiad democrataidd ydyw eiddo Cymru Fydd. Taer anogai Gymry ieuainc y cylch i ymuno a'r Gym- deithas, pe ond i amddiffyn iawnderau ein cenedl yn wyneb ymysodiadau tuallan a thu- fewn i'w therfynau. Cafwyd trem ddiddorol ar hanes y Gymdeithas o'i chychwyn tua thair blynedd ar hugain yn ol, gan Mr. R. Lloyd Phillips, a chyflwynwyd y diolchiadau mewn areithiau doniol gan Mri. J. E. Owens a Smeath Thomas. Haedda'r chwiorydd gan- moliaeth am y lluniaeth blasus a baratowyd, a'r ysgrifennydd gweithgar, Mr. Ted Davies, am y trefniadau rhagorol i gael gwyl gofiadwy. RIGBY STREET.—Caed cyfarfod Cymraeg yngltn A'r Genhadaeth hon nos Fercher ddi- weddaf, yn cael ei gadw gan ieueretyd Eglwys Chatham Street. Actiwyd amryw bethau allan o Rhys Lmis Daniel Owen,—actio campus, a'r lle'n llawn o dyrfa foddhaus an. arferol. Cafwyd amryw ganeuon ac adrodd- iadau hefyd, Miss Ethel Thomas yn llywyddu, a'r Chwaer Evans yn diolch i'r doniau talentog ar y diwedd. I Dewi. Santo MAE Dewi'n gynllun tra rhed dwr 0 wr yn caru Gwalia Nid clod y cledd ond lies ei wlad A gerid ganddo'n benna' Mor bur yw ffrwd y Ioew nant, Ond purach cariad Dewi Sant. Mae ysbryd Dewi'n fyw o hyd, Lie byddo Cymry gonest Yn brwydro dros eu gwlad a'u hiaith, Bydd yntau yn yr ornest; Mewn tref a gwlad, ar fryn a phant, Ymladdwn frwydrau Dewi Sant. Gwneir difrod gan y ddiod gref, Fe leddir myrdd o Gymry Yn enw'n gwlad, yn enw'n Duw, Awn rhagom i orchfygu A dysgwn ddirwest bur i'n plant, Ran yfwr dwr oedd Dewi Sant. Mae iaith y Brython yn ei bri Er gwaethaf trais yr estron Henafol iaith, anwylaf iaith, Mor beraidd yw'th acenion Cymraeg dros byth fe iaith ein plant, Ran Cymro pur oedd Dewi Sant. Upper Brighton R. H. JONES. TEML GWALIA, EDGE LANE.—Mawrth 3, dan ly-wyddiaeth y Br. Henry Davies, P.D., aed trwy'r rhaglen ganlynol :—Can gan y Chwaer Lumley; adroddiad, Chw. Nellie Jones; darlleniad, Chwaer Blodwen Ed wards. Adroddiad, Deigryn ar fy Haw," Chw. Hughes, Callendar Road. Adroddiad, Y Ffoadur," Br. David Evans. Adrodd ystori, Brawd. Williams chwaraead ar yr ocarina, Br. Eddie Evans adrodd ystori, Br. J. E. Davies adroddiad, Br. Pierce Canu Penhillion, Brawd Griffiths, a chafcdd encor. Croesawyd chwaer o'r newydd gan y Chwaer Evans a'r Br. O. Williams. Nos Fawrth, Chwefrol 17, cafwydcyfariod neilltuol i anrhegu y Chwaer Mrs. Roberts, Cameron Street (sef merch i'r Parchedig Evan Jones, Adwy'r Clawdd). Cyflwynwyd Oak Tray iddi gan Mrs. David Jones, Botanic Road, ac anerchiad rhagorol, fel arwydd fechan o deimladau da Teml Gwalia tuagati, am ei ffyddlondeb. Dymunwn iddi bob llwyddiant yn ei chartref newydd yng Nghroesoswallt. Cafwyd gair ymhellach gan y Parch. D. Jones, a'r Brodyr G. Davies a Henry Davies. -.Lif. E. E.
BOOTLE.
