Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
mmœœœœœœœœœœœœœœœœœœœœœœœœœœœœœ8 1 LAST TWO WEEKS i H OF 8 1 RAY & MILES 1 RAY MILES I3 Great Annual H I Finns SOLE H H | LONDON ROAD, LIVERPOOL. 1 I3 8 I fflffifflEmfflffliffEfflEEEOSfflffilfffflffllfflillliiffgiiEgimmililjlgiiS IF YOU WANT SEASONED Oall, Mahogany, Birch, Black Walnut, Ash, White Wood, jPitchpine, Yellow Pine, Doors or Mouldings WRITE LEWIS ROBERTS, 19 STANLEY ROAD, LIVERPOOL.
DIOGENES. I
DIOGENES. DYMA ni, unwaith eto, yn dal y Drych ar un o Gymry nodedig Lerpwl. Gwr anghyffredin oedd y diweddar Mr. R. W. Jones (Diogenes), ac yn perthyn i genhedl- aeth sydd, erbyn hyn, wedi ei theneuo'n fawr gan angau. Prinion iawn yw cyfoedion ei gyfnod ef ar Lannau'r Mersey. Gan iddo gyrraedd ei bedwar ugain oed, ei fod ers blynyddoedd yn bur llesg, ac nad oedd cyleboedd ei fywyd y rhai mwyaf cyhoeddus, nid rhyfedd ei fod yn gymharol ddieithr i'r genhedlaeth bresenol. Nis gallwn honni adnabyddiaeth neilltuol ohono; er hynny, cawsom yr hyfrydwch o gymdeithasu â-g ef droiau, ei wrando'n llefaru'n gyhoeddus, mwynhau ei ymddiddan- ion difyr yn Swyddfa'r Cymro, ein croesawu i'w aelwyd, a'i fynych gyfarfod ar heolydd y ddinas, ynghyda darllen ei lithoedd diddorol i'r wasg, tan yr enw Diogenes. Paham y dewisodd y llen-enw Diogenes? Yn sier, nid oedd y Cymro a gollasom y dydd o'r blaen yn derbyn dysgeidiaeth nac arfer- ion yr Athenwr enwog fu farw 300 C.C. 'Doedd dim o ysbryd y Oi/nieynddo ef. Nid allai fod cyferbyniad mwy, yn hyn o beth, na rhwng y dyn a gerddai heolydd Athen gynt a'r Cymro llawenfryd a gerddodd heolydd Lerpwl. Yr oedd yn wahanol i fel y dywedir fod meddylwyr a breuddwydwyr effro'n gyffredin, arfer y rhai yw cerdded a'u pen i lawr, ac fel pe'n ceisio osgoi pob wyneb a ddelo i'w ffordd. Rhodiai ein Diogenes ni'n hamddenol, a'i ben yn hytrach i fyny. Hawdd oedd ei nabod mewn torf, a chraff oedd yntau i nabod ereill. Ac yr oedd mor gyflawn o feddwl a gwybod fel mai nid hawdd i neb ei gwrdd nad allsai efe droi goleu disglair ei "lamp" ar unrhyw fater a gynhygid iddo. Nid ai neb o'i gwmni, wedi ond ychydig funudau, na chawsai ganddo rhyw sylw craff, rhyw ffaith ddiddorol, rhyw hanesyn newydd, neu rhyw stori ddifyr. Ymddanghosai mor barod i ymgom a phe buasai wedi bod yn chwilio am danoch yn un pwrpas i ddweyd yr hyn a ddywedai wrthych. Meddai got bachog cofiai a darllennai, cofiai a welai ac a glywai ae yn enwedig cofiai hanes hen gymeriadau diddan a adnabu gynt. Yr oedd gwythien gref o humour ynddo, ac adroddai hanesynau o'r nodwedd honno ag afiaeth a mwynhad. Ni raid ond dweyd yr arferai gwrdd y Llyfr- bryf, yn swyddfa'r Cymro, na ddeellir ar unwaith y ceid cype i ddifyrrwch diniwed felly yno. Y tro diweddaf y coflwn ei gwrdd yn y lie hwnnw, 'roedd y ddau- Diogenes a Llyfrbryf-yn un o'u munudau Hon. Y stori a adroddai'r cyntaf oedd am ddyn a yfodd botelaid o inc, mewn cam- gymeriad; ac wedi hynny'n cael cyngor gan gyfaill ffwdanllyd i lyncu lwmp o blotting- paper ar ei ol! A chofiwn yn dda y tro diweddaf y cawsom groeso'i aelwyd garedig gyda chyfaill arall. Mor ddiddan