Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
CAMPBELL & LUMBY | The J LIVERPOOL JEWELLERS I DIAMOND MERCHANTS GOLDSMITHS, SILVERSMITHS 6 ELECTRO PLATERS. I, PIKICZS-The Lowest. 1  Highest. J QUALITY-The Hilhes I ? OLD POST OFFICE PLACE;I
ILLADD CHWILEN
LLADD CHWILEN Sef Chwilen Mesur Pre- gethwyp. 'Rwy'n ofni y gall pennawd hyn o ysgrif f od yn foddion i greu rhagfarn ym meddwl ambell un tuag ati, a pheri iddo ei thaflu i ffwrdd ar unwaith, mewn dirmyg cyfiawn a doeth. Ond caniataer i mi ddweyd yn gyntaf oil fod gwahanol fathau ar chwilod. Mae'r osodaeth yna, mi dybiaf, yn gorffwys ar sylfeini, ac y mae sylwadaeth a phrofiad yn barod i ddwyn tystiolaeth i'w tegwch a'u cadernid. Nid yw pob chwilen unrhyw chwilen, arall yw chwilen un, ac arall yw chwilen arall, ac y mae rhagor rhwng chwilen a chwilen, mewn lliw, a llun, a bywiogrwydd. Diau fod rhyw amcan teilwng i chwilod,—amcan mor deilwng, fel y buasai eu habsenoldeb yn wall pwysig mewn oreadigaeth. Buasai byd heb chwilod yr un peth a byd heb chwilotwr ac fe gred ambell un y buasai golwg annosbarthus iawn ar gymdeithas yn fuan hob y cymeriad llygadog a llafurua hwnnw. Y chwilen y sonnir am- dani heddyw ydyw'r chwilen enwi dynion mawr, neu hwyrach yn well, y chwilen enwi'r dynion mwyaf. Iddi hi yr wyf yn dymuno talu fy nheyrnged o barch mwyaf diffuant, oblegid pwy a wyr na thy ei chalon dosturiol ataf finnau ryw dro, a sicrhau i mi le anrhyd- eddus ymhlith yr anfarwolion. Mae'r chwilen ddychmygfawr hon yn ymweled aniyn awr ac eilwaith ar hyd y blynyddoedd. Bu'r ffordd yma yn ddiweddar ar ei phererindod o wlad bell y Gorllewin, a danghosodd inni, wrth fynd heibio, ddeg o bregethwyr mwyaf y pulpud Cymreig, y tu yma a'r tu draw i for mawr y Werydd. Fe welir, felly, fod y pregethwyr mwyaf, yn ol awdurdod y chwilen, yn dod i lawr i nifer go. fychan. Mae'n debyg, pe cawsid barn y frawdoliaeth ei hun ar y pwnc, y buasai un neu ddau arall i fewn, oanys fe ddywedir fod hen gwestiwn y pre- gethwyr cyntaf i gyd, Pwy sydd fwyaf yn ein plith," yn aros heb ei benderfynu hyd y dydd hwn, ond yn unig fod pob un yn tybio fod ganddo resymau boddhaol iawn dros gredu ei fod ef ei hun yn rhywle tua'r blaen. Boed a fynno am hynny fy amcan wrth ysgrifennu heddyw, ydyw adrodd ychydig o branciau y chwilen yma, yn ei pherthynas a mi fy hun. Yr oeddwn yn digwydd darllen y rhestr ddiweddaf o'n mawrion pregethwrol, yn y wlad hon a'r America. Gallwn feddwl ei bod ar y pryd yn rhywle yng nghyffiniau hanner nos, os nad yn gogwyddo i'r oriau man." Meddwl yr oeddwn pa ddiben a gyr- haeddir drwy hyn ? A oes rhyw ddaioni yn debyg o ddeillio o lusgo enwau gweinidogion yr Efengyl fel yma, ar draws cyfandiroedd codi rhai, a darostwng ereill; a chuddio ereill er mwyn dangos y lleill ? Wedi pwyso'r dadleuon y naill ochr a'r llall, yr oeddwn ar fin dod i'r penderfyniad y buasai'n well i'r chwilen hon, bellach, dreio'i Haw ar rywbeth arall