BOOTLE. Haner Canmlwydd Eglwys M.C. Stanley Road. Nos Iau ddiweddaf, cynhaliodd yr Eglwys uohod ei chyfarfod i dderbyn yr Adroddiad Blynyddol. Llywyddwyd gan y Parch. O. Lloyd Jones, M.A., B.D. Caed sylwadau priodol ar yr Adroddiad gan yr archwiliwr am y flwyddyn, Mr. R. T. Jones, yn dwyn tystiol- aeth i gywirdeb y cyfrifon, ac i'r drefn a'r gofal gymerir gyda chyfrifon yr Eglwys gan y gwahanol frodyr sydd yn gofalu amdanynt. Cynhygiwyd derbyn yr adroddiad gan Mr. Wm. Rowlnads, a. chefnogwyd gan Mr. John Davies, Beatrice Street, mewn anerch- iadau priodol, yn llongyfarch yr Eglwys ar ei llwyddiant, ac yn galw ei sylw at y cyfrifoldeb mawr orffwys arni. A sylwodd y llywydd mai Eglwys Stanley Road yw'r Eglwys Ym- neilltuol gryfaf yn Bootle, ac y dylai ein dylan- wad er daioni fod yn fawr iawn pasiwyd i dderbyn yr Adroddiad yn galonnog ac unfryd. Yn yr Adroddiad ceir darlun rhagorol o'r diweddar Barch. Griffith Ellis, M.A., a'r Parch. O. Lloyd Jones, M.A.,B.D. Rai blyn- yddau'n ol, ofnid fod yr Eglwys wedi cyrraedd uchafnod ei llwydd, a bod trai wedi dod ar ddylifiad y Cymry i Bootle ond nid felly y profodd pethau. Mae Eglwys Bootle wedi cynhyddu bron bob blwyddyn o'i chychwyn hyd yn awr, oddigerth pan ymadawai nifer i gychwyn eglwys mewn lie arall. Ond bu'r cynnydd yn eithriadol y ddwy flynedd ddi- weddaf. Cynhyddodd rhif yr aelodau 78 yn 1912 a 76 yn 1913, ac yr oedd y rhif ddiwedd y flwyddyn ddiweddaf yn 770. Y casgliad at y weinidogaeth agos yn £500, ac at achosion cyhoeddus o'r tuallan i'r Eglwys agos yn £ 400. Cyfanswm yr holl gasgliadau yn £ 1,303 16 1. Hyfryd iawn yw gallu llon- gyfarch gweinidog ffyddlon a diwyd ar derfyn ei ddwy flynedd gyntaf o lafur yn ein mysg yn wyneb y llwyddiant uchod. Peth arall roddai bwysigrwydd neilltuol ar y cyfarfod eleni oedd mai hanner can mlynedd i eleni yr agorwyd y capel cyntaf ym Miller's Bridge, sef Chwefrol 5ed, 1864, ac yr oedd tri o frodyr oedd yn aelodau o'r Eglwys yr adeg honno ac yn cofio yr agoriad hwnnw, wedi eu penodi i adrodd eu hatgofion, sef Mri. Robert Jones, Waterloo, wedi ei fagu yn Bootle Elias Morris a David Jones, Cremlyn. Cafwyd awr wir ddiddorol yn gwrando'r hen atgofion, rhyw nodwedd wahanol i hanes y gwaith yn cael ei ddwyn i'r golwg gan bob un ohonynt, nes peri i ni deimlo ein hunain yn byw hanner canmlwydd yn ol, ac yn ddiolch- gar iawn fod rhai pethau wedi newid, a'n bod ni wedi dod i mewn i etifeddiaeth deg, barato- wyd i ni gan y tadau. Mae camre ymdaith yr Eglwys fel y canlyn:—Hyd 1860, nid oedd Bootle ond pentref bychan ym mhlwyf Walton, o ddwy i dair milltir o'r tuallan i Lerpwl. Ychydig o dai gweithwyr yn Booth Village, a nifer o dai mawr boneddigionLerpwl ar hyd glannau'r afon. Yn ei anerchiad i'r Adroddiad am 1882, dywod y Parch. Griffith Ellis Fwy na hanner can