oedd ei gwmni, fel y cadwodd ni hyd amser y "trên olaf o Garston am Lerpwl, ac yn hwy na hynny-y trdn wedi mynd erbyn inni gyrraedd yr orsaf! Na, nid oedd dim mym- ryn o ysbryd y Cynic yn y gwr galluog a hyfrydlon y cwynwn ei golli a chredwn na warafunir inni ddwyn yr elfen ddifyr a ffraeth a feddai i amlygrwydd hyd yn oed yn ein Chwith Atgof am dano. Ond fe arwydda'r enw Diogenes rywbeth am nodwedd Mr. Jones fel gwr o jvybodaeth a deall. Yr oedd yn ddarllenwr mawr ae ar lyfrau mawrion, ac nid anghynefln iddo ydoedd syniadau athronwyr hen a diweddar. Tyfodd i fyny yn Lerpwl pan oedd mwy o fri nag y sydd yn awr, yn gyffredin, ar astudio llyfrau anodd. Gall fod yr oes bresenol yn fwy ymarferol, ond prin y mae mor feddyl- gar a'r oes o'r blaen. Pan oedd Mr. Jones yn ddyn ieuanc, 'roedd pynciau ysgrythyrol a diwinyddol yn boblogaidd, a'r dadleuon arnynt yn fyw ymhlith yr enwadau. Beth bynnag ellir ei ddywedyd am gywirdeb y credoau, buont yn ganolbwnc i feddwl a myfyrdod a roddai fwy o sefydlogrwydd i farn a dyfnder i argyhoeddiadau crefyddol nag a geir, ar y cyfan, erbyn hyn. Y perygl heddyw yw crefyddwyr heb gan- ddynt angorion mewn tymestl, ond symud fel y gwelo gwynt a thonn yn dda eu hyrddio. Mae anfanteision dyn ieuanc yn Lerpwl i feddwl ei grefydd yn awr yn fwy na phan oedd Diogenes a Meddyliivr yn eu preim,— mwy o bethau'n cystadlu am eu horiau hamdden, ae, yn taenu hudoliaeth pleser arwynebol rhyngddo a, llyfrau a thestynau sylweddol. Gofynnir mwy o ymdrech yn barhaus i feithrin chwaeth at bynciau mawrion bywyd dynol, ac i un allu ymddeol oddiwrth ddwndwr heolydd a neuaddau gwagedd, a chau ei hun i fewn tan osteg y myfyriwr. Yr hyn sy wreiddyn i bob mawr- edd mewn lien, cerdd, a deall crefyddol, yw meddu chwaeth atynt; ac ni cheir honno heb feithrin dyfal. Ac yn y rhai a wnant hynny o ddifrif y gellir plymio dyfnder bywyd y byd, yn hytrach nag yn y cyffro- adau cymdeithasol a pholiticaidd fel y eyfryw, er pwysiced hwynt. Ond na thybied neb ein bod yn golygu unrhyw anghysondeb rhwng y myfyriwr a'r dyn ymarferol geill y ddau gael eu cyfuno; ac felly y gwneid ym mywyd Diogents. Nid yn encil myfyrdod yn unig y bu fyw, oblegid ei orchwyl beunyddiol fu mewn masnach a thrafnidiaeth, ac a chraff ter a medr mawr y bu'n trin llinynau cymhleth yr alwedigaeth honno, y rhai a gwrddent ar ei ddesc o eithafoedd byd. Heblaw hynny, trees ei wybodaeth a'i allu i wasanaeth cymdeithas, yn enwedig ei gyd-genedl yn Lerpwl. Cymerodd ran amlwg ynglyn a, symudiadau llenyddol a gwladgar y Cymry; ac ar fyrddau cyhoeddus, bu o wasanaeth i addysg a threfniadau dinesig. Nid ydym yn meddwl iddo fod yn nodedig fel aelod o blaid boliticaidd, er cystal y deallai wleidyddiaeth ei ddydd. Cymerai fwy o ddiddordeb mewn gwleidyddwyr nag mewn gwleidydd- iaeth, mewn dynion nag mewn pleidiau ac ysgrifennodd yn ddiddorol iawn am amryw o arweinwyr y gwahanol bleidiau, gan ddangos yn eglur ei allu i ddadelfennu cymeriadau, a gwerthfawrogi dynion yn ddiragfarn, i pa blaid neu sect bynnag y perthynent. Ond dyma bererindod maith Diogents yntau wedi cyrraedd i'r pen. Yr oedd yn ddyn gwir alluog, yn gymeriad ar ei ben ei hun, yn Gymro gwladgar, yn ddinesydd defnyddiol, ac yn Gristion goleuedig. Chwith gennym orfod ffarwelio ig ef. Diffoddodd angau ei lamp lenyddol; ond credwn i lamp arall barhau i oleuo'i ffordd rhwng deufyd, ac iddo broft gwir y penill,— Wrth nesu at y dwr, Hyd risiau Brenin braw, Fe ddeil ei lamp o hyd Yn oleu yn ei law; Wrth oleu hon fe wel y lan, Ac engyl fyrdd o gylch y fan." n—.— 1