pryd, er fy nychryn, beth welwn yn croesi'r ystafell tuag ataf ond yr hen chwilen bygddu ei hunan a chyn i mi gael eiliad i gilio o'i ffordd, yr oeddwn yn ei gafael yn ddiogel fy ngwala; ac am ymysgwyd oddi- wrthi, ni fuasai waeth ini yr un grodyn feddwl am ddod yn rhydd o ewinedd angau unrhyw ddydd. A dyma imi awgrym, ar unwaith, i alw ymlaen ddeg o bregethwyr mwyaf y Pulpud Cymreig, y rhai sy'n fyw yn awr. Buasai n dda gennyf gael ymesgusodi ond y mae gan esgusodion ryw ffordd gyfrwys o ddiflannu i'r pedwar gwynt, pan fo ar ddyn fwy- af o angen amdanynt. Yr oedd pob cysgod o esgus dros wrthod yn gomedd ei wasanaeth, felly nid oedd dim i'w wneud ond ufuddhau. Ar ol ychydig funudau i ystyried pwysigrwydd yr ymddiriedaeth a osodwyd arnaf, mi antur- iais, yn grynedig iawn, alw ymlaen ddeg o'r rhai mwyaf, yn ol fy marn fechan i. Ac yn wir, dyma'r tywysogion yn cerdded i fewn i'r ystafell ar unwaith, a golwg urddasol oedd arnynt hefyd. .1. Yn naturiol iawn, yr oedd llawer o amrywiaeth yn eu plith ond mewn un peth yr oeddynt i gyd yn debyg i'w gilydd. Llewyrchai pob un yn ei ogoniant priod nid oedd y bychan yn dangos y mawr yn fwy, na'r mawr yn gwthio'r bychan gymaint a thrwch blewyn yn nes i ddiddymdra. Cym- erai pob un ei safle ei hun, a gwae y neb a feiddiai gynnyg ei ysbeilio ohoni. + + + 1- Y Parchedig Ysbaddaden Pen- I cawr. Yn sefyll ar flaen y rhestr yr oedd y Parchedig Ysbaddaden Pencawr. Dyna ei safie arbennig ef. Nid canol y rhestr, na'i gwaelod, wrth gwrs, ond ei phinael uchaf i gyd. Un o nodweddion arolycaf y gwr yma ydyw argyhoeddiad trwyadl fod pawb ereill wedi eu creu yn bwrpasol i foesymgrymu iddo ef, ac i floeddio Abrec o'i flaen. A chred mor sicr a hynny nad oes neb yn yr un byd a gwirion- eddos na bydd yn edryleb arno yn yr un goleuni ag ef. A 'chaiff neb drwydded i gario ewyllys o gwbl os na bydd yn ddigon llysywenaidd i blygu i fympwyon y Pencawr. Y mae yn wr mawr yn uchelwyliau ei enwad, ac wedi pasio drwy ei brif gadeiriau unwaith neu ddwy. Ni phenderfynir dim o gwbl mewn cynhadledd oni ddirwynir y ddadl i fyny gan- ddo ef, Ac nid oes awdurdod mewn unrhyw bwyllgor, os na bydd ei etholedigaeth yn gwreiddio yn ei benarglwyddiaeth rasol ef. Mewn gair, y Pencawr ydyw'r enwad, a'r enwad ydyw'r Penoawr. Fe ddywedir fod digon o drueiniaid bychain, yn gymynwyr coed ac yn wehynwyr dwfr, iddo, ac yn disgwyl pethau gwych i ddyfod am y ffafr oruchel o gael gwenu'n rhagrithiol yn ei wyneb marmor, oer. -+■ 2-Y Parchedig Glewlwyd Gafael-I fawr. Sylwais mai y nesaf ar y restr oedd y Parch. edig G lewlwyd G afaelfawr. G allaswn ddweyd Hawer am ddyn oddiallan y cyfaill hwn, ond er mor ddifyr fuasai hynny, rhaid gwrthod y demtasiwn a phrysuro ymlaen. Mae hwn yn enwog am ehangder ei wybodaeth ynghylch yr eglwysi hynny a fwriadant gynnal eu cyfar- fodydd pregethu yn y dyfodol agos ond daw tanbeidrwydd ei athrylith i'r golwg yn ei fedr i ddewinio'r ffordd i fewn