Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
17 articles on this Page
Advertising
PENTYMOR Y LLE GOREU ELENI AM Ddilladau Parod I Ddynion, Bechgyn a Phlant YDYW MASNACHDY H. R. PHILLIPS, I 5, POOL STREET, CARNARVON. (Gynt gyda Mri. Bradleys a P. & O. Clothiers). CEIR- YMA DDEWIS HELAETH 0 BOB MATH 0 DDILLADAU PAROD AM BRISIAU LLAWER YN IS NAG A GEIR MEWN UNMAN ARALL, OHER- WYDD EIN BOD WEDI PRYNU MEWN PRYD. COFIWCH Y C YFEIRIAD:— 5, Stryd y Llyn, Caernarfon.
TEIMLADAU DA YN FFYNU. I
TEIMLADAU DA YN FFYNU. I (Parhad o Tudalen 7). t)ydd Llun, yn ystafell y Cyngor Trefol, Caernarfon, cynhaliwyd Cynhadledd Flynyddol Undeb chwii-elwyr Gogledd Cymru, o dan lywyddiaeth Mr Evan Evans, Bethesda. Derbyniwyd adroddiad y ddau archwil- iwr, sef y Mri J. H. Jones, Llanberis,,ac R. G. Roberts, Penygroes. Tvstiai y ddau i lanweithdra a threfnusrwydd ynghyda gofal yr ysgrifennydd. Dywed- odd Mr J{. G. Roberts fod ganddvnt le i ymfalchio am tod yr coil lion broil vn 600p, er fod y treuliau yn ystod v flwydd- yn yn fawr. Ilae'ti wli- fod un ffynnonell, meddai, yn tolli'n fawr, sef budd ar far- wolaeth, ond toll oedd yn dod a chysur i'r teuluoedd anffodus ydoedd, a thrwy hynny yn gweinyddu eysur, ac er i hynny fod yn lOOp yn y flwyddyn, daw a sirioldeb inni o fod yn abl i gynorthwyo mewn achosion or fath. Ffaith alarus ydoedd meddwl fod 17 o'n haelodau wedi myned yn ebvrth ar faes y gwaed--hiifen gwerin gwlad. Oarai alw syw at Gronfa nrall, sef y Gronfa Wleidyddol, yr hon oedd yn 175p. Dylasai fod yn dair gwaith oy- maint. Dylai fod o leiaf yn 500p pan I deIfynno y rhyfel, oblegid y mae gennym I o'n blaeuau fel gweithwyr amseroedd en- byd i'w gwynebu, a 'dylcm fod yn barod gydag adnoddau teilwng a svlweddol o'r t ucefn. Ni raid i mi na neb ti-all ganu elodydd ein hysgrifennvdd, y mae wedi profi ei liun-in yn ysgrifennydd a threfn- ydd medrus a doeth. Yn dilyn cafwyd anerchiad y llyuydd, yr hon sydd i'w chad yn Uawn at- dudaien arall. I Pasiwyd y Mri Joseph Williams, Ffes- i tiniog, a J. H. Jones, Llanberis, i gyfrif y pleidleisiau yn ystod y Gynhadledd.
