Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

Advertising

TEIMLADAU DA YN FFYNU. I

Y PENDERFYNIADAU.I

News
Cite
Share

Y PENDERFYNIADAU. I Ar ran y Cyngor Gweithiol, cynnygiodd Mr R. T. Jones y penderfyniad eanlynol: "Fod y Cyngor Gweithiol i'w awdurdodi i wneud y eyfnewidiadau angenrheidiol yn y Rheolau er bod mewn cydgord a Rheol- au Undeb y Docwyr os byddis yn dod i gytundeb a hwy." Dywedodd Mr Jones eu bod wedi bod yn trafod y mater fel Gyngor Gweithiol gydag Undeb y Docwyr, ac yr oeddynt yn disgwyl y buasai gan- ddynt ryw gytundeb neu gynllun i'w gyf- lwyno; ond hyd yn hyn nid oedd dim addfed i'w roddi gerbron. Gellir bod yn sier os y deuir i gytundeb y bydd yn rhaid y fan leiaf yohwanegu Ie at y taliad. Ond cofier hyn, na wneir dim heb i'r cyfrinfaoedd gael rhoi eu barn arno. Teimlad y Cyngor Gweithiol ydyw y carasent gael awdurdod o'r tu cefn iddynt. Cefnogwyd ef gan Mr Richard Roberts, Ffestiniog. Dywedai Mi- Joseph Williams fod Ffes- tiniog yn cytuno, ac yn teimlo o bo-sibl y byddai yn rhaid newid, ond eytunent ar yr amod fod y "draft copy" yn dod drwy y cyfrinfaoedd, am nad oeddynt yn crcdu mewn cymeryd cam yn y tywyllwch. Yn 01 ei farn bersonol ef yr oedd yn fater pwysig, a chredai y deuai yr amser pryd y byddai gofvn am newid ein cyfundrefn drwyddi draw. Nid i'w gwneud yn sal- aeh, ond yn llawer gwell. Mae cwrs cynnyddol yn rhwym o'i gwneud yn rlieid- rwydd i newid amryw ffurfiau a phethau. Yr ydym yn ategu rhoi yr awdurdod i'r Pwyllgor Gwaithiol ar yr amod yna. Gofynodd Mr R. G. Roberts a ydoedd yn golvgu i'r taliad fod yn geiniog yr wythnos ? Yr Ysgrifennydd: Y mae tal Undeb y Docwyr yn 4c; os ydym yn mynd i gytun- deb gyda hwy, y mae'n rhesymol fod y taliad yn gyfartal. Dvmunai Mr W. Morris Jones ar i'r cyf- arfod fod yn ofalus, neu fe'u llyncir gan y Sais, a thrwy hynny golli ein hunan- iaeth. Mr Joseph Williams: Mae eisiau i'r Cyngor Gweithiol fod yn ofalus. Yr Ysgrifennydd: Y eyfarfod yma sydd i gymeryd gofal cyn rlioi yr awdurdod i'r Cyngor Gweithiol. Pasiwyd y penderfyniad. (ynnygiwyd gan Mr 0. G. Jones, Pen- isa'rwaen, dros y Cyngor Gweithiol y pen- derfyniad ca.nlynoI :Fod Adraai 8, Rheol 8, ae Adran 6 Rheol 10 yn cael eu diddymu, ac a ganlyn yn eu llo:—'Gall nniliyw aelod fyddo wedi ei analluogi trwy henaint, aftechyd, neu ddamwain i ddilyn ei alwedigaeth, barhau ei aelodaeth ar daliad o geiniog yn yr wythnos, os yn aelod llawn ers deng mlynedd (er cadw ei hawl i Fudd ar Farwolaeth).' Hyn i'w gymhwyso yn 01. Dywedodd Mr Jones fod yn ddrwg gan y Cyngor Gweithiol orfod gwneud y eyf- newidiad, ond angenrhaid osodwvd arnynt i'w wneud. Swilt yn y flwyddyn ycl',v'r taliad; ond gyda'r newidiad bydd yn 4s 4o. ner ceiniog yn yr wythnos. Cefnogwvd gan Mr J. O. Roberts, Cesarea. Bu cryn siarad o blaid ac yn erbyn, ond wedi eglurhau y sefvllfa cafwyd mwyafrif inawr o blaid pasio' r ]>endetfynifid. Ar ran Cvfrinfa Dinorwig, cynnygiodd Mr Edward Thomas, Hrynrefail, y pen- derfyniad eanlynol:—"Fod y nifor gyn- rychiolir gan bob pirprwywr i'w gyfi-if pan y bydd pleidleisio ar faterion yn y Gynhadledd." Honwn ein bod