i blith gwahoddedig- i on yr wyl. Credir fod ganddo gynrychiolydd neu ddau ymhob pwyllgor enwi drwy Ogledd a De. Mae'r Glewlwyd yn ddarlithiwr digym- mar hefyd. Mae ganddo hanner dwsin, mwy neu lai, o ddarlithiau, yn rhedeg bob yn ail, a bydd yn gyfleus iddo draddodi un o'r rheiny, naill ai'r noson o flaen, neu'r noson ar 01, y Cyfarfod Pregethu ond dalier sylw mai dyna'r unig ddwy noswaith wag ar ei Ddydd- i adur am rai blynyddoedd o leiaf. Yr wyth- nos ganlynol bydd hanes manwl o'r cyfarfod pregethu a'r ddarlith ym mhrif organ yr enwad, ac ymhob organ arall o ran hynny ac os bydd rhyw gyfarfodydd ereill wedi pasio heb eu cofnodi, daw y rheiny i fewn fel ol- ddvled. A cheir colofn a hanner o folawd i'r darlith-bregethwr, wedi ei hysgrifennu yn arddull fwyaf gwyntog un o lenorion blaena'r enwad. m £ .3 3- Y Parchedig Samson Finsych. I Y nesaf ar y rhestr ydyw'r Parchedig Samson Finsych. Mae hwn yn credu yn gydwybodol ei fod yn un o ddynion cryfa'r enwad ac mae'i edmygedd o'r hyn a feddylir yn gyffredin wrth ddyn cryf yn ddigymysg ac yn ddiderfyn. Arwydd o wendid, yn ei olwg ef, ydyw pob ymddanghosiad o deimlad ynglýn a chrefydd, yn y capel ac allan ohono. Mae'r Minsych yn ysgolor o'r radd flaenaf. Sonia lawer yn ei bregethau am y gwreidd- iol." Nid yw'n gartrefol yn unman ond ymhlith y gwreiddiau. Yr anffawd yw fod y gwreiddiau hynny wedi crino, ysywaeth, ers llawer oes. Y mae mor oer hefyd a phe buasai wedi ei eni ar glogwyn o ia. Bu drwy ambell goelcerth yn ystod ei fywyd, ond daeth allan ohonynt i gyd heb ddeifio cymaint a blewyn. Maes ei weinidogaeth ydyw Bryn Gilboa ac nid oes neb yn ameu nad yw'r dyn iawn yn y lie iawn. Galwyd ef yno ryw chwarter canrif yn ol, ac ni ddisgynnodd gwlithyn ar yr eglwys byth mwy ac y mae'r ffaith fod yr achos yn fyw yno o gwbl yn un o'r dadleuon cryfaf ymhlaid dwyfoldeb yr Efengyl. -+ 4 Y Parchedig Gware Gwallt Euryn Y nesaf ar y rhestr ydyw'r Parchedig Gware Gwallt Euryn. Un o brif rinweddau'r brawd yma ydyw ei fod yn gefnogydd eiddgar i'r sefydliad teilwraidd. Mae ei draed yn troi yn reddfol i bob siop dilledydd, fel y mae traed llymeitiwr yn ei gludo i'r dafarn. Ei hynod- rwydd mawr ydyw gwisgoedd ei ogoniant," a chydnabyddir yn gyffredin ei fod yn awdurdod anffaeledig yn y gangen bwysig hon. Mae'r ffasiwn newydd wedi mynd yn hen erbyn y daw heibio iddo ef. Fe ddywed- odd rhyw walch direidus y rhaid cael naw teiliwr i wneud dyn, ond mae chwaneg na hynny o lawer yn ceisio gwneud dyn o hwn, a rhy brin y maent wedi llwyddo eto. Ar ol blynyddoedd o lafur gonest a chydwybodol, eu harwyddair o hyd ydyw Awn rhagom at berffeithrwydd ond chwarae teg i'r hiliog- aeth frethynol, y maent yn gwneud eu goreu, a gwyr pawb fod eu gwasanaeth gwerthfawr hwy yn anhebgor i fymryn dynol- iaeth llawer ohonom. Chwi deilwng farchog- ion y byrddau, dyfalbarhewch yn eich ym- drechion, a dyblwch ddiwydrwydd i ber- ffeithio gweinidogaeth eich