Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

HODtON 0 LANAU'R LLYFNWY.

News
Cite
Share

HODtON 0 LANAU'R LLYFNWY. Gan Miss MALLT WILLIAMS. Daeth Medi urddasol o'r diwedd, A chana'r mcdclwyr yn fwyn, Drwy'r hirddydd fel adswn gorfelodd, Swn dyrnu sy'n ngadlas a llwyn; Oes rhywun yng ngolud ei roddion Heb gofio am gariad yr lor; A'r lleuad yn gwenu nior dirion, A chwerthin minielus y mor. Llongyiarehwn Miss iDora Davies, mereh i Mr a Mrs ismael Davies, Llall- Tjeris, ar ei syiiiudiau o Ariandy y Isorth and South Wales, Ffestiniog, i gangen Penygroes. Erys Miss Davies yn nhy Air G. Pritchard, Clynnog Road. Mae yno aelwyd gynnes iddi. Clywsoin yciiydig amser yn ol fod y Preifat J. T. Jones, mab Mr W. G. Jones, Hyfrydle Road, Tal y Sarn, ar goll. Brodor o Rhos Bach, ger Cae- athraw, ac adwaenid ef yno fel "John Lodge." Cawsom ein hysbysu ei fod mewn ysbyty ger Berlin. Mae'n ddiogel, a disgwyliwn iddo gael dod i'n plith yn inch eto Bu em brawd awengar Owen Edwards (Anant), Tal y Sarn, yn wael; ond y mae'n hybu eto. Daethom ar draws yr isod:— "Tine Anant yn Cwyno."—H. C. I fin y mov af yn y mait,-d,-tw Awst, I westy y morlan; Yno arlwya anian Ei neithior wledd wrth y lan, 0 nwyf y don cat adynu—a llwyr Wellhad o'm hull gyni; Difyrug fydd clodfori Yr awel iach oddiar li. Gwin awel gryfha egnion—y llesg Welilia y friw-galon, Gall h. wellhau briwiau bron Wedi niwaid y nwyon.—Anant a'u cant Myderwn tod y brawd ieuanc Hugh J. Ellis, Bl-yii Llyxnwy, wedi gwella erbyn liyn. Yn SaJonica yr erys ei el's dwy Hynedd. Cadd ddioddef yu drwm droion oddiwrth eiieithiau y nwyon yno. Bydd yn dda gennym ei groesawu yn ol fuaned ag y bydd eyrie iddo. Mewn ysbyty yni Manceinion yr erys plenty11 bychan Mr a Mrs Griffith, High Street, Pen y Grees, ers hanner blwydd. yn bellaeh. Ein dymuniad yw iddo gael ■ adferiad buan. Aiff ei fam yno y dydd- ian nesaf i aros ymhlith y Saeson. Prudd gennym gronicio hanes marw y chvvaer garedig o'r Garreg Wen yr wyth- nos hon, yr hyn gymerodd le dydd Gwen- er, Awst 17eg Priod Mr William Jones ydoedd, a mereh i'r diweddar Mr Richard Griffiths, un o sylfaenwyr yr aclios yng Nghalfaria (B.), Pen y Groes, ac un o'r prif golofnau am flynyddoedd maith. Y r oedd hi o dn ei mam yn berthynas agos a'r diweddar Hybarcli Robert Jones, Llanllyfni, ac yn chwaor i'r ddau athro adnabyddlols sef y diweddar Mr Joliri Griffith. Will mgsborough, get X orth- ampton, a Mr Owen Griffith, yntau yn athro llwyddianus yng ngwlad y Sais. Brawd iddi ydyw Mr Evan R. Griffith, Brynllifon, yr hwn sydd yn ddiacon ffydd- Ion yn eglwys Cajfaria. Ei chwiorydd liefyd Mrs John Griffith, Hnuaen House; Mrs Rogers, High Street, a Mrs Pickens, De Cymru. Dydd Mercher dilynol dod- wyd ei gweddillion marwol i huno yn naear Macpeah, Pen y Groes. Anghy- hoedd oedd ei hangladd, ei gwienidog, sef y Parch li. Edwards, yn gwasanaethu. Mae ein cydymdeimlad yn llwyr a'i phriod a'i ddwy fercli, un yn athrawes yn Ysgol y Cvngor, Pentreucha, a'r mab, yr hwn sydd gyda'r fyddin. Teimlir colled ar ei hoi yn y teulu ac eglwys Calfaria, lie bu yn aelod ffyddlon tra gallodd. Duw yr heddwch fo'n gysgod drostynt oil yn eu hawr dywyll. O'r Ynys erdd y daeth y brawd car- edig Mr David Roberts, priod Morfydd Eifion, Tal y Sarn. Da gennym ei weled yn edrych cystal, er yn flin gennym am waelcdd ei annwyl fam yn