Bysgotwyr Galileo. I
Bysgotwyr Galileo. I BYSGOTWYR Galilea Chwi welsoch Dduw mewn cnawd Yn gwyro'i Ben ar waedlyd Bren- Yn byvr a marw'n dlawd Rhoes WADDOL FAWR i chwithau- Ei AIR a'r DWYFOL DAN A'ch Cyfoeth chwi oedd Calfari A nerth yr Ysbryd Glan. Bysgotwyr Galilea A yw y Groes mewn grym ? Ddiffoddwyd tan yr Ysbryd Glan ? Wnawd gallu Duw yn ddim ? Pwy yw'ch OLYNWYR," dwedwch ? Ai'r rhai sy'n goddef gwawd Vmhlaid y Gwir ? ai ynte'r gwyr Sy'n pwyso ar fraich o gnawd f Mae'r grefydd fawr WIRFODDOL Yn torri i lawr yn siwr— Medd Esgob bras o fewn ei BI" 1 (Maddeued Duw i'r gWr). Bysgotwyr Galilea Bregethwyr Dwyfol Râs Fu'ch cyflog chwi, yn nydd eich bri, Yn bedair mil-a Phlas ? Bysgotwyr Gaillea 0 na chai EGLWYS 1,5R Roi pwys ei phen ar Fynwes wen Y G"^r sy'n rhodio'r mor. A sudda'r cwch i'r dyfnder ? Beth yw eich profiald chwi ? Wel, dwedwch 'nawr wrth Brydain Fawr, Bysgotwyr Galill -JOHN T. JOB., I
Wrthwrando'r "Gwagedd." I
Wrthwrando'r "Gwagedd." I Yn y Phil. nos Sadwrn, DYDECH chi'n neb yn Lerpwl ers blynyddoedd bellach os na byddwch chi'n trotian bob tro i gonsart y Welsh Choral-" Macwyaid Harry Evans," chwedl Cymro clasurol Y BRYTHON yna ac er mwjn bod yn y ffasiwn, a chogio 'mod i'n dallt pethe, ac 'mod i'n go gefnog arna o lwch aur y byd balch yma, mi fydda inna'n hel 'y mhreniau traed i'r Philharmonic. Ond a deyd y gwir i chi, y Llew Wyn glen yna fydd yn anfon ticed imi bob tro, ac yn cadw set siort ora imi yn ymyl y staej a cheiff neb ddeintio ar ei chyfyl tawn ni heb ddwad yno hyth a phe daethai Lord Derby ei hun ato i grefu amdani, fe ddywedsai'r Llew wrtho'n syth am fynd i ista ar garreg drws un o'i slums budron yn Bootle, a byw ar hynny o ffesants fedr o ddal tua Derby Road, ac ar salmons y Bootle Canal. Mi welsoch be ddeudodd O.W.H. am yeanu yn Y BRYTHON dweutha 'da i ddim i ddeud dim ar i ol o, achos wn i ddim mwy am ganu nag a wyr pry genwair am law fer. Ond fe wyr G.W.H. bob dim am briciau rhyfedd yr Hen Nodiant a'r Solffa gwyr, ac am enaid canu hefyd, cystal a'i gorff. Yr oedd yno gryn deirmil o dyrfa nos Sadwrn yn y Phil., fel y bydd bob tro o ran hynny, ac wedi hel yno o ddau tu'r Mersey, a thraw ac yma o Lancashire a Gogledd Cymru. Mi deimlis i rhyw ias oer yn cripio drosta i, ac a ddechrenais disian dros y lie wyddwn i ddim parn ar y pryd, achos 'roedd y drws ynghau a'r cyrten drosto ond erbyn edrach, be oedd tu'n ol imi ond rliesiad neu ddwy o gritics cerddorol Llundain a threfi ereill. A ryfadd imi disian, yng ngwydd cenfaint m6r oer. Y gwaetha' ydi, nad oes dim goleuni yn 'y nhisian i, fel oedd wrth disian y behemoth hwnnw sydd yn tisian mor ardderchog yn Llyfr Job. Ond fe gynheswyd y critics wrth i'r cor ddal i ganu, wic)tlia'n eu dannedd, ac yr oeddan nhw'n gynnes ryfeddol eu nodiadau yn y papure bore dydd Llun- 09- 'Roedd G. W.B. yn son yr wythnos dweutha am yr hen frawd colerog hwnnw godai i weiddi Bravo dros y lie oddiar y galeri bob tro. Wel ia, hen gono smala ofnats oedd o, a'i gaead yn codi mewn munud wrth i'w sospon ferwi. 