hymwelydd ffyddlon, oblegid pe caeech chwi eich tosturi oddiwrtho, mae'n ofnus y byddai ambell ddyddiadur yn cael ei gau'r un pryd. Y Parchedig Fftam ab Nwyfre. Y nesaf yn yr elyniseth vdyw'r Parchedi II Fflam ab Nwyfre. Bardd ydyw'r Ffiam-o leiaf, dyna ydyw yn ei farn ei hun a hormo* bid sicr, ydyw'r farn uniongred ar y pwnc. Mae cyrmyg disgriflo hwn yn anobeithiol. Ond gellir dweyd ei fod weithiau yn ddwl fel niwl, ao yn dywyll fel owmwl bryd arall, mae'n wyllt fel corwynt, ac yn fflamio fel mynydd llosg; ond fel hwnnw hefyd, daw allan o'i dan lawer o losgfal a lludw. Fe ddy- wedodd Macaulay nad oes dim ond lien deneu rhwng barddoniaeth a gwallgofrwydd. Mae hwn wedi ei rhwygo ers tro, ae wedi mynd trwodd yn glir i'r ochr arall. Pan grybwyll am y daran, mae honno yn rowlio hyd lofftydd y nefoedd. Pan y sonia am angell, mae hwnnw a'i aden glaer yn sychu'r llwch oddiar silffoedd difodiant. Fe soniai Islwyn, gynnes ei goffa, am "dragwyddol heol," ond chyd- nebydd y brawd yma yr un heol o gwbl a'r unig ddefnydd a wna o'r dragwyddol heol ydyw ei cherdded i dragwyddol anialwch. Yno y mae yn ei elfen, wrth ddymuniad ein galon yn yfed gwynt. Mi glywais s6n am feddwl yn ymherodrol, ond mae hwn yn meddwl mewn "cysawdiau," a'i rhuthr yn ysgwyd y tragwyddoldebau pell. Yr oeddwn yn paratoi i groniclo nodwedd- ion y nesaf ar y rhestr ond cyn i mi gael hamdden i ddarllen ei enw yn glir, agorodd y wawr ei llygad glân, diflannodd yr olygfa ac wele, chwilen oedd. MATHONWY. o—»—
Gwyl Ddirwestol Lerpwl. g…
Gwyl Ddirwestol Lerpwl. g I Anelu am y Plant. FEL y mae yn hen arfer ers blynyddoedd lawer, disgwylir yr wythnos olaf yn Chwefrol gydag aidd gan garedigion, Sobrwydd drwy'r cylch, ac ni'n siomwyd eleni. Cafwyd cyfarfodydd neilltuol o bobl- ogaidd mewn rhai mannau. Yr oedd y cyfarfod yn Birkenhead yn llewyrchus a phoblogaidd, a pharatoi wedi bod ar ei gyfer. Y mae clod yn ddyledus i'r Parch. G. J. Williams am y llwyddiant ddilynodd eu hym- drechion yno. Cafwyd cyfarfod llwyddianus nodedig hefyd yn Park Road, a lliaws mawr o blant y gwahanol enwadau yn y cylch wedi eu casglu yno. Yr oedd hefyd gyfarfodydd lliosog yn Edge Lane ac Oakfiold Road, a thraddodwyd anerchiadau nad anghofir i'r plant. Clywsom fod y plant wedi cael sylw hefyd yng ngweddill y rhanbarthau. Dyma ein gobaith am lwyddiant yn y dyfodol anodd dylanwadu ar hen lymeitwyr i'w cael yn Ilwyrymwrthodwyr ond gollir addysgu'r plant a'u hyfforddi yn llwybrau rhinwedd a daioni ac mae ein dyled fel Undeb yn fawr iawn i bawb fu'n annerch yng nghyfarfodydd yr hen Wyl, ond sy'n ieuengach ei gwedd nag ei gwelwyd ers llawer blwyddyn. Brynhawn dydd Gwener, yn Fitzclarence Street, cyfwyd cyfarfod dan nawdd Cym- deithas y Chwiorydd. Cymerwyd y gadair gan Mrs. Parry, York Terrace, Llywydd y Gymdeithas, ac anerchwyd gan Mrs. Parry Williams, Prestatyn. I Lerpwl yn Gwynnu. I Cynhaliwyd y cyfarfod cyhoeddus nos Wener, am 7-30, yn