Rhydyelaf- dy, Lleyn. Eiddunwn iddi adferiad buan. Bu y cyfeillion hyn adref am saib oddi- wrth y fyddin: y brodyr Morgan Owen, Broil Fedw, o Ffrainc, lie bu dan glefyd; G. Charles Jones, Bell Mont, cadd ei glwyfo yn ei fraich yn Ffrainc; Hughie Williams, Heol y Wyddfa, mewn ysbyty yr erys ef n S beffield, adferiad buan gaffo. Bu tan y clefyd. David J. Roberts, Heol y Wyddfa, wedi ei glwyfo yn ei ben yn Ffrainc. Disgwyliwn ei weled wedi ei adfer yn fuan. Adref yn edrych yn dda roedd Wm. Owen, Victoria Cottage; Richard Wil- liams, Llwyndu Road Fred Jeffreys. Yn wael mewn ysbyty yn Ffrainc mae ein cyfaill John Roberts, Heol y Wyddfa. Mae ein cydymdeimlad yn llwyr a'r bech- gyn hoffus hyn yn wynebu yr holl galedi yn dawel. 0 na chaem heddwch fel bo i aelwydydd Cymru a'r holl wlad gael eu bechgyn yn ol or drin fawr. Y fath Ja wonydd fa'i clywed own j fagael wedi tew i'n llwyr a chariad yn llywodraethu. Caru ei elynion oedd llais Gwaredwr y byd, onide. Daliwn i ddisgwyl am i wawr tangnefedd dorri ar ein byd. Dyna gri ein calonnau lieddyw. A ganlyn yw difyniad o lythyr y brawd ieuanc John Alun Thomas, mab yr oriad- urwr o Benygroes, at ei gyf-aill D. Morton Williams, Talysarn, athraw ar hyn o bryd ym Mro Ceiriog, ger Llangollen:— Yr wyf cisoes yn gweled Cymru'n rhyw bell mewn ft'ordd, ond yn agos yn y galon. Dynia bwt gyfansoddais ryw ych- ydig oriau yn ol:- Draw vnLheli yng ghymru dirion Mae fy mwthyn bach; Rhwng y bryniau, ger yr afon, Trist oedd canu'n iacli; Fewn ei furiau cawn lawenydd, Miwsig a mwynhad, Yn lie brwydro didrugaredd— Saethau a earhad. Dros y mor yng Nghymru lanaf Mae fy ngeneth dlos; Cofio 'rwyf y gusan olaf Gaed dan lenni'r nos; Gwelais ddeigrvn yn ei llygaid, Gwehv oedd ei gwedd, Ac yn disgvvyl mae fy nghariad- Disgwyl Dydd yr Hedd. Dros y don yng Nghymru annwyl Mae fy nhad a mam, Drwy eu cariad ymhob pervvyl LlwyddaÎs gam i gam; Wylo'n liidl ydwyf heno Heb eu cwmni gwyn, Melus fydd qyfarfod eto Wedi'r brwydro hyn. le'n wir, melus iawn fydd cyfarfod eto, pan ddaw yr hen delynau adref o bob man. Edrych yn gamp us mae y brawd David Davies, Celnfaeslyn, Llanllyfni, adref am saib o Lynlleifiad. Gyda'r heddlu y mae Mr Da, ies, a chi-oositin,id ef yn fawr gan yr eglwys yn Ebenezer, lie mae bob am- ser yn ddet;nyddiol\ Llwydd iddo. jMae Cyrnul H. Jones Ifobeits, Liywen- arth, Penygroes, a'r teulu wedi dod i ym- wtiled a ni y dyddlau hyn. Da gennym ei weled yn edrych cystal, Ei glwyfo gadd y brawd ieuanc G. Jones, Brynllwyni, ym maes y frwydr. Hyderwn y caiif adferiad buan Gwelsom Mr R. H. Jones, Talmignedd, Nantlle, adref yn hoew a eiriol. Cedwch i wenu feehgyn, daw'r wawr cyn hir. 3-lawenydd geimyni ddeall fod Mr H. Williams, Rhiwlas Road, Talysaru, mab Mr H. W. Williams, wedi dyfod allan yn anrh} deddus yn ei arholiad am y weini- dogaeth gyda'r M.C. Boed llwyddiant yn ei ddiiyn. Deallwn fod Mr Alwyn Henderson wedi dod adref o Ffrainc, wedi ei glwyfo yn ysgafn. Clywsom fod gair wedi dod i Gwyddfor, Penygroes, yn hysbysu fod Capten Ham- let Roberts wedi ei glwyfo. Hyderwn nad yw ei glwyfau ond ychydig, ac y cawn glywed adroddiad gwell cyn hir.

HELBUL MERCH. I

RHESTR TYSTYSGRIFAU.

Advertising

IBOTTWNOG. I

I Y FASNACH FEDDWOL. I

YSGOL SIR CAERNARFON. I

I PWLLHELI.

CYNGRAIR CYMDEITHAS CYFiilLLOAR…

PRIS Y CIG.

MARCHNADGEOD.

Family Notices

Advertising