Y PENDERFYNIADAU.I
Y PENDERFYNIADAU. I Ar ran y Cyngor Gweithiol, cynnygiodd Mr R. T. Jones y penderfyniad eanlynol: "Fod y Cyngor Gweithiol i'w awdurdodi i wneud y eyfnewidiadau angenrheidiol yn y Rheolau er bod mewn cydgord a Rheol- au Undeb y Docwyr os byddis yn dod i gytundeb a hwy." Dywedodd Mr Jones eu bod wedi bod yn trafod y mater fel Gyngor Gweithiol gydag Undeb y Docwyr, ac yr oeddynt yn disgwyl y buasai gan- ddynt ryw gytundeb neu gynllun i'w gyf- lwyno; ond hyd yn hyn nid oedd dim addfed i'w roddi gerbron. Gellir bod yn sier os y deuir i gytundeb y bydd yn rhaid y fan leiaf yohwanegu Ie at y taliad. Ond cofier hyn, na wneir dim heb i'r cyfrinfaoedd gael rhoi eu barn arno. Teimlad y Cyngor Gweithiol ydyw y carasent gael awdurdod o'r tu cefn iddynt. Cefnogwyd ef gan Mr Richard Roberts, Ffestiniog. Dywedai Mi- Joseph Williams fod Ffes- tiniog yn cytuno, ac yn teimlo o bo-sibl y byddai yn rhaid newid, ond eytunent ar yr amod fod y "draft copy" yn dod drwy y cyfrinfaoedd, am nad oeddynt yn crcdu mewn cymeryd cam yn y tywyllwch. Yn 01 ei farn bersonol ef yr oedd yn fater pwysig, a chredai y deuai yr amser pryd y byddai gofvn am newid ein cyfundrefn drwyddi draw. Nid i'w gwneud yn sal- aeh, ond yn llawer gwell. Mae cwrs cynnyddol yn rhwym o'i gwneud yn rlieid- rwydd i newid amryw ffurfiau a phethau. Yr ydym yn ategu rhoi yr awdurdod i'r Pwyllgor Gwaithiol ar yr amod yna. Gofynodd Mr R. G. Roberts a ydoedd yn golvgu i'r taliad fod yn geiniog yr wythnos ? Yr Ysgrifennydd: Y mae tal Undeb y Docwyr yn 4c; os ydym yn mynd i gytun- deb gyda hwy, y mae'n rhesymol fod y taliad yn gyfartal. Dvmunai Mr W. Morris Jones ar i'r cyf- arfod fod yn ofalus, neu fe'u llyncir gan y Sais, a thrwy hynny golli ein hunan- iaeth. Mr Joseph Williams: Mae eisiau i'r Cyngor Gweithiol fod yn ofalus. Yr Ysgrifennydd: Y eyfarfod yma sydd i gymeryd gofal cyn rlioi yr awdurdod i'r Cyngor Gweithiol. Pasiwyd y penderfyniad. (ynnygiwyd gan Mr 0. G. Jones, Pen- isa'rwaen, dros y Cyngor Gweithiol y pen- derfyniad ca.nlynoI :Fod Adraai 8, Rheol 8, ae Adran 6 Rheol 10 yn cael eu diddymu, ac a ganlyn yn eu llo:—'Gall nniliyw aelod fyddo wedi ei analluogi trwy henaint, aftechyd, neu ddamwain i ddilyn ei alwedigaeth, barhau ei aelodaeth ar daliad o geiniog yn yr wythnos, os yn aelod llawn ers deng mlynedd (er cadw ei hawl i Fudd ar Farwolaeth).' Hyn i'w gymhwyso yn 01. Dywedodd Mr Jones fod yn ddrwg gan y Cyngor Gweithiol orfod gwneud y eyf- newidiad, ond angenrhaid osodwvd arnynt i'w wneud. Swilt yn y flwyddyn ycl',v'r taliad; ond gyda'r newidiad bydd yn 4s 4o. ner ceiniog yn yr wythnos. Cefnogwvd gan Mr J. O. Roberts, Cesarea. Bu cryn siarad o blaid ac yn erbyn, ond wedi eglurhau y sefvllfa cafwyd mwyafrif inawr o blaid pasio' r ]>endetfynifid. Ar ran Cvfrinfa Dinorwig, cynnygiodd Mr Edward Thomas, Hrynrefail, y pen- derfyniad eanlynol:—"Fod y nifor gyn- rychiolir gan bob