Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

I Gyda'r Clawdd.

News
Cite
Share

I Gyda'r Clawdd. I Sef Clawdd Offa. I Gan GYMRO 0'1 GORYN I'W GARN. (Jorc,u cwys cwys union.-Cynhaliodd Cymdeithas Amaethwyr Gwreosam a'r cylch eu hymrysonfa aredig flynyddol ddydd Gwen- er diweddaf mewn maes perthynol i Erless Hall. Yr oedd deuddeg ar hugain wedi gyrru eu henwau fel ymgeiswyr am y goreu aredig, a'r un nifer am y goreu gau mwy o gystadleu- wyr na'r flwyddyn, ddiweddaf. Y pen campwr yn y gystadleuaeth aredig agored i'r byd oedd Mr. R. W. Cooper, Birkerton, Malpas a'r ail, Mr. John Lloyd, Bers uchaf, Adwy'r clawdd. Y goreu am gau, Mr. William Ches- ters, Bangor Is Coed 2, John Eaton, Myddle, Amwythig a dau o Ellesmere yn 3 a 4. Rhoddwyd amryw wobrwyon eraill, ac y mae'r Gymdeithas yn bur llwyddiannus. Eples y Rhos.—Y mae'r Rhos yn awyddus i ehangu terfynau'r plwyf. Bu'r Cyngor Plwyf y nos o'r blaen yn trafod y pwnc. Ym- ddengys y byddai ehangu'r terfyn yn cyfoeth- ogi'r plwyf i raddau helaeth. Ymddiriedwyd y mater i bwyllgor. Nid yw'r Rhos ychwaith wedi rhoi'r goreu i'r ymdrech am Gyngor Dinesig. Rhwydd hynt gaffontymhob ym- drech i lesoli'r ardal. A phob ardal gyffelyb iddi lie mae'r Gymraeg ar ei gorsedd ynddynt. Cyn hir, bydd pobl y Rhos yn pleidleisio a ydynt am Gyngor Dinesig ai peidio. Y Pulpud yn nesu at y Ddrama.—Yng nghapel y Pentre, Beddgelert, dydd Mawrth, priodwyd y Parch. John Mostyn, Abersoch (A.), a Miss C. A. Edwards, Gwynant Street, Beddgelert. Gwasanaethwyd gan y Parch. T. E. Thomas, Coed poeth. Mab ydyw Mr. Mostyn i Mr. a Mrs. E. Mostyn, Brynhyfryd, Coed poeth. Yma y'i codwyd i bregethu gan Eglwys Salem. Bu am beth amser yn athro cynorthwyol mewn ysgol ddyddiol yn yr ardal. Ac un o Goed poeth yw'r briodferch. Yma'r oedd ei theulu'n byw cyn symud i Feddgelert. Y mae'n boblogaidd iawn ym MeddgBlert, sefydlodd yno Gymdeithas Ddrama, ac a gyfansoddodd ddrama Serch Hudol. Amt i Lundain am eu mis mel. Llwyddiant a hapusrwydd ddilyno'r ddeu- ddyn ifanc ar hyd eu hoes. Blodau Cefn Mawr.-Y mae Cymdeithas Ddirwestol y Chwiorydd wedi ei sefydlu yng Nghefn mawr,a golwg eu bod y-a gafael yn eu gwaith o ddifrif. Ac y mae llwyr angen hynny. Penderfynodd y Gymdeithas eu bod yn erfyn ar y Llywodraeth ddarparu Deddf Drwyddedol i Gymru yn ystod y Smedd- dymor presennol. Dyma'r swyddogion newydd llywydd, Miss A. H. Williams is- lywydd, Mrs. Jones, Chester House trysor- ydd, Mrs. Gabriel, Rhos y medre ysgrifen- nydd, Mrs. E. Davies. Can' Croeso i chwi ohonynt.—-Llawenha Caergwrle yn y manteision teithiol newydd y maent wedi gael. Rhed cerbydau modur yno o Wrecsam bob dydd, a chredir y man- teisia pobl Gwrecsam arnynt i ddod am gegaid o—nid cwrw—awyr iach mynydd yr H6b. Bu'r moduron yn rhedeg o Wrecsam i Frymbo ddyddiau'r wythnos a'r Sul, ond y maent wadi peidio. Ni wyddys beth a'u llesteiriodd, prun ai diffyg cefnogaeth y preswylwyr, ynteu'r ffyrdd. Prun bynnag, nid oes cwyno ar eu hoi, a cheir gwell siawns i dreulio'r Sul mewn tangnefedd hebddynt. CofQiawyd am Ddewi Sant mewn amryw o gapeli'r Sal diweddaf. Gwn am un. capel y treuliwyd dwy oedfa er coffa amdano, y bore i'r plant a'r nos i bawb. A pha sant teilyng- ach o'i goffa mewn pulpud ac eglwys ? Y mae y ffordd oddiwrtho at y Ceidwad fyrred ac unioned ag oddiwrth unrhyw sant arall yn y Beibl neu tuallan iddo ? Gallwn ym- ffrostio yn ein Sant, a son amdano bob amser ac ymhob lie ac nid oes gan unrhyw genedl Sant amgenach. Cadwer ei ysbryd a'i iaith yn fyw oesau'r byd yrnhlith cenedl y Cymry. Casglwyd yn Ysgol Sul Bethlehem, Rhos, y Sul diweddaf, at y Genhadaeth Dramor, a chafwyd y swm o ddeugain punt. Nid oes berygl i Eglwys farw oa bydd yr ysbryd cen- hadol yn fyw ynddi. Ar ran Undeb Ysgolion Sul