yn Gym- deithas Wei-inol, ac os ydym felly dylem gymeryd llais yr unigolyn i'r cyfrif. Teimlai Mr T. J. Evans wrthwynebiad i'r cynnygiad, a chredai y dylai y pender- fyniad nesaf ato ar y rhaglen gael ei gy- meryd yn gyntaf. Siaradodd Mr John Jones, Waenfawr, yn gryf yn ei erbyn, a. dywedodd mai rhif ac nid rheswm fuasai yn penderfynu materion pe pesid y penderfyniad. Mvnegwyd fod Cvfrinfa Nantlle wedi pasio i'w wrthod. Pleideisiwvd arno, a chafwyd y mwyaf- rif yn ei erbyn. Cynnygiodd Mr William Morris, Traws- fynydd, dros y Gyfrinfa, y penderfyniad catilyllol:- "Nad oes ond un Cynrychiol- ydd i'r Cyngor Cyffredinol, ac un Dir- prwywr i'r Gynhadlcdd i'w dewis dros bob Cyfrinfa, faint bynnag fo ei rhif." Fel dadl dros hyn dywedai y byddai yn fwy a chwareu teg a'r cyfrinfaoedd byrhain, 1 ac yn fodd cvnilo ar ran yr Undeb. Dywedodd Mr R. G. Roberts fod yna ddau gyn.'lo,—cynilo doeth, a chynilo an- noeth, ac nid oedd betrusder ar ei feddwl nad annoethineb o'r mwyaf fuasai derbyn y cynnygiad hwn. Xid ydym yn deall digon ar ein gilydd. Mae yna ormod o ddieithrivvch yn ein mysg. Crodai y buasai eyfarfod yn amlach yn gwneud lies mawr, a gwario mwy i'r pwrpas hwnnw. Cyn- nygiai eu bod yn gwrthod y cynnygiad. Eiliwyd gan Mr Humphrey Hilglles, Ffestiniog. Dywedodd fod cynilo oedd yn peri cyfyngu yn groes i egwyddor Un- debiaeth. Nid cyfyngu a ddylem, ond eangu. Mr Joseph Williams ,Tanygrisiau: Mall- tais fawr ydyw cael trafod a gwyntyllio. Mae yna hen air onid oes, meddai, "Mewn amlder Cynghorwyr y mae diogelwch." Gwrthwynebwn fel gwerin y gyfundrefn ddiplomataidd ddirgelaidd. Y mae'n fantais mawr cael llawer ohonom i gyfar- fod ein gilydd yn ami i'n deffro i feddwl ac yst,vried. Hawdd iawn fuasai i ifn dir- firwywr anghofio pwynt, ond pe byddai un arall neu ddau yno gallai ei atgoffa. Os y credwn mewn gweriniaeth dylem fod yn barod i wario mwy os rhaid er cael gwa- hanol farnau ar faterion. Dywedodd Mr O. Samuel Jones, Nantlle, ei fod yn credu os y pesid y penderfyniad y buasent yn hau hadau'r dicau. Perygl lleihau y nifer a chyfyngu y ddirprwyaeth fuasai colli gweledigaethau, oblegid gallai mai y brodyr adewid o'r Cyngor fvddai y gweledyddion. Pasiwyd yn erbyn derbyn y penderfyn- iad. Cynnygiodd Mr R. Jones, Dolwyddelen, y penderfyniad eanlynol:—"Fod ceiniog I yn y chwarter i'w godi yn ychwanegol oddiar bob aelod, a'r arian hyn i'w def- I nyddio i gadw aelodaeth y rhai fyddo yn wael." Credai mai dyma oedd yr unig ffordd i'w chael i weithio yn gyffredinol er mantais yr Undeb. Cefnogwyd gan Mr John Roberts, Dol- wyddelen. Dywedai fod Undeb yn cyn- nwys dyngarweh, a thipyn o Gristionog- aetli. Mae'r Undeb yn Idx7yfol o ran ei tharddiad, a dylem fod yn fwy ym- arferol. Siaradwyd ymhellach gan Mi-i Griffith Williams ac Edward Tliomas, Llanberis. Gwrthodwyd y penderfyniad.

I Y TRYSORYDD. I

IARAITH YR YSGRIFENNYDD. I

YR ETHOLIADAU. I

CYMANFA YSGOLION BEDYDDWYR…

CYNGOR GWYRFAI. I

DYDD LLUN.

PA FOOD I GAEL HEDDWCH.

Y SUBMARINES.

— MARW Y PARCH D. DAVIES,…

BETH AM Y FFESANT.

BETTWS GARMON.

Family Notices

Advertising

Y GYNHADLEDD NESAF. I