Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Wrth Hebrwng Diogines.

News
Cite
Share

Wrth Hebrwng Diogines. IE wrth ei hebrwng, meddwn, ac nid wrth ei gladdu, canys gair y plisgyn brau a darfodedig ydy-w claddu, ond gair y cnewyllyn a'r enaid na dderfydd yw hebrwng a diolch i'r hen Gymraeg am wahaniaethu mor dda. Fel yr hysbysem yr wythnos ddiweddaf, bu Mr. R. W. Jones (Diogenes), Y.H., Garston, farw Chwefrol y 17eg, yn ei breswyl, Holly Bank, Garston, ar fin ei bedwar ugain oed, ac wedi goddef nychtod blynyddoedd gydag amynedd a goddefgarwch dewr. Cludwyd y corff i fynwent Allerton ddydd Gwener ddi- weddaf, y Parchn. R. Jones (Mancott) a J. Hughes, M.A. (Fitzclarence Street) yn gweinyddu yn y ty cyn cychwyn a'r Parch. J. D. Evans yn llywyddu'r oedfa fer gafwyd yng nghapel y fynwent, lle'r oedd tyrfa o flaenion Cymry a Saeson y ddinas, a gosgordd o heddgeidwaid yn llwybro'n orymdaith hyd at y bedd. Darllenodd y Parch. E. O. Da vies, B.Sc.. Llandudno (a chyn-weinidog Eglwys Garston) ran 9'r Ysgrythyr, gwedd- iodd y Parch. O. J. Owen, M.A., Rock Ferry, a chaed anerchiad byr ond cryno a chynhwys- fawr ar gymeriad a theithi meddwl Diogenes gan ei hen gyfaill, y Parch. John Williams, Brynsiencyn a'r Parch. J. Shaw, curad, yn gweinyddu wrth ollwng yr arch i'r ddaear ddofn. Dyma rediad sylwadau'r Parch. J. Williams Cadw'r hen wrth gofleidio'r newydd. I Lie trist yw angladd y rhan amlaf ond pan feddyliom ychydig, 'does gennym P, i ddim lie i alaru heddyw, canys cafodd ein brawd ddau beth mawr sy'n peri na ddylem wylo dim cafodd ei ddigoni a hir ddyddiau, a chafodd weled iechydwriaeth a 'does dim galar i fod ar ol rhai gafodd bethau felly. Yr oedd yn berchen meddwl clir a hoyw iawn yn ei feddu wrth natur, yn gynhyscaeth gan ei Greawdwr ond fe ddisgyblodd y meddwl hwnnw, ac a'i cyfoethogodd er yn fachgen, nes yr oedd ganddo ddiwylliant meddyliol o radd uchel iawn—ychydig iawn o flaenoriaid y Cyfundeb, yn y dyddiau hyn, oedd yn yr un dosbarth ag ef o ran disgyblaeth a diwyll- iant. Yr oedd yn highly cultured, yn siarad- wr diwylliedig. Nid dweyd rhywbeth rhyw- sut, ond dweyd nes y byddech yn teimlo fod yna ddisgleirdeb meddwl y tu ol iddo. Cafodd ei gyfeirio gyntaf gan hen fardd a lienor yng Nghonwy hwnnw ddeffrodd ei feddwl i weled ceinder iaith,ac a'i paratddd i'w hyscrifennu, fel y gwnaeth wedyn, mor gain ar hyd ei oes. Ac yr oedd ei wybodaeth o lenyddiaeth Saesneg yr un mor eang-os nad yn ehangach fyth—na'i wybodaeth am len- yddiaeth Gymraeg, a'i wybodaeth am rai o wledydd y byd-gwledydd y Dwyrain yn enwedig—yn eithriadol o helaeth, tuhwnt i neb bron. Do, fe wnaeth y goreu o'r gyn- hyscaeth a roisai ei Greawdwr iddo. Ac yr oedd yn Gristion at hynny, ac yn wr y teim- lem barch mawr iddo. Yr oedd yn ddyn modern, ac a wyddai beth oedd hi ar gloch gyda phob mudiad oedd yn ysgwyd y byd ond er ei fod i fyny a phob peth Newydd, ni chollodd ronyn o'i barch a'i gred yn yr Hen. Mawrhai'r hen bobl, yr hen draddodiadau, yr