pirprwywr i'w gyfi-if pan y bydd pleidleisio ar faterion yn y Gynhadledd." Honwn ein bod yn Gym- deithas Wei-inol, ac os ydym felly dylem gymeryd llais yr unigolyn i'r cyfrif. Teimlai Mr T. J. Evans wrthwynebiad i'r cynnygiad, a chredai y dylai y pender- fyniad nesaf ato ar y rhaglen gael ei gy- meryd yn gyntaf. Siaradodd Mr John Jones, Waenfawr, yn gryf yn ei erbyn, a. dywedodd mai rhif ac nid rheswm fuasai yn penderfynu materion pe pesid y penderfyniad. Mvnegwyd fod Cvfrinfa Nantlle wedi pasio i'w wrthod. Pleideisiwvd arno, a chafwyd y mwyaf- rif yn ei erbyn. Cynnygiodd Mr William Morris, Traws- fynydd, dros y Gyfrinfa, y penderfyniad catilyllol:- "Nad oes ond un Cynrychiol- ydd i'r Cyngor Cyffredinol, ac un Dir- prwywr i'r Gynhadlcdd i'w dewis dros bob Cyfrinfa, faint bynnag fo ei rhif." Fel dadl dros hyn dywedai y byddai yn fwy a chwareu teg a'r cyfrinfaoedd byrhain, 1 ac yn fodd cvnilo ar ran yr Undeb. Dywedodd Mr R. G. Roberts fod yna ddau gyn.'lo,—cynilo doeth, a chynilo an- noeth, ac nid oedd betrusder ar ei feddwl nad annoethineb o'r mwyaf fuasai derbyn y cynnygiad hwn. Xid ydym yn deall digon ar ein gilydd. Mae yna ormod o ddieithrivvch yn ein mysg. Crodai y buasai eyfarfod yn amlach yn gwneud lies mawr, a gwario mwy i'r pwrpas hwnnw. Cyn- nygiai eu bod yn gwrthod y cynnygiad. Eiliwyd gan Mr Humphrey Hilglles, Ffestiniog. Dywedodd fod cynilo oedd yn peri cyfyngu yn groes i egwyddor Un- debiaeth. Nid cyfyngu a ddylem, ond eangu. Mr Joseph Williams ,Tanygrisiau: Mall- tais fawr ydyw cael trafod a gwyntyllio. Mae yna hen air onid oes, meddai, "Mewn amlder Cynghorwyr y mae diogelwch." Gwrthwynebwn fel gwerin y gyfundrefn ddiplomataidd ddirgelaidd. Y mae'n fantais mawr cael llawer ohonom i gyfar- fod ein gilydd yn ami i'n deffro i feddwl ac yst,vried. Hawdd iawn fuasai i ifn dir- firwywr anghofio pwynt, ond pe byddai un arall neu ddau yno gallai ei atgoffa. Os y credwn mewn gweriniaeth dylem fod yn barod i wario mwy os rhaid er cael gwa- hanol farnau ar faterion. Dywedodd Mr O. Samuel Jones, Nantlle, ei fod yn credu os y pesid y penderfyniad y buasent yn hau hadau'r dicau. Perygl lleihau y nifer a chyfyngu y ddirprwyaeth fuasai colli gweledigaethau, oblegid gallai mai y brodyr adewid o'r Cyngor fvddai y gweledyddion. Pasiwyd yn erbyn derbyn y penderfyn- iad. Cynnygiodd Mr R. Jones, Dolwyddelen, y penderfyniad eanlynol:—"Fod ceiniog I yn y chwarter i'w godi yn ychwanegol oddiar bob aelod, a'r arian hyn i'w def- I nyddio i gadw aelodaeth y rhai fyddo yn wael." Credai mai dyma oedd yr unig ffordd i'w chael i weithio yn gyffredinol er mantais yr Undeb. Cefnogwyd gan Mr John Roberts, Dol- wyddelen. Dywedai fod Undeb yn cyn- nwys dyngarweh, a thipyn o Gristionog- aetli. Mae'r Undeb yn Idx7yfol o ran ei tharddiad, a dylem fod yn fwy ym- arferol. Siaradwyd ymhellach gan Mi-i Griffith Williams ac Edward Tliomas, Llanberis. Gwrthodwyd y penderfyniad.