mlynedd yn ol, bu nifer o frodyr ieuainc--un o'r rhai sydd yn fyw yn awr—yn cerdded yn gyson am ysbaid i Bootle Village i gynnal Ysgol Sul, ond rhoddwyd hi i fyny oherwydd gwrthwynebiad erledigaethus nifer o'r trigolion." Yn 1849 ail gychwynnwyd Ysgol Sul anenwadol, yr hon a fu yn lluesta mewn gwahanol ystafelloedd yn Derby Road hyd nes cael capel yn 1864. Cynhelid yr Ysgol ar fore Suliau, ceid pregeth yn gyffredin brynhawn Sul, a mynyohai'r Cymry y gwa- hanol gapeli yn y dref nos Sul, lle'r oedd y mwyafrif ohonynt yn aelodau. Cyfarfyddent eugilydd mewn lie neilltuol i gychwyn, ac i ddychwelyd er cael cwmni eu gilydd i ymdaith y He anial oedd rhwng Bootle a LerpwI. Yn y flwyddyn 1860, aymudodd y fasnach goed i Bootle daeth nifer o Gymry yno,dyna ddechreuad Bootle fel tref. Yn y flwyddyn derfynai Mawrth, 1861, ceir yr Ysgol i lawr gyntaf yn ystadegauVCyfarfod Misol, gyda 32 o aelodau mewn oed a 18 o blant. Tua'r adeg honno y meddyliwyd am adeiladu capel, ond buwyd beth amser yn cario'r bwriad allan. Adeiladwyd y capel ar Miller's Bridge i gynnwys tua 500 o eisteddleoedd, ysgoldy, ac ystafelloedd ereill, a chostiodd £ 1,900. Agor- wyd ef ynclivrefrol 5,18 64. Ffurfivvyd yrEglwys yn 1861 gyda 79 o aelodau, a 111 ar lyfrau'r Ysgol Sul. Pan symudwyd i'r capel newydd yn 1864 yr oedd yr aelodau yn 124 a 215 ar lyfrau yr Ysgol Sul. Yn 1876, symudwyd i'r capel presennol gyda 338 o aelodau, 527 ar Ilyfrau'r Ysgol Sul, a 26 yn Ysgol Sul Waterloo. Yn 1876, cychwynnwyd Ysgol Sul yn Walton Park, a Clyde St. Costiodd y capel presennol dros jE8,000, ac y mae'n ddi- ddyled ers blynyddoedd. Yn 1878, ym- adawodd nifer i gychwyn Eglwys Walton Park. Yn 1879 ymadawodd nifer drachefn i gychwyn Eglwys Waterloo. Sefydlwyd Ysgol Sul yn Rhyl Street yn 1879, a daeth yn Eglwys Peel Road yn 1884, pryd yr ymadawodd nifer drachefn o'r aelodau i gychwyn Eglwys newydd. Bu tri o weinidogion yn yr Eglwys o'r cychwyn. Yn 1864 galwyd y Parch. Owen Jones, Dowlais, bu yma am 5 mlynedd yn 1873 galwyd Griffith Ellis, Aberllefenni, y gweinidog llwyddiannus am 38 mlynedd yn 1912, daeth y Parch. O. Lloyd Jones, M.A., B.D., Brynsiencyn, yma yn weinidog, ac y mae wedi profi yn llwyddiant mawr. Bu 22 o flaenoriaid yma o'r dechreu, o'r rhai y mae 10 yn fyw eto. Parha'r Cymry i ddylifo i Bootle yn 1, am ei fod yn gyfleus i'r dociau a mannau ereill, lie mae gwaith i'w gael; 2, am ei fod yn un o'r rhannau iachaf a mwyaf dymunol i fyw ynddo yn 3, am fod yma Eglwys gynnea i'w derbyn. Mae r Bootle, Walton, Waterloo, Seaforth, Litherland, ae Orrell yn rhyw ddarn tua dwy filltir i dair ysgwar, oedd gae&u gwenith a thylciau tywod hanner can mlynedd yn ol, yn awr wedi eu hulio a thai, ac yn breswylfa i 186,658 o drigolion, ac yn eu mysg nifer mawr iawn o Gymry. Mae cant a hanner o flynyddoedd er