hen bregethwyr, yr hen flaenoriaid, yr heik Ysgol Sul, yr hen gyfarfod gweddi, ac a fedrai adrodd darnau goreu o bregethau godidocaf Henry Rees a'u tebyg. Ceir ambell ddyn yn colli gafael yn yr hen wrth gofleidio'r newydd ond dyn mawr, y mae hwnnw'n medru dwyn pethau mewydd o'r hen. Yr oedd ein brawd yn wrandawr deallus a theimladwy a'r olwg ddiweddaf gefais i arno oedd yn gwrando ac ni ellir dweyd gwerth dyn fedrai wrando'r Efengyl fel y gwnai o. Gogoneddwn Dduw ynddo, canys gwnaeth waith mawr ymhob cylch. Ar yr oedd ei ddiddordeb yn y cylch crefyddol yn fwy na'i ddiddordeb ymhob cylch arall. Gyda phethau crefydd yr oedd pan yn deffro'r bore gyda hwy yr ai i gysgu'r nos gyda'r pethau hynny yr oedd pan yn marw a chyda hwy y mae yn awr. Yr oedd yn wr hael yn ddyn neilltuol yn berchen athrylith a bu achos Duw ar ei fantais o'i alluoedd ac o'i fywyd. Duw fyddo gyda'i deulu. Dyma'r prif alarwyr :-Mrs. R. W. Jones (gweddvr), Dr. Hugh R. Jones a Mr. R. Saun- ders Jones (meibion), Mr. E. Hunt Cook (mab- yng-nghyfraith), y Parch. Richard a Mrs. Jones (brawd a chwaer yng nghyfraith), Miss Jones a Miss Pattie Jones (chwiorydd), Mrs. David Jones (r ith), Mr. D. P. Jones (nai), Mr. Richard Jones (cefnder), Mrs. Pritchard (nith), Miss Watters (chwaer-yng-nghyfraith), y nurse, Mr. a Mrs. R. Roberts (nai a nith), Mr. 0. W. Roberts a Mr. J. W. Roberts (neiaint), Mr. a Mrs. David Jones, Waterloo (nai a nith), Mr. F. D. Roberts (nai), Dr. W. Jones (nai), y Parchn. J. Hughes, M.A., O. J. Owen, M.A., E. 0. Davies, B.Sc., a R. Parry Jones, a Mr. J. J. Bebb Mri. Robert Thomas, John Hughes, H. Parry Jones a R. Williams (diaconiaid Eglwys Garston) Mr. H. Ariander Hughes, Llan- beris (nai), etc., etc. Camre'i Yrfa. Dyma hwy, ar fyr :—' Ganwyd ef yng Nghonwy, Tachwedd I, 1834. Symudodd ei rieni, pan oedd ef yn lied ieuanc, i Lerpwl, a bu ei dad, Mr. Richard Jones, yn dwyn ymlaen fasnach helaeth fel ship broker ar y cyntaf gyda Mr. Sleight, tan yr enw Sleight & Jones, ac wedi hynny gyda Mr. David Jones, tan yr enw R. & D. Jones, yn 28 Brunswick Street yr oedd hefyd yn flaenor yn Eglwys Chatham Street ers llawer o flynyddau cyn ei farwolaeth, ac yn wr grymus o gorff a meddwl. Un o deulu Bacheiddon a Gallt y Llan, Penegoes, ger Machynlleth, oedd Mr. Richard Jones. Yr oedd mam Diogenes yn ferch i Mr. Robert Williams, Hong adeiladydd, Porthisaf, Conwy, a chwaer iddi hi ydoedd gweddw'r diweddar lenor galluog I. D. Ffraid. Wedi myned yn llwyddiannus trwy gwrs addysg yn yr Institute, Mount Street, a gwas- anaethu ei brentisiaeth mewn swyddfa fas- nachol, yn 1855 penodwyd ef yn oruchwyliwr ar y gangen newydd oedd yn cael ei hagor yn Lerpwl o ffirm fawr Ralli Brothers." Llanwodd y swydd gyfrifol honno hyd ddi- wedd 1875, pan yr ymunodd mewn masnach gyda'r diweddar Mr. Henry Cox, a'u swyddfa yn 3 Rumford Street. Mr. Jones oedd y manager, ac efe a sefydlodd ac a ddatblygodd fasnach y cwmni a adwaenir trwy'r byd fel y Phoenix Oil Mill Co, Ltd." Ni