Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
  GOODS ? ? jj pou ™ Can SAVE 5/- !n the £ IF YOU j)? jj UU FURNISH FOR CASH, A Visit to our Showrooms, or, if this to H |^HH b H impossible, a perusal of our '?? t!))tt ^1 LARGE )HUS?RATED CATALOGUE HH Hm H will convince you of this fact. ?t ■ ??N t FIFTY YEARS REPUTATION FOR VALUm H ? MY?iLES? i J<? ? M?38?0'42??46?8'LMD?RP, I )[JtL ? ?a?.2/??7? Wt?ElB'Mat' t 'CNRHS: FUIi'NI5HING.YfHPPD¿..If N.Y"W" ]
DIM BARDDONIAETH YNG I NGHYMRU.
DIM BARDDONIAETH YNG I NGHYMRU. FELLY! GWAE Gwae Gwae Drwg gennym ddechreu ein Drych y tro hwn a sain mor frawychus ond nis gallwn amgen tan yr amgylchiadau. Meddiannwyd Eben Fardd mor llwyr gan y weledigaeth a gafodd ar Ddinistr Jerusalem fel y dechreuodd ei awdl nerthol a'r englyn cyf-frous,- A! dinistr dinistr yn donnau-chwalodd Uchelion rhagfuriau, A thirion byrth yr hen bau, Caersalem sicr ei seiliau. Ac nis gellid beio arno yn wyneb yr olygfa echrydus oedd o flaen ei feddwl. Och nyni, hefyd, na fuasai Eben yn fyw, neuei gyffelyb, i bortreadu'r galanastra a welodd Elidir Sais yn Ninistr Barddas Gymreig Braidd nad ydym yn synnu gweled y cyfaill talentog yn darlunio'r fath drychineb gymaint yng nghywair comedi Ni fu'r cyferbyriad traddodiadol rhwng Nero'n chwarae ffidl a Rhufain yn ffaglu ddim yn fwy bethma na ffidlyddiaeth ddigri'r Elidir, a'r anghyfanedd- dra diobaith a welodd efe ar farddoniaeth Cymru. Mae'r trychineb yn fwy erchyll oherwydd g. iddo gymeryd i fewn y cyfnod presennol ar farddoniaeth, a'r to presennol o feirdd Cym- reig. Ni fuasai ein braw mor fawr pe mai'r cyfnod uniongyrchol cyn deor o'r Awen ar y Macwyaid dysgedig a olygid, oherwydd yr ydym bellach wedi hen gynefino a darluniau o'r anghyfanedd-dra a genfydd yr ysgol newydd y ffordd honno. Yn ol rhyw ddeddf a bair i un wrth gynefino a phethau an- nymunol ymgaledu rhagddynt, deuthem ninnau, ers tro byd, hyd yn oed i fwynhau yr olwg ar rai beirniaid ifanc yn ymdaith trwy diriogaethau barddoniaeth Gymreig ac yna cyhoeddi dedfryd marwolaeth ar rai, ac an- farwoldeb ar y lleill. Gellid meddwl nad oedd Islwyn fawr o beth yn eu golwg, ond yn unig ddarfod iddo broffwydo dyfodiad bardd mwy nag ef ei hun,"—bardd y dragwyddol heol." Credant ei fod yn iawn yn hynny o beth. Tybiwyd fod y bardd hwnnw wedi ymddangos, dro ar ol tro a gellid cyfieithu agwedd a thon ambell Facwy annwyl i hyn,— Wel, fy nghenedl hen a hoff, buost yn sefyll yn hir ar ymyl y dragwyddol heol,' yn dis- gwyl cyflawniad proffwydoliaeth Islwyn, heb gael ond ei drychiolaethau. Drwg gennyf dy gadw i ddisgwyl cyhyd, ond nid arnaf fi y mae'r bai am hynny. Yn awr, modd bynnag cyweiria'th delynau, canys wele dy Fardd Ond yr anhawster yw penderfynu rhwng amryw o ymgeiswyr pur olygus, ond pur gyfartal hefyd. Mae'r bai rhy debyg yma. Onid at ysgol reu ddosbarth, yn hytrach nag at un person, y cyfeiriai Islwyn ? Un o'n difyrrion pennaf fu gwylio'r modd y cafwyd y naill feirniad ar ol y llall yn ethol yr ychydig nifer o feirdd Cymreig a ddyfernid i gael byw, a gosod arnynt docyn yr an- farwol." Gwir fod cyfeillgarwch personol yn elfen amlwg yn y dyfarniad ond mae hynny yn ffaith agos ymhob beirniadaeth o'r fath, megis y dywed Bacon. Teimlem ambell dro fod yr