'Roedd o wedi glan wirioni ar y crwt crythor hwnnw, ac ar Ruth Vincent hefyd. A Ruth ydi hono sy lawned o afiaeth a direidi ag ydi hi o ganu ac wrth ddod yn ol i grwcydu a bywio'i diolch i'r c6r a'r gynulleidfa, dacw'r walches yn taflu ei sws i hen glapiwr y galeri a'i llygad bachi bobol y llawr, nes oedd y dyrfa deirmil yn ei dyble gan chwerthin. A diolch am ambell hen rychor diliitio fel hyn i dorri deg gorchymyn yr etiquette yma'n deilchion, a gadael i'w galon fwrlymu allan am ben ei evening dress. Ond hwyrach mai wedi bod yn ciniawa a llymeitian champagne yr oedd o ran hynny, cvn y eon- sart. Peth yn ych gwneud chi deimio'n braf a dihitio yn neb ydi hwnnw, medda nhw i mi. Wyddoch chi beth, mi fasa'n dda gen i taswn i'n dad i'r cyw crythor Sigmund Feuer- mann hwnnw o Awstria. Dydio ddim ond newydd droi deuddeg oed, a meddyliwch am dano'n medru cofio'r fath ddamau meithion a'u cwafrio mor fendigedig hefo'i brie a'i berfeddyn cath. Ac yr oedd ei osgo a'i drem yn drgt i sbio arnynt. Dyna i chi, bobol y canu 'ma,wers a phatrwm sut iymddwynary llwyfan a sut i nol eich applause. Troedio'n araf ac fel gwr bonheddig bach bow bach gynnil, a ffwrdda fo'n ei ol, yr un mor araf ac urddasol, ac yn malio mwy am ei gerddoriaeth nag am glap y dyrfa. Yr oedd yn amlwg ei fod o yn rhy gynhefin a gwin clod i'r un encor feddwi dim aruo, megis y gwna lliavrs gwannach eu pennau ar y diferyn lleiaf o'r peth peryg a meddwol hwnnw, -9- A dyna ben clws oedd gyno fo !-un o'r rhai clysa wnaeth y Brenin Mawr erioed. Ei swp gwallt crych, ei groen melynddu, a gwawr athrylith yn sgleinio mor ddigamsyniol o'i ddau lygad, sef y ddwy ffenest fach honno sydd yn nhalcen ein tý o glai i ddangos faint o fennydd Sy'n twnnu allan o'r tufewn. A sbiwch ar y bychan yn gafael yn ei grwth cyn anwyled ag y geifl mam yn ei chyntaf- anedig Gobeithio y caiff o fyw, ac na lithrith o ddim ar hvybr y gan a'r gerdd. Llwybr digon llithrig ydi hwnnw, a llawer glyfred ag yntau wedi cwympo arno a rowlio i'r gwae a'r gwewyr sydd tua'i waelod. By-be sy ham Mr, Granville Bantock yn mynd i ryw selerydd tywyll fel Omar Khayyam a Llyfr y Pregethwr am ei destynau canu deudwch ? 'Rydan ni'n mynd i'r bedd yn hen ddigon cyiiym heb gael y'n canu iddo;a syn naddeuthai'rNefoedd a chyngaws am athrod yn erbyn y dyn sgrifennodd Lyfr y Pregethwr am ddeyd y fath sen am ei byd Hi, mai Gwagedd 0 wagedd gwagedd yw y cwbl." Rhaid bod y felan arno fo, achos cheiff neb anfarwoldeb hir iawn wrth ganu rhyw brudd- der a phisimistiaeth felly. Fydda i byth yn medru aros yn hir yn Llyfr y Pregethwr, y fi, ond yn neidio ohono i'r Salmau, ac Esaia, ac i'r Testament Newydd am 'y mywyd Daliwch o a'i adnodau am funud gyferbyn ag adnodau'r Testament Newydd. Canys dig- wydd meibion