Fitzclarence Street, i ddirwyn yr Wyl i fyny. Cymerwyd y gadair gan y Parch. W. O. Evans, Mynydd Seion, y llywydd am y flwyddyn. Aed drwy'r rhan ddefosiynol gan y Parch. D. Powell. Lla- wenychai'r llywydd yn yr elfen newydd sy'n cael sylw yn y cyfarfodydd, ac a ddechreuodd y llynedd, sef y sylw a roddir i'r plant, a'r trefniant i gael siaradwr arbennig ar eu cyfer hwy yn y cyfarfodydd ac os llwyddir i feddiannu'r plant, mae'r fuddugoliaeth yn sier.1 Er cymaint a wneir i geisio dylanwadu ar ddynion i sobrwydd, gresyn meddwl fod y gelyn mor uchel ei ben ac yn dal y fath afael ar ddynion. Digalon i ddirwest- wyr oedd darllen adroddiad Prif Gwnstabl Lerpwl, fod cynnydd ar feddwdod yn y ddinas. Cymerer, er enghraifft, y flwyddyn 1909: cymerwyd i fyny 9,778 am feddwdod yn 1912, 14,568; a'r llynedd 16,054—cyn- nydd o 1,486 ac ymhlith y rhai yna dros 300 o ferchod ond yr hyn sy'n rhyfedd ydyw na chafodd ond 17 eu dwyn o flaen yr ynadon am ganiatau diod i'r cyfryw, a chafodd y 17 bregoth gan Syr Thomas Hughes nad anghof- iant mohoni'r hawg. Dylem gynorthwyo'r heddgeidwad i olrhain yr achosion hyn i'w ffynhonell. Nifer y tai trwyddedol yn yddinas ydyw 1,718-Ilai 0 13 na'r flwyddyn cynt; nifer y clybiau, 81-1-leihad o 5; ac y mae'r ysmotyn du ar lan y Mersey yn dod bob yn dipyn yn ysmotyn gwyn. I Gwyliwch y Felltith I Miss PARRY WILLIAMS, Prestatyn.—Fy nghenadwri heno ydyw rhoi gwahoddiad cynnes i bawb ymuno i waith. Mae angen arnom am gynhorthwy pawb, am fod y gwaith mor fawr, ac mor a-mlochrog, ac felly eisieu gweithwyr lawor. Mae cestyll pechod mor gadarn, ac mae yn rhaid i'r Meistr wrthych. Ond y gwaethaf yw, fod llawer ohonom yn debyg i hanes y genedl yn amser Debora a Barac, pan oedd angen am gydweithrediad. Mae rhai ohonom yn rhy brysur,fel Reuben,yn aros rhwng y corlannau i wrando brefiadau y defaid ereill drachefn yn byw yn rhy bell, fel Gilead, yr hwn a drigodd y tu hwnt i'r 10r- ddoner ereill drachefn, fel Dan, ddim yn gyfleus, ac yn aros mewn Iloiigau ac Aser, drigodd wrth borthladd y mor, ac a arhosodd ar ei adwyau. Yr un peth orweddai dan y owbl,sef difaterwch, ac oherwyddhynnyjy mae mwy o waith yn cael ei adael i ereill. Cafodd Israel y fuddugoliaeth, end dim diolch i'r rhai arhosodd ar ol, a'r canlyniad fu i felltith yr Arglwydd syrthio arnynt Melldigwch Meroz, ebe angel yr Arglwydd, gan felldigo, melldigwch ei thrigolion am na ddaethant yn gynhorthwy i'r Arglwydd yn erbyn y cedyrn." Ni fuasai neb yn disgwyl i Reuben, y mab hynaf, droin anffyddlon arolei wrhydri yn yr anialwch. Mae arnom ninnau eisieu Reuben y mab hynaf yn y gwaith 0 na fyddai'r holl lwythau gyda ni. Mae arnom eisieu help y mamau yn y gwaith nid yw ond p- t: • > ,n, famau yn y cyfarfod yma, i chwi roi (.r»Vj>anaid o d6 i ryw ferch ieu- ancurigoGymru sydd yn unig oddicartref ond allai, drwy eich caredigrwydd chwi, gael ei chysgodi rhag llu o demtasiynau, neu gall fod rhyw fachgen neu ferch ieuanc yn gweithio yn yr un fan a'ch bachger neu'ch geneth chwi. Gwahoddwch hwy ambell dro dan eich cronglwyd i'w diddori; nid yw ond peth bychan, ond cofiwch eich bod yn ei wneud dros y Brawd Hynaf. Awn ymlaen gyda'r Gobeithlu, ac wedyn gyda hwy ar ol iddynt dyfu dros yroed lie y maent yr eglwys r yn cael mwyaf o drafferth i'w cael i ymaflyd mewn gwaith. Bugail a phlwc ynddo. Y Parch. J. Glyn Davies, Rhyl.