Rhos a'r cylch, ymwelodd Dr. Price ag Ysgol Sul Mynydd Sôion, Ponciau, a thraddododd anerchiad ar waith yr Ysgol Sul. Rhoddodd bwys ar- bennig ar fodyrathrawon yn cymryd diddor- deb yn eu gwaith ond cael hynny, meddai, cqir llwyddiant heb os nac onibae. Diolch- wyd i Dr. Price ar ran yr Ysgol gan Mr. R. E. Morgan, arolygwr.. Cyfarfu Cyngor yr Eglwysi Rhyddion,Rhos, yng nghapel Moriah, dan lywyddiaeth y Parch. Wynn Davies. Etholwyd swyddogion newydd am y flwyddyn, sef Mr. Kendrick Wynn yn llywydd, Mr. John Davies yn is. lywydd, Mr. D. L. Price yn drysorydd, Mri. W. E. Jones a Gladstone Jones yn ysgrifen- yddion. Rhoddodd y Parch. J. Williams Davies rybudd y byddai yn y cyfarfod nesaf yn cynnyg eu bod yn apelio at fasnachwyr y Rhos i gau'n gynarach ar nos Sadyrnau. Dathlwyd Gwyl Ddewi gan Gymdeithas y Cymry, Brymbo, nos Wener ddiweddaf. Llywyddwyd gan y Parch. J. Tahvrn Jones arweinydd y gan oedd Mr. Tom Roberts y cyfeilydd, Mr. Llewelyn Edwards Mr. J. H Jones, Golygydd Y BBYTHON, oedd y gwestai anrhydeddus, a chafwyd anerchiad rhagorol ganddo ar ffyddlondeb i'r Gymraeg, ac yr oedd ein calonnau'n llosgi ynnom wrth ei gwrando,—gresyn na fyddai modd i bob ardal lie ceffir Cymry ei chlywed. Yn sicr, ni ddiffydd y an a gynheuodd ar y fin yma yr hawg. Cafwyd anerchiadau gan y beirdd Gomer Hafhesp, John Jones, a Tlialwrn. Canwyd gan Mr. Tom Roberts, Heol y Nant, a chan Miss Williams, Tan y fron. Adrodd- wyd gan Mr. Idris Williams, Harrwd—efe'n un enillodd ar adrodd yn yr Eisteddfod Cen- edlaethol ddwywaith. Dadl gan Misses Evans a Morris a Mr. Emlyn Harrison. Darparwyd te a theisen o bob math gan foneddigesau'r Gymdeithas. Ymunodd ped- war ar hugain o'r newydd. Diolehwyd i bawb gymerth ran ac i'r ysgrifennydd gweithgar, Mr. S. Marion Jones, gan Mri. D. E. Rees a Merodydd Williams a cbanwyd mewn. hwyl fawr, Hen Wlad fy Nhadan i derfynu. Sefydlu'r .Po?cA. J, 1. Jo?s, B.?L.,B.D.,? RhQ8 ??.—Chwefrol 27ain, ynghapel M.C. Ebenezer, Rhos ddu, caed cyfarfod sefydlu a chroesawu'r Parch. J. T. Jones, B.A.,B.D., (gynt o Lanbrynmair). Yr oedd trefniadau a darpariadau cyflawn a theilwng o'r amgylch- iad wedi eu gwneud gan aelodau'r eglwys, ac yr oedd y cwbl yn llwyddiant tuhwnt i'r disgwyliadau goreu. Yn y prynhwan, am 4.30, caed gwyl de, chwiorydd yr eglwys yn gyfrifol am bopeth ynglyn a hyn. Yn yr hwyr, caed cyfarfod cyhoeddus, y Parch. Ed. itoDerts,±jrymbo,yn llywydd, ac wedi dechreu y cyfarfod trwy weddi gan y Parch. J. Roberts, caed anerchiadau gan y llywydd, a chan Mr. R. T. Davies (blaenor hynaf Ebenezer), a'r Parchn. R. Davies, Trefeglwys H. E. Morris, Wrecsam, llywydd Cyfarfod Misol Dwyrain Dinbych Lewis Morris, llywydd Undeb Eglwysi RhyddionGwrecsam Peris Williams (A.); Lias Davies,y Symudiad Ymosodol), a'r cwbl yn cyfeirio at Mr. Jones fel gwr anfonedig Duw, yn ddios, ac at ddyled- swydd yr eglwys. Yn dilyn yr anerchiadau, caed gair gan Mr. Jones ei hun. Diolchwyd gan Mr. Wm. Jones a John Jones, a diwedd- wyd trwy weddi gan y Parch. T. C. Roberts (W.). Caed unawdau gan Misses Sallie Rogers, Olwen Jones, Ceridwen Hughes, Mr. J. Meirion Jones, ac unawd ar y crwth gan Master Elwy Glyn Roberts. Yr oedd yr holl eglwys a'r gynulleidfa wedi ei gwahodd i'r wledd a'r cyfarfod, ynghydag amryw o eglwysi ac enwadau ereill. Nodweddid y cyfarfod gan wres y croeso i Mr. a Mrs. Jones a'r teuln, a'r ymroddiad cyffredinol i wneud popeth yn llwyddiant, a thystiolaeth pawb ar ddiwedd y cyfarfod oedd y bu'r cwbl yn llwyddiant tuhwnt i bob disgwyliad. Ysgrif- ennydd y symudiad oedd Mr. Wm. Johnson, ac i'w ymroddiad ef y rhaid priodoli llwyddiant y te a'r cyfarfod i raddau helaeth iawn.—G.

Advertising

Ein C-Anedi ym Manceinioi…

IMINION MENAI. I

Wrth Sodlau -Plunl union.…

Advertising