etholedigaeth yn lied gyfyng ond cofiem y byddai rhywun o'r un dosbarth cyn hir yn mynd dros yr un gwaith wedyn, ac, ond odid, yn newid tipyn ar restr yr anfarwolion. Ond cato ni Dyma Elidir Sais wedi cyhoeddi dedfryd marwolaeth ar y Cyfnod Newydd o farddoniaeth Gymreig. Bu gynt yn credu fod yng Nghymru feirdd anfarwol o'r diwedd, ac yn pentyrru ansoddeiriau can- mol, mewn Cymraeg a Saesneg, arnynt. Erbyn hyn, er pan symudodd from the foot of Eryri i London town," cafodd oleu newydd Yn canmol Surf ac idiom, a phethau o'r fath, y buasai yn ei fachgendod ond yn awr gwel nad oedd y sylwedd o tan y ffurf o fawr werth. Chwarae teg iddo, er hynny rhyfedd mor debyg i'w gilydd yw gwyr o feddwl mawr. Bu Wordsworth mewn profiad cyffelyb :— In fine, I was a better judge of thoughts than words, < Misled in estimating words, not only By common inexperience of youth, But by the trade in classic niceties, The dangerous craft of culling term and phrase From languages that want the living voice To carry cleaning to the natural heart To tell us what is passion, what is truth, What reason, what simplicity and sense. Barnodd Wordsworth nad oedd holl farddon- iaeth Scott yn werth pumswllt." Gall nad yw holl farddoniaeth Cymru'n werth pinsied o halen i Elidir Sais. Atgofir ni o bregethwr ieuanc, yn iraidd o'i goleg, ac a bregethai mewn capel bychan ym Mon. Cawsai ei lyncu gan yr athrawiaeth a gafodd ei sennu gan Byron,— i When Berkeley said there was no matter, 'Twas no matter what he said. Ebai'r pregethwr, 'Dyw'r mynyddoedd yna ddim yn bod, ond mewn ymddanghosiad." Cododd hen flaenor amheus ar ei draed, a syllodd trwy'r ffenestr ar Eryri, gan ddy- wedyd, Ho 'Dyw'r m6r mawr yna ddim yn bod mewn gwirionedd," ychwanega y pregethwr. Syllodd y pregethwr i'r m6r, gyda "Ho!" arall. "Mewn gwirionedd, 'dyw y blaenoriaid yma sy'n y set fawr ddim yn &o?," ebr y llefarwr. Aeth hyn tuhwnt i bob peth, ac ebr yr hen flaenor, Wel, wel dyma hi wedi mynd arno' ni! Gellsid goddef diddymu'r hen ysgol o brydyddion, ond pan wad Elidir fodolaeth barddonoldeb y Macwyaid hefyd, mae hi'n hen bryd i ddyn ddywedyd, Wel, wel! a chwilio am ei het i fynd allan am dro Beth am yr Eisteddfod ? Gwae gwae gwae Dim barddoniaeth yno chwaith. Ac ymddengys mai Mr. Lloyd George sy'n gyfrifol am hynny. Druan o Mr. Lloyd George Delir ef yn gyfrifol am lawer o ddrygau y dioddefa'r wlad hon oddiwrthynt, gan ei erlidwyr. Bu F. E. Smith yn ei ddwrdio'n ffyrnig yn Lerpwl yr wythnos ddi- weddaf; ond ni hidiai'r Canghellor na'i gyfeillion fawr am hynny, gan eu bod yn gynefin a'r cyffelyb bethau o'r cyfeiriad hwnnw. Ond bychan a feddyliai'r werin a'r miloedd Cymreig yn Lerpwl fod Elidir Sais, yr un adeg, yntau wedi dod o Lundain, yn tynnu Mr. Lloyd George trwy dan ei ddirmyg, ac o flaen Cymdeithas Gymreig Lerpwl Mam annwyl! Barnem ni, yn ein diniweidrwydd, mai Lloyd George oedd y darn mwyaf barddonol ac arwrol ym mywyd cenedlaethol Cymru heddyw a pha mor farwaidd bynnag y gallsai awdl, pryddest, neu hyd yn oed ddrama fod, gwyddem y byddai i wyneb Llwyd o Eifion, ddydd Iau, saethu trydan a bywyd i'r torfeydd. Efallai y gellid lladd yr Eisteddfod pe tynnid Lloyd George allan ohoni. Ni leddir mohoni byth tra bydd ef o'i mewn. Da fuasai