pan ddechreuodd nifer o Gymry ddod i Lerpwl. Credir fod tua hanner can mil yma yn barhaus ers llawer o flynyddoedd bellach. Pwy fedr ddweyd faint mae Lerpwl wedi dolli ar boblogaeth Cymru yn ystod yr amser yma. Mae llawer ohonynt yn para'n Gymry ardderchog ar ol dod yma ond er hynny, pa faint sydd wedi eu colli, hwy a'u disgynyddion, i genedl y Cymry am byth. Mae dagrau yn dod i lygaid dyn wrth feddwl am y golled. Daliwn afael yn ein cenedl. Deddfau tir melltigedig yrrodd lawer ohonom on gwlad ond nid oes deddf ar wyneb y ddaear all ein rhwystro i fod yn Gymry os mynnwn. CYPARFOD CYSTADLEUOL PEEL ROAD.- Arwydd dda o natur iach Cymro yw'r isa gystadlu sy'n ei waed. Gwelir niferoedd ym tyrru i'r cyrddau hyn, yn dangos eu doniau yn swynol a deheuig, mwy o'r hanner yn colli nag yn ennill, ac wedyn yn medru dygymod, ie, a mwynhau eu ffawd. Os oes eisieu di. hareb ar y pwynt yma, dyma hi A fo groen. deneu, cystadled. Cwrdd Ileol oedd hwn, i'r plant yn bennaf, er fod yno ychydig ar gyfer rhai hpn, megis canu emyn a chanu gyda'r tannau. Arweiniwyd yn hwylus fel arfer gan y Parch. R. W. Roberts, B.A., B.D. Trioedd cyfiawnder y tro hwn oedd Mr. E. W. Davies (Walton Park), Humphrey Roberts, B.A., a Mr. R. O. Jones (Stanley Road), a dyma eu rhestr o oreuon y saith gamp taulu Canu'r Gvtcw Fach Maud Roberts a Gwen Jones yn gyfartal. Moli'r Iesu 1, Nesta Evans 2, Maud Roberts 3, Lizzie Davies. Y Bugail Mwyn Gwladys Jones 2, Maggie Jones. Paid a'm gadael, dirion Iesu 1- Rebecca Evans 2, Nellie Williams; 3, Teddy Edwards a chragen heddwch i bob un o'r lleill, rai bach. Canu'r piano 1, Maud Roberts 2, Gwen Jones 3, Cassie Roberts, Canu penhillion gyda'r tannau (i blant), naw yn cystadlu 1, Maud Roberts 2, Gwen Jones 3, Cassie Roberts y tair yn gosod ar Serch Hudol, Nos Calan, a Chodiad yr Ehedydd. Cychwyn da ar gystadleuaeth newydd. Parti o blant, Moli'r Iesu, dau yn cystadlu, Peel Road ac Orrell, ac yn gyfartal deilwng. Canu gyda'r tannau (i bob oed), pump yn cystadlu, yn gosod ar Godiad yr Ehedydd, Nos Calan, a Llanover, yn cael tipyn o hwyl arni, a'r gynulleidfa hefyd. Yr oreu oedd Miss Anrie Evans. Parti yn canu y don Whitford (i bob oed),—pedwar yn y ornsst, Litherland Glee, Orrell Mission, Dryden Harmonic, a'r Arcadians. Cystadleu- aeth "fythgofladwy," a'r Orrell Mission yn ennill, o dan arweiniad Mr. Robert Roberts. Her-unawd (i bob oed) Mr. Robert Roberts,' Orrell. Cyd-adrodd pennod Parti Orrell (Mr. Robert Roberts). Adrodd Agorvch y Drysau (R. H. Jones) Cassie Roberts. Ora Pro Nobis (Eifion Wyn) 1, Gwen Jones 2, Tommy Williams, Orrell; 3, Lizzie Davies. Os wyt Gymro (Eifion Wyn) Blod- ,,m ) Blod- wen Davies 2, Sally Williams; 3, Ella Williams. Yr Hin-Fynegydd (Ceiriog) 1, Henry Williams, Orrell 2, J. D. Roberts 3, Teddy Edwards a Nellie Williams. Arhol- iad