dypion a ddigwydd i'r anifeiliaid yr un digwydd sydd iddynt fel y mae y naill yn marw, felly y bydd marw y Ilall ie, yr un chwythad sydd iddynt oil fel nad oes mwy rhagoriaeth i ddyn nag i anifail canys gwag- edd yw y cwbl," ebe'r Pregethwr. Ond ebe'i Fistar o a fy Mistar innau yn loan xiv. Yn Nhy fy Nhad y mae llawer o drigfannau a phe amgen, mi a ddywedaswn i chi. Yr wyf fi'n myned i baratoi lie i chwi; fel, lie yr wyf fi, y byddoch chwithau hefyd." Dyna chwythad dipyn uwch na chwythad y Pre- gethwr a'i anifail, onitS ? Da chwi, Granville bach, cymrwch 'y nghyngor i, a gadewch yr Omar Khayyam a'i Pregethwr, a dowch efo mi i'r ddeuddegfed. bennod o'r Hebreaid i neud oratorio ar y rhain :— Eithr chwi a ddaethoch i fYDYdd Sion, "ae i ddinas y Duw byw, y Jerusalem nefol, ac at fyrddiwn o angelion, i gymanfa a chynulleidfa y rhai cyntaf- "a-.iodig,y rhai a ysgrifennwyd yn y nefoedd, ac at Dduw, Barnwr pawb, ac at yspryd- CI oedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd, I "ae at lesu, Cyfryngwr y testament newydd, a gwaed y taenelliad' yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell na'r eiddo Abel." Neu ynteu hon, os gwell gennych, o Lyfr y Dadguddiad Ac efe a ddanghosodd i mi afon bur o ddwfr y bywyd, disglair fel grisial, yn dyfod allan o orseddfainc Duw a'r Oon. Ynghanol ei heol hi, ac o ddau tu yr afon, yr oedd pren y bywyd, yn dwyn deuddeg rhyw ffrwyth, bob mis yn rhoddi ei ffrwyth a dail y pren oedd i iachau y cenhedloedd a phob melltith ni bydd mwyach ond gorseddfainc Duw a'r Oer) a fydd ynddi hi; a'i weision ef a'i gwasanaethant ef. A hwy a gant wslad "ei wyneb ef a'i enw ef a fydd yn eu talc?nnau hwynt. Ac ",i bydd nos yoo ac nid rhaid iddynt wrth gannwyll, na goleuni haul oblegid y mao yr Arglwydd "Dduw yn goleuo iddynt a hwy a deyrnasant yn oes oesoedd." Mi godai rhai nyna'ch calon,ac a ddeffroent y'ch athrylith chi a'n calonnau brau ninnau'n ganmil gwell na'r ddysg ddigalon sydd yn y Khayyam a'r Pregethwr. Yr oedd yr hem Handel yn dallt be oedd o'n ei neud yn iawn wrth ddewis y Messiah oedd, wir ac yn gwybod i'r dim, os oedd o am anfarwoldeb iddo'i hunan bach, y byddai raid iddo gydio'i ganu a'i oratorio wrth "yrHwn a ddug fywyd ac anllygredigaeth (bywyd ac anfarwoldeb ydi'r cyfieithiad iawn) i oleuni." Ond dyna, y mae'n bryd imi dewi, achos dwn i ddim am ganu fel y eyfryw, a diau fod awdur Gwagedd, 0 Wagedd yn canu'n ol ei anian a'i athrylith ei hun, gan beri i mi a phawb arall feindio'n busnes y'n hunain. Yr oedd yn dda gen i ei fod o wedi cael ei I blesio mor ardderchog yng nghanu'r cor, I achos dyma'r llythyr gafodd yr arweinydd oddiwrtho :— My dear Evans,—I am still under the I spell and excitement caused by the wonderful singing last evening. I have never been more completely satisfied with a first performance. The superb and confident singing of the Choir came as a revelation to me, in spite of the most favorable anticipations, and though I know from previous experience of their attainments so far unsurpassed, I have never before so thoroughly enjoyed the first performance of a new work, and I will