gan lawer feddu poblogrwydd Mr. Lloyd George. Buom yn meddwl-yn ein dylni eto-fod y genedl yn darllen mwy o farddoniaeth gwlad- garwch ar gledr llaw fechan Lloyd George, mewn ychydig eiliadau, nag a wnai mewn awdlau a dramodau meithion mewn blwyddyn gron. Tybed, mewn difrif, y gall Mr. Lloyd George ddod dros yr ergyd hon arno ? Da chwi, ffrindiau gwladgar, cesglwoh o'i gylch, a cheisiwch ei gynnal i tyny Clywsom ddiwinydd, o gadair lywyddol enwad Ymneilltuol, yn dywedyd, Cynt yr awn i wallgofdy i geisio synawyr, nag at yr uchfeirniaid i geisio'r gwirionedd." Ond fe aeth Elidir Sais ar y Blaid Gymreig i geisio barddoniaeth Methodd yn glir a tharo tan o'r telpyn hwnnw. Gwelai wreich- ion ysbrydol o'r Blaid Wyddelig, ond dim o'run Gymreig. Gofynnwyd i weinidogdro'n ol, Ai wedi mynd yn bleidiau y maent acw, Mr. Jones ? Nage," oedd yr ateb, 'does acw ddim digon o MM<?& i wneud plaid, ond mae pob un yn ffraeo a'r nesaf ato." Ym- ddengys mai tebyg yw aelodau'r BIaid Gym- reig dybiedig. Gweilch hunangeisiol ydynt i gyd, bob un. Mae'n amheuthun i gael un Cymro talentog a gwladgar yn ddigon dewr i gondemnio uchelgais hunanol! Yn ol y drych a geir ar y Blaid Gymreig, a sefydliadau cenedlaethol ein gwlad yn gyffredinol, o ran dim barddoniaeth ysbrydol" sydd yn- ddynt,—Gwae gwae gwae Bu rhai o'r Macwyaid athrylithgar yn ysgrifennu'n ddiweddar ar Bridd y Ddaear," gan ddysgu fod perthynas agos rhwng yr Awen a pheth felly. Gall fod a wnelo'r athrawiaeth honno a'r ffaith fod yr Elidir ddoniol yn methu gweld fawr o farddoniaeth ysbrydol yn eu gwaith hwythau. Wedi darllen yr ysgrifau ar farddoniaeth pridd y ddaear," gwelsom gae ag arno bentyrrau o bridd y wadd." Ceisiai ein meddwl gtvib- iog gysylltu'r ddau bridd a'i gilydd, a ffansiem nad oedd pridd y w&dd ond ffurf gyntaf cynhyrchion barddonol pridd y ddaear." Gresyn, na fuasai Darwin wedi astudio'r pwnc hwn. Efallai y cawsai mai'r ffordd gynta 'rioed i awen wneuthur pennill oedd ei fwrw allan o'r ddaear yn bentwr taclus, ac nad yw'r pryddestau a'r dramodau diweddar ond datblygiad uchraddol o bridd y wadd." Modd bynnag, bu'n godiad calon inni ddarllen ysgrif oludog Rhys J. Huws ar Lestri Priddion, yn ymresymu mai nid oddi 'isod eithr oddi uchod, y ganed y wir Awen, ac mai tuag i fyny y tynnai, heb geisio gan y pridd ond lie i sefyll mewn cnawd dros ychydig. Ond gan nad beth all fod cym- hyrchion clodfawr pridd y ddaear," neu y nefol nwyd," ymddengys nad oes fawr werth, ar ddim. Gwae gwae gwae Modd bynnag, gadewch inni gymeryd ein hanadl mewn pwyll am ennyd. Gwelwn fod Elidir yn cydnabod fod ychydig iawn o'r awdlau diweddar yn benigamp, ar ryw gyfrifon. Yn eu mysg, deallwn fod Ym- adawiad Arthur, gan Gwynn. Diolch am gymaint a hyn, wedi ei achub o'r difrod mawr! A da gennym weled hefyd fod y gwyr dysgedig a gwladgar, Mr. 0. M. Edwards, a'r Athro J. M. Jones, yn cael eu cyfrif fel y rhai, yn ol barn Elidir Sais, a wnaethant wasanaeth mawr i ddihewyd ysbrydol Cymru. Gobeithiwn y dealla'r ddau Gymro dysgedig ¡ a gwladgar y sefyllfa, ac y symudant yn ddioed i geisio diogelu Barddas Gymreig rhag diflannu'n hollol ac am byth. Llawer o s6n a fu am y llyfr daearyddol ar y Werddon, He oeid y nodiad,—" Snakes,—There are no snakes in