I Y TRYSORYDD. I
I Y TRYSORYDD. Pasiwyd yn unfrydol fod Mr W. H. Wil- liams, Bethesda, i aros yn drysorydd. Ar gynnygiad Mr T. J. Evans, Ffes- tiniog, a chefnogiad Mr Owen Thomas, Bethesda, pasiwyd pleidlais o ddiolehgar- wch am ei wasanaeth, a chydymdeimlad a Mr Williams, y trysorydd, yn ei wael- edd; a datganwyd gofid o weled lie cyng- I horydd mor ddiogel, a gwcledydd mor I graff yn wag.
IARAITH YR YSGRIFENNYDD. I
I ARAITH YR YSGRIFENNYDD. I Dywedodd Mr R. T. Jones eu bod yn disgwyl gyda hyder y deuir i ddealltwr- iaeth rhwng y cvflogwyr a hwythau i. _vvr -t liwvt l iati i. drefnu rhvw fath ar fyrddau cymod. Yr oedd yn rhaid wrth rywbeth o'r natur yna. Nid oedd ar yr Undeb eisiau ang- hydwelediadau, mwy na'r cyflogwyr. Ni allai y naill na'r llall fynd iddynt heb fod ar eu colled. Ond beth arall ellid ei ddis gwyl os na ellir cael cynlhui i weithio arno fyddo yn peri dealltwriaeth a chyd- weithrediad. G} da'r amcan yna y ceisir trefnu i gael bwrdd neu fyrddau cymod, a hyderir y ceir hwy i weithredu er ein mantais. Eglurodd yr YTsgrifennydd ci safle ef a'r Cyngor Gweithio ynglyn a'r W^ riruth Genedlaethol. Yr oedd y Cyngor Gweith- iol wedi ei awdurdodi ef i pymud ymlane os byddai gorfodaeth ar y cliwarelwyr pan ffurfiwyd y Wasanaeth Genedlaethol. Anfonwvd i Lundain i ofyn am i chwarel- wyr gad cyfleustra i roi oil hachos cyn eu gosod ar y rhestr; ond ni roddwyd. Piotestiwyd yn gryf. Rhoddwyd ystvr- laeth i'r evflog, a gofynwyd ninnau gydweithredu; a gwnaethum livnnv. Credwn mai mantais oedd cyd-weithredu er mwyn y ddiwydfa. Cymerasom ran gyda'r cyflogwyr, ac yr oedd yr oil yn pj'otestio. Apwyntiwyd diiprwyaeth i gyfarfod Dirprwywr y Llyrvodraeth, ac yr oedd yr holl gyflogwyr ond un yn cael eu cynrychioli. Gosodwyd yr actios ger- bron, a bu raid cael ailgyfarfyddiad. Yr Un cvnrychiolwyr a'r Undeb. Teimlid cs oedd un lie heb gynrychiolydd gan y cyf- logwyr, nad oedd yr Undeb a, r He hwnnw i gael ei dynu i mewn iddo, ond yr oedd Bethesda, Nantlle, a- Ffestiniog yn cael eu cynrychioli. Ond daeth rhwystr i luddias. Anfonwyd cylchlythyr i'r Cyf- rinfaoedd yn egluro y safle yn glir. Cod- odd rhwystr drachefn. Daeth swyddog o'r Llywodraeth i weled y cynrychiolwyr. Ymwrymwyd i wneud y goreu yn bosibl i sicrhau, 15 y cant o'r chwarelwvr. Ni I ellir dweyd fod y bal am hyn ar y Undeb na'l' Cyngor Gweithiol, ac nid hwy sy'n gyfrifol o'r hyn elwir yn yrru'r gweith- Vvyr. Daethpwyd i gyd-ddeall fod pawb o'r gweithwyr i gael ailgychwyn pan yn dod yn ol, a cheisiwyd yr un peth i Dinorwig. Mae rhywnn wedi eu dar- bwyllo yn Llundain mai y chvvarelwyr ydyw y bob! fwyaf cymwys at y gwaith hwn gyda'r haiarn, ynghyda gjveithwvr Cm-nyw yn y clai. Credai ei fod yn ddy- ledswydd