never forget this remarkable achieve- ment. The certainty, grip, power and expression shown by the Choir astonished ",Me. To listen to one's own work for the first time is not always an unalloyed pleasure. Doubt and anxiety mingle with the uncomfortable sensations of the patient sitting in the dentist's chair <° But last evening I was smoking the pipe "of content and enjoyment in a luxurious arm-ebair, and envied no man. My obligations to you all cannot be expressed in words. The deeper feelings are inarticulate, ancPshould remain so. You will all understand this, I am sure, and know that I am the more grateful since my thanks are poor and few. One last word, and this of congratulation to a Union where the bond of loyalty and enthusiasm between the General and his forces, and among all the Members, is so ct ifrm, so sympathetic and so enduring. May-it ever remain !•—-Yours ever, "GRANVILLE BANTOCK." 30 Elvetham Road, Edgbaston, Birmingham. A dyma farn y prif newyddiaduron am y canu :—■ Times.—" Mr. Harry Evans and his fine Welsh Choir, who produced Atalanta two years ago had taken quite as much trouble to prepare The Vanity of Vanities," and succeeded even better in their perform- ance of it. It is in some ways less intricate than the former work, but it requires just as much singing if its effects are to tell at their full worth. The quality of tone was very beautiful the amount of intelligence in following out the subtle changes of tone re- quired, the flexibility in the numerous changes of time, told once again of the high state of efficiency to which Mr. Harry Evans has raised this Choir. It was a very remarkable performance, and by their greetings both to their conductor and to the composer the Choir showed that they approach their work in a spirit of enthusiasm." Daily Telegraph,.—" Granville Bannock's second Choral Symphony was heard to-night for the first time, the honours of production resting upon Mr. Harry Evans and members of the Welsh Choral Union, to whom the work is dedicated, and for whom, especially, it was composed. The honours were indeed, well-earned," and richly deserved, and he would be an exacting composer who could have wished for a better first performance. The whole spirit of the work was made manifest every detail, every nuance of the elaborate score was carefully, even lovingly, expressed the balance of the twelve part chorus was calculated to a nicety the tone, at its fullest, sonorous and splendid—at its softest, deep-moving and lovely. All the dynamic gradations required in such a char- acteristically modern composition as this were as much a delight to those who think in terms of technique as to those who feel in terms of art, and testified not only to the sensitiveness of the conductor but to the extreme pliability of the Choir under his direction." Daily News and Leader. The rendering was in every way an adequate one Mr. Harry Evans gave a finely-balanced per- formance, in which his Choir responded to most of his delicately conceived details of the frequent mysterious pianissimo marks. He deserved the