Ireland." Tybed y bydd llyfr hanes Cymru'n cynnwys peth fel hyn yn y dyfodol, Barddoniaeth-Dim barddoniaeth yng Nghymru 1 ? Dyna fel yr ymddengys yn awr. Aeth y cyfaill Elidir Sais i Lundain, ond nid aeth a sefydlogrwydd yr Elidir i'w ganlyn. Teimla dyn mai'r Sais yn unig sydd yn ei bapur crybwylledig. Ymddengys ei fod yn pessimistic" ryfeddol. Byddai'r hen bobl, yn y pentref gwledig lle'n maged, yn s6n am y felan." Yr un peth, tan enw mwy dysg- edig, yw "pessimism." Ond yr ymadrodd Cymreig cywiraf a llawnaf am' ystyr cyfiredin y felan a phesimistiaeth yw diffyg treuliad. Gwyddom ym rhy dda, trwy brofiad fel y gall yr anhwyldeb hwnnw dynnu cwmwl, tewach na niwl Llundain, dros y meddwl, a gwneuthur i ddyn daeru fod y byd igydyn ddu-mor ddu a'r olwg a gafodd y diddan Elidir Sais ar farddoniaeth Cymru. Methwn yn ein byw gredu nad rhyw fath ar ddiffyg treuliad sydyn-a byr-barhaol, ni a obeith- iwn-a ddaeth dros y cyfaill galluog a hyfedr ei ysgrifell. Addefwn yn rhwydd ein bod wedi arfer edmygu ysgrifau Elidir Sais yn gyffredinol, ar gyfrif eu t6n ddyrchafedig yn anad dim. Ond am y gollfarn hon a gy- hoeddodd, mor ysgafn-galon a chellweirus, n. wyddom yn iawn beth i'w ddywedyd, ond1 ubain i'r gwynt,Gvvae gwae gwae
-0-Cfasuron CynghoneddI
-0- Cfasuron Cynghonedd I [GAN GWRTHEYRN, Y BALA.) I 5-Chwaneg o Gymariaethau'r Hen I Feirdd. Pren llawn imp o'r winllan aur." I AML y defnydd a wneid gan yr hen deid-feirdd o bren fel cymhariaeth h.y., pren byw, neu goeden. Ac yn hyn eto cadwent gartref. Nid wyf yn cofio ar hyn o bryd am yr un ohonynt yn defnyddio prennau tramor fel cymariaethau—prennau sydd, o ran eu henwau, yn ddigon hysbys i pi yn yr oes hon. Ag eithrio y winwydden, 'does yr un o brennau y Beibl bron byth yn cael ei ddefnyddio gan- ddynt yn gymhariaeth. Dim s6n am balm- wydd, ffigyswydd, olewydden, sycamor- wydden,coed gopher,coed shittim, myrtwydd, nac hyd yn oed Cedrwydd Libanus." Diau mai un rheswm, os nad yr unig reswm, am hyn ydy vV, nad oedd y gyfrol sanctaidd eto wedi dyfod i ddwylaw y werin. Cofier mai am hen feirdd y cyfnod o 1350 i 1650 yr wyf yn son. Ond i ddyfod at y cymariaethau eu hunain Heblaw mai hi yw brenhines y Coedwig, y dderwen oedd hefyd frenhines y cymariaethau gan yr hen feirdd. Gwir eu bod yn gwneud defnydd o brennau ereill ambell dro,a hynny'n dlws odiaeth, megis yn y cwpled o'r hwn y cymerwyd y llinell sydd uwchben y llith hon. Ymddengys fod Elise,boneddwr yRhiwaedog, 1550, yn wr gwybodus, medrus, a chyfoethog dros ben yr oedd yn hael y tuhwnt, a'i dy Yn noddfa i awenyddfairdd yr holl wlad yr oedd yn Gymro brwd, ac yn ysgolhaig mewn amryw ieithoedd, am hynny cyfarchwyd ef gan y bardd p6r Edward ap Huw fel y canlyn Proffwyd lie rhoddwyd rhuddaur, Pren llawn imp o'r Winllan aur. Mae pertrwydd barddonol, llithrigrwydd cynghaneddol, a miwsig mwyn y cwpled yna wedi mynnu iddo le uchel iawn yn fy meddwl bach i. Ceir yn y cymariaethau a ganlyn amryw o wahanol enwau ar y dderwen, y rhai y ceisiwn eu hagluro fel yr awn ymlaen. Tyrnodd Bedo Havesp ddarlun o Siama y Monachdy fel y canlyn Derwen o wr cadarn oedd a dywedodd Huw Arwystl am borcyn o foneddwr, cymesur ymhob ystyr, oedd newydd gael ei wneud yn Ben -Sirydd Meirion Ei fold iraidd fel derwen, Ac