foesol i helpu'r Llywodraeth a'r uiad yn ei hanawsterau. Cafwyd cvtun- deb pendant gyda Gweinyddiaeth y Cad- ddarpar parth sicrhau isrif cyflog ac oriau gwaith. C'odiweh fi, y mae'n rhaid i'r Llywodraeth gael y stwff yma i'r wlad, ac y mae'r safle yn llawer mwy difrifol nag ydvm yn ei feddwl, ac y mae eisiau i ni sylweddoli anhawster y Llywodraeth, a gwneud ein goreu i'w helpu. Ni raid i chwarelwyr Gogledd Cymru ofni mynd i unrhyw fan, na, allent ddangos eu hunain i werth. Mae yn iawn i ni TMieud ein k goreu, a chadw at y cytundeb a chynorth- wyfi i egluro y safle. Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn ddiolc-hgar i'r Ysgrifennydd am yr eglur- had. Teimlai ein bod o dan rwymcdig- aeth fawr iddo. Y mae'n gwneud gwaith mawr i'r Gymdeithas, ac y mae'r Undeb heddyw yn fwy o ddylanwad nac y bu erioed, a hynny i'w briodoli yn fwy na dim i'w allu a'i fedrusrwydd ef. Credai Mr O. Jones, Ffestiniog, ei bod yn ddyledswydd arnynt i basio pleidlais o ddiolch iddo am ei walth a'i lafur mawr dros yr Undeb. Y mae wedi gwneud mwy o les na neb yn y fan acw, ac wedi creu mwy o gydymdeimlad a'r Undeb hyd yn nod gyda'r an-Undebwyr. Eiliwyd gan Mr Evan Wm. Jones, Cilgwyn, a phasiwyd yn unfrydol a gwresog.
YR ETHOLIADAU. I
YR ETHOLIADAU. I Dyma ganlyniadau yr etholiadau am swyddogion y flwyddyn:- Lywydd, )r, O. G. Jones, Penisa'r waen. Is-Lywyddion, Mr Richard Roberts, TIt Ffestiniog, a Mr Owen Thomas, Bethesda. Archwiliwr, Mr J. R. Jones, Nantlle. Trysoydd, Mr W. H. Wiiiiams, Beth- esda. Cyngor Gweithiol, Mri John T. Jones, Llanberis; E. W. Jones, Nantlle; W. Evans, Waenfawr: R, Jones, Dolwydd- elen.
CYMANFA YSGOLION BEDYDDWYR…
CYMANFA YSGOLION BEDYDD- WYR DOSBARTH CAER. NARFON. I Arholiad Llafar, j Dosbarthi dan 7 Oed. I Caernarfon.—Megan E. Hughes, 92; Lizzie Williams, 90; Richd. Williams, 85; George Dent Jones, 60; John Morgan Jones, 48. G roes Ion.-Olweii Thorman, 92; Fred Thorman, 48. Lianilyfni. Annie M. Owen, 93; Emlyn Hughes, 91; lorwerth Griffiths, 85: lorwerth Jones, 80. Penygroes.—Megan Helen Parry, 100; Doris Griffiths, 94; Llinos Jones, 83; Thomas G. Williams, 80; Evan Jones Parry, 78; Robert T. Jones, 75; Gwennie Roberts, 73; William Lewis, 65; Alfred S. Jones, 55; Robert Rees Jones, 46. Talysarn (Bethania). Cassie Lewis, 96; Dilys G. Jones, 83. Talysarn (Salem) ,-Owen Lewis, 95; Owen Humphreys, 93; Dan Wynn Jones, 90; Richard Jones, 86; John Selwyn Edwards, 70; Lydia, May Jones, 50. Sardis.—Islwyn Jones, 98; Goronwy Morris, 75. Dosbarth dan 10 Oed. Caernarfon. Morfudd Hughes, 100; Willie J. Brassington, 90; Mary Wil- liams, 82; Sylvan Morris Jones, 80; Cein- wen Myfanwy Davies, 78; Ann Jane Parry, 72; Jennie Mair Rowlands, 60; Hugh Williams, 60. Groeslon.