honour of being associated with the Choir of which he is so famous a conductor, in the dedication." Daily M ail. Of the impression the work made on Saturday'there can be little doubt. The chorus performed its difficult task with the utmost success." Manchester Gvard?,an. As a first per- formance of a difficult work the interpretation of Mr. Evans and hisvchoir was, despite the shortcomings of which we have spoken, singularly successful. It did not succeed in a commonplace way, but in what was most difficult, and if it left some of the strong features of the work something less than fully illustrated, it revealed its fine-spun beauties in a way that in works of such calibre is seldom achieved ui-itil the"- music becomes generally known." l u Jtanchester Courier. Of the performaiaee I need only say that it was remarkably adequate. | The singers sang with confidence, and, except towards the end, where the strain began to be felt, with rich and liquid vocal tone. Mr. Harry Evans conducted and cor- firmed the reputation he already enjoys as one of the finest choral conductors and trainers in the country." Daily Dispatch. The difficulties of ren- dering an exclusively choral symphony of this unique character may oe more easily imagined than described, but the brilliant Welsh Choral Union on Saturday gave a superb account of their capacity, and completely eclipsed all their previous achievements. Mr. Harry Evans was personally responsible for securing the inaugural performance of the work in Liverpool, and he conducted it with masterly skill. His direction of its phases revealed all that meticulous care which is so character- istic of him as a choral conductor, possessing few equals and no superior in England today." Yorkshire Post. The interpretation by the Liverpool Welsh Choral Union was a great feat. The chorus is one of the finest in England, and its conductor can play upon it with the greatest ease and certainty. About 300 voices took part. The string-like tone of the various choral parts was remarkably sensuous and beautiful. Birmingham Illail. Too much praise cannot be accorded to the Welsh Choral Union for the vocal and intellectual gifts which in rare measure they brought to bear upon the performance. The task was un- deniably difficult, and if once or twice the choristers wavered, they may be readily excused, having rsgard to the fact that they were without instrumental co-operation. Their attack was splendid, and on the whole the Choir more than justified Professor Bantock's hopes when he dedicated the new work to them and to their conductor. The latter displayed a fine grasp of the require- ments of the symphony from every point of view. Birmingham Gazette. The performance was in every way an adequate one. Mr. Harry Evans secured a finely balanced per- formance." Sheffield Independent. It is a work quite beyond the scope of any ordinary band of choralists. Fortunately, the Liverpool Welsh ChoralUnion is much above the ordinary." Dyna ichwi sut y twymwyd y beirniaid, a sut y gwellwyd fy nhisian innau. HEN WR O'R WLAD.
O'R BALA.