o ran bodd gwyr yn ben. Pwy nas g-wyr am golled ambell i ardal, ar ol gwr oedd o'i wasg i fyny'n uwch ac yn well na phawb o'i gymdogion ao nas gw-yr hefyd fod ymhlith y cymdogion hynny ami i gecryn pigog a chas, ao ami i goegyn digon diwerth ? Camp i bawb fyddai cofnodi marwolaeth y naill, ac arbediad y lleill, mewn dull mor j naturiol, mor gyfeiriol, ac mor goeth a chryf, ag y gwnaed hynny gan Edward ap Ruffydd I pan fu farw gwr o'r fath yn ei gymdogaeth ef Duw yrai i nol DEBWEN ill, Drain a chyll draw ni chollir. I Syrthiodd dau foneddwr o'r un gymdogaeth allan a'i gilydd, y rhai oedd hefyd yn berthynasdu. Ceisiodd y bardd Owen Gwy- nedd (nid y tywysog Owain Gwynedd) eu cymodi, a defnyddia yntau'r dderwen yn ddeheuig iawn i'r amcan teilwng. Ei ddadl, fel y gwelir, yw fod yr holl deulu yn teimlo oddiwrth yr ymrafael rhwng y ddeugar, a bod hynny'n resyn mawr iawn Onid yw resyn i drasau Megis hyn i ymgashau ? Ond dyma fel y trinia ei gymhariaeth :—- Ysdyriwch wrth gwrs derwen, F Onid yw'r brig dew ar bren ? Nid yw abal neb dybiant Fwrw cainc, heb friwio cant Argae atcas ar gytcoed Yw brivrio cainc mewn brig coed. Ydyw, yn sicr, y mae yn werth astudio pethau fel hyn. Gwelir y naturiaethwr oraff, yn gystal a'r bardd gwych, yn y dyfyniad yna. Mynych iawn y ceir yr enw dar ar y dderwen, gan ein hen broffwydi hyn; ac ystyr y gair dar, medd Silvan Evans, yw Y dderwen wrywaidd (" The male oak "). Gwyr pawb fod oes y dderwen yn un faith iawn, tri-chan-mlynedd meddir, onite ? Ac am hynny defnyddir hi gannoedd o weithiau i osod all an yr oes hir, ddymunedig, i gyfeillion a noddwyr yr hen feirdd. Mae Gruffydd Hiraethog yn rhywle yn dymuno i enw'r Doctor Coch barhau cyhyd a'r ddgr Boed yr enw byw dar unoed. Ac y mae yr ?nw wedi parhau cyhyd, neu well, eithr ar yr egw/ddor Y pery tuch an i anhael Cyd a chlod hynod i hael. Neu fod yr enw Cain yn dobyg o fyw cyhyd a'r enw Abel. Mewn cywydd galar (?) ar ol yr hen Syr Robert ap Rhys, tad y Doctor Coch, mae rhyw fardd wedi dweyd :— Beth a dal byth hyd elawr, Byr-dderw fil, lie b'ai'r DDAR FAWR. Nid oes enw wrth y cywydd yna, ond mae'n bur debyg mai Gruffydd Hiraethog oedd yr awdur, canys fe ganodd ef lawer o fawl, rhag- rithiol yn ddiau, i'r bwgan hwnnw. Yn anni bynnol ar y gwrthrych, onid yw'r cwpled yn un da iawn, ac yn debyg ryfeddol, o ran ei ystyr, i'r cwpled arall :— Duw yrai i nol derwen ir, Drain a chyll draw ni chollir. Beth a dal byth hyd elawr, Byrdderw fil, lie bai'r Ddar Fawr ? Dyma gwpled neilltuol o dlws, o waith Simwnt Fychan, i foneddwr y Rhiwlas a'i briod, yr adeg honno Hwy na'r DDâR, hen arwydd oes, Heb wahanu bo'u heinioes." Gwelir fod yr enw Dar," ac ef yn unig, ymhob cymhariaeth o oes hir. Paham hynny tybed ? Ai ni ellir casglu oddiwrth hyn fod yr hen feirdd yn credu fod y ddar yn byw yn hwy na'r "dderi"? Gwyr pob bachgen ysgol yn yr oes hon mai y female oak yw'r dderi, neu fe ddylai pob un fod yn gwybod hynny, canys y mae Ceiriog wedi gwneud y peth mor blaen ac mor boblogaidd yn ei Hob y deri dando." Os nad yw'r uchod yn fiaith am y ddar, onid yw'n beth hynod, a thra annhebyg i ddamwain, fod yr enw'n cael ei arfer mor gyffredinol yn y cys- ylltiad hwn ? Nid af ar ol yr enw deri ymhellach na dyfynnu'r cwpled