-D.avid Morris, 90. Lianberis.Ifai-.v Ellen Williams 88; Peris Williams, 80. Llanllyfni.—Lily Hughes, 98; William Griffiths, 85; Mair Hughes, 78; Huw Fon Roberts, 76; Letitia Hughes, 70. Penygroes.—Jennie R. Jones, 94; Blod- wen S. Jones, 92; Emlyn Jones, 85; John H. Roberts, 80; Annie R. Jones, 78; Dilys Davies, 75; Ella Davies, 72; Mary R. Jones, 70; Hughie Parry, 63. Pisgah.-Nellie Hughes, 83. Talysarn (Bethania. Maggie Lizzie Jones, 92; Kate Lizzie Williams, 83; Violet Hughes, 74; Thomas Eifion Jones, 68. Talysarn (Salem).-Netta Jones, 96; Alice Humphreys, 84; John Dyffryn Jones, 76; Hughie Rees Edwards, 72; Richie Jones, 65. ,Shrdis.-G,-iynor Rhiwen Jones, 94; Gwladys Hughes, 75. S. JONES. Ysg. I I
CYNGOR GWYRFAI. I
CYNGOR GWYRFAI. I Cynhaliwyd y C'yngor ddydd Sadwrn, I Mr John Humphreys yn y gadair. tJewis Swyddogion. I Dewiswyd Mr David Jones, Ty'n Coed (is-gadeirydd), yn gadeirydd, a Mr John Humphreys yn is-gadeirydd. Oherwydd gwaeledd Mr Jones, llanwyd y gadair ddydd Sadwrn gan Mr Humphreys. Diolchodd Mr O. T. Hughes am y cai ed- igrwydd ddangosodd y Cyngor iddo tra yn gadeirydd. Y Dreth. I Ar ol hir ddadleu, pasiwyd i'r dreth fod I yn 9e yn y bunt. ( ) War Bonus. I Betlr amsei yn ol pasiwyd i roddi "war bonus" o 4c y dydd i ddynion y ffyrdd a 10 y cant i'r dynion aehlysurol sy'n malu oerrig, ne i fod-niewn grym hyd Mawrth 31, nen hyd derfyn y rhyfel os cynt. Pas- iwyd i barhau y "war bonus" hyd ddi- wedd y rhyfel,
DYDD LLUN.
DYDD LLUN. Y FFRYNT GORLLEWINOL Daw newyddion am lwyddiant ar y ffrynt gorllewrinol, gan fod y Prydeinwyr a'r Ffrancod wedi gwneud cynnydd syl- weddol. Dvwedir fod y Germaniaid wedi eael colledion enfawr. Ymosodwyd gan y Ffi-aneod, mewn cyd- weithrediad a'r Prydeinwyr, a llwyddwyd i gael y Haw uchaf ar ran helaethaf Chemin-des-Dames, ar ffrynt o 18 milltir i'r gogledd o'r Aisne. Yr oedd yr ymladd yn eithriadol ffyrnig a dioddefodd y Germaniaid laddfa fawr, gan eu bod yn gwneud adymosodiadau mynych. Hyd yn hyn fe gymerwyd 5,800 o garcharorion a saith o ynau gan y Ffrancod. Adrodda Syr Douglas Haig fod y gelyn wedi gwneud adymosodiadau ffyrnig ar linell Hindenburg yn nwyrain Bullecourt. Defnyddiodd y gelyn nifer fawr o ddynion, ond ar ol ymladd ffyrnig llwyddwyd gwthio yn ol gyda cholledion mawr. Yr un oedd tynged ymosodiad Gerinnn- aidd ar safleoedd enillwyd gan ein milwyr yn ne Afon Souehoz a gogledd-orllewin St. Quentin. Daeth newyddion diweddarach o'r Pen- cadIys Ffrengig yn hysbysu fod ein Cyng- reirwyr wedi cymeryd amryw safleoedd oddiar y gelyn. Nifer y carcharorion gy- merwyd ydyw 6,100 o ddynion ynghyda Uawer o ddeunydd. Pery y Germaniaid yn eu had-ymosodiadau, a thrwy hynny abeithant nifer fawr o ddynion.