O'R BALA. Jerusalem Cymru. HAWEN A GWYLFA.—Canmoladwy iawm yw gwaith pobl ieuainc Capel yr Annibynwyr yma yn trefnu cyfres o bregethau yn e* haddoldy tua'r adeg yma bob blwyddyn. Rhoddir i lawer gyfle trwy hyn i weled a chlywed gweinidog enwog fuasai, onibai hyn, yn ddieithr inni efallai am ein hoes. Cafwyd cynulleidfaoedd Ihiosog am bedair noson, at un prydnawn, yr wythnos o'r blaen, i wrando y ddau wr galluog uchod ac yr oedd yr Hen hen hanes yn seinber a melys odiaeth oddiar eu gwefusau hylithr. SYR WATKIN A'I SAM.-Y naill yn gadeir- ydd., a'r llall (sef Sam Thompson) yn areith- ydd, mewn cyfarfod politicaidd trefnus yn y Victoria Hall, nos Fawrth ddiweddaf. Nid ydym yn hiraethu am yr hen gyfarfodydd politicaidd cyffrous, yn amser Simon Jones ac ereill ond y mae cyfarfodydd yr amser- oedd diweddaf hyn wedi mynd yn bethau diniwed iawn, o'u cymharu a'r tymhestloedd hynny. Ac nid yw barddoniaeth boliticaidd y dyddiau hyn yn haeddu ei chyffelybu am foment i eiddo '59 a '65. Bobol annwyl yr hwyl fawr fyddai wrth ganu ar Wait for the Wagon yr hen gan ofnadwy honno, Buckle up the niggers and drive them, to the poll." Mae'r hen gan ar gael yn ddiogel ddigon 'chyhoeddwyd moni erioed ond yr ydym bron iawn a chredu ei bod bellach yn amser iddi ddod i oleu dydd, allan o'r ymguddfan y mae wedi bod ynddo ers hanner can mlynedd. Fe lynai cryn lawer o'i phyg ym mhlu rhai pobl eto. Yn y cyfarfod uchod, heclwyd cryn dipyn ar Sam Thompson gan rai o'r myfyrvryr, a chan Mr. George Owen, Bryn Moel, ond y cwbl yn ddigon boneddigiidd. 'Does neb ohonom yn cymeryd ymgeisiaeth Mr. Thomp- son yn ddifrifoL Gwyddom o'r gore mai amcan y cwbl yw rhoddi cost ar Mr. Haydn Jones. 'Does neb cadarnach eu cred na'r Undebwyr eu hunain nad oes cysgod siawne iddynt'byth ennill y sedd. YR YSTORM A'R LLIFBDYFROEDP. Wyddoch chwi ddim byd am greadur wedi gwylltio os na welsoch chwi Lyn y Bala- wedi cynddeiriogi dan fflangell yr ystorm Fore Sul diweddaf, yr oedd y gwynt a'r glaw yn rhuthro gyda ffyrnigrwydd gwallcof ar hyd yr agoriad cul rhwng y bryniau, gan ddechreu ar y llyn yn ymyl Llanuwchllyn, a gorfodi ei donnau i neidio dros ei gilvdd am y cyntaf i gymdogaeth Eryl Aran, y Ro Wen, a Phont mwnwgl y llyn, ac yno cymeryd y wib i brancio fel cesyg gwynion dros frigau uchaf y coed, gan ddisgyn yn llanastr ar y doldir islaw, nes gwneud yr holl ddyffryn, hyd at y Bod- weni, yn un foddfa fawr. Yr oedd Hif ffroch- wyllt y Dryweryn hithau, yn nhywyllwch du y noson flaenorol, yn rhuo fel myrdd o lewod, nes peri ofn hyd yn oed ar dduwiolion ffyddjiog y rhan honno o'r dref, a wyddant drwy brofiad beth yw dau ddiliw o leiaf, yn ystod y deuddeng mlynedd diweddaf. Pan ddeffroisom gyda thoriad y wawr fore dydd Sul, ac yr euthom i ffenestri ein hystafelloedd, cawsom olwg ar yr holl wastatir o dan gynfas donnog o ddwfr llwydliw. Cyn hir, ymatal- iodd y glaw, gostegodd y gwynt, gostyngodd y llif, ac ymlonyddodd y llyn, gan gofio mai'r Saboth ydoedd, ac nad crefyddol ynddo oedd fy nhemtio i a phiwritaniaid cyffelyb, i fyned at ei lan fwy nag unwaith ar y Sul, i weled ac i ryfeddu at ei hoenusrwydd chwareus. Nid pawb ddaliodd sylw, hwyrach, fod dwfr y Dryweryn, weithiau, yn chware trie rhyfedd iawn hefo dwfr y llyn. Ar ol tipyn o sychter, pan fydd y llyn wedi mynd yn isel, a phan ddaw hi'n law sydyn, bydd y Dryweryn yn llif o yn fuan, a'i dwfr hi yn rhedeg yn chwyrn i afon y llyn, gan droi ho*no'n ei hoi am hanner milltir neu chwaneg, ac wedyn gwneud ei ffordd fel neidr lwyd trwy ganol y dwfr dis- glair, nes cyrraedd y dwfn, nas plymiwyd erioed, meddir, yn ymyl Mynwent Llanycil.