canlynol o waithJSion Brwynog :— Llath aur o frig llethr y fron, Llwyn deri 'Mhenllyn dirion. Mewn ychydig o enghreifftiau arferir enw arall hefyd am y dderi, sef mesbren," pren yn cynhyrchu mes. Yr unig enw arall ar y dderwen y soniaf amdano'r tro hwn yw katerwen," neu kateri,"—enw tlws, onite ? A'i ystyr, medd Silvan Evans eto, yw "A stately derwen urddasol. Ac mewn cysylltiad felly y ceir yr enw gan y beirdd i gyd. Ar farwol- aeth Sion Wyn ap Kadwaladr, ail ysgweiar ty presennol y Rhiwlas, dywed Ed. ap Ruffydd fel hyn Acw torwyd Katerwen- Yina'r ai'r byd mawr ar ben. Rhyfedd mor ami y ceir y syniad sydd yn y llinell olaf yna ym marwnadau'r hen feirdd. Wel, wel waeth ini heb dreio byw Mae hi yn y pen arnon ni Nid wyf yn cofio pa un ohonynt sy'n dweyd fod yn rhaid i Dduw ddod a'r marw'n ol, Neu, dan un ein dwyn ninnau. Ac fe ddywed un arall wrth ganu ffarwel a'r marw :— Ofer dyn yn fyw ar d'ol Ond yr wyf yn crwydro. Katerwen oedd dan sylw, onit« ? Un dyfyniad neu ddau eto, ac yna rhaid troi pen. Wrth olrhain achau'r boneddigion, fe fyddai'r hen feirdd yn ystumio cryn lawer ar y ffeithiau, ac yn dweyd mwy neu lai na'r gwir, fel byddai'r angen, er mwyn eu cael rywsut i gysylltiad & llinachau'r hen dywysogion, canys fe ystyrrid hynny'n ddigon o fodd i fyw arno bron a thebyg iawn mai rhywun felly a anerchid g&n Sion Brwynog pan y dywedodd :— Cateri, coed diareb, Cynan, uwch acw na neb. Yr oedd cael bod hyd yn oed yn frigyn bach lleiaf a phellaf, ar goeden fawr ac urddasol achau Gruffydd ap Cynan, yn cael ei ystyried yn anrhydedd o'r mwyaf, heb s6n am agos- rwydd i'r boncyff." Pwy fydd capten fy henfeirdd ? Pwy Katerwen uwch ben beirdd ? —dyna fel y gofynnodd Llewelyn ap Gutyn, mewn cywydd ch wareus a gyfansoddodd, ar ol clywed am foddiad Guto'r Glyn, ym Mall- draeth, M6n. 'Doedd y stori ddim yn wir, ac fe atebwyd Llewelyn gan Guto ei hun. Dyma bedair llinell gyntaf Llewelyn :— Tristach yw'r Cymry trostyn', Tre a gwlad am Guto r Glyn; Boddi wnaeth ar draeth heb drai- Mae yn y ntf am na nofiai, etc. Mae'r cywydd hwn yn debyg iawn mewn rhai rhannau i gywydd a ganodd Richard Cynwal, bardd y Rhiwaedog, ar 01 clywed fod Richard Phylip, bardd Nannau, wedi boddi yn afon Dolgellau. 'Doedd hynny chwaith ddim yn wir ac fe fu ymrysonfa gywyddol ddoniol, ddig, rhwng y ddau hynny a'i gilydd. Rhaid eu gadael heddyw, hwyrach y deuwn ar sgawt heibio iddynt rywdro eto. Yn y llith Desaf, dyfynnaf rai o gyfeiriadau'r hen feirdd at SJEB SEID," lie a ystyrient y gymhariaeth oreu bosibl o gyfoeth a phob mawredd ac ardderchogrwydd bydol. o
Wrth sbio ar y Bwrdd
Wrth sbio ar y Bwrdd DYMA dwmpath o bethau oedd ar y bwrdd heddyw'r bore, ac y rhaid brysio i ddweyd gair byr, a dim end byr, arnynt:- Y mae amryw byd o gyfnewidiadau ar ddigwydd ym myd y papurau Cymraeg. Y mae'r Fanersef y Faner Fawr ddwy gein- iog o Wasg Dinbych—yn mynd i beidio a dod allan mwy, a dim ond y Faner Fach-y Faner Geiniog-i gael ei chyhoeddi, ond honno'n helaethach nag y byddai. -0- Gwyddis hefyd fod Cyfundeb y Methodist- iaid Calfinaidd wedi prynnu'r Ooleuad a'r Traethodydd, ac mai dan aden swyddogol y Corff y bydd y ddau o hyn ymlaen. Hysbysir hefyd fod Y Tyst, a gyhoeddir ym Merthyr, i ddod allan ar lun newydd tan