—Caniat- ewch i mi yn gyntaf oil ddiolch i chwi ar ran Cymanfa Gwynedd am y gwahoddiad cynnes gawsom iLerpwl,ac yrydym yn edrych ymlaen am Gymanfa fawr yn Lerpwl fis Hydref nesaf. Mae safon y Gymanfa yn uchel cof gan rai ohonoch am Gymanfa Pwllheli y llynedd, a Llandudno y flwyddyn cynt y fath ddylan- wad dwyfol gerddai drwy y cyfarfodydd, a gobeithiwn y cawn ni deimlo a phrofi pethau mawr eto yn Lerpwl. Mae rhai agweddau i'r Aohos Dirwestol yn galonnog er, o'r ochr arall, teimlwn ar brydiau'n ddigalon. Cymerer, er enghraifft, yr ochr galonnog, ac edrychwn ar y swm a werir am ddiodydd, mae yn dod i lawr yn sylweddol cymharer, er enghraifft, y flwyddyn 1900. Yr oedd y swm a wariwyd y flwyddyn honno yn £ 186,000,000; yn 1913 yr oedd wedi dod i lawr i E 16 1,000,000 —Ileihad o 925,000,000 Yn 1900 yr oedd y swmargyferpobunynunigolynf4 11 9 yn 1913 f 3 10 9-£1 y pen yn llai. Mae'r boblogaeth wedi cynhyddu er 1900, a phe buasai 94 11 8 yn cael ei wario y flwyddyn 1913, buasai'r swm dros £ 209,000,000. 'Doedd ryfedd i Sir Thomas Barley ddweyd, "things are looking better." Mae Gogledd Cymru wedi gwario dros filiwn o bunnau am ddiod y flwyddyn ddiweddaf, a Lerpwl dros 3 miliwn o bunnau. Dylech chwi yn Lerpwl fod yn falch o Syr Thomas Hughes, cadeirydd y Fainc Drwyddedol; ond y mae yr anhaws- ter heddyw yn fwy nag erioed, am fod y gyfraith wedi codi gwrych amgylch y fasnach ynglyn a'r iawn (compensation), nid i'r tafarnwr ond i'r darllawyr dyna, er eng- hraifft, effaith y Kennedy's Judgment. Peth arall ealonn og ydyw fod Syr Herbert Roberts, A.S., wedi dod a Mesur o flaen Ty'r Cyffredin nos Fawrth ddiweddaf, ar yr un llinellau a Mesur Scotland, a'i fod yn y darlleniad cyntaf wedi cael mwyafrif o 163. Yr Anrhyd. Ormsby Gore, A.S., oedd yr unig un o'r J Aelodau Cymreig a bleidiodd yn ei erbyn. Mae'r pulpud yn sych ar y cwestiwn hwn. Nid wyf am i chwify nghamddeall gyda'r gair sych. Mae eisieu sychu y set fawr eto yr oedd yn gwybod am un eglwys lie yr oedd chwech o ddiaconiaid heb fod yn ddirwestwyr. Ac mae eisieu mynd lawr i'r seti ereill a'u dwyn i fewn i fywyd y wlad mynd i lawr at ddynion yn enw Duw, yn enw ei Fab lesu Grist, ac yn nerth ei Eglwys. Gresyn meddwl ein bod yn yfed tair llynges bob blwyddyn.. Mae tri chan miliwn o bunnau wedi eu buddsoddi yny fasnach, ac yr ydych wrth ymladd y fasnach yn taro yn erbyn dividend rhywun o hyd, ac mae'n well i chwi daro dyn yn ei galon na tharo ei dividend. Yr oedd gweinidog iauanc yn dechreu ar ei waith mewn eglwys