Ysgrythyrol dan 21 1, Winnie Jones 2, Charlotte Hughes 3, Maggie Williams. Dan 16: Sarah Jones. Dan 13: Lizzie Davies 2, Gwen Jones 3, Maggie Edwards a H. Hughes. Dan 10: 1, Blodwen Davies 2, Gwladys Jones 3, Griffith Hughes. Dysgu ar y C6f dan 16, 1, Cassie Roberts. Dan 13 1, Maggie Edwards a J. P. Roberts 2, Tom Williams, Orrell 3, W. Williams, Orrell. Dan 101, Blodwen Davies; f, Maggie P. Roberts 3, J. P. Roberts. Arholiad mewn Cymraeg Dan 16: 1, Cassie Roberts 2, Nesta Evans. Dan 12: 1, Gwilym Pierce 2, Tommy Roberts; 3. Lizzie Davies a Maggie Price Roberts: Dyna waith teirawr, ac nid oedd y beirniaid wedi blino yn gwrando Cymraeg croew plant Peel Road ac Orrell dywedent mai dyna dynnodd eu sylw yn bennaf drwy'r cyfarfod. Addawsai Mr. Wm. Williams, Wadham Road, ddod i'r gadair methodd ddyfod, ond methodd hyd yn oed yn y modd anrhydeddua y gwna Mr. Williams bopeth. Y gwr hwn sydd gar hynod,—nodd y gwaa Yn bydd gwg a thrallod Her i neb, er ei nabod, [ Ddweyd mor rydd yw Wadham Road. -0-
TRE PATROBAS.
TRE PATROBAS. HYBU'R DRAMA y bu Nefyn a'r cylch n08 Sadwrn yn Neuadd Madryn, er dathlu (Iwyl Ddewi, dan nawdd Tabernael (A.), Morfa Nefyn. Perfformiwyd drama John Jones gas gwmni o Rhoshirwaen, Lleyn. Ei hawdur ydyw Mr. Hugh Hughes, gwr ieuanc o'r lie. I lenwi'r ysbeidiau rhwng yr actau, chwaraeid Alawon Cymreig gan seindorf dannau, dan arweiniad Mr. Henry Williams, Rhydlios. Amlwg fod y dramodwyr yn feistriaid ar eu gwaith, arddangosasant 61 llafur mawr yn yt ymgais o ddangos dynwarediad naturiol o'r cymeriadau gynrychioelnt. Drama heddyw yw, nid ddoe, portread o fywyd heddyw, ao nid a fu; ymddiddanion heddyw yng ngefail y gof,—yr hen amaethon crefyddol yn grwg- nach yn erbyn Rhagluniaeth, %nghysondeb bywyd a phroffes, crefydd nad yw'n werth dim ond ei rhoi rhwng cases ei watch, a rhoi hergwd iddynt na welai byth yr un ohonynt. Allan o'r chwe gwaith y'u perfformiwyd, gwnaed hynny deirgwaith yn eu hardal eu hunain gyda chefnogaeth frwd. j Biw LINOS.—Prysur iawn ydyw, galw mynych amdani, a phrogram llawn am amser lied faith. Nos Ynyd, yn Eisteddfod Rhos hirwaen,cipiodd y wobr am yr her-unawd gyda chymeradwyaeth uchel y beirniad. Nos Iau dilynol, gwnaeth yr un orchest yn Efail newydd. ON I- W CIPIO CAD AIR.—Yn yr un Eisteddfod, cipiodd y Parch. Wnion Evans, Machynlleth, y gadair oddiar ddau ar hugain o gydym- geiswyr ac o'r Cymer, Rhondda, wele air yn disgyn ar ein clyboed fod y Parch. B. T. Evans (A.), Morfa, wedi ennill cadair arall. Dyma'r drydedd iddo ef, er Tachwedd di- weddaf. Derbynied ein llongyfarchion TYWYDD GRIBTT.—Dyna'r enw rown ni ar y tywydd gwlyb presennol. Adeg y llyffant blwydd yn lladd y dwyflwydd. Er gwaethaf GflJas y Gog, gwneud y maent; ac os deil i ameu, eled i Rosyrhirwaen i weld drosto'i hun. Nwin. J. DAVIES.