aden Undeb Annibynwyr Cymru, ac fod ym mryd yr Undeb hefyd gyhoeddi chwarterolyn diwinyddol maes o law. •v- Y mae Prifysgol Aberystwyth wedi cych- wyn cylchgrawn misol-y Wawr wrth ei enw ac i fod yn Gymraeg drwyddo, ac yn firwyth pin a phen goreuon y genedl. Ac y mae Tarian y Gweithiwr-yr unig bapur Cymraeg drwyddo a gyhoeddir bellach yn y De—yn newid ei olygydd, y Parch. D. Silyn Evans (A.) yn oilio o'r gadair, a'r Parch. Tywi Jones (B.) y Glais, yn mynd iddi yn ei le. Ac y mae'r papur weid ei brynna oddiar yr hen gwmni, a chwmni newydd wedi ei ffurfio. Y mae'r reddf newyddiadurol ym mysedd Tywi, ac ni ddiffyg arf ar was gwych." ) Rhwydd-hynt i'r papurau uchod i gyd newydd a hen a chwi'r bobl barcutaidd a hawdd gennych edliw ei beiau i'r Wasg Gymraeg, cofiwch ei thlodi a chyfyngder ei chylch rhagor y Wasg Saesneg. Hawdd gwneud show lie bo tomen o aur ac arian ond os mai gan y Saeson swrth y mae toes y cyfalaf, gan yr hen Gymry y mae'r eples a, gwyd y dorth serch hynny. Y mae Methodistiaid Calfinaidd Trefaldwyn Uchaf wedi cychwyn misolyn Cymraeg- Y Cofiedydd, tan olygiaeth y Parch. J. T. Da vies, Eglwys China Street, Llanidloes. Dyma'r rhifyn cyntaf ar y bwrdd, ac ynddo ragair bach twt a tharawiadol gan y Gol., a eilw'n Ganu 'nghloch fy hun." Rhwydd hynt i'r Cofiedydd glas ei glawr gadw bias at ddarllen pethau Cymraeg a chrefyddol—bias sy wedi colli cymaint o ddarn arall Seisnicach y Sir-Trefaldwyn Isaf. Y mae gan y Gol.,— yn Mr. Rd. Bennett ac ereill sy draw ac yma hyd Sir Ann Griffiths--ddynion ag ynddynt adnoddau i gadw'r Gofiedydd yn fyw ac yn flasus i bawb. Diolch i bobl Ysgol Sir Dolgellau am anfon eu cylchgrawn misol hwythau yma, ac ynddo doreth o bethau diddorol i athrawon a macwy- aid yr ysgol a rhai pethau buddiol i bawb,—• megis llithoedd y Parch. G. A. Edwards, M.A., Oroesoswalit, ar Ddafydd lonawr," lie y ceidw ar ganol llwybr barn wrth draethu ei syniad pa mor uchel ar ysgol beirdd Cymru y dylid gosod cywyddwr hirfaith y Drindod. Dyfynna Mr. Edwards amryw o gwpledi hapusa'r bardd, heb flysu gormod i'w roi'n uwch na'i haeddiant. Oeroedd crefydd, i raddau, yn yr Eglwys yn y ddeunawfed ganrif, a daeth Ymneill. tuaeth i roi ail wres ynddi. Heddyw, dylan- wad Ymneilltuaeth sy'n darfod, ac ar ym- drechion yr Eglwys y dibynna crefydd Cymru Fydd," ebe ysgrifennydd Ilith ar Gyflwr Moesol Cymru yn yr Haul, misolyn Cymraeg yr Eglwys WladoI-am lonawr. Nyni ital- eiddiodd y frawddeg uchod, a hynny tan chwerthin mor goeglyd dros y swyddfa yma nes y disgynnodd y calch yn dalpiau oddiar ei muriau, wrth feddwl fel y mae dymuniadau'n ymgnawdoli'n ffeithiau ym mhennau poethion caredigion y Cysylltiad gwladwriaethol. Yn sior gen i mai o ddireidi a chan wr eud llygad bach y cyhoedda Gol. yr Haul ysmaldod fel hwn. Y mae Cymru lonawr yn rhifyn dwbl, yn swllt ei bris, a'i werth yn llawer mwy. Diolch i Fordaf am gynnull hares Dr. Wm. Owen Puw mor helaeth a'i gyfleu mor ddi- ddorol. Diolch hefyd am hanes Athrofa Bala-Bangor gan Peris Williams, a llun wyneb ei brif athrawon, fu ac y sydd. Ymhle y gwelwyd wyneb cadarnach a mwy o Gymreig- rwydd wedi ei wasgu i'w aeliau a'i foch- gernau nag a lech mor ddisyfl ym mhryd a gwedd Michael D. Jones y Bala ? Y mae yma goflaid o eiriau