neilltuol, ac mae y pen blaenor yn ei gyfarch ac yn gobeithio nad oedd ef yn UP o'r penboethiaid dirwestol, ac atebodd yntau'i fod. We]," meddai, byddwch yn dyner oblegid mae gennym ni ddarllawydd Ikol sy'n cyfrannu £ 20 y flwydd- yn i ni" meddai'r gweinidog ieuanc "Take .the E20 out of my salary, and I'll have a go at him this morning. Sugnedd Chwant a Phleser, I Y Parch. S. R. JENKINS, B.A. (yn Saesneg). Mae yma nodyn fgobeithiol wedi ei daro yn y cyfarfod yma heno, nodyn sy'n broffwydol- iaeth ein bod yn mynd i orchfygu. Mae'r eglwys yn bod, ond nid yw llais yr eglwys mor glywadwy ag y bu. Cedyrp y pulpud oedd arwyr y deffroad yng Nghymru, ond erbyn hyn mae 'r centre of gravity wedi newid. 'Does gennym heddyw yr un J. B. Gough i dynnu'r miloedd ac i greu diwygiad crefyddol. Mae'r centre of gravity mewn lie arall. Rhodd werthfawr iawn i'r achos dirwestol ydyw'r hyn sydd wedi ei gyfrannu yn oleuni gan feddygon y wlad yma. Meddylier am y nifer yna o 10,000 fel un fyddin ymosodol yn erbyn y gelyn. Mae eu safle hwy wedi newid yn hollol y blynyddoedd diweddaf. Yr ydym yn ymyl deffroad cymdeithasol na welwyd ei gyffelyb o'r blaen. Mae yma gwestiynau cymdeithasol eisieu sylw, a'r fath ddaioni allesid wneud a'r arian a werir yn ofer am y diodydd meddwol. Y wlad fwyaf effeithiol a chymwys ydyw'r wlad sydd i feddiannu'r dyfodol. Hawdd i ni mewn ystadegaeth ddod o hyd i faint o bersonau sydd wedi syrthio i fedd y meddwyn mewn blwyddyn, faint o arian wariwyd am y ddiod, faint mae'r carchar a'r gwallgofdy yn sugno o arian y wlad, a fairt o bersonau ddygpwyd o flaen ynadon y wlad ond y mae yna. gwestiwn arall, 'Beth am y bywydau a ddifethwyd am nad oedd cyfle iddynt oherwydd afradlonedd ereill ? Yr wyf yn credu mai y Cymry ydyw gwir wladgarwyr yr Ymherodraeth Brydeinig, er ein bod yn cael ein galw yn ami yn Bry- deinwyr bychain (Little Englande.'s), yr ydym wedi bod yn allu i godi safon ein cenedl mewn moesoldeb. Paham y mae ieuenctyd yn gadael yr eglwysi, ai am nad oeddynt yn meddwl ac yn darllen ? Na, anturiaf ddweyd nad ydynt yn meddwl nac yn darllen o gwbl. Maent yn gwario eu hamser a'u meddyliau mewn ystafelloedd dawnsio, billiards, cinemas, a'r theatres. Mae y flwyddyn, hon i fod yn un nodedig ynglyn a'r Brotherhood, mudiad nad ydyw eto wedi gafael yn y Cymry. Mae gan y Frawdoliaeth eu hymgyrch a elwir The Man- hood Campaign. Mae pob aelod yn cyfrannu swllt, a'i dalu cyn Hydref nesaf a thrwy y mudiad hwn deuir o hyd i bob dyn yn y ddinas yma, pob man o'r carchar, tloty, a'r slums lie bynnag mae dyn yn byw, rhaid dod o hyd iddo i roi help llaw iddo godi ar ei draed, a thorri'r llyffetheiriau sy'n ei gadwyno. Bydded bendith Duw ar y mudiad. Cafwyd ychydig eiriau pwrpasol gan y Parch. R. Aethwy Jones, M.A. Cynhygiwyd diolchgarwch i'r rhai gymerodd ran gan y Parch. O. L. Roberts, a chefnogodd y Parch. John Hughes, M.A. Terfynwyd drwy weddi gan y llywydd.—Rhydwenydd.