PA FOOD I GAEL HEDDWCH.
PA FOOD I GAEL HEDDWCH. Dywedodd Dr Helfferich, un o Weini- dogion Germani, mewn araith yn y Reich- stag ar sti-eies ewt-stiwii bwyd, fod yr anhawsderau yn pwyso yn dnvm arnynt hwy a'r holl bobloedd. Yr oedd yr heddwch oedd i ddod a bara i'r bobl i'w feddiannu trwy ymladd.
Y SUBMARINES.
Y SUBMARINES. Dywedir o New York fod yr awdurdod-" au Llvngesol Americanaidd yn credu y bydd iddynt ddod dros ben yr anhawsder gyda'r submarines yn fuan. Hysbysir fod Mr Edison, y darganfyddwr enwog, wedi rhoddi prawf ar amryw ddyfeisiadau, ac amlyga obaith cryf y bvdd i berygl y sub. marines gael ei gyfarfod yn fuan. Anfonodd Syr Edward Carson genadwri i ierdydd llongau a gweithfeydd peirian- nol. Gofyna iddynt ddyblu eu hymdrecii- ion nes i ni sict-hati buddugoliaeth.
— MARW Y PARCH D. DAVIES,…
— MARW Y PARCH D. DAVIES, CONWY. Yr wythnos ddiweddaf bu farw y Parch David Davies (M.C.), Conwy, yn 39 mlwydd oed. Brodor ydoedd o Bont- rhyd-y-groes, ger Aberystwyth. Addysg- wyd ef yng Xghoieg Trefecca. Bu yn weinidog yn Sir Drefaldwyn, Hvfrydle, Talysarn, a Waltham Green, Llundain. Oherwydd fod ei ieohyd yn anfoddhaol yn Llundain, derbyniodd alwad i Gonwy. Yr oedd Mr Davies yn bregethwr ac areithiwr rhagorol. Bu yn aelod blaenllaw o Uwch Demi Cymru o Urdd y Temlwyr Da. Gedy weddw a dau blentvn i alaru o'i ol. Claddwyd ef yn Llanfairfechan ddydd Mercher.
BETH AM Y FFESANT.
BETH AM Y FFESANT. Adroddwyd yng nghyfarfod dhveddai Pwvllgor Amaethyddol Sir Gaernarfon fod llawer o ychwanegiad yn y tir sydd yn cael ei drin, ond cwvnid oherwydd y niwed parhaus a wneir i'r cropiau gan ffesanta a cwnhingod. Gwnaeth y pwyllgor gais am areheb i ymwneud yn llvm a'r ffesants.
BETTWS GARMON.
BETTWS GARMON. Er Cof.—Yr wythnos nesaf ymddengya ysgrif-goffa am Mrs Catherine Jones, 1 priod Mr David Jones, Eilian Terrace.
Family Notices
0 GENt. PRIODI, MARW. MARW. Davies Ebrill 30, yn 39 inlwydd oed, Parch David Davies, Conwy. Rowlands-Ebrill 30, yn 48 mlwydd oed, Mr Morri s Williams, Bee Hive, Llan. beris. Evans—Mai 1, yn 52 mlwydd oed, Mr Robert Evans, Grocery Stores, Peny- groes.
Advertising
I J. FLETCHER, LTD.. I MEMORIAL WORKS, CAERNARFON a BANGOR. Argraffwyd o chyhoeddwyd gan Cwmai y "Dhfaydd Cymr,-ig," Cyf.) yn 10, Palace Street, Caernarfon,
Y GYNHADLEDD NESAF. I
Y GYNHADLEDD NESAF. I Pasiwyd mai ym Methesda y cynhelir y I Gynhadledd y flwyddyn nesaf.