chymerodd Mr. Jones erioed lawer o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth bleidiol, ond cyflwynodd seibiant ei fywyd masnachol prysur i wasanaethu addysg, llenyddiaeth a llywodraeth led. Yn fuan wedi symud o Lerpwl i Garston, sef yn 1874, etholwyd ef yn aelod o'r Bwrdd Lleol, swydd a ddal- iodd nes vmneilltuo ohoni yn 1888, a bu'n gadeirydd y Bwrdd 1882-'85 ac ar derfyn ei dymor pasiodd ei gyd-aelodau bleidlais o ddiolch iddo am ei wasanaeth maith a gwerth- fawr. Bu hefyd yn aelod o gyd-bwyllgor iechyd Lerpwl a'r gymdogaeth o 1882 hyd 1885. Mewn cysylltiad ag addysg, gwasanaethodd ar Fwrdd Cyfarwyddwyr y Liverpool In- stitute er 1873, ac efe oedd cadeirydd y Bwrdd yn 1887. Hefyd, cafodd achos addysg yng Nghymru, yn ei holl agweddau, help a nawdd egniol Mr. Jones bob amser. Tan y pen hwn hefyd, hwyrach y dylem nodi ei gysylltiad a Chymdeithas Genedlaethol Gym- reig Lerpwl bu'n aelod tra defnyddiol o'i Chyngor er pan sefydlwyd hi, a bu'n gadeir- ydd y Cyngor am dair blynedd-1889-'91. Bu'n ysgrifennydd Pwyllgor Cymreig Sul Ysbytai Lerpwl gyda Mr. Hughes-Jones, ac yr oedd yn aelod o bwyllgor cyffredinol Trysorfa Sul yr Ysbytai ac yn gynrychiol- ydd Trysorfa Sadwrn yr Ysbytai. Gwyddis hefyd am ei waith dros addysg ynglyn a Phrifysgol Bangor ac yn y blaen. Efe oedd un o sefydlwyr Insurance Trust y Methodist- iaid yn 1886. Fe'i codwyd i'r Fainc Ynadol ddeng mlynedd yn ol, sef adeg corffoir Garston a dinas Lerpwl. Ond fel ysgrifennodd galluog, a than yr enw Diogenes, yr adwaenir Mr. Jones oreu ymysg mwyafrif darllenwyr Cymraeg. Tra yr yd- oedd lawn mor rugl yn ei Saesneg ag yn y Gymraeg, dylem deimlo'n ddiolchgar iddo am roddi cynhyrchion ei dalent i'w gydgenedl yn eu hiaith eu hunain. Nid oedd y llwchyn lleiaf o'r Die Shon Dafydd yn Diogenes carai ei genedl, ei hiaith, a'i llenyddiaeth ac nid gorchest fechan oedd hon i un a ddyg- wyd i fyny o'i febyd ymysg Philistiaid Seisnig Lerpwl. Ysgrifennodd lawer o dro i dro i'r Drysorfa, y Methodist, a'r Traethodydd, ar amrywiol destynau adolygiadau i'r Herald Gymraeg, Carnarvon and D. Herald (" special correspondent" Franco-German War a Letters of Argus ") i'r Faner, tan yr enw "jjPe truster Pyrrho i'r Goleuad ac i'r Cymro, tan yr enw Diogenes ac yn olaf i'r Brythout, ond fod ei lesgedd wedi ei ddal, a'i gadw rhag ysgrifennu'n helaethach. Cyf- rannodd lawer o dro i dro o erthyglau i bapurau dyddiol Lerpwl-ar bynciau mas- nachol yn bennaf a dygai ei ysgrifau nodau sylwadaeth graff, barn addfed, a ffrwyth darllen llawer ar lyfrau a dynion. Yn 1892, aeth ef a'i briod ar daith i'r Dwyrain, a ffrwyth hynny oedd y gyfres ysgrifau hyddysg a sgrifennodd i'r Cymro ar ol dychwelyd, yn hoywach ei iechyd, a mwy o fin nag erioed ar ei bin. Fe'i dewisasid yn flaenor yn Eglwys I Garston yn 1872, eithr gwrthododd sefyll ar y pryd fe'i hail ddewiswyd yn 1884, ac fe I gydsyniodd ac a barhaodd o hynny hyd y diwedd.^j

[No title]

Gyda'r Clawdd-

Advertising

-v - -0"R DE.