Advertising
W. & J. VENMORE, Estate Agents & Valuers 200 SCOTLAND RD., Liverpool ^SLBPHon No. 5168 Royal J. Lloyd Jones, & Co., ESTATB AGENTS, &e. 6 Lord Street, Liverpool TMLBPMOWE Hit BAMBCi* ALLAN Royal LINE To CANADA, ALSATIAN and CALGARIAN 18,500 ton Quadruple-Screw Turbine Steamers ExoressfiWeeKly Service from Liverpool. The POPULAR PIONEER LINE. LARGEST and FASTEST to CANADA. CHEAPEST way to Canada; shortest to W America Regular Sailings from Glasgow, Londonderry, London, Plymouth and Harve. ALLAN LTNE, 19 James St., Liverpool; 14 Cockspu St., S.W., and 103 Leadenhall S t., London, E.C. CANU GYDA'R DELYN. + Mr. 6. OSBORNE DAVIES, Athraw ar Ganu Penhillion Telyn.' + Telerau Rhesymol. Ymofyner yn 4 Exeter Road, Bootle. ANWYD, PESWCH, INFLUENZA.-Mae rhai'n gyda ni bob amser. Pair hinsawdd gyfnew- idiol fod llawer o ddioldef oddi wrth Beswch, Bioncbitis, Pas, Dolur Gwddf, Crygni, Caethdra, Diffyg Anadl. Y mae yr hen feddygiDiaeth PDiffA yfl ESS COUGH MIXTURE" eto ar y blaen, ao yn cael ei gwerthfawrogi yn fwy nag erioed, bob amser wrth law, yn felys, yn cynhesu y f"V yn rhyddhau y phlegm. Bydd doso mewn pryd yn ddigon, Is. He, a 2s. 9c. (postage, mewn 47GH DAVIES? Chemist. MACHYN- LLETlIa GWYNEB PRYDFERTH.—" Sarzine Blood Mixture at glirio y croen, a phuro y gwaed. Y mae yn myned at wraidd y drwg, ymlid ymaith bob math o pimples, coohni, ysfa, scurvy, pen- ddynod. Gwella hen ddolnriau. coesau drwg, crydgyrcalau, gan adfer y croen i'w harddweh naturiol. 2s 6c. y botel gan bob Druggist; 3o vn yohwanegol gyda'r post,—HUQH DAVIES hemist. MACHYNLLETH. PALAIS DE LUXE, LIME ST., LIVERPOOL. LLUNIAU BYW SYMUDOL Chwaethus, dyddorol, ac adeiladol ae YN BAfiHAOL. 0 2.0 hyd 10-30 bob diwrnod o'r wythnee. Deawch pan y mynnoeh, 10 arbosweh cyhyd ag y dymunoch, Te yn rTiad heb dot rhwng 4 a 6 yn yr Oreheitr Stalls, Pit StalU, o'r Drest Circle, Mynediad, I i- a 6ch Couponl Rhad=Yswiriaeth (Peidier a'i hollti'n rhydd), BTDDyn; GRESHAM Fire and Accident Insurance Society Lto St. Mildred's House,Poultryt LONDON. E.C. dalu 1100 (can punt) i gynrychiolydd cyfreithio a phersonol y sawl a fo'n ddiles-ddaliwr y coupon hwn, os y bo iddo fo nen hi gael eu lladd yn h olIo ao yn nniongyrchol drwy ddamwain o fewn T Deymas Gyfunol i drgn unryw Gwmni Reilffordd, Tramcar, Omnibus, Cab, neu Gerbyd Trwyddedip a Llô yn yr hwn y bo'r daliwr yn cael ei gludo fel teithiwr tocyn a ohlud, yn ddarostyngedig bob amser i'r amodau arbennig a ganlyn sydd ystyried fel rhan a chyfran o'r eytundeb- (a) Fod y marw'n digwydd o fewn dang niwrnod ar hugain wedi'r ddamwain (b) for rhybudd ohoni'n cael ei roi i'r Gymdeithas < fewn saith niwrnod yn eu Prif Swyddfa ya lalundain; (c) fod y oyfryw dystiolaeth res- ymol parth aohos y farirolaeth yn cael ei gyflwyno ag a fo'r Gymdeithas yn ei ofyn (d) fod y daliwr r wedi 'sgrifennu ei arwydd- enw arferol, cyn i'r ddamwain ddigwydd, ag inc yn y lie darparedig gogyfer a hynny (e) na bo'r Gymdeithas yn gyfrifol i fwy nag un person parth mwy nag un coupon yn y paptu hwn na r un pyhoeddiad arall (f) na bo r yig. wiriaetb hwn ddim yn gaftaeladwy i bersonau tan ddeuddeg na thros ddeg a thrigain mlwydd oed, ac a ddeil yn ddilys am saith niwrnod o 12 o'r gloch y dydd y'i oodir.! ArwyMnod y Daliw -Trigfodl I Danysgrifwyr. Raid I dderbynwyr cysoa y papur hwn ddim arwyddo r Coupon os ca'r Gymdeithas gwbl sicrwydd a phrawf ei fod yn cael ou anfon iddynt yn ddifwlch. For Bedsteads and Bedding. W. WHITTLE, SON & STOTT, LTD., 116, 118 0 120 WHITECHAPEL, LIVERPOOL. 0 Telephone 2137 Koyal.1 J x