IIafar gwlad casgledig gan facwyaid Gwynn Jones yn Aberystwyth llith ar Godiad y Wawr gan y patriarch o Fangor, y Parch. D. Rowlands, M.A., sy mor heinyf ei sgrifell er gwaetha'i bwn blyn- yddau, a llu o lithoedd a darnau ereill sy'n gwneud i ddyn ysu na bai bara cartref mor iach a maethlon ar fwrdd pob ty drwy Gymsw. A golwg byw a dal ymlaen sydd ar y rhain hefyd, a gofid na bai ofod i ddywedyd mwy aindanynt :-Trysorfa'r Plant, Cymru'r Plant, Y Gymraes, Y Lladmerydd, yr Ymofyn- ydd, Y Cerddor, Y Glorian, ae yn y blaen. Y mae gan y Parch. T. Charles Williams, M.A., lith-bortread o Mrs. Lloyd George yn yr Ymwelydd Misol ac ynddi lawer o wybodaeth na chawsid ond gan un sy'n fynych ar aelwyd y Canghellor. Dylna enghraifft i ddangos fod y teulu hwn yn mynd a Chymru i fyny gyda hwy wrth godi mor uchel i olwg y byd Mae gennym doreth o wyr blaenllaw "yng Nghymru, gyda'r Brifysgol aly Eisteddfod, na welodd neb mohonyrt yn Llundain yn ymgymygsu a'r Cymry, druain, mewn na llan na chapel. Mae "No. 11, Downing Street, Whitehall, moir Gymreig a Bryn awelon, Cricieth. Sieryd yr holl blant,—ac nid oes plant mwy di- rodres i'w eael,—Gymraeg dilediaith a genethod o Gymru yw'r moryniffn i gyd. Un nawn Sadwrn, a mi yno yn paratoi i bregethu drannoeth yn y City Temple, aethum i chwilio am FeibI Saesneg. Methais gael un yn unman; ond yr oedd yno doreth o rai Cymraeg. Ac- o dyr Prif Weinidog, y drws nesaf, y caed un. Wele, yn ddiau, dro ar fyd yn hanes Cymru The Welsh Outlook.-Dyrna enw misolyn newydd tair ceiniog cyhoeddedig gyn Nghaer- dydd, ac a olygir, ac a lenwir gan mwyaf, yn ol a glywsom, gan y gwyr galluog ac effro sy'n cario allan arfaethau diwygiadol Mr. D. Dav- ies, A.S., Llandinam, yn cael eu cynorthwyo gan lenorion ereill hysbys led y wlad. Yn y rhagair o lfaen y lithoedd, edrychir ar y Cymru Newydd a dylinir allan o'r bobl gymysg eu. gwaed a'u delfrydau a ddylifant iddi heddyw, a wynebir y problemau a gyfyd o'r newid di- winyddol a chymdeithasol sy'n digwydd yn ein gwlad, er gwell ynteu er gwaeth, prun ? Ceir ysgrif ar The Religious Outlook in Wales, ao yn dal,a hynny'n berffaith deg i'n golwg ni,fod y gwasanaeth cymdeithasol (social service) yn rhan hanfodol o grefydd y Crist, ac nid i wgu arno, megis y gwna gormod o grefyddwyr Cymru, fel impio brigyn estron ar Bren y Bywyd. Dibenna Mr. Gwynn Jones ei drem hyddysg dros Modern Welsh Literature, gyda'r rhybudd dwys a gwir angenrheidiol hwn But a new literature has come. It has achieved form. It will do more—if the golden chalice which the ages have "wrought for us—the language-is not "heedlessly thrown away. If that hap- ffT" pens, we shall be mute for centuries whilst another is making." r*#|| Gwae ni rhag yr ami goegyn gwag-ei-glop deifl y golden chalice yr hen iaith dros y drws er mwyn ei bot pridd o lwyddiant bydol. Telir sylw, mwy neu lai, i bob agwedd ar fywyd Cymru, er mai'r wedd gymdeithasol a diwydiannol sydd amlycaf yn yr Outlook, ao a fydd o hyn ymlaen, gallwn dybio. Dechrew gwych parhaed felly. -9- Ann y Foty yn mynd i'r Mor.Dyna deitl stori ddeunaw (1/0) gan Sam Ellis, Utica, Talaeth New York, yng Nghymraeg cartrefol Sir Drefaldwyn, ac yn ddisgrifiad byw a hollol naturiol o un o hen fferm--wragedd Cymru yn